Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

EVAN GWYNNE;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EVAN GWYNNE; Neu, y nyn a dorodd ei Ardystiad. Y BRIODAS. Ar foreu teg yn mis Mai, gellid canfod dau gwpl o ddynion ieuaine yn cychwyn allan o bentref y Gelly, ac yn cyfeirio eu gwynebau tuag eglwys henafol Llangattwg; acynhytrach na myned ar hyd y brif-ffordd oedd yn arwain i'r llan, aethant ar hyd y llwybr oedd yn ar- wain drwy y caeau. Yr oedd yr awyrgylch yn glir a digymylau; yr haul heb un lien ar ei wyneb, yn taflu allan ei oleuni a'i wres yn ddi- ball; natur oil yn fyw drwyddi; bywyd yn gwthio ei hun i'r golwg yn mhob eyfeiriad,- yn ymwthio drwy donen yr hen ddaear ac yn taflu ei garbed gwyrdd ar hyd-ddi, yn ymestyn i flaen pob cangen, ac yn addurno y goedwig fawr a dail, fel cynifer o ysnodenan i arwyddo buddugoliaeth ar farweidd-dra a diffrwythdra y gauaf blaenorol; y mil myrddiwn llysiau a blodau yn taflu allan eu harogl per, nes llanw yr holl awyrgylch a'u sawr dymunol: y cor asgellog fel pe wedi ymuno i gadw cyngherdd boreuol, i'r dyben i loni a difyru par o'r dyn- ion ieuaine a nodwyd. Cyrhaeddwvd y llan mewn amser priodol, ac yno o flaen allor Hymen yr unwyd mewn glan briodas Evan Gwynne ac Esther Morgan, ac ni bn yn sefyll o flaen yr allor briodasol erioed unrhyw ddau yn well eu rhagolygon, a siriolach eu gobeith- iod na hwynt hwy. Erbyn eu dychweliad i bentref y Gelly; yr oedd yr holl bentref wedi dyfod allan i'w llongyfach a'u croesawu, yr oedd yno amryw fanerau wedi eu codi a bwaau deiliog wedi eu ffurfio, a'r oil i'r dyben o o groesawu y par ieuanc a nodwyd. Fel y mae yn arferol ar achlysuron o'r fath yr oedd ciniaw ardderchog a chostus wedi ei pharotoi, ac yr oedd amryw o gyfeillion y priodfab a'r briod- ferch wedi eu gwahodd yno ac i dreulio y prydnawn yn llawen; ond er fod y giniaw yn un gostus, ac yn cynwys amrywiaeth lawer, o braidd bob math o ddanteithion, eto dwfr oedd y ddiod a yfid gyda'r giniaw, nid oedd yno yr un dafn o ddiodydd meddwol. Yr oedd Evan Gwynne yn ddirwestwr o'r sect fanylaf, ac wedi bod felly am y deng mlynedd diwedd- af, ac am Esther nid oedd hi wedi yfed un dafn erioed o ddiodydd meddwol. Fel hyn y treul- iwyd gweddill y diwrnod mewn llawenydd a digrifwch diniweid; yr oedd y dymuniadau am hir-boedledd, iecbyd, cyfoeth, a llwyddiant Mr a Mrs Gwynne yn lluosog iawn, Be Did rhyw ddymuniadau oeraidd yn cjnwysdim ond ffurf ddifywyd oeddynt, ond yr oeddynt yn dyfod o wir ewyllys a dymuniad calon y rhai a'u cyflwynent; ac i derfynu gweithrediadau y dydd penderfynwyd i gyd yfed te gyda'u gilydd, ac felly cydeisteddodd y ewmni (deu- ddeg mewn nifer) i fwynhau eu hunain a'r hyn sydd yn llopi ac yn sirioli natur beb eu darostwng a'u dwyn yn gaeth gan feddwdod. fS^a^^YBRHAGOLYGON. ?. Yn mhlith glowyr pwll y Cefn, fel ei gelwid, yr oedd un a ystyrid ar y blaen i'w gydweith- wyr, yr oedd yn ddyn deallgar, yn meddu ar gryn lawer o'r hyn a elwirynsynwyr cyffredin. Efe oedd tanwr y gwaith ei enw oedd Dafydd Gwysne. Yr oedd Dafydd Gwynne yn ddyn a berchid yn fawr gan bob gradd o ddynion; yr oedd yn ddyn crefyddol aduwiol, ac yn ddiacon cymeradwy a gweitbgar, ac yr oedd yn un o gefnogwyr gwresocaf a mwyaf selog yr achos dirwestol yn y lie. Yr oedd Sarah ei wraig o gyffelyb nodwedd, ac ystyrid hi yn ddynes rinweddol iawn. Bu iddynt amryw lilaiit, a'r trydydd mab i Dafydd a Sarah Gwynne oedd ein harwr. Nid oedd Evan ond eiddil agwan- aidd o gyfansoddiad, ac oblegyd hyny vi chafodd fyned i weithio i'r lofa mor ieuanc a'i frodyr hynaf, ond cafodd fanteision ysgol ddyddiol nes ydoedd tua pymtbeg mlwydd oed. Yr oedd y gwaith yn pwll y Cefn wedi helaethu cryn lawer yn ddiweddar, nes ydoedd yn rhaid i Mr. Phillips, yr arolygwr, gael rywun i'w gynorthwyo, a dewiswyd Evan Gwynne i'r ymddiriedaeth. Nid ydoedd ei waith ar y dechreu ond cynorthwyo Mr. Phillips mewn gwneuthur cyfrifon y gwaith, a daeth i fod yn un hylaw iawn gyda'r gorchwyl. Wedi hyny bu raid iddo fynychu myned i'r lofa, yn en- wedig unwaith y mis, sef diwrnod mesur fel ei gel wir, ac fel hyn yr ydoedd yn dyfod yn fwy gwerthfawr i'r cwmpeini o ddydd i ddydd, ac yr oedd yn cynyddu mewn parch gyda'r gweith wyr yn barhaus. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn o gyfansoddiad corfforol cadarn—yn ddyn ag cedd yn deall ei waith yn dda, a bu yn garedig iawn i Evan Gwynne trwy ei gyfar- wyddo a'i hyfforddi mewn pethau perthynol i'w oruchwyliaeth. Un diwrnod mesur, fel yr oedd Mr. Phillips ac Evan Gwynne yn myned trwy y lofa, dywedodd Mr.: Phillips nad oedd yn teimlo mor hwylus ag arferol, a gwnaethant bob brys i fyned adref; ond, er gofid i lawer, cafwyd profion/eglur fod Mr. Phillips wedi cael ergyd o'r parlys, yr hyn a effeithiodd i wanhau ei gof i fesur helaeth. Bu byw am yn agos i flwyddyn wedi hyny, ond yr oedd yr ergyd parlysaidd wedi ei wneuthur yn bollol anghy- mwys i fod a gofal y lofa arno, ac felly dis- gynodd yr boll ofal ar Evan Gwynne, ein iharwr. Yr ydoedd ef erbyn hyn yn bump ar ugain oed, ac yn ddyn lluniaidd, er nad o<?dd yn gryf. Yr oedd ei ymarweddiad yn ddi- jfrycheulyd, a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei buii ac, fel ei dad, yr oedd ynteu wedi ei alw i wasanaetbu y swydd ddi- aeonaidd, ac yr oedd yr eglwys a'i dewisodd yn dysgwyl pethau mawrion oddiwrtho. Merch amddifad oedd Esther Morgan. Bu ei tbad a'i mam farw pryd nad oedd hi ond plentyn, ond cymerodd rhagluciaeth hi dan ei aden gofal- odd am dani, a cbafodd noddwr tyner a galluog yn mherson Mr. Harris, masnachwr yn y gy- mydogaeth a phan fu farw Mr. Harris gadaw- odd swm o arian i Esther Morgan. Yr oedd Mr. Harris yn ddirwestwr o'r sect fanylaf, a gwreiddiwyd Esther yn yr un egwyddorion, feI yr ydoedd yn gallu tystio ar ddydd ei phriodas nad oedd yn gwybod beth oedd bias y diodydd meddwol. Ar y ferch rhinweddol hon y dys- gynodd llygaid ein harwr, ac, fel y dangoswyd yn barod, unwyd hwy yn hen Eglwys Llan- gattwg, er gwell ac er gwaeth. (Pie barhau )

Advertising

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ALBAN…

Advertising

ARVONIA, KANSAS.

Advertising