Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
GWEN OR FELIN,
GWEN OR FELIN, Neu Y Golledig wedi ei chael." NOFEL FUDDUfiOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DEHETTDIR CYMRTJ, ,1879. t PENOD YIII. Ie, Owen ydoedd; ond nid y. bugail tlawd mwyach. Yr oedd Llywodraethwr tref Caernarfon, a'r Offeiriad Jones, Llan- llyfni, yn nghyd a deuddeg o filwyr arfog gydag ef. A ydwyf yn rhy ddiweddar ? Nid yw geiriau ofnadwy yr Eglwys wedi eu dweyd, a ydynt ?" "Na, ra Owen anwyl, yr ydych wedi fy ngwaredu." I- Buaswn yn ol yn gynt oni buasai i mi fod yn claddu fy nbad, ac wed'yn i Due Richmond i alw am danaf mewn cysyllt- iad a'i ymdrech i enill yr orsedd--ei gyf- iawn iddo. Yn awr, yr wyf am i chwi sydd yma yn wyddfodol wrando, a bod yn dystion o'r hyn sydd genyf i'w draethu a'i ddarilen i'ch clywedigaeth. Gwyddoch yn dda am yr amser terfjsglyd ac ymladdgar, ddeunaw mlynedd yn ol, a fu arein gwlad; gwyddoch hefyd nad oedd na gwreng na bonedd yn ddiogel—hwy na'u meddianau. Gwyddoch am waith annghyfiawn Risiart y Trydydd yn trawsfeddianu yr orsedd, a thrwy hyny, fod rhyfel curtrefol anochel- adwy yn cynhyrfu pob cwr o'r deyrnas; ac heblaw hyny, gwvddech hefyd ein bod nioau fel cenedl o Gymry yn un berw o derfysg, ac nad oedd na bywyd na medd- iant neb yn ddiberygl Yn awr, yn un o'r terfysgcedd hyn, tuag ugain mlynedd yn ol, gorfu i bendefig o'r Deheubarth, o'r enw Syr Morgan ap Rhys o Gastell Tir- cosdplantmeibionrhys, ffoi o'i balas. Prin y cafodd bamdden i lwytho dau geffyl ag Jiur iac arian, yn nghyd a chist o emau y teulu o werth dirfawr, gyda'i wraig a'i blentyn bach. Cymerodd ei ffoedigaeth yn y nos ond yr oedd y gelynion mor dyn ar jei sodlau, fel y gorfu iddo adael yr aur a'r gist, emau a'r plentyn, yn ngofal melin- ydd o'r enw Marks Felon, yn sir Faesyfed. Wedi i'r boneddwr gael papyr o dan law y melinydd, ac wedi ei arwyddnodi gan ddau dyst fod y melinydd wedi Ilawnodi y papyr, fod y trysorau a'r plentyn yn ei fedliant, cychwynodd i'w daith i ymguddio rhag y gelynion. Trodd y melinydd yma allan yn ddyn dr-wg; oblegyd pan aeth y boneddwr o Gastell Tircoed, yn mhen dau fis wedi i'r gelynion gael eu trechu, i chwilio am dano er cymeryd y trysorau a'r plentyn, nis gallai dd'od o hyd iddo yn unman, ac ni -wyddai neb i ba le yr aeth. Buwyd yn chwilio llawer am y melinydd, a chynyg iwydarian lawer am dd'od o hyd iddo; ond y ewbl yn ofer. Cafwyd hanes gan- gymydogion y melinydd i'w wraig a'i gwas—y ddau dyst yn nghylch y trysorau, &c—farw'n ddisymwth, a hyny yn mhen wythnos cyn iddo ef fyn'd i ffwrdd, neu yn hytrach ar goll. Bu rhywraj yn ceisio darbwyllo Syr Morgan i gredu fod llaw gan fy nhad yn ffoedigaeth y melinydd a'r trysorau anmhrisiadwy. Dywedid hyn am .fod.rhyw anrighydwelediad rhwng fy nhad a'r boneddwr o'r Castell wedi cymeryd lie yn nghylch tiroedd. Un tro, dywedodd Due Richmond ei fod yncredu iddo weled y ferch fach, sef y plentyn colledig, yn Nyffryn Narstlle, ynDhy. melinydd o'r enw Trefor Williams-fod yr eneth yr un fath yn hollol a theulu Tircoed-yr un ddelw a'i thad. Yr oeddwn i wedi tynu darliin ohoni yn fy meddwl er's llawer dydd, ac wedi hoffii y darlup, ac mi a benderfynais fynu d'od o hyd iddi; ac os cawn hi yn debyg i'r darlun a dynais ohoni yn fy meddwl, mai hi fyddai fy ngwraig. Yn awr, Marks Felon, mae prawf genyf mai y ferch hon—Gwen—ydyw plentyn colledig Syr Morgan, ac mai chwi yw y melinydd hwnw a ladratodd hi, yn nghyd a'r aur a'r gist emau ac mai nid Trefor Williams, eithr Marks Felon yw eich henw iawn. A welwch chwi y dangosiad hwn a roddasoch chwi i dad yr eneth yma, wedi ei arwydd- nodi a'ch llaw eich hun ?" Nis gallai wadu hyny. Yn awr, Marks Felon, pa le y mae y gemau a'r aur, &c ?" Mor wir a bod Duw yn y nefoedd, nis gwn pa le y maent, oblegyd fe'u lladrat- wyd oddiarnaf oil er's Ilawer dydd bellach. Dyna'r gwir bob gair,. neu mi a ddymunwn I'm dau lygad syrthio o'm pen y mynud >> yma Tewch ddyn a chymeryd enw Duw yn ofer. Yr wyf yn darllen eich bwriad melldigedig cyn marw eich gwraig a'ch gwas. Nid holaf chwr pa fodd y daethant hwy i'w diwedd. Yr wyf ar ddweyd dir- gelwch i chwi—dirgelwch a syna dipyn arnoch. Da genyf ddeall wrth eich henw inai nid Cymro o waed ydych, eithr estron -wedi dysgu ein hiaith ydYGh. Chwi: a ellwch agor eich llygaid! ond arosweh i chwi gael clywed y newydd, a chwi £ |'u hagorwch yn llydanach. Dyma y newydd, gwrandewch :—Y mae yr aur, a'r perlau, a'r dalaith—y trysorau oil mewn ystafell ^uddiedig yn y ty hwn. Bum i a Gwen, neu Morfydd a ddylaswn ddweyd, a Mari yn yr ystafell." f;, Ar hyn, syr^iodd Tr(for yn ol ar ei gefn ar fainc] ojedd yp ymyl, fel pe wediiei daro. ell ten, ac ybo y bu am beth amser yn Viindagu, fel pe buasai mewn llewyg; ac o'r diwedd, chwarddodd fel y chwardda ynfyd. Yr oedd ei synwyr yn dechreu ymddyrysu. Nid awn i ddringo trwy dyllau y tro hwn i'r ystafell gudd ond ni a dynwn i lawr y wal yn y drws a adeiladasoch chwi, Marks Felon, a'eh dwylaw eich hun, ae a gymerwn y trysor i ffwrdd—y mae wedi bod yma yn ddigon hir bellach. Y ferell hon a gadwasoch chwi mewn caethiwed, a'i bygwth i orfbd priodi y lleban mab a fedd- wch, sydd un o'r etifeddesau cyfoethocaf a mwyaf anrhydoddus yn Ngtymru—Mor-, fydd—etifeddpg yatad Tircoed; a myfi ydyw Syr Owen ap Gwilym ap Thomas o Bias Maesydderwen, sir Gaerfyrddin." Buan ar ol hyn, cafwyd y melinydd yn gorwedd ar draeth Llyn Nantlle fel wedi boddi, a'u ddau lygad wedi eu tyllu allan o'i ben yn ol ei ddymuniad ofnadwy. Gwerthodd Sam y Felin; a'r hanes di- weddaf a glywyd am dano oedd ei fod yn gwydryn meddw o ardal i erdal yn sir Gaernarfon. Aeth Mari i ffwrdd yn ol i'r De grdag Owen a Gwen. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyn, yr ydym yn cael Owen y bugail a Gwen wedi priodi, ac yn byw yn Mhalas Maesydderwen, yn sir Gaerfyrddin. Un person pwysig yn eu priodas oedd Due Richmond (wedi hyny brenin Lloegr, Henry YII.) Felly, Gwen a drodd allan i fod yn neb llai na Morfydd, aeres gyfoethog Tircoed, ac Owen y bugail yn neb llai, wedi hvny, na'r enwog Syr Owen ap Gwilym o Bias Maesydderwen. DIWEDD.
Eisteddfod Cymreigyddion Dyffryn…
Eisteddfod Cymreigyddion Dyffryn Elyrch, Dydd Nadolig. Beimiadaeth y Traethawd ar Y fantais i iveith v:yr New Tredegar o gynal eu Cymdeith- asau Dyngarol yn Neuadd y Gweithwyr." Ni dderbyniwyd ar y testyn hwn ond tri chyfansoddiad, sef eiddo Dyngarwr, Puna, a Gwrnerth Ergydlym; ond y mae y cy- nyrchion hyn yn draethodau rhagorol, ac yn anrhyrledd i'r Eisteddfod. Ysgrifena Dyngarwr chwech tudalen o foolscap. Nid yw yn cymeryd golwg mor eang a manwl ar ei destyn ag a wna ei gyd- ymgeiswyr; ond, cyn belled ag y mae yn myned, ysgrifena yn bur ddiwall, ac yn wir alluog. Ni fUtisai ynom un amheuaeth am qi deilyngdod oni buasai fod yma ereill wedi gwastraftu mwy o bapyr ac amser er mwyn y wobr. Puna.-Mae hwn yn feithach nag eiddo Dyngarwr, ac yh ihoddi i lawr luaws o feddyliau ar wyneb pob tudalen. Dengys y byddai symud y eymdeithasau i Neuadd y Gweithwyr yn osgoi ,un o brifachosion afiechydiyn mhlith yr.. aelodau-yn lleihau yr hudoliaeth i feddwdod a phechodau ereill —yn lleihau tlodiy dosbarth gweithgar, fel na fyddent dan orfod i toddi rhybudd am fudd y gymdeithas ar bob achos dibwys -ynlleihau yr awydd amiyned yn dafarn- wyr, am mai y eymdeithasau sydd yn dwyn mwyaf o elw i mewn iddynt,—yn fantais i berchenogion y neuadd—yn cefcogi elfenau iechyd, cysur, moes, a chrefydd,—ac yn fanteisiol i heddweh a llwyddiant yr eglwysi. Pe buasai yr ymgeisydd galluog hwn wedi gweithio allan y gosodiadau yma yn helaethach, credwn y buasai yn ddiguro. Gwrnerth Ergydlym.—Nid yw ef wedi arbed ei hun. Ysgrtfenodd ddwy-ar ugain o dudalenau o foolscap, ac y mae braidd wedi gorweithio ei osodiadau. Gallasai wneyd rbai rhanau yn fwy pryno a chyn- wysfawr. Peth pwysig i draethodwr, yn ogystal a siaradwr cyhoeddus, yw gwybod pa faint o eiriau sydd yn eisieu arno i weithio allan ei syniadau. Ond y mae. yn rhaid cydnabod fod rhai darnau o'i draeth- awd yn dra darllenadwy, ac yn worth i gymdeithasau dyngarol a gynelir mewn tafarndai roddi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth, nid ydymyn teimlo y gallwn, wedi y cyfan, wneyd dim sydd yn fwy cyfiawn na rhanu y wobr rhwng traethawd cymharol fyr ond cynwysfawr Puna, a thraethawd maith ond gornyddiedig Gwrnerth Ergydlym. Liythyr. Dau lythyr ddaeth i law, sef eiddo Dewi o'r Cwm a Beginner. Gesyd Dewi ei hun allan fel bachgenyn crefyddol, 17eg oed, yn afon at ei frawd yn America hanes damwain druenuswedidygwydd yn ei ymyl. Ysgrif- ena lythyr syDwyrol a llawn o gymhellion i'w frawd annuwiol gymeryd rhybudd oddi- wrth amgylchiadau difrifol o'r natur hyn. Ond y mae ei lythyr toddedig yn cynwys llawer iawn o wallau sillebol a chy straw en- ol. Mae Beginner yn ysgrifenwr destluS a gramadegol. Nid oes ganddo ond un gwall, sef gosod y ferf mewn un man yn unigol ar 01 enw Iluosog. Gan mai yn Saesonaeg yr ysgrifena, cofied bob amser y rheol hono:;— A verb must agree with its nominative in number and person." Hefyd, gan ei fod yn ysgrifenu o Detfon at ei gyf^ill. yn Ehymn), dylasai roddi yehydig o'i hahes ei hun neu y lid y preswylia ynddo, yn hytraeh na npdi y gwahanol betbau oedd in ;w6led yn y. newyddiaduron yn nghylch llhyjnni a'r eymydogaetbM. Llythyr v^yffredin ydy^ o ran cyfansoddiad; ond gan ei fod yn ys- grifenu mor lan, ac mor ddiwall ei iaith, tra y mae Dewi, -o'r ochr arall, mor Hawn o wallau, cyhoeddWn Beginner yn oreu. Galargan i'r divxddar Wm. Thomas, New Tredegar. Derbyniwyd pump o Alarnadau yn dwyn y ffugenwau. Un o.fil ar lan ei fedd, Joel, Lion gyfaill llawh o gofion, Llef o'r Fon- went, a Plenydd. Un o fil ar lan ei fedd.-Mae y gerdd hon, ar yr olwg gyntaf, yn bur flodeuog. Cyn- wysa lawer iawn o ffigyrau ond y mae amryw o'i blodau yn gwywo wrth ein gwaith yn dal i edrych arnynt, a'r ffigyrau heb fod yn ymddangos y rhai mwyaf priod- 01 pan yr awn i'w chwilio. Hefyd, ceir yma dermau nas gellir eu cymeradwyo, iuegys u gwely o ffydd," cysuron goreu- deb," cariad trugaredd," coethi mewn achles cymhellion," &c. Eto, teg yw cyd- nabod fod gan Un o fil rai penillion canmol- adwy iawn. Joel.-Mae yn ddigon hawdd deall fod perthynas agoa rhwng hwn ac Un o fil, ac y mae ysvlwadau a wnawd ar y gan gyntaf yn berffaith. gymhwysiadol at hon hefyd. Oynghorem y ddau ymgeisydd hyn i uno a'u gilydd i ddarllen cymaint a fedrant o farddoniaeth y prif feirdd, ac arfer barnu yn ogystal a dychjmygu, ac os gwnant hyn, y mae ynddynt allu i enwogi eu hunain ar faes yr ymdrechfa. Mae mwy o am- ddifadrwydd barn nag o eiddilwch dy- chymyg i'w ganfod yn llawer o gynyrchion ein Heisteddfodau. Lion gyfaill llawn o gofion.—C&n dda, yn eynwysllawer iawn o ergydion grymus a gwir farddonol; ond y mae amryw fan wall- au yn anurddo ei gwyoeb prydferth,. y rhai a ellesid yn hawdd eu hosgoi pe cymerasai yr awdwr yehydig fwy o ofal; ac nird ydym yn teimlo ei bod yn cynwys darluniad mor arbenig a chyflawn o William Thomas ag a gynwysa ereill yn y gystadleuaeth. Llef o'r Fon went.-Mae hon yn gan naturiol a barddonol iawn, wedi ei hysgrif- enu yn hollol ddiwall. Mae :yn anhawdd cael galargan mwy swynol ei chymhar- iaethau ac y mae yn llawn teimlad byw. Eto, ni ddengys yr awdwr ei fod yn gwybod hanes, ac yn adnabod gwrthddrych ei 9an mor llwyr ag y gwna y nesaf, sef Plenydd.-Mae gan y bardd hwn ddarlun cyflawn a chywir o'r diweddar William Thomas, ac yr ydym yn teimlo wrth ddar- Hen ei gerdd mai marwnad iddo ef ydyw, ac nid i neb arall. Mae Plenydd yn canu y ar y mesur Y g'alon drom," ac yn gweithio allan y mesur cywrain hwn yti naturiol a didaro. Mae cynghaneddu yn ymddangos mor rhwydd iddo ag anadlu. Ond rhaid cydnabod nad ydyw yn gwbl mor farddonol ei syniadau ag ydyw Llef o'r FonwenL: Ar ol darllen y ddwygan drosodd.a throsodd, a hyny gydag hyfrydwch neillduol, yr ydym yn teimlo fod yn rbaid i ni ranu y gini rhyngddynt. Cydwobrwyer Llef o'r Fon- went a Plenydd. Pump Unglyn i Neuadd .y Gweithwyr. Dau Mr o englynion ddaethaut i law, wedi eu harwyddo Or ffugenwau Ysgolor tra esgeulus a Ceridwen. Mae Ysgolor yn canu yn hollol gvwir, gyda'r eithriad o'r Ilinell ganlynol:- "■A diwall ei d+j ll^d." Mae'n debyg ei fod wedi gadael allan- air a fwriadai osod i tnewB, a thrwy hyny y pqae y llinell yn rhy fyr, a'i chorfaniad yn wallus. Ar y cyfan, mae ganddo englynion canmol- adwy. (tnd Ilwyddodd,Ceridwen i wneyd pump englyn mwy cywrain eu cytighanedd- iad, mwy llithrig eu darlleniad, a mwy barddonol eu syniadaeth, ac am hyny efe sydd yn teilyngu y wobr; Englyn i'r Maengerfydd (Stone-cutter). Derbyniwyd deg o englynion, sef eiddo Penfrith, Cofianydd, Clochydd, Ghwarelwr coch o rywle, Tudur Aled, Hen lolo Dyffryn Elyreh, Morthwyl, Ziphyr, Bobby Burns, ac Enoc wyf mewn inp coch. Ymddengys fod pob un o'r deg wedi gwneyd cynyg ar gyf- ansoddi englyn lawer tro o'r blaen, oblegyd y maent oil yu lied ddiwall o ran cynghan- edd a mesur. Ond y mae eu teilyngdod barddonol yn gwneyd ini eu rbanu i ddau ddosbarth. Yn y dosbarth gwaelaf saif Penfrith, Cofianydd, Clochydd, Chwarelwr coch o rywle, Tudur Aled, ac Hen Iolo Dy- ffryn Elyrch. Englynion cyffredin, heb fawr ergydion barddonol, ydyw y rhai hyn oil. Yn y dosbarth goreu mae Morthwyl, Ziphyr, Bobby Burns, ac Enoc wyf mewn inc coch. Englyn da yw eiddo Morthwyl, oni bai tywyllweh y llinell flaenaf. Cyn- wysa englyn Ziphyr rai meddyliau gwych- ion, ond y inase rhyw gaddug yn nglyn ag yntau. Mae eiddo Bobby Burns yn glir a llithrig, ond gwhai y tro i'r sculptor yn ogystal a'r stone-cutter. Y mwyaf naturiol a nodweddiadol o'r maengerfydd yw englyn Enoc wyf mewn inc coch. Rhodder yr haner coron iddo. J. GWBHYD LEwis.
'\.l x Masnaeh yr Haiarn a'r…
l x Masnaeh yr Haiarn a'r Glo. fv 'r .MIe genyf yif wythnos! hon eto y pleser, yp hyfrydwcH, a'r llawenydd, 6 osod o flaen darllenwyr lluosog y Gwiadgarwr fod masnach yn myned rhag ei blaen yn gyffred- inol drwy y byd. Cjjbandebau yn cymeryd lie, mewn gwahanof""ranau o'n gwlad, xhwng njeistri a gweithwyr, heb ymgyng- hofi ag ymy'rwyr yr oes, yr hyn sydd yn arwydd amlwg y bydd pethau yn myned yn mlaen yn fuan fel yn yr hen amser gynt, pan yr oedd cyfalaf a llafur, fel ychain banog, yn cydweithio ac yn Ilwyddo. Wrth dkflu golwg,. yr wythnos ddiweddaf, dros ansawdd gweithfeydd glo a haiarn i' SIR FYNWY, canfyddwn argoelion yn arddangos profion cedyrn fod masnachau yr haiarn a'r dur yn gwella yn barbaus. Fel ffaith, mae y newyddion ffafriol, o America wedi achosi i brisoedd y rheiliau haiarn a dur i godi, yr hyn sydd yn welliant pwysig. Mae y cais am fariau haiarn yn edrych yn fwy-fwy llewyrchus o wythnos i wythnos, a'r haiarn- bwrw hefyd yn codi yn ei bris. Yn Rhymni, mae arwyddion adnewyddol o welliant ac adfywiad, ac yn Mlaenafon hefyd yr unrbyw arwyddion yn ganfydd- adwy yn y strenuous efforts a wneir i ad- gychwyn y gweithfeydd yno, ae, yn ol yr arwyddion a welais yno, diau fod y ddosran Beseemeraidd wedi adgychwyn erbyn hyn. Dywedwyd wrthyf hefyd fod trefniadau yn cael eu gwneyd er cychwyn y felin. Yn Nhredegar, mae archeb ragorol o dda am rai miloedd o dunelli o reiliau haiarn wedi ei sicrhau, ac nid oes prinder gwaith yn un ddosran o'r gweithfeydd cymydogaethol; ond hyd yn hyn, mae y cais mwyaf am, a'r gweithio mwyaf ar, reiliau Bessemer, ac y mae y prisoedd yn codi. Mae y gwaith a wneir yn masnaeh y glo vn gadarn a da, a bywiogrwydd yn ganfyddadwy yn mhob lie; ond nid oes yr un mymryn o godiad yn mhrisoedd y glo. Mae yr ymofyn am old and raw materials yn hynod o galonogus. Y gweithfeydd alcan yn gymedrol o fywiog, a'r prisoedd heb yr un cyfnewidiad ynddynt, er yn hynod sefydlog. Yn Sirhowy, Peny- cae, a gwahacol weithfeydd ereill yn y sir, mae arwyddion calonogus yn ganfyddadwy drwyddynt oil, Allforiwyd o'r Casnewydd yr wythnos ddiweddaf, i wledydd tramor yn unig, 19,794 o dunelli o lo, a 5,215 o dunelli o haiarn a dur. Aeth yr haiarn a'r dur i Jersey, Efrog Newydd, Brazil, Natal, Philadelphia, a Baltimore, Yn silt FOKGANWG, •: ymadnewyddu yn barhaus mae ymdrafod- aeth fasnachol yr haiarn a'r dur. Mae Dowlais yn llawn tan a bywiogrwydd. Yr un modd ydyv tua'r Gyfarthfa; bariau haiarn yn myned yn chwim drwy y rolls, yn cael eu llwytho, ac yn myned ymaith yn gycheidiau lluosog ar hyd y gamlas tUa Chaerdydil. Y glcfeydd yn gweithio yn rheolaidd yn y Gyfarthfa a Dowlais, yn ogystal ag yn y Plymputh. Ond er fod pyllau glo y Plymouth yn gweithio yn gyson, nid oes yr un gobaith yn awr am adferiad y gweithfeydd haiarn yno, nac ychwaith yn Abernant na'r Llwydcoed. Glofeydd cymydogaethau Hirwain, Rhigos, a gwahanol ranau GIyn: N edd, yn myned yn mlaen yn hwylus. Mae y gweithfeydd metelaidd yn ad ran Aberta^e yn cynyddu mewn adfywiad gweithfaol, a chodiad yn cymeryd lie yn y prisoedd a geiram y nwydaau, yr hyn sydd yn profi fod mas- nachau yr hai&rn, dur, a'r alcan, yn myned yn miaen dan gynydd rheolaidd. Y ffaith yw, mae y newyddion cysurlawn 6 America wedi achosi i haiarn a dur rheilffyrdd i fod yn well yn en prisoedd. Mae y gweith- feydd dur yn gweithio yn gyson, ac ymhel- aethiad graddol yn cymeryd lie yn eu gwa- hanol gangenau. Gellir gwneyd yr un cymhwysiad at y gweithfeydd haiarii yn yr boll adran, a thrwy Ddyffrynoedd y Nedd a'r Tawy, a'r prisoedd yn cynyddu. Mae yr holl weithfeydd alcan yn ymddangos yn awr yn gweithio ar, eu goreu. Y cais am alcan yn cynyddu yn rhagorol, yn neillduol o'r America, a'r codiad diweddar a nodais yn y prisoedd. yn dal ei dir. Mae careg sylfaen gweithfeydd pwysig yn y gangen hon o weithyddiaeth wedi newydd gael ei gosod i lawr yn Mhontarddulais, a'r adeil- aduymnynedyn miaen gyda chyflymdra rhyfeddol. Allforiwyd o Abertawe yr wythnos ddiweddaf 9,970 o dunelli b lo, 1,5509 dunelli o batent fuel, a 55 o dunelli. o haiarn a dur, heblaw alcan a chopr. Yn N ghaerdydd, yr oedd yr allforiadau yn 78,793 o dunelli o lo, 2,112 o dunelli o haiarn a dur, a 1,655 o dunelli o latent fuel. Mae yr amcan-gyfrif wyf wedi wneyd o'r gloa allforiwyd oddiyma yn ystod y flwyddyn ddiweddaf (1879) tua 4,475,000 o dunelli. Mae y cais am lo yn parhau yn rhagorol ond nid oes modd cychwyn y prisoedd. Mae y glo at wasanaeth teuluol rhyw gymaint yh fwy by wiog. Mae pwnc cytundeb y Fantolen Lithrigol fel yn caaw t&n ar yr aelwyd hyd yn hyn ond tebygol yw, yn ol yr arwyddion presenol, mai rhyw gytundebau cyffelyb i eiddo yr Ocean Collieries a'r Ferndale a gymer Ie. Mae ceisiadau rhagorol wedi dyfod i Gwm y Rhondda am olosglo yn ddiweddar,, a'r prisoedd am y cyfryw yn myned rhag eu blaen ond nid oes modd cael cyffroad yn mhris y glo-ager, yr hyn sydd yn ddigalon- did mawr i'r gweithwyr yn gystal a'r meistri. Mae gweithfeydd alcan yr adran yn gweithio yn rheolaidd. Wrth daflu golwg ar y newyddion sydd wedi dyfod i law o wahanol ranbarthau LLOEGR A'R ALBAN, mae yn amlwg fod yr awyr fasnachol yn clirio, er fod masnach y glo yn Llundain yn faiwaidd yr wythnos ddiweddaf, a chwymp- iad yn y pris o tua 6c. y dunell. Eto, yr oedd rhanbarthau ereill yn wahanol. Yr oedd cyfarfod chwarterol y meistri haiarn yn Middlesbro', dydd Mawrth diweddaft yn llawer lluosocach nag arferol, a phrofodd yr adroddiadau a wnaethpwyd yno fod y prisoedd yn well. Er i'r farchnad agor am 2p. 15s. 6c. y dunell am Rif 3 o haiarn- bwrw Cleveland, yr oedd y pris, pan y cauodd, yn 2p. 17s. y dunell, a rhai gwneuthurwyr yn gofyn 3p. y dunell am drosglwyddiad yn y chwarter nesaf. Mae y pris yn awr am blatiau at longau o 8p. 15s. i 9p. y dunell; bariau a haiarn-onglau yn 8p. y dunell. Yn Barrow-in-Furness,, mae ton fasnachol galonogus yn parhau, a'r gwahanol weithfeydd yn myned yn mlaen yn fywiog. Mae marchnad haiarn Glasgow wedi bod yn hynod o gryf yr wythnos ddik weddif, a chodiad wedi cymeryd lie yn y prisoedd; ond y mae eto le i welliant yn masnach y glo. Mae cais hynod o dda yn. BELGIUM am lo, a'r fasnach haiarn yno, yn ogystal ag yn Ffrainc, yn dyfod yn well. Mwy o fywyd yn masnach y glo yn y ddwy wlad,, a'r un modd hefyd yn Germani. ■ Masxachdeiihiwb.
Llofruddiaeth Erchyll Merch…
Llofruddiaeth Erchyll Merch o Benfro yn Manchester. Nos Fercher, y 7fed cyfisol, cyflawnwyd llofruddiaeth- greulawn ac ysgeler ar gorff Sarah Jane Roberts, brodores o Benfro, yr hon oedd yn ngwasaoaeth Mr. Greenwood, Harpurhey, Manchester. Yr oedd y ferch wedi bod yn yr un He am ddwy flynedd, ac o ymddygiad da; a thybir fod y weithred. ofnadwy wedi eichyflawni gan ryw garwr gwrthodedig. Y mae y maoylion yn fyr fel y canlyn- Yn ystod y prydnawn, derbyniodd Mr. ^Greenwood nodyn yn gofyu iddo gyfarfoda, dyn, yr hwn a arwyddai yr enw Wilson,, mewn perthynas a ryw dir, mewn tafarndy o'r enw "Three Tuns." Aeth Mr. Green- wood i'r lie; ac wedi holi ac aros am gryn amser, ni welodd un Wilson, adychwelodd, a tbybir fod ynodyn wedi ei ysgrifenu gan y llofrudd, neu gydweithydd ag ef, er cael. Mr. Greenwood o'r ffordd. Mrs. Greenwood, yr hon a gyfyngwyd i'w gwely am beth amser, a glywodd y llaethwr yn y drws yehydig wedi haner awr wedi chwech o'r gloch, a chlywodd y drws yn cael ei g'm yn fuan ar ol hyny. Agorwyd ef,, wedi hyny, gan y drengedig, a chlywodd ei meistres gerddediad ysgafn, fel pe byddai rhywun yn dilyn y ferch i'r gegin Pump neu ddeg mynyd ar ol hyny, 9 y clywodd y ferch yn rhoddi ysgroch ofnadwy ddwy neu dair gwaith. Gaiwoid y feistres HJlfne," ond ni. ehafodd ateb. YnaJ- rhedodd i lawr y grisiau, ac i ddrws y front' gau waeddi Murder Murder!" gan ddychytnygu o hyd fod y ferch wedi ewrdd a darawaih. Clywodd boneddiges o'r enw Cadman, gwraig gweinidog Undodaidd oedd yn byw y drws nesaf,, yr ysgrech; a phan aeth allan, gwelai Jklrs. Greenwood yn y drws. Aeth i lawr at y gegin, ond yr oedd y drws yn nghlo. Wedi gwthio y drws yn agored, dyna lie yr ydoedd golygfa ddychrynllyd- y fereh yn gorwedd ar y llawr mewn llyn o waed, a chlwyfau erchyll ar ei phen!' Cyrchwyd cymydog arall, a chodwyd y ferch i fyny. Yr oedd yn anadlu, a gosod- wyd hi i lawr eilwaith ond bu farw yn mhen ychydig fynudau, a hyny cyn i feddyg- ddyfod i'r ty, heb ddweyd yr un gair. Nid óedd dim wedi ei latrata o'r ty, na dim. wedi ei symud, acni welwyd unrhyw berson yh agos i'r ty; ond tybir i'r ferch agor y drws i rywun yn fuan ar ol y llaeth- wr. rwy bynag oedd y llofrudd, llwydd- odd i ddianc heb i neb ei weled, ac ni chaf- wyd: ynoiun-aff:gyda pha un y cyflawnwyd y,weithred. Chwiiiwyd llythyrau y ferch, ond ni chafwyd yn eu plith ond gohebiaeth. rhyngddi a'i pherthynasau. Hyderwn y deuir o hyd i'r ysgelerddyn dideimlad. Nid oes un math o clue wedi ei gael hyd ymtjr o'r llofoudd. Y tnae yr heddgeidwaid ar eu hegni eithaf yn olrhain i mewn i'r mater. Dydd Sul diweddaf, claddwyd gweddillion y -drengedig yn mynwent Christ Church, Harpurhey, pan yr ymgasgl- odd tyrfa fawr yn nghyd. Yr oedd ei mam, ei dau frawd,'a'i chwaef yn bresenol. Tal- wyd holl'dratil'y claddu gan ei meistr, Mr. Grieenwood. • Yr hyn a g&nlyn oedd ar yr arch Sarah Jane Roberts, yr hon a fu farw Ionawr 7fed, 1880, yn 18 mlwydd oed. I Yn Adda yr ydym oil yn meirw.- yn Nghrist y bywheir pawb. T