Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. FFRAINC A CHOELGREFYDD. ANHAWDD yw sylwi ar syxnucliadau gwleidiadol Ffrainc, fel y gosodiv hwynt ger bron y byd yn y papyrau newydd- ion, heb weled arwyddion amlwg fod. y wlad fawr gyfoethog hono yn cyflymu tua dinystr, fel Ehufain baganaidd, cyn amser Cwstenyn, a hyny oblegyd fod caner coelgrefydd Pabyddiaeth yn treiddio drwy holl ranau manylaf corff cymdeithas yn y wlad hono. Y mae eilunaddoliaeth mor berffaith yn teyrnasu yn Ffrainc, ag oedd yn melldithio y Canaaneaid, y rhai a ym- lidiwyd o Balestina, ac a ddinystriwyd gan Joshua a'i luoedd. Y mae yr eilunaddoliaeth hwnw yn sylfaenedig ar gelwyddau noethion heb gerpyn i guddio eu twyll. Haerir fod lleianes wedi gweled calon Crist, a gosodir y galon gorfforol hono i fyny fel gwrthddrych addoliad; er fod Crist wedi dweyd, gyda golwg ar ei gorff, nid yw y cnawd. yn Iles- hau dim, fy ngeiriau i ysbryd ydynt." Y mae miloedd ar filoedd yn addoli y galon ddychymygol hori yn Ffrainc. Dywedir mai dau canmlynedd i Febe- fin diweddaf sydd er pan y gwelodd lleianes, a elwid Maria Alacoque, yn Lleiandy Paray-le-Monial, ar yr afon Loire, yn Ffrainc, yr Arglwydd lesu ei bun. Haerodi fod Crist wedi ym- weled a hi yn bersonol, iddo roddi ei ben ar ei mynwes, a dadguddio iddi hi ddirgeledigaethau ei galon ddwyfol. Ceisiodd ganddi roddi ei chalon hi iddo ef, fel rhodd, a gadawocld iddi hi, i edrych i mewn i'w galon el, trwy y clwyf a wnaetji y bicell yn ei ochr et: Cafodd fod ei galon, meddai hi, fel tan eiriasboeth, ac yn ei chanoi, gwelodd ei chalon ei hnn fel gronyn bychan! Cymerodd Crist y gronyn hwn, ac a'i rhoddodd yn ol iddi hi mewn sefyllfa wenfflam, ac a'i gosododd drachefn yn ei hochr hi O'r foment hono teim- lodd boen mawr yn nghymydogaeth ei chalon Ac er mwyn lliniaru y poen, gwaedwydhi, yn ol cynghor Iesu, 192 o weithian! Wrth roddi ei chalon yn' ol iddi hi, efe a'i gwnaeth yn etifeddes ei galon ef, fel y gwelai hi yn dda, i bawb a fyddai yn barod i'w derbyn Hi a gymerodcl ami i ddweyd ei bod wedi gweled y Fair Forwyn a'rDrindod Fen- digaid, a bod Crist wedi ei hawdurdodi hi i sefydlu ffurf grefyddol o weith- redu, yr hwn a elwir "Ymgysegriad i'r Galon Gysegredig," ac i dros- glwyddo yr awdurdod hon i'w hoffeir- iad cyffesiadol, sef y Jesuit Colombiere. Gyda chyflymdra rhoddodd y Jesuit yr awdurdod mewn gweithrediad. Cefa- ogwyd y sefydliad gan y Pab Clement XIII. Canonwyd y lleianes freuddwyd- iol gan y Pab presenol yn 1864, un-ar- ddeg o flynyddau yn ol. Rhan o'r gorchymyn a gafodd oedd "ei bod hi, nid yn unig i aberthu ei hewyllys, ond hefyd ei deall a'i rheswm i, ewyllys swyddog; y lleiandy oedd uwchlaw iddi." Ac meddai Crist wrthi, Os dilynwch chwi ewyllys y swyddog uwehlaw i chwi yn y lleiandy, yn Ivytrcich net fy ewyllys i, os bydd hi yn gwahardd yr hyn a orchymynais i, ln/ddafyn fodd- Ion ar Nis gallai breuddwyd fod yn fwy gwallgofus; a gwelir yn amlwg fod yr offeiriaid Pabaidd wedi bod yn ei gyf- ansoddi at eu pwrpas eu hunain. Gwelir hefyd eu bod am osocl eu hun- ain uwchlaw Crist mewn awdurdod. Y mae yr honiad cableddus hwii yn nodi allan y Babaeth tuhwnt i amheuaeth, fel yr unig gorfforiad rhyfygus o ddyn- ion, a etyb i nodwedd y "Dyn Pechod, Mab y Golledigaeth," fel y gosodir ef allan yn 2il Thes. II., yr hwn a ddes- grifir gan yr apostol, Yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw." Y mae busnes yr eilunaddoliaeth hwn wedi bod yn fater eglurhad yn holl bapyrau newyddion Ewrop am fis- oedd lawer. Y mae aelodau senedd Ffrainc yn myned ar bererindodau i'r lleiandy, lie y dywedir fod y weled-* igaeth wedi bod. Nid yw eu gwybod- aetli fel athronwyr ddim yn ddigon i'w cadw rhag cefnogi y twyll a'r celwydd Pabyddol. Cyfansoddodd y pab weddiau i'w hadrodd ar amser addoliad blynyddol breuddwyd ynfyd y lleianes. Y mae eglwys gadeiriol fawr gostuS yn eael eu hadeiladu yn Paris, mewn man a elwir Montmarte, Areopagus Paris. Adeiledir hon fel aberth i freuddwyd y lleianes yn nghylch y galon gysegredig, celwydd noeth,beidd- gar, rhyfygus, eilunaddolgar, a chabl- eddus. Gosodwyd careg sylfaen y deml eilunaddolgar hon i lawr ary29 o Fehefin diweddaf. Y mae tair mil- iwn o Babyddion a dau cant o esgob- ion wedi gofyn i'r Pab gysegru y deml hon. Y mae efe eisoes wedi rhoddi ei fendith ar ddelwau y lleianes i'w gosod i fyny fel gwrthddrychau addoliad. Y mae £ 80,000 wedi cael eu casglu at godi y deml eilunaddolgar. Y mae 82 o esgobaethau yn Ffrainc. Dywedir fod pob un o'r rhai hyn yn anfon £ 4,000 bob blwyddyn i'r Pab. Gan hyny, cyfanswm ei gyflog ef o Ffrainc yn unig yw £332,000 yn flyn- yddol. Dywedir fod delw fawr i'r Fair For- wyn i gael ei gosod i fyny ar fryn, yn agos i Cevennes, dinas yn Ffrainc. Yr oedd eisieu gwyrth i wneud gosodiad y ddelw i fyny yn boblogaidd at bwr- pas yr offeiriaid Pabaidd. Ryw ddi- wrnod, ychydig amser yn ol, fel yr hys- bysa gohebwyr o Ffrainc, denodd offeiriad Pabaidd ddau blentyn i fyned gydag ef i ben y bryn dan sylw. Ab- senolodd ei hun oddiwrthynt am ych- ydig amser, pryd yr ymddangosodd boneddiges o'u blaen, mewn dillad gwynion. Mewn dychryn, dechreuodd y plant redegymaith. Ond y fonedd- iges a'u cyfarchodd yn dirion gan ddweyd mai "Brenines y nefoedd oedd hi, a'u bod wedi dyfod i waredu y ddi- nas oddiwrth hereticiaid." Aeth y plant adref. Adroddasant wrth eu tadau yr hyn a welsant ac a glywsant. Penderfynodd efp fyned yn ol gyda hwynt i weled Brenines y Nefoedd. Pan ei gwelodd, gofynodd iddi pwy oedd hi ? Atebodd mai Mair, mam yr Ie.su ydoedd." Gyda hyny, rhoddodd ergyd iddi a phren, i gael gweled ai ys- bryd oedd hi. Cymerodd afael yn ei braich, a dywedodd y gallai hi gerdded yr heol gystal a'r mynydd. Ond cref- odd arno i beidio ei bradychu—ei bod hi wedi derbyn arian am y twyll. Gwraig o'r ddinas oedd y wraig. Bu yn gorwedd yn ddolurus yn ei gwely o achos yr ergydion a gafodd. Twyll fel hwn sydd yn llanw Ffrainc, a'r holl wledydd Pabyddol. Pa ryfedd eu bod o dan felldith ? ——•

SEFYLLFA MASXACH GLO A HAIARN.

--4 MARCHNADOEDD.

4 Y STRIKE YN SWYDD WARWICK.

♦ PWYLLGOR Y EHEOLAU NEWYDDION.

♦ Y DYN CONDEMNIEDIG- YN NGHAERDYDD.

CAIS AM GODIAD CYFLOGAU GAN…

HENGOED. —DAMWAIN ANGEUOL.

DRYLLIAD YR AGERLONG BOYNE.

♦! BODDIAD YN BLAENRHONDDA

4 PENYDARREN.

^ C WMD AE—M ARWOL AETH SYDYN.

ABERAMAN.- YSGOTl SABBOTHOL…

- CWMAMAN, SIR GAER.

[No title]

[No title]