Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

L'ERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

L'ERPWL. [ODDIWRTH BIN GOUEBYDD CYSON.] A I ARDDAXGOSFA'R DIAFOL. DYDD Llun wythnos i'r diweddaf, agor- wyd gweithrediadau y Frawdlys yn L'erpwl, ac yr oedd y diafol—penciw- dawd yr arddangosyddion—wedi llwyddo i grynhoi yn nghyd dyrfa fawr o'i was- anaethwyr, er mwyn amlygu i'r byd pa fath ddylanwad sydd ganddo ef ar fywyd ac ysgogiadau rhyw ddosran o'r hil ddynol. Yr oedd wedi dwyn ei luoedd yn nghyd o'r Eidal, Almaen, Caledonia, Lloegr, ac wrth gwrs yr oedd plant anystywallt gwlad Erin yn sefyll ar y tir uchaf ac anrhydeddusaf (?) a feddai mych-deyrnach Hades Mor belled ag y gwn i, nid oes son am un Cymro wedi derbyn diploma gan gre- awdwr yr arddangosfa hon; diau fod yma rai o hil Gomer, ond nid yw'r diafol yn meddwl gwneud un sylw neill- duol o honynt, gan na warthruddasant ddigon ar eu gwlad a'u pobl i ychwanegu dim at gythreuligrwydd damcaniaethol diabolos! Yr oedd y Barnwr Archibald yn Llys y Frenines a'r Barwn Huddle- ston yn Llys y Man Achosion, ac y maent wedi bod wrth eu gwaith yn arolygu gweision a gweithrediadau'r diafol drwy yr wythnos. Yn Llys y Man Achosion. ar yr lleg eyfisol, o fiaen y Barwn Huddleston, ymdriniwyd ag achos tor-priodas, a pharodd yr holiadau, yr atebion, a'r personau ag oeddynt yn nglyn a'r ymchwilbeth hwn, rhyw ddy- lifoedd o ddifyrwch, a rhaiadrau ystormus o c-hwerthin, i'r dorf a wran- dawai y cynghaws. Yr oedd yr erlynes yn fam i saith o blant, ac yn 32 mlwydd ced, tra'r oedd y nwyfus Lothario yn 42 oed. Ymddengys hefyd fod "Lotha- rio yn damaid o fardd, braidd mewn gogyfartaledd i awdwr Don Juan," a phan ddarllenai Mr. Smith, cyfreithiwr yr erlynyddes, y poeticus, a ddan- fonodd y diffynydd ar wahanol adegau idd ei gariadwraig, yr oedd hwrdd-beir- ianau chwerthinyddol y gwrandawyr yn bygwth dymchwelyd colofnau preiffion St. George's Ball, gan aruthrolrwydd eu godwrdd aflywodraethus. Pa fodd bynag, collodd y gariadwraig aml-gariadon y dydd yn yfflon, ac mae'n syn genym feddwl fod un fenyw yn ei synwyrau wedi ymdrochi moreithafol yn ngharth- ffosydd h lerllugrwvdd, yn beidclio dwyn cynghaws yn erbyn neb, a hithau, yn ol ei chyfaddefiadau gwirfoddol ei hun, wedi arwain eyfran helaeth o'i hoes mewn anlladrwydd ac anniweirdeb gwaradwyddus. Yn wir, y mae digon o haiarneiddiwch a chythreuligrwydd mewn ambell i fenyw i eistedd wrth ystlysau angylion, tra mae'r diafol a'i osgorddiuoedd yn cynal cyngherddau yn eu calonau! Y mae yma luaws o Sala- manderiaid i'w eyhuddo o lofrudd- iaethau, ond 03 ymddygir atynt mor lawysgafn ag yr ymddygwyd tuag at y rhai agyhuddwyd eisoes, ni fydd yma un galw am weinidogaeth Marwood, Cal- craft, Evans, nag un o grog-raglawiaid hen deyrn-ddifrodwr dynoliaeth. Caf- odd yr anghenfil Gwyddelig, Michael M'Mahon, 21 mlwydd oed, ei alltudio am ei fywyd am wanu dyn o'r enw Michael Jennings a chyllell, yr hwn a fu farw mewn canlyniad; yr oedd Michael M'Mahon mor dorsyth ac hunan-feddianol aguno dduciaid Edom, pan gyhoeddodd y Barnwr y ddedfryd uwch ei ben, a gwawd-chwyrnodd wrth fyned allan o'r prawf-gist,—" Byddai yn well genyf fyned i ddwylaw crogwry gyfraith, na dyoddef alltudiaeth am fy I oes." Dyna farn unplyg un o Royal Artillerymen y fagddu yn arddangosfa y diafol yn L'erpwl! Y mae gan y barnwyr dysgedig, y cyfreithwyr, a'r I dadleuwyr, waith hirfaith ac Alpiaidd o'u blaenau ac mae'n amlwg, wrth ym- ddangosiadau materion yn awr, na or- phenant am naw diwrnod, neu bythef- nos eto, canys yma ceir- Lli.friiddiaethfiu, dynladdiadau, rmgyrcbiadaú ]Íym-grocbwawdwyr; I'sheiliadaeth, ty-dormdaeth, Anudoniaeth anwn-danwyr I'ssrariadneth, deifiol gtbldraeth, Wawch! ami wreigiaeth chwiwol rwygwyr; Ty-losgiadaeth, babau-guddiaeth, A threi*i<idaeth eres hudwyr! Gan fod Babilon fawr y llongau yn mhell iawn oddiwrthych chwi yn y Ddeheubartheg yna, afraid ac afresymol rhoddi manylrwydd llythyrenol am y carcharorion un ac oil yn yr arddangosfa hon, ond mi ofalaf am ddanfon i chwi bobpeth 0 ddyddordeb cenedlaethol yn brydlawn a diorchudd.

Y MILWRIAD VALENTINE BAKER.

MULTUM IN PARVO.

DOSBARTH LLWCHWR.

AT LOWYR LLANELLI A'R CYLCHOEDD.

LLYTHYR.AU CARDI.

Y DALL YN CAEL EI OLWG.

LLYTHYR GWREIDDIOL.

CASTELL ABERYSTWYTH.

Y CYNHAUAF.

HELYNTION GWLAD MYRDDIN.

HIRWAUNWYSON AC ERYR MORGANWG.