Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

GOGONIANT DYN YN EI SYLWEDDAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOGONIANT DYN YN EI SYL- WEDDAU CYFANSODDOL. (Gan y .Parch. J. TV. Pugh, Abergwaun.) PENOD II. YN y sylwadau rbagarweiniol, ein bwriad oedd taflu golwg frysiog dros y cread, hyd nes y cyrhaeddem y gwrth- ddrych rhyfeddol yr ydym eisioes wedi ei enwi, i'r hwn y rhoed arglwydd- iaeth y bydysawd, yr hwn sydd yn sefyll yn debyg yn y byd hwn, fel y mae yr haul yn sefyll yn y gyfundraeth blanedol-yn ganolbwynt. Hawdd yw canfod rhywbeth tebyg i fynegfys ar bob peth daearol yn cyf- eirio at y canolbwynt, neu yr arglwydd, Dyn. Bellach, cymerwn Ragoroldeb a .gogoniant dyn yn sylfaen, neu yn bwnc ein hymddyddan. Nid amcanwn brofi ei uwchafiaeth ar yr anifail a ddyfethir trwy ei wrthgyferbynu ag ef, canys ystyriwn fod cymaint o agosrwydd elfenol rhyngddynt, fel nas gallwn, o ddiffyg gwybodaeth anianyddol, wahan- iaethu rhyngddynt. Oud y prif beth yr amcanwn ato fydd profi ei fod yn C' c) greadur yn meddu ar ragoroldeb a gogoniant yn ei sylweddau eyfansoddol. Amcanwn, hefyd, amddiffyn fod cyw- reinrwydd a rhyfeddodau gorddyfhion yn lluniad ei gorff, a'i fod yn dal cy- sylltiad uchela natur, ac wedi ei ben- odi a'i gymhwyso i weithredu mewn cylch eang yn ngraddfa bodolaeth. Crewyd dyn yn ddiweddaf oil o'r cre- aduriaid. Neidiodd y greadigaeth i fodolaeth wrth y gair Bydded, ond lluniwyd dyn o bridd y ddaear. Cyf- lawnwyd y cyfan o'r adeilad creadigol gyda manylwch dwyfol. Wedi hyny lluniwyd y preswylydd, yr hwn, pan y gwnaeth ei ymddangosiad a brofodd ei fod yn gampwaith (rnClsterpiece) y Duwdod. Y mae yn fyd ynddo ei hunan. Deil berthynas agos a natur -mae yn natur ynddo ei hunan. Ym- ddengys mai efe yw canolbwynt y greadigaeth. Ie, mewn gair, y mae nef a daear yn cydgyfarfod ynddo. n Efe yw y gadwen gysylltiol rhyng- ddynt. Mae yr olwg allanol arno yn hardd a mawreddog; yn sefyll yn unionsyth i fyny, o gorff lledgrwn, yn cael ei ategu gan ddwy glun o am- gylchedd cyfartal, a pha rai yr ym- symuda o fan i fan, yn ol ei ewyllys. Ar y corff hwn, eto, y mae dwy fraich a dwylaw wedi eu gosod mewn lie adclas i wasanaethu holl ranau allanol y corff, a pha rai hefyd y llafuria er cael angenrheidiau bywyd. Eto, yn goron ar y cwbl, y mae y pen o faint- ioli eyfartal i'r rhelyw o'r aelodau, yr 'hwn a gysyllta a'r corff gan y gwdcf trwy offerynoliaeth y gwahanol bibellau a gynwysa. O'r tu blaen i'r pen y mae y gwynebpryd, yn cynwys y genau trwy ba un yr ymbort'hir y ffroenau, trwy ba rai yr aroglir ac yr anadlir; y llygaid, trwy ba rai y canfyddir. Bob ochr i'r pen y mae y clustiau, y rhai a drosglwyddant swn i'r ymenydd o faintioli bychain. Mae y llygaid treiddgar a serchog sydd yn ei ben yn 1-1 profi ei fod yn greadur i dremio, syllu, a myfyrio. Wrth fraslinellu dyn yn allanol fel hyn, yr ydym yn canfod yn eglur ei ragoroldeb anghydmarol fel creadur, ac nis gallwn ymatal heb ddyweyd yn ngeiriau un awdwr campus, 0 bob adeilad a wnaed erioed, hwn yw y gorwychaf." Symudwn ychydig yn y blaen yn awr i sylwi yehydig ar yr adeilad rhag- orol hwn o fewn. Mae yn perthyn i'r corff dynol 198 o esgyrn, heb gyfrify danedd. O'r rhifedi hwn y mae 34 yn esgyrn sengl, a'r gweddill o honynt yn bara. Yr esgyrn yw y defnydd caletaf yn y corff, ao mor rhagorol y ffurfiant y ffram (skeleton) dynol. Maent wedi ,en trefau a'u gosod at eu gilydd i'r perffeithrwydd mwyaf. Y maent yn cael eu cyplysu yn nghyd gan rwym- y u ynau a madruddynau, ac mor esmwyth y gweithiant yn, ac ar eu gilydd, trwy offerynoliaeth y- dwfr sydd yn y cy- malau, yr hwn sydd yn effeithio ys- twythdra parhaus. Y gyfundraeth esgyrnaidd a ddyogela y rhanau byw- ydol hefyd, megys y galon, yr ysgy- faint, &c. Y maent yn amddiffyn y rhanau mwyaf gwanaidd hefyd, megys yr ymenydd a'r mer yspinawg. Yr esgyrn hefyd, mewn cysylltiad a swydd- ogaeth y cyhyrau, yw y cyfryngau ymsymudol, a'r moddion trwy ba un y mae y corff yn cyftawni holl ysgog- iadau a gorchwylion bywyd.

Gohebiaethau.

Y PABYDDION A'R BEIBL.

BWRDD UNDEBOL PONTARDAWE A…

'BAG-LAN.''

CYME RIAL)AU llYN OLÎ.

(10BMES YN NG-HYMRU. j

-----._----------L'ERPWL.

BEIRNIADAETH CYFAROD LLENYDDOL…