Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLWYNYPIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLWYNYPIA. MRI. GOL.Addewais y buaswn yn rhoddi i chwi hanes terfyniad erlyniaeth y bechgyn o bwll glo ager LlwynygK Cymaint oedd fy awydd am glywed yn*. .driniaeth y mater yn y llys," nes y pen- derfynais fyned i Bontypridd fy hun y tro diweddaf ond er fy siomiant, collais y fantais, oblegyd ni welodd y meistri na'u cyfreithiwr yn dda wneud eu hym- ddangosiad y tro hwn. Fel y dywedais, dau o'r pedwar achos a awd trwyddynt y tro cyntaf. Wedi i'r barnwr eistedd, gofynodd Mr. Woodward iddo am ei ddyfarniad ar yr achosion. Arolllaweroesbonioar y naill ran a'r lla.ll o'r gyfraith, a throi ol a gwrthol, fel pe byddai yn myned i ddweyd rhywbeth o'i anfodd, rhoddodd ei ddyfarniad o du'r gweithwyr; ac yn mhellach, dywedodd nad oedd yn ofynol myned drwy y ddau achos diweddaf, fod y dyfarniad yn cy- nwys y pedwar yn nghyd. Felly, dyna fuddugoliaeth lwyr i ni ar domen y meistri. Diamheu mai da oedd y gwaith o ddwyn cyfreithiwr dyeithr i Bontypridd i ymdrin a'r achos hwn. Heblaw fod y in ar led fod ofn yr hen wr gwyn' ar y dyfreithwyr cartrefol, yr oedd y pwysig- rwydd mwyaf ynddo i ni fel dosbarth o weithwyr. Pe buasem yn colli, ni bu- asem yn gwybod, wrth fyned at ein gwaith y boreu, pa un ai halio, drwso, neu lahro fuasai ein gorchwyl am y dydd. Ond am unwaith eto dyma'r cwestiwn wedi si setio, a ninau yn rhyddion ac yn ein rhyddid ni, diau fod rhyddid mil- oedd glowvr y wlad yn gynwysedig. Y mae clod nid bychan yn ddyledus i Mr. Woodward, cyfreithiwr, am y modd deheuig yr ymdriniodd a'r achos. Nid oes amheuaeth yn Aeddyliau neb yma na fuasid wedi colli yr achos y diwrnod cyntaf oni buasai am ryw wrthwyneb- iadau a daflwyd ganddo ef. Nid oes yr un gronyn llai, eilwaith, yn ddyledus i Mr. W. Abraham (Mabon), am y rhan a gymerodd ef yn y mater; profodd add- fedrwydd barn, a chymwysder at y gwaith, yn newisiad ei gyfreithiwr, a'r tystion a barotodd aty gwahanolfaterion. Ni buasai'r gwaith mor rwydd i'r cyf- reithiwr pe buasai heb y cymorth a gaf- odd gan Mr. Abraham. Chwareu teg i bawb • ac os dywed y Sais, 'Let the d——1 have his due.' Er nad wyf yn mhlith y rhai hyny sydd wedi bod yn haner addoli y blaenonaid Undebol, eto teg yw addef fod y lofa hon yn neillduol wedi cael gwasanaeth pwysig oddiar law Mr. A. er pan y daeth i'r Cwm. Er cymaint sydd yn ddyledus i'r ddau a enwyd, eto y mae mwy yn ddyledus i'r gwirfoddolion hyny a anturiasant fyned yn dystion yn yr achos yn erbyn y cwmni. Trueni meddwl fod y fath ys- bryd cenfigenllyd a gormes ymosodol yn y meistri yn ngwyneb hyn er hyny. Y mae pump o honynt wedi cael rhybydd- ion i ymadael a'r gwaith. Mae yn an- hawdd meddwl beth fynent i weithwyr wnend mewn achosion o'r fath, os nad gorwedd i lawr a boddloni cael eu dam- sang dan draed, heb gynyg un gwrth- wynebiad o gwbl, beth bynag fyddo yr ymosodiad o?u tu hwy. Yn yr achos hwn, fel y mae'n hysbys, hwy ddechreu- asant yr ymrafael: y manager gyfnewid- iodd huriau y dryswyr yn nghanol y mis, a rhybydd ganddynt i fyny yr un pryd fod yr holl gvtundebau i derfynu ar ddi- wedd y mis hwnw. Gweithred, a dweyd y lleiaf am dani, ag oedd yn dangos diffyg synwyr a bam yn y sawl a'i gwnaeth. Hwy drachefn dynodd^y summons; nid oedd genym fel gweithwyr ddim i'w wneud ond amddiffyn, ac ni ellid amddi- ffyn heb gael tystion, ac am fyned yn dystion dyma bump o n cydweitnwyr yn debyg o gael eu taflu allan o waith am gryn dymor; oblegyd unwaith y bo dyn yn cael ei droi allan y dyddiau hyn, camp iddo yw cael myned i mewn i un lofa arall. Dyna, gwelli minau dewi, neu gall na fydd fy eisieu inau yma yn hir, oblegyd nid ydynt yn fyr o weision i'w hysbysu, yn rhad, pwy sydd yn dweyd ac yn neud pobpeth. Ond ni waeth genyf t fydd fy hoedl yn Mr yma eto; oher- wydd ni allaf ddal fy nhafod nemawr pellach, ac unwaith wedi dechreu siarad, bydd yn bryd casglu'r offerynau. CARWR CYFIAWNDER.

EISTEDDFOD CWMAMAN.

IEITHYDDIAETH GYMREIG.

GORLIFIAD GLOFA YN Y IRHONDDA.

AT LEWYS AFAN ETO.