Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
AT LowYR DOSBARTH ABERDAR…
AT LowYR DOSBARTH ABERDAR A MERTHYR. Cynelir ein cyfarfod misol ddydd Llun nesaf, Tuawrth y 5ed, yn y Mount Pleasant Irn, Cwmaman, i ddechreu am 10.30. Dymunwn geisio gan holl lowyr Dow- lais, Merthyr, ac Aberdar, i gofio am y cyf- arfod pwyeig a gynelir nos Sadwrn nesaf, Mawrth 3ydd, yn y Globe, Merthyr, pan y dysgwylir ein dau Aelod Seneddol i fod yn bresenol. Gobeithiwn y bydd i bob glofa anfon eu cynrychiolwyr yno. Dechreuir y cyfarfod sm bwmp o'r gloch. YSG.
1CvFRINFA COEDWYR A RIPWYR…
CvFRINFA COEDWYR A RIPWYR CWM ABERDAR. Frodyr, — Bydded hysbys genych y cynelir ein Cyfarfod Misol y tro hwn, boreu dydd LIun nesaf, Mawrth y 5fed, 1894, sef Llun Mabon, yn y lie arferol, i ddechreu am 9 o'r gloch. Cofied y cy- feillion i fod yn amserol, am y byddis yn terfynu am ud-ar-ddeg o'r gloch. YSG.
CYFARFOD MISOL Y CAMBRIAN.
CYFARFOD MISOL Y CAMBRIAN. Cynaliwyd Cyfarfod Misol Cymdeithas Lofaol y Cambrian, yn y lie arferol, ddydd Llun diweddaf, dan lywyddiaeth Mr Eli Holley. Yr oedd nifer mawr o gynrych- iolwyr wedi dyfod yn nghyd, ac hefyd yr oedd Mr Abraham a Mr W. Evans, y gor- uchwylwyr, yn bresenol. Yr oedd glowyr Blaenycwm, 300 mewn nifer, yn gofyn am eu hail dderbyn i'r gymdeitbas, yr hyn a ganiatawyd. Daeth achwyniad oddiwrth lowyr Ynysfeio, sef fod y swyddogion yno yn gorfodi y gweithwyr i gymeryd glo tai at eu gwasanaeth o lefel y Crown, yn lie glo Ynysfeio fel arfer. Credai Mabon fod hyn yn doriad ar yr arferiad, a throsglwydd- W j P^.nc i'r goruchwylwyr. Rhodd- wyd ystyriaeth pellach hefyd i annealldwr- iaeth glofa y Caerau, yr hwn a ohiriwyd. PeDderfynwyd-, Pod yn ddrwg gan y 'I cyfarfod hwn i gael ar ddeall fod y coed- wyr yn nglofa Abergorci yn cael ei gorfodi i ddwyn y coed sydd yn angen arnynt at eu gwaith, yr hyn sydd yn hwyhau yn fawr eu hamser gweithio. Fod yn ddrwg gan y cyfarfod befyd i hysbysu y gynrych- iolaeth a fu gyda'r goruchwylwyr, eu bod, I fel ami i lofa arall, wedi gadael y dos- barth yn ystod cynhwrf y Federation, a thrwy hyny heb hawl i amddifiyniad y cyf- ryw yn yr adeg bresenol o angen. Ei fod yn mhellach yn gobeithio y gwel y lofa ei ffordd yn glir i ail-ymuno a'r dosbarth, fel ag i bawlio cynorthwy y goruchwylwyr i roddi terfyn ar arferiad a all fod yn faich I ar yr holl ddosbarth, ac yn doriad ar y cytundeb a fodola yn bressnol rhwng; meistri a gweithwyr, yn gystal a'r gyf- raith. Treuliwyd cryn amser i ystyried yr an- nealldwriaeth o barthed prisiau yn nglofa Tylorstown 6r pan y daeth y cyfryw yn eiddo cwmni Ferndale, a phenderfynwyd— I Fed y cyfarfod hwn yn gosod y pwnc o 'I gyfnewidiad prisiau yn nglofa Tylorstown yn nwylaw goruchwyliwr y Dosbarth, gan y credir fod hyny yn doriad ar gytundeb y Scale a chyfraith y tir.
. MERCH GOLLEDIG 0 DOWLAIS.
MERCH GOLLEDIG 0 DOWLAIS. Y mae merch ieuanc o'r enw Miss Katie Conway, 18aw oed, perthynol i deulu Balaclava House, Dowlais, yn awr ar goll, a phrydjfcr mawr yn cael ei deimlo mewn perthynas a hi. Gadawodd am Mertbyr boreu dydd Sadwrn mewn cerbyd. Anfon- odd y cerbydwr a'i bocs i dy yn High Street, Slerthyr, a phan y daeth y dyn allan o'r ty, yr oedd y ferch wedi ei cholli. Yr oedd hyn oddeutu haner awr wedi un- ar ddeg o'r glooh boreu dydd Sadwrn, ac nid bes dim wedi ei wybod am dani wedi Iryrf, ganlyn ;sydd gopi 0 nodyn n. adawodd ar ei hoi yn ei chartref,— Ffarwel; erbyn y byddweh wedi darllen y nodyn hwn, byddaf yn farw. Nid oes arnaf ofn marw, ond y mae arnafn ofn byw. Yr ydwyf wedi bod ar ffordd rhywun er pan yn y byd, ond yn awr ni byddaf ar ffordd neb. Yr ydwyf yn flin- edig iawn, ac y mae marwolaeth yn gwsg hir. Nid ydych chwi na neb arall yn deall y poen yr ydwyf yn ei ddyoddef. Y mae fy ymenydd ar dan, ac y mae y dwfr yn oer."
Advertising
Yr Anwydwst (INFLUENZA). Yn difrodi ac anrheithio! Miloedd yn dyoddef! Er pan ymlededd yr haint hwn dros ein gwlad bedair blynedd yn ol, derbynir ad- roddiadau 0 bryd i bryd ei fod yn ffynu yma ac acw mewn gwahaool fanau ar hyd a lied y wlad. Y mae yn ymledu yn gyflym iawn eto y gauaf presenol, gan ddifa eysur miloedd o deuluoedd. Dylai pawb sydd yn ago-red i anwyd ac oerni gymeryd rhagocheliaclau prydlon i geisio atal ymos- odiadau a hono. Ei ARWYDIHJN. Y mae yr arwyddion a'i ragflaenant yn gyffelyb i arwyddion anwyd trwm, gyda chryndod a chwys bob yn ail, y ffroenau yn rdedeg, tisian/a chnr yn y pen, neu y rhai canlynol poen yn y cefn neu rhwng yr ysgwyddau, caethdra anadl, teiinlad b'in- edig. digalon, a diyni, ac ise der ysbryd. Os nodweddir eich anhwyldeb gan rai o'r arwyddion byn, gellwch fod yn sier mai rhagflaeniaid yr ANWYDWST ydynt, a dylech geisio meddyginiaeth briodol ac effeithiol i atal ei ymosoiiad yn ddioed. Cytuna meddygod goreu Lloegr a Ffrainc mai QUININE yw yr unig feddyginiaeth ddyogel a sicr, a'i fod hefyd yn gyflyr ataliol effeithiol. Caf- wyd prawfion eglur hefyd mae y dull goreu i weinyddu Quinine yw yp y ffurf 0 QUJMNE BITTERS GWILYM EVANS, yr hwn sydd yn cynnwys Quiniue mewn undeb ag elfenau iachaol ac adgryfhaol y prif lysiau meddyginiaethol sydd yn adna- byddus. Hwn yn ddiaa yw MEDDYGINIAETH OREU YR OES. V/ • ZC) Mill •— Z j; ■ Ii llHlr Hinnlll |1| Z ■ t o -@VIA 2 « 2 Si jfl s, S k •SH™ I 3 Ch' These pro- mul U Hr-1 C J M' saoteattdfacilitjitectrcuiaJtLoii.strong- J wk(tl]?i, "I » thenthermrreaaud muscles, purifythe J rr\ II blood, and brace up the system er;'ne- | ij ij H hi \JJ III rally. As a purely Ve^e-fablc Tonic {jr- !!f | |jj- thev hero no equal. Being gifted with jjjjpijm |j highly touic and' digestive properties i!j H lj| they are peculiarly adapted to ptwaons ji :|j| hi suflrering from di?pressk>n of spitits, "I ui j, nervous relaxation, muscular woak- jlj' !i|i| m ness, flatulency, disturbed sleep, head- liil iHilli 1 ache, and all Affections of the liver. | j'|J| f| IXJSIZ.—One t;rtd(?-*poo;Jful in an eqnui quan- }| ii< |j tity ofcoF.' w ter, tliree Cfhies dAily.orte hour Ijjl llj j beforenieEJ., Ohildnm, b:ijf tbe alo.-egmmttty ill! ijj jj r onlt bt |i|j ijjjj fh QUININE BITTERS MANUFACTURING iff f COWPANV, LIMITED. U X.LANELLV. SOUTH WALES. | in 1 'urn I 11 ifi .L. lllllrr1^ Y mae pawb yn ei ganmol. Nid y byth yn siomi. BITTERS « ?WILYM FVANS TYSTIOLAETHAO. Berkeley Road, Bristol, Mehefin ISfed, 1891. Anwyl Syr,—Yr wyf wedi bod yn wael iawn dan yr Inffiaenza, yr hyn a ddilynid gan lid ar yr Ysgyfamt. Tair wythnos yn ol yr oeddwn N mewn cyflwr peryglus, a bron yn anobeithiol. Pan aeth y perv-g] heibio yr oeddwn mewn gwendid mawr. Tua pythefnos yn ol, dywed- H odd y meddyg fod yn rhaid i mi gael rhyw feddyginiaeth adgryfhaol (tonic) da. Gofynais iddo A wnai Quinine Bitters Gwilym Evans ateb y dyben V Dyna'r peth i'r dim,' meddai, 32 Ieymerwch ef dair gwaith yn y dydd.' Yr wyf k; wedi ei gymeryd yn gyson a rheolaidd er y fi pryd hwnw, ac y mae wedi gwneud lies dirfawr {* i mi. Teimlaf fod fy aelodau yn adenill eu F nerth, fy ysbryd yn bywiogi, a'm holl gyfan- Z soddiad yn cryfhau. Nis gallaf ganmol gormod ar y Quinine Bitters. Yr eiddoch yn ddidwyll, B. P. CHICK. BITTERS GWILYM EVANS RHYBUDD. Gochelwch dwyllwyr. Edrychwch fod anw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp, a photel. Gwerthir ef mewn poteli Ill!, 2{9, a 4/6 yr un; blychau yn cynwys tair potel 4/6 am 12/6. I'w gael yn mhob man, neu danfonir ef yn rhad am y prisian uchod, yn ddyogel drwy y post, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion Qttinifie Bites Manufacturing Co,, (LIMITED), LLANELLY, SOUTH WALES. Prif oruchwyliwr yn America,— R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. 0 Bwys Mawr. 'L Y mae yn hollol wir fod canoedd o fywydau wedi cael eu cadw drwy gymeryd HUGHES'S DROPSY PILLS Y mae y clefyd hwn, yn ei wahanol ac am- rywiol ganghenau, yn achosi poenau ac an- hwylderau peryglus, ac y mae o'r pwys mwyaf i bob gwr a gwraig, m !b a merch, ps feddyginiaeth i'w chymeryd er eu hiachau pan yn cael eu blino gan Dropsy, Diffyg Dwfr, Gwynt, Chwydd y Traed, Coesau, a'r Bol, Cramp, Curiad y Galon, Poen Pen, Gordewdra Afiach, Diffyg Anadl, Gorffrwymedd, GrafeL Llais y Bobl. Mwy Gwerthfawr nac Aur. Syr, Y mae eich Hughes's POEN Dropsy Pills wedi cael effaith ARENAU. braidd yn wyrthiol arnaf. Yr wyf wedi bod yn dyoddef am fiynyddoedd gan boenau dir- CRAMP. dycol yn yr Arenau, Grafel, & phoenau gresynol yn y Pen, mi a gefais esmwythad gan y GRAFEL. dose gyntaf, ac ar ol cymeryd y blychaid yr oeddwn yn teimlo yn well nac erioed. ASTHMA Pob moddien arall weiii methu gwneud dim Ilea. iU&put yn haeddu pob clod, ac y 11 1* y POEN PEN. gwerthfawr nac aur. ARTHUR DUOWI- Ship Hotel, Bristol. Hughes's Dropsy Pills. Dim Meddyginiaeth Tebyg ar y ddaear. CLEFYD Syr,—Yr wyf yn dymuno BENYWAIDB. tystiolnethu i'r daioni mawr a dderbyniais drwy gymeryd eich Hughes s Dropsy Pills. Dynes GORDEWDRA. ieuanc ydwyf, 18 oed, wedi bod yn dyoddef yn en fa wr oddi- wrth gle(rclau tueddol i'r rhyw NYCHDOD. fenywaidd, wedi cymeryd braidd pob meddyginiaeth. Gallaf yn ddibetrus ddweyd CHWYDDIANT nad oes eu tebyg ar y ddaear i'r rhyw fenywaidd. Wedi bod yn dyoddef Ilaw^r gan Nvch- ISEL YSBRYD. dod, Iseldfer Ylajd, a Diffyg Treuliad. Wedi cymeryd eicb Pills, yr wyf wedi fy adfywhau, DIFFYG ac mor iacb ag erioed. TREULIAD. PVGSIXA MICHAEL. 20, New Quay, Bath. Hughes's Dropsy Pills. Pur angenrheidiol i'r Rhyw Fenyw- aidd tuag sicrhau iechyd. z: [ Yn ddiodi danfoner am danynt, eich gwellhad fydd yn sicr. Fe ddylai pob dynes eu cymeryd yn ach- lysurol. RHYBUDD. Jy « Er lIIWYU sicrhau pawb ./■X rhag twyll, gofaler cael ;v y Trade Mark hwn (sef ic llun Diamond) a'r geir- jf' iau 'Dropsy Pills' oddi fewn ar bob blwch, a enw Jac0^ Hughes' ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am iAi 2/9, a 4/6 trwy y post, 1/3, 2/11, a 4/6 oddiwrth y Perchenog, — Jacob Hughes, Manufaéturing Chemist, b PENARTH, CABDIFF Y MOR MAM i. Yn rhoddi i fyny ei drysor goreu er iachau dyn. Wrth chwilio go- Tr European Medical So ciety, daeth ar nyd i Wymod o F6r_ Nor- way, yr hwn a gynwysa feddyglyn effeithiol, a'r hwn, mewn undeb ag Extracts 0 lysiau nodedig o lanau Mor Pacific a wna i fyny SEA WEED LUNG LIFE Y feddyginiaeth mwyaf nerthol ac efleithiol a welodd y byd erioed at glefydau y gwddf, y frest, a'r ysgyfaint. Fe ddylai pob dyn a dynes, mab a merch, phlant cymeryd Sea Weed Lung 1 ife. Fe a wellha yn uniongyrchol beswch ac an- wyd, Bronchitis ac asthma, erygni, influenza, croup, a dolur gwddf, ac yn dra effeithiol er rhagflaenu y Darfodedigaeth. Felly gofyner ar unwaith am botelaid o Sea Weed Lung Life gan y Chemist neu unrhyw Patent Medicine Dealer. Bi bris yw 2/9 a 1/1 £ Mynwch gael yr enw yn llawn ar bob hotel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall. Os bydd trafferth i'w gael, danfoner Stamps(3/- neu 1/3) at y perchenog, JACOR HUGH E8, Sea Weed Lung Liie Depot, PENARTH, CARDIFF yr hwn a'idanfona gyda throad y post.
Advertising
WILLIAMS," ^jyATCHMAKER & JEWELLEB, 29,Castle Street, Swansea Gymry hoff I de'wch at yCymro, Os am heirdd fedrwysuaur; OriaduroB ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau cJaer. Yspectol gelfydd, hin-fyBegydd, Gwres-fesurydd, ewmpa. wd m6r; Geir gan WILLIAMS, Heol-y-Castall, Trowch i mewn i wel'd ei 'stor.
NODION AMRYWIOL.
NODION AMRYWIOL. Z MAE Dr. Talmage wedi pendarfynu meryd taith o gwmpas y byd, ac ar y ith hono efe a ymwel a Llundain. Y MAE Brenhines Itali wedi cyhoeddi jvyddyn 0 hunan-aberthiad arni ei hun. mae yn bendertynol o beidio prynu rluniau, gemau, &e. t DAKFU i'r Parch. D. W. Jenkins, offeir- 1 St. Mary, Penfro, fedyddio Miss oyd, Oxland, yn yr eglwys hono, pryd- .wn dydd Merther diweddaf, trwy droch- d. Y mae rheolau yr eglwys yn can- tau y naill ddull fel y Hall. CREDin yn awr nad oes amheuaeth na dd i Jabez Balfour gael ei drosglwyddo r awdurdodau Prydeinig, ac y bydd yn an ar ei ffordd i'r wlad hon. Y mae yn cr erbyn hyn fod y cyhoedd wedi colli y ira o £5,417,117 trwy y Liberator. Y MAE gweithiwr alcan o'r enw John owen, Llanelli, wedi cael ysgariaeth idiwrth ei wraig, ar y tir o odineb Fe paeddodd y fenyw fyw gyda'i gwr, ac er yny y maa wedi rhoddi genedigaeth i lentyn nad yw ei gwr yn dad iddo. Y MAE un peth hynod yn perthyn i Sir i*/nwy. Y mae tafarndy yn eael ei gadw no gan wryw a benyw sydd yn ddirwest- ryr gweithgar. Y mae y gwr yn ysgrif- nydd cymdeithas ddirwestcl, ac yn ami y aae siaradwyr dirwestol yn aros o dan eu ronglwyd. Y MAE yn dda genym ddeall fod son am dr.Wynford Phillips fel ymgeisydd Rhydd rydol dros Sir Drefaldwyn jD yr ethol- ad nesaf Y mae sedd y bwdeisdrefi lyn yn sicr ond cael ymgeisydd cryf, ac ni jllid dymuno neb yn well na Mr. Wynford Phillips a'i briod at y gorchwyl. Y MAP ynad y Rhondda-Mr. Ignatius Williams, wedi tynu sylw at lampau cyff- redin y glofeydd, y rhai nad yw y clo sydd arnynt ond gwegi pan yn Dwylaw umhyw an a chwenycha eu hagor. Y mae yn sicr y dylai clo lampau dyogelwch fod yn rhyw- beth amgen nag a ellir ei agor a darn o bren, hoelen, neu gyllell. YN llys ynadol Castellnedd, ddydd Mercher diweddaf, cyhuddid nifer o drig- olion Seven Sisters o dori clo perthynol i Reilffordd Castellnedd ac Aberhonddu. Wedi gwrandaw yr achos, penderfynodd yr ynadon nad oedd yr achos yn un y galient hwy roddi barn arno, ac felly cafodd yr achos ei daflu allan ganddynt. BOREU dydd Sadwrn diweddaf, yn Dgorsaf Llanelli, bu farw yn hynod ddi- symwth labrwr o'r enw David Evans, alias Dai Sachel, yr hwn oedd yn ngwas- ahaeth cwmni y reiiffordd, ac wedt'myweoi i Llanelli i wneud gwaith 0 dan y cwmni. Bu farw bron mor gynted ag y cyrhaedd- odd y gerbydres. Yr oedd yn 33 oed, ac yn byw gyda'i fam weddw a dall yn Melincrythan, Castellnedd. PRYDNAWN dydi Sul diweddaf, cafwyd I -corff un Thomas Evans, 45 oed, peirian. ydd, yn grogedig yn closet ei lety, 4, Company Street, Resolfen, wedi cyflawni hunanladdiad. Dywedai Mrs. Jones, gyda yr hon y Iletyai, nad oedd hi wedi gweled dim yn anarferol yn ei ymddygiad pan yn myned i'r capel, ond pan y daeth yn ol, fod llythyr ar y ford, yn hysbysu ei fod yn myned i gyflawni hunanladdiad a pha le y celid ei gorff. Fod y trancedig wedi bod yn wael ei iechyd am fisoedd, ac yn frodor 0 Glynnedd.
Advertising
WILLIAMS. I irgest Stock in Wales. VCT. GOLD ^YEDDING JJINGS 11 ISCT. GOLD TfEEPERS- NGLISH pATBNT LETRRS A T C H E S RAZILIAN CRYSTAL SPECTACLES 29, Castle Street, Swansea.
CYFARFOD Ml SOL Y GLOWYR Y…
CYFARFOD Ml SOL Y GLOWYR Y GLO CAREG. Cynaliwyd y cyfarfod uchod dydd Gwener diweddaf, yn y lie arferol yn Brynaman, dan lywyddiaeth Mr David Morgan, o lofa y Rhos, pryd yr oedd 30 o lofeydd yn cael eu cynryehioli. Yr oedd y cyfarfod hwn wedi ei alw dydd Gwener, er mwyn cael barn y dosbarth i fyned i Gaer- dydd dydd Sadwrn, pryd y dewiswyd Mri David Morgan, y Rhos, a David Basset, Cwmtwrch, i gynrychioli y dosbarth yn Nghaerdydd, ac i roddi eu pleidlais ar ran y dosbarth hwn, dros beidio rhoddi rhybydd i derfynu y Sliding Scale ar hyn o bryd. 2. Dewis Cadeirydd sefydlog i gyfarfod misol y Dosbarth.-Gan nad oedd ond yoh- ydig o'r glofeydd wedi bod ar mater dan ystyriaeth, gadawyd y cynygiad i syrthio ar hyn o bryd. 3. Penderfynwyd—Nad oes neb o hyn allan idderbyn unrhyw fath o dal o'r dos- barth am roddi Adroddiad o Archwiliad y llyfrau nac unrhyw adroddiad o gyfarfod ydd, neu unrhyw wasanaeth i'r dosbarth, os na fyddant wedi cael eu hawèurdodi gan y cyfarioa misol, yr Agent, neu swyddogion y Dosbarth, a hyny yn unol a reolau y dosbarth, sef fod gwir angen am hyny, yn apsenolaeb cyfarfod misol. 4. Caniatawd i weithwyr Cae'r Bryn i roddi rhybydd os na allant gytuno ai List y prisoedd heb hyny, a bydd iddynt hefyd gael gwasanaeth y Cyflafareddwyr os cytunant a'r meistri i hyny yn ystod y rhybydd yn hytrach na stopo. 5. Fod y cyfarfod hwn yn cyngori gweithwyr Amanford i wneud un cynyg yn ychwanegol cyn galw y Cyflafareddwyr na rhoddi rhybydd, ac yn eu cymeradwyo am wrthod caniatau yr hyn a geisir ganddynt gan y cwmni fel y ceisiwyd ganddynt. 6. Fod y cyfarfod yn condemnio ym- ddygiad Goruchwyliwr Abercrave am gynyg tynu allan yr hyn a arferir dalu am sefyll pyst. 7 Fod y cyfarfod yn" anghymeradwyo ymddygiad gweithwyr Gellibeudrim yn y modd mwyaf pendant am weithio dydd Llun Gwyl Mabon diweddaf, ac yn eu cyngori i adael yr arferiad os ydynt am fod yn aelodau o'r Dosbarth. E. BEES.
i CYNADLEDD GLOWYR Y SCALE…
i CYNADLEDD GLOWYR Y SCALE YN NGHAERDYDD. Cynaliwyd cynadledd o gynrychiolwyr glofeydd Deheudir Cymru a Swydd Fynwy yn Nghaerdydd ddydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw gan gynrychiolwyr y gweithwyr ar y Scale, ac yr oedd y cyfarfod yn un lluosog, yn cynwys yr holl aelodau. Trwy na chafodd cynrychiolwyr y wasg fynediad i'r cyfarfod, nid oes i'w gyhoeddi ond yr adroddiad swyddogol. Yr oedd 89 o gynrychiolwyr yn bresenol, yn cynrych- ioli 55,547 o weithwyr Llywydd y cyfar- fod oedd Mr. W. Abraham (Mabon), a llenwid yr is-gadair gan Mr. D. Morgan, Aberdar. Wedi ethol Pwyllgor Tystys- grifau y cynrychiolwyr a'r cyfrifwyr, hys- byswyd fod Mr. Parsons, archwiliwr Ilyfrau y meistri ar ran y gweithwyr, yn bresenol, a phenderfynwyd ei fod i barhau yn y cyfarfod nes rhoddi yr eglurhad a ofynid ar yr adroddiadau a wnaed o barthed glo neillduol, sef y glo a enwir C.I.F. Dywedodd Mr. Parsons fod yr I hyn a ddywedwyd gan Mr. Allen Upward o barthed yr archwiliad, yn ei araeth yn y Porth, heb ronyn 0 wirionedd ynddo. Penderfynodd y gynadledd nad oedd sylw pellach i'w gymeryd o'r hyn a ddywedodd Mr. Upward, gan y credid mai ei amcan mawr oedd dyfod i sylw a chyhoeddus- rwydd. Wedi i Mr. Tibbot, Ferndale, alw sylw at y ddau adroddiad gwahanol a gafwyd o barthed i'r cyfrifolygiad, dywedodd Mr. D. Morgan fod Mr. Daronwy Isaac, Mr. Onions, ac yntau wedi eu neillduo i weled Mr. Parsons o barthed archebion y C.I F. Ar yr adeg hono nad oedd Mr. Parsons yn glir iawn ar gyfanswm glo y C.I.F. a adawid allan o'r cyfrif, ond mewn cyfarfod dilynol, ei fod wedi dweyd fod yr oil o'r adawid allan o'r cyfrif, ond mewn cyfarfod dilynol, ei fod wedi dweyd fod yr oil o'r cyfryw lo yn cael ei gymeryd i mewn. Ei fod wedi dweyd hefyd fod ychydig o'r C.I.F. yn cael ei adael allan, ond na fuasai hyny, yn ol ei farn ef, yn gwneud unrhyw wahaniaeth yn y cyfrifon. Mewn araeth faith a gafwyd gan y cyfrifolygwr, hysbys oedd fod gan rai o'r masnachwyr werthfaoedd tramor, I ac yr anfonent lo i'r cyfryw werthfaoedd i'w stokio, a chan na werthent ef ar y pryd, fod yn anmhosibl dyfod o hyd i bris I y gwerchiant. Mewn atebiad i ofyniad, dywedodd ei fod yn cael llawn ryddid i holl lyfrau y meistri perthynol i'r Scale, ond nid i lyfrau neb arall. j Dvwo&A&,Uc; Abraham ei fod yn hoUol annheg i feistri ag oeddynt o'r tu allan i'r Gymdeithas i wneud sylwadau angharedig ar y Scale yn eu hareithiau, ac ar yr un pryd yn cadw eu glo o'r tu allan i'r ym- chwiliad, tra yn cymeryd mantais o'r Scale yn eu trafodaeth a'u gweithwyr. Wedi peth siarad pellach, penderfynwyd fod tystiolaeth Mr. Parsons i'w gyhoeddi, ac i'w ledaenu yn mysg glowyr Deheudir Cymru a Swydd Fynwy. Yn nesaf rhoddwyd o flaen y gynadledd y pwnc cyntaf ar y rhaglen, sef ystyried y priodoldeb o roddi rhybydd i derfynu cytundeb y Sliding Scale, ac os bernid mai hyny fyddai oreu, pa gynllun a fabwys- iedid i gael barn bersonol y glowyr o barthed i'r dyfodol. Wedi siarad maith a brwd, cynygiwyd y penderfyniad canlynol:—Fod y gynadledd hon yn barnu na fyddai yn ddoeth i roddi rhybydd j derfynu cytundeb y Scale, ac yn cyfarwyddo pwyllgor y gweithwyr ar y cyfryw (a) I geisio gan gynrychiolwyr y meistri i wella y cytundeb presenol fel ag i wneud y codiadau a'r gostyngiadau yn fwy ac yn llai am bob swllt yn mhris gwerthiant y glo. (b) Nodi iselfa 0 dan yr hon na chaniateir i'r glo gael ei werthu. (c) Apwyntiad canolwr er penderfynu pob pwrc nad ellid ei benderfynu gan gyn- rychiolwyr y ddwy blaid ar y Scale. Yn mhellacb, mai barn y cyfarfod hwn y dylai cynrychiolwyr pwyllgor y Scale roddi ar ddeall i'r meistri ei fod yn erfyn- iol obeithio y gwnant bob ymdrech yn eu phth eu hunain i roddi terfyn ar yr ym- gystadleuaeth ddinystriol sydd yn cael ei .7? yn mlaen o werthu o dan eu J?..?'u k°d fel gweithwyr yn barod i roddi iddynt bob cynorthwy er dwyn hyny oadiamgyich ac oni fydd i rywbeth gael ei wneud yn y cyfeiriad hwn, yr eifeithia yn niweidiol ar egwyddorion y Scale. Gwnawd dau welliant, sef, Fod rhy- bydd i'w roddi i derfynu y cytundeb," ac un arall, Fod y pwnc o roddi rhybydd i'w anfon yn ol i'r holl lofeydd, er cael ei benderfynu trwy y tugel; ond collwyd y ddau, a hyny gyda mwyafnf o 66 yn erbyn 15, tra yr oedd wyth yr arall yn neutrals, 0 barthed y pwnc 0 leihau y cynyrch, penderfynwyd gyda'r mwyafrif o 50 yn erbyn 19, nad oedd y pwnc i gael ei ystyr- ied y diwrnod hwnw, ac felly cafodd ei roddi o'r neilldu. Pasiwyd pleidlais unfrydol 0 gydym- deimlad a theulu y diweddar Mr. Josiah Edwards, Bute Arms, Aberdar, yr hwn a weithredai fel trysorydd y Scale er ei ffurfiad, a gofynwyd i Mrs. Edwards weithredu yn lie ei diweddar briod am y flwyddyn bresenol. Daeth gwagle Mr. Isaac Evans ar y Scale 0 flasn y gynadledd, yr hwn a ohir- iwyd hyd ddydd Sadwrn nesaf, gan fod y cyfarfod wedi ei ohirio hyd hyny, pryd y cymerir i fyny y pwnc o leihau y cynyrch, &c. Edrychai pawb yn falch 0 gyfarfod mor unfrydol—cyfarfod o'r hen ffasiwn, a theimlai rhai fod gobeithion gwell am Undeb Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, trwy fod Jonah neu ddau wedi llithro i'r (dyfnder, a. thrwy hyny fyned i'w lie eu hunain fel HWNW GYNT. Y rheswm a. roddid gan rai am gau allan gynrychiolwyr y wasg oedd, fod plaid arall, er nad oedd yn bresenol ond rhyw haner dwsin, yn gallu, trwy gyn- orthwy y wasg, wneud arddangosiad mawreddog, a fod pleidgarwch anonest a'r cyhoedd yn cael ei arddangos hyd yn nod gan ohebwyr newyddiadurol.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. PWYLLGOR GWEITHIOL DOWLAIS. Nos Fawrth, Chwefror 20fed, cyfarfu y pwyllgor uchod yn y Clarence Hotel, er parotoi ar gyfer Cyfarfod Caerdydd y Sadwrn dilynol. Wedi ymdrafodaeth ar y priodoldeb o anfon un o bob glofa i'r Gy- nadledd yn Nghaerdydd, daethpwyd i'r penderfyniad nad oeddem yn gweled gwir angenrbeidrwydd am hyny y tro hwn, gan mai pleidlais y gweithwyr oedd i bender- fynu y materion, a dewiswyd y pedwar canlynol i'n cynrychioli:—Thomas Evans, No. 1 Fochriw; Rees Lewis, Bedlinog; I Henry Williams, South Tunnel; ac Enoch James, No. 2 Fochriw. Yn nghylch yr achwyniad parhaus sydd yn erbyn rbai bechgyn, ac hefyd rhai mewn oed, o daflu ceryg a phethau ereill i'r cerbydau yn Bedlinog, yr hyn sydd o anghenrheidrwydd yn peryglu y rhai sydd tufewn, heblaw dryllio y ffenestri, pender- fynwyd fod y mater i'w yaiddiried i gy- nrychiolwyr Bedlinog i siarad a Mr Davies, y goruchwyliwr, yn ei gylch, ac os na fydd hyn yn effeitbiol i osod terfyn ar yr arferiad drwg hwn, fod y mater i'w osod yn nwy- law awdurdodau y gyfraith. Hwn fydd y rhybudd diweddaf yn nghylch yr achos hwn. Penderfynwyd hefyd ein bod yn cefnogi y cais a ddaeth yn nghylch gwneud Ustus- iaid Heddwch, a phenderfynwyd fod yr ysgrifenydd i anfon at sin haelodau sen- eddol i ddymuno arnynt ddefnyddio eu dylanwad gyda'r Arglwydd Ganghellydd i'r perwyl uchod. Wedi hyny buwyd yn siarad ar y priod- oldeb i'r pwyllgor ymgymeryd a chario allan y penderfyniad a basiwyd yn y cyf- arfod cyhoeddus nos Sadwrn, Chwefror 17eg, a'r hyn y cytunwyd heb fod neb yn tynu'n groes. Awgrymwyd amryw gyn- Huniau i gario hyn yn mlaen, ond ni pben- derfynwyd yn derfynol ar unrhyw gynllun. Cyflwynir cynllun yn fuan gerbron ein iglofeydd, a rhoddir amser priodol iddynt w ystyried,«ac yna byderwn y byddus yn ryo-),yw gynllun ag y byddwn yn alluog i gydweithredu i'w gario allan; hj d hyny, dymunir ar ein cyd weithwyr i ystyried y mater a pharotoi eu hunain erbyn yr adeg. 0 bosibl na fyddwn i gyd yn gallu cyd- weled ar yr un ffoidd neu gynllun o weithio allan undeb yn ein plith, ond yr oil sydd yn eisieu yw, bod yn ddoeth a cbwympo i mewn gyda'n gilydd, a chydweithredu i gymeradwyo yr hyn fydd er ein llesiant. eyffredinol. Ni ddywedwn ragor yn awr, hyd nes y bydd ein cynlluniau wedi eu gosod ger eich bron, gan hyderur y bydd i ni oil gofio yr hen ddiarheb mai Mewn undeb mai nerth." Gyfeillion, curwn yr haiarn tra fyddo'n boeth. T. P. WILLIAMS, Ysg.
ANNEALLDWRIAETH YN FERNDALE.
ANNEALLDWRIAETH YN FERNDALE. Mewn canlyniad i annealldwriaeth rhwng dosbarth o weithwyr gwythien y ddwy a naw yn mhwll No. 1, Ferndale, a'r swyddogion, o barthed i allowances, y mae 87 o'r gweithwyr yn awr ar streic. Bu y pwnc o flaen cyfarfod misol y dos- barte ddydd LluD, pryd y cafwyd ar ddeall fod yr allowances wedi eu gostwng yn ddisymwth o 50 i 70 y canfc gan y gaffer neyvyàd, yr hwn a fygythiai ostyog- iad pellach. Yna gomeddodd y gweithwyr dori y cyfryw lo, gan eu bod yn ystyried y pris yn ddigon isel eisioes, ac nas gallent enill bywioliaeth trwy gymeryd y gostyng- iad. Penderfynwyd fod Mr. Abraham a Mr. Evans, goruchwylwyr i ymweled a'r lie er cael ymchwiliad pellach.
GLOWYR PENRHIWCEIBR.
GLOWYR PENRHIWCEIBR. Y mae yn cael ei hysbysu fod nifer o weitbwyr Penrhiwceibr yn anfoddlon i ymddygiad y cwmni yn codi rhenti eu tai, ac yn cadw y codiad yn y swyddfa. Y j mae hwn eto yn debyg o ddyfod yn bwnc i bwyllgor y Scale, gan ei fod yn doriad ar y cytundeb.
DIENYDDWR YN CROGI EI HUN.
DIENYDDWR YN CROGI EI HUN. Y mae helynt hynod o ddyfetha plant bod 0 flaen gweinyddwyr cyfiawnder yn Melbourne, Awstralia. Y drwgweith- redwraig ydoedd menyw o Chelsea, merch i hatwr, ac heb fod ond 25ain oed. Adna- byddid hi fel Mrs. Knorr, a darfu i'r dienyddwr cyffredin yn Victoria gyflawni hunanladdiad yn hytrach nag ymgymeryd a'r gorchwyl o i chrogi. Rhwng Ebrill a Medi diweddaf, aeth 12 neu 13 o blant trwy ei dwylaw, tri 0 ba rai a gafwyd wedi eu claddu mewn gardd.
HYRDDWYNT YN MAURITIUS.
HYRDDWYNT YN MAURITIUS. CERBYDRES WEDI EI CHWYTHU I AFON. Y mae y brys-neges canlynol wedi ei dderbyn o Port Louis :—Y mae Mauritius eto wedi cyfarfod a galanasdra trwy hyrddwynt, yr hwn a ymwelodd a'r ynys ddydd Gwener diweddaf. Y prif golled ag yr ydym wedi derbyn hanes am dano ydyw chwythu cerbydres gyfan oddiar y linell i afon fechan Coromandel, trwy yr hyn y lladdwyd 50 o bersonau. Y mae yn ofnus fod colledion mawrion ereill wedi cymeryd lie.
GALANASDRA ARALL YN AFFRICA.
GALANASDRA ARALL YN AFFRICA. Y mae ein gallu milwrol wedi cyfarfod a galanasdra arall yn West Affrica. -Y mae I. tri-ar-ddeg o swyddogion a dynion wedi eu lladd, a thros haner cant wedi eu clwyfo. Y mae hyn yn fwy nag un o bob pedwar o'r dwylaw ar fwrdd y Hong I Raleigh. Y mae Bathurst, yn agos i'r hwn le y cymerodd y galanasdra le, yn ogleddol i Sierra Leone. Yn y diriogaeth hon nid yw ein meddiant yn fawr mwy mewn en-. Yn agos i'r arfordir y mae ein Llywodraeth yn gryf, ond y mae y canolbarth yn feddiant parhaus i'r anw. r- iaid a'r caethfasnachwyr. Yr oedd un o'r rhai diweddaraf, gyda'r hwn oeddym wedi cael peth trafferth yn flaenorol, wedi ail ddechreu gweithredu, yn erbyn yr hwn yr oedd gallu wedi ei anfon. Dylasai y gallu hwn fod wedi ei gynortbwyo gan adran 0 filwyr o gyfeiriad arall, ond yr oedd y rhai I hyny heb gyrhaedd, a chafodd ein milwyr hyny heb gyrhaedd, a chafodd ein milwyr j eu trechu, mewn cynllwyniad o eiddo y gelyn. Y mae y rhai a ddiangasant i ymladd eilwaith gydag adgyfnerthion digonol. Y mae yn amlwg fod gan ddynt waith o'u blaenau. Ceisiwyd ad- dalu y galanasdra ar unwaith gan y Hong Alecto, ond methwyd. Yr oedd y caeth- fasnachwyr buddugoliaethus yn ddigon cryf i atal y rhai hyny rhag glanio. 1