Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
SIRHOWY.
SIRHOWY. Yn yr addoldy hardd sydd genym fel enwad yma cynnaliwyd cwrdd llenyddol o natnr ddifyrus iawn, nos Fawrth, Mawrth 13eg. Dymunaf arnoch, Mr Gol., adael i'r programme ymddangos yn gyflawn. Gwn oich bod a'ch holl galon er's blynyddoedd wedi ccfnogipo b cwrdd o'r natur yma or mwyn rhoi calon yn yr ieuenctyd i lafurio ar faes llenyddiaeth, a chwrdd o'r nodwedd yna ydoedd hwn. Dyma drefn y cyfarfod :—Araeth gan y cadeirydd—Mr T. Wil- liams, cashier; adroddiad, gan E. A. Fox; eto, gan M. A. Hughes; eto, gan W. G-riffiths; can, gan Mrs Redmond; adroddiad, gan J. Monkley; can, gan J. H. Williams adroddiad, gan E. Fox; cydymddyddan rhwng M. Lewis a F. Denby; can, gan S. Morgan; adrodd Y Mab Afradlon," gan E. Owen Hannah Davies yn adrodd; adrodd Y Mor a'r Mynydd," gan J. Fox a E. Owen; can, gan Noah Davies; adrodd- iad, gan E. Owen; dadganu" P'le buost ti heddyw yn llofEa P" gan amrai; adroddiad, gan M.A.Red- mond ein, gan Joseph Jones eto, gan John Jones; can, gan LI. Williams; adroddiad, gan J. Monkley; dadl rhwng M. A. Redmond ac E. Owen; dadgann mawl yn ddifyfyr cystadleuodd y rhai canlynol:— Noah Davies, J. H. Williams, J. E. Williams, Hannah Davies, a Margaret Jones. Y beirniad oedd Mr J. Fox, a dyfarnodd mai J. H. Williams oedd y goreu. Yn y diwedd cahvyd anerchiadau cynhes gan y cadeirydd, a'r Parchn J. Herbert a T. Thomas, Tre- degar. Cymerwyd mantais ar y cwrdd hwn i estyn gwobrwyon hynod brydferth i'r plant fu mor deilwng yn casglu at y capel, a'r plant eraill a gasglodd at ein Cenadaeth Dramor. Diweddwn trwy ddyweyd fod pawb wedi gwneyd eu rhan yn ganmoladwy iawn. Yr ydym yn dymuno yn dda i'r Gwyliedydd, a boed iddo oes !hwy nag oes Methuselah.—Qybian o Fon. ,■ •
CORWEN.
CORWEN. CYFARFOD PREGETHU.—Cynnaliwyd cyfarfod blyn- yddol capel y Wesleyaid yn y lie. hwn Mawrth 5ed a'r 6ed. Y pregethwyr oeddynt y Parchn John Evans (is), Liverpool; a John Cadvan Davies, Cefn- mawr. Yr oedd y pregethu yn rymus ac effeithicfl iawn, a diau iddo adael dylanwad ar y cynnulleidfa- oedd, oblegid y mae y cyfarfod yn destun siarad cyffredinol. Yr oedd y cynnnlleidfaoedd yn lluosog iawn. Bu cyfeillion y Methodistiaid Calfinaidd mor garedig a rhoddi benthyg en capel helaeth yn yr liwyr, a da iawn oedd ei gael, oblegid ni buasai han- ner y gynnulleidfa yn myned i'n capel ni; ond dys- gwyliwn y bydd genym gapel newydd, helaeth a dedwydd, i gynnal ein cyfarfod ynddo cyn hir. Y mae y cyfeillion yn gweithio tuag ato yn egniol.— Gvnlym Caenog.
CAERNARFON.
CAERNARFON. CYHUDDIAD o LADRATA.—Dydd Sadwrn, gerbron yr ynadon sirol, cyhuddwyd Catherine Evans, gwraig yn byw yn Nhalysarn, o ladrata gobenydd plu, eiddo Jane Davies, ei chymydoges. Profwyd fod y cyhuddedig yn arfer myned i dy yr erlynes i wneyd rhyw fan gymwynasau, ar iddi fod yn unigol yn y ty ar y nos Lun blaenorol, pryd y collwyd gobenydd oddiyno. Cafwyd y gobenydd yn nhy y gyhuddedig ar y dydd Mercher dilynol. Gwadwyd y cyhuddiad yn bendant gan y diffynyddes, yr hon a draddodwyd i sefyll ei phrawf yn y brawdlys chwarterol nesaf. ADDOLDY Y WESLEYAID SEISNIG.—Y mae'r addoldy gwych hwn yn awr bron yn barod, a diau yr agorir of gyda rhwys y fawredd yn mhen ychydig wyth- nosan eto. Addurnir ef gan dwr pigfain, ond nid gwir y stori fod y Cyfeillion yn bwriadu cael cloch ynddo. Dywenydd genym ddeall fod y cerddor ieuanc a medrus Master Hywell Williams, (mab ieuengaf Mr. Humphrey Williams, hen flaenor y gan yn yn Eben- ezer) yn myned yn mlaen yn rhagorol gyda'r String Band a sefydlwyd ganddo ychydig amser yn ol, ac ei fod yn addysgu yr aelodau gogyfer a'r Eisteddfod ddyfodol. Fel yn yr amser gynt, y mae'r Wesleyaid Cymreig yn parhan i flaenori pawb gyda cherddor- iaeth leisiol ac offerynol yn y dref hon. Y Sul diweddaf, gwelsom y melwriaid a'r gwirfodd- olwyr, yn cael eu blaenori gan seindyrf, yn gorym- deithio o'r Eglwys blwyfol. pryd y synwyd ni yn fawr gan y chwaeth gerddorol a arddangosodd y lands. Ebrwydd i un seindorf orphen chwareu un o aJawon diwygiadol Mr. Sankey, dyma y seindorf arall yn taro i fyny gan Wyddelig o'r fath fwyaf wageddus, a hyny yn agos i nifer o addoldai. Poed iddynt ddiwygio, n-iodd-Eielt Gohebydd.
CYLCHDAITH LLANFYLLIN.
CYLCHDAITH LLANFYLLIN. LLANWDDYN.—Mae yn bosibl fod Llanwddyn yn hollol anadnabyddus i lawer o ddarllenwyr Y Gwyliedydd, a hyny o herwydd ei fod yn lie mor neillduedig o bob man. Y farchnadfa agosaf ato ydyw Llanfyllin, pellder o ddeuddeg milltir. Ond er pan yr adseiniodd gweryriad byddarol y mareli tan ar dabyrddau clustiau trigolion y lie, y mao pellder ac anghyflensderau teithiol yn cael eu rhestru yn mhlith j pethau a fu. Ond y mae yma gyfleus- derau a werthfawrogir yn llawn mwy na chyfleus- derau teithiol, sef y cyfleusderau i addoli Duw heb neb yn aflonyddu ar eu heddwch. Eithriadau ydynt y rhai a esgeulusant foddion gras, yn neillduol ar y Sabboth, yn mhlith holl drigolion y plwyf hwn, y rhai ydynt rhwng pedwar a phum' cant mewn nifer, ac yn eu plith ceir rhai cymeriadau teilwng o gael eu hefelychu gan bawb sydd am dreisio teyrnas nefoedd. Ni raid i gymaint ag un o honynt aros gartref ar y Sabbath o ddiffyg lie yn y capelau a'r eglwys; canys y mae yn y plwyf dri o gapelau; un perth- ynol i'r Annibynwyr, yn ngwaelod y plwyf, a'r ddau arall yn y Llan, sef capel y Methodistiaid, yr hwn sydd adeilad newydd, hardd, ac eang, a chapel y W esieyaid, yr hwn sydd yn hen, gwael, a chyfyng iawn, annheilwng o'r gynnulleidfa, heb son dim am y Gwrthddrych a addolir ynddo (mae ei ddyddiau wedi eu rhifo bellach) ac y mae yr eglwys yn rhagori ar y cwbl mewn maintjoli a phrydferthwch. Dywenydd genyf allu dyweyd, fod cydgordiad perftaith yn bodoli rhwng proffieawyr crefydd y He 2/U gilydd, gan nad beth ydyw y gwahaniaeth yn eu daliadau ar bynciau athravriaethol, Sic., ymgy- mysgant y naill a'r Hall yn barhaus mewn cyfarfod- y ad orefydddl, a hyny er mantais iddynt eu hunain, Cafwyd prawf ychwanegol yr wythnos hon eto o'r oariad brawdol sydd yn ffynn rhyngddynt drwy i'r Methodistiaid yn garedig roddi benthyg eu capel i'r Wesleyaid i gynal eu cyfarfod blynyddol. Y noson o flaon y cyfarfod, sef y 13eg cyfisol, traddodwyd darlith yn y capel uchod gan y Parch E. Evans, Llanrhaiadr, ar Llwybr cyfoeth ac anrhydedd cafodd y darlitliydd parchushwyl i ddyweyd, a'r bob! hwyl i wrando; yr oedd yn ddarlith wir dda. Llywyddwyd gan y Parch. T. H. Evans, Rector, a hyny i foddlonrwydd llawn. Dranoeth fel yr awgrymwyd, cynnaliywd cyfarfod pregethu yn yr un lie, pryd y gweinyddwyd gan y Parch E. Evans, a gweinidog y gylchdaith. Yr oedd y cynnulliadan yn lluosog, y gwrandawiad yn astud, a'r casgliad wnaed yn yr hwyr tu hwnt i'n dysgwyliadau goreu. Bwriedir, ar fyrder, ffurfio trysorfa tuag at gael capel newydd i'r Wesleyaid yn y lie. Credwyf y dywod pawb a welodd y capel uchod, o fown y dong mlynodd diweddaf, ei bod yn llawn bryd symud yn y cyfeiriad hwn. Mae yn dda genym allu hysbysu fod yr achos ar gynnydd yn Llanwddyn, er fod y naill ar ol y Hall o'r ffyddloniad yn cael eu cymeryd oddiwrth eu llafur at eu gwobr, ac yn eu plith erbyn hyn, Mrs Jones, gweddw y diweddar Mr John Jones, pregethwr cynnorthwyol defnyddiol a chymeradwy iawn, ar gylchdaith Llanfyllin am lawer o flynydd- oedd, i'r hwn y codwyd cofgolofn ardderchog ychydig o wythnosau yn ol, yx mynwent y Llan, drwy gyd- roddion ewyllysgar ei gyfeillion a'i edmygwyr lluosog yn nghylchdeithiau Llanfyllin a Llanrhaiadr ond ymattaliwn, gan addaw dychwelyd at hanes y gofgolofn, yn ein nesaf, os derbyniol fydd hyn o lith gonych.-Ph. WilUmns.
-..-. -----Y.BNGB-BOL.
Y.BNGB-BOL. Adolygiad ar Ymchvriliad Edwards i Byddid yr Eioyllys. Gan HENRY PHILIP TAPPAN, D.D., Ll.D. Cyfieithiodig o'r Ail Argraffiacl, gan JOHN EVANS (Eglwysba-ch). Gyda Rliagdraith gan y Parch JOHN JONES (Vulwn). Blaenau Ffestiniog: Jones ac Evans. Pwy sydd h'eb wybod am Edwards ar yr Ewyllys ? Nid llawer iawn, yn ddiau yn enwedig nid llawer o'r rhai a broffesant adnabyddiaeth i raddau o len- yddiaeth ar yr Ewyllys, ac o dduwinyddiaeth Grist- ionogol. Ond y mae llawer yn gwybod mwy am y llyfr nag y maent yn ei ddeall; a bydd yn anmhosiirl, bellach, gwybod am na doall y gwaith mawr hwnw heb ddyfod i gySyrddiad agos, nid yn unig a Jonathan Edwards, eithr hofyd a Philip Tappan, y doethawr galluog sydd wedi dangos mor eglnr fod pwysau" Edwards yn brin," ie, yn brin iawn, ac wedi profi trwy ei Adolygiad meistrolgar fod Jonathan Edwards wedi methu yn fawr, ac fod golygiadau Edwards ar Ewyllys dynyn dadsylfaenu rhwymedigaeth foesol dyn." Am y Cyfieithiad o'r Adolygiad gan y Parch John Evans (Eglwysbach), y mae awdurdod uchel wedi tystio yn ddifloesgni, a hyny pan ymddangosodd gyntaf, ei fod yn anarferol dda;" ae, yn wir, folly y mae; a diau y dylai Cymry pob gwlad a thref ddangos gwirioneddolrwydd eu cariad at a'u hawydd i efrydu pynciau dyddorol o'r natur yma trwy brynu, darllen, a myfyrio y llyfr hylaw hwn. Nid cyneithiad dlythyrenol, peirianol a difywyd ydyw, eithr cyfieithiad yn ystyr oreu y gair-trosglwycldiad meddwi yr awdwr yn llawn, eglur, a pherffaith ddcalladwy; wedi ei wneuthur o gariad at y gwaith, a chyda meddwi oedd, trwy ddarllen, a myfyrio y pwnc drosto ci hun, yn hynod gyfaddasedig at y gorchwyl. Dyna heiyd Bagdraiih Vulcan-wel, y mae hwnw ei hun yn drysor, yn orlawn o wersi buddiol ac awgrymiadan gwerthfawr i'r dealhjs a'r ymchwilgar. Hyderwn yn gryf y bydd i'n gwyr ieuainc sydd heb y llyfr ei brynu ar unwaith, a mynu moistroli ei wirioneddau. Cyfandir Ewrop a'i Ryfeddodau, neu, 0 Gymru i Rufain ac yn ol. Gan THOMAS LLOYD JONES, Tal- ysarn. Dolgellau: D. H. Jones. Prin, ie, prin iawn, y mae y llyfr hwn yn cyfateb i'w brif benawd—" Cyfandir Ewrop a'i Ryfeddodau," gan mai ei gynnwys ydyw hanes taith 0 Gymru i Rufain ac yn ol." Buasai y teitl olaf yn llawer mwy desgrifiadol o'r llyfr, ac yn ei symlrwydd yn cymhell ei hun i sylw. Fodd bynag, mae yn bleser genym alw sylw ein darllenwyr at y llyfr hwn o deithiau ar y Cyfandir gan fab yr anfarwol Barch John Jones o Dalysarn. Dywed yr awdwr yn ei gyfarchiad at y darllenydd bod agwedd frysiog ar luaws o fanau o'r hanes diau y bydd i'r cyfarwydd ga.Ja.fod hyny yn ami; ond or hyny y mae yr hanesydd yn cymeryd y dar- llenydd yn mlaen yn eithaf diogel, ac yn rhoddi ger i ei fron hanes ei deithiau mewn modd difyr a dyddorol iawn. Ofer ydyw edcych i'r llyfr am .gyfansoddiad dillyn, a thraethiadau moesol ac athronyddo,l ar yr hyn a welwyd ac a glywyd; nid peth felly ydyw hanes taith, er v gall gwr doeth a hyfedr a'i ysgrifell I y wan brawddegau o'r natur yna yn nodedig o fedrus a chymeradwy i gorlf ei hanes. Ond y mae ein hawclwr yn boddloni ar fynegiadau syml ond cywir o'r hyn a welodd, ac a deimlodd, ac a glywodd, gyda sylwadau cartrefol ac i'r pwrpas ar y naill beth a'r Ilall. Trwy wneyd hyn y mae wedi cynnyrchu llyfr darllenadwy a dyddorol iawi-ii ac er na ddysgwylia y sawl sydd yn ymgynefino a'r lluaws Ityfrau sydd wedi dylifo o'r wasg Seisnig ar deithiau cyfandirol gael yn y llyfr hwn bethau mawr," eto caiff ynddo- ddarllen o'r natur fwyaf clyddorol ac siddysgiadol; ac i'r Cymro uniaith y mae yn sier o brofi. yn gaffaeliad gwerthfawr 0 wvbodaeth am bobl a phethau ar Gyfandir Ewrop. Yrydym yn ei gynhes gymeradwy i'n darllenwyr. Y mae yr argraff a'r papur a phobpeth yn rhagorol. Ei bris yw Swllt, ac y mae ynddo agos i 200 o dudalenau. The Holy Bible, Critical and Explanatory. By Dlt. BROWN, DR. JAMIESON, and Rev. A. R. FAUSSETT. London Wesley. Mae y gwaith tra rhagorol hwn wedi cyfarfod a chymeradwyaeth gyfEredinol; ae y mae dynion dysgedig a da o bob enwad wedi talu iddo warogaeth uchel, a chydnabod ei amryw ragoriaethau. Y mae yn arddangos llafur a diwydrwydd mawr, ie, a dysgeidiaeth mawr; ac y mae j swm o sylwadau beirniadolaceglurhaol,a'r dyfyniadau allan o awdwyr Beiblaidd hen a diweddar, sydd yn yr Esboniad hwn yn gyfryw ag i enyn synedigaeth at y galln a ddod- odd yr holl bethau da at eu gilydd mewn can llaied o ofod, a siarad yn gymhariaethol. Nid ydym yn hofii yr olwg crammed sydd ar y colofnau carasem eu gweled yn fwy goleu heb fod y' materion Bior agos at eu gilydd, er mwyn hwylusdod mwy wrth ddarllen. Ond, yn ddiau, buasai lledu wedi helaethn y gwaith yn mhell tu hwnt terfynau y cyfrolau hyn-, ac felly yn eu gosod allan o gyrhaedd y gwcitliiwr. Yr ydym o galon yn cymeradwyo y gwaith ac yn annog ein darllenwyr myfyrgar i wneyd prawf arno. The Weekly Welcome, British Workman, Band of Hope Review, &c., &c., Lludain S. W. Partridge & Co., Paternoster Row. Fel holl gyhoeddiadau y cyhoeddwyr enwog hyn, y mae eu cylchgronau yn dal eu tir yn gampus. Y mae llawer o honynt yn hen Ifryndiau, a da genym weled y fath olwg iach a llawen arnynt. Am y Weekly Welcome, barn y wasg yn gyfEredinol am dano ydyw ei fod yn un o'r eyhoeddiadau goreu a harddaf o'r fath; ac y mae Y Gwyliedydd, ar ol sylwi a barnu yn fanwl, yn hollol o'r un farn a'i frodyr o'r wasg, ao yn ei gymhell yn galonog i'w ddarllenwyr.
LLITH 0 LIVERPOOL.
LLITH 0 LIVERPOOL. ODDIWRTH EIN GOHEBYDD. Y Parchedigion Edward Humphreys, John Cadvan Davies, a David Jones (Deivi Maturth) fu yma yn cadw YR WYL GENIIADOL eleni. Y Sabboth (lleg cyfisol) cafwyd pregethau g-an "y gwyr dyeithr" yn nghapeleu Cylclidaith Shaw Street, a nos draxoeth cynnaliwyd cyfarfod i areithio dan lywyddiaeth John Roberts, Yswain, U.H.-bonoddwr ag sydd yn dra adnabyddus drwy Gymru. Dadganai y cadeirydd ei lawenydd wrth feddwl fod y gwahanol enwadau yn Nghymruyn cael eu dwyn yn agosach at eu gilydd. Yr oedd digon o waith ar gyfer pob enwad, a gallwn lawen- hau yn llwyddiant y naill a'r llall. "Cytunwn i anghytuno" ar faterion dibwys, ond bydded i ni wasgu yn nes at ein gilydd, ac ymladd law yn llaw o blaid y gwvrionedd ag sydd eisioes wedi cael dylan- wad mor offeithiol ar gynifer o baganiaid. Ar ol i Mr W. O. Jones a'r Parch J. H. Jones ddarllen rhyw gymaint o'r cyfrifon, galwyd ar y Parch J. CADVAN DAVIES. Yr oedd ef, meddai, yn dadleu achos un o honom—brawd i ni oedd y Negro. Sefyllfa y paganiaid yn druenus 3 awn. Nid oedd yn cyfeirio at eu harferion er mwyn gwnej^d ineb wenu, ond er ennill cydymLdeimlad. Ni buasai y Cymry fymryn g'well na,'r Negro pe dan yr un amgylchiadau. Amddifadrwydd o'r efengyl—dyna rydd gyfrif am druenusrwydd y paganiaid. Yr oedd yr hyn a wnaed eisoes gan yr efengyl yn brawf fod y gallu yn ddigon effeithiol i dd'od a'r byd i drefn. Yn wir, gwella 'roedd petbau yn barhaus. Hysbysiad i'r perwyl yna ydoedd y Mynag a geir y naill nwyddyn ar ol y Hall. Psrhawn yn ein hymdrechiadau. Y Parch DAYID JONES (Beivi Maivrth) a ddywedai mai trioedd anghenion y Genhadaeth ydynt-dyn:ion, arian, a gweddiau. Trioedd cymhwysder cenhadwr yw iechyd, gwroldeb, a chrefyddolder a thrioedd y ty cenhadol ydynt-Punshon, Perks, a Kilner; a rhaid cael dynion gwir deilwng i'r gwaith cyn y caent gymeradwyaeth y tri wyr yna. Nid oedd eisieu cymhell cyfeillion Liverpool i gyfranu; yr oeddynt yn d'od allan yn deilwng; ond dylai pawb gofio, er cael dynion cymhwys a chyfraniadau hel- aeth, ni lwyddir heb y wed'di. Y Parch EDWARD HUJIPHUEYS. Tystiai rheswm ac ysgrythyr mai y peth pwysicaf ddylent gael y sylw blaenaf. Telid sylw neillduol i drueni tymmorol cymdeithas. Pan ddeuai haint i'r dref, cynhyrfir pawb—gwneir pobpeth yn bosibl er rhoddi attalfa i'r clefyd. Os bydd 'storm neu dun wedi g'wneyd niwed mawr i eiddo, mae y byd yn cael ei ysgwyd trwyddo, —darigosir haelioni neillduol, ac nid oedd neb yn barotach i wneyd hyn na Phrydain Fawr. Tybed a oes digon o gydymeleimlad yn llosgi calon yr eglwys i leihau trueni moesol arswydus y byd paganaidcl? Anhawdd cael dim i ddangos cyflwr isel y pagan yn gryfach na geiriau yr apostol Paul, yn mhell oddi- wrth Dduw." Mae gan Dduw blant oddicartref, a garwyd ganddo fel y carodd ninnau, a brynwyd yr un modd a ninnau, ond maent yn bell. Llawer iawn 0 honynt—gwaith mawr o'n blaen.-Er cymaint o ganglienau sydd gan yr eglwys ar y maes mae digon o le i bob un. Gofynir i ni both sydd genym i ddangos yn lie yr arian mawr a wariwyd gan y Gymdeithas Genhadol. Mae'r ateb WTth law. Gad- awer i rai son am y clecldyf a masnach fel moddion effeitlii-ol i ddwyn y byd i'w Ie. Camgymeriad dy- bryd. Mae pob cyfundrefn sydd yn codi oddiar hunanaeth yn sicr o fyned yn lurech, a'r unig system wnaiff gyfarfod anghenion y byd yw Cristionogaeth. Y groes yn attyniadol i bob math o ddynion. Fel y dywedodd un 'Nid yw y'negro ond delw Duw mewn ebony." Pobpeth mewn Cristionogaeth i dynu y byd ati; ac y mae yr holl fanteision a gawsom ni tnvy'r efengyl yn ein cymhell i weithio o'i phlaid. Mae'r anhawsderau yn fawrion, ond dyblwn ein diwyd- rwydd, mae llwyddiant o'n blaon. Y Parch JOHN HUGH EVANS a'n hadgofiai fod y G-ymdeithas Genhadol yn gwynebn ar bob rhan o'r byd. Beth welodd y genhadaeth yn y Wyddeles tybed, yr hon oedd yn resynus ei chyflwr ac yn dlawd, ond cymeryd trugaredd ar yr Iwerddon. Ffrainc fel twrnel mawr o flawd, ond mae'r lefain wedi ei roi yn v blawd yno ac yn gwneyd ei waith. Rhoddir help hyd yn nod i Germany. Dyna Italy drachefn; saif y genhadaeth wrth gefn Italy. Ni ellir dysgwyl. am arogl peraidd iawn eto o le fu yn nyth y ddylluan am gymaint o amser. Mae'r genhadaeth wrth ei gwaith yn bwrw cyth- realiaid allan o Ewrop. Un hen. ehap yma eto yn ymyl y Dardanelles. Pe elai i ffordd am cnyd nis gallai dd'od yn ol gyda saith gwaeth nag ef ei hun gan mai ef yw'r gwaethaf. Aeth ein cenhadaeth i'r America pan oedd y wlad hono yn dechreu tyfn, ac fel yr oedd y boblogaeth yn lluosogi, ymcangai yr achos cenhadol. Edrychwn ar India eto. Mae a fyno John Bull lawer iawn âg India. Science wedi bod yn agor ffordd o For y Canold'ir i'r Mor Coch, er mwyn i ni allu cyrhaecld yr India hyny cynt. Aeth Tywysog Cymru i'r wlad hono, a broliai eu helephantiaid, sticiai en mhoch—pobpeth er mwvn plesio y trigolion. Costiodd novelig olaf Iarll Beaconsfield, sef Empress of India," gryn arian i'r wlad hon—nid oedd dim yn ormod er ceisio cael at galon India, ond y mae bron mor anhawdd cyrhaedd yr amcan yna., ag ydoecld cyrhaedd y "North Pole." Llafuriwyd yn galed er ceisio tori trwy yr ancient ice oedd ar ffordd y "ehai aethant i chwilio am y Pegwn Gogleddol, ond er llifio a phigo nid oedd dim yn tycio, sabi yr ancient ice fel mynycld o'u blaen. Er i'r Hit a'r big fethu, buan y cracia ancient ice y North Pole pe ceid ef unwaith dan belydrau yr hai^. Gallwch gyda chelfyddyd a masnach lifio" a phigo or ceisio cael at galon India, ond ofer fydd v llafur—rhaid cael yr Indiaid tan belydrau tanbaid Haul CyfiawnAer cyn y llwyddir—stori'r Grees yw yr unig" beth wnaiff gracio calon y pagan fel mai ein dyledswydd ni yw gwneyd yr oil a allom er dwyn 3rr Efengyl a'r pagan i gynyrddiad a'u gitydd. Mr SAMUEL JONES, Brunswick Villa, wrth gynyg diolchgarwch i'r cadeirydd, a ddatganai ei la- wenycld vyrth feddwl fod y gwaith yn myned rhagddo er maint yr anhawsderau oedd ar y ffordd. Ofnai weithiau wrth weled yr hen dadau o un i un yn cefnuj y gwnai'r gwaith sefyll, ond tra yr oedd cewri yn cwympo ar y maes ac yn myned at eu gwobr, fe saif Duw (yr hwn bia'r gwaith) o'n plaid o hyd. Cefnogwyd y diolchgarwch gan Mr John Pugh. Nos dranoeth, drwy ohiriad, cynnaliwyd cyfarfod yn ng-hapel Boundary Street, dan lywyddiaeth Mr Lloyd, Nowby Street. Ni raid dyweyd ei fod ef (yn absenoldeb Dr Games) wedi'llenwi'r gadair yn deil- wng. Anerchwyd y cyfarfod gan y brodyr a enwyd, a chan Meistri John Thomas, John Davies, W. Bridge, a Thomas Price. Wrth gwrs, yr oedd gweinidogion y gy lchdaith yn cymeryd rhan yn y ddau gyfarfod. Yr ydym eisoes wedi myned dros y terfynau, fel y rhaid i ni adael amryw obothau eraill alJall yrwyth- nos hon.
AR GYLCHDAITH.
AR GYLCHDAITH. Mr GOL.,—Mae Wesleyaeth wedi ennill ei safie drwy lawer o anhawsderau, a llawer o'r anhawsderau hyny wedi codi o leoedcl y gellid dysgwyl pethau gwell oddiwrthynt. Cofus genym y dirmyg a dafl- wyd yn fynych ar ei nodweddau trefnyddol, ei har- ferion arbenigol, a'i t-hermau gwreiddiol. Cafodd yr hen Gynnadledd lawer ergyd dost, ond er gwaethaf yr holl ymosodiadau, casglodd nerth, tyfodd yn dal- gryf, ac erbyn hyn y mae wedi ennill safie Saul yn mhlith byddinoedd Israel. BjTddaf yn cael Boddhad mawr wrth glywed ambell ddyn mawr, a da, yn defryddio termau Wesleyaidd pan yn son am gyfar- fodydd, &c., gan enwadau eraill, y very dynion a arferent wawdio y fath dermau ychydig"lfynyddau yn ol. A ydyw hyn yn profi fod yr oes yn dyfod yn oleuach ? Ai ynte fod dynion da yn dyfod i hofii Wesle3raeth fel y denant i'w hadnabod ? Wel, barned y darllenydd. Pan yn y tren y dydd o'r blaen digwyddais gyfar- fod a nifer o Ymneillduwyr parchus a dylanwadol, a chan fy mod yn cligwydcl cyd-deithio yn fynych yn nghwmni yr un dynion, ac yn weddol adnabyddus a hwy, darfu i un o honynt dynn fy sylw at y pwnc y siaredid arno ar y pryd. SYMUDIADAU HWEtXI DOGIOX oedd y pwnc. Yn wir, meddai un, byddai yn dda odiaethgenyfpebyddai genymni gynllull i newid gweinidogion fel sydd genych chwi, y YvTesie3Taid. Paham felly ? meddwn innau. We], dyma ni, oedd yr atebiad, yn myned i golli ein gwcinidog bydd yn golled fawr i ni; clyn da yw Mr ar y cyfan; yr oedd yn taro ein heglwys ni yn dda iawn yn awr ni a'i collwn, ac nis gallwn fyned yn mlaen heb gael gweinidog, a pha le y cawn ddyn i'n taro ? Yn an- ffortunus y mae prinder gweinidogion yn ein plith; amrai eglwysi pwysig yn methu a tharo ar ddyn wrth eu bodd. Bydd raid i ni naill ai gwneyd ym- drech i ddenu gweinidog o eglwys arall, neu ynte fent-ro ar ddyn o'r coleg; ac yn wir nid wyf yn teimlo yn hapus i wneyd ebwch i ladratta gweinidog oddiar eglwys arall, na chwaitli yn hofii mentro ar fyfyriwr o'r coleg mown eglwys fawr fel hon. Byddai cael cynllun symuclol fel sydd genych chwi yn fanteisiol iawn i'n henwad ni, &c. Gwelwch felly, Mr Gol., fod y trefniadau Wesleyaidd yn ennill tir yn mhlith d3mion da ar y mater hwn fel ar bethau eraill. Yn iighyfarfod mawr y DADGYSYLLTIAD yn Nghaerdydd, nos Iau diweddaf, bu yr enwogion Meistri Dale a Rogers yn areithio yn allnog ar y pwnc uchod yn nghapel Wood St., i 2,500 o wran- dawyr. Buasai yn dda odiaeth genym allu anrhegu darllenwyr Y Gwyliedydd.a chrynodeb o'u hareithiau gwir alluog, ond fe balla eich gofod i ni wneyd ar hyn o bryd. Cyn ymgymeryd yn union gyrchol a phwnc y dadgysylltiad, dangosodd Mr Dale afresym- oldeb Mesur Claddu y Llywodraeth," a ddygwyd gerbron Ty yr Arglwycldi gan y Due o Richmond. Agor y mynwentyclc1 i Ymneillchrayr gael darllen, neu gyflawni y wasanaeth g,,ef-v(IC[ol a farnont yn oreu, a ofynir gan YmneilUluwjn'; ond cynllu11 y Llywodraeth ydyw eu cau i bawb a gorfodi y wlad i fyned i draul fawr o barotoi claddfejrdd, a chael un ochr yn Con. a'r llall yn Noncon." Dangosai Mr Dale fod y cynllun yn ddrud, ac yn afreidiol; fod yna lawer o fynwentydd a digon o le claddu am 20§ o flynyddau. a pha eisieu sydd i daflu y lleoedd hyny i'r draul o gael claddfeydd newyddioh. Heblaw fod yr egwyddor o gydraddoldeb yn cael ei liaberthu yn hollol..Yr oedd sylwadau galluog Mr. Dale a Mr. Rogers yn cael derbyniad brwdfrydig, a gellid casgln wrth lais y cyfarfod hwnw na fydd yr eg- wvddor o g3"draddoldeb fawr o dro cyn cael ei hen- nill. TANCITWA PWLL Y WEIG EACH, ger Abertawe. Fel yr hysbyswycl eich darllenw3Tr yr wythnos ddiweddaf, collodd tua 18 bywydau drwy y danchwa uchod. Gwnaed ymholiad i'r achos, a dydd Gwener diweddaf y cyhoeddwyd y rheithfarn. Y rheswm ein bod yn galw sylw at y mater 3oma ydyw, o herwydrd fod y Crwner, y Jury, ac Inspector y Llywodraeth, Mr Wales, wedi d'od i'r farn unol fod y ddamwain alaethus hon wedi eu hachosi o herwydd esgeulusdra y taniwr, a cliofalwch o du yr overman, ac un arall. Yr ydym yn cofio am lawer tanchwa bellach, ond hyn sydd yn boenus, bron yr oil o honynt wedi eu hachosi o herwydd diofalwch neu esgeulusdra—bron na ddywedem gwirfodtiol. Dynion yn cario matches neu bibell, gan eu cuddio fe allai yn eu hesgidiau, neu mewn lie arall. Ynwir, fe ddylid gwneyd rhywbeth i attal hyn. ETHOLIAD AELOD SEXEDDOL dros Ferthyr sydd yn destun siarad yn y fwrdeisdref hono. Y tebygrwydd ydyw fod Mr. Fothergill yn ymneillduo. Gwyr eich darllenwyr fod y boneddwr uchod yn perchenogi gweithfeydd mawrion yn y cymydogaethau, ond ei fod wedi methu agos ddwy fiynedd yn ol: er hyny, ni chymerodd ei le yn Nhv y Cyffredin; felly y mae yr ail scdd dros MertlWr wedi bod yn wag am gryn amser. Yn awr v mae genvm awdurdod lied dda i ddyweyd ei fod" wedi penderfynu rhoi fyny ei sedd. Parhau yii dlawd iawn mae y gwcitMeydd. CjyW- som oddiar awdurdod uchel iawn nad ydyw AT cJwg wedi cyrhaeddyd y gwaelod eto, ac nad oes fawr obaith y flwyddyn hon 3' daw yn well. Mae yma filoedcl drwy y gylchdaith yn cleeian dan y beichiau mawrion sydd yn gwasgu mor drwm arm-nt, ac yn gorawyddu am aniser gwell. ITINERANT.
LLANBERIS.
na fyddai yn rhaid i neb Wesleyaid gywilyddio ei weled ar en byrddau yn eu parlyrau goreu. Credwn hefyd mai nid allan o le fyddai i'n masnachwyr trwy'r holl wlad roddi lIe amlwg iddo ar y counter yn y shop, a'r bwrdd yn yr office, fel y cai y prynwyr ei weled a'i brynu.-Goheb.