Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Y CYMRO DEWR.
Y CYMRO DEWR. I nofio'r don ar ffwrdd y llong Aeth Cymro dewr rhyw ddydd; Wrth adael Cymru Ian ar ol, 'R oedd dagrau ar ei rudd Cydymaith iddo er ni fu I'w loni ar ei daith, Ond hyn o gan i Gymru lan, 'R lion ganodd lawer gwaith:— 0 C3rm.ru fad, fy Nghymru wiw, Fe'th garaf di tra fyddaf byw Ti yw'n gwlad drosot bu'm tadau Yn colli eu gwaed nes lliwio dy ruddiau." Cyn hir fe ddaetli ei gan i fod Yn nod i saethau gwawd, Gwatwarddgerdd oedd y bachgen dewr, Edliwient iddo'i ffawd;- Os canu wnai a pharchu DmY, Na welai byth mo'r lan; Ond gwrol oedd :—gweddio wnaeth, A chanu ei swynol gan— 0 Gymru fad," &c. Y cadben yna lefai'n groch, Cei fedd o dan y don; Gwna lw y gwadi'th wlad a'th Dduw, Gwna hyn y foment lion Atebai'r dewr, Nis gallaf wneyd, Er tonau dwr, a than Tra ynof chwyth addola'm Duw, A chana'm swynol gan :— 0 Gymru fad," &c. Y cadben eilwaith lefai'n uwch, Dy dyngod parod yw Mynega'n awr, ai gwadn. wnei ? Neu ynte ni chei fyw." Boddloni wnaeth i'r dynged chwith, A thaflwyd ef i'r don 0 serch i'w wlad wrth fyn'd i'w fedd, Fe ganodd ef am hon :— 0 Gymru fad," &c Os merthyr i greulondeb llym Yr estron-ddyn a'i. frad, A fu y dewr, ca'dd orphwys fry, I syllu ar ei wlad A thra bo bryniau Gwalia wen, Yn codi'u penau'n lion, Fe erys llais yr arwr hwn 0 hyd i anorch hon :— 0 Gymru fad," &c. Llanfyllin- CAEKWYSON.
.Y MYNYDD.
Y MYNYDD. Gan Ogwenycld. •; /'■ Y mynydd le clymuiiol-ryw anedd I'r enaid myfyriol Cyflenwi cawg flaen ac ol O ronynau'r eneiniol. Gwlad rydd a golud drwyddi, Ddedwydd yw'r mynydd i mi. Lie anial dystaw llonydd—a chadair Barchedig awenydd, Hoff heb baid gan f'enaid fydd Mwyniant ar goryn mynydd. Ei lwyni brwynydd cais leni breniol Sy'n chwyfio'u hwyliog sidanog donol, Cyw yr ehedydd mewn cywair hudol Fu dysgu graddfa ei dasgau greddfol; Pob rhan o'i gor a'i garo-bryniau crog, A glenydd mawnog welai'n ddymunol, 0 iachus oror man gwych a seirian; Lendid a golud lon'd ei dwy geulan, Acw hefyd rnae'r brain yn cwhwfan 0 ardal hyfryd uwch drygfyd iacb. drigfan Mi af i'w hynod gymau fy hunan, I balas rliinwedd i bleser anian I'r neithior at gor y gan-bleserus Af o wylofus swn pob cyflafan. Y man braf mynaf mewn bri Gael gwiw anadl o'i glogwyni. Ha! ddystaw fynydd estYll-ei ben hoff, I'w binacl gwych claerwyn, 1 Ac ami y gwel gwmwl gwyn, Yn gwyro am ei goryn. Er siarad rhes o eiriau, Yn eu dull cyfrin i'w dau; ,■ Siarad a'r ser gar aros, A'i ben yn y nen trwy'r nos.
LLINELLAU CYFARCHIADOL,
LLINELLAU CYFARCHIADOL, I DOltA NESTA, Merch y Parch, B. Hughes, (B), Towyn. Boed Duw dy onwog dadcu* Yn eiddo it' bob pryd; Tra'n teitliio'r llwybrau dyrus Sydd yn anialwch byd; Os estyn wneir dy einioes Am dymmor ar y llawr, Gobeithio eei di afael Ar y Gwaredwr mawr. Pe'r ewyllysiai'r Iesu, Dy symud ato'i hun, A hyny pan yn faban— Byddynolawerun Yn barod i'th groesawu, A seiniant beraidd gan, Nes adsain eurog furiau Hardd balas Salem lan. Mae gyrfa ryfedd bywyd, Yn llawn o droion blin, r ,¡, Ond dvna sydd yn gysur, '• Fod Duw o hyd yr un; Wrth dramwy ar hyd y ddaear Ni gawsom brofiad drud Mai gwagedd a siomedig Yw pobpeth fedd y byd. Mi gredaf am dy riaint ;• Y gwnant tra byddont byw, Dy ffyddla wn gyfarwyddo I rodio llwybrau Duw; Beth bynag fyddo'th yrfa, Pa un ai ber ai maith, Boed enw JAIl dy nodded, Ai foli fo dy waith. CYBIAN 0 FON. Y Parch Robert Williams, Bodfari, gweinidog duwiol a defnyddiol iawn. V
AT Y GOLYGYDD.
AT Y GOLYGYDD. SYR,—Wedi bod yn hen ddysgwyl am, ac yn dy- muno pob croesaw i'r Gwyliedydd, yn y drychfeddwl, nis gallwn eto osgoi y demtasiwn i'w longyfarch, a dymuno yn dda iddo, wedi ei ddyfod yn ffaith. Dysgwyliem yn awyddus iawn am y rhifyn cyntaf. Rhyw gymysg deimladau; pryder, ofn, a hydor yn blith draphlitli, yn ein mynwes; a'r rhai hyny yn cael ychwanegu atynt wrth ei weled mor hir heb wneyd ei ymddangcsiad. Dydd Sadwrn y cyrhaedd- odd ein hardal: y cymydogion yn taeru oich bod wedi ein hanghofio. Ond o'r diwedd dyma fo wedi dyfod, a diolch am dano. Chwalwyd y pryder a'r ofn yn yr olwg gyntaf arno. Ond, syr, y mae pryder arall wedi ymwthio yn lie hwnw i'n mynwes. Ofnwn, ac y mae genym seiliau i'n hofnau, fod yna esgeulus- dra tra chywilyddus yn mhlith ein cyfeillion a'n brodyr Wesleyaidd mown llawer ai'dal gyda golwg ar hyrwyddo ei gylclirediad. Nid oes digon o ffydd- londeb mewn llawer o flaenoriaid ein Cyfundeb i wneyd yr ymdrech leiaf o'i blaid, ac felly pa sut y dysgwylir iddo gael y cylchrediad a haedda mewn lleoedd felly ? Yr ydys wedi bod yn cwyno ar hyd y blynyddoedd am gyfrwng o'r natur yma, ac odid fawr nad llawer o'r rhai a gwynent fwyaf am dano ryddloiaf o gefnogaeth iddo wedi ei gael; yn 6nwed- ig os rhaid gwneyd rhyw ychydig o-beth ddywedwn ? —0 aberth er ei fwyn ie, hyd yn nod roddi ceiniog yn yr wythnos am dano, or ei fod yn werth llawer iawn mwy yn mhob ystyr. Fy mrodyr anwyl, ni ddylai y pethau hyn fod felly." Cofiwch, os bydd i'r anturiaoth fethu o herwydd eich esgeulusdra a'ch anffyddlondeb chwi, y bydd y cywilydd i ni fel Cyfundeb A chyiieusdra a gollir nis gellir ei alw yn ol fydd i chwithau. Ond, a'n helpo dyna ni wedi colli pob testun, a dyhysbyddu pob gofod, wrth grwydro ar eich hoi, druain anffyddlawn Teimlem fod Y Gwyliedydd yn cynnwys yr amrywiaetli mwyaf dymunol. Ond, syr, goddefwoh i ni yn gynnil awgrymu un peth yn y cyfeiriad yna, i ychwanegu at yr amrywiaeth, os gellir. Oni ellid cael ambell damaid hynafiaethol, yn awr ac eilwaith, yn y wledd ? Gwycttom y caem flasusfwyd yn yr ystyr yma gan Gethin Jones, Clwydfardd, a llu eraill, yn ein Cyfundeb ein hunain. Ac, o bosibl, nad oes llawer o frodyr galluog, yn perthyn i enwadau eraill, nid yn unig yn ddigon hunan-ymwadol, ond y bydd yn bleser ganddynt groesawu Y Givyliedydd trwy ei dderbyn, ei ddarllen, ac ysgrifenu iddo. Gwyddoch, syr, fod chwaeth gwahanol ddarllenwyr mor amrywiol bron a'u rhif; I y fel mai gorchest fawr,—ie, o ran hyny, gormod gor- chest i chwi, nac un bod dynol arall, ei chyflawni,- ydyw boddhau pawb yn mhob peth ac ni ddysgwyl- iem i chwi a,llu gwneyd y fath beth. Ond os na foddheir y mwyafrif yn Y Gwyliedydd, arnynt hwy di-chwaetli, yn ddiammou, y bydd y bai (hyny ydyw, wyddocli, ar ol i chwi gymeryd yr awgrym uchod). I aros rhywbeth gwell, dymunem gyieirio rhyw ofyniad neu ddall i'n henafiaetliwyr; dyma ydynt: —Yn mha le, pa bryd, a chan pwy y cyhoeddwyd yr Almanac Cymraeg cyntaf erioed ? OFYDD 0 EIEION.
BWRDD YMDDIRIEDOLWYE CAPELAU.
BWRDD YMDDIRIEDOLWYE CAPELAU. SYU,—Yn mysg y llythyrau at y Golygydd, o dan y penawd uchod, gwelaf fod un a ymgyfenwa Peblig yn cynnyg neu yn awgrymu fod i bob cylchdaith gael Bwrdd Yinddiriedolwyr Capelau," tra nad ydyw yn dymuno myned mor bell a gofyn i'r Gynnaclledd ffurfio unrhyw reol newydd yn y mater hwn. Nid wyf ii, syr, yn gweled fod modd cael hyn, pa mor dda fyddai.mewn gryni heb ddeddf newydd, oddieithr fod yr yinddiriedolwyr porthynol i bob capel yn y gylchdaith yn cydweled i ethol o honynt eu hunain nifer cymhwys i fod yn fath o bwyllgor gweithiol yn y gylchdaith. Os felly, dyna bron holl waith a gofal yr yinddiriedolwyr yn cael,ea cymeryd o'u meddiant. Onid dyna ran o waith a "gofal y personau hyn, sef gofalu am adgyweirio, ystyried sefyllfa arianol, symud hen ddyledion, ac, mewn ymgynghoriad ag arolygwr y gylchdaith, i ystyried pa un oreu ai cadw yr hen gapolau ar eu traed, ynte parotoi at gael rhai newyddion ? Caniataer i mi, syr, edrych ar y cyn- llun newydd o eiddo Peblig wrth fyned heibio. 1. Fob pob lie yn y gylchdaith yn cael ei gyn- nrychioliFynj ol rhif a nerth yr achos." Felly, pe digwyddai fod dau neu dri, nou fwy, o leoedd a'r awydd i gael capelau newyddion wedi gafael ynddynt, y tebygolrwydd ydyw y byddai i'r lleoedd gwanaf golli mewn ploidlais ar y bwrdd, gan na fyddai eu rhif yn gyfajrtal i'r rhai fyddai yn cyn- rychioli y lleoedd mwyaf; ac hwyrach y lie fyddai mewn mwyaf o angen am gapel newydd yn gorfod aros heb adeiladu hyd yr 'olaf. Yr arolygwr wyr oreu o bawb pa bryd y [dylid dechreu adeiladu, a thynu i lawr hefyd, wedi iddo gael ymgynghoriad pwyllog gydag ymddiriedolwyr y lie; ac nis gollir pasio unrhyw achos drwy y chapel committee heb iddo ef, a thri o'r personau uchod, arwyddo y schedule fydd wedi ei llenwi i ofyn caniatad y cyfarfod hwnw; a chyda hyny rhaid cael caniatad y cyfarfod chwarterol, lie y dylai yr holl flaenoriaid ac ymddir- iedolwyr fod yn bresenol. 2. Fod aelodau y bwrdd i fod yn ymddiriedolwyr i bob capel yn y gylchdaith." Gwelaf, syr, y byddai i'r elfen leol ddarfod i raddau helaeth yn naturiol felly. Er yn credu yn ddiysgog mewn Trefnydd- iaeth, a chadw i fyny y teimlad cyfundebol, credaf hefyd fod yn angenrheidiol cael y teimlad lleol. Os gellir cadw y teimlad hwnw, heb fyned yn orwyllt a phenboeth, ond yn ddarostyngedig i reol a threfn, y mae y goreu y gwn i am dano tuag at gael capel newydd, a chynnaliad yr achos yn y lie hwnw. Gadawer i'r teulu bychan deimlo eu cyfrifoldeb, ac ymdrechu i ddyfod i fyny it hyny, a chael help, os bydd raid wrtho. Dichon y byddai yn fanteisiol cael yr un personau, mewn tref lie y byddai dau neu dri o gapelau, i ofalu am yr oil, dan rai amgylchiadau, ond nid fel rheol. Byddai arnaf ofn colli y teimlad Ileol yn gwbl, hyd yn nod mewn tref felly. Bu adeg pan yr oedd angen am gael yr un personau yn ym- ddiriedolwyr gwahanol gapelau; ond bellach gellir gwneyd yn rhwydd gyda'r dull presenol o adeiladu, heb adael dyled i orphwys arnynt, ond yr hyn fen- thycir yn ddilog. Os bydd lle gwan iawn, helpier hwnw. Credaf mai dynion yn y fan a'r lie ydynt y rhai goreu i fod yn ymddiriedolwyr eu capel eu hunain. 3. "Fod y bwrdd hwn i gyfarfod yn rheolaidd bob ohwarter." Onid gwell fyddai i'r ymddiriedolwyr gyfarfod gyda'u gilydd gartrof, ar ol derbyn arian am yr eisteddleoedd bob chwarter ? Ilwynt hwy yn y lie dclylai-wybod oreu pa fodd y mae pethau, a plia fod y dylent fod. Cyfarfydded yr oil o honynt yn rheolaidd bob blwyddyn hefyd, i edrych dros, gyf- rifon capelau y gylchdaith, a dyna yr egwyddor gyfundebol yn cael ei chario allan. Mae perygl cael gormod o unt-hywiaeth, mewn byd sydd yn llawn o amrywiaeth, wrth osod yr un rhai i ofalu am y cwbl. Sonia Peblig fod y drefn, neu un gyfEelyb, yn angen- rheidiol er attal gwrthdarawiad, yn o gystal a chyn- nyrchu cydymdeimlad cyffredinol ag amgylchiadau ein capelau. Addefwn fod gwrthdarawiad yn an- fanteisiol; ond dichon fod hefyd yn fanteisiol. Cred- wn mai cithriad ydyw fod cylchdaith gyda phedwar o achosion capelau ar unwaith, a dichon na ddi- gwyddai eto am ugain mlynedd mewn unrhyw gylchdaith. Dichon fod gwrthdarawiad yn fwy an- nymunol nag ydyw o anfanteisiol. Mae tipyn o rivalism yn tynu allan egnion y naill blaid a'r llall; ac mae hyny yn beth hynod iachusol i'r meddwl, tra yn y gwaith, ac yn neillduol wedi cael goruchafiaeth ar yr anhawsderau. Mae yr awydd am gapel newydd yn dyfod fel clefyd dros y gynnulleidfa. Pan ddaw folly, mae yn llawn bryd dechreu gweithio, ac os daw mwy nag un achos ar yr un adeg, credaf y diogelir mwy o lwyddiant wrth borthi y teimlad gweithgar hwnw na'i ddifHoddi i aros amser arall. Gwn am dref yn Nghymru, lie yr ydoedd dau gapel perthynol i'r un cyfundeb yn cael eu hadeiladu neu eu hadgyweirio ar yr un adeg, a dau gapel perthynol i enwacl arall ag ymdrechion yn cael eu gwneyd i dalu eu dyledion, a dau perthynol i enwad gwahanol, a'r cwbl yn symud yn yr un flwyddyn; ac ni bu v naill blaid a'r Hal] erioed yn fwy llwyddianns er cyrhaedd yr amcanion mewn golwg. Addefwn mai eithriad oedd hyn ond cyferfydd achos eithriadol y gylchdaith y sonia Peblig am dani a gwelir y gall gwrthdarawiad fod yn fanteisiol a throi yn llwydd- iant. Gyda golwg ar gael cydymdeimlad cyffredinol tuag at achos y capelau, credaf fod hwnw yn cael ei ddangos yn "nghasgliad yr Ysgol Sul," y casgJiad cyhoeddus, a'r tanysgrifiadau i drysorfa y capelau. Gofelir hefyd am roddi mwy o grant a loan i leoedd gweiniaid na lleoedd cryfion. Yr wyf fi yn gweled fod yr egwyddor gyfundebol yn cael ei chario allan yn gyflawn yn y pethau hyn, tra hefyd yn gadael digon o le i'r teimlad lleol fodoli a gweithredu gydag achos ein capelau. Pe gweithid y drefn sydd genym allan yn deg, credaf na byddai modd gwella llawer arni. Nid wyf yn erbyn diwygiad, Mr Gol., ond ei gael yn ddiwygiad, ac nid cvfnewidiad. Dichon y gall Peblig, neu un o'ch gohebwyr medrus, daflu goleu gwahanol i mi ar y drefn awgrymiadol hon. Yr wyf yn tynu i oedran bellach, ac hwyrach yn or. awyddus i lynu wrth y pethau sydd." Maddeuwch feithder fy ysgrif ar hyn o beth. Gwelais amser y gallaswn ddyweyd fy meddwl mewn llai o eiriau.— Yr eiddoch yn gywir, BUGAIL TltOED Y BERWYN.
igH.irbmi.ott CgfiinbxtrjDL…
gH.irbmi.ott CgfiinbxtrjDL Hysbyswyd ni y dydd o'r blaen gan gyfaill o un o drefi niawrion Lloegr, yn yr hon y preswylia miloedd a Gymry, fod Y Giuyliedydd yn cael derbyniad crocs- awus a siriol gan ddegau na dderbyniasant newydd- iadur erioed o'r blaen. Fel hyn y dywed :—" Mae yma ddegau yn derbyn Y GwyZiecIyilclna ddarllenasant bapur nowydd Cymreig erioed o'r blaen." Profa hyn fod gwir angen am dano i wneyd y Cymry Wesley- aidd yn hysbys o symudiadau yr enwad yn Nghymru. Wrth edrych dros Fynag Pwyllgor y Capelau can- fyddem fod swm y casgliadau a'r tanysgrifiadau yn cyrhaedd i £liJ,290 13s GJc, yn cynnwys y symiau yn y Talaethau Cymreig. Yn ol rhif yr aelodau, Talaeth Gogledd Cymru a wnaeth y casgliad mwyaf; y gylchdaith a gasglodd tfwyaf yn y Dalaeth ydyw Cylchdaith Bagillt: ac o'r holl gynnulleidfaoedd yn y Dalaeth cynnulleidfa Shaw Street, Liverpool, gasglodd fwyaf. Homersham Cox unwaith eto; Barnwr gwrth- Gymroaidd Llys y Man-ddyledion. Bu teimlad y Cymru yn rhedeg yn uchel yn erbyn y Barnwr brysiog hwn, ac ymddengys ei fod wedi cynhyrfu teimlad y Saeson i'w erbyn yn ddiweddar. Cof gan y dayllenydd fod y Parch David Roe wedi ei dra- ddodi ganddo i sefyll ei brawf yn Mrawdlys Sir Faesyfed; wedi bod yn eistedd ar yr achos am ran o ddeuddydd, condemniai y Barnwr Mellor ymddygiad Homersham Cox yn tynu casgliadau brysiog a byr- bwyllog, yn hytrach na chymeryd traiferth i sicrhau cymeriad gwirioneddol tystiolaeth Mr Roe. Wedi pedair munud o gydymgynghoriad, dygodd y rheith- wyr ddyfarniad o ddi-euog. Dangoswyd cymeradwy- aeth frwdfrydig i'r dyfarniad gan y dorf luosog oedd yn y llys; a phollebrwyd y newydd rhag blaen at Lywydd y Gynnadledd, ac amrai foneddwyr blaen- llaw yn y Cyfundeb. Da i Mr Roe a thrigoliou Sir Faesyfed fod llys uwch i weinyddu cyfiawnder na'r un yr eisteddir ar ei fainc gan Homersham Cox. Ar wyneb-ddalen y Christian Globe am yr wythnos ddiweddaf ceir darlun o Mr William Draper, Brad- ford, yr hwn sydd yn bleidiwr gweithgar i'r symud- iad dirwestol, ac yn bregethwr cynnorthwyol cymer- adwy yn y Cyfundeb Wesleyaidd. Gwna y diwygiad Protestanaidd gynnydd cyflym yn Italy. Mae o leiaf saith o wahanol enwadau Protestanaidd yn gweithio yn egniol i efengyleiddio Rhufain, chwech yn Milan, pump yn Florence a Bologna, tri yn Turin, a dau mewn .pymtheg o ddinasoedd eraill. Mae o chwech i ddeg ar hugain o weinidogion Wesleyaidd yn llafurio yn Italy, oil yn Italiaid oddieithr dan, ac amrai o honynt yn offeir- iaid Pabaidd dychweledig. Drwg iawn genym ddeall fod y Parch Frederiek E. Toyne, oddiar argyhoeddiad na chaniata iechyd iddo byth mwy i ymgymeryd k gwaith cylchdaith, wedi anfon ei ymddiswyddiad i Lywydd y Gynnadledd. Trwy hyn collir Bnw un o'r dynion galluocaf, ao hefyd un o'r pregethwyr mwyaf dawnus a feddai y Cyfundeb, o blith enwau y gweinidogion. Dywedir fod y gradd o D.D. yn cael ei roddi i'r Parch W. B. Pope gan Brif-athrofa Edinburgh, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth werthfawr, trwy gyfieithu i'r iaith Seisonig, weithiau enwog o Len- yddiaeth Germanaidd. Uchel werthfawrogir ei weithiau duwinyddol ef ei hun hefyfl yn Scotland. Yr unig un arall yn y Cyfundeb Wesleyaidd sydd wecli cael y gradd o D.D. gan uchel-athrofa gartrefol ydyw Dr Moulton. Pan oedd y D.D.'s yn dyfod trosodd o'r America, y naill ar ol y llall, bron yn ddiseibirnt, dywedai Dr Hannah yn y Gynnadledd— Mr Llywydd,—Ofnwyf ein bod i ryw fesur mewn perygl i golli ein gostyngeiddrwydd trwy ein graddoli." Ond nid oes sail i ofni y fath beth pan y graddolir personau o deilyngdod Dr Moulton a'r Parch W. B. Pope. Beth a ddywedasai ein cyndadau pe dywedasai rhywun wrthynt y buasai capel newydd yn cael ei agor yn Rhufain cyn diwedd Ebrill, 1877 P Eto dyma y ffaith. Dywedir fod y capel hwn hwn yr addoldy harddaf a mwyaf yn Rhufain. Ymddengys fod y cwni Wesleyaidd a fwriada clalu ymweliad a'r cyfandir wedi trefnu i fod yn Rhufain ddydd a-goriad y Capel Newydd. Cychwyna o LunJ.ain ar y 14eg o Ebrrll. Drnan o Pio Nono, onide ? Hawdd y gael ei sanctieddrwydd ddatgan drachefn a thrachefn yn nghlywedigaoth "y ifyddloniaid" fod yr Eglwys wedi disgyn i amseroecld cythryblus. Cynnadledd Unedig er lledaeniad Sancteiddrwydd Ysgrythyrol, yn Neuadd y Free- masons, Llundain, o ddydd LInn hyd ddydd Sadwrn, wythnos i'r diwcddaf. Llywj'ddwyd^- cyfarfod- ydd boreuol gan y Llyngesydd Fishbourne. Yr oedd canu o dan aroglygiaeth y Parch T. B. Stephenson a J. Mountain. Yn mhlith y siaradwyr yr oedd y Parch E. E. Jenkins ao Alexander McArthur, Ysw., A.S. Cafwyd cyfarfod bendithiol. Y. Y.
i,l.cn'Db,boI. --
i,l.cn'Db,boI. Nid yw hwnw yn gyfaill neb sydd yn elyn iddo ei hun. Daw da i well, ond drwg ddaw i waeth. Yr ydym yn ofni dynion gymaint am ein bod yn ofni Duw can lleied.—John Ploughman. Ni ddaw rhagoriaeth yn rhan i neb ond fel gwobr llafur. Nid hoelion, ond cariad, a ddaliodd Crist wrth y groes. Fel mewn llythyr, os bydd y papnr yn brin yr ysgrifenwn yn agos iawn, felly bydded i ni wnej d y goreu o fan funudau amser anmhiisiadwy.—Jay. Y CYFARFOD GWEDDI.- Y cyfarfod gweddi ydyw pulse yr eglwys os bydd y pulse yn taro yn gryf a rheolaidd, arwydda fod y cyfansoddiad yn gryf ac iachus; os yn wanaidd ac afreolaidd, arv/ydda nychdod ac afiechyd. Pan ddelo iechyd a chyfan- soddiad yr eglwys i'w lie, bydd y cyfarfod gweddi yn fwy poblogaidd na'r gymanfa.- WilZiains o'r Wern. DULL DWYREINIOL 0 FESUR AMSES.—Yr oedd preswylwyr y dwyrain yn mesur amser wrth hyd eu cysgod. 0 herwydd hyny, pan y gofynid i ddyn faint oedd hi ar y gloch, etc a aethai allan yn uniongyrchol i lewyrch yr haul, ac a safai yn syth; yna, gan edrych pale yterfynai eigysgod, mesurai ei hun gyda'i draed, a dywedai wrthych yr amser ar y diwrnod. Fel hyn, byddai y gwoithwyr yn dysgwyl yn avvyddus am y cysgod a ddangosai iddynt yr amser i adael eu gwaith. Dywedai gweithiwr a ewyllysiai adael ei waith, Faint o amser etto a raid i mi ddisgwyl am fy nghysgod ? Pa ham na buasech yn dyfod yn gynt ? Canys disgwyliais am fy nghysgod." Yn v seithfed bennod o Job, yr ydym yn cael y geiriau canlpxol:— Megys y dyhea gwas am gysgod." BYWYD FEI, A?ON.—Gellir cymliaru bywyd pob dyn i afon—yn codi mewn dinodedd, yn cyiyddu trwy dderbyn i mewn ffrydiau dyeithr ac ar ol rhedeg am bellder mwy neu lai, yn ymgolli i ryw dderbynfa gyfI- redin. Fel cwrs afonydd, gall bywydau dynion fod yn fwy neu lai ymledol; ond a yr oil o'r golwg yn mor tragwyddoldeb. Tr0 byddo ffrwd 3-11 gyfvngedig o fewn ei cheulanau, y mae yn ffrwythlon, yn cyfoethogi, ac yn gwellhau y wlad y byddo yn myned drwyddi; ond os ymedy o'i sianel, y mae yn dyfod yn niweidiol a dinystriol-yn fath o nuisance cyhooddus a thrwy sefyll yn ferddwfr mewn llynoedd a chorsdiroedd, y mae ei tharth agerol yn taenu afiechyd a heintiau oddi amgylch. Y mae rhai yn llithro ymaith mewn anenwogrwydd, tra y mae rhai eraill yn dyfod i hysbysrwydd mawr—yn croesi cyfandiroedd, yn rhoddi enwau i wledydd, ac yn penodi terfynau i ymherodraethau. Y mae rhai yn dawel a digynhwrf yn eu rhedfa, pan y mae eraill, gan ffrydio yn gen- llifoedd, yn ymluchio dros glogwyni, a chwyrn ddis- gyn yn rhaiadrau, yn dyfod yn wrthddrychau o ar. uthredd ac ofnadwyaeth. Ond pa mor wahanol bynag eu nodweddau neu eu cyfeiriadau, y mae cwrs pob un o honynt fel eu gilydd yn derfynedig—buan y syrthiant i mewn i'r un derbynle eang—eu dyfroedd o'r diwedd a ymgymysgant yn nhonau y cenfor. Fel hyn, am ddynolryw, pa mor amrywiol bynag eu nodweddiadau a'u gweithredoedd, y maent oil i ym- golli yn nghefnfor tragwyddoldeb.-Robert Hall. DUWTN GWELED.-Gallasai y dyn oedd yn dywedyd wrth ei enaid am fod yn llawen ar y da lawer oedd ganddowedi eiroi i gadwam lawer o fhmyddoedd, ym- lawenhau felly, oni buasai fod Duw yn ei weled. Ond efea'igwelodd ynayrthio i hunan-sicrhad annuwiol, ac a fynodd y nos hono ei amddifadu o'i enaid. Nac anghofiwch hyn, chwi sydd wedi j'mlenwi a chyfoeth, a'ch cwpan yn rhedeg drosodd. Pe na buasai Duw wedi gweled Achan yn cymeryd y llafn aur cawsai ei gadw iddo ei hun am ei drafrerth, ac ni buasai neb yn gwybod yn mha le ei cuddiwyd. Ond yr oedd Duw yn ei weled, er mor ddiogel y weithred, ac efe a dalodd iddo 4 chy wilj-dd yn ngwy dd holl Israel. 0 Arglwydd! beth yw dyn, pan yr wyt ti dy hunan fel hyn yn ei wylio ? Ni buasai Achan byth yn lladrata pe gwy buasai fod Duw yn ei weled. Ni feiddiasai Gehazi gymeryd gwobr pe meddyliasai fod Duw yn dal ar ei weithred- oedd. A ladrati di, a'r perchenog yn edrych arnat ? A leferi di fradwriaeth yn nghlyw brenin? Ni wnaech chwithau ddywedyd celwydd, na thyngu, na lladrata, na niweidio, na bod yn halogedig, ar un adeg, pe yr ystyriech fod yr Arglwydd yn eich gweled, a phe y cofiech ei fod ef yn eich gwylio. Pe gwnaem hyn, byddai raid i bechod fyned i gardota o ddiffyg gwaith. Gan hyny os rhoddwch sylw i'r rhan yma o'm pregeth yn unig, fod Duw yn gweled y cwbl, chwi a ymattaliwch oddi wrth yr holl bethau dirgel sydd yn bechod yn erbyn Duw; yr hyn bethau, rhag ofn neu gywilydd, na wnaech o flaen wyneb dynion; a chwi a ddywedech, hyd yn oed pan wedi estyn allan eich Haw, Nis gwnaf hyn, o herwydd y mae yr Arglwydd yn fy ngweled. Henry Smith.