Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HAMDDEN GYDA DARLLENWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HAMDDEN GYDA DARLLENWYR. IV. Yn Rhaglith" llyfr Cymraeg sydd newydd gael ei droi allan o'r wasg, sylwa ei olygydd athrylithfawr fod ein llenyddiaeth, ar hyn o bryd, yn dclyledus, i raddau helaeth, i lafur enwogion y pulpud a fuont feirw yn nghorfE yr ugain mlynedd diweddaf. A gallwn ofyn," meddai, "onibai llafur y rhai hyn, beth a fuasai y genedl yn wneyd y dyddiau hyn am lyfrau ?" Tra yn addef gwirionedd y sylw crybwyll- edig gyda golwg ar lenyddiaeth Gymreig, tueddir ni i cliwanegu fed yr un peth yn wir, i fesur pell, ar hyn o bryd, am lenyddiaeth ein cymydogion Seisonig. Gyda dylediis barch i lafur ein hatlirawon byw yn y gwahanol ganghenau o wybodaeth, yr elfen amlycaf ar estyll y llyfrwerthwyr, am y presenol, ydyw gweithiau oI-argraiEedig a bywgraffiadau dynion mawr a dorwyd i lawr o dir y rhai byw yn ystod y deng mlynedd diweddaf. A rhyfedd y fath doraeth o fywgraffiadau uch- raddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Y mae y cyn- llim bywgrafEyddol yn gyfrwng difyr i gyfleu addysg, yn enwedig hanes golygiadau a digwvddiadau. Ac os bydd y gwrthddrych yn ganolbwynt goleuni, gallu, a dylanwad, ceir mantais ragorol trwy ei gofion i ddeall egwyddorion ac i gael golwg ar eu gyrfa ddadblygiadol, yn eu dylanwad ar eu gilydd, yn nghyda'n moddau dyeithr yn ami o greu frurfiau gweledig iddynt eu hunain. Crybwyllwyd yn y newyddiaduron, yn en cyfeiriadau parchus at loan Pedr, fod y dyn mawr a dyfal hwnw ar fedr cyhoeddi llyfr ar Hanes Crefydd yn Nghymru a fuasai yn rhagori ar ddim o'r fath a gyhoeddasid o'r blaen yn ein iaith; ond y mae yn hysbys i "ddarllenwyr" mai cynllun y gwaith hwnw ydyw cymeryd golwg fywgraffyddol ar hanes crefydd. Y mae lluaws mawr o lyfrau o'r dosbarth byw- graffiadol wedi 1mddangos yn ddiweddar yn Lloegr. Hwyrach mai yr olaf oil ydyw Hanes Bywyd y ferch dalentog a llafurus, ond gwyrgam ei chredo, Harriet Mctrtineau, yn dair cyfrol ddestlus nodedig. Ychydig cyn hyny cyhoeddwyd Bywyd a Llythyrau Charles Kingsley, a'r eiddo Rowland Williams, y Cymro dysg- edig, ond llac ei olygiadau duwinyddol, a gyfranodd un o'r traethodau jnwyaf peryglus sydd yn yr Essays and, Reviews. Gofod a bailai i wneyd dim ond nodi The Life of Wheivell, Memoirs of Dr Macleod, Auto- biographies Dr. Guthrie, Thomas Jackson, a John Stuart Mill, yn nghyda'r cyfrolau rhagorol a ysgrif- enodd Tyerman yn ddiweddar ar The Life and Times of Wesley a The Life of Whitfield. Y mae y farchnad yn wastad yn brysur pan ymddengys cofiant da am wrthddrych teilwng. DiaTi fodylledaeniad a, gafodd gwaith rhagorol Conybeare a Howeon ar Fywyd ac Ysgrifeniadau St. Paul, a gyhoeddwyd flynyddau yn ol, a'r derbyniad fEafriol a roddir yn awr i The Life and Writings of St. John,gan Dr. Macdonald, a'r dar- lleniad cyffredinol bron a ddyry yr holl wlad i waith rhagorol Dr. Farrar ar Fywyd Crist, yn dangos nad ydyw yr elfen fywgraffyddol yn anghymeradwy i gyflen gwybodaeth ac addysg grefyddol. 0 ran hyny dyma y cynllun a fabwysiadwyd i'r pwrpas yna gan ysbrydoliaeth ddwyfol.. Dan arweiniad deddf gwrthgyferbyniaeth (con- trast), sydd yn allu mor bwysig yn yr hyn a elwir yn gymdeithasiad meddylddrychau, yr ydym yn symud oddiwrth brif waith Dr Farrar at hanes bywyd a gweithiau awdwr cynnyrchiol a rhagorol ag yr hynodir ei ysgrifeniadau gan absenoldeb enw santaidd gwrthddrych y Pedair Efengyl. Cyfeirio yr ydym at Xhe Life and Letters of Lord Macaulay, gan ei nai, G. O. Trevalyan, A.S., yn ddwy gyfrol wythplyg, trwchus a destlus. Tra y gwyddys yn sicr fod gweithiau Macaulay yn adnabyddus iawn i gannoedd o'n darllenwyr, a'i enwyn disgyn bob am- aer yn swynol ar eu clust, eto mae lie i ofni fod neillduedd cyfyng ardal dygiad i fyny, a rhyw an- fanteision cyfEelyb, wedi amddifadu llaweroedd o ddarllenwyr ieuaino Y Gwyliedydd o'r budd a'r hyf- rydwch a geir trwy ddarllen gwaith yr awdwr ar- benig hwn. Yn y flwyddyn 1864, pryd y dygwyd allan argraffiad rhad o honynt, y cafodd tenant Ty'n- y gongl yma afael arnynt gyntaf, ac er fod er hyny dros ddeuddeng mlynedd o amser lied brysur wedi myned heibio, y fath oedd yr argraffiadau a wnaed gan ysgrifeniadau Macaulay fel y mae yr oriau ded- wydd a dreuliwyd yn hwyr ac yn foreu i'w darllen mor fyw a newydd i'r meddwl a phe buasai ond megys doe. Ond rhaid ymattal. Myned y rhai sydd hebddynt olwg arnynt yn ddioed. Gellid meddwl fod modd i'r Cymro uniaith gael archwaethu cvnyrchion Macaulay, trwy ymofyn am y traethawd o'i eiddo ar. Milton a gyfieithwyd dan nawdd Eis- teddfod Wyddgrug. Tybed nad ydyw wedi cael ei gyhoeddi yn ei ddiwyg Gymreig yn mhell cyn hyn ? Ac wedi darllen hwnw, bron nad ellid dyfalu y bydd yn worth gan ambell un ddysgu Saesoneg, pe na byddai ond er mwyn medru gwerthfawrogi gweith- iau awdwr mor swynol yn yr iaith y cawsent eu hysgrifenu ynddi. Cyfansoddodd yr awdwr y traeth- awd dan sylw pan nad ydoedd ond llefnyn ieuanc pump-ar-hugain oed. Ymddangosodd ar y cyntaf yn yr Edinburgh Review, oedd y dyddiau hyny yn brif gyhoedcliad cyfnodol y deyrnas, a gwnaeth y fath argrafE ar y wlad, fel ag i ennill safie arbenig i'w awdwr ieuanc ar unwaith. Dilynwyd y cyfroddiad hwn gan gyfres o erthyglau dysglaer eraill yn yr un cyhoeddiad. Ymddangosodd yn agoa i ddeugain o draethodau meithion a llafurfawr o'i waith yn y eyhoeddiad hwnw yn unig o'r flwyddyn 1825 hyd 1844, a'r oil o honynt wedi eu seilio ar ryw gymeriad cyhoeddus, megys Johnson, Olive, Hastings, Addison, Pitt, Leigh Hunt, Bacon, &c., ac yn fath o gyfuniad,' var raddfa uchel ac anarferol o hapus, o'r hanesyddol a'r beirniadol. Ysgrifenasai ddeg non ragor o erthyglau i chwarterolyn Knight yn foreuach na hyny, pan oedd dan 25 oed. Arweinir ni gan y ffaith hon at yr hynodrwydd mawr oedd yn nghynriarwch dadblygiad meddwl y dyn mawr hwn. Mae rhai dynion mawr fel y dderwen, yn hir iawn cyn cyraedd i'w llawn faint. A bron nad edrychir ar feddwl sydd yn agor yn gynnar gydag ammeuaeth, gan olygu mai cicaion ydyw peth sydd yn tyfu mewn noswaith -yD. eiddil ei gyfansoddiad, ac yn fyr ei barhad. Ond y mae Macaulay yn enghraifft o braffder, grymusder, a pharhad, wedi d'od i'w maintioli bron 8r unwaith, fel Adda yn yr ardd. Darllenai ef lyfrau trymion i bwrpas pan yn blentyn, a chyfan- aoddai farddoniaeth a rhyddiaeth oedd yn syndod i Hannah. Moore pan yn ddeuddeg oed. Daeth yn un o brif draethodwyr y deyrnas pan yn 25 oed; aeth i'r Senedd, ac a'i araeth gyntaf gosododd ei nod ar y ty, pan oddeutu 30 oed. Pa anfanteision bynag all 1 gydfyned a dadblygiad cynnar, un fantais orbwysol i luaws o honynt ydyw yr estyniad a ddyry i oes dyn yn y -byd, hyny yw, oes fel cymeriad cyhoeddus. Bu Macaulay farw cyn cyrhaedd triugain oed; ond trwy fod ei feddwl wedi agor mor foreu cafodd ddeugain mlynedd addfed i gyflawni gwaith nad 9 oes ond ychydig a gawsant lawer mwy o flynydd- oedd ar y ddaear nag ef wedi cyflawni ei gyffelyb. Fel pob dyn o'i anianawd ef, gwnaeth fwy nag un cynnyg i saernio barddoniaeth. Ond gwaith mawr ei oes ydyw ei History of Englancl, gwaith a bery mewn bri cyhyd a'r iaith Saesoneg, ac a ddarllenir gydag awch yn mhell ar ol dydd claddedigaeth y New Zealander y tybir ganddo a saif rywbryd ar bont Llundainifraaluniohen furddyn St. Paul's. Dech- reuwyd cyhoeddi ei weithiau yn gynnar ar ol i'w glod gael ei ledu; ac y mae hanes y galw oedd am danynt, a'r cyffro a effeithi^-yd trwyddynt yn y deyrnas hon ac yn America, fel y ceir yr hanes gan Curwen yn ei History of Booksellers, yn un o'r pethau mwyaf Cynhyrfus. Gwerthwyd 125,000 copies o'r History of England yn America mewn pum' mlynedd. Aeth ei Essays trwy bump o argrafliadau yn y wlad hon mewn chwe' mis; ac y maent yn parhau yn boblogaidd o hyd. Dygir argraffiad ar ol argraffiad o honynt allan y naill flwyddyn ar ol y Hall. Am fanylion hanes ei fywyd, ymgydnabydder a'r ddwy gyfrol ddygwyd allan gan Mr. Trevelyan y dydd o'r blaen. A \phan eir drwy y rhai hyny, gorchwyl anhawdd fydd ymattal oddiwrth ei weith- iau rhagorol yn mhob modd; ac y mae ymgolli yndclynt am ryw gymaint o amser mor llwyr ag y bydd y claf mewn twymyn yn sicr o adael ei ol arnom er daioni am weddill ein hoes. Heblaw yr ystorfa annherfynol o wybodaeth a geir trwyddynt, a'r budd o deimlo wrth eu darllen mor hynod o an- wybodus ydym, y isae rhagoriaethau yr arddull yn rliwym o ddyrchafu a chyfoethogi ein modd ninnau o ddyweyd ac ysgrifenu ein meddyliau. A dylid darllen or mwyn gwella ein harddull, yn ogystal ag er mwyn cywiro a. helaethu ein gwybodaeth. Dichon mai un o ddiffygion penaf llenyddiaeth Gymreig ydyw aflerwch, a moelni, a thlodi yr arddull a fab- wysiedir. IEUAN MYETII. Ty'n y Gongl.

PARLWR BACH CATERWEN.

MR. JONES, BATHAFARN.

CERDDORIAETH Y CYMRY.

[No title]