Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

--Gwaith yn Aros-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwaith yn Aros- OES y mae gwaith, a gwaith mawr yn aros am Weinyddiaeth Ryddfrydol unol a chref i'w gyflawni. Cwynai Judah, pan yr oedd Nehemiah yn adeiladu mur Jerusalem, fod pridd lawer, ac am hyny nad allent adeiladu y mur. Nodasom wythnos i heddyw fod Syr H. Campbell- Bannerman yn gweled fod pridd lawer- anhawsderau mawrion lawer i'w gorch- fygu-yn cael ei adael ar ol gan y Weinyddiaeth sydd yn awr mewn swydd, ac y mae yr anhawsderau ar gynydd gyda'u harosiad ynddi. Ond os gesyd y wlad y cyfrifoldeb ar Weinyddiaeth Ryddfrydig, addawodd Syr Henry y gwnant eu goreu nid yn unig i symud y pridd, ond i adeiladu y mur hefyd. Ac i wneyd hyny, bydd yn angenrheidiol gwylio rhag ymosodiadau, cyhoedd a chudd, Sanbalat a Thobiah, a haid y diffyndollwyr. Dibyna hyn yn gyntaf ar y wlad ei hun. Os dewisa hi brinder arian a bara drud, a phrinder bwyd i'w plant trwy adael i Mr. Arthur Balfour a Mr. Joseph Chamberlain ei thwyllo, rhaid iddi gymeryd y canlyniadau holl anfanteision uniongyrchiol diffyndollaeth ac ataliad ar bob gwellhad a chynydd yn amgylchiadau a manteision cym- deithas gartref. Da genym fod prif swyddogion y Cyngrair Rhyddfrydol Cenedlaethol yn effro i'r angen. Y mae eu Cylchlythyr at Gymdeithasau Rhydd- frydol y wlad yn amserol, a'r gochel- iadau, yn gystal a'r anogaethau a'r cyfarwyddiadau, yn bethau y mae galwad am danynt. Diffyndollaeth yw polisi y Toriaid, ac y mae o bwys peidio cymeryd buddugoliaethau Rhydd-Fasnach yn yr etholiadau achlysurol diweddar yn brawf fod y fuddugoliaeth derfynol eisoes wedi ei henill. Yn yr Etholiad Cyffredinol y bydd y frwydr fawr. Rhaid i'r Rhydd- frydwyr enill hono nid yn unig i gael digon o fwyd i'r plant, ond gyda hyny i ddwyn yn mlaen y diwygiadau y colledir y wlad yn ddirfawr o achos eu hoediad. Dywedodd Mr. Samuel Smith, yn ei araeth gampus yn y dref hon rai dyddiau yn ol, nad oedd ganddo ameuaeth y bydd y blaid Ryddfrydol, os bydd hi yn ddoeth, mewn awdurdod am dymor maith ar ol yr etholiad nesaf. Gobeithio hyny. Ac os felly, bydd iddi gyfleusdra i wneyd y gwaith sydd yn ei haros mewn adeiladu. Ac felly, mal y dywedai Mr. Smith, dylid cadw del- frydau ger bron, i'w gweithio allan. Envvai y boneddwr anrhydeddus amrai bethau a ddylent fod ar y rhaglen. Yn mlaenaf oil y mae o'r pwys mwyaf cadw polisi Tramor heddychol: peidio gwneyd esgus i ryfela yn erbyn cenedloedd bychain, yn gystal a rhai mawr. Y mae cyfiawnder a chyfleus- dra yn galw am hyny. Os mewn helbulon Tramor, atelir y gwaith angenrheidiol gar- tref. Ond pan y bydd y Rhyddfrydwyr mewn swydd, y mae Heddwch yn un o arwyddeiriau y wlad. Wrth gwrs, y mae eisiau doethineb yn gystal ag amcan da ac fel rheol y mae y gwladweinwyr a am- canant yn dda, yn unol ag egwyddorion iawn, yn gweled modd doeth o weithredu yn ddyogel. Sylwodd Mr. Smith ar gyn- ydd cyfoeth yn y deyrnas hon, yn ystod yr haner canrif diweddaraf fod y cyflogau yn uwch nag yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. a sefyllfa pob dosparth yn y wlad, ar y cyfan, yn fwy llwyddianlls. Y mae y pethau hyn i'w cadw mewn cof, ac mewn modd arbenig felly yn y cyffro presenol- pan y cynygir tolli y dorth i wella'r wlad Ond y mae peth arall hefyd i'w gofio: fod nifer fawr o bobl y wlad hon heb ran na chyfran o'i llwyddiant, Dywedodd Mr. Smith nad oes yn agos gymaint o fudreddi yn Germani, Holland, Denmark, a Swit- zerland a welir yn ninasoedd y wlad hon, acynenwedig Llundain. Y mae lluoedd yn byw mewn tai annghymyvys eu holl gylchyniadau yn dylanwadu i'w dirywio. Ac y mae y ddiod feddwol a diffyg cyfleus- derau i fyw yn weudaidd yn cyd-ddylan- wadu i wneyd miloedd ar filoedd yn mhob ystyr yn druenus. Y swm anferth o arian a wariodd y Llywodraeth i ladd a dinystrio yn Ne Affrica Ac i ba beth ? I Toddi pluen yn nghap Mr. Chamberlain, a mwy o filiwnau yn nghoffrau rheithwyr digon diegwyddor i wneyd caethion o'r Chineaid, a rhoddi gwarthnod du ar gymeriad Pryd- ain Fawr yn y fargen. Beth pe ddefnydd- asid yr arian hyny ar gynllun doeth i wella tai y bobl gartref ? Y mae y gwaith o lunio rhyw foddion i gyfarfod a'r achos hwn yn aros Gweinyddiaeth Ryddfrydig. Er mwyn hyny bydd eisiau cynlluniau a moddion i ffrwyno y fasnach feddwol, trin y tir, ac unioni a chyfartalu llawer o beth- au nad oes reswm na chyfiawnder dros iddynt barhau mal y maent—pethau y mae yn beryglus eu gadael felly. Y mae pethau yn aros nad oes ond dynion da, ffyddlon i egwyddorion Rhyddfrydiaeth, yn alluog i'w cyflawni. Cofied Cymru am ei dynion da

Lansdowne ar ol Ciniaw,

Y Bennod Gymysg.

Advertising