Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Clwb a Diod.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Clwb a Diod. Ymddangosodd y Nodiad canlynol gan Gleaner," yn yr Advertiser (a gyhoeddir yn y swyddfa hon) am ddydd Sadwrn. Wedi cyfeirio at agoriad Clwb Toriaidd yn y dref, efe a ddywed: "Y gwaethaf yw fod gan y Toriaid syniad gwahanol i'r Rhyddfryd- wyr am yr hyn sydd yn dyrchafu. Meddyliai y naill mai y dyrchafiad mwyaf dyrchafol ar glwb yw gwydr- iad o gwrw neu whiskey. Rhywfodd neu'i gilydd, ni thry olwynion Toriaeth yn esmwyth heb eu llith. tigo gan wlybwr oddiwrth y darllawydd neu y distyllydd. Onid yw yr holl etholiadau Seneddol yn esiampl darawiadol o'r gwirionedd hwn ? Gwir- ionedd hefyd yw, yn mha le bynag y cyferfydd dau neu dri o Doriaid gyda'u gilydd yno y mae Sion Haidd yn eu canol. Ac yr wyf yn deall yn iawn sut y mae hi felly. Megys y mae y gwleidyddwr Rhydd- frydol mewn angen am ysprydiaeth a cbyffroad gan araeth areithiwr, felly y mae y gwleidyddwr Toriaidd mewn angen am gyffroad gan rywbeth, a chan nad oes ganddynt ond ychydig iawn o areitbwyr, neu arweinwyr Ileol a all eu symud trwy weini i'w deall, y maent yn ceisio ysprydiaeth yn effeithiau symbyl- iad alcohol. Yn wir, byddai Ceidwadaeth yn y wlad hon yn egni wedi wario allan, oni bai ei bod wedi ei throchi yn ngwenwyn y darllawydd a'r dis- tillydd. Y mae yn ddrwg genyf ar ran gwyr ieuaine y dref fod gwlybyrion meddwol i gael eu gwerthu yn y Clwb. Y mae yfed yn y Clw b yn annrhaethol fwy niweidiol, a gelynol i achos sobrwydd, nag yw yfed yn y dafarn. Modd bynag, yr wyf yn cydnabod os ydym i gael Clwb Toriaidd o gwbl nas gall iodoli heb gyflawnder i brynu ac yfed diod." Diolch i Gleaner am ysgrifenu yn blaen. -}IOC-

ATAN, ETO-,Q DDOILGELLAU.

we Mrs. Luxshanghai.I

Trem o'r Twr.

Advertising