Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DARLLENWCH COFIWCH! YSTYRIWCH OS ydyeii yn dyoddef gan unrhyw afiecihyd yn tardldiu oddtiiwxttih Dddffyg Troeuliad1 n:eu Waed Ammihur, defnyddiwirih ..iL U -IT GTYTLi Meddyginiaeth Effeithiol. Pawb vn ei chanmol, Nid yw f-yth yn siooni, Rhydd nerth i'r gwan, Adferiad iechyd i'r claf, A mwynhad bywyd i bawb. Bittern Gwilym Eians I, Y m;ae miloedd: wedi cael iacllnad oddiwrtih amryw glefydau trwy ididefnsyidldio y EEDDYGINIAETH RYFEDDOL HON Pan y mae POD MED DYGINIAETH ARALL W:2:DI MiETHU. Meddygir.iae: h Lwyd dianus. Dywed MILOEDD a -wellhawyd drwydW.4 miai hon yw Meddygiiuaeth Oreu yr Oes. Bitters G-Jvilym Evial- s Y mae yn gwelia Gwiaed Anmhur, Dittyg Txteubad, AnShwyddieriau y Oy3 lia, Llo.sg Cylla, Grwlendlid Gdieuol, Pruddiglwyf, IseldfeT Yspcyd, Ciefyd yr Ysgyfeint, Gwendid1 Ciyffreidinol, Poeri Gwaed, Dolluriau yr Afu, Diiffyg Aniada, &c. &c. Bitters Gwilym Evens JOT TYSTIOLAETEAU. Penuwltih, Llangeitluo. Amwyi Syr,—Mae amiryw a,clo,dau o'm iteuiu yn wenniiaad eu hieclbiyd, yn enw'sdig un dm mierahed sydd yn fcyfu i fyny, ac wedi tyfu i fyny yn dal iawn. Mae yn ddodldtef yn fawr odddwrltih ddiffyig anadl ar ol yr ymdnccih leiaf "wrath ddilyn ei gor- chwylion. Byddiaf yn cadw Quinine Bitters Gwilym Evens bob amser yn y ty, gan fy mod yn cael ei fod yn gwneyd mwy o les i'm plant na dim a gawsant exioed. (Parch.) D. W. JONES. 18, Railway Street, Lawistown., Tnahiarris. Anwyl Syr,—Y mae yn bleser gennyf eich hysbysufod Quinine Biitibexs Gwilym Evans, yniglh(yrd a'r Digestive Peiaxls, wedi bod yn foiddlion i'.m gwelfa ar ol drioddef yn hiiar Ddiffyg gan Trauiiad. Miae oaetfh- iwted fy ngialwediigaeit'li mewn sio,p Dra- pery ya tmeddu i niwiaidiiio fy ieidhyd, a'm gwneud yn bruddiglwyfus ond mlae eich iraddyginiatetth yn cryfihiaiu y ayfansoddiad a bywiogi yr yspnyd mwy niag, un a gy- merais o'r blaen. Cyimismadlwyaf ef i foawfb, y m3Je yn gatffiateliiad i'r cylhlaedd.- Yr eiddoeh yn ffyddlawn, E. J. WARElHAM. Bitterc GWlIym Evans RHYBUDD GOCHELWCH DWYLLLWYR Edrych wch fod enw Gwilym Evans ar bob abel, stamp, a photel. Gwerthir ef mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c., am 12s. 6c. I'w cael yn mfacb man, neu danfonir hwy "•a rliad ani y prisitaxi uchod yn ddiogel drwy y Pssi oddiwrth y perchenopion,: — SIT^ES HAOnraM CO., LIMITED, LLANELLY, South Wales. Sylwer Pris y GWYLIEDYDD trrwy y Post bob wytlmos am cbwarter )71dyw ls. 8c. Am banaier blwyddyn, 3s. 4c. Am flwyddyi, 6s. 8c. Y taiiiad ymlaen Haw gyda'r arohsb. Anfonir pedlwar trwy y Post am geiniog yr tm wedi talu y draul. Anfoner pob path yn mgihylcli y busnes wedi ei gyfeirio fel hyn MANAGER, GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWOOD, MOLD. CYFEIRIED ein Gobebiwiyr bob perth y dymunamt iddyriit gael eu cyboeddi fel hyn GOLYGYDD, GWYLIEDYDD O'FFICE, LE ES WOO D, MiOLID. GelLir anifon Gohebiaefch heb ddim. o natur llythyr gyda hi am ddimai am bob dwy wns ond gtadtael yr amilen yn agored. BYDDEiD hysbys nad ydym yn gyfrifol am syniad,au ein Gohebwyr. AT EIN GOHEBWYR. Cwyna'r. argraffwyr nad ydynt yn. cael di- go-n o amssr' gyda'r gohabiaethau, &c., felly erfyniwn armoch oil anifon yr hyn fydd g>aa- ny:ch i'w gyhoeddi eiibyn bore Llun yn mhob wytihnos. Aaawdd fydd ii.,io-,Idi i meiwn adiuTi ddaw i law ar 011 hynny. GOL., GWYLIEDYDD OFFICE, LEESWOOD, MOLD. AT EIN DOSBARTHWYR. loan, Coe anion eich enw a'e¡h cyfeiriad. Yx yidyrn yn gorfod gwrtlhod nifex o oheb. iacthau yn bar'haus, aim fod s-widtutdod'au y Llythyrdiy yn dJweydl fod! .prinder stamps arn- ynt. Sylwer, gellir anion gohebiacth. -yinghiyd ag enw a cbyifeiriad! y gohebydd (aid i'w gyhoed'dd) ami dldtimiai, ond, os byd.d ribyv/ibeth o natur n ythyr rhaid talu ceiniog. Y Biweddar Barch. J. P. Roberts. IDaDfu i ni axigraffu rhai uijeiniau yn ych- waneg o'r GWYLIEDYDD yr wythnos d>diwedld- af, yn yr hwn rifyn) y ceir hanes mrarv/olaeth a dhladidtedligaetlh y gwr aniwyl ucihod. Mae gennyan. ydhiydig eto ar law os oes eu heisiau yn rywle. Anlfoner ar umwaiih at MANAGER, GWYLiIiESDYOD OiFFiIICE, LEESWOOD, MOLD. YN EISIAU—Cyfeiriad prescnnol Mr E Parry, gynt o 26, Frances Street, Bargoed, Cardiff. Anfoner at Mlaniager,' GwYLiao- YDD Office.
Family Notices
OSeneMgaetijaw, c. PRIOiDASAU. DAVIES—-EVANIS—-Taclh. 13eg, yn nglbaipel y Wesleyaid, Pendref, Tireffyirnon, trwy weinytMiad y .P.ardh A Lloyd iH'ugihes, Mr Goodwin Davies, Felin Wynt, Helygain, a Miss Louisa Evans, George and Drag- on,' pentre, Helygain. HUlMPlHIRBYS—DAVIE'S—Tach. ISfed, yn Ebenezer, Dolgellau, trwy weimyddiad y Par,chn Moses Roberts a Parri Haws, Mr John Humphreys a Miss Annie Pavir.»—y ddau o D'dtolgellau. ROBlElRlTlS-->]IOINIE\S-Ta.ch. 16eg, yn 1.11 ■faincaereinion, Mr W R lOk^its, "\l.ju:.t Street, Llanfair, gydia Miss Kate Jones, 9, Oxford Street, Blaenau Ffestiniog. SMALLWOOD—ROiB.ERT.S — Yn n gha pe] -Pendiref, Dinibycih, trrwy weinyddiad y Parcihn Lloyd Jones a J Lloyd Hughes, Mr Robert Stmallwood, Gas Street, Llanelwy, a Miss Mary Bdith Roberts, Pensarn, Abergele. MARWÜLAETHAU. LEWIS—'Taah. 14eg, wedi cystudd' byr, yn 65 mlwydd oed, Mrs Sarah Lewis, Labur- num Villa, Erxyru'S, LlaRaxmon. ROBERTS—Tach. 190.g, Mr Owen Roberts, Gwynfryn, Corris, yn 70 miwydd oed. .Meibion iddb ef yidlyw y Parichn T N Ro- berts a G B Roberts, a merch iddo yw priod y Parah Jolhin Kelly. Ceir yohwan- eg am diano eto. HUGHES—Taclh. 11 eg, bu farw Mr David iHugihes, 39, Baldwin Street, Llund'ain.
" Y Saxon Busneslyd."
Y Saxon Busneslyd." YN Bolton ddechreu'r wythnos, bu Syr Alfred Thomas, A.S., Cadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd, yn traethu ei farn ar y Ddeddf Addysg a'i gwersi. Mae barn Syr Alfred ar y Ddeddf yn ddigon hysbys. Fel Cymro, fel Rhyddfrydwr, ac fel Ym neulltuwr, nis gallasai lai na chon- demnio'r Ddeddf yn ddiarbed. Ond yn Bolton aeth Cadeirydd y Blaid Gymreig ymhellach, gan ddweyd fod ymddygiad Eglwysi Lloegr a Rhufain, eu Hesgobion a'u Clerigwyr, yn cyflym yrru'r wlad i gredu na cheir byth ryddhad llwyr oddiwrth ormes yr Offeiriadaeth, hyd nes y torrir pob cysylltiad. swyddogol rhwng y Wlad- wriaeth a Chrefydd. Dichon y synna llawer ein bod yn son am hyn fel peth newydd. Canys onid ar y graig hon y sylfaenwyd Ymneulltuaeth gyntaf? ac onid ar hon y saiftraed anghydffurfiaeth ddi- weddarach ? Cyfyngid Ymneull- tua:;th gynt yn bennaf i'r ddau enwad a adwaenir heddyw fel Annibyn- wyr Bedyddwyr, a'r hen Bresbyteriaid nad oes ond ychydig o honnynt yn aros hyd yr awr hon. Ag eithrio yr hyn a wnaed yn nyddiau'r Werin lywodraeth, mae yr Enwadau hyn wedi bod yn gysson yn eu hymlyniad wrth yr egwyddor fawr mai mater personnol rhwng pob dyn a'i Dduw yw ei grefydd—ac nad oes a fynno'r Awdurdod Gwladol mewn unrhyw fodd ag ef. Pan, yn agos i ganol y ddeunawfed ganrif, y cychwynwyd y mudiadau Methodistaidd Calfinaidd a Wesleyaidd, a phan yn ddiweddar- ach yr ymffurfiodd y Cyrff hyn yn Enwadau Anghydffurfiol, nid ocddent mor glir a'r Hen Ymneulltu- wyr ar gwestiwn cysylltiad y Wlad wriaeth a Chrefydd. 0 fewn cyfnod cydmarol ddiweddar y mae y ddau Enwad mawr yma wedi d'od i gyrnnieryd yr un tir ar y cwesttwn hwn a'u brodyr Ymneulltuol. Ond, er's o leiaf genedlaeth gyfan, y mae Anghydffurfwyr o bob Enwad fel eu gilydd, wedi dyfod i weled lygad yn ilygad ar y prif gwestiwn—set nad yw Eglwys Sefydledig Wladwriaethol yn g) Sion a'r egwyddorion y mae yr Enwadau yn eu proffesu. Yn mha olwg ynte y gellir dweud fod Syr Alfred Thomas wedi torri tir r ewydd ? Yn y ffaith syml ei fod ef yn dal nas gall dyn fod yn gysson ag ef ei hun wrth Ddadsefydlu Crefydd ar y Sul, a'i Sefydlu ddydd Llun wrth ei Dadwaddoli ar y Sabbath, a'i gwaddoli bob dydd arall o'r wythnos. Oywedai mai anghyssondeb yn galw am Ddadsefydlu a Dadwaddoli Eglwys y Plwyf am ,ei bod yn dysgu Crefydd ary Sul, ac ar yr un pryd galw am Sefydlu a Gwaddoli crefydd a cdysgir yn Ysgol y Plwyf ar hyd yr wythnos. Nid yn erbyn y ffurf o grefydd a arferir gan Eglwys Loegr y mae gwrthdystiad Ymneulltuwyr sydd yn galw am Ddadgysylltu'r Eglwys, ond yr erbyn gwneud Sefydliad Gwlad- wriaethol o unrhyw ffurf o grefydd o gwbl. Felly, ebe Alfred, y Cymro rhaid i'r addysg a gyfrennir yn ysgolion y Wladwriaeth, ac y telir am ei chyfrannu gan arian y Wladwriaeth, beidio bod yn Addysg Grefyddol o gwbl. I Nid yn unig rhaid iddi beidio bod yn enwadol, fel y mae yn awr yn ysgolion yr Eglwys. ond rhaid iddi beidio bod yn Grefyddol; canys os amgen bydd y Wladwriaeth, ar ol torri'r briodas a'r Eglwys, yn ffurfio cysylltiad yr un mor Anachaidd a ffurf arall o Grefydd. Felly, safodd Syr Alfred yn gryf dros wneud yr Addysg a gyfrennir ar draul y cyhoedd yn Addysg holiol Fydol gan ymddiritd yr Addysg Grefyddol i egwyddor wirfoddol y cartref a'r Eglwysi. Pan glywodd Tomos, y Sais, hyn, efe a ffromodd yn aruthr. Y Parchedig Thomas Law yw Ysgrifennyd Cyngrair Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion. Atebodd efe Syr Alfred mewn araeth danllyd ychydig ncsweithiau wedyn, gan ddweyd na tha!ai byth mo'r ffordd i ddadlt u dros Addysg fydol, secular education yn Lloegr y buasai'r Ethol- aethau yn sicr o fyned yn ein herbyn ac mai doethineb gan hynny fuasai i Ymneulltuwyr cydwybodol fel Syr Alfred Thomas, ijjbeidio bod yn gysson a'u proffes, eithr plygu o honnynt eu glin yn Nhy Rimmon Addysg Grefyddol Anenwadol. Dywedai ei fod wrth ddweyd hyn yn dweyd barn unfryd Cymru Grefyddol Ymneulltuol. Digiodd Syr Alfred yn ei dro wrth Mr Law, ac atebodd ef yn Mhontypridd drwy ddweyd y dylasai Mr Law ym- gynefino mwy a syniadau ac amgylch- iadau Cymru cyn cymmeryd arno y swydd o Broffwyd Cymru; gan ych- wanegu mai goreu po gyntaf fuasai i Gymru ffurfio ei Chyngrair Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion ei hunain, gan adael i'r Sais weithio fel y mynnai yn Lloegr. Heb gymmeryd y naill ochr na'r Hall yn y ddadl am Addysg Fydol yn lie Addysg Grefyddol anenwadol rhaid cyfaddef fod Mr Law yn camgymeryd wrth ddyweyd fod Ymneulltuaeth Cymru yn unfryd unfarn o blaid yr olaf. Mae yn Nghymru heddyw nifer liosog, ac mae'r nifer yn cynnyddu yn gyflym, vdynt yn argvhoeddedig mai'r unig gwrs priodol ac anrhydeddus i Ymneulltuwyr ei gymmeryd yw yr un awgrymir gan Syr Alfred Thomas. Fe allai mai nid dyna'r polisi goreu, ond mae egwyddor yn bwysicach na polisi, ac yn y pen draw egwyddor lwydda. Hyd yn hyn cydmaro) dawelog a fu y rhai sydd yn dal golygiad Syr Alfred Thomas ar y cwestiwn. Ond y mae dywediadau eithafol fel yr eiddo Mr Thomas Law, o angenrheidrwydd yn cymhell y cyfryw i dd'od allan yn gyhoeddus o blaid eu syniadau." Gresyn o'r mwyaf fuasai rhwygo gwersyll Cymru ary cwestiwn hwn pan mae Brwydr Fawr Addysg yn poethi. Ond yn sicr mae herio ei wrthwyneb- wyr fel y gwnaeth Mr Thomas Law, yn gymhelliad uniongyrchiol i hynny,— ac yn esbonio, os nad yw yn cyfiawnhau, atebiad Syr Alfred yn yr hwn yr awgryma mai gwell fyddai i Mr Law edrych ar ol y pethau y gwyr efe rywbeth am danynt. -501--
Y Gras Arosol.
Y Gras Arosol. Ca y diwygiad sylw mawr gan athron- wyr> gwyddonwyr y dyddiau presennol, ac y mae yn deiiwng o sylw ac efryd- iaeth ofalus a buddiol. Mae llawer o bethau yn nglyn a diwygiadau na sylwir arnynt gan y bobl gyfTredin, am y rhes- wm mai arwynebol ydynt yn nglyn a ph thau dyfnion athroniaeth. Ychydig o edrych a chwilio i fewn i natur a'i chyfrinion wnant. Byddai yn fuddiol ac yn fendithiol pe y gellid cael y bobl i efrydu pethau yn ddyfnach. Un o beryglon diwygiad yw iddo bar- haa am ychydig yn cyffroi y teimladau heb gyffwrdd a pheirianau moesol y dyn. Sylwa gwyddonwyr fod y teimlad a gynyrfir gan ddiwygiadau crefyddol yn dueddol i weithio ei hun allan drwy y corfF. Effeithia ar wahanol ranau y corff, mewn gwahanol wledydd. Mae engreifftiau o hono yn effeithio ar gegau pobl i beri iddynt waeddi a bloeddio am hir amser-yn fynych gwaeddir gair neu ychydig o eiriau yn barhaus hyd y bo y dyn wedi dyhysbyddu ei hun o'i nerth. Yn mhlith rhai pobl effeithia ar y coesau i beri iddynt ddawnsio dan gynyrfiad y teimlad diwygiadol. Os y bydd dawnsio yn nodwedd genedlaethol y mae y diwygiad yn debyg o weithio ei hun allan y ffordd hono. Dyna wnai Dafydd o flaen yr arch er's talwm. Tebyg ei fod yn ddawnsiwr da, ac felly yn defnyddio ei dalent i folianu yr Arglwydd. Mae pobloedd i'w cael a ddawnsiant am oriau heb flino, a chyfrifant hyny yn foliant i Dduw. Mewn ffordd, y maent yn grefyddwyr y coesau. Mae yn hysbys fod y Cymry yn gantorion—y mae yn dalent naturiol n y iddynt; felly gellid dysgwyl y buasent hwy yn myned ati i folianu Duw a dadgan eu gorfoledd a'u cegau, ond nid mewn gwaeddi, eithr mewn canu soni- arus. Y mae eu teimlad hwy yn cael mynediad allan mewn can ac y mae y Saeson a chenedloedd eraill wedi eu swyno gan grefydd gerddorol y Cymry. Nid yw y Cymry yn ddawnswyr, ac felly nid oes hanes am neb yn ystod diwygiad rhyfedd Evan Roberts wedi troi i ddawnsio, ond y mae miloedd wedi taro ryw emyn neu gilydd fel ffordd o fynegiad i'w teimlad. Cawsom adroddiad cyfarfod diwygiadol yn Mor- ganwg lie yr oedd amryw yn parhau i waeddi a bloeddio Gogoniant," a geiriau Cymraeg eraill hyd nes oeddynt allan o nerth, ond y tebygolrwydd yw. nad oedd y cyfryw yn gantorion naturiol. Ond y peth yr ydym yn ymgyfeirio ato yw y moesol yn nglyn a'r diwygiad. Mae yn ddigon dichonadwy i'r diwygiad fyned i fewn i ysbrydoedd dynion a gweithio allan drwy eu breichiau, eu coesau, eu cegau, &c., heb adael digon ar ol i arwain bywyd bucheddol ar ol hyny. Dyma y rhan ymarferol a ben- dithiol o ddiwygiad nid y cyffro ddaw allan, eithr y gras erys ar ol i drigo yn y galon a'r yspryd i wneyd trefn ar fyw- yd annuwiol ac anfoesol y pechadur.- Y Drych").
Ilol IYn Eisieu-Talent.
lol Yn Eisieu-Talent. CREDWN ein bod yn llymrig ryfeddol fel gwlad yn y dyddiau hyn. Y mae un- donedd ein galliroedd yn boenus, nid oes neb yn rhyw ynfytyn mawr, ac y mae yr uchaf ei dalent ar yr un lefel ag yntau. Yr ydym fel y gro ar lan y mor, pob gronyn yn unlliw a llun, heb un perl yn fflachio yn eu canol, a swn yr ymgomnio a'i areithio didalent fel rhu undonnog a thragwyddol y mor yn ein clustiau o hyd. Daw ambell i don yn fygythiol gan addaw pethau mawr- ion, hithau fel y gweddill yn marw yn ddiniwed ar y traeth. Clywais son mawr ar lawer tro fod bachgen rhyfedd- ol yn codi, ond wedi d'od i'w ymyl digon lliprynaidd oedd ar ol rhoi pin ynddo. Yinhley mae pregethwr i argyhoeddi gwlad ? Y mae digon o ganmol ar Iesu Grist a marw'r Groes (a byth na pheid- ied hynny) a cheir tyrfaoedd i wylo dagrau rhad o dan y bregeth, ond y funud yr awgryma un mwy anturiaethus na'i gilydd fod eisieu byw yn onest, &c., tynnent wyneb fel ffidil allan o diwn. Y mae'r Diwygiad fel rhyw freuddwyd nos wedi myn'd heibio, a ninnau yn teimlo ein bod yn effro o'r diwedd i fwynhau y bywyd yr oeddym ynddo cyn syrthio i gysgu a breuddwydio. Y mae digon o ganmol ar y Diwygiad o'n pul- l, c;1 pudau a'n cynulleidfaoedd, ond pa le y mae'r dalent a'r argyhoeddiad a ddysga ei wersi i'r byd ? B'le mae'r gwr sydd ddigon eofn i ddyweyd wrthym mai ffwlbri yw canu ac anfon gweddiau i fyny wrth y bwndeli os nad oes yna egwyddorion dyfnion o dan y cwbl ? Os anturia gwr awgrymu mai gorec fyddai ychwaneg o bwyll, ac ymdrechu troi yni'r cyfarfodydd yn sel newydd i hyrwyddo mwy o undeb gwirioneddol, gwawdir ef fel un amddifad o Yspryd Duw, a chilia yntau yn ol i'r gragen wedi dychrynnu. Y mae cyfnod y cyfarfodydd dinvestol wedi d'od, ac fel arfer y mae y rhai hynny yn Ilawn o wynt a dim. Pa amcan ar wyneb daear fawr sydd i'r cyfarfodydd hyn ? Y mae'r cymedrolwr a'r meddwyn yn ddigon call i aros o honnynt, ac yn wir mae eisieu aberth mawr a sel dirwestol cryf rhyfeddol i barhau yn ddirwestwr os yw fFyddlon- deb i'r cyfarfodydd glasdwraidd hyn yn amrnod dirwestiaeth. Darllenir cofnod- ion yn mhob cyfarfod rhyw gyfarfodydd a gynhelid ymhell yn y gorffenol anel- wig, a chwyn anghof wedi tyfu hyd yn oed dros y syniad am dannynt. Ond darllenir hwynt mor ffafriol a phwysig a phe yn cyhoeddi barn ar bob tafarn. A chynnygir diolchiadau wmbredd am yr areithiau oer, mewn dull rhewllyd ryfeddol, nes gwneud i ambell un gwan hiraethu am rhywbeth i'w gynhesu. Ac am y Sul Dirwestol-naw wfft iddo. Y mae yn destyn chwerthin y cymedrolwyr a dirmyg y meddwyn—y cwbl a wnant yw aros adref hyd nes el drosodd, a dyna hwy yn ddedwydd am flwyddyn arall. Ac yn y capel tynnir pob barn a ddychymygodd y mwyaf brwmstanaidd ei athrylith ar y dirwestwyr diniwed a phybyr sydd yn bresennol, a hwythau yn eiddigus wrth ddedwyddwch y cymedrolwr yn cael arbed dioddef y fath druth. Yna anaghofir popeth hyd y flwyddyn nesaf. Y mae yn waeth na diles,—oherwydd erys rhai o foddion gras, a dylent fod yno, a'r cwbl a ddywed y rhai fu o dan y driniaeth yw, Wasn't Mr Jones fine this morning ? neu How horrid a sermon to-night, and poor papa not a T T either ? Ac yna aiff y cwbl i ebargofiant am flwyddyn arall. Pwy ddaw allan, a digon o wneiddiolder ynddo, i wneud yr achos dirwestol yn odyddorol i'r lliaws. Y mae'r ym- drechion yr warthus o ddiles yn awr, heblaw fod crefyddwyr yn wincio ar bob pechod anodd ac anymunol i'w drin. O arweinydd y bobloedd tyred Yn Eisieu—TALENT. u.v.w. oi
Yspryd yr Oes.
Yspryd yr Oes. Cylchgrawn a gyfoethogir gan lenorion ieuainc yn benaf yw hwn, a nwyf a nerth ieuenctyd ydynt ei nodweddion penaf. "Dyn yr oes" am y rnis hwn yw'r Parch T Edwin Jones, M.A., ficer, Bangor, a cheir bywgraffiad cryno ac elfeniad teg, yn nechreu'r rhifyn. Parha Mr Wyn Williams ei ysgrifau ar Is- lwyn." ac y mae'n gwella wrth fyned rhagddo gan amlygu cryn fedr i dda- dansoddi crebwyll y bardd dwys ac aruchell hwnw. Ysgrifena'r Parch J D Richards, Trawsfynydd, yn feddylgar ar genadaeth Cymru yn myd addysg- mae'r erthygl yn loew a diwastraff. Pert iawn yw ysgrif Arthen ar Athrawon a'u Helyntion," ac ymddigrifa yn ei bwnc. Tywysen addfed o feddwl coeth yw Crefydd yr Oes: Awdurdod ac Anffaeledigrwydd," a chlod i ben a chalon y Parch H H Hughes, B.A., B D., am ei chynyrchu. Celf a Chrefft Cymru sydd erthygl amserol a theilwng o sylw. Mae nodion y Parch Tecwyo Evans ar y Gymraeg a chyfarfod misol Mr William George yn dra darllenadwy* Tyner iawn yw pryddest Gwilym Dyfi. Dyma'r darn barddonol goreu a welson* er's talm yn y cylchgrawn; ac nid yn ami y ceir felused telyneg ag eiddo f awenber R J Rowlands i "Luned. Brysied ddwyn ei gynyrchion allan- mae canigau o'r math hwn mor brin ag ydynt o amheuthyn. Gwehvn fod Ysdryd yr Oes" yn myned i ofal y Parch Gwynfryn Jones dechreu'r flwyddyn. Mae'r cylchgraWfl- wedi ei gychwyn yn rhagorol, a gobeithiO y llwydda y golygydd newydd galluog1 oruwchadeiladu fel y bo'n addurn i lel1 Cymru. AFALLON.