Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

PRYDNAWN YN LLANGYNIDR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PRYDNAWN YN LLANGYNIDR. Tuedd teithio sydd yn mhob peth yn nghreadigaeth Duw. Teithia'r nant tna'¡' afon, yr afen tua'r mor, y pysgodyn trwy'r dyfnder, yr aderyn trwy'r awyr, y llew trwy'r goedwig, y byd o gylch yr haul, a dyn hyd y ddaear felly, nid wyf finnaa wedi bod yn eithriad i'r rheol ogoneddus hon. Gan fod am- gylchiadau wedi fy nhywys y Sulgwyn i Langors, penderfynais fwynhau'r Llun canlynol yn nghwmni y gobeithiol a'r talentog Ednyfed, Llangynidr. Erbyn cyrhaedd yr ardal, ei fy llaw- enydd, yr oedd yno dea party yn cael ei roddi yn rhad i blant yr Vsgol Sabbothol. Yr oedd yr olygfa yn ysplenydd; dwseni ac ugeiniau o blant bychain yn eu pinafores gwynion a glan yn eistedd lawr, ac yn mwynhau y te a'r deisen frith; llu o ladies respectable yn gweinyddu ar yr achlysur Ednyfed fel brenin urddasol yn eu plith, yn edrych mor Ion yn ymyl ei feistres fwyn a phe hyddai yn llywodraethu y byd a'r Bettws, a miunau yn yfed ffrwyth v ddeilen ddaeth o China, gystal ag un o forwynion Mr. Jones, Tygwyn, Nid oedd y gweithrediadau yna er hyny ond rhagymadrodd i ddarlith odidog oedd i gael ei thraddodi gan Ednyfed ei hunan am 7 o'r gloch. Wedi pryderus ddysgwyl am yr awr, daeth i ben cychwynwyd tua'r capel, yr hwn oedd yn orlawn. Wedi Cinn hen don fywiog, etholwyd Mr. Tewdwr Thomas, Crick- howell (E.), i'r gadair. Wedi agor y cyfarfod mewn araeth fer, galwodd ar y brawd Evans at ei waitb. Cyfododd y dar- lithydd, a dywedodd mai testun ei ddarlith ydoedd Knibb a'i Amserau," a llefarodd am ddwy awr o amser, gyda nertfrf deheurwydd, a hyawdledd neillduol. f Wedi darfod y ddarlith, cynnygiwyd diolchgarwch i'r Dar- lithydd gan Mr. Cadeirydd, ac eiliwyd ef gan J. C. Williams; a chynnygiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd gan Ednyfed, ac eiliwyd ef gan y Parch. D. M. Thomas (A.) ac yn y ffordd yma terfynwyd un o'r darlithau goreu a draddodwyd erioed yn Llangynidr. Ednyfed serchoglawn 1 A gefaist dy ddonio A fflamllyd hyawdledd, a thalent wech Ion, Athrylith y nefoedd o'th flaen a breswylia, A chariad y Duwdod a Ian wa dy fron Darluniaist yn gampus dy wron a'i amser, Eglnraist yn drvlwys ei berson a'i waith •- A tura byddo haul wen yn Lacliar o'.eao, Bydd Knibb a'i amserau" yn goron i'n iaith. Nantyglo. J. C. WILLIAMS.

[No title]

ilituesioit (jfetwM.

©jjfitcMijdil Cvefijdtloi