Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Mr. Evan Roberts yn Methesda…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. Evan Roberts yn Methesda a Biaenau Fiestiniog. YMWELIAD EVAN ROBERTS A BETHESDA. GAN Y PARCH. JOHN WILLIAM^ B.A., RHIWLAS. Yn hollol sydyn brydnawn Gwener y Groglith, bendithiwyd yr ardal uchod gan ymweliad y gwr enwog hwn. Nid wyf yn deall y gwyddai unrhyw un am ei ddyfodiad hyd nes y cyrhaeddodd addoldy Jerusalem, tua thri o'r gloch y prydnawn. Daeth gydag ef yn y cerbyd o Capel Curig, Mr. Williams, Princes Road, Annie Davies, Maesteg, a'i chwaer. Parodd y newydd ei fod yn y Gymanfa Ganu, yn y prydnawn, gyffro trwy'r cylch, fel erbyn yr hwyr yr oedd y capel eang yn orlawn, ac ugeiniau o'r tu allan yn methu myned i mewn. Dechreuwyd cyfar- fod yr hwyr am bump o'r gloch, a daeth Mr. Roberts i mewn ychydig cyn chwech yn nghwmni Mr. Wil- liams, Princes Road. Aeth y cyfarfod ymlaen yn v dull arferol, trwy ganu y tonau, &c., dewisedig, hya tua haner awr wedi saith, pan y taflwyd y cyfarfod yn agored i bawb ddatgan eu diolchgarwch ffordd y z!l mynont. Ar unwaith gwelwyd fod yno argaeau lawer bron llifo trosodd, aeth lliaws* i weddio gyda'u gilydd; yn eu mysg ceid nifer o feibion a merched ieuainc Bethesda,, oedd wedi dod adref dros wyliau y Pasg o wahanol fanau: rhai o Manchester, eraill o Mountain Ash a Treorci. Yr oedd swn y fuddug- oliaeth a'r penderfyniad i fyn'd ymlaen oedd yn eu gweddiau yn rhywbeth bendigedig, a diau ei fod felly i'w rhieni a'u perthynasau, Diolchent oil am y diwygiad a'r diwygiwr. Cafodd llu o honynt fu- aswn dybied olwg ar ogoniantpethau mawr yr efr engyl yn nghyfarfodydd Evan Roberts yn y De, ac mae'n syn na buasai'r lie wedi troi yn wenfflam an- nioddefol, pan gofiwn fod nifer o honynt am y tro cyntaf ar ol eu troedigaeth wyneb yn wyneb a'r gwr fu yn. brif foddion i ddwyn y fendith iddynt. Cred- wn fod yr arweiniad dwyfol yn amlwg iawn yn ny- fodiad Evan Roberts i Bethesda y prydnawn hwn, er yn ymddangos yn ddamweiniol, daeth yma i gad- arnhau y lliaws dychweledigion hyn yn eu ffydd. Amlwg oedd fod Evan Roberts wrth ei fodd. Ychydig wedi wyth o'r gloch cododd yn sydyn ar ei draed, aeth at y Beibl, gan droi ei ddalenau yn gyfiym, eisteddodd eilwaith, a chododd drachefn, yna siaradodd am tuag ugain mynud neu ychwaneg. Hon oedd y waith gyntaf i ganoedd, fel fy huiian, glywed Mr. Roberts; lluddiodd amgylchiadau i lu o honom o'r Bala fyn'd i Lerpwl. Yr oedd ei an- erchiad neithiwr yn un o'r pethau mwyaf byw glyw- som erioed. Traddodai yn hollol naturiol, eto gydag awdurdod gorchfygol; ei sylwadau yn fyw a tnin- iog Teimlem ei fod yn gallu dweyd y peth lieb gwmpasu dim tarawai yr hoel hyd adref bob. tfo. Mae ei drem weithiau yn oinadwy,, a'i wen yn nefol- aidd, a gwae'r gwr ddelo i'w gyfarfodydd mewn ysbryd ffol, heb ddymuno a gofyn am fendith cyn dod yno. Disgynodd ei lygaid ar hanes Y gwr goludog a Lazarus.' Bore heddyw ceisiwn alw i gof rai o'i sylwadau, a chredaf iddo ddweyd rhai pethau fel hyn —" Mae'n syn genyf na buasai'r lie yma yn goelcerth er's amser. Mae'r Ysbryd yma yn ddi- ddadl, ond a yw pawb wedi dod yma i addoli? a ydym yn gallu myn'd trwy'r emynau yma at Dduw? Dyna sydd yn fendigedig, gallu myn'd trwy emyn at Dduw. Mae yma hanes dyn yn gweddio yn fan yffia5 y gwr goludog. Mae e' yn gweddio yn daer- Efe a lefodd,' ond gweddio ar ddyn y mae, nid ar. Dduw. Mae e' yn gweddio dros ei frodyr, bump, a'r pump yn annuwiol. Mae yma frodyr yma yn gweddio dros eu brodyr, rhieni dros eu plant, a phlant dros eu rhieni; ond a ydym wedi setlo ein hachos ein hunain a Duw ? Wiw gweddio am i Dduw achub eraill heb setlo ein hachos personol a Duw. Rhaid i bob un setlo ei orphenol a Duw. Sut mae hi rhyngom a'r gorphenol a Duw ? Faint all weddio yr adnod hono, Chwilia fi, 0 Dduw p Nid oes neb fel Duw am chwilia a dangos. Fe allwn ni chwilio a dangos. Ond y funyd mae Duw yn chwilio a dangos, mae ganddo drefn i faddeu yr un pryd a'r funyd mae e' yn maddeu mae yn claddu am byth. Unwaith y maddeuir ein beiau, adgyfod- ant hwy byth wed'yn. Mae Duw yn dweyd wrth Moses, 'Yr Aifftiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hyny.' Fe elli di wel'd dy elynion wedi i Dduw faddeu i ti, ond wel di yn dragywyddol mo dy feiau, fe'u cleddir am byth. Faint sydd yn gweddio am i Dduw faddeu iddynt; ie, gweddio yn y dirgel; a dyna le braf i weddio yn y dirgel. Mae Duw yn datguddio ei gyf- rinach i ddyn yn y dirgel, ac mae cyfrinach Duw yn beth sanctaidd neillduol. D'ellwch chwi ddim dweyd cyfrinach yr Anfeidrol wrth ddvnion eraill. Ddarfu chwi sylwi ar y dyn yn dod o'r dirgel: y cyfan dd'wed o wrthych ydyw, 'Mae e' yn fendi- gedig,' dim byd arall, nid y gyfrinach. Mae Iesu Grist yn sefyll heno wrth y drws ac yn euro, am ddod i mewn; ie, sefyll y mae.; nid gorwedd y mae, nid eistedd, ond sefyll. Diolch i'r nefoedd fod yma ganoedd yn agor iddo yn ein gwlad yn awr. Sut y gwyddoch eu bod yn agor iddo^—Wrth eu ffrwyth- au yr adnabyddwch hwynt.' Gellwch ddweyd wrth y 'results,' eu bod wedi eu cadw; ie, wrth eu ffrwyth- au yr adnabyddwch hwynt.' Cwestiwn anhapus yw hwnwv A yw hwn a hwn yn aelod ? ie, wrth eu ffrwythau. Ami un sydd yn proffesu ei fod yn blentyn y ddeheulaw fydd ar yr aswy law yn y diwedd. Cawn, fe gawn weled pawb yn ei le; a'r Iesu ei hunan, fe gawn ei weled; iet,, yr Iesu, dyna fe." Dywedai y geiriau olaf hyn gyda rhyw wen dangnefeddus, Ie, yr lesu," y gwr y gwna Evan Roberts gymaint o waith drosto. Erys y geiriau ac ymddangosiad y diwygiwr pan y dywedai hwynt yn rhywbeth nas gellir eu hysgar byth oddiwrth pu gilydd, Gweled yr lesu hwn," Er fod y gwres yn neillduol o uchel, elai pob peth ymlaen yn hwylus, heb unrhyw rwystr. Yr unig beth welsom barodd gyffro i'r diwygiwr oedd clywed, pan brofwyd y cyfarfod, fod yno hen wr yn gwrthod I rhoi ei hunan i fyny i Grist. "Hen wr," meddai, nis gallaf ddeall peth fel hyn, wedi rhoi triugain mlynedd i Satan, a rydd e' ddim blwyddyn i Grist." Yna disgynodd i weddi dawel dros y gwr. Cyn gweled Mr. Roberts, credem ynddo fel anfon- edig Duw, and mae ei weled a'i glywed yn cadarn- hau ein ffydd ynddo, a diolch i Dduw am dano. Wele broffwyd nad yw yn teimlo ei fod yn gyfrifol i neb ond i'w Dduw am ei genadwri, a rhaid""dweyd hono. Diau nad yw ei waith ond dechreu, mae ei gen- hadaeth i fod yn un fawr, a'i genadwri i ddeffro miloedd lawer eto.

;FFESTINIOG—CYMANFA Y PASC.…