Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Er mwyn cael adroddiad prydlon o'r Gymdeith- asfå. a gynhelir yr wythnos nesaf yn Colwyn Bay, gohirir cyhoeddi y rhifyn nesaf or GOLETJAD hyd boreu dydd Iau. Anfonir yr holl bar soli ymaith gyda'r trens boreuaf ddydd Iau, ar gweddill fel ag iddynfc gyraedd gyda'r post ddyddJ Gwener i bob toan drwy'r wlad. Bydd yr oil o'r rhifyn, gyda'r eitliriad o'r adroddiad o'r Gymdeitbasfa, yn cael ei Sysodi fel arfer ddechreu'r wythnos, ac felly taer erfynir ar i'r holl ohebiaethau a fwriedir at y rhifyn nesaf gael eu haiifon yn brydlon. Maè'r drydedd gyfrol o bregethau. y Parch. B. Da-vies, D.D., Trelech, wedi cyraedd ail argraffiad. yhhwysa hon 27 o bregethau. Gosodwyd y gwaith o wneyd reilffordd ysgafn Trallwn a Llanfair Caereinion i Mr. J. Strachan, Oaerdydd. Disgwylir i'r reilffordd fod yn barod vv hagor yn nechreu 1903, os nad yn gynt. Addawodd Mr. John Cory L250 i Dr. John Pugh tuag at Neuadd Saltmead, Caerdydd, os gellir talui nm dani wrtli ei hagor. Mae dros yr haner wedi ei addaw, a, Dr. Pugh wrthi a'i holl egni yn ceisio cael y gweddill. Camrau'r Plant" ydyw enw llyfr bychan destlus o waith y Parch. J. C. Lloyd, Ynysybwl, sydd newydd ei gyhoeddi gan Mr. J. E. Southall, Cas- newydd. Ei amcan ydyw dysgu'r plant i ddarllen, a hyny drwy ddysgu iddynt hanes a gwersi pwr- Pasol iawn. Dydd Mercher llywyddai Esgob Tyddewi mewn c'ynhadledd yn Abertawe i ystyried adroddiad Ar- ghvydd Peel ar y fasnach. Yn bresenol, hefyd, yr oedd Esgob Hereford. Pasiwyd penderfyniadau o blaid deddfu ar linellau adroddiad Arglwydd Peel. Un o arwyddion gobeithiol yr ainserau ydyw gweled yr esgobion mor unol gyda'r symudiad hwn. -+-- Ma,e Mri. J. Austin Jenkins, B.A., cofrestrydd Ooleg y De, ac R. Edwards James, cyfreithiwr, Oaerdydd,—y naill yn Annibynwr, a'r Hall yn Fed- yddiwr,—newydd gyhoeddi hanes Anghydffurfwyr Oaerdydd,—y naill yn Annibynwr, a'r Hall yn Fed- odd Mr. Austin Jonkins o'r blaien hanes yr Anghyd- ffurfwyr o 1604 i 1788, ac yn y gyfrol hon dygir yr banes ymlaen i'r adeg bresenol. — + Ymwelodd Dr. Pugh a'r Henadur Jones-Griffith a lie o'r enw Oinderford, yn Forest of Dean, ar ran pwyllgor y Forward Movement, gyda'r pwrpas o Yragynghori ag eglwya o 50 o aelodau, Ysgol Sab- bothol o 140, a chynulleidfa o 200, sy'n awyddus ymuno a'r Symudiad. Teirnla'r ddau genad: fod yma ddrws agored, ac y dylai y Methodistiaid fyned ymlaen. -+-- Agorwyd llyfrgell gyhoeddus newydd Abermaw dydd Mercher mewn adeilad, newydd gerllaw gor- 7 reilffordd. I'r adeilad hwn cyflwynodd Miss ranees Power Cobbe ei llyfrgell, yn cynwys llawer 0 lyfrau rhagorol. Mae yr hyn a wnaed yn Aber- yn deilwng o efelychiad lleoedd mwy. Gweith- 1\V'yd yn ddiorphwys nes agor y lie yn ddiddyled, ac y mae'r adeilad a'i gynwys yn anrhydedd i'r dref. Parha Bedyddwyr Cymru i ddadleui yn eu plith ett nunain beth yw y safle a ddylent gymeryd gyd- enwadau Ymneillduol eraill. Mae yn eglur mai ymuniad llawer ydyw gweled Oyngrair yr Eglwysi IthYddion yn cael ei droi yn rhywbeth heblaw yr hyn ydyw. Awgrymir y gellir cydweithio a'r en- Wac,a" eraill gyda chadwraeth y Sabbothol, rhyddid crefyddol, a dirwest,-yn eu Inigvvedd wleidyddol, 1l1aeln debyg. Tra y dadi-euir fel hyn, aberthir eff- 6ithiolrwydd y Cyngrair, ac mewn llawer lie, nid yw yn werth ei gadw yn fyw. Gwnaeth. Proffeswr Winter, o Goleg y Gogiledd, a-r- brawfiadau gyda deuddeg; o wahanol fathau o geirch ar fferm yco-leg y llynedd, ac y ma.e ei nodiadau wedi eu cyhoeddi at wasanaeth amaethwyr. Crcd- af mai da, fuasa-i i lawer anfon ato am gopiau. -+-. Barna Mr. E. Jones Griffith, yr aelod dros Fon, fod gwaith mawr y byd yn cael ei gario ymlaen gan bobl ddistaw, y rhai nad. ydynt byth a hefyd yn cadw eu henwau. o flaen y byd. Buasai yn ddyddorol gvvybod a ydyw y sylw i'w gymhwyso at aelodau seneddol yn ogystal a meidrolion cyffredin. Dywedir fod yr ymdrafodaeth ar y pwnc, sef Calfiniaeth,' yn debyg o enyn oryn lawer o ddydd- ordeb, ac mae yr Executive wedi bod yn hynod ffo,dus i gael y Parch. Richard Morris, M.A., B.D., Dolgellau, ait Parch. W. W. Lewis, Zion, Caer- fyrddin, i gymeiryd rliali yn y cyfarfod. Dywedir mae y ddau enw yma yn uiiig fydd ar y rhaglen, ac y rhoir i bob un o'r del all liaiior awr o amser. Gwelliant, meddai ein gohebydd, er yn drosedd o'r rheolau. Yr wyf yn methu deall paliam na; fedr ein gweinidogicn Saesneg enill eu lie a'u safle yn y Corff Saesneg heb fod executive yn gorfod eu bwrw i'r llyn." --+-- Mae Mr. J. Lloyd Morgan, A.S., o'r farn fod yr ysbryd Puritanaidd yn anghefnbgol i arluniaeth a cherfluniaeth, a bod bodolaeth yr ysbryd hwn yn cadw y Cymry yn ol yn y cangenau yna. Ar y llaw arall dywed Mr. J. Archer Price, B.A., nad oedd y Diwygiad Methodistaidd yn Buritanaidd, nag hyd yn nod yn Brotestanaidd. Felly wir. Am 2 o'r gloch dydd Gwener y Groglith, ymgasgl- odd torf fawr o bobl ynghyd yn mynwent Bethes- da, ger Saundersfoot, Sir Benfm, i weled dadlen- iad cofadail y Parch. George Bancroft, wedi ei chodi gan ei edimygwyr a!i garedigion er coffadwr- iaeth rum y gwaith rhagorol a. gyflawnodd yn ystod ei weinidogaeth yn y He. Oodwyd y golofn o ith- faen ar ei fedd yn ymyl y capel lie! y bu yn gwasan- aetlni yn efengyl Iesu Grist am 38 o flynyddoedd. Dadlenwyd y golofn gan Mrs. Taylor, Saunders- .foot. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. Gravel; Lloyd (B.); Williams (A.); B. Lewis (M.C.); Dr. Evans, Saundersfoot J. Ro- berts, Ysw., a Mr. W. Lawrence. — Da: genyf glywed fod y Parch. Peter Taylor For- sythe, Caergrawnt, prifathraw dewisedig Hackney College, wedi cydsynio i draddodi y Conference Sermon" yn Nghynliadledd yr Achosion Saesneg nesaf yn Mertliyr. Pan ysgrifenwyd ato yn gyntaf, gwnaeth adcTewid amodol, os na byddai aimseriad y Conference yn ymyryd a'i.ddyledswyddau newydd. Erbyn hyn mao y Dr. enwog wedi gwobrwyo ein hamynedd, trwy addewid bendant y bydd iddo bre- gethu noson gyntaf y Conference, Medi 24. Mawr ydyw disgwyliad pregethwyr y De am .y wiedd ar ei ddyfodiad i Hope, Merthyr. Mae g.an y Methodistiaid chwech o eglwysi yn Mangor, ac y mae pump o honynt dan ofal bug- eiliaid. Twrgwyn yw yr eithriad. Yno un nos Sabbath yn ddiweddar cymeroddi d'adl ddyddorol le ar bwnc y bugail. Dadleuai y bobl ieuainc yn gryf dros alw bugail yn ddioed; ondi yr oedd eraill yn dadleu yn orbyri. A dyma rai o ddadleuon y gwrthfugeiliaid. 1. Nid oes a fyno bod bugail neui beiclio, ddim a llwyddiant eglwys-hyd yn nodi yn nglyn a'r plant 2. Nid doetli oedd symud ymlaen hyd nes y ceid unfrydedd hollol A'r canlyniad ydyw-y mae y mwyafrif mawr i hJygUi byth byth- oedd i'r lleiafrif bychan a chul! 3. Nad oedd gan eglwys y Tvvrgwyn (rhifa yn agos i 500 Oi gyflawn aelodau) ddim modd i dalu am wasanaeth bug;eil- ,b iol! 4. Nad oedd y tlodion, y merched gweini—yr oil nad oedd, ganùdynt arian i dalu bawl i bleid- leisio dros gael bugail! m „ Cyhoeddwyd trydydd adroddiad "Trysorfa, Y1 Blaenoriaid Cyfarfod Misol Sir Fflint" yn ddi- weddar. Cynhwysa y cyfrifon am ddwy flynedd, aJ. dengys fod y drysorfa, wedi cynorthwyo bedwar o fla,enoria,id ar hyd y ddwy flynedd ddliweddaf. Dymal waith rhagorol yn ddiau. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Undeb Cristionog.. ol Pobl Ieuaino Cymru yr wythnos ddiweddaf. Cyn- hwysa, restr o'r swyddogion, y pwyllgorau, a hanes y; gynhadledd a gynhaliwyd yn Llandrindod yr haf di- weddaf. Amcana, yr Undeb hwn at uno cyindeith- r.sau orefyddol pobl ieuainc Cymru, a drwg genyf weled nad oes ond tair wedi ymuno. :Mad l' ysgrifen- ydd, Mr. J. T. Williams, Resolfen, yn gweithio yn ymdrechgar, a diau yn raddol y coronir ei waith ai llwyddiant. Mae'r Llyfr Tonau ac Emynau, Seisnig hir-ddis- gwyliedig allan o'r wasg. Llai ei blyg (crown 8vo.) ydyw na'r un Cymraeg, ond mae yn y Saesneg (Sol- jfa,) 1005 o dudalenau ar gyfer 608 yn y, Cymraeg. Dilynir trefniad y llyfr emynau, ac feUy ceir ugiein- iau o donau fwy nag unwaith. Er engraifft, yn y golofn gyntaf o gynwysiad y tonau, ceir 42 o donau unwaith, 8 ddwywaith, 8 deirgwaith, un bedair gwaith, un bum' waith, ac un chwe' gwaith! Felly y mae 51 o donau yn myned yn 109 ar y tarawiad. Gallai hyn daro yn rhyfedd ar un ohvg; ond erbyn edrych drwy y llyfr, credaf mai anhawdd1 fuiasai cael un cynllun arall,—heb gael llyfr hymnau ne- wydd. Ceir yma, hefyd, amrywiaeth rhagorol o donau i'w canu ar yr un penillion, yr hyn na cheir mo honol and anfynych yn y llyfr Cymraeg. P'eth cyffredin ydyw cael dwy don ar gyfer yr un geiriau, ac nid yn anfynych ceir tair a phedair.. Credaf y ceir fod y llyfr yn un rhagorol, ac er fod yr eglwysi Saesneg yn cael y gair o fod yn lied anhawdd euj boddloni, mi gredaf na chlywir hwy yn cwyno oher- wydld: y llyfl* yma. Er nad yw enw y Parch. T. G. Owen, M.A., ar y wyneb-ddålen, cyclnabyddir ei wasanaeth gwerthfawr fel golygydd yn y rhagym- adrodtd, a,o hefyd ofaiaeth Mr. Jenkins wrth ei ddwyn drwy'r wasg. (Gyda llaw, darlithydd, onide? ac nid proffesor, fel y dywedir yn y llyfr, yw Mr. Jenkins ? Mae awdurdodau y Coilegiiu yn bur ofalus gyda'r gwahaniaeth yna).

,.'Y GWANWYN.''