Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
BETHESDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHESDA. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu yma, dydd Gwener y Groglith. Cynhaliwyd y cyfarfod cvntaf am 2 o'r gloch yn nghapel y Carneddi, a'r cyfarfod yr hwyr yn nghapelwLlanllechid. Cawsom ein siomi o'r ar- weinydd penodedig, ond cymerodd Mr. W. Owen Carneddi, a Mr. H. G. Parry, Jerusalem, yr ar- wemyddiaeth, ac fe wnaethant eu gwaith i fodd- lonrwydd. Tystiolaeth pawb ydoedd ein bod wedi cael cymanfa, a chanu da iawn, ac ystyried fod cy- maint or c tin tor ion wedi chwalu oherwydd, yr ang- hyfod sydd yn y chwarel. Mae diolchgarwch i'r pwyllgor a'r ysgrifenydd, Mr. R. Benjamin Evans, am y trefnu deheuig o dan amgylchiadau mor an- irairiol. Cynhaliwyd cyfarfod dydd Llun y Pasc yn Neu- add y Farchnad am 2 o'r gloch gan Chwarelwyr y Penrhyn i drafod materion ynglyn a'r anghydfnodi presenol. Yr oedd yn amlwg fod pawb yn unol yn y cyfarfod hwn, a gresym fod yma ychydig wedi bod mor wan ac anfon eu henwau i Mr. Young eu bod yn barod i fyned i weithio, o dan ei delerau ef. Mae rhai o honynt yn edifarhau erbyn hyn, a mwy na thebyg y buasent yn nes ymlaen i gael gwell tclcraii pe buasai y dosbarth yma heb ymyryd. vv rth bwyso yr holl siaradwyr oedd yno, barn pawb ydyw mai sylwadau wnaeth Mr. W. H. Williams (Arafon) oedd a gwerth myfyrio ynddynt. Dyma ddyn yn ngwir ystyr y gair. Mae pob gair a ddywed yn llawn o synwyr, a. gresyn meddwl na welai Ar- glwydd Penrhyn y tegwch sydd mewn penodi cyf- lareddwr.
OYMDEITHASFA COLWYN BAY EBRILL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OYMDEITHASFA COLWYN BAY EBRILL 23ain, 24ain, 25ain, Disgwylir y Parchn. Dr. Cynddylan Jones, ac Edwin Williams, M.A., o'r Deheudir, a prif wein- iclogion y Gogledd. Trefn y moddion cyhooddus fel y canlyn:—dydd Mercher, 24ain, trefnir cyfar- fod yn y Pavilion i'r bobl ieuainc, am 2 o'r gloch prydnawn. Mae y Pavilion i gynwys tua. 3,000. Am 5 o'r gloch, bydd pregethu yn un lie. Dydd Iau, y 25ain, yn y Pavilion, bydd yr odfeuon am 10, 2, a 5 o'r gloch. Ni bydd eisieu talu dim am fyned i'r Pavilion. Dymunem alw sylw arbenig at gyfarfod y bobl ieuaine ddydd Mercher. Yr ydym yn methu a llwyddo i gael trens rhad neu reduced fares' i'r cyfarfodydd cyhoeddus ddydd Mercher a Iau, heb ini yma roi 'guarantee' nifer 0 ganoedd o'r gwahanol fanau Ffestiniog, Bangor, a Dinbych, ond gall unrhyw nifer o ddeg ac uchod, trwy roi tri diwrnod o rybudd, gael tocyn am ',fare, and quarter fare' y dwy ffordd. Oynghorem bob eglwys a chynulleidfa i sicrhau hyn erbyn ddydd Mercher i gyfarfod. y bobl ieuane, a hefyd dydd Iau i'r cyfar- fodydd trwy y dydd. Yr unig esgusawd a' gawsom oedd, fod y nifer mor fychan yn gyffredin, er ein bod yn disgwyl dros 1000 cldydd Mercher, ac o 2000 i 3000 dydd Iau. Ond sicrhau reduced fares' fel awgrymwyd uchod, daw i'r un peth yn hollol a phe sicrheid tren rhad. Bydded i frodyr blaenllaw yn mliob eglwys gymell eu pobl ieuainc, yn enwedig i 'Y fod yn bresenol. Mae Colwyn Bay yn lie canolog o Gaergybi, Caernarfon, Ffestiniog, a'r oclir arall, Caerlleon, Corwen. Mae y trens cyffredin yn hynod gyffeus. Cewch un bob ffordd tua 8 o'r gloch y nos, neu o haner awr wedi naw i ddeg; o'r gloch (9.30 to. 10 p.m.). Yr ydym yn disgwyl llawer iawn o bobl i'r cyfarfodydd cyhoeddus y ddau ddydd, seE Ebrill 24, 25. Nid wyf wedi crybwyll gair am gyfarfodydd y Gymdeithasfa, ond awydd cryf i godi y bobl i wrando yr efengyl, a disgwyliwn bethau mawr. Os bydd y Sasiwn yn boblgaidd, rhown argraff dda ar y Saeson sydd yn byw yma— mai nid cieio y bel droed a, rhedegfydd ceffylau ydyw nodwedd y Cymro. Yr ydym, yn argraffu Emyna,u, i'w cael am geiniog; yr un, rhag i neb dra- ffertliu gofalu am ddwyn y llyfr gyda, hwy. Ac fel y dywedwyd, ni bydd 11a chasg'liad na thocyn i dalu, a diau y ceir pob cyfleusdra i gael bwydydd yn rhesymol. Yr hyn sydd yn rhoi gogoniant ar bob Sasiwn hon yn ol i'r un fu o'i blaen. Gweddiwn yr efengyl. Braidd nad allwn ddisgwyl na, bydd y Sassiwn hon yn ol i'r un fu o'i blaen. Gweddiwn am 'ei llwyddiant. Yn gywir, Fern Bank, JOHN ROBERTS, Colwyn Bay.
LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLUNDAIN. Cymanfa, y Pasg.—Mae'r Gymanfa drosodd. Caf- wyd un dda iawn eleni eto. Gwahoddwyd: i bre- g,ethu, y Parchn. S. T. Jones, Rhyl; R. Hughes, Llanfaethlu;T. O. Williams, M.A., Menai Bridge; W. Jenkins, M.A., Tyddewi; J. Owen, Mold, Ihos. Grfay, Birkenhead; J. Morgan Jones, B.A., Oaer- dydd; Rees Morgan, Llanddewibrefi, &c. Taflodd marwolaeth y Parch.. Ryle Davies gwmwl o drallod dros y Gymanfa. Claddwyd ef dydd Iau, a thra- ddodwyd pregeth angladdol yn Holloway nos Iau gan y Parch. J. E. Davies, Jewin.
HOP^INSTOWN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HOP^INSTOWN. Nos Ia,u cyn y diweddaf, yn Soar (M.C), Hopkins- town, golygfa hardd oedd gweled un a.r ddeg yn ymuno a'r eglwys uchod, sef wyth 0 had yr egjl'wys, a thri o'r byd, gan y Parch. T. P. Thomas, Siloam, Gyfeillioh, yr hwn a wnaeth ei waith yn anrhydedd- us fel ag y mae yn arfer. Y mae yr eglwys hon yn flodeuog iawn, ac yn enill tir newydd wrth weithio yn ddyfal. Y mae yr had a lieuir yn y lie; uchod yn cael dyfnder daear, a gobeitliio nad ydyw hyn oncl blaenysgubau o'r oynliauaf mawr sydd ar ddy- fod ar ddechreu y ganrif newydd. Rhif yr eglwys yn awr yw 103. Y mae y lie uchod mewn eisieu capel newydd. Gobeitllio y gwel yr eglwys ei ffordd yn glir i g,odi capel newydd ar unwaith, gan fod y gymydogaeth yn gwir alw am dano.
,DE MORGANWG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DE MORGANWG. Bugeiliaeth.—Sicr, os araf, yw symudiad yr eg- Iwysi gweigfon yn nghyfeiriad bugeiliaeth. Wele Abercynffig yn gwneyd eynyg egniol arall am was- anaeth brawd ieuanc addawol dros ben, a disgwyl- iant yn aiddgar wrtho am yr ateb a'u boddha. Ac yn y Bontfaen y mae: yn ddealledig fod gweinidog ieuane o'r gymydogaeth agos wedi ei wahodd ac y maent ar Iwycldo yn eu hymgais. Hysbys hefyd yw fod yr eglwysi cymydogol, Llysyfronydcl a Thregol- wyn, wedi g;osocl eu meddwl ar un arall o'r un flwyddyn' a dewis-ddyn Abercynffig, set 0 Dre- fecca,; ae os llwyddo yr eglwysi hyn yn y Fro i gael eu dymuniad, byddant i'w canmol ar eu caffaeliad. Buasai yn llonder genym aill u ysgrifenu rywbeth yn y cyfeiriad hwn am rhii eglwysi eraill yn y lhan- barth hon 01 Forganwg. Yn ddibetrus y maent yn dioddef yn niffyg gofalaeth briodol. Trelalas.—CVfwyd pregethu hyfryd a grymus yn odfeuon y Groglith yn y lie hwn, pan y gwasanaeth- id gan y Parchn. Phillip Jones, Abergwaun, a T. Williams, Caergybi. Y mae yn mrycl yr eglwys hon alw gweinidog atynt. Pencoed.—Cynhaliwyd, fel arfer, gyrddau pre- gethu yn y lie hwn nos Lun a dydd Mawrth y Pasc. Pregethwyd mewn modd gafaelgar a galluog gan y Parchn. P. Jones, Abergwaun, Francis Jones, Aber- gele, a, Seth Joshua. Cyfarfodydd a'r Meistr ei bun yn bresenol iawn ynddynt.
.Y Diweddar Barch. W. RYLE…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fynych yn son am dano. Yr oedd yn edmygwr mawr hefyd o'r Parch. Robert-EIlis. Ar ol bod yn ysgol Deiniolen am oddeutu blwyddyn, aeth i Goleg y Bala, lie bu yn fyfyriwr diwyd a. llwyddianus am bedair blynedd. Gwnaeth gynydd amlwg yn y Coleg, ac ystyrid ef yn un o'r pregethwyr ieuainc mwyaf addawol yn yr Athrofa ar y pryd. Yr oedd ei barch i Dr. Lewis Edwards, a'i edmygedd o hono, yn ddiderfyn, a bu dylanwad y gwr mawr hwnw yn ysbrydiaeth rymus iddo fel meddyliwr ami weddill ei oes. O'r Bala, aefch Mr. Davies i Brif- ysgol Edinburgh, a bu yno hefyd am bedair blyn- edd. Cydnabyddid ef yn fyfyriwr da, ao yn weith- iwr ymroddedig yn Edinburgh, a rhoddodd gyfrif teilwng o hono ei hun mewn athroniaeth a rhes- ymeg,. Pan yr oedd ar orphen ei yrfa yno, ac o fewn ychydig ddyddiau i'r arholiad terfynol, gal- wyd ef adref yn sydyn, gan amgylchiadau profedig- aethus yn y teuilu, ac nis gallodd fyned i fown am yr arholiad. Anffawd flin oedd hyn, oblegid mae'n sier pe buasai wedi cael aros yno aim, ychydig ddydd- iau yn hwy, y buasai wedi dyfod allan o'r Brifysgol yn wr graddedig, yr un fatli ag eraill oedd yno ar yr un adeg. Tua'}' adeg y gadawodd Mr. Ryle Davies y Brif- ysgol, darfu i'r Parch. Robert Ellis roddi i fyny fugeiliaeth eglwys Disgwylfa ar gyfrif ei lesgedd, a chyfyngu ei lafur i'r ddwy eglwys arall oedd dan ei ofal. Gwelodd eglwys Disgwylfa ei chyfieusdra,, a dewisodd y Parch. W. Ryle Davies gydag unfryd- edd mawr, i fod yn olynydd iddo. Dyma engraifft o broffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun; ao y mae'r ffaith yn profi fod; i Mr. Davies le mawr yn yr eglwys a'i magodd. Bu yn gweinidogaethu yn Disgwylfa am saith mlynedd; wedi hyny ca-fodd alwad i eglwys Waenfawr, He y bu yn Itafurio am bedair blynedd; yna cafodd alwad i eglwys Hoilo- way, Llundain, ryw 14 o flynyddoedd yn ol, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau. Y symudiad olaf o'i eiddo fu ei symudiad i'r nefoedd, oddiwrth ei waith at ei wobr. Y mae yn rliy gynar i geisio el- fenu cymeriad y Parch. W. Ryle Davies—yr ydym yn rhy agos atp i wneyd hyny, ac nis gellir yma ond enwi rhai o'i brif nodweddion. Yn un peth, yr oedd yn weithiwr caled ao egniol—gweithiwr oedd yn y chwarel, gweithiwr yn y coleg, a gweith- iwr ymroddedig a chydwybodol y parliaodd yn ei fywyd" cyhoeddus hyd ei fedd. Heblaw ei lafur rheolaidd yn ngwaith ei weinidogaeth, a'r gydwy- bod a arferai gyda bugeilio, yr oedd yn meddu ar ddawn neillduol i weithio gyda'r plant a'r bobl ieUl- ainc, ao i gynal dosbarthiadau Beiblaidd, duwin- ydol ac athronyddol. Pan fyddai erailt 0 honom yn methu gyda'r dosbarthiadau, byddai efe yn lhvyddo nes peri i ni weithiau haner eiddigeddu wrtho. Y mae dylamwad yr hyn a wnaeth yn y eyfeiria,dau hyn, meddai, yn parhaw hyd heddyw yn Disgwylfa a'r Waenfawr,—yr eglwysi cyntaf y bu yn gweinidogaethu ynddynt. Ac am yr hyn a wn- aeth yn Hotloway yn yr un eyfeiriad, mae'n ddigon sicr y bydd y dylanwad yn parhau am lawer o flyn- yddoedd i ddod. Yr oedd yn ddyn o feddwl eithriadol o gryf, yn meddu ar welediad clir, ac 0 deithi athronyddol. Yr oedd yn ymresymwr diguro, ac nid oedd dim yn rhoddi mwy o fwynhad iddo na dadl deg ar bwnc dyrus. Ni fu neb erioed yn fwy cydwybodol, gon- est, penderfynol a ffyddlawn i wirionedd nag efe. Allhawdd iawn cyfarfod a, neb fedrai ymladd ag an- • haws derail, a gorchfygu rhwystrau gyda, chalon mor ddewr ag y byddai efe yn gwneyd. Hyd yn nod pe byddai pawb yn ei erbyn, safai yn bender- fynol dros ei bwno. Yn hyn yr oedd ei gadernidi penaf, ac feallai mai yn yr un gymydogaeth yr oedd ei berygl mwyaf hefyd. Mae'n bosibl bod yn rhy fanwl-ddeddfol weithiau. Yr oedd yn un o'r pre- gethwyr goreu: a'i weinidogaeth yn cario a,rgy- hoeddiad yn meddyliau pawb ei fod yn wir wr Duw. Y meddyliwr a'r ymresymwr .welid amlycyaf ynudo yn y pulpud-yr oedd yr athronydd duwinyddol, neu y duwinydd athronyddol, yn gystal a'r beirn- iad craff, bob amser yn amlwg ynddo. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn i'r gwirionedd, a thraethai y genadwri yn hyf heb edefyn ar ei dafod, ac heb ofni gwg neb. Apelio at y gydwybod, yn hytrach nag at y-teimlad a'r galon, yr oedd ei weinidogaeth. Yr oedd ei gydwybodolrwydd a'i wrqIdeb fel gwr teyrngarol i'r gwirionedd yn peri fod ei eiriau, yn fimoga, llym ar brydiau. Yr oedd y genadwri o'i emu yn fynych yn Hosgi fel tan ar gnawd noeth ao y mne yn bosibi fod y nodwedd hon ynddo yn brwydro weithiau yn erbyn ei boblogrwydd; ond teyrngarwch i wirionedd ac ymdeimladl o'i gyfrifol- deb fel cenad Duw, a barai iddo lefaru felly. Teim- Jai fel Jeremiah nas gallasai ymatal, ao fel Paul fod angenrhaid wedi ei osod arno, ac mai gwae a fyddai iddo os na, thraethai holl gyngor Duw yn ddidderbyn wyne b. Mewn cynhadledd a phwjdlgor yr oedd yn wr 0 fedr a gallu anarferol, a theimlid bob amser fod ei bresenoldeb yn gadernid mawr mewn lleoedd1 felly. Yr oedd ei wroldeb a'i onestrwydd yn ddihafal; ac yr oedd ei gyflymder, ei graffder, a'i nertli, yn nod- edig o werthfawr mewn amgylchiadau dyrus. Ei beryg;! oedd i'w fanylrwydd dcddfol ei gario weith- iau i eithafion mewn pwnc a dadl. Bu yn weithgar iawn gyda'r Achosion Newyddion a, Chenhadol yn Llundain, ac yn un a gefnogwyr ffyddlonaf y symudiad i helaethu y terfynau o'r cychwyn. Y gwir yw, yr oedd efe bob amser, mewn gair a gweithred, o blaid pob achos da. Ni chafodd dirwest a Ghymdeithasau y Bobl leuainc gefnogydd mwy gwresog erioed nag ynddo ef. Fel llenor hefyd yr oedd iddo safle uchel ac anrhydedd- us. Ysgrifenodd lawer, 0 bryd i bryd, i'r cyfnod- olion, megis y Traethodydd, Y Greninen,' a'r Drysorfa.' Mewn cyfeiriadau beirniadol ac ath- ronyddol, yn gyffredin, y byddai yn ysgrifenu. Y plentyn yw tad y d'yn,'—dechreuodd yn gynar gyda Butler, a. dyna'r llineii a ddilynodd ar hyd ei oes. Yr oedd yn gynefin a Plato, Kant, Hegel, Locke, a Spencer. Enillodd wobrwyon pwysig mewn eis- teddfodau drwy ysgrifenu ar rai o honynt, ac y mae defnydd cyfrolau trwclius 0 bethau o'r nodwedd hon, mewn MS. ar ei ol. Ffaith dyddorol yn ei hanes ydyw ei fod wedi cadw Dyddlyfr manwl a chyflawn am y pum' mlynedd ar hugain y bu yn y weinidogaeth. Y mae yma ddefnydd cofiant per- ffaitli; a chan ei fod ef mor deilwng 0 gofiant, hy- derwn y gellir cael hyny heb fod yn hir. Oyfarfyddodd, a llawer o dywydd garw cafodd ami a, blin gystuddiau, ei hun, claddodd dri o blant, a chollodd ei anwyl briod rinweddol ryw dri mis cyn ei farwolaeth; ond cafodd nerth rhyfedd i ddy- fod trwy y cyfan, ac i barhau yn wrol a chalonog yn ei waith hyd y diwedd. At y plant anwyl sydd wedi eu gadael yn amddifaid y mae meddyliau pawb yn troi ar hyn o bryd Rhagluniaeth fawr y nef Mor ryfedd yw, Esboniad helaeth hon 0 Arfaeth Duw. Llywodraeth faith y byd Sydd yn ei llaw, Mae'n tynu yma'i lawr, Yn codi draw. Y mae'r tri phle'ntyn wedi cael eu gaclael mewn oedran tyner heb dad na mam; ond y mae cydym- deimlad yn ffrydio tuag atynt. Y mae'r perthyn- asau yn y wlad mewn undeb a swyddogion eglwys Holloway a'r boneddwr parchus, L. H. Roberts, Wilton iSquiare, yn trefnu ar eu cyfer, a gwyddom y can't bob cefnogaeth. Bellach y Mae rhaid ymatal, er fod hyny yn an- hawdd. 0, fy mrawd Ryle, ni feddyliais hyd heddyw fy mod yn dy garu mor fawr en iawn yw dy enw genyf. Wedi cydfyw a chydweithio arm bodair biynedd ar ddeg, gorchwyl caled yw ffar- welio, ond rhaid gwneyd, ac edrych ymlaen at yr adeg pan y gobcithiaf dy gyfarfod eto mewn gwlad well. ✓ J. E. DAVIES.