Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODION AMERICANAIDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION AMERICANAIDD. GAN J. J. DAVIES (IEUAN DDU). PROVO CITY, UTAH, Hydref 22»in, 1881. MR. GOL. Y mae amryw fisoedd bellach er pan anfonais fy llith diweddaf i'r GWLAD- GARWR. Bwriedais anfon yn gynt, ond rhwyatrwyd fi gan bryaurdeb gorchwylion. Bum yn ddiwyd iawn yn ddiweddar yn casglu ystadegau crefyddol ac adciysgol y First Ward, Provo, er eu hanfon i'r Anrhyd- eddus Arthur L. Thomas, Ysgrifenydd Utah o dan Lywodraeth yr Unol Dalaethau. Y mae y Census Department yn Washington wedi penodi y Cymro rhagorol hwn yn ornchwyl- iwr neillduol dros y Diriogaeth Formonaidd, a gallaf eich aicrhau fod Mr. Thomas yn cyf- lawni ei wahano] swyddau er boddhad cyff- redinol y Sant vn ogystal ar luddew, a'r cenedl-ddyn hefyd. Gwelais y boneddwr hwn yn ddiweddar, pan y bu ar ymweliad a Provo. Ymddengya yn ddyn ieuanc yn mlodau ei ddyddiau, ac yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair. Y mae Utah wedi bod yn an- ffodus drwy y blynyddoedd yn ei swyddogion gwladol a beoodid gan y Llywodraeth Werin- ol, gan eu bod yn gyffredin yn elynion di- gofus i'r bobl a gam-lywodraethent mor gywilyddas ond y mae Thomas Emery, y diweddar lvwodraethwr, a Emerson, barnwr y rhanbarth cyntaf, yn eithri&dau anrhyd- eddns. Bu y Barnwr Emerson yn cartrefu yn Provo hyd y flwyddyn ddiweddaf, pryd y symudodd i ddinas Ogden ond pery o hyd yn farnwr y rhanbarth, tra mae lluaws o'r swyddogion Utaidd Gwrth-Formonaidd wedi colli eulsafleoedd swyddogol, a rhai ohonynt yn grwydriaid diymgeledd. COFTTS gan y darllenydd fy mod wedi cyf- eirio yn flaenorol at y cais i ddi-seddu George Q. Cannon, y cenadydd Mormonaidd o Utah i'r Gydgynghorfa. Nid yw y mater wedi ei derfynu eto, ond y mae Cannon yn debyg o gadw ei Ie, gan fod Ysgrifenydd Ty y Cyn- rychiolwyr, yn Washington, wedi gosod ei enw ar gofres y Ty, a bydd yn rhaid i'w gyd- ymgeisydd, Campbell, brofi ei hawl i'r sedd cyn y bydd i Cannon golli ei eisteddle. Bu yr "Anti-Mormon Ring" ar ei goreu yn ceisio perswadio yr ysgrifenydd i gadw ei enw allan oddiar y lechres, ond methasant. Ar 01 cydgyfarfyddiad y Gydgynghorfa yn Rhag- fyr y penderfynir y mater. Nid oes sail gan Campbell i ddysgwyl gallu enill y sedd tra na el chafodd ond un rhan o dri-ar-ddeg o'r pleid- I leisiau a gafodd Cannon ar ddydd yr etholi^d. YR wythnos gyntaf o'r mis hwn, cynaliwyd Arddangosfa Amaethyddol a Chelfyddydol Utah yn ninas Salt Lake, a bu yno filoedd o bobl o bob rhan o'r diriogaeth yn syllu ar y cywrain-bethaa. Rhoddid miloedd o ddoleri yn wobrau am y goraf o bob math o anifeil- iaid, o'r haid wenyn oreu hyd y march mwyaf golygus a phorthianus. Cynygid hefyd wobrau da am y gwlaneni cartrefol goreu, ac am bob math o gynyrchion garddwrol a ffermwrol, o'r dosbarth cyntaf, ail, a thryd- ydd. Yr oedd y gystadleuaeth yn dda a lluosogiawn, a gwobrwywyd y buddugwyr yn llawen, yn unol a'r rheolau gosodedig. Yr hyn a dynodd sylw mawr yno oedd yr ar- ddangosiad o fabanod. Dygwyd 76 o fabanod i'r gystadleuaeth, ac enillwyd y wobr o ugain doler gan Alice Evans, yr ail wobr gan Alice Paul, a'r trydydd buddugol oedd Alice Grant. Rhoddid y gwobrau am degwch a llunieidd-dra corfforol. Gallwn feddwl wrth yr enw mai merch i Gymro enillodd y brif wobr. Y mae arddangosfeydd babanod yn bethau cyffredin yn America. Y mae Mr. Barnum wedi ymenwogi fel arddangosydd Americanaidd o'r fath. Bu un o'r cymeriadau hynotaf yn yr Eglwys Formonaidd farw ar y 3ydd cyfisol. Efe oedd Orson Pratt, un o'r deuddeg apostol, a'r aelod henaf yn yr eglwys hono. Yr oedd wedi cyrhaedd blynyddoedd yr addewid, ac wedi bod yn llafurus yn ei ddydd o blaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Yr oedd yn hanesydd da, ac yn un o brif athronwyr yr oes, fel y prawf ei ysgrifeniadau lluosog. Yr oedd wedi graddio yn y prif-ysgolion Americanaidd, ac yn cael ei ystyried yn feistr mewn mathematics. Cafodd ei gladdu yn Nghladdfa Salt Lake ar y 6ed o Hydref, a chafodd gladdedigaeth tywysog. Arddangos- wyd arwyddion galar trwy yr holl ddinasoedd Mormonaidd, a chauwyd yr holl weithfeydd cyhoeddus ar yr achlysur. Os caf hamdden, tebyg y cyfeiriaf eto at ei ysgrifeniadau i athronyddol. Y MAE y cynauaf yn Utah wedi cael ei gywain i'r ysguborau, ac wedi profi yn dor- eithiog-y gorea a gafwyd erioed o fewn y diriogaeth hon. Nid yn unig y mae y cyn- auaf yn dda, ond y mae digon o waith yma i ddyn ac anifail, gan fod rheilffyrdd yn cael eu gwneyd i bob cyfeiriad, fel y bydd Utah yn faan yn un rhwydwaith mawr o reilffyrdd. Y mae prisiaa ymborth, tanwydd, a dillad wedi gostwng, tra mae huriaa y gweithwyr wedi codi, fel na raid i'r gweithiwr a chwen- ycho weithio fod yn dlawd ei fwrdd na llwm ei wisg. Gwir fod rhai yn dychwelyd o Utah, yn ogystal a rhanau ereill o America, gan roddi anair i'r wlad ond rhaid fod y cyfryw yn rhy ddiog i weithio, neu yn rhy lwfr a hiraethus i allu byw o olwg y bwthyn lie eu magwyd. MARWOLAETH a chladdedigaeth yr Arlyw- ydd Garfield oedd pwnc y dydd yma yn ddi- weddar. Cadwodd pobl Utah ddydd cladded- igaeth yr Arlywydd yn ddydd o wyl galarus, gan wisgo pob lie cyhoeddus gydag arwydd- ion priodol o'r amgylchiad pruddglwyfus. Darfu i rai o newyddiaduron enllibus y Talaethau gyhoeddi fod y Mormoniaid yn Ilawenhau ar yr achlysur, tra yr oedd pre- gethau angladdol coffadwriaethol parchus yn cael eu traddodi braidd o bob pwlpud o fewn y diriogaeth. Nid oes neb a faidd gefnogi gweithred waedlyd y cudd-lofrudd Guiteau ond meibion y fall. Y mae pobl America yn uchel waeddi am grogi y bradwr fel crogi ci. Eto, ofnir y bydd iddo ddianc dienyddiad 1 cyhoeddus, oherwydd llacrwydd yn nghyf- raith Rhanbarth Columbia, lie y cyflawnwyd y gyflafan ond os byth y dianc heb ddy- oddef llymder eithaf y gyfraith wladol, can wired a'm geni, ni bydd iddo osgoi dialedd eyfiawn y Lynch law. Y mae miloedd o wroniaid Columbia wedi ymdyngedu y bydd- ant yn ddialwyr y gwaed. Gwae i Guiteau y diwrnod y gollyngir ef y tuallan i furiau y carchar. Myn einioes Pharaoh, caiff ddwyn ei benyd am ei anfadwaith DIAU fod Garfield yn gymeriad dysglaer, ac yn ddyn wedi ymddringo i urddas a gallu trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad, a'i fod yn gwir haeddu talu y parch mawr presenol i'w goffadwriaeth. Y mae y Wasg a llais y wlad yn unol yn eu molawd i Garfield, tra y mae rhai ohonynt yn barod i boeri llysnafedd ar gymeriad ei olynydd, gynt yr Is-arlywydd Arthur. Darllenais sylwadau enllibus ar ei gymeriad yn un o newyddiaduron Cymru, pa rai a awgryment fod Arthur a llaw yrr y gyfl-afan. Credwyf fod Arthur yn llawn mor alluog, a llawn mor ddysglaer a dilychwyn ei gymeriad, a Garfield. Darfu i Arthur ddangos doethineb a phwyll mawr yn ystod yr adeg yr oedd Garfield yn glaf-glwyfedig. Yr oedd ei holl ymddygiad yn ystod yr ar- gyfwng pwysig hwn yn llefaru cyfrolau drcj ei ddieuogrwydd, ac yn dangos ei fod yn teimlo ing i ddyfnderoedd ei enaid oherwydd syrthiad yr Arlywydd trwy law y carn- lofrudd. Na ato Duw," meddai ef, i mi ddyfod i'r llywyddiaeth o dan y fath am- gylchiadau." Cafodd Arthur ei dyngu i mewn yn Arlywydd yr Unol Dalaethau yn ol y dull arferol, ac yn hollol ddiwrthwynebiad. Nid oedd yr un swyddog yn meddu digon o haerllugrwydd i warafun iddo yr anrhydedd a berthynai iddo yn ol urddas hanfodol y swydd gyntefig, canys yn unol a threfniant doeth v gyfraith, yr Is-arlywydd fydd yn meddu yr hawl o gael ei benodi i'r arlywydd- iaeth pan farwo yr Arlywydd presenol cyn gorphen ei dymor etholiadol o bedair blyn- edd. Bygythia rhai Arthur, os y beiddia newid Gweinyddiaeth Garfield, neu ddllyn gwladlywiaeth wahanol i'r eiddo ef. Onid oes gan Arthur yr un hawl i benodi ei Wein- yddiaeth, a dewis y swyddogion angenrheid- iol, ag oedd gan ei rag-fiaenoriaid 1 A chan mai efe fydd yn atebol i'r wlad am y llwybr a gymera, ac am y wladlywiaeth a ddilyna, felly dylai Arthur yn bendifaddeu gael meddu yr un hawlfreintiau a Garfield a'r cyn- arlywyddion ereill. Rhodder chwareu teg i'r brawd, a thebyg y try allan yn swyddog penigamp — llawn cystal, os nad gwell, na Garfield. Cyfarfyddodd Senedd y Gydgynghorfa ddechreu y mis hwn, er ethol swyddogion neillduol, a chadarnhau penodiadau swydd- ogol Arthur. Gan fod y Senedd yn dechreu tymor newydd, rhaid oedd iddi ethol Llyw- ydd Seneddol, a chan fod yr aelodau Gwer- inol a Democrataidd yn gyfartal mewn nifer, yr oedd yn anhawdd gwneyd hyny heb gael cymhorth un neu ddau o'r aelodau annibynol. Penodwyd Bayard (Democrat) yn llywydd rhagddarbodol (pro ten.) am un diwrnod, ond y dydd canlynol, wele y Gwerinwyr yn ethol David Davies (aelod annibynol) yn Llywydd y Senedd. Dyna bluen arall yn nghapan y Cymro.—Tynaf at y terfyn trwy wneyd rhai NODION PERSONOL. Yn ddiweddar, ymwelodd Joseph Thomas (brawd-yn-nghyfraith William Rees, teiliwr, Alltwen) ft mi, a chawsom ymgom felas. Tebyg ei fod wedi ymfudo o'r Talaethau i Utah oddeutu dwy flynedd yn ol, ac yn awr yn gwneyd ei drigfa yn Lehi, tref oddeutu ugain milltir o Provo. Y mae efe wedi cy- meryd gwraig o Gymraes, ac yn gwneyd yn dda. Bachgen sobr a diwyd yw Joseph.— Blin oedd genyf glywed am farwolaeth David Jenkins (brawd Hen Domoa). Bachgen caredig, brawdol, a gwyneb-agorpd oedd efe. Bellach, dyna John Lake a David Jenkins, dau gyfaill anwyl, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Heddwch i'w llwch.Diolch i John Morgan, Ed ward-street, Pontardawe, am ei lythyr cynwysfawr. Yr oedd ei gy- nwysiad yn felus i mi, fel y dyliau mel. "Melus, moes eto." Bydd ateb buan i ganlyn.-Nid yw James Hinkin (Telorfab), Alltwen, wedi annghofio ei hen gyfaill Ieuan Ddu. Diolch, frawd, am Gwalia. Atdalaf dy garedigrwydd.-Cofion caredig at yr Allt- weniaid, ac yn eu plith Glanllechau, Hen Domos, Tawenfryn, Rees Gibbs, Robert Roberts, Ap Llewelyn, David Davies (pickler), Lewis Lewis, Glyndylun, John Rees, a lluaws ereill. Yr wyf wedi meddwl llawer am yr hen frawd caredig, David Davies, ysgolfeistr, gynt o Rhos Cilypebyll. Mil o gofion caredig at fy hen athraw, a myrdd o fendithion ar ei ben yn ei hen ddyddiau. Blin oedd genyf iddo golli ei briod garedig.- Cefais lythyr oddiwrth Catherine Lake (merch fy chwaer), o Dreforis. Da oedd genyf glywed ei bod mewn gwasanaeth gyda'r fath deulu caredig, ac yn teimlo yn galonog. Caiff glywed oddiwrthyf yn fuan eto.

[No title]

Adolygiad y Wasg.

Prawf Lefroy y Llofrudd.

Eisteddfod Aiban Elfed, Aberdar,…

Gnfidiau Llywodraeth Twrci.

[No title]