Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Cwreiohion.

[No title]

Deddf y Tlodion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Deddf y Tlodion. DDYDD Iau, yn Ngwestty'r Alexandria, Rhyl, cynaliwyd cynadledd i ystyried Cyfraith y Tlodion -yn neillduol cynorthwy allanol, pryd yr oedd cynrychiolwyr yn bresenol o Undebau Fflint, Dinbych, Arfon, Mon, Trefaldwyn a Meirion. Llywyddwyd gan y Capt Griffith-Boscawen (cad- eirydd Bwrdd Gwarcheidwaid Gwrecsam). Darllenwyd papyr gan Mr R. A. Leach (clerc Undeb Rochdale), ar gynorthwy allanol, yn yr hwn y sylwodd eu bod wedi gwel'd trwy brofiad nad oedd cynorthwy allanol yn cyrhaedd ei n6d. Er hyny, ceid lluaws o warcheidwaid yn ffafriol i'r cwrs hwn, yr hyn a godai oddiar garedigrwydd nad yw o fewn gweinyddiad Deddf y Tlodion i'w ganiataa. Credai, os oedd gweddw a lluaws o blant ganddi yn ddynes weithgar, mai gwell oedd danfon y plant i ofal y gwarcheidwaid, a chaniatau i'r wraig weithio i gynal ei hun. Ei brofiad ef yn nglyn a gweddwon oedd eu bod yn rhy barod i roddi tlodi a segurdod yn y glorian yn erbyn cym- eriad a gonestrwydd. Ni byddai cymaint o alw am gynorthwy alianol pe gwneid ymchwiliad trwy- adl i'r achosion, a phe byddent o dan arolygiaeth briodol. Dywedid yn ami fod gorfodi personau i fyned i'r tlottai yn foddion i dori ami gartref da i fynu ond dymunai ef wybod pa sawl cartref tru- enus a gedwid trwy ddibynu ar y cynorthwy all- anol? Dylai pob achos hefyd gael ei chwilio yn gyfnodol, ac nid eu gadael fel yn bresenol am am- ser maith byddai llawer llai o alw am gynorthwy allanol pe gwneid hyny. Mr Owen Williams, cadeirydd Undeb Rhuthin, a ddywedai na welodd efe erioed anhawsder i drin achosion pobl barchus, oedd wedi ymdrechu am flyiiyddoedd cadw o'r tlotty. Yr oedd llawer y buasai yn well ganddynt fyned i'r carchar nag i'r tlotty. Oredai ef mai y modd goreu i leihau y cynorthwy allanol fyddai ymchwiliad trwyadl i'r achosion cyntaf. Credai Mr Batters, o Undeb Treffynon, mai da fuasai i'r rheid-weinyddwyr newid eu cylch fel ag i rwystro ffafraeth. Dr Jones, Corwen, a ddywedai mai gwell fyddai cynorthwyo rhai pobl trwy gyflenwi eu hanghenion mewn rhyw fodd arall na thrwy roi arian iddynt. Yn Undeb Corwen, rhoddid ystyriaeth fanwl i bob cais. Yr oedd y Cymry yn hynod falch wrth ofyn am gynorthwy. Mr Rogers, Undeb Gwrecsam, a ystyriai na fyddai newid cylchoedd y rheid-weinyddwyr yn ymarferol mewn llawer man. Mr Muspratt, Undeb Treffynon, a gytunai y dylid gwneud ymchwiliad cyfnodol i bob achos ac yr oedd dosparthu y rhai a dderbynient gynorthwy yn angenrheidiol hefyd. Mr Evan Jones, Bala, a ystyriai y dylai'r gynad- ledd dynu cynllun allan wrth ba un y gallai'r gwarcheidwaid weithredu. Credai y dylid cynor- thwyo y tlodion, nid yn unig trwy arian, ond trwy. greu ynddynt yspryd annibynol. Y Parch J. Gower (Cadeirydd Bwrdd Undeb Llanrwst) a ddywedai fod yn rhaid, mewn tref n wneud y tlotty yn fwy effeithiol, ei ddosparthu vn bedair rhan-un rhan i ddynion o gymeriadau moesol, rhan arall i ferched moesol; a'r gweddill feddwon a dyhirod—yn ferched a meibiou. Weith- iau, yr oedd yn ofid iddynt gymeryd i mewn i'r tlooa rai personau, oherwydd nad oedd y cyfryw yn flaenorol wedi arfer cymysgu a. phobl digymeriad. Dyna yr unig wrthwynebiad oedd ganddo ef i'r tlotty. Buasai yn well ganddo fyned i'r carchar nag i'r tlotty pe gorfodid ef i gymysgu a rhai cym- eriadau. Pe gellid cae! y (losparthiatlau ar wahan, credai y byddai i'r gwrthwynebiad presenol i'r tlotty gael ei symud. Cefnogai yntau ymchwiliad trwyadl i bob achos—yr oedd hyny yn Undeb Llanrwst wedi arbed l,260p iddynt. Mr Hogan, Gwrecsam, a ddywedai mai diffyg Deddf y Tlodion ydoedd absenoldeb dosparthiadau. Buasai yn welliant mawr pe gellid rhoddi ystafell i bobl barchus ar wahan i'r un roddir i bersonau digymeriad. Mr W. Thomas, Treffynon, a obeithiai y byddai'r oes sy'n codi vn fwy annibynol, ac y gwrthodent gynorthwy allanol. Gofidus oedd ganddo ddweyd fod lluaws o ddynion, fel y rhai yn nsweithiau Fflint, yn afradloui ei henillion. Dylai pobl geisio cynorthwyo eu hunain a dylai'r gwarcheidwaid gynorthwyo pobl wedi eu dosparthu. Mr J. T. Jones (Cadeirydd Bwrdd Undeb Pwll- heli) a ddadleuai y dylai'r gwarcheidwaid ymweled yn ddirgel a'r gorsafoedd talu. Gwnaed hyn gyda chanlynaidau da yn Undeb Pwllheli. Gwrthdyst- iai hefyd yn erbyn y duedd gan rai i fod yn war- cheidwaid yn ogystal a swyddogion meddygol yr undebau. Mr Hugh Thomas (Cadeirydd Undeb Bangor a Beaumaris) a lawenhai fod Mr Gower wedi cyfeirio at gwestiwn y dosparthu. Yr oedd ya fater teil, wng o ystyriaeth. Cymeradwyai hefyd awgrymiad Mr J. T. Jones, i dalu ymweliad dirgelaidd a'r gorsafoedd talu. Credai Mr W. J. Williams, Caernarfon, y bydd- ai i gynllun y blwydd-dal ysgafnhau y trethi. Mr T. W. Williams, Caernarfon, a ddywedai nad oedd ymddygiad y gwarcheidwaid at y gweithwyr oedd yn aeiodau o glybiau cleifion yn galonogol iddynt. Dylent gynorthwyo aelodau o'r clybiau hyn os na dderbynient ddigon. Dylai plant y tlodion deimlo tipyn o'u balchder Cymreig pan ganiataent i'r hen bobl fyn'd i'r tlotty. Mr Ll. Jones, Rhyl, a gydsyniai aV priodoldeb o gael ymchwiliad. Dylai'r rheid-weinyddwyr gael llai i'w wneud, a gwneud hyny yn briodol. Ni ellid disgwyl i warcheidwaid fod hefyd yn hedd- geidwaid. Y Cadeirydd, wrth adolygu yr awgrymiadau, a ddywedai fod i bob undeb ei nodweddion neill- duol. Yr oedd yn gywilydd mai Gogledd Cymru oedd yn cyfranu fwyaf at gynorthwy allanol. Dy- lai'r gwarcheidwaid edrych ar ol y rheid-weinydd- -we' wyr. Ofnai y byddai i'r Rhaith newydd fed yn fwy rhydd, a gobeithiai y dychwelid llawer o'r hen warcheidwaid yn aelodau ar y Cynghor hwnw. Credai y gellid lleihau y cynorthwy allanol. Mrs Lloyd Jones, Rhyl, a ddatganai ei llawenydd fod cymaint wedi ei ddweyd yn ffafr dosparthu y tlodion. Teimlai pawb, ac yn neillduol y merched, ddyddordeb neillduol yn hyn, Deallai eu bod yn Walton wedi gosod adeilad mawr at wasanaeth hen wragedd a phlant. Cwestiwn arall pwysig i'r dospartb goreu o dlodion ydoedd gwahanu teulu- oedd oddiwrth eu gilydd yn y tlottai. Cymerad- wyai yr awgrymiad o gael elusendai i'r hen bobl, a thai byrddio i blant. Pe cawsai plant, tra yn y tlotty, y fantais o addysg gelfyddydol, byddai eu bywyd yn llawer mwy dedwydd. Ar ol byrbryd, dewiswyd y boneddigion canlynol yn gynrychiolwyr i'r Gynadledd Ganolog dros Og- ledd Cymru Mon, Mr Pritchard; Arfon, Mr C, A. Jones Dinbych, Capt Griffith-Boscawen Fflint, Mr E. Morgan Meirionydd, Mr Evan Jones xre- faldwyn, y Mil. Harrison. Penderfynwyd cynal y gynadledd nesaf yn Llandudno. Darlleaodd Mr P. Harding Roberts, Treffynon, bapur maith ar Ddeddf Llywodraeth Leol 1894, gyda chyfeiriadau neillduol at ei darpariadau yn nglyn a Chymru. Ar ol diolch i Mr Roberts a'r cadeirydd, terfynodd y gynadledd.

o Clawdd Offa a'r Cyffiniau.

-:0:-Yr Ysgrifenydd Cartrefol…

--__-!:-o-.._._-.-Cofgolofn…

Advertising

Cynadledd Cymru Fydd.

Advertising