Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

----____-Gwreichion.

Cyfarfod Misol Liverpool.

--0-Ffestiniog.

[No title]

Advertising

I Cwyddoniaeth,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwyddoniaeth, BREUDDWYD A GWELEUIGAETH NOS. MAE dyfalu lawer wedi bod erioed am ystyr a natur breuddwyd ac er fod pawb yn breuddwydio nid oes neb a fedr olrhain gweithrediidau y peirianau dyrus roddant fodolaeth i freuddwyd. Fe greda y mwyafrif ohonom nad oes rhyw lawer o ystyr o gwbl i freuddwyd, beth bynag am ei natur. Ond fe greda ambell un yma ac acw yn ein plith fod i freuddwyd ystyr ac amcan, ac er y chwerddir am ben ei gyffes gan y mwyafrif, fe lyna yn dyn wrth y grediniaeth fod yn ei hanes lawer breuddwyd ag iddo ystyr a phwrpis. Yn wir, trwy ymchwiliad manwl i dystiolaethau pobl gellir dod i'r pender fyniad fod yna ddau fath o freuddwyd, y naill yn rhywbeth sylweddol a naturiol, anhawdd yn ami ei wahaniaethu oddiwrth brofiadau dyddiol y breu- ddwydiwr; a'r llall yn rhyw ymddatigosiad niwlog megys yn y dychymyg, yn ansylweddul ac an naturiol. Yn y dosbarth olaf hwn, mae yn debyg, y mae y rhan amlaf o freuddwydion dyaion i'w lleoli. Tebyg yw fod posiblrwydd breuddwyd i'r dorbarth cyntaf yn dibynu yn rhanol ar bersonau o nodwedd arbenig ac efallai uwchraddol. Nid yw y breuddwydion sylweddol yn eiddo i bawb. Nid oes un o bob cant ohonom yn gwybod dim am danynt trwy brofiad. Yn y Beibl fe welir yn amlwg y ddau ddosbarth hyn o freuddwydion. Er engraipht, fe ddywed Job ani yr anuuwiGI, 'Efe a eheda ymaith megys breuddwyd, ac ni cheir ef ac efe a ymlidia fel gweledigaeth ncs (Job xx. 8). 4 Canys mewn llaweroedd o freucidwydion y mae gwagedd (Ecc- les. v. 7). Ie, bydd megys newynog a freudd wyd. io ac wele ef yn bwyta a phan ddeffro gwag fydd ei enaid ac megys y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed a phan ddetfro wele ef yn ddi- ffygiol, a'i enaid yn chwenych diod felly y bydd tyrfa yr ho'il genedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion' (Esai. xxix. 8). Mewn breuddwyd- ion o'r natur yna mae pawb yn credu. Yn mreu- ddwydion o'r fath a ganlyn anaml yw y rhai a gredant eu bod yn bosibl heddy w :—4 Os bydd pro- phwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn eweled- igaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho' (Num. xii. 6). 4 A bydd ar ol hyny y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd, a'ch meibion a'ch merched a brophwydant, eich henur- iaid a welant freuddwydion, eich gwyr ieuainc a welant weledigaetliau' (Jo ;1 ii. 28). Mae yn y Beibl nifer fawr o'r dosbarth hwn o freuddwydion —breuddwydion ag iddynt ryw ddybenion neillduol. Yn ddiweddar, gwedi Hydref 1892, mae eglur- had helaeth wedi ei gael ar ddirgelion breuddwyd a gweledigaeth nos, trwy arbrofion a sylwadau a wnaed gan y Doctor G. B. Ermacora o Padua. Fe wnaed yr arbrofion a'r sylwadau hyn ar blentyn ieuanc pedair neu bum mlwydd oed o'r enw Angel- ina Cavazzoni o Venice. Rhai o brif ganlyniadau yr arbrofion yw y rhai hyn Yn laf, fod yn bosibl i freuddwyd fod yn sylweddol, mor sylweddol a phrofiad dyddiol dyn. Yn ail, fod breuddwydion lawer heb iddynt sylwedd o gwbl, na bodolaeth y tuallan i ymenydd y breuddwydiwr, breuddwydion ellir ystyried 0bosibl fel afiechyd yn fwy na dim arall. Yn drydydd, fod yn rhaid i'r breuddwydiwr fod mewn iechyd cyn y gall breuddwyd sylweddol ddigwydd. Mae y tipyn lleiaf o aflonyddweh corphorol neu feddyliol ynataliadar wir freuddwyd neu weledigaeth rhaid i'r cwsg fod yn drwm a thawel. Pan yn ysgrifenu, mae o'n blaen 70 o arbrofion o eiddo y Dr Ermacora, a'r oil wedi eu gwneud ar y plentyn Angelina. Yr oedd pob arbrawf: gyn- wys breuddwyd, ac allan o'r 70 o gynygion bu 12 yn aflwyddianus oherwydd afiechyd neu gwsg ter- fysglyd. Bu pedwar hefyd yn aflwyddianus oher- wydd achosion eraill. Mae yn aros fdly 54 o arbrofion llwyddianus, yn cynwys 54 o freuddwyd- ion sylweddol. Dyben a sylwedd pob arbrawf oedd cynyrchu breuddwyd yn 01 cyullun rhag-drefnedig, ac yn hanfodol yr oedd pob arbrawf yn gynwysedig o ddewisiad pwnc a flurfiad manylion y breuddwyd gan y Dr Ermacora ei bun o drosglwyddiad y manylion i gyfrwng arbenig, sef y bod deallol a enwa ei hun yn Elvira; o ffurfiad y manylion rhag- drefnedig yn freuddwyd ar ymenydd neu yn hytrach yn ymwybolrwydd Angelina pan mewn cwsg ar wely yn nyfnder nos ac yn olaf o gael ad- roddiad o'r breuddwyd gan Angelina foreu dran- oeth wedi deffro. Yn nglyn a'r pwnc o sylweddolrwydd, bu yr ar- brofion mor llwyddianus fel ag i beri i Angelina ystyried y breuddwydion fel rhan o'i hanes daearol, ac i son am ei gweledigaethau nos fel y sonia am ei chwareuon ganol dypdd. Cofier fod yr achos o'r holl freuddwydion a'r gweledigaethau yn bodoli y tuallan i ymwybod- iaeth Angelina, ac felly yr oedd i bob un ohonynt ystyr ag oedd yn annibynol ar nodwoddion naturiol y plentyn. Hyny yw, mae posiblrwydd breuddwyd sylweddol yn dibynu yn rhanol ar ryw allu y tu- allan i'r breuddwydiwr, ac mae y gallu hwn yn an- nibynol hyd yn nod ar fodolaeth y breuddwypiwr. Yn yr arbrofion hyn mae y gallu yn eiddo'r cy rwng deallol a elwir Elvira. Mae y ffaith fod yn bosibl cynyrchu breuddwyd a gweledigaeth yn ymwybodolrwydd un mewn cwsg yn un o'r darganfyddiadau mwyaf dyddorol a phwysig a wnaed mewn Psychology yn ystod y deog mlynedd diweddaf, ac mae canlyniadau y wybodaeth hon yn sicr o daflu goleuni mawr ar natur dyn. Bydd i ni yn fuan eto ysgrifenu ychwaneg ar y testyn hwn. BENJAMIN DAVIES. o

[No title]

Advertising