Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
w ] IN .0 oe gp ESTABLISHED 1819. PENLINQTON -AND- BATTY, Chronometer Makers I TO THE ADMIRAL TV AND The Indian Government. Penlington's Watches have during the XIXth Century taken the lead for DURABILITY AND ACCURACY. SPECIAL LINES. At 1 0 Ironclad Keyless Lever Watch. A2 0 0 Silver do do A5 0 0 do English do do (own make) £10 0 0 Gold do do do » Also up to 50 Guineas each. All Timed and guaranteed. DIAMONDS. JEWELLERY. CLOCKS. SILVER. ELECTRO-PLATE. PRICES AS LOW AS ANY HOUSE IN THE KINGDOM. 2, & 3, St. George's Crescent, Castle Street LIVERPOOL And at Manchester (W. BATTY & SONS Ltd. Sefydlwyd 1846. W. HOPLEY, Dealer ill Music and Musical Instruments. 125, WEST DERBY ROAD, LIVERPOOL. Taliadau bawdd. Perdonegau o 10a y mis; Organau o 6a. Oedwir mewn stic bob peOh yn nglyn a Cherddoriaeth. Tiwnio ac Adgyweirio. JOHN OWENS, (Late Foreman to O. and D. Williams), —Blacksmith, Whitesmith,— SHEET IRON WORKER, PLUMBING & GASFITTING Wrought Iron Gates, Railings, Shop Window Guards, &c, KIRK STREET, KIRKDALB, LIVERPOOL. J. L. EVANS. Halsbury House, 249 Kensingtoq, Liverpool Has always a good variety of Ladies, & Children's Underclothing and Household Drapery. All oar Goods are of RELIABLE QUALITY.: Mrs. W. E. JONES, L.R.A.H., Teacher of Muoiel Pianoforte, Theory and Harmony. Engagements accepted as ACCOMPANIST for Concerts, &c. Address- 13, THE WILLOWS, EVERTON, LIVERPOOL. Hope Halli Hop- Street, Lerpwl. CTNELIR CYFARFOD CYHOEDDUS Nos Wener nesaf, Ebrill 19, am 7-30 o'r gloch, Yn nglyn ag "ACHOS CHATHAM STREET." Cadeirydd Mr. R. O. WILLIAMS. SLARADWTR Parch. W. O. JONES, B.A., Mr. G. C. REES, Mr. JOHS ROWLANDS. Mr. OWELIT MORRIS. Mr. D. DA.VIES. Mynediad i mewn o 6-30 hyd 7-15 trwy docymu, cyfyngedig i Fethodistiaid wedi hyny, teflir y drysau yn agored. [HYSBTSIAP.] "ACHOS CHATHAM S T R E E T." Dymunir ar aelodau y Methoiistiaid sydd eto heb arwyddo y Ddeiseb dori allan y copi isod, ei lawnodi, chael cyfeillioa eraill i wajul yr un moid, a'i anfon, erbyn BORE S A, L)WP.,i y fan beltaf,i JMr. J. S. WYNNE, 50 Olney Street, Walton, Liverpool. Copi o'r Ddeiseb. At Gymdeithasfa Chwarterol y Gogledd, cynulledig yn Ngholwyn Bay, Ebrill, 1901. Q DADAU A BRODYR,—Yr ydym ni, aelodau cyflawn o gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, yn wyneb yr amgylchiadau poenus ac eithriadol yn nglyn ag achos y Parch W. O. JONES ac Eglwys Chatham Street, ya erfyn arnoch ganiatau yr hyn a ganlyn Fod y Gymdeithasfa yn penodi pwyllgor o saith, yn unol a'r rheolau sefydlog, i wrando ar apel y Parch W. O. JONES yn erbyn dyfarniad Cyfarfod Misol Lerpwl, yr hwn a gadarnhawyd gan y Gymdeith- asfa yn mis Awst diweddif. Fod y Gymdeithasfa yn derbyn ac yn cadarnhau y pedair amod ar ba rai y gwneir yr apel gan y Parch W. O. Jones, ac yn cyfarwyddo y Pwyllgor a benodir i weithredu yn unol a hwynt. Yr ydym yn llawnodi y Ddeiseb hon am yr ystyriwn nad oes dim yn rheolau y Cyfundeb yn wrth- wynebol i ganiatau yr hyn a geisir, am yr ymddengys y ceisiadau i ni yn deg a rhesymol, ac am ein bod yn llwyr argyhoeddedig nad oes dim llai na hynyma yn ddigonol i adferu heddwch a thangnefedd yn yr eglwysi, ac i amddiffyn urddas ac effeithiolrwydd ein Llysoedd Cyfundebol. Yr ydym, gan hyny, yn erfyn arnoch ganiatau ein ceisiadau." ENW. PRESWTTFOD. ewydd ei Gyhoeddi, mewn Ilian gilt top Pris ios. 6ch. nett. Bywyd a Llythyrau DOCTOR LEWIS EDWARDS BALA, Gan ei fab, y Prifathraw THOMAS CHARLES EDWARDS. Y MAE y Gyfrol hardd hon yn un o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd erioed yn y Gymraeg. Cynwys a hanes cysylltiadau agos Dr. EDWARDS a phrif symudiadau Cymreig ei oes, ja gohebiaethau gyda lluaws o'i gydoeswyr enwog. LERPWL: I. FOULKES, 9, PARADISE STREET. Gellir cael cloriau (cases) at rwymo y gwaith hwn oddiwrth y Oyhoeddwr am 9c, a Is yr un a'r cludiad. Ein Nofei Newydd: (i 'LAtty y DIWYGIAD MAWR. PLftMT Y DIWYiflAD MAWR •" 1 I
CYNWYSIAD:
CYNWYSIAD: Achos Chatham Street. Y Chwarelwyr a'u Cynghorwyr. Y Rhyfel a Hanes Cymru. Coleg Normalaidd Bangor. 0 Lundain. Yr Anerchiad Cymraeg i'w Fawrhydi y Brenin.
CORTHRYMU Y GYMRY.
CORTHRYMU Y GYMRY. DVDDIAU lladd cenedloedd bychain ydyw'r amseroedd presenol; a'r trechaf treis- ied ydyw'r arwyddair sydd yn amlwg ar faner prif alluoedd y byd. Onid dyna hanes Rwsia yn Ffinland, Lloegr yn y Transvaal, yr Unol Dalaethau yn y Phill- ipines, a'r tri hefo'u'gilydd, gyda Galluoedd eraill yn eu helpu, i ddarnio ac wedi hyny draflyncu China. Ac ar ol meddianu gwlad y gorchfvgedig, eir yn mlaen o radd i radd i gymeryd oddiar y trigolion eu nodweddion cenedlaethol-eu hen sef- ydliadau, eu crefydd, eu hiaith-trwy deg neu annheg, p'run bynag fyddo fwyaf cyfleus a dirwystr. Y mae cenedl y Cymry er's chwe' chan' mlynedd tan y driniaeth chwerw hon; y syndod yw, pan ystyrier pobpeth, fod iddi enw erbyn hyn yn mhlith cenedloedd y ddaear ac ni bu odid gyfnod yn ei hanes pan yr oedd ganddi fwy o achos cwyno nag yn bresenol. Trowch ffordd fynoch chwi, trais a gorthrwm a welwch. Yr wythnos ddiweadar, yr oeddynt yn tyngu pump o ynadon newydd yn sir Ddinbych, a phob un o'r pump yn Sais uniaith, na fedrent air o iaith o leiafy ddwy ran o dair o drigolion y sir ac ychydig fisoedd yn ol, yr oedd gan arglwydd-raglaw sir Fflint y gwyneb-galedwch i ddweyd, mewn atebiad i gais Cynghor y Sir ar iddo bsnodi ynadon yn deall Cymraeg, nad oedd ef yn ystyried gwybodaeth o'r iaith hono yn angenrheidiol i ynad heddwch yn sir Fflint! Ychydig amser sydd er pan ddywedai arglwydd-raglaw sir arall yn Nghymru nad oedd modd iddo ef benodi Cymry i'r swydd.am nad oeddynt yn meddu y cymhwysderau cyllidol anhebgorol i'w llanw. Esgus ac nid rheswm ydyw dweyd y fath beth. Y cymhwysderau arianol gof- ynol i ynad sirol ydyw, perchen eiddo, tai neu diroedd, yn cynyrchu Yioo clir yn y flwyddyn, neu yn byw er's dwy flynedd mewn ty ardreth yr hwn fyddo dros gan punt yn y flwyddyn. Mae lluaws o Saeson yn ynadon, heb feddu y cymhwysderau hyn y mae canoedd o Gymry yn eu meddu ac heb fod yn ynadon, a chanoedd o Gymry eraill heb lawn feddu y cymhwys- derau arianol tra yn perchen pob cym- hwysder arall. Os ydyw'r cymhwysderau arianol hyn yn rhy uchel, dylid newid y gyfraith, a gostwng y cymhwysder fel na byddo hyny yn rhwystr ar ffordd penodiad i'r swydd ddynion a feddant bob cymhwys- der ond yr un arianol. Yn awr, modd bynag, gellid tybied mai prif gymhwysder ynad heddwch yn Nghymru ydyw, iddo fod yn Sais, yn newydd-ddyfodiad, wedi cymeryd hongol o hen balas,yn cyfranu yn lied hael tuag at gasgliadau eglwysig, yn cynffona i grach-foneddigion fyddant ar delerau da a'r arglwydd-raglaw. Ni raid i'r cyfryw un ddisgwyl yn hir yn Nghymru am yr hawl i ddodi y ddwy lythyren swyngyfareddol "J.P." ar ol ei enw, tfyddwn weithiau yn credu mai trugaredd fyddai difodi yr ynadaeth wladol yn gyfan' gwbl ond tra y byddo, ni ddylai enyn casineb y rhai y bwriadwyd hi i fod o wasanaeth iddynt. Cymerer eto y cais a wnaed at y Llywodraeth ychydig wyth- nosau yn ol o Golwyn Bay am Bostfeistr yn gallu deall Cymraeg. Y Bwrdd Lleol, etholedig gan drigolion y He, a wnai y cais, ac am y rheswm fod rhai o'r is Bostfeistri yn Gymry glân, a rhanau hel- aeth o faes goruchwyliaeth y Postfeistr yn hollol Gymreig; ond gwrthodwyd yn an- foesgar y cais rhesymol hwn. Yr oedd pobl fawr Llundain yn deall yn well beth oedd anhebgorion Postfeistr yn Colwyn Bay na'r bobl yn y fan a'r Ile a etholwyd i edrych arol buddianau y trig- olion. Dadleuai un Sais o'r enw Byrne y dylai Sais gael yr un chwareu teg yn Nghymru ag a dderbyn Cymro yn Lloegr. Baldordd ffol yn codi oddiar anwybodaeth ydyw hyn, fel yr hysbyswyd y baldorddwr ar y pryd. Siawns wael i Gymro am un- rhyw swydd yn Lloegr, oni ddealla iaith y bobl, ac ni ddylai siawns y Sais uniaith yn Nghymru fod yr un gronyn mwy. Ond nid felly y mae, a'r achos o hyny yw trais y trechaf. Ceir esiamplau cyffelyb beunydd yn mhob cwr i'r wlad ac yn mhob dull. Dynwaredir y Llywodraeth gan gwmniau Seisnig a thrahaus y Reilffyrdd. Nid yw y Cymryeto wedi gollwng tros gofy cyhoedd- iad brwnt o eiddo swyddogion y L. & N. Western, sef nad oedd labrwr o Gymro uniaith i fod yn eu gwasanaeth hwy. An- hawdd genym hefyd gredu pe buasai prif-swyddogion a pherchenog chwarel y Penrhyn yn Gymry neu yn deall iaith y gweithwyr, y buasai yn y chwarel hono gynifer o gwerylon a thair mil o ddynion mwyaf gweithgar a diwyd y deyrnas er's misoedd bellach yn segur neu yn moel- ystota i chwilio am waith yn mhell oddi cartref. Prin y rhaid ini ddatgan na fwriadwn trwy hyn ddifrio y Sais mewn un modd, ond os mynwn gael ein parchu ganddo, rhaid ini sefyll dros ein hiawn- derau ac amddiffyn ein nodweddion cen- edlaethol. Yr hwn a hawlia ei freiniau sydd yn teilyngu anrhydedd, ac fel rheol yn ei dderbyn. I ymladd a'r annghyfiawnderau hyn nis gwyddom am ddim gwell moddioh na chymdeithas genedlaethol Gymreig gref, iach, uniawn ei hamcanion, penderfynol o'u mynu, heb yn ei rheolau son am na hen nac ieuanc, na sect grefyddol, na phlaid boliticaidd, ond i gynwys Cymry gwladgar, goleuedig, ac iddi ganghenau byw yn mhob pentref, llan a thref, trwy Gymru benbaladr. Oni wnai y Cymdeith- asau Cenedlaethol Cymreig sydd genym eisoes gnewyllun rhagorol i gymdeithas o'r fath ? Llenyddol ydynt hwy yn awr gan mwyaf, a bychan fyddai'r gwaith o'u gwneud yn wladgar cystal ag yn llengar.
--0--CWRS Y BYB.
--0-- CWRS Y BYB. Y Rhyfel a Hanes Cymru. MAE'R darllenydd yn ddiaa yn gwybod am enw Owea Roscomyl, nofelydd, haneaydd, lienor o Sais wedi ymgydnabyddu cryn lawer & hanes a rhamantau Cymru. Darlienwyd Papyr o'i waith rhyw dair nen bodair bynedd yn ol yn y Gymdeithas Genedlaethol yma ar 11 Amddiffyn. feydd Lleyn," a chyhoeddodd ramantau yn Seisnig sylfaenedig ar ddigwyddiadau cyffrous yn Hanes Cymru, un o ba rai ydyw Battlement and Tower, yn dal cysylltiad a Chaatell Conwy, gerllaw trigfa yr awdwr. Fe gofia y darllenydd hefyd i gyfieithiad o un o'r nofelau ymddangos yn y Gymro tan y penawd, Y Gwyneb Cudd" yn y rhan olaf o'r flwyddyn 1898. Enw priodol Owen Roscomyl ydyw Mr Schofield. Dyna un pen i'r edefyn, y pen arall ydyw hwn. Fe gyhoeddwyd llyfr o werth 3a 63 yn ddiweddar tan y teitl A Subaltern's Letters to his Wife (Llythyrau Is-swyddog at ei Wraig), cyfrol sydd yn cynwys sylwadau craff ar y grefft o fil- wrio, yn nghyda beirniadaeth deg a medrus ar anhawsderau a diffygion y rhyfelawd presenol. Rhydd yr adolygiadau Seisnig ganmoliaeth uchel i'r llyfr ar gyfrif ei ddefnyddiau a'i gyf- ansoddiad. Owen Roscymyl, yn ol a glywsom, ydyw yr awdwr neu y cydawdwr. Os cywir y dyfaliad, y mae wedi dyeithrio yr amgylchiadau mewn ami i fan, ond peth fedr awdwr sydd yn hanesydd aoyn rhamantwr ei wneud yn rhwydd ddigon ydyw hyny. H wyrach mai y cyoaysgiad hwn o ffaith a thipyn o ffug wedi ei daflu i mewn sydd yn gwnead y gwaith mor ganmol- adwy gan adolygwyr ac mor ddyddan i'w darlten. Yn un man cymer ymgom le rhwng Cymro a'r awdwr ar ddiffyg Cymru o hanes teilwng, a dywedir nad oes ond tri yn fyw all wneud y diffyg hwnw i fyny, sef, 0 M Edwards, y Prif- athraw John Rhys, a'r llefarydd ei hun. Wrth gwrs, cellwair y mae'r nofelydd galluog hyny ydyw ac i ni ganiatan mai efe ydyw y subaltern, a chellwair y mae hefyd pan ddywed nad oes ond dau fedr lanw'r diffyg; ond gresyn na roddid taw bellach ar y gri am hanes awdardod- edig o Gymru. Nis gellir gwneud hanes fel nyddu nofel o benglog yr awdwr. Yr un defnyddiau sydd yn awr at waaanaeth hen hanes Cymru ag oedd gan Carnhaanawc a Morgan Tregynon, er y gellir, mae'n fwy na thebyg, ea cyfleu a'u trefnu yn well. Tybed, er hyny, fod modd ysgrifenu gwell a chywirach hanes o Llewelyn nag un Warrington, neu o Glyndwr na'r eiddo Thomas Pennant ? Ar yr' un pryd, gan fod y llyfrau hyny yn brinion, a galwad am hanes newydd, gadewch i ni gael un neu ragor naill ai o Rhydychain, Bangor, Merthyr, aeu'r lie delont. Cymered rhywun y tak-not i fynu bellach. Y Chwarelwyr a'u Cynghorwyr, Ni fa'r chwarelwyr erioed yu brin o gynghorwyr, ac yn anad un amser ni fuont felly yn eu bar