Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB GORLLEWINOL MORGANWG. Cynaliwyd yr uchod yn Dunvant, Awst 29ain a'r 30ain. Y Parch J. Thomas, Bryn, yn gadeirydct. Penderfynwyd— 1. I'r Cyfarfod Chwarterol nesaf fod, yn ol y gylchres, yn Cwmbwrla. 2. Ein bod gyda phob anwyldeb brawdol yn cyflwyno y Parch J. Henry, Maerdy, i Gyfundeb Dwyreiniol y Sir. 3. Ein bod yn gwresog gymeradwyo Lewis Jones, Pontardawe, ac Elias Bowen, Cadle, fel ymgeiswyr i Athrofa y Bala, ac yn dymuno eu llwyddiant. 4. Fed y Gynadledd yn dymuno amlygu ei chydymdeimla-d a Dr Rees, Abertawy, yn ei gystudd caled, yn diolch am brofion o adferiad, ac yn gobeithio y ca dayddiau lawer eto i wasan- aethu ei wlad a'i genedl. Nodwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Pregethwr yn hytrach draddodi eu sylwadau yn y cyfarfod yn Cwmbwrla. Oddiwrth sylwadau a wnaed gan Hen Ddysgybl," cymerwyd Pcrthynas Cyfryngwriaeth Crist a'n dyledswyddau cref- yddol yn destyn. Sylwyd mai lesu yw can- olbwynt ein holl brofles a'n gobaith cin cym- horth i gael drychfeddwl a gafael ar y Tad yn ei ysbrydolrwydd ein sylfaen er maddeuant a derbyniad i'r teulu fod crcdiniaeth yn ei bcr- son, undeb bywiol ag cf, yn hanfodol i iachawd- wriacth. Dyfod at Grist fel y mae yw dyfod at y Tad; a dyfod at Grist yn wirioneddol yma yw cael cymhwysder i fyned ato yn y diwedd. lcsu yn y galon yw bywyd tragywyddol. lesu yn ci enw a'i berson sydd yn rhoddi gwrcs a bywyd yn ein cyfarfodydd; ei enw yn para yn ei flas Crist yn north a llwyddiant yn y gwaith, Hebof fi," &c. Amcan dyfodiad lesu i'r byd oedd cadw dyn os gwi'thyd ddyfod ato, fod yr amcan yn cael ei golli; ac os creu yn Nghrat, o angenrheidrwydd Crist yw y cyfan. An- hraethol werth yw cael Crist a'i Ysbryd yn y galon. Cafwyd Cynadledd wir ddymunol ac adeil- adol. Dygwyd rhanau cyhoeddus y gwasanaeth yn mlaen gan y Parchn Davies, Pontardawe; Roberts, Ystradgynlais; Thomas, Gurnos; Thomas, Bryn; Charles, Bristol; Bevan, Waunarlwydd; Evans, Llansawel, &o. Caf- wyd gwrandawiad astud, a thraddodwyd gwir- ioneddau iachus a dymunol. J. LL. JONES, Ysg.
LLEYN AC EIPIONYUD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
LLEYN AC EIPIONYUD. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Llaniestyn ar y dyddiau Mercher a Iau, Awst 15fed a'r 16eg. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Daeth nifer lluosog o frodyr yn nghyd. Yn absenoldeb y Cadeir- ydd am y flwyddyn, llywyddwyd gan Mr J, Jones, Braichysaint. Dechreuwyd trwy ddar- llen a chadarnhau cofnodion y cyfarfol blaen. orol. 1. Penderfynwyd i'r cyfarfod nesaf fod yn Pisgah. Y Parch W. B. Marks, Cricieth, i bregethu ar y pwnc, Crefydd ymarferol." 2. JuMH.—Cy&wynwyd y mater hwn i sylw y Gynadledd gan y Parch 0. Jones, Pwllheli. Rhoddodd adroddiad manwl a chlir o weithrediad- au Pwyllgor Jubili v Cyfundeb, a'r modd yr oedd wedi dosbarthu arian y grant i'w rhanu i'r gwa- banol eglwysi a anfonodd eu cais i'r Pwyllgor, yn ol y penderfyniad a basiwyd yn y Cyfarfod Chwarterol diweddaf. Hysbysodd Mr Jones ei fod wedi llwyddo i chwyddo swm y grant o X83 i £103. Ehoddai Mr Jones ei hun £10, a Mr R. Roberts, Pwllheli, £10, a bod Mr Roberts wedi addaw £10 bob blwyddyn am bum' mlynedd, yn gwneyd i fyny y swm anrhydeddus o £50, ac fod ereill, yn eglwysi a phersonau, wedi addaw rhodd- ion cyffelyb, fel y mae y Pwyllgor yn dra hyderus y gellir dyblu swm y grant a dderbynir o Drysorfa y Jubili yn Lloegr. Yr oedd y Pwyllgor wedi dosbarthu yr arian yn y drefn a ganlyn :—Pisgah, « £ 20; Llithfaen, < £ 20; Penrhyn, < £ 18; Cilgwyn, £ 5 Rhostryfan, X-3; Capelhelyg, £7; Nefyn, X-15; Bryncroes, .£15; Capol Coffadwriaethol Porthmadog, £10. Cynygiodd y Parch W. B. Marks, ac eiliodd Mr R. Griffith, Fourcrosses, a phasiwyd ef yn unfrydol-Ein bod fel Cynadledd yn cymeradwyo cynllun Pwyllgor y Jubili o ddos- barthu yr arian i'r eglwysi oedd wedi gwneyd cai3 am gynorthwy i dalu eu dyled. 3. Fod y Gynadledd yn dymuno cyflwyno ei diolchgarwch mwyaf gwresog i Mr E. Roberta a'r Parch O. Jones am eu haelioni tuag at Drysorfa y Jubili. 4. Cyflwynodd y Parch W. W. Jones, Pisgah, i sylw y Gynadledd frawd ieuanc addawol, ac o gy- meriad pur, oedd wedi dechreu pregethu yno. Rhoddwyd iddo dderbyniad siriol. 5. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ysgrifenydd Oyfundeb Maldwynyn cyflwyno i Gyfundeb Lleyn nc Eifionydd y Parch D. S. Thomas, Penrhyn. Cynwysai y llythyr gymeradwyaeth uchel i Mr Thomas, yn nghyda datganiad o deimlad dwys oherwydd colli o'u plith frawd mor weithgar a ffyddlon, yr hwn a fawr gareut oil. Wedi darllen y llythyr cynygiwyd, ac eiliwyd, a pbasiwyd yn unfrydol-Ein bod fel Cynadledd yn rhoddi der- byniad calonog i Mr Thomas yn aelod o'r Cyfun- deb, ac yn dymuno ei Iwyddiant yn fawr yn nghylch newydd ei weinidogaeth. 6. Penderfynwyd rhoddi llythyr cymeradwyaeth i'r Parch J. Williams, yn ei gyflwyno i Gyfundeb Mon, ar ei ymadawiad o'n mysg i gymeryd gofal yr eglwysi yn Niwbwrch a'r Dwyran. Siaradodd amryw o'r brodyr yn uchel am Mr Williams, yn enwedig ei ddau gymydog agosaf—y Parch T. Jones, Tabor, a Mr J. Jones, Braichysaint, Porth- madog. Yr oedd yn dda ganddynt, ar ol adna. byddiaeth a Mr Williams am flynyddau, gael cyfle i ddwyn eu tystiolaeth iddo fel dyn caredig a thawel, fel Cristion cywir a ffyddlon, ac fel "gweinidog da i Iesu Grist." Y mae yn chwith iawn genym golli brawd mor anwyl a ffyddlon o'n plitb, a dymunwn ei Iwyddiant yn ei faes newydd. 7. Darllenwyd llythyr Mr D. Jones, ysgrifenydd Eglwys Barett's Grove, Llundain, yn dymuno am gasgliad o eglwysi y Cyfundeb at Gapel Coffad- wriaethol y Gohebydd. 8. Hysbysodd y Parch O. Jones fod Eglwys Penlan, Pwllheli, yn rhoddi derbyniad croesawgar i'r Gymanfa Sirol am y flwyddyn nesaf. Cafwyd Cynadledd ddymunol—" Pawb o'r brodyr yno yn un, hob neb yn tynu yn grocs." Swm casgliad yr eglwysi at Drysorfa yr Undeb, £ 3 6s. Casgliad yr cglwys yn Llaniestyn dydd y cyfarfod, £1 16s. Cyfanswm, f:5 2s. Yn Haw y trysorydd yn flaonorol, £1:3 Os Ie. Tal. wyd i eglwys Llithfaen tuag at ddiddyledu cu capel, £ 10. Am argraffu, £2. Gweddill yn llaw y trysorydd, E2 16s Ie. Pregethwyd nos Fercher gan y Parch J. C. Jones, Penygroes, ar y pwnc, "Edifeinvch Efengylaidd," a'r Parch T..rones, Tabor. Dydd Iau, am 10, 2, a 6, gan y Parchn Jones, Llan- bedrog; Williams, Bortli; Williams, Capel Helyg; Jones, Pisgah; Thomas, Penrhyn; a Jones, Pwllheli. Rhoddodd y Parch J. G. Jones, a'r eglwys yn Llaniestyn, y derbyniad mwyaf croesawgar i'r Cyfarfod Chwarterol. Arosed yr amddiffyn Dwyfol ar yr holl ogon- iant yn hen eglwys barchus Rehoboth. Penygrocs. J. C. JONES, Ysg. [Gadawsomy 9fed penderfyniad allan am na ddaeth i law yn gySawn.—GoL.J
MACHYNLLETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MACHYNLLETH. CYFARFOD YMADAWOL A CUYFIAVYNIAD TYSTEB, Yn nghapel y Graig, nos Fawrth, Awst 28ain, cynaliwyd cyfarfod er canu yn iach a chyflwyno tysteb i Mr Idrys Jones, anwyl fab y Parch .Josiah Jones, ein parekus weinidog, ar ei ymadawiad i'r America, er dilyn am dair blynedd (os yr Ar- glwydd a'i myn) gwrs o addysg ddnwinyddol yn Mhrifysgol Yale, Newhaven. Gan fod gair mor ddD- i Mr Jones gan bawb, ac yn ddiau gan y gwirionedd ei hun, nid rhyfedd fod cynifer o gyfeiliion ac ewyllyswyr da iddo wedi cyfarfod, nid yn unig o'r frawdoliaeth yn y Graig, ond hefyd o wahanoi eglwysi y dref, er dymuno iddo fordaith hyfryd, a gyrfa Iwyddianus wedi y fordaith. Wedi dechreu y cyfarfod drwy ddarllen a gweddïo, oherwydd rheswm neillduol, gan y Parch Josiah Jones, pouodwyd, ar gynygiad Mr H. Lumley, aceiliad Mr R. D. Jones, Mr W. Lloyd, N. & P. Bank, fel boneddwr gweithgav, yn mhlith dynion ieuainc yr eglwys, a chyfaill hoff i Mr Jones, i gymeryd y gadair lywyddol, gan yr hwn y cafwyd anerchiad hynod briodol, yn datgan ei ofid oherwydd colli cymdeithas cyfaill mor bur a Mr Jones, ond etc ei lawenydd pall yr ystyriai nad oedd ond megys dilyn esiampl Apostol mawr y Ceaedloedd, yr hwn a aeth i Arabia am dair blynedd er .ymberfleitkio ar gyfer gwaith mawr y weiuidugaotk. Yna cafwyd anerchiadau cynesol a phwrpasol gan y cyfoil] ion canlynol:—Mri D. Charles, W. E. Jones, D. S'nith, D. Jones, yn datgan eu colled a'u chwithdod oherwydd colli cymdeithas Mr Jones, ond etc cu llawenydd wrth weled ei awydd am gynyddn ciewn dysgeidiaeth, a'u dymuniad am yrfa Iwyddianus iddo tra yn yr Amerig, yn nghyda dychweiiad adref eto "yn nerth ei iechyd." Y pryd hwn, ar ran yr eglwys, cyflwynwyd tysteb iddo, yu eynwys swm anrbydeddus o aur, a mwy na hyny o deimlad do, gan Mrs Jones, Corner Shop—boneddiges sydd a'i chalon bob amser yn euro yn gynes tuag at ienenctyd a phob dosbarth yn Eglwys y Graig, yr hyn a wnaeth mewn anerchiad hynod briodol a tkeiraladwy a chydnabyddodd Mr Jones ei ddioichgarwch i Mrs Jones a'r eglwys am y datganiad sylweddol hwn o'u cydymdeimlad a'u serch tuag ato. Wedi hyny cafwjfd anerchiadau gan y cyfeillion canlynol:—Mri R. D. Jones, J. Evans, J. B. Davies, T. Jones, D. E. Davies, T. Thomas, H. Meredith, D. Evans (Dowi Ghm Llyfnant), G. Breeze, a'r Parch T. Griffiths, Forge. Darllenodd Mr J. Evnns anerchiad barddonol doniol ryfeddol, a gvfansoddwyd gan Mr R. D. Jones. Cafwyd hefyd yr un mor liwyliog anerchiad cyffelyb gan Mr H. Meredith, ac hefyd gan Mr J. B. Davies. Byddai yn dda genym i gynyrch awen y tri brawd gael ymddangos, ond teimlwn, gan fod eiddo y ddau frawd blaenaf yn lied feithion, y trechent ormod ar eich gofod. Ond a ganlyn yw eiddo Mr b Davies :— "Gorphwys don, gorwedda'n llonydd Nes b'o Idrys dros y Wcrydd Tithau, wynt, anadla'n dirion, Gwrando weddi ei gyfeiliion. Plentyn yw i'r GvVr o urddas, Gwrcldaist gynt ar For Tiberias: Gwylia gyifwrdd un o'r teulu, Heb orchymyn gan yr Iesu. "Iesu Grist sy'n rulio'r eigion, Nid Britania (cofiwch, Saeson) Yn ei law rho'wn ninau Idrys, Nes myn'd dros y mor cynhyvfus. A phan groeso i'r Gorllewin, Boed ei ddyddiau fel Mehefin Gwenau'r Nefoedd ar ei lwybrau, Nes daw 'nol i wlad ei dadau." Yna cafwyd anerchiad gwir ragorol a chalon- ogol gan y Parch E. Rowlands, Treflys, yr hwn a edrychai yn lied ysgafn ar groesi y Werydd— nemawr mwy nag yr edrychai Shonni Jones, Llanwrin, ar groesi afon Ddyfi ar y llif yn ei gdrwgl. Wedi datgan llawer o ddymuniadau da, aeth i weddi, yr hyn a derfynodd un o'r cyfarfod- ydd mwyaf dymunol a brwdfrydig mewn arddang- osiad o deimlad da a fwynhawyd genym er's llawer o amser. Cynygiwyd gan Mr J. O. Williams, cefnogwyd gan Mr T. Thomas, a thalwyd diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i'r Uywydd. Gweddus yw i ni dalu teyrnged o ddioichgarwch i Mr W. Lloyd fel trysorydd, a Mr J. Evans fel ysgrifenydd y dysteb, gan fod :yr amser byr y bu iddynt ei dwyn oddiamgylch yn profi eu bod wedi gweithio gydag yni neillduo!. Ond diau cu bod bwy a phawb ereill yu teimlo mai bychan oedd ganddynt wneuthur hyn i un oedd mor hoff ganddynt ar ei ymadawiad oddiwvthynt. Wrth derfynu, nis gall ysgrifenydd y llinellau hyu lai na dywedyd o rwaelod calon, Golid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd Idrys; cu iawn fnost genyf fi." Ond gan mai fel hyn y trefna Ehagluniaeth, rhwydd hynt a gyrfa Iwyddianus iddo, yw gwir ddymuniad ei anwyl gyfaill D. JONES.
UNDEB YiiANNIlVYNWYR^CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YiiANNIlVYNWYR^CYMREIG. Trwy araryfasedd, gadawyd allan y pender- fyniad canlynol, a basiwyd yn y Gyiiadledd boreu dydd Iau. Cynygiwyd gan y Parch D. M. Jenkins, Liverpool, ac eiliwyd gan y Parch O. Evans, Llunclain- Fod y Parchu Dr Thomas, Liverpool; W. Roberts, Cadeirydd yr Undeb, Liverpool; a Mr W. J. Parry, Maesygroes, i gynrychioli yr Undeb yn y Gynadledd a gynelir yn Nghaernarfon a'r Parchn W. Edwards, cyn-Gadeirydd, Aberdar; R. Thomas, Ysgriienydd, Glandwr; a Mr T. Williams, Y.H., Gwaelodygarth, Merthyr, yn y Gynadledd a gynelir yn Abertawy, yn mis Tachwedd nesaf, mewn cyoylitiad a Ckymdeitkas 11 by d d h a d Ore fy d a.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
--+- I'uciiuj-ATBA."—Gwellhad newydd a chyfiym o holl iuthw.yMoi'uu y llcisw a'r arenau.. 4s. Gofyuwcli aut (laiio i'r 1'iif Uwyddia—LlunUdiu, I<lo. 1, King Edwaiu-btrwt,