Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

TY YR ARGLWYDDI.

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG Diamheu fod cyfeillion yr Undeb yn awyddus i wybod pob peth ellir am gyfleusderau rhad i deithio gyda'r tr6n. Yr ydym wedi gwneyd ein goreu i gael trains rhad. Mae y London and North Western Railway yn gomedd rhoddi eyfleuaderau neillduol i'r Undeb eieni. Nid ydym yn sicr er hyny na bydd cheap returns yn cael eu rhoddi gan y llinell uchod yr amser hwnw. Mae y Great Western Company wedi addaw cheap returns ar ddydd Sadwrn, Gorphenaf 26ain (ac yr ydym wedi taer ddy- muno am iddynt eu rhoddi ddydd Llun hefyd) i'r Deheubarth. Gan fod llinell y London and North Western yn fwy cyfleus i rai fydd yn dyfod na'r Great Western, troisom i Tourist Arrangements y London and North Western Hail/way i weled y prisoedd o wahanol leoedd o'r Gogledd i Lanelli. Rhoddir Two Months Tourist Tickets i SWANSEA o Gaernarfon am 23s 6c; o Bangor, 23s; o Chester, 21s; o Liverpool a Birkenhead, 23s; o Lundain, 31s 6c; o Shrewsbury, 15s 6c; o Manchester, 25s; o Holyhead, 24s; o Welshpool, 17s. Mae rhyddid i ddisgyn wrth fyned a dychwelyd yn Ffynonau Llaudrindod, Llanfairmuallt, a Llan- wrtyd, a bydd hyny yn hollol gyfleus, gan fod y tren yn rbedeg drwyddynt. Yn lie myned yn y blaen i Abertawy, disgyned pobl yr Undeb fyddo yn teithio o'r Gogledd yn Junction Pontardulais, saith milldir o Lanelli. Ceir tren i Lanelli oddiyno. Bydd yn ofynol i'r teithwyr fyddo yn dyfod i fewn i Pontardulais gyda'r tren tri y prydnavon holi a fydd tren Llanelli wedi gadael cyn iddynt gyrhaedd, canys mae yn chwareu eastiau felly yn ami. Os ceir ei fod, cynghorwn iddynt fyned yn y blaen i Gower Road gyda'r un tocyn, disgyn yno, a holi am linell y Great Western sydd o fewn ergyd careg, codi tocyn chivecheiniog am Lanelli, a dyfod yn y blaen gyda'r tren sydd yn gadael oddeutu pedwar o'r gloch yna gallant yn mhen oddeutu haner awr fod wrth y bwrdd te yn Ysgoldy y Tabernacl. Os yn rhy flinedig neu stiff i gerdded o'r orsaf, cant tramcar wrth yr orsaf i'w cymeryd i'r Greenfields, ger Haw y. Tabernacl, neu 'bus i'w cario bob cam at yr Ysgoldy. Ceiniog yw pris y tramcar. Mae genym gyflawnder o letyau wedi eu parotoi, a'r nifer luosocaf yn hollol gyfleus. xmdrechwn drefnu i wneyd pawb yn gysurus. Mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneyd ar gyfer yr Undeb. Khed. dysgwyliadau y bobl yn uchel. Gobeithio y deuwch, frodyr, gyda chyflawnder bendith i'n plith.—Yr eiddoch, &c., JBEEMUH WILLIAMS,") -F „ DAVID WILLIAMS, I Y sgnfenyddion THOMAS JOHNS, ) HLEOL

I PRIORDY, CAERFYRDDIN.

LLANELLI.

Advertising