Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Gorphenaf 12fed. MAE CYFARFODYDD YR UNDEB yn ymyl, ac, fel y deallaf, y mae cyfeillion gweithgar Llanelli yn brysur yn gwneyd eu trefniadau. Hwyrfrydig, fel arfer, y mae y brodyr wedi bod i anfon hysbysrwydd o'u dyfodiad, ond ar yr awr olaf y mae yr enwau yn dylifo i mewn, er fod rhai eto y mae dysgwyliad am danynt heb anfon. Rhydd pobl garedig Llanelli yn ddiau wythnos arall o ras i'r brodyr hyn sydd ar ol. Dysgwylid i'r cynulliadau eleni fod yn llu- osocach o gryn lawer nag y bu o gwbl, ac yn ol yr argoelion presenol bydd felly. Nid oes un man yn Ngbymru lie y gwelir Anni- byniaeth i fwy o fantais ac y mae yno i'r Undeb roesaw calon, a goreu oil ganddynt pa fwyaf a ddaw. Mae rhaglen y cyfar- fodydd yn bob peth a ellid ddymuno, ac y mae amryw bethau o ddyddordeb a phwys- igrwydd yn lied sicr o droi i fyny nas gall- esid eu rhagdrefnu. Dau beth pwysig yn ngtyn a'r cyfarfodydd hyn ydyw, i bawb sydd yn bwriadu bod ynddynt i anfon yn brydlawn, ac i bawb wedi yr anfonant eu bodyndyfodbeidio siomi y rbai sydd yn dysgwyl am danynt i'w lletya, oddigerth fod rhyw rwystr anocheladwy ar y ffordd. Da genyf weled fod cyfeillion sobrwydd yn Meirionydd yn gweithio mor egniol. Mae symudiad ganddynt ar droed yn awr i anfon DEISEBAU AT YR YNADON, yn gofyn iddynt atal eu Haw gyda golwg ar ganiatau trwyddedau. Mae dyfarniadau uchel-lysoedd y deyrnas wedi dangos fod awdurdod gan yr ynadon i wrthod trwydd- edau os mynant, ac felly i leihau nifer taf- arnau mewn gwlad, ac os barnant yn oreu eu cau i fyny oil. Ffurfir pwyllgorau lleol yn mhob ardal drwy y sir, ac ymddiriedir i'r pwyllgorau hyny ofalu am y deisebau a'u hanfon. Gresyn na byddai pwyllgor dirwestol cryf yn mhob sir i ofalu am fater- ion o'r fath, a rhyw fath o gysylltiad rhwng yr holl bwyllgorau hyny, fel y byddai Ilais unol Cymru i'w glywed, fel y mae Ilais Ysgotland. Ni theimlais erioed fwy o angen rhywbeth o'r fath nag yn y Congress diweddar yn Liverpool. Ni wnaed yno gy- maint a chydnabod bodolaeth Cymru o gwbl, ac yr wyf yn meddwl fod genym hawl i gael ein gwrando. Llawen ydwyf fod Meirionydd yn symud yn y mater, a da fyddai i holl siroedd Cymru wneyd yr un peth oblegid dyweder a fyner, dyma fell- dith fawr ein gwlad, a pha beth bynag arall a woeir tra yr erys hwn, bydd yr iau drymaf ar ein gwarau. Yr oeddwn wedi meddwl crybwyll bythef- nos yn ol am farwolaeth fy hen gyfaill MR RICHARD LLOYD, DREFNEWYDD, ond diangodd fy sylw ar y pryd. Cefais air am farwolaeth Mrs Powell ac am farwolaeth Mr Lloyd agos yr un pryd. Gwraig rin- weddol yn llawn ystyr y gair oedd Mrs Powell, a drwg iawn genyf am brofedigaeth chwerw y Parch R. Powell, oblegid colli 0 ohono briod ei ieuenctyd. Ond at Mr Richard Lloyd yr oeddwn yn meddwl cyf- eirio yn arbenig. Cafodd fyw i'r oedran teg o 80, ac yr oedd yn un o'r dynion mwyaf caredig a pharod ei gymwynas. Nid oedd neb yn fwy adnabyddus i'r hen do oedd ddeugain a haner can' mlynedd yn ol. Lletyodd ganoedd o bregethwyr yn ei dy, a hebryngodd hwy o fan i fan; ac yr oedd ganddo gofion cynes am yr hen fyfyrwyr fu yn y Drefnewydd, fel yr oedd ganddynt hwythau am dano yntau. Nid oedd beb ei golliadau, ond ni bu erioed ei ffyddlonach i'r achos, na'i barotach i gyfranu at bob symudiad. Teithiodd am flynyddoedd i Ceri, ac yr oedd yr achos yno a'r achos yn y Drefnewydd yn agos at ei galon. Yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn ddirestwr selog, a chwith i lawer heblaw myfi fydd gweled y Drefnewydd hebddo. Cefais trwy law y Parch R. Thomas, Glandwr, Reolau CYMDEITHAS DDARBODOL Y GWEINIDOGION, y rhai y cytunwyd arnynt gan yr is-bwyllgor a enwyd i'w darparu, a'r rhai a gyflwynir eto yn fuan i gyfarfod o'r rhai sydd yn bwr- iadu ymuno yn gymdeithas. Nid oes achos i mi ddyweyd fy mod yn mawr gymeradwyo yr amcan. Yr wyf o bryd i bryd wedi ys- grifenu cryn lawer ar y mater, ac y mae yn dda genyf gael ar ddeall na bu yr hyn a ysgrifenais yn gwbl ofer. Gwn am gryn nifer o weinidogion sydd ar ol hyny wedi yswirio eu bywydau er gwneyd darpariaeth i'w teuluoedd ar eu hoi; ac y mae amryw o'r cyfryw wedi diolch i mi am alw eu sylw at y mater. Os yn bosibl, gwell i wein- idogion ddarparu ar eu cyfer eu hunain, er nad wyf yn meddwl fod dim yn ddiraddiol mewn derbyn cynorthwy o drysoriau wedi eu darparu gan ereill; ond hyd y gellir, gwell yw i bob un ddarparu ar ei gyfer ei hun. Mae genyf fi gred mawr mewn cym- deithasau yswiriol, ac nid wyf yn meddwl fod unrhyw ffordd arall o ddarparu mor ddyogel, ac yn y pen draw mor rhad, ac yn enwedig nis gwn am un ffordd gystal i un i wneyd darpariaeth i'w deulu ar ei ol. Ond y mae y rheolau dan sylw yn darparu yn benaf ar gyfer cvstudd a henaint, acy maent wedi eu tynu allan i fesur mawr ar gynllun cymdeithas i'r un perwyl sydd gan y Bed- yddwyr, a'r hon er's blynyddoedd sydd yn gweithio yn rhagorol, fel y deallaf. Nis gallaf yma roddi barn ar y rheolau o un i un; ond cyn belled ag y gallaf weled y maent yn ddigon dyogel, gan nad ydynt yn addaw talu allan ond yn ol yr arian a fyddo mewn llaw ac am bum' mlynedd nid yw yn talu dim allan, a hyd yn nod ar derfyn y pum' mlynedd nid yw yn talu allan ond tair rhan o bedair o'r tanysgrifiadau, a'r Hog, a'r rhoddion gwirfoddol a dderbynir. Mae gan y Bedyddwyr eisoes yn agos i £1,500 mewn llaw a buaswn yn awgrymu i'r cyfeillion sydd yn cynllunio yn nglyn a'r gymdeithas hon, na byddo iddynt dalu allan fwy na thair rhan o bedair o'r arian a dderbynir yn flynyddol, beth bynag fyddo nifer yr aelodau, nes y byddo y reserved fund yn £2,000, o leiaf. "Diau y ceir ychydig nifer o aelodau anrhvdeddus, y rbai na ddysgwyliant gael dim o'r drysorfa, a hwyrach y ceir personau cyfoethog a rydd roddion achlysurol. Mae y Bedyddwyr wedi cael amryw o'r cyfryw, ac yn sicr nid yw yr Annibynwyr yn llai haelionus ond cynghorem ein cyfeillion i beidio ymddiried yn hyny, ond cyfrif yn unig ar daliadau yr aelodau, a pha faint bynag arall a ddaw, bydd hyny yn help i chwyddo y drysorfa. Bwriedir derbyn pawb hyd 55 oed ar y decbreu, a dichon y byddai yn anhawdd gwneyd yn amgen ond pEL hynaf fyddo y rhai a dderbynir, cyntafolly deuant arofyn y drysorfa; ac er nad oes perygl iddynt fwyta y drysorfa i fyny, gan mai tair rhan o bedair renir, eto pa luosocaf fyddont lleiaf oil a ddaw i ran pob un. Bydd llwyddiant y gymdeithas yn ymddibynu ar gael nifer dda o weinidogion ieuainc i ymuno a hi, a cbael swyddogion iddi a gymer ddyddordeb mawr ynddi. Mae un peth yn sicr, y mae y cyf- eillion sydd yn nglyn a'r gwaith yn symud yn mlaen yn bwyllog a gochelgar, gan fynu sicrwydd wrth fyned yn mlaen eu bod yn sengu ar dir dyogel, ac nid oes unrbyw berygl o gwbl yn yr anturiaeth. Wedi ymgynghoriad pellach uwchben y rbeolau, dichon y bydd gan rai ryw welliadau i'w hawgrymu ond nid wyf yn gweled fod dim i'w ofni tra y gofelir o hyd fod y taliadau yn Ilai na'r derbyniadau ond os bydd y nifer rhwng y rbai y rhenir yr byn a delir allan yn lluosog iawn, dichon y temtir ambell un i ofyn, Beth yw hyny rhwng cynifer ? LLADMERYDD.

ATHROFA FFRWDYAL All HANESION.