Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AR YR ADEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR YR ADEN. GAN Y PARCH. A. S. PHILLIPS, CHURCH HILL, OHIO. Wedi canu yn iach i'r brodyr yn Attica, cychwynais ar fy nhaith am Utica, gyda'r N. Y. Central-pellder o tua chant a thri- ugain o filltiroedd. Mae yrheilffordd hon yn rhedeg o Albany i Buffalo. Mae ped- air ffordd arni o Albany i Rochester, a. dwy oddiyno i Buffalo. Maent yn darparu ac yn arloesi (grade) i gael pedair ffordd ar- ni o Albany i Buffalo. Mae trafnidiaetli anferth yn cael ei wneyd arni, ac y mae yn un o'r rheilffyrdd rhataf yn y wlad i deith- io arni, sef yn ol dwy sent y fllltir; a'r tip- yn rheilifordd ddrutaf yn y wlad hon, yr wyf yn meddwl, yw yr Utica and B. R. R. sydd yn rhedeg o Utica i Clayton a Water- town, ar yr hon y codir tua phedair sent y filltir. Cyrhaeddais Utica mewn pryd i gael rhan o Gymanfa y Cynulleidfaclwyr, a da oedd bod yno i weled y fath gynulleidfa- oedd mawrion a pharchus o Gymry mewn capel hardd, a chlywed y fata bregethu rhagorol yn yr hen iatth anwyl. Nid oedd y canu gystal ag yr oeddwn yn disgwyl ei glywed mewn dinas mor enwog am gan- torion ag Utica; a phrofai i mi nad yw aelodau eglwysi New York, yn fwy nag aelodau eglwysi Ohio, yn cymeryd digon o ddyddordeb mewn canu cynulleidfaol. Dy- munol fyddai cael diwygiad yn hyn drwy yr holl eglwysi. Aethum o Utica i Rem- sen, pellder o tuag ugain milltir. Nid oeddwn yn adnabod neb yno, ond yr oedd- wn yn gobeithio cael gweled a mwynhau cymdeithas y brawd anwyl, Parch. Morris Williams; eithr yn hyn fe'm siomwyd, gan ei fod wedi myned i Vermont. Gwelais a chlywais ef yn pregethu yn rhagorol mewn Cymanfayn Minersville, Pa., tua dwy flyn- edd ar hugain yn ol, a buasai yn dda genyf ei weled a'i glywed yn cyhoeddi y genad- wri eto, oblegid y mae efe yn bregethwr o'r iawn ryw. Treuliais un Sabboth gyda y brodyr yn Remsen a Boardwell. Cyfar- fyddais yno am y tro cyntaf a'r brawd an- wyl y Parch. 0. F. Parry, Boardwell, a chefais ef a'i deulu yn serchus a charedig. Dychwelais o Remsen i dreulio Sabboth yn Utica, a phregetbais yn nghapel Broad- way, yn lie y brawd James. Mae Utica yn ddinas hardd iawn, ac yn llawn bywyd masnachol. Saif ar lan afon y Mohawk, ar lanerch prydferth a manteisiol iawn am fasnach. Mae pedair o reilffyrdd yn rhed- eg iddi, sef y New York Central, y Dela- ware a Lackawanna, Utica a Black River R. R., a'r Midland R. R. Mae camlesi yr Erie a'r Chenango yn rhedeg drwy ei cliaa- ol, a'r afon a'i dyfroedd grisialaidd yn doi- enu heibio iddi a'i dyfrhau. Dyma brif ddinas y wlad am deilwriaid. Galiwu feddwl fod yno ddigon o honynt i wneyd dillad Fr holl drigolion o Maine i Florida. Maent yn gwirio yr hen ddiareb, "Adar o'r un lliw a hedant i'r un lie." Mae yma tua thair ar ddeg ar hugain o filoedd o drigol- ion, yn cynwys rhai miloedd o Gymry. Da oedd genyf weled fod y Cymry yn eifen mor bwysig yn y ddinas, yn grefyddol, moesol a gwleidyddol; a gobeithio yr ant rhagddynt ac y dringant yn uwch mewn dylanwad a pharch. Bum yn swyddfa y DIWCH. Mae yn y man mwyaf prydferth, a'r safle fasnachol oreu yn y ddinas. Mae Mr. Griffiths, y perchenog a'r cyhoeddwr, yn foneddwr serchog a charedig iawn; a'r golygyddion yn foneddwyr trwyadl. Wedi gweled y fath adeilad hardd, a'r fath beirianwaith ardderchog yn y swyddfa hon, nid oeddwn yn rhyfeddu fod y fath bapyr hardd a glanwedd yn dyfod bob wythnos o Utica, oblegid mae yr holl beirianwaith o'r cy- sodwr lleiaf i fyny i sanctum y golygydd- ion fel "olwyn mewn olwyn." Mae y per- chenog yn deall ei fusues ir dim, fel ar- graffydd a chyhoeddwr, a'r ddau olygydd yn right men in the right place, a gobeithio y ca/nt hir oes a llwyddiant i ddwyn allan newyddiadur fydd yn lies a dyrchafiad i ni fel cenedl, ac y rhydd y Cymry drwy y wlad bob cefnogaeth iddynt, drwy danys- grifio am y DRYCR, a thalu yn brydlawn amdano, oblegid y mae traul a llafur mawr i ddwyn allan y fath bapyr yn wythnosol. Gwnaf fy ngoreu i gael derbynwyr newydd- ion id do, a chasglu yr hen ddyledion sydd yn ddyledus am dano. Yn Swyddfa y DRYCH gwelais fy hen gyfaill gynt o Youngstown, Ohio, R. T. Daniels, yn brysur barotoi y Gyfaill, i {yn- ed i weled ei gyfeillion. Da oedd genyf ei weled, ac ysgwyd Haw ag ef. Yma hefyd am y tro cyntaf ycefais y fraint o weled y brawd anwyl o Whitestown, y Parch. H. 0. Rowlands; ond gobeithio mai nidy tro olaf. Mae y brawd Rowlands yn barchus iawn gan Gymry a Saeson. Yr Arglwydd 'a fendithio ei wetnidogaeth er dychwelyd llawer o bechaduriaid. » I »

RHYFEDDODAU Y WYBREN.