Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
',m m- l'vV}.J.s. I
,m m- l'vV}.J.s. •• sisnf"* Raff f frail."—i frefn vr ynfyc!
CO SI CEFNA U EU OIL YDD.
CO SI CEFNA U EU OIL YDD. Nid ydyw Mr. Pwns yn cwyno dim o herwydd fod plant yr ysgolion yn ymffrost- io ac yn dangos eu hunain, ar ol iddynt ddysgu ac adrodd eu gwersi yn dda, gan ddysgwyl i bawb eu canmol; ond y mae wedi synu llawer fod doctoriaid addfed mewn gwybodaeth a doethineb, yn dweyd drwy eu hesiamplau: Can di benill mwyn i'th nain, Fe gan dy nain i tithau." Nid yn ami y gwelwyd engraifft amlyc- ach o wendid gwageddol, ac ysfa am gan- moliaeth a hunanfoliant nag a geir yn hanes Cymanfa Norwich gan Dr. Gwesyn yn y Wasg. Yr oedd Mr. Pwns wedi sylwi fod rhyw beth neillduol yn nglyn a'r Gym- anfa hono, o herwydd fod y Parch. Henry Ward Beecher yn myned yno, canys dyma y tro cyntaf i'r gwr mawr hwnw gydnabod bodolaeth cymanfa a gynelid mewn pentref gwladaidd; ond rhoddir digon o reswm dros ei ymddangosiad yno, drwy ddweyd fod ei fab yn nghyfraith yn gweinidog- aethu yn y lie. Prif nodwedd yr hanes ydyw cyhoeddi y dyrchafiad mawr a gafodd Dr. Jones, Utica, yn y gymanfa; ac os darfu i Dr. Huwco gaboli ychydig arno, ni wnaeth ond cydsynio a chais dirgelaidd y prif d loctor. Mae Mr. Pwns yn barod bob a i user i gydlawenhau o herwydd gwir d lyngdod a haeddiant; ond creda mai nid y person ei hun ddylai fod y cyntaf i weled hyny. Dywedodd y gwr doeth, Canmoled arall tydi, ac nid dy enau dy hun;" estron ac nid dy wefusau dy hunan. Dylai dynion cyhoeddus wran- daw ar y cyngor uchod, a rhoddi heibio y gwaith dirmygus o folianu naill y llall. Dywcdir y "pasiwyd amryw ben- derfyniadau;" ond y cyntaf a'r unig un a gofnodwyd sydd fel y canlyn: Yn nesaf, penodwyd pwyllgor i wneyd ymchwil- iad i ddylanwad tobaco, opium, &c., ar y cyfansodd- iad, a nodwyd Dr. Jones, Utica, Dr. Baker, Onon- dago (gweinidog a meddyg), yn nghyd a'r Parch. G. A. Rochwo.d, i ddarllen papyr, a threfnu pender- fyniadau ar y pwnc yn y cyfarfod blynyddol nesaf." Mae Dr. Jones wedi ymladd llawer yn erbyn tobaco; ac un o'r rhai cyntaf fu yn nod i'w saethau o herwydd yr arferiad hwnw, oedd yr Arlywydd Grant, yr hwn pa fodd bynag sydd eto heb ei argyhoeddi ganddo. Gobeithia Mr. Pwns y bydd i adroddiad y gweinidog a'r meddyg greu chwyldroad yn mhlith y tobaco boxes, y sigars a'r pibelli yn y Ty Gwyn, nes y pen- derfynir eu bwrw allan fel ffiaidd bethau. Ond bydd yr Arlywydd yn debyg o ofyn i'r doctoriaid roddi esboniad iddo ar yr hyn a ganlyn: Yr oedd y cnwd tobaco ychydig yn ol yn 434,209,461 pwys, yn flynyddol; ac wrth roddi treth o 10 cent y pwys arno, cynyrchodd$43,420,946 10 i drysorfa y llywodraeth. Yn awr, os llwydda y doc- toriaid i argyhoeddi y wlad fod defnyddio tobaco yn ddrygioni, yn mha ley cant $43,- 420,946 i wneyd y golled i fyny? Onid mwy buddiol fuasai i'r gymanfa benodi pwyllgor i drefnu moddion i ddiwygio y deugain mil o ddrwg-weithredwyr a gaeth- iwir yn ngharchardai yr Undeb? Mae gwaeth drygioni wrth ein drysau nag arfer tobaco. Dyna ddinas New York gyda deng mil o ddrwg weithredwyr. Onid purion fyddai penodi pwyllgor i fabwys- iadu mesurau i'w diwygio? Hefyd, y mae opium i gael sylw y doctor- iaid; ond dylent gofio fod "gwlady breint- iau mawr" yn masnachu yn y nwydd hwnw, a chyhyd ag y ceir elw oddiwrtho, bydd i'r Llew Prydeinig ei amddiffyn. Ymddenpys i'r pwyllgor anghofio snisin, gelyn y trwynau, er fod ei arfer yn waith ffieiddiach na mygu tobaco. Yn sicr, y mae oes hir iawn yn y byd hwn i hidlwyr gwybed a llyncwyr camelod; ond mae hyny yn talu, yn ddiau. Y peth nesaf oedd: Cyhoeddodd Dr. Taylor, mewn llais clir a hyg- lyw, y byddai y Parch. Henry W. Beecher yn Biarad ar Ddiwygiad Crefyddol yn y prydnawn, a Dr. R. G. Jones, Pastor of the Welsh Church, Utica,' yn pregethu ar ei ol. Dyma hi, meddwn, Cymro i gyn- yg pregethu mewn lie fel hwn, a hyny ar ol y preg- ethwr mwyaf yn y byd." Peth rhyfedd iawn yn ngolwg Mr. Pwns ydyw, nad oesgair o hanes fod neb ond Mr. Beecher a Dr. Jones wedi eu cyhoeddi i bregethu yn y gymanfa; ac mae yr ad- roddiad yn cynwys y chwe' gair canlynol am bregeth Mr. Beecher: Siaradodd Mr. Beecher yn hyawdl ac effbithiol iawn." Mae rhyw beth yn rhagrithiol dros ben yn y geiriau uchod, i'w cymwyso at ddyn o safle y Parch. Henry Ward Beecher; ond gan mai y pregethwyr mwyaf fydd yr olaf o angenrheidrwydd, cawn ddesgrifiad o hono fel y canlyn: "Wedi canu hymn, dyna Gwcsyni fyny, fel pe gwelsech ef mewn Cymanfa Gymreig. Darllenodd ei deetyu-i Cor. v. 7, 8. Dechreuodd bregethu heb son am ddim oedd wedi bod o'i flaen, nac i ddyfod ar ei ol. Cafodd sylw anghyffredin—dybenodd o fewn haner awr. Dichon yr hoffai ambell Gymro wybod barn y Saeson am bregeth Cymro. Mynegaf jr hyn a glywais Dr. Marsh yn ei ddweyd:—' I thank God for that seTmon, it will do us all good.' Dr. Taylor—' Gwyr y brawd yna jr hyn na wyr llawer o honom—y ffordd i ddechreu ei bregeth heb ddim lol, a dybenu pan fyddo wedi cyraeda y diwedd.' Mr. Howard, Chicago—' Yr oeddwn yn mawr hoffi y breg- eth; buassi yu dda iawn genyf pe gallaswn gael lie iddi yn yr Advance? Mr. Scoville, gweinidog Nor- wich—' Yr oedd y Beechers oil wedi mawr hoffi y bregeth, a buont yn ymddiddan yn hir am dani yn y ty.' Ni ychwanegaf, ond dweyd i ugeiniau ddyfod 7D mlaen at y Cymro iddiolch iddo am ei bregeth." Mae Mr. Pwns yn barnu fod yr uchod yn cynwys pwffyddiaeth hynod o isel o ran chwaeth, a thuedda i wneyd mwy lawer o niwed nag o ddaioni i'r gwrthrych a glodforir; ond dichon fod Dr. Gwesyn wedi ei orlenwi a'r fath frwdfrydedd wrth wrando ar Dr. Jones, fel yr anghofiodd ei fod wrth ei ganmol yn bychanu pregeth y Parch. Henry Ward Beecher, oedd newydd eistedd i lawr. Gofynwyd i Wyddel un tro, paham yr oedd bob amser yn brolio ei hun?" "Wel," ebe yntau, "am nad oes neb arall yn barod i wneyd hyny." Mae gwir athrylith yn sicr o ddangos ei hun lie bydd, heb i'r perchenog chwythu ei gorn ei hun, yn ol barn PWNB.
SPLEEN GOHEBWYR.
SPLEEN GOHEBWYR. MR. PWNS.: Ysgrifenai un G. J., o Min- eral Point, Wis., i bapyr Cymreig yn ddi- weddar, yn anog y golygydd i fyned yn mlaen yn rymus yn erbyn "Anffyddiaeth"; ac Si yn mlaen fel hyn: Ai tybed pe gwnawn i gymvsgu arsenic yn awr ac eil- waith yn y blawd, ac i hyny achosi poen ac angau i rai, na byddwn yn gyfrifol am y weithred ysgeler." Yr wyf fi yn barnu y byddech yn gyfrifol; ond gallech gael eich esgusodi trwy gael ychydig ddynion call i dystio nad oeddych yn eich sens; gallech gael amryw ffordd yma, achos y mae rhyw arwyddion yn eich ysgrif fod yna dipin bach o goll. A Mr. J. yn mlaen, a dywed, "Fy marn am danaf fy hun yw, pe gwnawn roddi gwenwyn felly yn y blawd, mai euog o farwolaeth fyddwn." Ie, euog o farwol- aeth a fyddech yn sicr, pe gorfodech ryw- rai i'w lyncu; ond gellwch ddod yn rhydd eto drwy gymeryd dos dda o hono eich hun i ddechreu. A dywedwn inau, a'r wlad a gafodd lonydd," gan un o'r bodau bychain bach, bach, sydd yn ysgrifenu byth a hefyd, yn erbyn gwenwyn newydd- iaduron, ac eto yn ysgrifenu eu hunain y pytiau mwyaf gwenwynig, gan ddifenwi personau llawer mwy parchus na hwy eu hunain. Y mae yn rhyfedd fod rhai gol- ygwyr mor gulion i'w cael i estyn rhyddid i fodach fel hyn i fwrw allan eu spleen drwy eu cyfryngau. Beth yw'r llefau mor aflafar Sydd yn adsain drwy y ddaear? Rhyw anffyddiaeth byth a hefyd Sydd yn blino rhai yn enbyd; Gwaeddi wnant y lleddir crefydd, Gan anffyddiaeth papyr newydd. Gallai'derfydd rhai mympwyon, Sydd yn mhenau dynion ffolion; Ond gwirionedd saif yn gadarn, Fel gorseddfa Duw ei hunan. HEN LANC 0 CAMBRIA.
YR OOHR ARALL VR DDALEN.
YR OOHR ARALL VR DDALEN. Cyflwynedig i Mr. Pwns a'r Hen Lane o Oneida. Os awn i guro ar y wraig, A hithau'n llestr gwan, Beth ddaw o honi druan bach Ond suddo yn y man; A gwelais hefyd rai o'r gwyr Yn anhawdd iawn eu trin, A bendith fawr i'r rhai'n yn siwr Fyddai cael gwragedd blin. A gwelais lawer gwraig do'n wir, Yn eithaf pur ei chalon, A'r gwr yn gene digon cfis Yn byw yn was afradlon; A gwario mae am alcohol Nes bydd ei fol yn chwyddo, A gad ei wraig a'i blant bach lion A rheini bron a starfio. A gwelais wraig i ambell ddyn, Bob un yn gweithio allan, A chymaint gafodd hon o barch Oedd arch 'rol lladd ei hunan; A cha'dd briddfeini round ei harch I ddangos parch i'r marw, A dallu llygaid pobl y byd, 'Doedd hyn i gyd ond twrw. A gwelais hefyd lawer gwr Yn rhincian yn dragywyddol, Ni fedrai'r wraig wneyd dim yn iawn, 'Roedd o mor llawn o ddiafol; Rhy fach o halen sy'n ei fwyd, Creadur llwyd aniddig, A'r wraig raid fod o flaen ei saeth Mae'n waeth na melldigedig. HEN LANC 0 CAMBRIA. BARDDONIAETH GOETH-DDWFN.—A wna y bardd hynafiaethol ac awenydd-bert Mr. T. L. Thomas, Utica, benderfynu dadl ffyrnig sydd rhyngwyf er's tro bellach, ag un o feirdd ieuanc Ohio, o barthed coeth- deruchelryw, awenyddiaeth benigamp, ac awduriaeth y darn ystwythgamp canlynol: "Pwl afangc naddgrangc pawl neddgrys,-presfwng; Prudd penflwng praidd paunflys; Piliwr, adarwr dyrys, Par dengl sengl siop chwerwdrop chwys. Ysbysach gleiriach glora,-egroesgryd Eto y swyddyd yt y gwedda; Di ddawn chwyl anawn chwilena,-baw cwn, A chasglu cacwn uwch osgl cica. Dadleua fy nghyfaill nad oes cynghan- edd na synwyr yn yr uchod, ac nis gallaf oddef i neb o'r hen feirdd gael eu sarhau ganddo, oblegid hen fardd yn unig allasai gyfansoddi mor ddwfn-ddoeth ac ysprydol- edig. Ofnwyf y diwedda ein dadl mewn ffrae yn ol patrwm Cefni ac Ap P. A. Mon. Pwy oedd yr awdwr awenyddol? Pa beth ydyw ystyr yr holl eiriau cyfansawdd? Pa syniadau barddonol sy'n gorwedd o dan y mydrwaith celfydd? Cytuna fy nghyfaill a minau i adael i'ch eglurhad chwi derfynu y ddadl rhyngom. Yr eiddoch, &c., Cattaraugus, N. Y BARDD IEUANC.
Advertising
AR WERTH—TEITL COLEGAWL URDDASOL, sef LI. D. Ni ofynir am dano ond pris rhesymol, er y bydd iddo anfarwoli enw y prynwr, a hyny heb fod eisiau iddo efrydu classics nac athroniaeth yn y prif athrofau, fel:y gwnalrhai er ei sicrhan. Bydd y teitl yn llawer mwy gweddus i bregethwr, neu olyg- ydd, nag i baentiwr fel fi—dyna yr achos fy mod am ymadael ag ef. Am fanylion cyfeirier—T. L. THOMAS, LI. D., Utica, N. Y. DYFNDER GWYBODAETH.- Ymddangos- odd yr hyn a ganlyn yn olygyddol yn yr Herald Cymg-aeg ETHOLIAD ARLYWYDD TR UHOI. DALAETHAU.— Dewlsodd Cynadledd Gwerinwyr Pennsylvania y Cadfridog Hartranft i fod yn ymgeisydd am Arlyw- yddiaeth yr Unol Dalaethau yn yr etholiad nesaf.. Pasiwyd penderfyniadau o glod i'r Arlywydd Grant; ond yn gwrthwynebn ei etholiad i'r swydd am y trydydd tro. Y mae'r Gynadledd yn cyngori lleihad buan y Ddyled Wladol. Mae yn syndod fod unrhyw ddyn oedd yn deall yr A B, yn ngwleidiadaeth Amer- ica, yk euog o'r fath fwnglerwaith a'r uch. od. Pa fodd y gallasai cynadledd Werinol Pennsylvania ddewis ymgeisydd am Arly- wyddiaeth y Talaethau Unedig? Dewisodd ef yn llywodraethwr y Dalaeth, a dyna'r cwbl. Rhaid i'r holl Dalaethau anfon cyn- rychiolwyr i Gynadledd Genedlaethol i ddewis ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth, a hyny tua chanol yr haf nesaf, os na ddaw gorchymyn gwahanol o Swyddfa yr Herald <«——————— Cymraeg.
[No title]
MINNESOTA LAKE, MINN.—Saif y lie hwn yn Faribault Co., tua haner milldir oddiar derfyn Blue Earth Co. Mae yn un o'r lle- oedd harddaf a welais erioed; yn cael ei amgylchu gan braines a llynoedd hynod brydierth. Mae y Minnesota Lake tua thair milldir o hya ac yn agos yr un faint o led, a gellir myned am y rhan fwyaf o'r ffordd o'i amgylch gydag ymyl y dwfr. Mae poblogaeth y rhan hon o'r wlad yn gymysg o Ellmyniaid, Ffrancod, Poland- iaid a chenedloedd eraill. Un nos Sabboth, tra yn aros mewn gwesty, gwelais wyth o bersonau yn dyfod i mewn gyda'u cwn a'u drylliau. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt o Mankato, wedi dyfod i'r parth hwn ar gyfer yr etholiad. Mae y grasshoppers J wedi gwneuthur difrod mawr mewn am- ryw ranau o'r wlad-bron yr oil wedi ei ddifa ganddynt mewn rhai lleoedd, ac ym- ddengys fod swydd-geiswyr fel pe wedi penderfynu cael y gweddill. Y mae yr olygfa a geir wrth fyned trwy y bluffs o Winona i'r prairies yn hynod fawreddog-creigiau uchel ar y naill law a'r dyfnder mawr ar y Ilall; ac y mae yn llawn cynddrwg wedi cyraedd Mankato. Cafwyd tywydd lied dda er's tro hyd yr wythnos olaf yn Hydref, pryd y caed ych- ydig o eira. Mae y ffarmwyr braidd ar ol gyda throi y tir a dyrnu. Caed enydau da iawn y ffordd yma, er nad yw y gwenith o'r radd oreu, o herwydd iddo gael gormod o dywydd gwlyb. Ceir 85c. y bwsiel am yr ail radd. Mae y cnwd pytatws yn dda odiaeth. Gwelais bytaten yn South Bend yn pwyso dau bwys a deg owns, ac un yma yn un pwys a phedair owns ar ddeg. Gellir cael hwyaid gwylltion a phytatws yn lied rad yma.-Leww Lewis.
[No title]
NEWBURGH, O.—Cyfarfod Oroesawol.- Darfu i eglwys Gynulleidfaol Gymreig Newburgh, yn ddiweddar, roddi galwad i'r Parch. J. Jones, diweddar o Racine, Wis., i ddyfod yn weinidog a bugail ar ei phraidd, a lion genym ddweyd ei fod yntau wedi cydsynio, gan ddecbreu ar ei lafur gweinidogaethol y Sabboth cyntaf yn y mis hwn (Tachwedd). Ac ar ei ddyfod- iad ef a'i deulu i'r lie, penderfynodd yr eg- lwys a'r gynulleidfa i gynal cyfarfod croesawol, yr hyn a wnaed mewn dull teilwng a dyddorol nos Sadwrn, Tachwedd 6ed. Cynaliwyd y cyfarfod yn neuadd Mr. M. M. Jones, yr hon sydd yn ei adeilad gorwych ar gongl heolydd Broadway a Hamilton. Dewiswyd Mr. M. M. Jones yn eadeir- ydd y cyfarfod, yr hon swydd a weinydd- odd gyda'r deheurwydd gweddusaf. Treul- iwyd y cyfarfod drwyddo oil mewn an- erchiadau a chanu cyfaddas i'r amgylchiad, oddigerth tua chanol y cyfarfod, pan y gweinyddwyd gan y genethod a'r gwrag- edd ddanteithion ardderchog o flasus a chymwys i'r corff. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn wir ddymunol a bendithfawr. Y neuadd yn llawn o bobl, ac yn amlygu y croesawiad cynesaf i Mr. Jones a'i deulu ar eu dyfodiad i'r lie. Y mae llafurfaes newydd Mr. Jones yn bwysig ac eang; ac hyderwn y caiff fodyn offerynol yn Haw y cyfrwng dwyfol i hau a dyfnhau hadau yr efengyl a chrefydd Mat) Duw yn nghalonau pechaduriaid y lie, fel y bydd ffrwyth ysbrydol a santaidd yn cael ei ddwyn i fyny yn doreithiog ac er gogoniant yr Arglwydd.—D. F. Lewis.
[No title]
MILWAUKEE, W IS.- Damwain Angeuo"t- Fel yr oedd John W. Jones, bricklayer, ar y 30ain o'r mis diweddaf, yn tynu scaffold i lawr ar ol gorphen adeiladu simne, cwymp- odd i lawr drwy dwll yn y t6 i'r dyfnder o 47 troedfedd. Yr oedd yn hollol farw pan gymerwyd ef i fyny, ac yr oedd ei gorff wedi ei falurio yn erchyll. Yr oedd cyfaill o'r enw Thomas Morris yn cydweithio ag ef ar y pryd. Mab ydoedd yr ymadawedig i Hugh Jones, Caerdegog Isaf, Llanfechell, Mon, G. C. Daeth i'r wlad hon- tuag wyth mlynedd yn ol, a threuliodd y rhan fwyaf o'r amser yn Milwaukee. Nid ydoedd ond tua 26ain mlwydd oed. Claddwyd ef y Sabboth canlynol gan yr Odd Fellows, yn Forest Home Cemetry, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Hum. Howell. William Hughes. I
Family Notices
PRIOD WYJD— DAVIES—-TONES—Tachwedd 4. yn nhy Mrs. Davies, mam y priodfab, 170 E. Elm St., Co- lumbus, Ohio, gan y Parch. R. D. Thomas (Iorth- ryn Gwynedd), gweinidog yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig ar Town Street, Mr. Theophilus D. Davies a Miss Mary Ann Jones, y ddau o'r ddinas uchod. ROBERTS—JONES—Tachwedd 2, gan y Parch. W. Machno Jones, Mr. Humphrey J. Roberts a Miss Katie J. Jones, y ddau o Judson, Minn. GRIFFITHS— ROBERTS— Hydref 12, yn Watertown Wis., gan y Parch. Thomas Jones, yn nhy tad y briodasferch, Mr John Griffiths, Ixonia, a Miss Lizzie Roberts, unig ferch John W. Roberts. How blest the sacred tie that binds In union sweet accordant minds; How swift the heavenly course they run, Whose hearts, whose faith, whose hopes are one. Ev Ati S. ROBERTS. THOMAS-OWEN-Hydref 28, yn y Win- chester Hotel, San Francisco, Calif., gan y Parch. John Moses, Mr. Thomas Thomas a Miss Mary Owens, y ddau o Nortonville. Ar lan y Mor Tawelog Gerllaw i'r porthladd aur,* Cyfamod pur, godidog, Wnaeth Thomas gyda Mair; Fel tonau'r aig ar lanw Eu llwyddiant elo'n fawr, A gwenau'r lor wrth farw Fel haul ar doriad gwawr. Golden Gate. BU FARW— JONEs-Hydref 23, yn 8 mis a 14 diwr- nod oed, David, mab Mr. Charles D. Jones a'i briod, Audenried, Pa. JONEs-Medi 29, yn Oshkosh, Wis., merch fechan i Mr. William Jones a'i briod. Yr oedd y ferch fach yn wyres I'r hen batriarch D. Charles. Claddwyd hi yn rnynwent Bethesda, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Thos. Foulkes a B. J. Evans. THOMAS—Hydref 16, yn Cwmrhondda, Deheudir Cymru, Mrs. Jane Thomas, yn 23 mlwydd a 3 mis oed. Gwraig ydoedd i Mr. John L. Thomas, o Aberdar, a merch i William a Mary Roberts, Brookfield, Ohio. Unwyd hwy mewn priodas yma yn Sharon tua pum mlynedd a haner yn ol, ac ym- fudasant tua blwyddyn i fis Mai diweddaf yn ol i Gymru. Gadawodd briod a thri o blant bach ar ei hol. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr. 0 merch, fy merch addfwyn gostyngedig oeddit, parod i wneyd daioni i bawb-gwen a sirioldeb oedd ar dy wyneb yn wasted. Gofalaist lawer am dy fam, a rhoddaist lawer cyngor i'th dad a'th frod- yr. Yr oedd dy dynerweh fel y man wlaw ar hir- ddydd haf. Buost ddiwyd iawn yn dy dymor byr, a chipiwyd di ymaith yn dy flodau. Cuddiwyd dy wyneb oddiwrthym, fel mae ein tai yn dai galar yn Nghymru ac America. Ei THAD GALARUB. DAVIEs-Mehetln 3, yn 25 mlwydd oed, Mr. John Davies, Western, swydd Oneida, N. Y., gan adael gwraig a phedwar o blant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn aeloa parchus gyda'r A. er's amryw flyn- yddoedd, ac yn ddyn a berchid gan bob tenlu yn yr ardal. Genedigol oedd o sir Feirionydd, a daeth yma tua deng mlynedd yn ol. Claddwyd ef yn barchus yn Westernville. pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John H. Jones, Rome. ST. CLAIR, PA.-Penderfyniadau a bas- iwyd gan Gwenynen, Rhif. 1, o Urdd y Gwir Iforiaid, ar farwolaeth Rowland Jones:- Gan fod ein hanwyl frawd Rowland Jones wedi ein rhagflaenu o rau ei gorff i'r bedd, ty rhagderfyn- edig i bob dyn, a'i ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes; Penderfynwyd- 1. Ein bod wedi colli brawd fiyddlon a charedig, a theimlwn hiraeth dwys ar ei ol; a bod colli ein brawd mor sydvn o'n plith yn golled i'r Gyfrinfa, ac yn neillduol i'w anwyl wfai", yr hon sydd wedi cael ei gadael. ar ol yn myd y galarnadan i alaru ei cholled wrth ei golli. 2. Ein bod yn cydymdeimlo yn ddwys a'r weddw. ac yn dymuno yn ostyngedig ei chyflwyno i ofal tadol yr Hwn sydd yn gofalu am bawb <5'i greadur- iaid yn ei raglumaeth ddoeth. 3. Ein boa i wisgo ein breinlen ag arwyddion gal- ar, ac i aros felly am 30ain o ddyddiau. 4. Fod adysgrif o'r penderfyniadau hyn i'w rhoddi i'r weddw, yn arwydd o'n parch at ein hanwyl frawd ymadawedig, ac o'n cydymdeimlad a hithau yn ei galar. 5. Fod yr uchod i'w cyhoeddi yn y DRYCH a'r Faner. THOMAS B. LEWIS, ) LEWIS EVANS, >• Pwyllgor. SEM RICHARDS, )
Advertising
YMOFYNIAD AM REES EVANS, Gelli, Palleg, Ystradgyn- Jais, Cymru. A ddaeth o Australia i Cali fornia tua chwe' blynedd yn ol. Clywid oddiwrtho wedi hyny o Gold Hill, Story Co., State of Nevada. Os gwyr neb ei hanes, b'le y mae, yn fyw, neu wedi marw, a bod mor fwyn a charedig a rhoddi gwybodaeth i'w dad a'i chwiorydd, i ofal Wm. Powell, Yuba City, Sutter Co., Cali- fornia, neu i swyddfa y DRYCH, Utica,— bydd ei berthynasau yn barod i roddi mil o ddiolchgarwch am y cymwynasgarwch. 45-47 RICHARD RICHARDS.-Daeth i'r wlad hon o Ceirchiog, Sir Fon, G. C., yn y flwyddyn 1857. Bu am beth amser yn Col- umbus, Wis., ac wedi hyny ymunodd a'r fyddin yn Davenport, Iowa. Y mae tua 36 ml. oed-o faint cyffredin-pryd goleu. Bu yn Milwaukee yn yr ysgol-aeth oddi- yno i Chicago, ac oddiyno i Iowa, ac ni chlywyd fawr o'i hanes byth wed'yn. Y. mae ei dad, Richard Pritchard, yn yr Hen Wlad mewn pryder yn ei gylch. Y mae swm o arian yn dyfod iddo oddiwrth ei dad, os gellir dyfod o hyd iddo. Os gwel ef ei hun, neu ryw un a wyr ryw beth am dano y llinellau hyn, bydd ei ewythr yn ddiolchgar am air o'i hanes. (jyfeirier- Wm. M. Pritchard, Columbus, Wis. 45-47 Ooreu athraw, /1 Goreu tarian, y rag wis." cyfiawnder." EISTEDDFOD DEHEUBARTH OHIO. Bydded hysbys y cynelir yr Eisteddfod uchod yn CINCINNATI, HYDREF 16, 1876, Pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y tes- tynau canlynol:— TBAETHODAU. Gwobr. 1. Y moddion goreu i eicrhau Cyfanrwydd a Defnyddioldeb CenedJl y Cymry yn Amer- ica I. 00 BARDDONIAETH. 1. Pryddest, heb fod dan 300 o linellau, ar Daniel" 26 00 DATGANIAETH. 1. I'r Cor, heb fod dan 50 o rifedi, a cano yn oreu Rise Up, Arise," o Mendelssohn's Oratorio of St. Paul, Novello's Edition. (I'w gael gan J. L. Peters & Co., New York) 200 00 Daw y gweddill o'r testynau, y telerau, enwau y beirniaid, &c., &c., allan yn fuan. Dros y Pwyllgor, J. M. HUGHES, Ysg., 46-47 314 Clark Street. TO LET— LOWER PART OF HOUSE, NO. 39 COOPER ST., UTICA, Enquire on the premises. OOR Y PLANT Mae'n hir fryd cyf ar fod yn nghydgor y plant. Yr ail argraffiad, wedi ei ychwanegu a'i ddiwygio; sef Hymnau a Thonau gwreiddiol a detho edig, at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol a'r Band of Hope, gan y Pencerdd, W. AUBREY POWELL. PRIS 50 CENTS Y COPI, NEU 85 35 Y DWSIN. Y mae yn cynwys 96 o dudalenau, wedi ei rwymo yn hardd. Anfonir specimen copy yn ddidraul trwy y post ar dderbyniad y pris. Address J. W. TAYLOR, 15 Vandewater St., New York. Nen at yr Awdwr, W. AUBRET POWELL, 42-50 Scranton, Pa. SEFYDLWYD 1871. Japan Tea Warehouse, 410 EAST 17TH ST., NEW YORK. G. T. MATHEWS, PERCHENOG. Goruchwylwyr yn eisian i werthu Te a Clioffi i deuluoedd yn y wlad. Telerau rhagorol yn cael eu cynyg i bersonau gweithgar gyda'r fasnach. GYMRY, PRYNWCH GAN GYMRO, Yr hwn sydd yn cadw y Te a'r Coffi goreu yn y farch nad. Ysgrifener am fanylion i'r cyfeiriad uchod. 39-1'76 WilllTf 111!, COR. PACIFIC AND KEARNY STS., SAN FRANCISCO, CALIF. O. F. BECKER, PROPRIETOR. The Prescot House is a second class Hotel, but as good as any first class hotel in the city. Containing 110 fine commodious roomB. Everything ne% Quietest house in San Francisco. Has a fine coach running to and from all the Boats and Railroad De- pots free of charge. A favorite stopping place for respectable Welsh visitors. ESMWYTH, PEYDFERTH A P RARE A OL. Foneddigesau Os ydych yn chwenych esgid DDESTLUS a chref, wedi ei gwneuthur yn ol egwyddorion synwyr cy- ffredin, ac yn ffitio y troed yn berffaith, gofyn- wch am HOLBROOK & LUDLOW'S SUPERIOR GRADE. Maent yn berffaith o ran ffurf a gwneuthuriad. ARNOLD & GRIFFITHS, 194 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. [GARDNER BLOCK.] Yw eu Goruchwylwyr yn Utica. Mae ganddynt am- rywiaeth mawr o bob mathau o esgidiau a botasau. Byddwch yn siwr o alw. 43 ARNOLD & GRIFFITHS. MILLER & PURVIS, 131 GENESE-w. ST., UTICA, N. Y. (EQCHANGE BUILDINGS.) Mae y Llyfr-rwymfa rad uchod uwchben Swyddfa y DRYCH, He y rhwymir pob math o lyfrau, yn yr am- ser byraf, yn y dull goreu, ac am y prisiau rhataf. Anfoned pawb o r wlad y Uyfrau a gymerant yn 'rhanau, cylchgronau misol, &c., i ofal Swyddfa y DRYCH, a chant eu rhwymo yn ddioed yn ol y cyfar- wyddiadau. Gellir anfon sypynau am ychydig gyda'r Railroads. 42'74tf RISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COUNSELLORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESON. AR WERTH. MEUIN FLAWD, Gyda 13 o erwau o dir yn ei chanlyn, yn mhentref bychan Fall River, Wis. Y mae yno ddigonedd o ddwfr a phob peth yn gyfleus. Gwiad dda oddiam- gylch, a chyflawnder o waith bob amser. Am fanyl- ion pellach, ymofyner yn ddioed a DR. W. R. HUGHES, 43-45 Columbus, Wis. ttwesty Cymreig l Y "Stars and Stripes," JOHN L. LEWIS, Perchenog, 109 FRANKLIN Å VR, SCRANTON, PA. Mae Mr. Lewis yn Gymro parchus o Ddeheudir Cymru, ac wedi agor Gwesty Cymreig yn y Rhif. uchod, yr hwn sydd o fewn CAN' LLATH i Orsaf y Del. Lack. & Western R. R. Bwriada gadw ty re- spectable, 11H y ceir pob ymgeledd angenrheidiol ar deithwyr, mewn dull gwir Gymroaidd a lletygar, am y prisiau mwyaf rhesymol yn y ddinas. Ni raid i'r mwyaf moesol a rhinweddol betruso dim am gymer- iad y Ty. Cofied y Cymry ar daith, gefnogi 25, ly MR. A MRS. LEWIS. PRICE, TWENTY-FIVE CENTS. BEWSPAfER ADVERTISING. NINETY-NINTH EDITION. Containing a complete list of all the towns in the United States, the Territories and the Dominion of Canada, having a population greater than 5,000 ac- cording to the last census, together with the names of the newspapers having the largest local circula- tion in each of the places named. Also, a catalogue of newspapers which are recommended to advertis- ers as giving greatest value in proportion to prices charged. Also, all newspapers in the United States and Canada printing over 5,000 copies each issue. Also, all the Religious, Agricultural, Scientific and Mechanical, Medical, Masonic, Juvenile, Education- al, Commercial, Insurance, Real Estate, Law, Sport- ing, Musical, Fashion, and other special class jour- nals; very complete lists. Together with a complete list of over 300 German papers printed in the United States. Also, an essay upon advertising; many ta- bles of rates, showing the cost of advertising in va- rious newspapers, and everything which a beginner in advertising would like to know. Address GEO. P. ROWELL & CO., 37 41 Park Row, New York. OARN ARYON CASTLE. NO. 50 LIBERTY ST., UTICA. EVAN EVANS, PERCHENOG. Ceir yn y Gwesty Cymreig uchod y diodydd goreu, ac ymborth a llety am y prisiau isaf. 43'74 YPH(ENIX MUTUAL LIFE INS. CO.—Dengys pedwaredd adroddiad ar hugain blynyddol y Cwmni hwn, yr hwn sydd newydd ei gyhoeddi, fod ol-eiddo (assets) y Cwmni wedi cynyddu yn ystod 1874 o |9,074,864.31 i $10 105,613.84, cynydd o M,030,- 762.50; a'r gweddill o $875,000 i $1,127,400.84, cynydd o $252,400.84. Yr oedd y derbyniadau yn $3,376,- 354.97, a'r llogranau (dividends) yn$929,970.43, yr hyn a ddengys ein bod wedi dychweJyd i'n policy- holders 27^ y cant on derbyniadau am 1874 mewn llogranau. Dywed yr Hartford Times am Mawrth 6ed: Gallwn ddyweyd yn ddibetrus fod hwn yn swm mwy y cant o logranau nag a wnaed gan un- rhyw Gwmni Bywyd Xswiriol arall yn y wladar boli- des o'r un oed a premium." Wrth gymeryd i mewn golledion a gwaddoliadau oeddynt wedi cyraedd aeddfedrwydd, yr ydym wedi dychwelyd i'n policy' holders dros 54 y cant o'n derbyniadau am 1874. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, ar gyfartaledd, mae y Phcenix wedi dychwelyd i'w pholicy-holdert bob blwyddyn dros 55 y cant o'i holl dderbyniadau, yr hyn sydd yn gofnodiad heb ei ail. Mae ei thelerau ya isel a"i pholicies yn haelfrydig, ac mae yn un o'r cwmniau cryfaf a mwyaf poblogaidd yn y wlad. L. T. SYMONDS, Goruch. Cyff. 36 165 Genesee St., Utica, N. Y. HUGH R. JONES. BENJ. A. JONES. C1HBBIA1 HOUSE. RHIF. 408 BROADWAY, SAN FRANCISCO, CALIF. JONES BROTHERS, PROPRIETORS. Single Rooms, per week From$2 00 to$3 00 Lodgings, per night • 50 cents Board with Lodgings, per week,$5 00 to 86 00 Board, per day .I.I. sloo ROOMS WITH OR WITHOUT BOARD. SSST" This House has been renttedtwithnew Spring Beds and Mattresses, which makes it ONE or THE BEST LODGING HOUSES IN THE CITY. 44'74t