Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

LLEN Y WERIN YN SIR GAERBABPON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLEN Y WERIN YN SIR GAERBABPON. TESTYN EISTEDDFOD GENEDLAETH- OL CAERNARFON, 1880. GAN EVAN LLOYD JONES, DISOBWIG. PENNOD IV.-TRYSORAU CUDDIEDIG. Y mae traddojiad yn gystal ahanesiaeth yn sicrhau fod ymladdau ffyrnig wedi cy- meryd lie rhwng y Cymry a'r GwyddeloJ, yn neillduol felly yn y cymydogiethau ag- osaf i'r Fenai, ac y mae olion, ac enwau lleoedd yn cael eu harfer by 1 heddyw yn y manauhyay, yn brawf eglur i'i Gwyddel- od fod yn trigianu yno; ond wedi ami frwydr rhyngddynt, gorfu iddynt o'r di- wedd ffoi o fUen y Cymry: a dywed tra- ddodiad, ddarfoJ iddynt wrth ffoi, guddio eu trysorau yn y mynydioedd o amgylcb; ac y mae yn dra thebygol ddarfol i'r Oym- ry hefyd, pan yn ffoi o flaen eu gwahanol elynion wneyd yr un peth, fel nas gellir ameu nad oes rhyw faint o liw wedi ei gymwyso at y chwedlau canlynol, oblegid barn y werin yw, fod yn "rhaid cael lliw cyn llifo." Traddodiad a ddywed ddarfod i ddau frawd-bugeiliaid defaid, fyned o Giltwll- an, plwyf Llanllechid, i fyny i'r Benglog, i edrych am eu defaid, ac yno mewn He anghy shell, canfu yr ieuengaf dwll yn ar* wain i ogof ardderchog, yn nghanol yr hon yr oedd bwrdd crwn, ac ar y bwrdd ben- tyrau rheolaidd o aur ac arian; ond ni feiddiaityned i fewn i'w cyfchu, gan fod yn sefyll yn eu bymyl, filgU a Mysal 11yd yn tremio arno, ac yn barod l ruthro iddo, os meiddiai fyned i mewn. Ar hyn aeth ) y bachgen yn ol at ei frawd, ac wedi ei oddiweddyd adroddodd yr hyn a welodd, a throdd y ddau yn ol i chwilio am yr ogof; ond er cymaint eu hawydd a'u bymdrech, methasant a'i chael. Dro arall, aeth gwr ieuanc o'r un ardal i geseiliau y mynyddoedd, yn nghymydog- aeth Llyn Ogwen, a darfujiddo yntau gan- fod ogof, ac o'i mewn gyflawnder o lestri pres, o bob ffurf a desgrifiad, ac yn ei law- enydd, neidiodd i gymeryd gafael yn un o'r llestri i'w gymeryd ymaith, ond och yr oedd yn rhy drwm i un dyn allu ei symud; gan hyny, gyda'r bwriad o fyned yno dra- noeth gyda chyfaill i'w gynorthwyo, efe a gauodd enau yr ogof a chsryg a thyweirch; a phan orphenodd, daeth i'w feddwl fod eraill, fel yntau, wedi dod o hyd i ogofau, ond fddarfod iddynt hwy, druain, trwy eu diffyg gofal, eu colli drachefn; a rhag ilr fath anhap ddygwydd iddo yntau hefyd, meddyliodd am roi rbyw fare neu nod ar y fan, er ei gynorthwy i'w chael drachefn, ond bu yn hir yn methu cael dim a'i bodd- lonai ar fater mor bwysig; o'r diwedd, daeth i'w feddwl naddu y ffon oedd yn ei law, a cbymeryd ei rhasglodion yn arwydd- ion'ffordd iddo ddyfod yno dranoeth. Boren dranoeth ddaeth, a chychwynodd ef a'i gyfaill i'r mynydd yn hyderus i geisio y trysorau o'r ogof. Ond gyda eu bod yn y fan yr oedd y llwybr rbasglodiog i ddech- reu, ni welai gymaint ag un rhasglodyn, oblegid, meddir, yr oedd y Tylwyth Teg" weji bod yno yn eu casglu bob un ac felly aeth y weledigaeth hon eto yn ofer. Mae traddodiad yn dweyd mai Gwyddel sydd i gael y trysorau hyn ryw dro, ac fel hyn, meddir, y bydd: Fe ddaw Gwyddel yn fug ail defaid i'r gymydogaeth, ac ar ei waith yn myned i'r mynydd i fugeilio, ar un o'i deithiau, pan welo tynged yn dda, fe red llwdn du, penfrych o'i flaen, ac a red rhag ei flaen i'r ogof, a'r bugail a red i mewn ar ei ol i'w dda], a phan ar ei ddy- fodiad i mewn, er ei fawr syndod, efe a gen- fydd y trysorau ac a'u cymer. Fel hyn, meddir, y dychw ilir eiddo y Gwyddelod iddynt eto mewn rhyw oes. Dywed traddodiad i un Myrddin (Myrdd. in Ddewin, mae'n debyg), yr hwn fu byw yn Ninas Ffaraon, yn Eryri, pan oedd ar ymadael a'r lie, roddi ei holl gyfoeth mewn crochan aur, a'i guddio mewn ogof yn y Dinas, ar enau yr hon y treiglodi efe faen anferth, a gorchuddiodd hwnw drachefn a phridd a thyweirch, fel nad oedd modd dod o hyd iddi. Yr oedd y cyfoeth hwn, meddir, i fod yn eiddo i ryw un mewn oes ddyfodol, a dywedir mai llanc penfelyn fydd yr etifedd, yr hwn ar ddamwain a ddaw i'r Ddinas, pryd y clyw gloch yn canu, a thra bydd yntau yn dynesu at y fan y tvbia y bydd y swn yn dyfod o hono, fe egyr drws yr ogof o hemo ei hun, yn ei ymyl, ac a yntau i fewn iddi, a chymer y chymer y trysorau. Mae lluaws o chwe llau rhyfeddol yn mysg y werin, am rai a fu yn chwilio am y trysorau hyn: Cychwynodd un o'r ym- chwilwyr unwaith i ben y Diuas, gyda'i gaib a'i raw, gan benderfyou y mynai gael gafael ar y trysorau cyn y deuai yn ol. Wedi cyraedd y man y tybiai yr oeddynt, dechreuai geibio, a cheibio a chwalu am oriau, o'r diwedd daeth at gareg wastad- lefn; a phan ddechreuodd guro ar hono, clywai ryw swn annaearol dan ei draed, a decbreuodd y ddinas siglo fel cryd-diodd y wybren uwch ben, nes aeth gan dywyll- ed a'r fagddu, yna fflachiai y mellt fflam- gochion o'r cymylau duon, ac yr oedd rhu- ad ytaranau yn arswydus uwch ei ben. Gollyngodd y gaib o'i law, a chychwynodd i lawr oddiyno can gynted ag y gallai i'r brif ffordd, a phan gyrhaeddodd yno efe a syrthiodd i lawr mewn llewyg; ac wedi iddo ddychwelyd ato ei bUll, yr osdd-pob arwyddion o'r ystorm wedi diflanu yn llwyr, a dywedir na feiddiodd y llanc hwuw anturio i chwilio am y trysorau ar ol hyn. Yn mhen blynyddoedd ar ol yr amgylch- iad uchod, pan oedd gweision Hafod y Porth yn cyweirio gwair ar ben y Dinas, rhoes un o'r gweision goes ei gribin yn y ffynon, ac wrth guro ar ei gwaelod, fe glywai swn, tebyg i swn arian yn tincian, yr hyn a gododd awydd ynddo i chwitio am danynt. Ond gyda'i fod yn ceisio sy mud y gareg gyntaf, torodd yn ystorm ddychrynllyd o wynt a gwlaw, a gwnaed pob brys i fyned oddiyno, ac erbyn iddynt gyraedd i lawr i "Faes yr Efail" yr oedd pob p ;th weli tawelu, ac heb un arwydd o ystorm i'w chanfod yn unman. Yr oedd y gweision wedi rhyfeddu at hyn, a daethani i'r penderfyniad fod a fyno yr ellyllon a chyfodi yr ystorm ar ben y Dinas; ac nid oedd modd cael gan yr un o nonynt fyned yn ol i gyweirio y gwair y flwydctyn houo, a gorfu iddynt ddanlon y gwaitheg yno i'w boti. Adroddir chwedl Iled (ldigrif am ddyn ieuanc oedd yo cyfateb i'r dim i etifedd y trysor oedd yn y Dinas: Byddai y llanc hwn yn breuddwydio unwaith bob blwydd- yn fod rhyw hen wr, a golwg batriarclisidd arno yn oyfod at erchwya ei v ely, ec yD erfyn arno gyfadi a dyfod gydag ef i ben y Dioas, lie yr oedd trysorau lawer wedi eu cadw iddo er's oesoedd. Bu yn breudd- wydio fel hyn am flynyddoedd, a'r un peth yn c-iel ei ddweyd witho bob tro; er hyny, methodd a cbasgiu digou o nerth i fyned gyda'r hen wr, a bu farw yn "hen lanc" parchus eya meddianu y trysorau. Yr oedd breuddwydion yr -'hen lane" wedi gwneyd i'w deulu feddwl gryn dipyn o bonynt eu hunain; yr oeddynt wedi my°ec. i gredu mai lhai o'u hiliogaeth hwy oeac\^ feddiatiu trysorau y Ddinas ac yr oeaa gan un o chwiorydd yr "hen lane taOc yr hwn oedd yr un ddelw a'i ewythr, yn ddyn mawr a hard ac yr oedd er yn blentyn wedi ryneflno a chiywed am freuddwydion ei ewythr, a rhyw ysfa augerddol wedi maau ynddo am feldianu yr arian, a dy- mutiai yn ami am gael yr un weledigaeth a'i ewythr' Ond er ei holl ddymuniadau nid oedd yr un weledigaeth a'i ewythr. Modd bynag, un noswaith, tua haner nos pan yn myned heibio y Ddinas, tybiodd ei tod ya clywed cloch ya tiaciau, s if odd, clywodd dine drachefn, ac wrth ddyfal wrandaw tybiai gly wed llais yn dywedyd "Tyred yma," a phan dinciodd y gloch y drydedd waith, neidiodd dros y wal, ac seth yn nghyfeiriad y swn, yna dechreu- odd y gloch a thincian yn iawn, a sy mud- odd yn mlaen; ac er ei bod yn un o'r nos- weitbiau tywyllaf, aeth y llanc ar ol y swn drwy y coed a'r drysDi, hyd i ben y bryn; ynapeidiodd y swn, safodd yntau i wrandaw. Symudodd y gloch drachefn, aeth yntau ar ei hoi o gam i gam, a'i ffydd yn myned yn fwyfwy ei fod yn ymyl medd- ianu y trysor, yna peidiodd y swn yn holl- ol, a nesiodd yntau yn hyf at y clogwyn oedd gyferbyn ag ef, a thybiodd ei fod yn gweled genau yr ogof yn agor o'i flaen, a phan oedd ar fyned i fewn dyma glamp o twdn Ilawfaeth yn neidio heibio, gan chwyrnogli cloch oedd wrth ei wddf, a chan fod cloch wTth wddf llwdn yn beth dyeithr i'r llanc, tybiodd yn y fan mai ys bryd ydoedd, a rhedodd gartref can gynted ag y gallai ei draed ei gario, ac yn ei ddych- ryn adroddodd ei helynt i'w deulu, y rhai pan ddeallasant beth oedd y ddrychiolaeth, a chwarddasant lawer am ei ben, a bu yn- tau yn fwy boddlawn ar ei sefyllfa o hyny all an. Troes breuddwydion am arian daear, mewn lie o'r enw Haiod Ernallt yn well allan na'r uchod. Y chwedl am danynt fel yr adroddir hi gan he a bobl plwyf Bedd- gelert sydd fel y canlyn: Amryw flynydd- oedd yn ol, yr oedd tyddyn Meillionen yn cael ei gyfaneddu gan ddau hen lane o Leyn. Un dechreunos yn nghanol y gauaf, tra yr oedd yr hen lanciau a'u gweision yn llawen ymgomio yn nghyd wrth eirias o dan mawn, Usy' meddai un o honynt, "mae yna rywun yn y drwa," a chyda hyny daeth dyeithr ddyn i fewn gan ddy- wedyd, Bendith Duw yn y ty hwn," yn ol dull yr hen bobl dda er's talm; rhodd wyd lie i eistedd iddo wrth y tan, ac estyn- wyd bwyd iddo. Wedi gwneyd yr hyn a allent i'r gwr dyeithr, aed yn mlaen gyda'r chwedleua, ond pur yebydig o sylw oedd y gwr dyeithr yn ei wneyd o ddim a ddywed- id ganddynt, ac ymddangosal fel pe byddai rhywbeth pwysig ar ei feddwl; o'r diwedd aeth yn adeg myned i orphwys, ond cyn myned erfyniodd y dyeithrddyn am gael dweyd ei neges, "oblegid heb hyny, medd- ai, "nis gall&t gysgu mynyd yn fyngwely." Caniatawyd ei gais yn rhwydd, ac yntau a ddywedodd "mai gwr o Fon oedd efe, a'i fod yn cael ei flino fyth a hefyd gan freudd- wydion yn nghylch rhyw drysorau gwerth- fawr oedd yn nghudd mewn rhyw ben furddyn/k' ^Yn fy mreuddwyd," meddai, "gwelwn hen wr bychan yn dyfod ataf, ac yn erfyn yn daer arnaf i ddod gydag ef at yr hen turddyn, ac y cawn i a'm teulu ddigon o fodd i fyw os y deuwn," Gofyn- wyd iddo a wyddai yn mha le yr oedd y murddyn, a pha enw oedd arno; atebai yn- tau y gwyddai-fod yr hen wr a welsai yn ei freuddwyd wedi dweyd mai Hafod Ernallt oedd enw y murddyn, a'i fod ar dir Meillionen, ac fod y trysor dan gareg mewn rbyw gornel neillduol o hono. Gofynodd un o'r hen lanciau iddo, a allai efe adna bod y lie pe dangosi 1 ef iddo. 10 gall- af yn sicr," meddai yntau. Y mae yn dda genyf hyny," meddsi yr hen lane, "oblegid nid ydwyf yn gwybod am furdd- yn o'r enw yna aT y tyddyn yma, ond gwn am furddyn tebyg i'ch darluniad ar dydd- yn o'r enw Meillionydd, yn Veyn; Ai tybed eich bod wedi camddeall yr eaw. trwy gymeryd MeiUionen am Meillionydd?' Taflodd hyn y gwr o Fon i gryn benbleth, a chydsyniodd v gallai ei fod wedi camgy meryd. Boreu dranoeth, cyn caniad y ceil- iog, cyfododd yr hen lanciau a chyfar- wyddasant y gwr dyeithr i fyned dros Fwlch Trwsgwl tua Lleyn, ac aethant hwythau eu dau i'r hen furddyn, ac wedi chwilio ychydig daethant o hyd i'r gareg, ac o dani caed y trysor, fel y dywedwyd. Yn mhen deaddydd neu dri dychwelodd y breuddwydiwr o Leyn, wedi ffaelu dod o hyd i'r murddyn; a phan oedd yn dyfod trwy'r bwlch at Meillionen adnn.bu Hafod Ernallt, ac aeth yno, canfu y gafeg, ac wedi iddo ei chyfodi. canfu, er ei alar, fod rhyw ni wedi bod yno o'i flaen. Sicraa yr hen bobl fod y chwedl yna mor wired a'r efengyl." Rai oesau yn ol, yr oedd yn byw yn Glynllifon, plwyf Llandwrog, dyddynwr bychan o'r enw Gilmyn, yr hwn oedd bob amser ar lawn gwaith i gael y "djeupen llinyn yn nghyd." Un nes wraith, tra mewn cwsg hynod o anesmwyth. ar ol llafur gormoiol y diwrnod cynt, breudd- wydiai weled dyn yn dyfod ato, ac yn dweyd wrtho, os ai i Lundain y caffai fodd i fyw heb orweithio ei hun fel yr oedd Ni Msnaeth Gilmyn fawr o sylw o'r breudd- wyd y tro hwn; ond breuddwydiodd yr un peth drachefn yn lied fuan, a pharhaodd i gael yr un fath freuddwyd yn olynol, hyd nes oedd wedi myned yn faich aroo, a pbenderfynodd fyned i Lundain i edrych a gaffai heddwch; a chychwynodd yno heb ddweyd wrth neb i ba le yr oedd yn myned. Wedi hir a dygn drafael cyrhaeddodd Lun- dain, a dyna lie yr oedd yn cerdded o'r naill heol i'r Hall, heb wybod beth, i'w wneyd; o'r diwedd daliodd sylw ar ryw ddyn oedd fel yn ei ddylyn i ba le bynag yr elai, eto heb ddweyd dim wrtho; o'r di wedd nesaodd ato, ac aeth yn ymgocn rbyngddynt. Pan hysbysodd Gilmyn mai o Arfon yr oedd yn dyfod, chwarddodd Y dyn yn uchel, a dywedodd ei fod yn breudd- wydio bob nos er's wythnosau, ei fod yn gweled ei hun yn cael trysorau lawer yn yr hen Seler Ddu. yn Arfon, a gofynodd i Gilmyn a wyddai efe yn mha le yn y sir yr oedd y fath le, ac atebodd Gilmyn na wyddai efe ddim am dano. Erbyn hyn yr oedd Gilmyn yn wyllt am fyned gajtref a phrysuraii fyned yno o flaen ei hysbysydd, oblegid yr oedd y Seler Ddu ar dir Gilmyn, y ac yr oedd yntau yn eitbaf cyduabyddus a hi. Modd bynag, nid oedd neb wedi cyr- aedd o'i flaeu—aetb. i fewn i'r seler, acwedx gwneyd archwiliad mauwl arni, dargan- fyddodd v trysorau; ond wrth ddodi fyny, o herwydd y baich trwm oedd ganddo, llithrodd ei droed i hen gotbwll du oedd yno, a baeddodd gymaint arno fel y meth- odd a'i lanhau hyd ddydd ei farwolaeth, o achos yr hyn y gelwid ef Gilmyn Droed Ddu; a dywed traddodiad mai hyn oedd dechreuad cyfoeth teulu Glynllifon. Y mae chwedl arall yn dweyd mai tel hyn y caioda uiimyn aiaiil ar y trysorau: Yr oedd Gilmyn yu dra chyfedlgar a dewin galluog oedd yn yr un gymydogaeth ag d, vr hwn a wyddai hoi! gyfrinion ei gelfyddf fyd yn berffaith oddigerth un, ac yr oedd ganoids beth dirnadfieth am yr un hwnw hefyd. Yr oedd y wybodaeth gyfrin hon wedi ei hysgrifenu ar blagawd. gan ryw law oruwehnaturiol, ac yr oedd y plaerawd hwnw yn cael ei gadw uwcbiaw Tre'r Ceiri, ar goryn un o binaclau pigfaia yr Eifl, ac yn cael ei wylied gan el'yll dych- rynllyd yr olwg arno, Nis gallai y Dewin er ei holl gyfrwystra a'i allu yn rnysz cythreuliaid ddyfeisio unrhyw flordd i gael gafael ar y plagawd, medd'anu vr hwn oedd wedi myned a'i holl feddwl. O'r di w?dd. dywedodd ei helynt wrth ei hen gyf aill, Gilmyn, a phan welodd Gilmyn yr achos o'i drwbl, cynygiodd ei wasanaeth iddo i wneyd cais am y trysor. Gwisgodd Gilmyn ei arfog-aeth, a phrysurodd yn ddi- ofn—oblegid ni wyddii beth ceid bwnw- tua'r Ilecyn pervglus vr oed i v plagawd ynddo. Yr oedd y Dewin wedi rhoddi pob cyfarwyddyd a allai efe iddo, a'i gynghori i fod ar ei ocbeliad; a rhoes bwys neilldu- ol ar iddo gymeryd gofal wrth groesi un ffrydlif arbenig, yr hon oedd heb fod yn mheU o ordreu y mynydd, ac os gallai groesi hono yn ddioge), nid oedd un ellyll a allai ei niweidio, a rhoes awgrymiad fod perygl iddo, hyd yn nod wlychu ei droed yn nyfroedd yr afon hono, isc os gwnai fod drwg yn debyg o'i oddiweddyd. O'r di- wedd, wedi taith hirfaith, cyrhaeddodd Gilmyn, Nant Gwrtheyrn, yr hon sydd wedi ei bamgylchu a chreigiau ysgyrnyg. lyd, oddieithr y tu agosaf i'r mor iddi; dringodd Gilmyn lethrau serth y mynydd, hyd nes y cyrhaeddodd Dre'r Ceiri. Y pryd hwn yr oedd pob "ysgafeU. a chafell, a chell" yn y lie yn cael el chyfaneddu gan ellyllon, a phob un o'r ellyllon hyn yn bar od ar yr awgrym lleiaf i ddod allan i amddi- ffyn iawnderau eu prif lywydd, yr hwn a drigai ar gopa'r graig uwch eu penau, a mawr y dinystr a'r direidi a fynych gyflawnir ganddynt ar hyd a lied y wlad. Wedi i Gilmyn gyraedd copa y mynydd, fe fu yn helynt ofnadwy a'rellyli, ond y marchog, o herwydd maint ei gledd- yf, a bod croes ar ei garn, a orchfygodd, a syrthiodd yr ellyll yn un gledren i'r llawr; a thra yr oedd yn cwympo, gafaelodd Gil- myn yn y plagawd, yr hwn oedd o dan aden sarffawg yr ellyll, ac yna, fel hydd o flaen cwn i hwr ag ef, a'r holl fan ellyllon erbyn hyn yn udo yn gythreulig wrth ei sodlau, ac yntau yn carlamu ei farch yn felldigol. O'r diwedd cvrhaeddodd afon Llifon; ac ar y geulan hon, tra yr oedd yn parotoi i neidio drosodd, aeth ei farch i lawr o dano. Gwyddai pe cawsai groesi hon y buasai yn ddiangol, ond yr oedd mor lydan fel nas gallai ,ei rhydio, ac yr oedd erchyll drwst teulu'r fagddu yn dangos eu bod hwythau yn ymyl acfod yn ihaid gwneyd rhywbeth gyda brys. Yr oedd yn rhy ddwfn iddo ailu ei rhydio, ac yr oedd y Dif mor wyllt fel nad oedd ond ffolineb iddo geisio nofio drosti; ond yn nghanol ei drwbl neidiodd ar gefn ei farch, a phlanodd ei ysbardynau yn ei ochr, a dyna hwnw yn rhoi naid ac yn disgyn yr ochr draw, Ond och "ni cheir y melus heb y chwerw," llithrodd y dorlan o dan garnau y march, a Ilithrodd Gilmyn hefyd ac aeth ei goes i'r afon, ac nis gallasai ei thynu allan heb boen dirfawr, a chafodd loesion dychrynllyd ynddi. Teimlai pan oedd yn y dwfr fel pe buasai haiarn gwyniasboeth yn cael ei dynn trwy ei esgyrn, a chlywai yr ellyllon yr ochr ar- all i'r afon, yn ysgrechian ac yn chwertbia yn orfoleddus o herwydd ei anhap, ond er ei holl boenau bryeiodd Gilmyn a'r plagawd i'r ogof lie yr oedd y Dewin, ac fel gwobr am yr holl enbydrwydd yr aeth trwyddo i'w geisio, datguddiodd y Dewin un o'r dirge iedigaethau oedd arno, a'r lioffaf o'r holl ddirgelion gan Gilmyn hefyd, sef y modd i droi pob peth yn aur. Wedi i Gil- myn ddyfod o'r ogif, gwelai fod y goes a wlychasai yn loewddu, a bu yn gloff hyd ddydd ei farwolaeth. Fel cofifad o'r dyg- wyddiad hwn, arferodd Gilmyn a'i lia yn olynol, lun coes wedi pygu ar eu pii9 arfau fel arwydd o'r gwrhydri dihafal a ddangos- odd wrth enill y dewinol blagawd. Cyf- rifir Gilmyn yn un o bymtbeg llwyth Gwynedd, a'i hil ef, > dvw etifeddion Glyn" llifon a'r Plas Newydd, lie trig eu hepil er oes y marchog.

YSTADEGAU Y METHODIST1Am.

[No title]

[No title]

" Dewi Wyn yn ei A.fi«chyd."

" Y Cenhadwr."

Gwaith Dlaconlaid.

Y Beibl Cymraeg.

Crefyddwyr yr Oe8:

[No title]

[No title]

BEDD-FEINl 0 BOB MATH

NODION 0 NEW YORK.

[No title]