Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

WHAT CHEER, KEOKUK CO., IOWA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WHAT CHEER, KEOKUK CO., IOWA. Diwedd Awyrenwr Ieuanc-Addurno Bedd- au y Mllwyr-Cau i Lawr y B Shaft- Washington Territory—Sychder Mawr. WHAT CHEER, lA., Mai 31.-Yr oedd yn byw gyda'i rieni yn y lie hwn ddyn ieuano hoew a ohyflym, gwrol a beiddgar o'r enw William Andrews, 20 oed-argraffydd wrth ei gelfyddyd, ond wedi ymhyfrydu yn fawr mewn awyreniaeth. Yr oedd ganddo awyr- en fawr a ohostus o'i eiddo ei hun, ac yr oedd wedi gwneyd esgyniadau llwyddianas ynddi lawer gwaith, gan ddifyrn ei filoedd trwy ei ystranoiau oelfyddydol a beiddgar ar y trapeze, tra yn cyflym eagyn oddiar wyneb y ddaear, gan hwylio yn hamddenol yn y nwyfre uwohben. Hysbyswyd yn bryd- Ion ei fod i wneyd esgyniad yn Oskaloosa Mai 21ain, ond gan i'r hin droi yn ei erbyn, methodd foddloni y pwyllgor y diwrnod hwnw, ao ni ohawaai ei wobr heb wneyd ar- brawf arall ar y Llun oanlynol. Felly pryd- nawn Linn, y 23aiu, daow bob peth yn bar- od, a'r ty awyrol yn oael ei ollwng fel eryr anfeith tna'r nef, ao yntau Bill Andrews yn eistedd ar y trapeze yn ddewr a phender- fynol. Ymsaethai yr awyren i fyny, tra yr actiai yntau ei ystranoiau rhyfeddol; ond Ow! canfyddodd y dorf fod tan wedi ymaf- lyd yn yr awyren. Gwaeddent arno ddod i lawr, ond i fyny yr elai, gan baihau ei act- au, yn gwbl anymwybodol yn ddiau o'i ber- ygl ofnadwy, gan gamgymeryd bloeddiadau y dorf. Fel yr e3gynai yn uwoh, uwoh, cyn- yddu fwy fwy yr oedd yr elfen ddinystriol! Pan y darganfyddodd ef ei berygl dyohryn- 11yd, yr oedd un o'r rhafEau wedi llosgi a datod. Gwnaeth un ymgais beiddgar i ddymohwelyd yr awyren, ond yn aflwydd- ianus; a thra yr oedd i fyny yn agos i fil o droedfeddi yn y gwagle, gan ymaflyd a'i ddwylaw yn y Trapeze Bar, torodd y teyrn didrugaredd y oortyn olaf! Dyna bangfa a gwaedd, a dyn&'r baohgen dewrgalon yn dis- gyn ar benau y tai, gan chwilfriwio y pridd- feini yn yagyrion, a'i gnawd a'i eagyrn yn cael eu darnio yn echrydus. Deuwyd a'i gorff maluriedig adref ar y 24ain, a chladd- wyd ef dranoeth gan dyrfa fawr ao athrist. Yr oedd ei chwaer wedi cytuno ag ef os byddai ei anturiaeth bresenol yn llwydd- iant, yr elai hi i fyny gydag ef y tro nesaf; ond diau yr ymgeidw hi holl ddyddiau ei heinioes bellach rhag y fath anturiaeth ber- yglus. Hefyd, dywedir ei fod i briodi yn mhen tuag wythnos, a bod gwyryf bryd- weddol yn awr yn wylo am anffawd y gwr ieuano gwrol, gyda'r hwn y bwriadai dreul- io dyddiau ei hoes. Dywedir fod yr am- gylohiad alaethus wedi gadael effaith annea- grifiadwy ar y llygad dystion. Olywsom un dyn oadarn a nwyfus yn tystio nas gellid byth ei wobrwyo yn ddigon helaeth i edryeh ar ddyn arall yn esgyn mewn awyren. Bu yma barotoadau mawrion ar gyfer addurno beddan y milwyr; a throdd pob oyfrinfa o bob urdd allan i orymdeithio, yn oael en blaenori gan gerddoriaeth dwy neu dair o seindyrf. Y mae Post oyfrifol gan y G. A. R. yma, ao yr oedd dydd Llun yn ddi- wrnod mawr yn en golwg. Y mae y B siafft, lie yr arferai o ddau i dri chant o ddynion weithio, wedi ei ohau i lawr am yr haf, a dorau oarohargell hen siafft Musoatine wedi eu taflu led y pen, gyda'r dealltwriaeth os gwrthodwn oddef adfyd Mnsoatine dros yr haf, nas gallwn gael trwydded i wynfyd y B yn yr Hydref. Trwm yw yr iau. Ychydig fisoedd yn ol aeth un o'n oymyd- ogion Oymreig o'r enw BeDjamin Price, all- an tua gwlad yr addewid, sef Washington Territory. Ar y oyntaf aeth i weithio yn y glo i le na hoffai, a braidd na theimlai ar ei galon i wneyd fel y gwnaeth canoedd o'i flaen, sef dyohwelyd yn ol yn y fan, oyn rhoddi prawf teg ar y wlad newydd; ond wedi aros a ohwilio, a phrofi drosto ei hun, nid ydyw am roi anair i'r tir, eithr ei iaith ydyw "Awn a meddianwn y wlad,"aoy mae ei denln parchus yn oyohwyn ar ei ol yn mhen dwy neu dair wythnos. Bu Ben a'i wraig yn llafnrns iawn yma am hir amser yn oeis- io oynal Ysgol Sul Gymreig, ao nid eu hes- geulusdod hwy, eithr difaterwoh ao annydd- ordeb eraill, fu y rheswm fyned o'r sefyd- liad daionus hwnw i lawr yn ein plith. Dy- muniad y pechaduriaid yma yw llwyddiant iddynt yn y gorllewin fyd. Sonia eraill yn frwdfrydig am gyfeirio eu camrau tua'r un Diriogaeth tna'r Hydref nesaf. Owyno mawr sydd yn y parthau hyn am y syohder hirfnith yr ydym wedi ei gael. Mae y onydau yn dihoeni, a'r ffynonau yn oael eu dyhysbyddn, ao os na oheir gwlaw yn fuan, ofnir afieohyd, trwy orfod yfed dyf- roedd llygredig, ond mae yn debyg y rhaid i ni oddef nes gwelo'r Doctor mawr yn dda. ATHBYWYN.

IBION 0 KANSAS CITY, MISSOURI.

Y DIWEDDAR EDWARD BLYTHIN.

Priodas Gymreig yn New York.

[No title]

Perygl yn Mlaen.

Family Notices

Advertising