Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

:. SYLWADAU 0 FANGOR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

SYLWADAU 0 FANGOR. 1. Coesau teiliwr sydd golofnau cedyrn; ond duwies y Nadolig yw gydd. 2. Llais mul sydd bereiddiach na thelynau arnrywseiniol, ond crechwen yr ynfyd sydd megis gweryriad myharen. 3. Yr ynfyd a draflyngca gyflaith berwedig, ond ceg dyn sydd bydew dinystr. 4. Yr oedd dydd Sadwrn diweddaf yn ddiwrnod mawr a phwysig yn mhlith bro- dorion pendefigaidd Kyffin Square. Yn blygeiniol iawn y diwrnod a nodwyd, gwelem faneri amryliw yn ckwyfio yn yr awelon uwch rhagfuriau goreursdig y ddinas a mynych y clywem dwrf magnel- au yn diaspedain crombil y clogwyni a'r bryniau cylchynol. Mae heolydd y ddinas gwedi eu gorchuddio ag ysgarlad costfawr, a'i phalasau oil mewn amdo ysblenydd o aid an a chrwyn ysgyfarnogod. 0 amgylch y ddinas, gwelir Iluoedd o filwyr dysgybl- edig, pa rai sydd yn gwisgo holl offerynau dinystr; ac y mae eu hysbrydoedd uchel- geisiol yn dychlamu gan awch am enwog- rwydd rhyfel. Y mae yr holl Squariaid yn rhodio mewn dillad gwynion; ac ar eu penau mae coranau o esgyrn cathod. Ond i foddloni chwilfrydedd fy narllenwyr, dichon y dylwn ddyweud mai gwr hybarch ydoedd wedi arfaethu traddodi darlith yn y Square y diwrnod dywededig. Y mae y syniadaeth fod arglwyddi y Square yn orthrymedibion diamddiffyn gwedi arfogi ysbryd y gwr dywededig a phybyredd ac airldgarwch dihefelydd. Barnai ef fod y Wladwriaeth Brydeinig yn sarnu 'n ormodol ar iawnderau dyn fel person urdgol. Addefai fod yn perthyn i'r gymdeithas wladyddol hawliau eang a chyrhaeddfawr; ond haerai fod gan ddyn, ar wahan i effeithiolrwydd ei gyssylltiadau gwladol, ragorfreintiau lluosog a chyssegredig. Galwai ef y rhai hyn yn iawnderau personol; a dywedai eu bod yn angenrheidrwydd mewn bodolaeth ddeallawl, yn annibynol ar wladwriaeth yn ei gwahanol ffurfiau. Gyda hynyna o sylwadau rhagarweiniol, nyni a gofnodwn yr araeth air yn air fel y traddodwyd hi gan ei uchelder Gorfodir pob meddwl a wna ymchwil ddiduedd i natur elfenol y cyfansoddiad Prydeinig, i amheu a ydyw yn seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder a tbegwch. Y mae pob ffurflywodraeth i fod yn sylfaenedig ar egwyddorion an- hyblyg a chyffredinol; ac nid ar deimlad- au cyfeillgar a phleidiol. Hanfod gwlad- wriaeth yw cyfiawnder; ac y mae yr egwyddor hon yn meddu bodolaeth dra- gwyddol ac annghyfnewidiol. Gwreiddia yr angenrheidrwydd am gyfundeb gwlad- wriaethol yn adfeiliad adnoddau moesol dynolryw; a'i dyben yw cyflawni anghed- ion amrywiog y bobl. Pan ydoedd dyn yn uchder perffeithrwydd ei gyflwr gwreiddiol, yr oedd hanfodion gwladwr- iaeth yn egwyddorion cymhlethedig yn ei anianawd, yn hyn sydd yn dileu yr angen- rheidrwydd am gyfansoddiad gwrthddrych- ol er iawn ymarweddiad. Ond pan agor- odd Adda Jones argae trueni ac annhrefn, aeth dyn yn ddarostyngedig i lywodraeth teimladau hunanol, cyfyng, a dinystriol, yr hyn beth yw sylfaen yr angenrheid- rwydd am gymdeithas wladwriaethol. Nis gallaf lai na galaru fod y Llywodraeth yn talu cyn Heied o sylw i feithriniad elfenau gwronol; dylent ystyried fod di- oglewch a chadernid yr ymherodraeth yn dibynu arnynt. Mae ein seneddwyr fel pe byddent yn ymffrostio yn y gorchwyl o attal dadblygiad gwir fawredd, trwy ystumio dynoliaeth o'i naturiolrwydd cyn- hwynol. Bu fy nyrnau i yn fflamio fel dreigiau tan o gylch pen yr bwn a bechodd i'm herbyn-am yr hon weithred y gosod- wyd fy nhraed mewn cyffion a'm corphil- yn mewn carchar." (Husiadau, 0, cy- wilydd, 0, cywilydd.) Eisteddodd y dar- lithydd hyfedr i lawr yn nghanol taranau gorfyddarol o gymmeradwyaeth. 5. Anfonodd trioedd cocosaiddddirprwy- aeth demlyddol at ei uchelder yr Arch- fardd, i erfyn ei ganiattad i ebychu ar ragoroldeb glasdwr yn y pegwn gogleddol y Nadolig nesaf. Gwedi i'r Archfardd dderbyn y ddirprwyaeth ymlanwodd ei enaid a math o drydanedd gwefrol; ac efe a gyfododd ei olygon i wybrenydd y nef- oedd. Ni raid i mi hysbysu mai cyflawni swyddogaeth eiriolyddol, a deisyf boddlon- rwydd y duwiau, yr oedd yr Archfardd yn yr ystum ddywededig. Trwy daer er- fyniad yr Arch, caniattaodd y duwiau i'r trioedd dirwestol eu ceisiadau. Mae'n debygfod digonodan temiyddol yn ar- eithiau y eyfeillion hyn i ddiorseddu yr oesawl la o gymmydogaeth y pegw ac i sefydlu tragwyddol ddydd yn mrhif fren- himaeth yr Archfardd. Y mae gwaith cocosyn Tysilio yn ymgynghori a r awdur- dodau goruchel yn cael ei edmygu gan bob dyn synwyrol a goleuedig. Nid yw yr Archfardd a'i feib urddog, er mamt eu riiwysgfawredd, ond math o gyfryngau I drosglwyddo arfaethau y duwiau i afian- 7ddion anysbrydoledig daear. Mae y ineddylddrych o berffeithrwydd a gallu gwrthrychol yn gynhenid yn y meddwl dynol. Gwelir y syniad hwn yn tewynu yn nhawch du y byd Paganaidd efe gen- edloedd y duwiau, ac a'u cynysgaeddodd a phriodoleddau mawreddog a gwronaidd. Nid yw'r byd, er mor fawr ei rysedd moes- ol, yn teimlo yn hunan ddigonol. Na, y mae newyn tost a syched angerddol arno y ZD am rywbeth mwy goruchel, pur, pylweddo], In a pharhaol nag a geir o fewn cylch cyfyng ei fodolaeth. 6. Nid wyf heb seiliau i gredu fod fy nhippyn Sylwadau yn cynnyrchu di- wygiad pwysig a chwyldroadau mawrion yn y byd anifeilaidd. Mae un o'r dinas- yddion barddol gwedi derbyn hysbysiadau gwefrol o bob cwr o'r cread adnabyddus yn mynegi fod fy marddoniaeth i Gys- tadleuaeth y ddwy gath" wedi cyflawni gwrhydri dihefelydd yn llengau barbar- aidd yr anghenfilod hyny. Mae'n wybydd- us i'r sylwedydd dwfn-dreiddiawl mai un o ansoddau amlycaf y cymmeriad cathawl ydoedd ymgecraeth genfigenllyd a hoffder greddfol at ymladdfeydd erchyll ac an- waraidd. Dichon nad oes fodfedd o dir yn Nghymru heb fod rhywbryd yn faes y gwaed i gathod aflywodraethus a nwyd- wyllt. 0 yr ymdrechfeydd gwaedlyd a welwyd rhwng bryniau a mynyddoedd Gwalia. Gwelwyd cymmydogaethau mewn cyffro a dychryn arswydus; a chlywyd rhegfeydd taranllyd yn diasped- ain y wybrenydd, a'r cwbl oil yn cael eu hachosi gan dybiau mympwyol ac uchel- gais anfad cathod ein gwlad am ogoniant ac anfarwoldeb milwraidd. Olid mae yn hyfrydwch genyf hysbysu fod holl gathod y greadigaeth wedi cyhoeddi heddwch a/u gilydd, ac yn edifarhau mewn llwch a lladw oherwydd iddynt mor fynych ollwng ffrwynau eu tueddiadau ffrwydrol, a pheri cymmaint o ofid i'r galon ddynol. Llwyddodd fy mhrydyddiaeth i warthnodi yr ymladdfeydd hyn yn y fath fodd fel nad all cathod byth mwy gyflawni yr erchylldra gwaradwyddas. Bellach, hawddamor i chwi, weithwyr ein gwlad; gorfoleddwch ar y nabl a'r delyn. Y mae tangnefedd oesol yn lledu ei hesgyll gwyn uwch eich bythynod mynyddig. Ni chewch mwy eich deffro o'ch cwsg gan ysgrechfeydd annaearol cathod mewn rhyfel, ac ni welir celaneddau galanas o amgylch eich preswylfeydd destlus. Ai tybed nad yw y March, gyfeillion anwyl, yn haeddiannol wrthddrych tysteb ? Gwelir chwi yn rhy fynych yn ymryson am anrhegu rhyw gorachod ag y byddai yn haws i lo oresgyn Pleiades nag iddynt hwy gyflawni gorchest o natur arwrol. 7. Mewn mynwenb oer, wrth gwymp tryloewon flFrydiau, Ar fedd ei mham yn wylo, geneth dremiaf Y disglaer ddeigr, fel angylaidd wlith, Ymdreiglant dros ei gruddiau llwyd i'r pridd. Mae'r bochau fu 'n filamgoch fel y rhos, Yn llwyd a gwelw gan bangfeydd Calon y ferch sy'n ddafoau ar y pridd, Ei sanctaidd serch yn archolledig sydd. Biodeuyn cain yn Dgardd mwynianau oedd, Ond trwy ei hysbryd d'ryslyd mellt sy'n gwau, Fflam ffyrnig biraetb lysg ei llednais fron, Ei meddwl wibia mal y wenol wyllt 0 flaen gelyDion blin, twyllodrus, brwnt, Er iddi ollwng dagrau nos a dydd, Calon ei marwol fam sydd adamant Anobaith wawdia 'i hocbeneidiau trist, Ac angau chwardd wrth dremio ar ei gwedd. Pan daeo cysgodau'r hwyr, ysbrydion nos Ehed yn Ilwyd uwch bryniau ban y byd, Hi waedda'n brudd, fy mam, fy anwyl fam," Ond osgordd erch ddallhuanod brwnt Oernadant uwch ei phen trwy gydol nOIJ, Nid oes ond yr awelon tyner meddf Fradychaut gydymdeimlaot gvda hi. Bu farw gan hiraethu am ei mharo, A'i ehwyn ddistawodd dan y cwrlid gwyrdd A daenodd natur dros ei gwely pridd. MANION.-Dywedir fod rhyw fachgenyn blewog yn nghymmydogaeth James Street yn hollol argyhoeddedig mai ef yw Handel yr oes hon. Mae gwadnau traed y bod rhyfygus yn sarnu meini Jaspis y Cei Mawr bob dydd. Mae rhyw bendefig o grydd yn yfed afonydd o fwyniant wrth fynych rodio ein heolydd gydag anwylyd ei galon. Ai gwir yw fod ty yn Dean Street yn faelfa i wallgofrwydd a phob rhyw ormodedd carwriaethol. Mae geneth- ig brydferth yn ngwaelod y dref yn wrth- ddrych serch i rhyw siopwr ffroenuchel. Dywenydd genyf hysbysu fod bechgyn a genethod y capel mawr wedi gweled aruthredd yr atgasrwydd o erlyn camrau gorphwylledd a phenchwibandod yr oes.

Y CTFLATH. !,

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

__-__------_-COLOFN GOFFADWRIAETHOL…