ARWYDDION RHWYMYN PRIODAS 1.—Os gwelwch ddyn a dynes mewn ewmpi yn ffraeo am y peth lleiaf, gwr a gwraig ydynt. 2.—Pan y byddweb yn y tren, os y gwelwch ddyn yn edrych drwy y ffenestr, a dynes yn edrych y ffordd arall, arwydd ydyw eu bod wetli priodi. 3.-Pe disgynai maneg oddiar law dynes, a phe clywid y dyn yn ei liymyl yn peri iddi godi ei maneg, dywed hyny eu bod wedi priodi. 4.-0s gwelwch ddynes yn estyn rhyw- beth i rhyw ddyn, gan droi ei hwyneb i r gyfeiriad arall yn ddifater, gwraig a i phriod ydynt. i, 5.—Pan y gwelwch ddyn rhyw ugaia llath o flaen rhyw ddynes yn croesi cae, a phan sanfyddweh y ddynes yn ymdrechu yn galed fyned dros y gamfa, sicr yw mai gwr a gwraig ydynt. 6.-0s mewn cwmni y bydd pawb ond un f dyn yn edrych ar brydferthwch a gallu cerddorol rhyw foneddiges, gellwch fod yn sicr mai ei gwr hi yw yr un hwnw. i' 7.-0s gwelwch ddyn yn talu pob sylw i'r ( .lerched ieuainc, yn dyweyd pethau doniol a digrifol, ac yn ymddwyn yn oeraidd ac yn ,roes at un ddynes, arwydd digamsyniol ydyw mai ei wraig yw yr un hono. 8.- Pan y clyweh ddyn a dynes yn parhaus proesi eu gilydd wrth siarad, yn dyweyd pethau cas, annifyr, a gwrthwynebus am eu gilydd, tystiolaeth derfynol ydyw mai gwr a 11' gwraig ydyw y partion. it P"*— ( or
iIFFRAETHINEB HENAFGWR r PAN oedd Ymherawdwr Persiaidd yn hela un ] diwrnod, canfyddai hen wr yn planu pren, } ac aeth ato, a gofynodd ei oed. Atebodd y fgwladwr, "Yrwyf yn bedair blwydd oed." < Un o weision yr Ymherawdwr yn cly wed, oa'i ceryddodd am roddi ateb mor afresymol ) yn mhresenoldeb yr Ymherawdwr. Yr ydychyn fy ngheryddu yn ddiachos," ibai y gwladwr, nid wyf fi yn siarad pethau heb eu hystyried; oherwydd nid yw y doeth yn cyfrif yr amser fydd wedi ei wastraffu mewn ffolineb a gofalon bydol. Yr wyf fi gan hyny yn ystyried mai fy ngwir oedran ydyw yr iliyn a dreuliais yn gwasanaethu fy Nghre- wdwr, a gwneyd fy nyledswydd i gym- .deithas." 1 Yr Ymherawdwr, wedi ei daro a (qyndod at sylwadau yr henafgwr, a adywedodd "Allwch chi ddim disgwyl gweled y coed a blenwch yn cyrhaedd per- feithrwydd." ) Gwir," ireddai yr henafgwr, end gan ifod ereill wedi planu er mwyn i ni fwyta o'u tlrwyth, rhesymol ydyw i ninnau blanu ogyfer ag eraill." 1, Ardderchog I" meddai yr Ymherawdwr chan ei bod yn arferiad, pan y derbyniai Junrhyw un ganmoliaeth y penadur, daeth y jpwrs-gludydd yn mlaen, ac anrhegodd yr Ihen wr a mil o ddarnau aur. Wrth eu derbyn, kymgrymodd yr henafgwr yn foesgar, a dywedotld: "0 frenhin, cymer i goed a blenir gan eraill ddeugain mlynedd i gyr- haedd perffeithrwydd, ond y mae y pren a blenais i wedi dwyn ffrwyth newydd ei blanu." "Godidog!" meddai yr Ymherawdwr; ac anrhegwyd yr hen wr doeth a phwrs arall 3 aur. Nid ydyw coed a blenir gan ereill yn dwyn ffrwyth ond unwaith yn y flwyddyn," meddai yr henafgwr, ond y mae fy nghoeden fechan i wedi dwyn dau grop yn yr un dydd." Hyfryd ac ofnadwy meddai yr Ymherawdwr; ac anrhegwyd yr hen Gatwg a'r trydydd pwrs; ac yn'a, yr Ymherawdwr, gan yspardynu ei farch, a gychwynodd ymaith, gan ddywedyd: Barchedig dad, feiddiaf fi ddim arcs yn hwy, onide a fy nhrysorfa yn wag."
HEB ERIOED GYFARFOD AG EF A YDYW eich gwr i mewn ?" gofynai y casglwr trethi yn siriol, wedi bod yn curo wrth y drws am chwarter awr. Nac ydyw," meddai hithau, "y mae oddi- cartref." "Yn ei ddisgwyl yn fuan?" meddai y casglwr. "Wel," meddai y wraig yn feddylgar, dydw i ddim yn gwybod yn iawn; yr ydwyf wedi bod yn edrych am dano am ddwy flynedd ar bymtheg, ac nid ydyw wedi troi i fyny eto. Yr ydych chwi yn myned llawer iawn o gwmpas, ac yn trafaelio'r byd yma, ac os gwelwch chwi ddyn a golwg arno y gallai wneyd gwr da i mi, dwedwch wrtho fo fy mod yn disgwyl am dano, a gyrwch ef yn ei flaen."
DYNA OEDD HI'N FEDDWL DYWED awdwr adnabyddus am dano ei hun Yr oeddwn yn ysgrifenu yn fy efrydfa wrth y ffenestr, a bachgen bychan Gwyddelig yn difyru ei hun drwy daflu ffa at y ffenestr. Wedi colli fy holl amynedd, rhuthrais allan o'r ty, gan benderfynu dychryn y bachgen. Digwyddodd fod ei fam yn dyfod ar ei ol a'r yr un pryd, a chyfarfuasom wrth ymyl y bachgen. Dwrdiais y plentyn, ac yna, wrth weled y fam mor ddidaro, dywedais wrthi dipyn o fy meddwl. Yn y diwedd, er dwyn fy araeth geryddol i derfyniad anwrthwyn- ebol, dywedais. "Ychydig o ddysgyblaeth yn awr i'cli plant a "arbedai lawer o boen i chwi yn y dyfodol. Meddyliwch am hyny, wraig dda, hyny yw os ydych ryw dro wedi arfer a meddwl o gwbwl." "Meddwl, ai e ?" meddai hithau, "yr ydw i'n meddwl, pe byddai i chwi fyned yn ol i'r ty, a sychu yr inc yna sydd ar eich trwyn yr edrychecli chwi yn llawer harddacb, hyd yn nod pe na wnach gymaint o helynt yn nghylch pethau." Nid rhyw ateb arafaidd iawn oedd hwn ond yr oedd yn ddigon effeithiol i droi ymaith ddigofaint."
OFNI Y DRETH.—Dywedodd yr Arglwyddes Carteret, priod yr Arglwydd-raglaw wrth Swift:—"Y mae awyr y Werddon yn rhagorol ac iachus." Er mwyn yr anwyl, madam, "meddai Swift, "peidiweh dyweyd hyny yn Lloegr; canys, os gwnewch, y maent yn sicr o godi tretb arno."
Mrs. S. A. Allen's LWorld's Hair Restorer. It is not a dye, but acts directly on the roots of the hair, giv- ing them the natural nourishment required. An absolutely perfect Hair Restorer and Dressing, Save your Lives by taking OWBRIDQE'S Owbridge's LUNQ TONIC. HAVE YOU A COUG-H? A DOSE WILL RELIEVE IT. HAVE YOU A COLD? A DOSE AT BEDTIME WILL REMOVE IT. Sold Everywhere. 1M, 2/9, 4/6, 11/- per bottlt, NEW EDITION, L 3 OliOU G-HIjT REVISED AND GREATLY ENLARGED. 2118 PAGES. 3500 ILLISiMTMS. "I1fJ I INTERNATIONAL J DICTIONARYJ Price 81/6. 12 Parts, 2/6 Each. Zdltorial Work iipoia this reo raas been in active progress :lc:¡' over IC To-aro. Ho fewer than 100 Editoritzi Ziabourers have beem engaged upon it9 and over £609000 was czpcnded Ùl its pre- .p&ratioo before the first copy waa printed. Prospectuses Free on Application, G. BELL & SONS, 4 YORK STREET. COVENT GANDSN. LQNDCttf.