Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CROESAWIAD Y PARCH. JOSEPH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CROESAWIAD Y PARCH. JOSEPH FAHR A'l DEULU, YN BRYNMAWR. Nos Lun, Awst 5, cynnaliwyd cyfarfod yn Beth- esda Brynmawi, i roesawu y Parch. Joseph Farr, diweddar weinidog gyda yr Annibynwyr yn Ballarat, Australia, ar ei ddychweliad i ym- sefydlu yn ngwlad ei enedigaeth. Mae Mr. Farr yn enedigol o Brynmawr; yma y codwyd ef i bregethu, ac yma yr ordeiniwyd ef i waith y weinidogaeth cyn ei fynediad allan i Australia, lie y treuliodd 10 mlynedd mewn Ilafur caled, gymmaint felly, nos ygwaelodd ei iechyd, ac y gorfuwyd ef i ddychwelyd i'w hen wlad. Da genyro ddeall fod ei iechyd eisoes yn llawer gwell. Am hanner awr wedi 7 o'r gloch, dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. Thomas, Zion, (B.) Yna etholwyd y Parch. E. A. Jones, Rehoboth, i'r gadair,yr hwn, ar ol annerchiad byr, cynnwysfawr, a llongyfarchiadol, i Mr. Farr, a alwodd ar y Parch. D. Williams, Blaen- au, i roddi deheulaw croesawiad iddo, dros y gweinidogion a'r gynnulleidfa oedd yn bresenol. Adeg gyffrous oedd hon ar y cyfarfod, pawb yn lion, ae eto yn wvlo. Ar ol hyn galwodd y Cadeirydd ar y gweini- dogion oedd yn bresenol i siarad yn y drefn gan- lynol. Y Parch. W. Roberts, (Nefydd), Blaenan, (B.) a ddywedodd:— Mae dyfodiad Mr. Farr yn ol yn beth ag y. mae pawb sydd yma yn teimlo dyddordeb ynddo. Yr ydym wedi ymgasglu yma, fel pobl o gwmpas cad- fridog dewr a buddugoliaethus, i'w longyfarch a'i groesawu ar olllafur:caled, ond llwyddianus, ar faes yr ymdrechfa. Bu Mr. Farr mewn rhyfel, ond un lawer mwy gogoneddus na'r hon y bu Wellington a Picton, ac eraill ynddi, sef rhyfel yr Oen-ym- drech yn erbyn pechod a thros wirionedd-ymdrech i ennill eneidiau arjfarwol o feddiant y diafol i fod yn ufudd ddeilieid i Fab Duw. Mae yn lion genyf ei groesawu adref ar ol biynyddoedd o lafur diflin yn y wlad bell. Dymunaf iddo eto oes hir i lafurio yn igwinllan ei Arglwydd. Yna cyfododd y Parch. Joseph Farr, a dy- wedodd:— Mae y noswaith hon yn dwyn llawer o bethau i'm cof. Deng mlynedd yn ol y dangoswyd i mi a'm hanwyl briod garedigrwydd mawr, nid yn unig gan fy mam eglwys yn y lie hwn, ond gan gyfeillion yn gyffredinol, wrth ymadael i Australia; heno, wele eich mab wedi dychwelyd, ac yn cael genych roesaw uwchlaw dim a ddysgwyliodd. Ymdrechaf roddi i chwi grynodeb byr o fy hanes yn Australia. Glan- iais yn Melbourne, Vict aria, ar y laf o Dachwedd, 1857, ar ol mordaith o 101 o ddyddiau. Gwnawd fy nyfodiad yn hysbys, a cheisiwyd genyf bregethu yn nghapel y T. C. yn Latroke Street—yr unig gapel Cymreig sydd yn y ddinas ardderchog bono. Lla- furiais yno nes y casglwyd cynnulleidfa luosog, a rhoddwyd drws agored i bobl o wahanol enwadau i ymaelodu yno Yn awr dechreuai fyiechyd waelu, a hyny yn benaf oherwydd llafur caled, yn nghyd ag effeithiau y colonial fever. 0 herwydd hyn, pen- derfynais ddychwelyd i'r hen wlad, a phan yn bry- sur ymbarotoi i hyny o orchwyl, daeth gal wad imi oddiwrth yr eglwysi Cymreig yn Ballarat a Sebasto. pol. Y blaenafydyw prif fwnglawdd Victoria, a'r olaf sydd oddeutu 3 tair milltir oddiyno. Ar ol ystyriaeth pwyllog, ac awydd i wneud prawf ar awyr y wlad, rhoddais attebiad cadarnhaol. Dangoswyd i mi a'm priod garedigrwydd mawr pan yn ymadael a Melbourne, a chawsom dderbyniad croesawus iawn yn Ballarat. Yma cefais o hyd i luaws o Gymry, o bob cwr o'r dywysogaeth, a defuent yn lluosog i bre- gethiad yr efengyl. Dechreuais ar fy ngweinidogaeth ar y 3ydd o Chwefror, 1858, gan bregethu bob yn ail Sabbath yn y ddau le. Addolai yr eglwys yn Sebastopol mewn capel coed, a'r eglwys yn Ballarat yn nghapel coed y Presbyteriaid Unedig. Oddeutu blwyddyn cyn hyn yr oedd y cyfeillion yn y lie di- weddaf wedi appelio at y llywodraeth am ddarn o dir i adeiladu capel arno; ar ol llawer o oediad, caf- Wyd ef, ac adeiladwyd arno gapel hardd o briddfeini, gwerth 2900. Ar gais y pwyllgor aethum trwy y wlad i gasglu at leihau y ddyled, pryd y cefais gyf- leustra i ddyfod i adnabyddiaeth a Chymry y wlad, eu hangenion, a'u hamddifadrwydd o foddion gras. Y lie cyntaf yr aethum iddo, oedd Ararat, lie y mae ychydig o Gymiy yn addoli mewn capel canvass bychan. Pleasant Creek oedd y lIe nesaf, a phre- gethais yno mewn capel cyfifelyb. Cefais groesaw Inawr a chasgliadau rhagorol yn y ddau Ie. Dy- chwelais, ac aethum i Black Creek (yn awr Talbot), lle yr oedd rush newydd dori allan rhwng oddeutu 30,000 a 40,000 o bobl, agos o bob cenedl, a chan- aoedd lawer o honynt yn Gymry. Yr oedd yma achos crefyddol bychan wedi ei godi yn nhy rhyw hen bererin duwiol o Ogledd Cymry, o'r enw Ellis Thomas, (T.C.) Pa le bynag yr ai yr hen ddisgybl fEyddlon hwn iddo, byddai eglwys yn ei dy yn was- tad. Pregethais a gweinyddais yr ordinhadau yno droion. Cynnwysai y ty canvass oedd yma lawer iawn o bobl, ond byddai llaweroedd allan bob amser, y rhai a glywent gystal a'r rhai oddimewn. Dy- Chwelwyd yno lawer afradlon, ac adferwyd llawer crwydryn. Bum yn llwyddianus iawn yma wrth gasglu. Cefais bob cymhorth a chroesaw a allaswn ei gael. Byddwn yn cysgu yn nhent yr hen frawd Ellis Thomas, ar stretcher, gosodwn yr arian dan fy nghesail, gan fy mod mewn ofn parhaus y byddai i ryw un fy yspeilio, os nad fy lladd, nes imi gofio fod dyogelwch ac amddiffyn fy Nhad nefol drosof. Buan y rhifwyd y rltshyn mysg y pethau a fu. Ymwas- garodd y Cymry i wahanol barthau trefedigaetli Victoria, yn nghyd a threfedigaethau eraill, ond cyn iddynt ymwasgaru, cefais ganddynt yr anrheg werth- fawr o 28 o gyfrolau gwerthfawr-gwerth oddeutu £ 100 mewn arian. Ymwelais yn nesaf a Tarnagulla, tua 70 o filltiroedd o Ballarat, lle y mae amryw o Gymry yn preswylio, ac yn gweithio yn y Prince of Wales Claim, erddo J. Beynon ac B. Jones, Yswein- iaid. Pregethais yno un Sabbath, ac annogais y Cymry-yn enwedig y boneddigion a enwyd—i ad- eiladu addoldy; gwnaethant hyny, a gwahoddwyd fi a Mr. Llewelyn (yn awr y Parch. Mr. Llewelyn, T.C., Llansawel, Morganwg) i bregethu ar ei agor- iad. Bum yno lawer tro ar ol hyny, ac un tro yr oedd yno luaws i'w derbyn o'r newydd, ac yn eu mysg un ferch ieuanc yn dymuno cael ei bedyddio trwy drochiad, a gweinyddais yr ordinhad yn yr arddull hwnw am y tro cyntaf yn fy mywyd, yn yr afon Loddon, yn ngwydd tyrfa fawr o Gymry, a Saeson, ac Ysgotiaid. Yr oedd hyn yn newydd-betb yn y lie, gan nad oedd ar y pryd un gweinidog Cymreig na Seisnig i'w gael o fewn GO milltir o bell- der i'r lie. Mae 'n llawen genyf feddwl fod y ddynes ieuanc hono wedi bod yn addurn i'w chrefydd o hyny hyd yn awr. Tra yn gweinyddu ar y Sabbatbau yn Ballarat a Sebastopol, yr oeddwn ar adegau eraiU yn myned yn fisol i Linton, Carngham, Happy Valley, a Monkey Gully, yn yr hwn le y sefydlais achos. Lleoedd newyddion ydyw y rhai hyn, a breswylid gan lawer o'r rhai fu yn eistedd dan fy ngweinidogaeth yn Ballarat a Sebastopol. Doeth i'm rhan i bregethu yr efengyl ynddynt fel y cyntaf o bawb. Codwyd capel yn Creswick Creek, lie y pregethwn yn bur ami. Ffuafiais yno eglwys fechan ar y nos Sadwrn cyn agoriad y capel, yr hyn oedd i gymmeryd lie y Sul canlynol. Un o sylfaenwyr penaf yr achos [yn y lie uehod oedd y Parch. E. Griffiths, Boss Creek, aelod gynt o Ebenezer, Aberdar. Wedi llafurio am gryn amser yn Ballarat a Sebastopol, aeth y gwa- hanol enwadau a gyfansoddent yr eglwysi i anes- mwytho gyda golwg ar yr athrawiaeth a bregethid, a'r ddisgyblaeth a weinyddid—eisiau yr athrawiaeth hon a'r ddisgyblaeth arall, &c. Mewn canlyniad i hyn, rhoddais y weinidogaeth yn eu mysg i fyny yn Ebrill, 1802, er yn groes i deimladau y lluaws. Rhoddais dro yn yr amser yma trwy y wlad, er ym- weled a'r Cymry yn y gwahanol leoedd. Pender- fynais fyned i mewn trwy y drws cyntaf a agorai i mi, gan fy mod wedi penderfynu glynu wrth y weinidogaeth, a byw wrthi, yr hyn a wnaethum o'r dydd y glaniais yn y wlad hyd fy nychweliad. Ond yr oedd pob lie y bum ynddo yn rhy wan i gynnal gweinidog. Annogwyd fi yn awr i ddechreu achos Seisnig yn Ballarat East, a dechreuais yn y neuadd ddirwestol—cynnyddodd y gynnulleidfa, ac aethom i neuadd y dref; fiurfiwyd yno eglwys, 14 mewn nifer, yr hon a gynnyddodd i 20. Meddyliwyd cael capel, ond gan fod y rhan hono o'r dref yn myned yn ol mewn masnach a phoblogaeth, a thrysorfa y Colonial Union and Mission of Victoria yn isel, rhoddwyd yr anturiaeth i fyny. Er fy mod yn teimlo yn ofidus i'r achos Seisnig fethu yma, eto tybiais fod Haw rhagluniaeth yn hyn, trwy i mi gael mwy o ryddid i wasanaethu fy nghydgenhedl un- waith eto. Erbyn hyn yr oedd y gwahanol enwadau a gyfansoddent yr eglwys yn Sebastopol wedi ym- ranu; arosodd y Trefnyddion Calfinaidd yn y capel, a chynnaliai yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr eu cyf- arfodyddyn eu tai. Codasant gapel, a llwyddasant; derbyniais inau alwad oddiwrthynt, a dechreuais ar fy llafur yn eu mysg y Sabbath cyntaf yn Ionawr, 1863, a than fendith Duw, cynnyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fawr. Yr oedd yn gwneud i fyny ran o'r eglwys yma, oddeutu 20 o Fedyddwyr, ac er mantais iddynt hwy, gwnawd bedyddfa o'r tu cefn i'r addoldy, yn nghyd a lleoedd angenrheidiol eraill, yr hyn a gostiodd lawer o arian. Bedyddiodd y Parch. Mr. Barham dri o bersonau yma yr un Sabbath yn fuan ar ol hyn. Heb fod yn hir, daeth y Parch. J. R. Evans i'r lie; y pryd hyn meddyliodd y bradyr am sefydlu achos eu hunain; ymadawsant gyda eu gilydd yr un nos Sabbath, ac y mae yr ym- adawiad heddychol hwnw yn un o adgofion mwyaf anwyl y deng mlyuedd y bum yn Australia. Mae 'r eglwys Annibynol yn cyfrif hon fel un o'i merched anwyl. Arferwn fyned mor ami ag y medrwn i Carngham, lie y sefydlais eglwys Annibynol, yr hon a drowyd wedi hyny yn eglwys gymmysg. Ffurfiais eglwys hefyd yn Happy Valley, yr hon a fu yn llwyddianus lawn, ac sydd yn awr o dan ofal y Parch. E. Griffiths. Dechreuais achos hefyd yn Napoleon, lie oddeutu 7 milltir o Ballarat. Aethum yno ar brydnawn Sul, rhwng yr oedfaon, gan feddwl pre- gethu i ychydig Gymry oedd yno yn ymgynnul] i dy annedd, ond wedi cyrhaedd yno, yr oedd y Saeson yn lluosocach lawer na'r Cymry, a gorfodwyd fi am y waith gyntaf i bregethu Saesoneg heb ragfeddwb Yn mhen ychydig fisoedd codwyd yno gapel cerrig hardd, yn benaf trwy ymdrechion Mr. Abel Rees, gynt o Hirwaun, ac eraill allesid eu henwi; ffurfiwyd yno eglwys Seisnig, ac y mae yno weinidog yn lla- furio yn eu mysg gyda llwyddiant. Y lie nesaf oedd yn galw am fy ngwasanaeth oedd Ross Creek, 4 milltir o Sebastopol, lie yr oedd amryw o'r aelodau oedd genyf yn y lie diweddaf wedi ymsefydlu i amaethu. Dechreuwyd cynnal Ysgol Sabbathol yno yn nhy Mr. D. Davies, gynt o Gwernllwyn* Dowlois. Pregethwn yno mor ami ag y medrwn, ac yn mhen ychydig fisoedd ffurfiwyd yno eglwys, a chodwyd capel cerrig tlws, yr hwn a dalwyd am dano heb fyned o'r tu allan i gasglu. Rhoddasant alwad i'r Parch. E. Griffiths, o Atlirofa Melbourne, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd, lie y llafuria gan bre- gethu yn Gymraeg a Saesonaeg gyda chymmeradwy- aeth mawr. Cyfeiriais fy ymdrechion yn awr i godi achos yn nhref boblog Ballarat, ac wedi pregethu am wythnosau yn nghapel y Lutheriaid, flurfiais yno eglwys. Oddeutu 2 flynedd cyn hyn, prynwyd darn o dir gwerth 9200 i godi capel arno. Yr oedd- em fel enwad wedi penderfynu na fynem ddim i wneud a'r llywodraeth, mewnffordd o dderbyn arian at gynnal y weinidogaeth, na thir i adeiladu capeli arno. Costiodd adeiladu y capel hwn, yn nghyd a llwyddiant yr achos, imi golli nosweithiau o gysgu, a phryder mawr, gymmaint nes i mi dan faich fy llafur fethu pregethu a llafurio megis cynt, ac wedi cael Ilawer ymosodiad gan afiechyd poenus, cym- hellai y meddyg fi i ddychwelyd am dro i'm gwlad enedigol fel unig foddion fy adferiad. Nid oedd genyf y meddwl lleiaf am ddychwelyd flwyddyn yn 01, ond pan deimlais tod fy iechyd yn gwaethygu, yr oeddwn yn dueddol i ofni y gwaethaf, a pliender- fynais ddychwelyd gyda'm hanwyl briod a'm plant. Rhoddais ofal yr eglwysi fyny, er mor anhawdd yd- oedd hyny i mi-eglwys Ballarat yn 100 o aelodau, ac eglwys Sebastopol yn 25, heblaw cynnulleidfa- oedd tra lluosog. Gadewais faes eang, brodyr a chwiorydd anwyl, a chyfeillion lawer yn mysg pob enwad, a brodyr hoff yn y weinidogaeth, yn Ysgot- iaid, Germaniaid, Saeson, a Chymry. Er mai nid myfi oedd y gweinidog Cymreig cyn- taf a aeth alien i Australia, eto myfi oedd y gweini- dog Annibynol cyntaf, ac adwaenir fi yno, fel y dy- wedai y diweddar Barch. J. L. Poore, Agent y Coloured Missionary Society, The Father of Welsh Independency in Aurtralia.' Gan fod ar yr esgynlawr weinidogion o bob enwad, a brodyr o wahanol enwadau, o fy mlaen yn fy nghroesawu yn ol i wlad fy ngenedigaeth, dy- ddorol iddynt fydd crybwylliad byr am y gwahano 1 weinidogion yn nhrefedigaeth Victoria. Enwaf hwynt yn rheolaidd yn ol fel yr aethant yno, mor belied ag yr wyf yn cofio.-Mr. Abraham Jones, (B.) Nid hir y pregethodd wedi myned drosodd, ac y mae yn awr yn Railway Porter. Y Parch. Zorobabel Davies, (B.), yr hwn sydd Ysgolfeistr yn awr yn Pleasant Creek. Mr. Moses Jones, (T.C.) Llafur- iodd yn Melbourne am beth amser; oddiyno aeth i fyny i'r wlad, ac ni chlywyd byth son am dano. Y Parch. J. Davies, (B.), Forest Creek, gynt o Lan- hiddel. Mr. Dan Jones. (T.W.) Mr. Llewelyn, (T.C.), yn awr o Lansawel, Morganwg. Minau oedd y nesaf yna y Parch. John Thomas, (A.), gynt o Casnewydd. Parch. D. Jones, (A.), gynt o Saran- ton, America, yr hwn a godwyd i bregethu yn nghapel Als, Llanelli. Parch. Mr. Jones, (B.), Er- wood. Mr. E. T. Miles, gynt o Bethesda, Merthyr Tydfil, yn awr myfyriwr yn ngholeg Melbourne. Parch. W. M. Evans, (T.C.), America. Parch. J. R. Evans, (B.) Parch. W. M. Thomas, gynt o Pembre. Ac yn olaf oil, y Parch. E. Lewis, gynt o Bont-y- pridd. Mae amryw wedi eu codi i bregethu yn y drefedigaeth hon, ac y mae un o honynt, sef Mr. D. Davies. (T.C.), yn awr yn ngholeg y Bala, ac yn cael ei ddysgwyl yn ol eto. Mae gan y T.C. 7 o gapelau yma; y Bedyddwyr 3; yr Annibynwyr 7; achosion cymmysg 3. Y gweinidogion Cymreig sydd yn y drefedigaeth yn awr ydynt y rhai canlynol:— Trefnyddion Calfinaidd,-Y Parchn. T. Roberts, Tarrangower; a W. M. Thomas, Melbourne. Annibynwyr.—Y Parchn. D. N. Jones, (ond nid oes ganddo ofal gweinidogaethol); John Thomas; E. Griffiths; ac E. Lewis. Bedyddwyr.—Y Parch. J. R. Evans. Mae y Parch. E. Lewis, (A.(, gynt o Carmel, Llan- giwc, Morganwg, yn llafurio yn Newcastle, trefedig- aeth New South Wales; a'r Parch. D. M. Davies, gynt o Berea, Blaenau, wedi hyny o goleg Aber- honddu, yn llafurie gyda'r Saeson yn Wallaroo, South Australia. Eisteddodd Mr: Farr i lawr yn nglianol y gymmeradwyaeth uchaf, ac addawodd draddodi darlith ar Australia i'w gyfeillion yn Brynmawr yn dra buan. Dilynwyd Mr. Farr gan y Parchn. W. Griffith, Abersychan; T. F. Nathan, (yn Seisnig); Mr. Powell, (T.C.); E. Evans, Cendl; W. J. Morris, Llanelli; Mr. Thomas, (B.), Zion D. Williams, Blaenau. Caiff eu hannerchiadau ymddangos yn ein nesaf.

GETHSEMANE.