Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Telephone 1157 Royal .Established 1857. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations mad, THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 246 Walton Brech Road, Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1771. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer & Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally colleoted. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 42 JONES, ESTATE AGENTS VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Slreet, Liverpool. Telephone No.—5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. Tim. 42t Asnum. Established 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS it VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool CLate 2 Stanfleld Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and InsuranoM effected. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 3034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool 20 FREEHOLD HOUSES, 6/6, near Sheil Rd. FOR SALE. CHEAP. Telephone 2207 Royal. PIERCE MATTHEWS, Estate, Mortgage & ilnsurance Agents, Valuers 26 Pearl Assurance Buildings. St. John's Lane, Liverpool. Properties carefully managed. Mortgages quickly arranged, and Insurances effected. Property bought and sold. J. L. Langford & Slater, F-A Estate iit Land Agents* Surveyors & Valuers, JCivil & Sanitary Engineers, Property Auctioneers, Spec- ialists in all Estate Matters, 26 North John Street, Liverpool. Telegrams Approval, Liverpool." Telephone: 2169 Liverpool Central. Established 1884. Txlsfhoki 4585 BANK, QUEEN FOSTER, (James Henry Foster, F.S.A.A.) ESTATE, MORTGAGE AND INSURANCE AGENTS Building SocletiesSOffices, 2 South John Street, Liverpool (Oorntr of Lord Itrwt) T. WOOSNAM ROBLKII1 Practical Estate Agent, Rootle Estate Off'0^ No 52 STANLEY RD., »°°T j (2 doors from Bedford Road)i 1 Litherland, Seaforth & Pierhead Oars paBSt • J Established 1884 # 'Phone* | O. JONES WILLIAMS, ] ESTATE AGENT & VALUEB, 24 SIR THOMAS LIVERPOOL. Personal supervision in every general management of all kinds Estate, Confidential Reports and a for Purchase, Sale, or Mortgage. 8 Est. 1885. Telephone 103 eøtt CHANGE OF ADPBEJ^ Bromley Edwards (Late Bromley Edwards, 6 Royal SNØ I ESTATE A ENTS. JMORTGAGE INS ikANCE BPOKE;F-S. HAVE REMOVED TO j 102 Kxrfedale Rd., UvgfP^ PILES. 9 WHY SUFFER FKOM THIS COMPLAINT ? WHEN YOU GA™" ABSOLUTELY CUR^P By a fpw applications of a remedy Piinatef! been known to fail to cure the most obs long standing cases—whether itching, P or bleeding. WITH HEMROIDlNf- Hundreds have be*n cured in South 5 | po^.l' the proprietor discovered this wonder to w. It is now introduced for the first tinie_ oountry2 so that all snfferers can give i and be convinced of its marvellous It is a clean, ready application *p.ts c" h t*e relief it gives and permanent MJ V T estimonials on application, or the f" inspected at the following address, proprietor and lobe obtained from r+uatfl' D. H. EVANS, Dispensing 148 Lodge Lane, Liverp POST FREE 2/3 Jones' Hotel (Established over 100 years). Jnjlj Suffolk St., Pal! Mall, Lofl"" (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thanet Telegraphio Address- Pleasant,' Lond • q .T(" The Well-Known I\.e & from Wales for RHEUMATISM, LUMBAGO, SO1* BACK-ACHE, WEAK SORE THROAT, BURlV, CUTS, BRUISES, &c.t is t MORRIS EVANS HOUSEHOLD OIL, Sold in Bottles, 1/li, & 2/6, by GrooeJ8 Chemists, or from the undermention Chemists, or from the undermention Lancashire Representative— EDWARD R. HUGHES. .T 13 Dundonald Road, A, Agents— T wetPj' JACK SH RP. 38 Whltechapel, LEWIS JO LEWIS. 20 VerulamS ¥ree0* Book of Testimonials, &c., sent P°s Application to the Manufacturers Morris Evans & FESTIMTOG. N. f0»x Pris 6ch. Drwyr 0 SWYDDFA'R (BRYTS0IS' Gweledigaetjl Cwrs v Bl/ (allan o r "Bardd SEF rhan o faes llafur y Cvtnraeg a gynlielir tan nawdd Lerpwl yn ystod y gaeaf dyfodol- TV Hane),s y Divvygl |aV Diwygwy^ Yn cynnwys hanes Mr. Evan rieni, ei ddygiad i fyny,ei &c., &c., gan y Parch. Thorn e\ Gorseinion. Hanes oychwyn1 iad y Diwygia drwy .GJmradoa^V/ ysgrifennu gan lenorion Hanes Mr. Dan Roberta a ^.uyP1 Evans, a chargliad o farddonxae y iad. ddarl»^> Cynhwysa y gyfrol liawsio &2 rhai a gyhoeddir am y walt\%erts, darluniau o rieni Mr. Evan Casllwchwr, ao Ysgoldy 0«tt PRIS HANNER COROn" E. W. EVANS. »» po'" Swyddfa'r Goleuad — — FREEHOLD LAND FOR sM-; AT SEFTON PARK, WAVERTREE, TOWNSEND LANE, W LONGMOOR LANE. 1 ADVANCES MADE IF REQUIRED .> e" Apply: Jones & Hughes, 13 WhitechflP t TELEPHONE"¥=7372 CENTRAL.
WEDI GWRANDO LLEW TEGID YN…
WEDI GWRANDO LLEW TEGID YN ARWAIN EISTEDDFOD. Ni chaed er dydd Mynyddawg—gyffelyb Gaffaeliad godidawg; Celfydd arweinydd enwawg, Ail yr hwn ni welir rhawg. Anian fu yma yn uno-aspri Ac yspryd yr Athro Genau ffraeth, chwaeth a cho', PwyH addien heb ball iddo. Dihafal dafod hefyd—fynega Fwyn agwedd ei ysbryd Awen, bron eon ei bryd, A chalon ddifrycheulyd. Ai-abedd diarliebol a nwytiant Mewn afiaeth naturiol, Ac arddull pur—eglur 61 Diwylliant y deallol. Ei foddus hunan-feddiant-ddynoda Ddyn edwyn ei safiant: Gwyr o'r celfau golau gant, O'i olwg dim ni chelant. Dyfal ddadleua'n defion-a'n breiniau Ger bron ein cymdogion, Nes synnu rhai'n a'u swynion Fwy-fwy o Fynwy i Foil. Oes eisieu dweyd i Saoson-ai-ti urddas A mawrddawn y Brython, Ein harwyr a'n Henorion ? Dyma'r gwr yn siwr i son. Awn o dan ei arweiniad—hyd lannau Chwedloniaeth y Famwlad Y werin glyw oreu'n gwlad Yng ngeiriau ei Angharad. Athrofa Bala-Bangor. TANAT. Drama boblogaidd.
66T ROAD Y RHOD."
66T ROAD Y RHOD." [GAN GWYNETH VAUGHAN]. PENNOD VIII.Y DEDDFAU ANWIR. (jparhad). OND nid oedd y wers wrth fodd Edward aeth ymaith o'r gweithdy yn benuchel, heb gymeryd sylw o undyn. Chwarddodd y dyn- ion wrth edrych ar ei osgo yn troi ar ei sawdl. Rhaid i chi dendio, William Jones, ne mi gewch chi weld bod yn bosibl difetha plant hefo gormod o fwytha. Mae'r boy bach yna yn mynd yn Ilond 'i ddillad yn brysur." Gwenodd ei ewyth'r, ac atebodd Dydi r bai i gyd ddim arna i. Mae pob un ohonoch chi fydd yn troi yma wedi gneud y' eh gore i gael gan Nedw gredu ei fod yn glamp o ddyn er's blynyddoedd." T*r-n* Glynnai vr hen enw Nedw wrth William Jones wedi i bawb arall ei droi heibio. Sut y bydd hi tua'r dre hefo'r lecsiwn yma, tybed ? 0, mi fydd yma helynt ma'n siwr, ond mi fydd yr hen Lan Elen yn ddigon sad y trofi mawr yna yn y pen arall i'r sir sy'n ots o ffond o'r Toris yma, ac fel ma petha rwan, synnwn i ddim na charia nhw 'u dyn. Mi fuo'r hen Forgan farw ar amser anhwylus iawn. Tase r hen law yn cwffio, mi fasa'r Toris mor am- ddifad o'r siawns ag o eira'r lIynedd." Mi neith helynt y sgwarnog yna les i ni, ond gofalu cadw'r stori i fynd," ebe y dyn a eisteddai ar y corn gwlanen. Wei, mi gawn weld, hynny ydi, mi geith rhai ohonoch chi weld-mi fydda i wedi mynd cyn hynny-be sy'n mynd i ddigwydd yn y wlad yma," ebe'r hen wr ar bwys ei flon. Fedra'i ddim gweld fy hun fod yna ddim mwy i ddisgwyl- oddiwrth dirfeddianwr, ne ddyn cyfoethog, i ni fel gweithwyr, er iddo fo alw'i hun yn Whig, mwy nag sy i ddisgwyl oddiwrth y Tori, yn ol fel y gwelais i ar hyd y blynyddoedd hel i'w sgrepan 'u hunain mae'r ddau barti yma fel 'u gilydd, a rydd yr un ohonyn nhw ddim i'r werin fedra nhw gadw rhagddyn nhw. Ac am roi dim i Gymru, wel, rhad yn 'u cylch does yna 'run Aelod Seneddol yn cofio'n bod ni wedi i'r polio fynd drosodd, os nag ydi Henry Richard. Y fo ydi'r dyn o'r lot i gyd, gystal a gwela i." 0 ie, dyn iawn ydi Henry Ricnard and ewch chi i chwilio am gymar iddo fo, mi ddowch adra hebddo fo. Ma nhw'n deyd i mi fod o'n rhwbath sy'n codi dyn a'i deulu i fod yn Aelod Seneddol, ac os ceith dyn 1 neud yn aelod o'r Weinyddiaeth, ac i honno ddal wrth 'i gilydd ddigon o hyd, y bydd yno bensiwn anferth i bob un ohonyn nhw. Dyna fel mae arian y wlad yn mynd, yn lle helpu y gwan a'r tlawd ar 'u traod. Wel, mae hyna'n esboniad pam ma r Whigs a'r Toris yma fel 'u gilydd yn glynnu mor ddigwilydd wrth 'u swyddi wedi i'r wlad hen flino arnyn nhw. Felly'n wir-pensiwn iddyn nhw. 'Ro'n i dan yr argraff bod y gwpilch yn cael 'u talu yn bur dda am y nesa peth i ddim gwaith, er g-fryr dyn y basech chi'n meddwl bod nhw'n gweithio pe taech chi'n coelio nhw'u hunain; ond mi ddengys gwaith He bo fo, a does yr un ohonon ni'n ddigon gwirion na wyddon ni mai r dynion sydd yn 'u swyddi bob amser,nid y mynediaid a'r dvfodiaid yma sy'n gneud y gwaith." Fel yna mae hi ymhob man, ffrindia bach," ebe William Jones; "y rhai sy'n derbyn y tal mwya sy'n gneud y lleia (J waith." A mi ellwch ddeyd peth arall hefyd, Will- iam Jones,—ma'r lladron mwya yn y wlad vma vdi'r rhai sy a'u dwylo ymysc arian y cylioedd. Hael ydi Hywel ar bwj s y wlad ie, ac mae nhw'n dosbarthu arian y wlad rliyngyn nhw'u hunain a'r ffrindia rydd ddigon o sebon meddal iddyn nhw, yn liollol Iddi- gvdwvbod. A chwech o un a hanner dwsin o'r Hall ydi hi hefo'r WhigH a'r Toris yma. Dydw i ddim yn credu y daw yma byth drefn ar y wlad yma nes v deffry'r werin i'w hawl- iau, ac y bvdd 'u llais nhw i'w glywed yn y Senedd yn dadla 'u liachos 'u hunain. Glvwaist ti mo'r hen ddihareb arall V' gofvnodd yr lienwr 'Gwyliwch y pryf I gwvd or domen.' Mae'r dynion yma sy wedi codi o ddim, fel bvddwn ni'n deyd, yn rhai oitha peryglus i ddelio hefo nhw. 'Rydan ni i gvd yn cotio pan oedd y gwr bach yna o'r Plâs Llan Elen yn dipyn gwacach 'i bwrs, a mi rydw i'n 'i gofio fo'n burion yn cerdded o gwmpas a dwv droedfedd yn dangos 'i phen allan o boced 'i gl6s o, a da'i byth o'r fan yma, mae o hyd heddyw yn cerdded 'run fath yn union a phetai o'n chwilio an) 'i ddwy droed- fedd, er nad ydi hi ddim yn 'i boced er's talwm. A mae o am fynd yn Aelod Soneddol fel Whig Wel, mae o gystal Tori a'r un fu mewn Senedd erioed. Ma iiliw, ii deyd i mi fod o wedi treio'i law fel areithiwr tua'n coleg newydd ni er's rhyw bythefnos, a'r peth cynta ddeydodd o oedd, As me and another lady was coming down the street,' a mi fu bron i'r bechgvn hollti ar 'u traws wrth chwerthin, a mi waeddodd un ohonyn nhw nerth 'i ben Didn't know you were a lady, old boy.' Ond dyna, waeth tewi na siarad, mae r dyn mor gyfoethog, wel neb mo'i feia fo, a mae o wedi chwyddo gormod o gwmpas 'i ben, wel ynta mo honyn nhw chwaith. Ond mae peryg mawr o'r ochr yna fel y mae'r gwaetha. Rywsut, y peth cynta ma'r dynion yma sy wedi codi yn neud ydi cicio'r vsgol i ffwrdd ynte, a sathru ar bawb o'u cwmpas yn ddi- drugaredd. Lie mae salach mistar na gwr y Frongaled yna ? Mi fynn y geiniog olaf o groen pawb rywsut neu gilydd. Mae o fel carreg yn union. A gellir deyd yr un peth yn union am wr y Plas. Mi fasa'n bleser fotio i'r hen Gapten Lloyd, ond mae'r hen ddyn yn rhy ddedwydd yn gneud pob man o'i gwmpas mor debvg ag y medrith o a'i deulu i ardal yr Arglwydd. Dyna i chi batrwm o deulu sy'n y Ty Gwyn yna." Ie, teulu sy'n fendith mewn ardal ydyn nhw does dim eisio talu i neb am hel achau at 'u gilydd, waeth sut, 'u cael nhw ydi'r peth na dim eisio brolio bod y Capten wedi dechra gweithio yn naw oed, ac heb ddim ond hanner coron yn 'i boced, a'r Ilu o straeon yna glywir ynghylch y gwyr ariannog yma. Po basa gen i fot, mi cawsai Capten Lloyd hi o flaen neb yn y sir." Wel, rhaid i'r Whigs ofalu am wr y Plas y lecsiwn yma. 'Oedd o'n eista ar y fainc pan ddaru'r ustusiaid yrru'r dyn yna i'r jail ? Na, wrth lwe iddo fo, mi safiodd 'i ben, ne deutha fo yn dragywydd i ddim Sonodd. .RQedd o tua Llunden yn agor capel." Oedd, mi wn. Mae o'n ffond o'r job honno. Mi barith 'i enw fo am dipyn ar y cerryg sylfaen." Mi fase'i enw fo a'n lienwau ni i gyd, ffrindia, yn para i berarogli'n llawer hwy pe baem yn llenwi ein dyddiau a daioni. Mi fase'n burion iawn pe cawsem ni well ymgeis- ydd am fod yn Aelod Seneddol, ond rydw in gobeithio y fotith pawb dros yr egwyddor, a gadael iddo fo fel dyn. Mi fotith yn iawn hefo'i barti, wrth gwrs ddysg y dyn byth siarad yn debyg i ddim," ebe William Jones. Peidiwch chi a bod yn rhy siwr y fotith o hefo'i barti, William Jones. Peidied neb a synnu pe bae o'n gwerthu'i barti yr amser rheitia wrtho fo. Mi ofalith yr hen law am fod y tu cleta i'r clawdd, gewch chi weld." Nid oedd yr un ohonynt wedi sylwi fod Edward wedi dyfod yn ei ol yn ddistaw am unwaith,beth bvnnag, ac yn gwrando yn astud ar bob gair, nes iddo ofyn yn ei ffordd wreiddiol ei hun Newyrth, oes eisio lot fawr o arian i fynd i'r Senedd ? Pam ma rhaid i ddyn y Plas yna gael mwy na neb ? Oes, machgen i, rhaid cael lot o arian i fynd i'r Senedd. Mae'r lecsiwn yn costio lot fawr. Fydd dynion yn talu am fot ? Wel, na, ewyllys da dyn ydi rhoi fot ond mae arna'i ofn fod amal un yn gwerthu fot er hynny am saig o fwyd fel Esau." Oes, William Jones, oes, yn ddiameu a mi gwerthweh chitha ninnau," ebe'r hen wr, os na chliriwn ni o'r gweithdy yma cyn hir.' (I barhau). -0-
YSTAFELL Y BEIRDD
YSTAFELL Y BEIRDD Y oynhyrchion gogyfer fi'r golofn hon, i'w oyf J eirloPBDEOG, SO Stanley Street, Fairfield Diolch i chwi, gynifer a hyn ohonoch, am beidio mynd i'ch gwyliau heb gofio yn gyntaf am ymweled a'r Ystafell lwydaidd hon, ac mae yma fwy o waith nag y gellir taflu golwg trosto heno i wneud sylw o bob cyfan- soddiad o'r eiddoch. Mewn Bedd mae'n Buddug.-Chwitli medd- wl fod y foneddiges dalentog wedi ymadaw, gan ddilyn ei thad-Gweirydd ap Rhys—a'i brawd Golyddan. Cyhoeddir y llinellau ar fyrder Wedi Gwrando, &c.-Da gennyf groesawu yr awdwr i'r Ysttafell, ac mae yr englynion yn gymeradwy iawn—y gwaith a'r testyn. Croesaw, Wanwyn.—-Ac y mae croeso i'r bardd am ganu mor swynol. Cymeradwy. Ymadawiad y Parch. W. M. J.-Eiiglyiiion rhagorol, ac i'w cyhoeddi yn ddioed. Eidduniant, &c.Boecl goreu daear a nefoedd iddynt. Cyhoeddir y llinellau. Rhaid dwyn yr ymgom i ben ar hyn.
Y LLWYBRAU CEIMION.
Y LLWYBRAU CEIMION. 'Roedd eira'n drwch ar fryn a dol ('Rwyn methu cofio'r flwyddyn), I mi peth hynod iawn yw hyn- Sef nad yw'r eira'n awr mor wyn A phan o'n i yn hogyn. 'Roedd gweld y ddol mewn mantell wen, Mor hardd a dim a welswn, Ac oddidraw dewisais n&d, A cherddais drwy y claerwyn 6d Mor union ag y medrwn. Ond pan gyrhaeddais ben y daith. Ces loes a siom nid bychan, 'Roedd 61 fy nghamrau hyd y ddol Fel llawer ereill ar eu liol, Yn hynod o ddiaincan. A gofid barai'r Ilwybr im' Bob tro'r edrychwn arno, Nes gwenodd haul o awyr laa Gan lwyr ddileu y llwybr cas Na welwyd byth mohono. Upper Brighton, R. H. JONES.
CROESAW, WANWYN.
CROESAW, WANWYN. Croesaw, croesaw, Wanwyn hawddgar, Cennad gobaith ydwyt ti Adnewyddi wyneb daear, A distewi glwyfus gri Pan y dringi i'tli deyrngadair Gwelir Anian, fu yn wyw, Yn dadebru'n fwyn o'i llesmair 0 dan swyn dy sangiad byw. Croesaw, croesaw, Wanwyn hawddgar, Telyn seini ar bob tu Dawiisio'r wyt yn hardd ddigymar Ar adfeilion gaeaf du Hoen a bywyd yw'tli gymdeitliion, Llifa gwefr drwy natur glaf Pan y clyw dy fwyn acenion— Cwyd dy galon, daw yr Haf." Croesaw, croesaw, Wanwyn hawddgar, Tymor mill a brieill man, Amser hap us meibion cerddgar— Cor y wig—i seinio can Dyna'r gwcw gyda'i deunod Wedi croesi'r moroedd mawr, Emyn hedydd ddaw yn gawod Oddiar lwyfan nef i lawr. Croesaw, croesaw, Wanwyn hawddgar, Wyt addurnydd gore 'rioed Daear yn ei gwerddwisg ddengar Chwardd fel rhiain ugain oed Wedi 'molchi 'ngwlith y cyfddydd, Gwelir hi ar waun ac allt Yn ymlonni'n nrych y wawrddydd, Ac yn prysur drwsio'i gwallt. Croesaw, croesaw, Wanwjni hawddgar, Popeth sydd mewn afiaith mwyn Dawnsia'r heulwen ar y braenar, Ar y dolydd prancia'r wyn Chwiban bugail ar y mynydd Sy'n adseinio drwy y glyn, Can aradrwr ar y meusydd Glywir yn y bore gwyn. Croesaw, croesaw, Wanwyn hawddgar, Gyda'th addewidion hael, D'wed dy flodau sydd ar wasgar Am y ffrwythau fydd i'w cael; Dygi neithdar, sy'n adfywiol I rai gweiniaid, yn dy gol; Cysgod wyt o'r Gwanwyn nefol Na ddaw Gaeaf ar ei ol. Y Bala. Pbpk
MEWN BEDD MAE'N BUDDUG.
MEWN BEDD MAE'N BUDDUG. Nos da. Gorffwys ac hun, uwchben dy feddrod Haith Mae angel Gobaitih gwyn, dy wylio wna, A'th gwsg fydd melus wedi'th ddiwrnod gwaith, Nos da. r; Nos da. Wyt fel dy flodyn hardd, yrr neges dlos I grwydro'n mhell ar aden deneu'i chwaJ Er cau dy emrynt, persawr leinw'r nos- Nos da. Nos da. Mae'n Wanwyn, darfu stormydd gauaf blin, A'th freuddwyd tlws, Na fyddai'n fythol ha' A ledodd edyn yn y nefol hill- Nos da,. Nos da Dy enw gyfaredda 'mrou o hyd, Os na bu groesi llwybr yn nhroellau'r yrfa Yng nghalon Awen curai'n bronnau 'nghyd, Hyd nes cawn gyfarch yn iaith Awen Gwynfa,— Nos da, Nos da. Malltraeth, Mon. CATRIN 0 FON.
--0----OlBEN CYRN Y BRAIN
--0- OlBEN CYRN Y BRAIN tJIPRYS Y PASG.-Cyngerdd prawf a fu gan Wesleaid Penybryn, Mwnglawdd, dydd Llun y Pasc. T. Williams, Y.H., Tanybryn, yn y gadair Jos. Edwards, Y.H., y Fron, yn barnu'r canu a Phencerdd Gwynfryn wrth yr offeryn. Fel hyn yr enillwyd Unawd her, Tom Morris, Brymbo, a Jos. Williams, Coedpoeth, yn gydradd. Her-unawd i ferched, M. Carrington, Gwynfryn. Unawd soprano, Gwladys Hooson a --— Taylor, Southsea, yn gydradd. Tenor, J. Davies, y Rhos. Baritone, Ap lolo Ddu, Coedpoeth. Unawd i blant, Sarah E. Thomas, Coedpoeth. YN NERCWY8, yr un dydd, enillwyd fel y canlyn Parti Cymysg, E3, Parti Bwlch- gwyn, tan fatwn Will Roberts, Hen Giat. Baritone, David Jones, Llanfynydd. Araith ar Dy'r Arglwyddi, nes ei chwalu, R. J. Jones, Glanllyn. Araith ddifyfyv, darllen darn heb nodau, a chyfieithu, R. J. Jones. Myfyr Machno, o ger y Wvddgrug, yn arwain Humphreys, Plas Beinion, yn tafoli'r cantor- ion a'r Parchn. E. Jones, Sychtyn, a Garnon Owen, Llanarmon, y testynau lien. Y Ile'n orlawn, a'r ffau boethaf y bum ynddi fawr erioed. YNG NGHOEDPOETH, nos Sul y Pasc, clywid pedwar ugain o leisiau c6r yn canu Croeshoeliad Stainer, Gorfjenwyd (gwaith y diweddar Thos. Jones, Canrhawdfardd), Teilwng yw'r Oen Handel. Y cor tan arweiniad R. E. Jones, mab Canrhawdfardd, ac ynddo bigion lleisiau'r ardal. Yn canu'r prif ddarnau ceid Miss M. Carrington, Ap lolo Ddu, Jos. Williams, Robt. Owen, Win. Rees, Philip Warne, A. Evans-Woodward, a T. Jones. GWYR GWADDWesleaid New Brighton (sef ein New Brighton glofaol ni wrth droed Cyrn y Brain yma) i'w cwrdd pregethu y Sul a dydd Llun diweddaf, oedd J. LI. Jones, Llan Rhaiadr E. 1. Humphreys, B.A., Llansilin; a W. R. Roberts,Gwrecsam. Cyflym liosogi y mae gwyr y graddau gyda'r Wesleaid yr oes hon. A GWYR GWADD TALWRN (A.). Coedpoeth, yr un dyddiau, oedd D. LI, Morgan, Pontardulais, a S. Thomas, New- market. AR GIP YNGOLE'R LLUSE.HN.-Nos Iau ddiweddaf caed darlith ar Ganrif o waith Cymdeithas y Beiblau," gan y Parch. W. R. Roberts, Gwrecsam, yn Salem (A.), Coedpoeth a W. H. Jones, yn dangos y lluniau yn ddeheuig ar y gynfas lian gyda'r llusern. Y Parch. R. Evans y Nant yn y gadair, ac I. Roberts ac R. Bellis yn diolch troa y cyfarfod am y wledd. GY WEI RIO REHOBOTH.—Y mae Re- hoboth, addoldy Wesleaid Coedpoeth, yn cael ei adgyweirio a'i ail bincio drwyddo a chwedi y gorffenner, diau y bydd yn un o demlau harddaf Gwlad Faolor. Yn ystod y pincio, addolir yn Neuadd y Plwy, DYDDIADUR PUR LAWN sy gan Pencerdd Gwynfryn, ein beirniad canu ieuanc o Goedpoeth. Dyma rai cyhoeddiadau beirniadu sy yn ei ddyddiadur Eisteddfodau yn Nant Mawr, Llynclys, Caerwys, Llanfair D.C., y Cymau, &c. Un rheswm ei fod yn cael ail gyhoeddiad ydyw ei ddull mwyn, diym- lirost o ddangos ei wybodaeth. YR ERYR.