Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
._-.... _....,,,_..-,,,,.-....-..._,,,,_...._:-,,,".,,,,,,,,_.-Diaconiaid…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Diaconiaid Ddoe a Heddyw. GAN GRIFFITH JOHN. V. W.E.B. ay ei liniau.Atat Ti, 0 ein Duw cla, 'rym 'n troi'n gwynebe heno eto, Rho Isarwf i ni "n bod ni '11 troi mewn gwirionedd. Mae wedi digwydd fel hyny weithe yn y fan hon. Jjiolch am y teimlwn awydd cael gair a Ti. Pe byse ni 'n ymddwyn at '11 cyfaill gore ar y ddaear fel y gwnawn atat Ti, ofer fy;e gofyn iddo ef am gymwynas. Ond mae Dy amynedd Di mor wahanol, ac 'rwyt Ti mor garedig i'ii bath ni, fel 'rym yn rnentro dod atat Ti. Yn Ei enw F,' 'ryin ni 'n dod, wa'th do's gyda ni ddim tamed o haeddiant 'n hunen. A gwyddost i'r dim fath rai ym ni. Arglwydd dp, dwed air bach Dy Hunan heno wrtho ni dlodion daear. Os gwnei, awn gartre wedyn yn gyfoethog, ac yn rhydd o'n beiche. 'Rym wedi teimlo felly lawer gwaith ar ol cwrdd gweddi fel hwn. Dyna 'n cysur heno yw, Dy fod Ti'n wastad yn barod i'n croesawu ac i roi cardod fach i ni-un fach, fach o'th law Di fydd yn un fawr iawn i ni. Ein Duw da, bydd i fyny a'th arfer y tro hwn eto. A bydd yn wr canol yn ein mysg, yna 'rym yn shwr o'r fendith. Yng Ngwr Dy dde- heulaw ma 'n gobeth ni, ac ynddo Fe y go- beithwn hyd farw. 'Rym wedi gweld fod Ei haeddiane Fe y tuhwnt o fawr-mor fawr fel nas gelli Di ddim gwrthod dim i ni pan ym ni ynddo Fe. Edrych arno ni heno fel rhai sydd ynddo Fe, a'n bod ni wedi 'n cuddio yn Ei glwyfe dyfnion E'. 0 Arglwydd, 'rym ni'n trio'i ddilyn E', ond gwyddom yn ddigon da mai'n anniben iawn y gwnawn. Ond 'rym ni'n trio, a gwyddost Dithau hyny, er ein bod ni'n methu'n amal iawn. 0 Dduw, perffeithia Dy nerth ynom ni, le, yn y llwch gwal hwn ydd ger Dy fron yn awr. Falle na fydd yn golled yn y byd i Ti os mai colli fydd 'n diwedd ni ond 'rym am i Ti gal y clod o'n hachub ni er gwaled '11 gwedd heno. Dwedest wrth ryw un ys lawer dydd Nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol." Mae'n od iawn genom ni os nad ym ni yn rhywbeth gwell nag annuwiolion erbyn hyn. Arglwydd mawr, anadla arno ni heno, fel yr arhoso'th Ysbryd ynom byth mwy. Os gwnei hyny, rhodiwn ninau wedyn mewn newydd-deb buchedd. Rym ni weithe yn hiraethu am joino'r dyrfa sy'n Dy wasnaethu wrth Dy fodd. 'Rym ni nawr yn methu gwneud wrth fodd 'n hunen. Dysga Di ni,. ac yn y ffordd y mynot, ond dysga ni er rnwyn Dy enw Dy Hun. A gad i ni, tra ar y 11awr, i gael pitch anthem Duw a'r O'n," fel y gallwn ninau mas o law i joino a'r dyrfa sydd wedi eu golchi a'u cannu I jo i rio rn wad yr O'n.' N.G. yn y gyteillach.vVel) frodyr anwyl, dyma ni ag un fraint newydd yn 'n gafel. Dewch i ai gyda'n gilydd i wneud y gore ohoni. Dall rhai ohono ni ddim disgwyl llawer mwy o ftafre fel hon. Rhown 'i-i hunen heno yn llaw yr Ysbryd-yr unig Un all wneud trefen ar 'n clonau aflan. Mae'n debyg iawn 'n bod ni gyd wedi bod ar 'n gore heddi gyda phethe'r byd hwn. Byddvvn ar 'n gore yn y cwrdd i elwa rhwbeth fydd ynom ar ol i ni ddibenu a'r byd hwn. 'Rym yn gwbod na ddaw'r tamed lleia o'r ddaear yma gyda ni i'r byd mawr tragwyddol. Odi hwnw wedi cal chydig le yn 'n clonau'r wythnos hon ? Os na chas e', arna'i of on mai ehydig fyddwn ar 'n gwell o'r ewrdd heno. Y peth ddath i'm meddwl i wrth godi bore heddi oedd-"A wyt ti 'n ngharu I ? A shwt y gallswn i ateb y cwestiwn pe gofynse Iesu Grist i fi. Fel hyn y tries ei ateb Iesu da, gwyddost lie y troaf fy wyneb ers blynydde pan mae'n wasgfa arno i. Flynydde lawer yn ol trown fel arall. Ond ffeindies o'r diwedd nad oedd gan neb na dim yn y byd hwn ddim i'w rlloi i fi mewn gwasfeion." Dyna'r ffordd gynta'r ateb- ais. Shwt mae arnoch chi, frodyr a chwiorydd, pan fo chi mewn gwasgfa ? Ffaelodd Iesu Grist [iod helpu, naddo'n wir, ynglyn a'r byd hW11. Pan fo i'11 drafferus arno i gyda golwg ar y tipyn ffarm yco, mae E'n wastad mewn Rordd yn eodi'n nghalon i, ac fel ta Fc'n dweyd, I N.G., paid ofni: mae'n all right mlan yna." A dwedes wrtho Fe fel hyn Iesu mawr a'm Gwaredwr, wn i yn y byd beth sydd ishe arno i ar gyfer yr ochor arall i'r hen lorddonen. Do's neb wedi dod yn ol i'r ochor hyn wedi iddo groesi i'r ochor draw. Ond Ti ddest Di yn ol, ar arosest spello amser gyda Dy ddis- gyblion. Ac mae'n fwy na thebyg i Ti ddweyd wrthi nhw beth od'd 'u iehe mwy a nhw pan yn lando'r ochor draw i'r dwr. Beth bynag am hyny, gwyddost i'r dim 'm ishe i ar gyfer y daith. Rho hwnw ynte i fi, er gwaeled pech- adur wyf fi." Ac yn wir i chi, frodyr a chwiorydd, pan ddwedes wrtho Fe fel yna, teimles yn g'lonog iawn am spell wedyn. Teimlwn fel pe byse gyda fi, er na allswn i ddim dweyd pwy ffordd, ddigon i gwrdd a'r ofne i gyd ac i wynebu'm Barnwr cyfiawn.' W.E.B. yn y gyfeillacli. Wii i ar ddimws daear beth weda heno. Mae mor anodd cadw'r asenod wrth dro'd y mynydd. Ac mi fentra weyd mai fel hyny mae gyda chithe. Ac mae gyda chi a fine g.lifer o asenod, nid dim ond un fel Abram. A dyna chi ddyn net o'dd Abram Duw yn 'i alw fe yn gyfell iddo Fe'i Hunan Ond ni wnewn y gore ohoni heno eto. Wal, dyna i chi ddechre, bid a fyno. Gobeitho y cymer E' ofal o'r hen gre'duried am gwpwl o funude. Ie, dyna fe, 'ro'dd N.G. mewn hwyl fawr heno am ei fod wedi anghofi'r asenod. Ond dw i nemor byth yn cal awel o dan f'aden- ydd. Ond am yr asenod o'wn ni'n siarad. Frodyr bach, shwt mae stopid y creduried annyweth i'n disturbo ni yn y cwrdd heno, dyna sy'n bwysig nawr. 'Does dim ond un ffordd am dani—i gadel nhw, a peido edrych yn ol dros 'n 'sgwydde i weld os i nhw'n saff. 'N gwendid ni yw ofni y rheda nhw bant, ac na chawn ni ddim o use nhw mwy. Dim perygl, frodyr bach, ond i stretcho tipyn i ddringo llethre'r mynydd, a'u gadel nhw yn 'i ofal E'. lVIae E'n gwbod yn ddigon da fod rhaid i ni wrth yr asenod gyda phethe'r byd hwn, ond dim ar y mynydd. Os bydda nhw yn 'n meddwl n1 ar y mynydd, mae nhw'n stopo ni i ddringo. 'Do's neb i fod gyda ni yno ond y Fe bendi- gedig. Ac ond i ni ymrci cal 'i gwmpni E', 'rym ni'n shwr o lwyddo, ac hefyd anghofio'r asenod annyweth. Frodyr anwyl, gwasgwn heno i gwmpni'r Hwn ddwedodd, 'Wele, 'rwyf Fi gyda chwi bob amser." O 'rwyf fi, W.E.B., wedi bod yn 'i gwmpni fine E' ambell i dro fan hyn pan ar y nglinie. A dyna fcaso'11 splended o'dd gwaith tranoth 'Roedd y twls i gyd fel pe byse nhw wedi newydd eu oilo. Ond beth mae'r Gair yn weyd ?-" Na ofelwch am y dydd yfory." Ie, cweit reit. Mae cyf- eillach nos Fercher yng nghwmpni Duw ar ben y mynydd yn gneud gofynion dydd Iau yn rhai rhwydd iawn i'w gneud. Wel, wel, mae mynd ar ol yr asenod wedi mynd a lot o amser y gyfeillach. Dyma fi yn ystedcl lawr nawr.'
Tabernaci, Llanelli.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tabernaci, Llanelli. Ynghanol marweidd-dra crefydd yn y cyfnod presennol mae'n dda gennym allu dwyn tyst- iolaeth o fywyd effro a chydweithrediad yr eglwys enwog hon. 0 dan weinidogaeth y Parch R. Gwylfa Roberts, D. Litt., 'mae'r cynnydd ymhob cyfeiriad yn amlwg iawn—gwisga'r achos wedd lewyrchus. Y mae parch a serch yr eglwys at Dr. Roberts yn fwy nag erioed. Dangosodd felly nos Saboth, Awst igeg, pan y cyfiwynodd y swyddogion (yn absenoldeb y gweinidog) y priodoldeb o godi ei gyflog £ 5 yn y mis yn ychwanegol at y minimum blaenorol. Wedi i amryw frodyr siarad o blaid awgrym y swydd- ogion, cododd yr eglwys oil ar ei thraed fel un gwr i gadarnliau penderfyniad y swyddogion. Y Saboth canlynol diolchodd Dr. Roberts i'r eglwys am ei charedigrwydd eithriadol iddo. Dywedodd ei bod wedi gwneud ymhell tuhwnt i'w ddisgwyliad, a llawenliA yn yr arwydd newydd hon o'u parch tuag ato. Apeliodd am barhad o weddiau yr eglwys yn y dyfodol i'w nerthu yn ei waith pwysig, ac edrychai ymlaen, os yr Arglwydd a'i myn, i dreulio blynyddoedd lawer eto yn ein mysg. Y mae Dr. Roberts bellach wedi treulio yn agos i bedair ar bymtheg o flynyddoedd yma, ac y mae Duw wedi ei fendithio a'i lwyddo yn fawr. Deil ei weinidogaeth mor felys ag erioed, a'n gweddi yw am i'r Arglwydd ei nerthu i fod yn gyfrwng o allu mawr eto i ddwyn lliaws at draed y Gwaredwr. AEIVOD. I
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
? T?.? W?&R?ma'$ Fxvomi?. | Ir¡¡'= PW ?jrooJow? j?VoMtM. | DOWT FAIL TO orr IT. II. PMtf IL, C&Fdfgff.
I Llanbedr-pont-Stephan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Llanbedr-pont-Stephan. Esgeylas.-Saif ysgoldy Esgerlas ar wastadedd gwaun Gellan, o fewn pedair milltir i Lanbedr. Bu saint y cylch am flynyddoedd yn cynnal Ysgol Sabothol anenwadol o dy i dy tan y symudwyd yn y flwyddyn 1897 i benderfynu cael adeilad addas i'w chynnal. Llygadwyd am ddarn o dir ar waelod cae garw,' a meddylient eu bod yn adnabod y perchennog yn ddigon da, ac y caent delerau esmwyth ganddo, sef y diw- eddar John Andrew Jones, y Llwyn, ger Ffald- ybrenin. Penodwyd Dafydd Lewis, 'Stafellwen, yn ddirprwyaeth i'w weld. Os da y cofiaf, saif cegin 'Stafellwen ym mhlwyf Cellan, a'r pen- ucha ym mhlwyf IJtancrwys. Cododd Dafydd yn fore fore Llun, gan droi allan yn drwsiadus, pendant ei gerddediad, a phenderfynol ei gam, gan deimlo baich ei genadwri yn pwyso'n drwm ar ei fynwes. Cyfeiriodd ei gamre heibio talcen Pantynos, lie bu Rhys Nailor yn troi miloedd o hoelion allan dros ei eingon i ofiaid Ffald- ybrenin er pedoli da cyn eu cerdded dros Glawdd Offa i ffeiriau Lloegr, a thros Benlleti lawr drwy bentref Ffaldybrenin, heb oedi dim, er dal John Jones megis ar ei wal cyii cychwyn ohono a'i lwyth gwerthfawr arferol o gig moch am Ferthyr ac Aberdar. Ni fyddai pobl y gymdogaeth nemor yn ffwdani dweyd John Andrew Jones yn 11a wn, ond John Jones y gelwid ef fynychaf, ac yr oedd yn ffafryn gan bawb oblegid ei arabedd a'i natur dda. Ni fu neb yn hoffach o ysgafnder diniwed na John Jones. Un o brif elfennau John Jones oedd adrodd yn ddoniol chwedl newydd—chwedl ar ochr ddifyr bywyd. Byw ar y bryn oedd John Jones, ac nid yn y pant. Pan gyrhaeddodd Dafydd y Llwyn yr oedd y tenlu ar foreufwyd, ac ni chaed fawr drafferth i berswadio Dafydd y gwnai tamaid les iddo yntau wedi cerdded mor fore. 'Roedd Dafydd y pryd hwnnw, fel nawr, yn gredwr mawr yn yr opn er,' ac allan a'r ddau i'r clos i drin y mater. Wedi i Dafydd gael gwared ar y baich trwm wasgai ar ei fynwes drwy gyflwyno'r cais am ddarn o dir i adeiladu ysgoldy yn ddoeth a deheig o flaen John Jones, teimlai erbyn hyn yn weddol ddibryder ei feddwl. Dyma John Jones yn ateb ar amrantiad, gyda gwen ddireidus ar ei wyneb Chwi a'i cewch, Dafydd Lewis.' Da, machan 1, wir,' meddai Dafydd. Ond arhoswch dicyn bach. Beth yw'r telere ? Faint o lis rowch chi ? Wel,' meddai John, gyda drygioni yn chware dros ei wyneb, chi gewch hyd fore'r adgyfodiad.' Fachgen meddai Dafydd, gan ymddangos heb fod yn eithaf clir ar y btyivyddoedd. Ond cyn iddo gael amser i ofyn bryd byddai'r terfyn yn cymryd lie, Wei,' meddai John, os nad y'ch yn foddlon ar y bore, chi gewch hyd y prynhawn.' Deallodd Dafydd erbyn hyn, a dyma'r ddau yn torri allan i chwerthin yn iachus—y chwarddiad iachaf fu ar fuarth y Llwyn yn ystod cyfnod John Jones. Dychwelodd Dafydd adref yn sionc ei gerdded- iad, gyda chydwybod esmwyth iddo wneud gwas- anaeth crefyddol pwysig y bore hwnnw drwy sicrhau darn o dir yn rhad ac am ddim, er i arch Duw gael lie i roi ei throed i lawr ar was- tadedd tawelwch gwlad. Aeth y cyfeillion ati yn ddiymdroi i gludo'r coed a'r cerryg gyda chalon ewyllysgar, ac nid hir fuwyd cyn gorffen y cyfan a chynnal Jiwbili ddycld yr agor. Bu amryw o gewri'r Pulpud Cymreig yn gwasan- aethu yma o dro i dro, a'r Saboth diweddaf bu'r Parchn. E. B. Lloyd, Bwlchnewydd, a B. Davies, Llandysul, yn pregethu i lond yr adeilad o bobl ddefosiynol. 'Roeddent eu dau yn wahodded- igion i'r cymydog caredig Mr. D. Lloyd Lewis, Tegfan (mab i'r diweddar Barch. E. Lewis, Bryn- berian, a brawd i'r addfwyn a'r llednais Athro D. Morgan Lewis, M.A., Aberystwyth). Y mae hon yn ardal a hanes iddi. Gerllaw y ganwyd ac y magwyd Dr. Phillips, y pregethwr a'r dar- lithiwr a'r esboniwr enwog o Tylorstown. Ger- ilaw y mae Ffrwd Cynon a Charreg Hirfaen. Dywed hanes mai hen ryfelwr neu lywydd oedd Cynon, o dan Arthur Fawr, i Arthur ei gladdu o dan Llech Cynon, ac i Arthur hefyd godi Carreg Hirfaen, neu Hirfaen Gwyddog, yn gof- golofn i'r gwyddog hwnnw laddodd efe fel cosb am lofruddio ei goginydd. Fel y canlyn y canodd Cellan i darddiad Ffrwd Cynon :— Yng nghesail y mynydd mawreddog, ysblenydd, Dan dusw bach mwynrydd o redyn a brwyn, Tarddella Ffrwd Cynon, yn ddistaw a mwynlon, Heb unrhyw gas gwynion yn Ilygru ei swyn Mae'n camu yn wiwrydd dros wyneb y mynydd, Dan ganu yn ddedwydd ei halaw tra mad, Ac .una'r uchedydd ac awel y mynydd Yn swn ei llifogydd, nes swyno y wlad.'