Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

WYTHNOH 0 RYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WYTHNOH 0 RYFEL. Y RHYFEL ar ben, yn wir Y fath gamsyn- iad a chroesddywediad, Yr oedd yr wythnos ddiweddaf mor brysur yn Neheubarth Affrica a'r un a fu o'i blaen, yn inron, ar hyd yr un mis ar bymtheg sydd wedi myned heibio er pan ddechreuwyd tynu cledd mewn dig. Y mae Arglwydd (neu, yn hytrach, erbyn hyn, laril) ROBSRTS wedi cyrhaed adref, ac wedi ca.el ei Ion groesawu am ei wrhydri a'i gadofyddiaeth fedrus gan fyrddiynau y brifddinas rhyfelgar eu hys bryd, Y Frenhines a Thywysog Cymru, hefyd, a wnaethaut, eu rhan hwytbau i an- Ihydeddu y gwron oedranus ar eiddychwei- i.d. Cafoci(I yr hyii a arferai yr hen Ruf einiaid ei roddi i'w cadfridogion pa,n yn dyfod i'r Ddinas Dra.gwyddol' ar ol ennill budd- ugoliaethau mewn gwledydd peilenig Croesaw y Congcwerwr.' Gyda hyn o wahaniaeth, modd bynag :-yn Rhufain ni byddai ammlieuaetli yn meddwl y werin o berthynas i'r hyn y croesawent y cadiyw am dano tra mai yr hyn a glyw r yn mhob man, ar yr heol, yn y trên, a pha le bynag yr ymgyferfydd dau ynghyd, ydyw:—Pa beth a wnaeth efe Am ba achos y gwneir yr holl orhoian 1 Nid oes neb, yn ddïau, yn ammheu teilyngdod Iarll ROBERTS ei hun i dderbyn anrhydedd. Cydnebydd pawb ei ddewrder personol, a'i allu fel cadlyw. Ond, dyna, meddant, nid ydyw y rhyfel ar bin. Y mae y B^riaid etto heb eu daros- t vng. Yn hytrach, y maent mor fyw ag erioed, i bob ymddangosiad. Y Maeseiliau da dros gredu mai rhy brin yr oedd BuBS ei hun yn malio nemawr am I yr helynt' a wneid yn ei gylch ddydd lau. Gwyddai mai peth gwneyd ydoedd i fesur helaeth a bod y Swyddfa Rhyfel yn meddwl llawn cymmaint am dani ei hun ag a feddyliai hi aru dano ef wrth ei wneyd. Amlwg i bawb ydoedd nad oedd calon neb yn llawn yn y gwaith ond yn unig y tylwyth swyddol ei hun. Gwir i dyrfaoedd ddyfod ynghyd; ond, .wy a wad mai prudd der ydoedd nod- wedd benaf hyd yn oed y croesawiad hwn 1 Prudd-der meddwl y cyhoedd ydoedd lawn mor ddwfn a pbrudd-der yr hin yr un diwr- nod. A pha ryfedd, yn wyneb gwefrebau y mellt ddydd ar ol dydd 1 Y mae y sefyll- fa yn dywyll, a'r yni a arddangosir gan y Bv^riaid yn taraw pawb a syndod, a rhai a. phryder. Wrth gwrs, ni chredwn fod ag- ZD wedd petbau i barhau byth fel hyn. Pan oedd yn eglur fod y Bftriaid yn bwriadu gwneyd ymgais i ail oresgyn Tref- edigaeth y Penrhyn, ystyriai hyd yn oed eu cyfeillion penaf eu bod yn ymgymmeryd ag anturiaeth nad oedd enw gwell i'w roddi arni na rhyfyg. Yr hyn a'i gwnai yn un rhyfygus ydoedd, y Ifaith eu bod yn dibynu am eu llwyddiant ar fod eu brodyr-Ell. myniaid y Penrhyn—yn codi mewn gwrth- ryfel, ac yn eu cynnorthwyo. Heb hyny nid oedd gobaith am ddim ond gorthrech- iad Hyd yn hyn i.,i-d yw yr arwyddion yn gwbl galonogol i'r disgwyliai hwn — hyny yw, os buont hwy yn ei goleddu. Ar yr un pryd, os na bu yr ymgodiad cyffredinol disgwyliedig, y irae yn amlwg y buasai bron yn ammliossibl i'r minteioedd gore-gyaol allu cyrhaedd mor bell i mewn i Drefedig- ath y Penrhyn ag y maent ei-soes wedi cyrhaedd heb fod yno lawer yn eydymdeirn- lo a. hwy, ac yn d'-mgos hyny mewn gweith- red a gwirionedd. Pe gofynid i ni paham na bae Elirnyn y Penrhyn vn sylweddol gobaith eu brodyr, y Bwriaid, ynddynt, dywedem mai nid ofn canlyniadau gwrth ryfel a yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig ydyw yr achos yn gymmaint a phrinder moddion i ryfela. Pot ddefnydd yw i bobl godi mewn gwrthryfel os na bydd ganddynt bylor ac ergydion? Y mae ganddynt en dryliuui; and y defnyddiau i wneuthur gwaith a, hwy nis meddant, yn sicr, mewn unrhyw gyiiawnder ag i'w galluogi i droi ailan i'r maes i ymladd. Y prinder hwn yn unig—ac nid d ffyg cvdymdeimlad nac arswyd y canlyniadau sydd yn cadw Ellmyn y Penrhyn rhag bwrw eu coelbren yn ddibet- rus gyda'u brodyr o'r tu hwnt i'r Vaal-eu brodyr ag y mae DE WKT wedi llwyddo gyda medrusrwydd digyffelyb i'w dwyn i mewn i ganol Trefedigaeth y Penrhyn, a'r rhai yr ydym yn ofni y bydd arno angen am fwy o fedrusrwydd fyth i'w cael oddi yno Yr ydym yn gwneyd y sylw diweddaf hwn am fod pum brigad o Brydeiniaid eisoes wedi myned rhyngddynt a'u ffordd yn ol i'w gwlad. Heb son am gsel adgyflenwad- au mewn ymborth a chtid-ddarpariadau, pa f .dd y gallant hwy dori trwy neu osgoi y fath niferoedd. Gwna y wasg Dorxaidd gryn yst*r yn nghylch rhyw gyfnewidiad, meddant hwy, sydd newydd gymmeryd lie yn null Argl- wydd KITCHENER 0 garioy rhyfel yn mlaen; a'r hwn, fel yr honant, sydd yn Cael ei nodweddu gan elfen o I dyi,-erwch' rhyfedd- ol. Nid ydyw e: arglwyddiaeth erioed wedi ennill y cymmeriad o fod yn gadfridog I tyner.' I'r gwrthwyneb. Ystyrir ef y cadlyw mwyaf caled a di dostur o fewn y fyddin. Yr ydym yn ab i roddi esboniad llawn ar yr ymddangosiad o dynerwch sydd yn ei weithrediadau diweddaraf. Wedi cael gorchymyn o'r pencadlys, oddi wrth ei uwchafiaid, y mae efe. Yn ystod y senedd-dymmor byr, fis yn ol, dywedwyd rhai pebhau miniog ynghylch y llosgi fierm- ydd, yr alitudio gwragedd a phlant, a rhai pethau barbaraidd eraill oedd wedi bod. Yr oedd Ty y Cyffredin, ar y ddwy ochr iddo, mewn tymmer pur uchel o herwydd y pethau gwradwyddus, annheilwng o ddyn- ion a Christiongion, oedd wedi eu gwneyd Bu raid i gynnrychiolwyr y Swyddfa Ryfel yn y Ty roddi eu gair yn ddiymmod nad oedd dim pethau cyffelyb i gael eu cyfiawni yn y dyfodol. Wrth gwrs, yr ydys yn cymmeryd yn ganiataol (yn niffyg adrodd- iad pendant) fod mellten' wedi ei hanfon i'w arglwyddiaeth i beri iddo attal ei law haiarnaidd, a phawb ond y Davy Mail, a i ddosbarth, yn barod i lawenychu. I air fel hyn nid oedd gan IVITCHKNER ddim atteb- iad i'w roddi ond ufudd-dod. Yr ydym yn dyfalu fod un peth arall yn tueddu i rwydd hau llwybr ufudd-dod iddo yntau befyd, nid amgen ei fod ef yn dechren sylweddoli y ffaith mai nid ar frys, trwy y moddion hyn, na moddion cyfrelyb, y gall efe ¡ 1 wyr dori asgwrn cefn gwrthryfel y Bwriaid.' Tybiodd liawer nad oedd eisieu i Arglwydd R/ BERTS ddim ond troi ei gefn, ac i Argl- wyd-J KITCHENER ddim ond ymaflyd yn yr awenau, na byddai y diwedd yn digwyddo ar ffrwst. Ond atteb y Bvvriaid i'r cyf new id iad yn y gadlywiaetb, ac i'r anrhaith nr en hen gartrefi, ac aiJtudiaeth eu teulu- oedd, ydoedd gufesgyn y Penrhyn. a dryllio ilinellau y cymmundeb Prydeinig. Cafodd y fyddin dan lywyddiaeth KITCHENER ryw- beth amgen i'w wneyd na gwibio yma a thraw i gynneu coelcerthi mewn tai annedd. Ac yn ? icr, y mae dinystrio Ilinellau y cymmundeb yn cynnwys mwy o berygl i'r fyddin Brydeinig hyd yn oed na gwaith y gelyn yn goresgyn y drefedigaeth hyny ydyw, os nad oes gan ddeiliaid Ellmynaidd y Frenhines yno lawer mwy o bylor ac ergydion yn nghildd, ac yn barod at eu llaw, nag y mae llawer yn barod i gredu sydd ganddynt Hyd yn oed a chaniatau fod y darpariaethau hyn ganddynt, etto y mae y fyddin Fftraidd yn awr yn llawer mwy diffygiol mewn moddion clud nag y bu hi erioed o'r blaen. A chymmeryd pob peth i ystyriaeth, nid ydyw yn bossibl y gall DE WET a DELAREY, er eu holl fedr, ddal lawer yn hwy na diwedd yr wythnos hon heb gael eu dal, neu eu gyru yn ol dros derfynau y Drefedigaeth i'r Dalaeth Rydd—y diweddaf yn fwyaf tebyg. Ond, gadawer i ni gymmeryd trem ychydig yn fanylach ar y sefyllfa. Ar linell Pretoria a Komati ymddengys, ar hyn o bryd, mai y Bwriaid ydyw Meistriaid y Sefyllfa.' Ar y llinell o Natal i Pretoria, hefyd, yn tnwedig tua hanner y ffordd o Standerton i Heidelburg, yn gystal ag yn nghymmydogaeth Utrecht, y maent i'w 0 cael mewn cryn north o ran nifer, Ar y terfyndir gorllewinol, drachefn, ceir hwy yn dwyn gwarchau yn mlaen ar Zeerust, a'r Prydeiniaid, o honynt eu hunain, neu dan orfod, wedi gadael Otto's Hoop. Yr holl wlad rhwng Vryburg a Kuruman, hefyd, a feddiannir gan y gelyn. Y maent i'w cael o hyd yn gyfagos i Moddersfontein yn ogystal. Ar Nooitgedaclit hwy a wnaeth- ant ymosodiad o'r fath fwyaf effeithiol, yn ad daliad dialeddol am y llosgi ffermydd, a'r bwrw allan ar wragedd a phlant yn y wlad oddi amgylch. Mor bell ag y gwyddis, y maent yn parhau i gadw meddiant o Ficks- burg j ac yn rhanbarth Wepener y mae eu nerth yn lied fawr. DE WET a'r Cadfridog CHARLES KNOX ydynt o hyd wyneb-yn- wyneb yn Senekal. Hawdd genym gredu y gallai fod y ddau yn teimlo yn lied flinedig erbyn hyn. A gwaeth na'r ewbl, y mae y cadfridogion, o dan ryw esgus neu gilydd, yn dyfod adref, neu yn myned at eu hen gatrodau, gyda phob agerlong sydd yn morio allan o Dref y Penrhyn, am nas gallant oddef dull Arglwydd KITCHENER o gario y gwaith yn mlaen. Mewn perthynaa i sefyllfa y goresgynwyr yn gywir yn ISinvfedigaeth y Penrhyn, ymddengys fod yr EUrnyniaid oeddynt yn byw yn y rhan- barthau heb fod yn bell o Dref y Penrhyn yn mvned yn nghvfeir;ad y dosbaith a elwir Caer- narfon tra yn Bechuanaland y mae yr Ellmyn U'.waith yn rhagor wedi hwrw eu coelbien gyda'r Bwriaid. Fel yr ydys wedi awgrymu, nid ydyw Ellmyn y Drefedigaeth ei hun yn debyg o ddilyn eu hesiampl. Am fod Fraser- hurg yn ddiogel yn meddiant y fyddin Bryd- 11 lz;1 einig, y mae y prif fylchau dros Fynyddoedd Nieuveldfc, hefyd, yn ddiogel. Ond, y mae y Bwriaid wedi tori allan yn nghyfeiriad Willis- ton, gan ymwneyd am y brif ffordd fawr sydd yn arwain o Matjesfontein, yn ÐgOS i Worcester, i Griqaaland a Bechuanaland. Os na allant hwy yn y rhandir hwn ddarbwyllo y trigolion i ymuno a'u hachos, byddant yn sicr o ennill ysbail yn ddibrin mewn mgirch a da corniog, os na oddiweddir bwy gan y Prydeiniaid, a dwyn y cyfan yn ol oddi arnynt. Pe mai DE WET a fuasai yn arwain y Bwriaid yn y rhan hwii o'r macs, buasem yn barod 'i ddal ar ei droed' ef y gaUasai efe ddwyn ei ysbail drwodd yn ddiogel, er gwaethaf ei elynion. Ond HERTZOG sydd ac y maeefe etto heb ein hargyhoeddi fod doniau hynod DE WET ganddo ef. Modd bynag am hyny, y syndod mawr ydyw fod y Bwriaid, er eu holl bybyrwcb, wedi llwyduo i ymwtbio mor bell tua'r oeheu yn Nhrefedigaeth y Penrbyn ei hun ag y maent wedi gallu gwneyd. A oes a wnelo y fiaith hon rywbeth a ffaith arall sef, fod o hanner can mil i drigain mit o wyr y fyddin Brydeinig, ar hyn o bryd, allan o gywair da i ymladd. Nid ydynt yn debyg o fyned lawer yn bellach, y mae yn debyg. Ond, yn y cyfamser, pa beth a wna ein hawdurdodau 1 Am yr adeg bresennol, ag eithrio y gwirfoddolwyr sydd yn ymrestru yn Nhref y Penrhyn, yr ydym wedi cyrhaedd i'r pen am ddynion Gwir ft) I mil. wyr newyddion yn cael eu casglu ynghycl yn Awstralia ond, er gwneyd y brys mwyaf, nis gallant hwy gyrhaedd y man y mae eu heisieu hyd ddiwedd Chwefror. Os penderfynir am- ddifadu chwaneg ar yr India, hefyd, o'r milwyr, aiff mis neu chwech wytbnos heibio cyn y gallant hwythau gyrhaedd. Ond, yn mhell cyn hyny, y disgwyliad hyderus ydyw y bydd y sefyllfa wedi clirio, a'r anganrheidrwydd am lawrer o adgyfnerthion wedi niyned beibio a i thra yn mhell o gredu fod y rhyfel drosodd, yr ydym, ar yr un pryd, yn credu y bydd gores- gyniad y Penrhyn yn fuan yn cael ei rifo yn mJsS y psthau gofidus a chywilyddus a fu ac hwyrach y rhan fwyaf o'r goresgynwyr eu bunain yn ddiogel fel carchatorion rhyfel hyd yn oed cvn y bydd mis cyntaf yr ugeinfed ganrif wedi llithro dros y gorwel. Ond, er dy- weyd hyn, nid ydyrn yn sicr na bydd gweddill yn aros i wneuthur difrod a galanas ar linellau ein cymmundeb.

l Dth 11 r iib a Ill. <.JC"'..-"

--"""-''''''-''''"--'''''--'''''''''----'-..--.…

- DYCHWELIAD ARGLWYi D ROBERTS.

[No title]

TR A M OR.