Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
LLANDDEUSANT.
LLANDDEUSANT. Y mae yn y dreflan dawel hon gymdeithas lenyddol weithgar, yn cael ei dwyn yn mlaen gan aelodau o'r gwahanol enwad&u Ymneillduol a r Eglwys. Hefyd, y mae yma lyfrgell; a rhwng y ddwy, deallwn fod gwaith da yn cael ei wneyd. Bydd genym air etto am y llyfrgell pan geir cyfle i dalu ymwtliad & hi.
BODFFORDD.
BODFFORDD. Dyddiau LInn a Mawrth, bu cyfarfod chwarterol yr Annibynwyr yn Bodffordd. Hysbysir iddynt gael cyrddau da yn y gynnadledd ac ynglJn a, r pregethau; ac fod golwg lewyrchus ar yi achos yn y lie, yn gystal ag yn Rhos y meirch, o dan weinidogaeth y Parch. H. L. Jones.
LLANGEFNI.
LLANGEFNI. Bu ga,n y Wesleyaid bregethu bob nos yr wythnos ddiweddaf, a'r Sabbath, i gynnulliadau lliosog, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Hugh Jones, cadeirydd y dalaeth, a, D. Gwynfryn Jones. Yn Ngbymdeithas Lenyddol Moriah, nos Wener, o dan lywyddia.eth Mr. E. M. Roberts, Bango, cafwyd dadl ar 'A ydyw Cristionogaeth yn cyfreithloni rhyfel ?' Agorwyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr. T. Edwards, G landwr Stores; ac ar yr ochr nacaol gan Mr. John Davies, Glanhwfa Road. Cymmerwyd rhan yn mheIlach gan y Meistri R. Powell, Glandwr; J. Owen, High Street; W. lyilliams, Tt capel; Ellis Jones, Regent House; G. O. Williams, Caxton House; R. Davies, Ysgol y Bwrdd a D. Jones, Bulkeley House. Pleidiodd y mwyafrif dros fod Cristionogaeth yn cyfreithloni rhyfel. Cafwyd cyfarfod amrywiaethol tra dyddorol yn iddoldy Penuel, yr un noson, o dan nawdd y Gobeith- lu. Llywyddwyd gan y Parch. T. Frimaton, y gwein- idog. Heb law adrodd, canu, &c., bu yno gystadleu- teth fywiog ar ddatganu y don Penuel,' o waith Mr. Henry Jones, Caradog Villa, buddugol yn nghystadl- suaeth Penuel beth amser yn ol. Barnwyd parti o lan arweiniad Mr. LI. Hughes, oriorydd, yn oreu. DTN AR DAITH.