Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

PRYDDEST Y GADAIR:-,Y BARUG.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PRYDDEST Y GADAIR:Y BARUG.' DbbbtkiasOM dair pryddest, a da genym allu hysbysu fod pob uii o'r tair yn rhagorol, ac o deilyngdod cadeiriol diammhenol. Heb law hyny, y maent er yn wahanol iawn eu nodwedd-mor agos i'w gilydd mewn teilyngdod fel nad ydym, ar y darlleniad cyntaf, wedi cwbl foddloni ein hunain gyda golwg ar y bryddest oreu o'r tair. Modd bynag, credwn fod yma un yn rhagori yn glir ar y gweddill 'Hwyr A wen yr Eos.'—Dyma y cyfansoddiad mwyaf uchelgeisiol o'r tri, ac y mae arno gryn lawer o ddelw y clasuron Groegaidd. Ceir yma ddelweddau Diana, Phcebus, Orora, ac Apolo; a'r oil wedi eu gwisgo a «wyn barddonol. Mae y bryddest hon, o'r dechreu i r diwedd, yn ddyfeisgar ac awenyddol, a rhai darnau o h»ni yn wir farddonol. Mae yr awdwr yn berchen meddwl treiddiol a barddonol; a phe buasai ei addfed- rwydd yn h&fal i'w ddychymmyg, nid yn hawdd y gallesid ei guro. Mae y barug' a'r gwlith' yn gym- maint o'r un peth fel yr oedd yn demtnsiwn i'r bardd, weithiau, anghofio y gwahaniaeth sydd, hefyd, rhyng- ddynt. Ond barddonol am y naill neu y Hall yw syn- iad y pennill hwn:— Piererin crwydredig, di-gartref, A dreulia ei einioes rhwng deafyd; Y dydd yn nghyfrinach y wybren, AIr nos yn nghyfrinach y gweryd.' Fel yr awgrymwyd, mae y cyfansoddiad awenyddol hwn yn ddiffygiol mewn addfedrwydd. Oeir ynddo broflon fod yr awdwr yn efrydydd helaeth—hyddysg yn ngweithiau prif-feirdd estronol, a'u dull o feddwl, ya gystal ag yn llenyddiaeth ac arddull barddoniaeth Gymreig; ond, hyd yn hyn, nid yw wedi meistroli y gelfyddyd farddonol yn ddigon trwyacl i ganu yn dry- loyw, natnriol, a gorphenedig Er y defnyddir ef gan amryw feirdd diweddar, gair ammheus, a dyweyd y lleiaf, yw 'anwel,' a chondemnir ef gan rai o'r Oymreig- wyr goreu; ond tuedda yr ymgeisydd hwn i'w wneyd yn ddiflas drwy ei or-fynychu Diilana hyd lwybrau yr anwel. Hyd lwybrau cyfriniol yr anwel.' 4 Yn norau 'r gweledig a'r anwel.' Mae rhai darnau yatwyth eu mydryddiad yn peri ini syna at ddarnau eraill afrwydd a llac. Mae y myneg- iant mewn manaa yn bur floesg a rhyddieithol; ac y mae yn euog nid yn unig o or-fynychu yr un geiriau, eithr, hefyd, yr un syniadau. Teifl ambell air llanw di-bwynt i fewn, megys y gair 'annigonol' yma:— 'Tra 'n ddiwyd uwch ben ei orchwylion, A'i gleddyi yn llym, arm gonol' Ac wele enghmifft o'r arddull llac y cwynwn o'i herwydd Di-gyna Ai gleddyf yn llym Ar nos genedigaeth rhos natur, Trywana yn anterth ei rym Rosynau a blodau cain Eilir.' Nid natnriol mo'.r 'lief' a glybuwyd gan y bardd o feddrodau y lafant a'r lili Ar rawd ymofyngar at heibio Beddrodau y lafant a'r lili, A chlywaf eu llef yn dyrehaf u Ysbeiliodd y barug ein tlysni I" Waeth hyn yna na chwaneg: bardd o grebwyll cryf, ond anaddfed fel cyfansoddwr, yw awdwr y gerdd hon. Y Gobaith Gobaith.'—Dyma gyfansoddiad bardd- onol arall. Rhêd, hefyd, wythien o athroniaeth gyf- oetbog trwyddo. Mae graen a newydd deb barddonol agos ar bob Dennill, ac unoliaeth meddyliwr cryf ac eglnr o'r dechreu i'r diwedd. Dyma fel y dechreua Ddidrwst ymwelydd Yn anian dlos, Farug ysblenydd Yn ust y nos; Pa lygad a'th ganfu Yn d'od i lawr I arian lathru Y ddaear fawr?' Teimlwn, fodd bynag, y dylasai y bardd ymgadw yn helaethach nag y gwna gydag ystyr naturiol a chyntaf ei destyn. Gdlasai wneyd hyny pe mynasai, o blegid y mae yn berchen awen ddarlnniadol yn gystal ag athronyddol. Ond mae yr athronydd gryfed ynddo fel y sudda yn bur gynnar at egwyddor ddofn a gen- fydd megys yn. nammeg y barug.' 'Deimli fwy na 'i oerias dreiddiol ? Oes i w hynt un ddeddf ? Oes i farug ddyben denol Yn ei deyrnas leddf ?' Ac a y bardd yn ei flaen i ddilyn yr egwyddor o waaanaeth adfyd yn mywydau dynion, fel y gwelir ef yn y pennill canlynol: Mae ei groes i fywyd, Gauaf tua haf- Dan y barug bu pob un O'r rhosynau braf.' Mae ganddo lineHau barddonol a thyner ar y dig- wyddiadau cyessgredig yn Gethsemane. 'Dan y Barug.Cyfarfyddir yn y gerdd bon ag ambell hen syniad. Y mae yn hen bryd, bellach, i adael heibio y dywediad am yr 1 huan yn llosgi gwisg y ddu-nos,' &c. Ond y mae hon yn bryddest wir awen- yddol a thestynol. Mae yr awdwr hwn, hefyd, yn troi y 'barug' yn ddammeg; ond teimlir ei fod yn canu yn dda ar ei ystyr cyntaf, ac yn cadw y drychfeddiv! naturiol yn bur ffyddlawn wrth ei ddilyn i'w ail ystyr. Er nad yw yr ymgeisydd hwn yn treiddio ddyfned a 'Gobaith Gobaith' i'r egwyddor o hunan-aberth a awgrymir gan y testyn, y mae yntau yn arddangos yr egwyddor hono. Mae y naill yn fwy dansoddol, y llall yn fwy cyfansawdd—yn cyfleu yr egwyddor mewn cymmeriadau byw. Mae gan l an y Barug' rai damau nodedig o dlws a thyner. Felly, yn ddiau, y mae ei ddarluniadau o'r 'Enethig afiach' a 'Gethse- jpane.' Dyma rai llinellau o'r olaf < A'i wyneb ar y barug oer, Yn chwerw wylo; A llewyrch gwan y sobr loer Yn symmud drosto: Ni bu y barug Ilym erioed Mor oer-mar finiog, Ag vdyw heno—dan y coed, Lie mae 'r Eneiniog. Y* barug' ar lywethaa'i ben, Ac ar Ei enaid; I Mor oer yw 'r byd a'r nefoedd wen I'm Hi6r bendigaid! I Sut na bae 'th ddeifiol oerni 'n troi ¡ Yn fwynder heulwen, Ar wedd yr anwyl Wr sy'n rhoi Ei Hun i'r crosbren ?' unu qui oca augcu y J-J- darllen y tri chyfansoddiad gydar unig amcan o ddyfod o hyd i'r goreu. Mae y tri yn wahanol o ran nodwedd eu barddoniaeth, a cheisiasom eu beirniadu yn ol eu rhywogaeth, ac heb eu cyfyngu i unrhywiaeth fympwyol. Yr ydym o'r farn fod Gobaith Gobaith a 11) an y Barug' yn rhagori yn ddiammheuol ar 'Hwyr Awen yr Eos.' Yr ydym, hefyd, yr un mor Slcr yn em barn fod I Dan y Barug' yn rhagori ar I Gobaitb Gobaith,' er cystal yw hwnw. Ac yr ydym, heb un- rhyw betrusder, yn dyfarnu Dan y Barug' yn deilwng o Gadair Eisteddfod y Rhiw, Mai 2 lain, 1908. PEDROG.

_c M Y D D F A I.

! Y TYWYDD. I

Y LLUNGWYN.#

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising