DARLLENWCH ERTHYGLAU (22)
News
I Dydd Mawrth bu tymmestl arall yn nghynghor Aberystwyth. Dadleu yn nghylch rhywbeth a reolid allan o drefn gan y maer yr oeddynt. Am fod y pyffro yn fawr, dywedodd y maer y torai efey cyfarfod i fyny, Gwnewch hyny, ac ewch adref, er mwyn y nefoedd,' meddai Mr. Gibson.
News
I Nid ennill enwogrwydd, eithr hynod- rwydd, y mae cynghor Aberystwyth trwy ei gyfarfodydd cythryblus. Cymmaint oedd y cynnhwrf yn y cyfarfod diweddaf bwn fel yr ymwahanwyd heb fyned trwy hanner y rhaglen.
News
Da genym ddeall fod pob anghydwel- tediad yn mysg yr adeiladwyr llongau ar y Glwyd (y Clyde yn Ysgotland) wedi ei derfynu. Ail ddechreuid gweithio ddydd Iau diweddaf.
News
Ar y dydd cyntaf o'r mis nesaf bydd etholiad cyffredinol yn cymmeryd lie yn ngweriniaeth Panama, yn nghanol- barth America. Ofnir y bydd terfysg- oedd difrifol yn cymmeryd lie yno ar y diwmod. Rhag ofn hyny y mae Llyw- odraeth Unol Dalaethaa yr America wedi anfon pum cant o'i mor-filwyr yno i gadw yr heddwch-
News
.Un o'r gang' ydoedd Mr. William Davies, Waen road, Coedpoeth. Aeth ef a thri ereill i lawr yn y boreu. Tua J hanner dydd yr oeddynt yn rhoddi eu gorchwyl i fyny.
News
Collodd ei gymdeithion olwg ar Will- iam Davies. Yn y fan aethant i chwilio am dano, ac yn fuan gwelsant fod y plangc oedd dros enau y swmp wedi tori. Yn mhen amryw oriau hwy a ddaethant o hyd i'w gorph marw mewn pedair troedfedd ar ddeg o ddwfr.
Advertising
TELBRAU Y «FANER. THIS argraphlad dydd Sadwrn ydyw Ig. yr un ond ei phrit am chwarter, yn rhad drwy y post, ydyw la. Sg., ond talu yn mlaen, neu 2a. os na wneir hyny. Anfonir 2 gopl drwy y post am 2s. 9c. y ohwarter, ond talu yn mlaen, neu Js. 08 na wneir hyny. Hefyd, anfonir 4, 6, neu unrhyw fTnniXer, yn ddi-draul drwy y post gan y Cyhoeddwyr yn ol Iff. yr un. Fan argmphtad dydd Mercher ydyw 2g. Bi phrls am chwarter, yn rhad drwy'rpost, oseymmerir 2, neu unrhyw aifer mwy dan yr un amlen, yw yn ol 23. 2g. yr un, ond talu yn mlaen neu 2B. 6C. OS na "wneir hyny. Ei phrls wedi ei sampio ydyw 2|„ neu 2s. 9c. y ohwarter, ond talu talu yn mlaen; a 3s. os ua wneir hyny. X mae y chwarteri yn terfynu ddiwedd Mawrth, Mehefim Hoot, a Rhagfyr. Yn mhob amgylchiad, anfonir hi yn mfaon hyd nes y ceir rhybudd i attal. I7X0L DALAETH AU YR AMERICA—Anfonir y ddwy FANKR am y prlsiau canlynol yn ddi-draul i'r Unol Dai- aethau :—BAN EH (lydd Ifcrcher yn ol 8s. Sc. y chwarter a BAKBK dydd Sadwrn yn 2s. 2g. y chwarter :-ond yn mhob amgylchiad y mae yn rhaid talu yn mlaen, ac attefir hi pan y bydd yr arian wedi ou treulio. Gellir anfon trwy ddrafft ar fangc, neu ar rhyw dy masnachol parchu* dio?ei urai; vn Llotgr a gwell hynnathalu trwy bapyrau dollars yr Unol Dalaethau, gan fod eu gwerth ivwy yn gyf-.iP.wMiol yu y wlad hon- Gtfryr pawb, hefyd pn bryd y terf vna. SA RTIDO N I A ETH.-Y mae anal un o'r belrdd, wrth anfon y cy tansoddiudan i ni, yn pwyso arnom eu cyhoeddi yr Wjthnub ,e",af.. Dyuiunwn hysbysu y cyfryw fod yn amrahos.'ibl i ni gyflawni eu cais ond fel hyabysiadau. 08 bvdrJ rhyw rai yn dymuno hyny wrth anfon llinellau fHcwoiaecinvu, priodaaau, neu enedigaethau, &c., dealler y l'yd,; yn angeurheidiol iddynt anfon 3c. am bob llinell a y cyfansoddiadau. CAntfellyymddangoslyn :1111 nesnf;' ond ni byddwn vii gyfrifol am en rhagoroldeb fel _c>fii.:sodaiadau. Os na wneir hyn, bydd yn angen- rVi iiaiol i n! anfon y oyfansoddiadar at olygyda y Fardd- nlaeth a chyrn mer felly rai wythnosau cyn ymddangoa in olswm y Farddoniaeth fydd mewn llaw. TEIJERAU AM HYSBYSIADAU. T rma am Hvsbysiiidau Masnachol, Ysgolion, Eisteddfodau, Cyfarfodydd i-lyhoeoaus, Llyfrau, Ac,, fydd yn ol 3s. y fod. fOOd-gan fe,u1' i lawr y ^olofn. I Am o 'Yi Eistitrn,'Sec., yn cynnwya 18 o Eirian neu lai, codir 6c.; ac yn ol Ie. am bob tri gair dros hyny ta islir yn mlaenllaw; neu 4c, y ilinell. 08 na wneir hyny'
News
BWRDD GWARCHEIDWAID LLANELWY. Dydd Gwener cynnaliwyd cyfarfod pyth- ernosol y bwrdd hwn, o dan lywyddiaeth Mr. J. Finnston. jHysbyswyd mai nifer y tlodion yn y Ty ydoedd 155, lleihad o 10 ar yr hyn oedd yno yr un amser y llynedd. Yn ystod y pyth- etnos diweddar estynwyd cynnorthwy i 8^2 o grwydnaid, yn erbyn 184 am yr un cyf- D )d y Ilynedd—cynnydd o 158. Gwrned ym hysbys, hefyd, i'r plant yn y TygaeJ eu croesawu gan bwyllgor dydd -Cg f- titkmai Rhyl, pan ddethlid y diwrnod hwnw, yn y dref hono, ac i amryw foneddigesau a lx;neddigion arddangos gryn garedigrwydd tu-.g atynt. Gohinwyd! cais y porter' am godiad yn ei gyflog.
News
OALCOED, GER TREFFYNNON. Cynnaliodd y brodyr Wesleyaidd eu gwyl bregethu flynyddol y Sul a'r Llun diweddaf. Y gw ahoddedigion oeddynt y Parchn. Hugh Hughes, Ystalyferra; D. H. Morgan, Caer- narfon, a Joseph Benn, Prestatyn. Yr oedd tyrfaoedd wedi ymgaaglu ynghyd, a chafwyd oedfaon nad anghonr yn fuan.
News
Bwriada y Brenin Edward dalu ymweliad yn fuan A Leeds. Yn mysg Plaid Llafur yn y dref y mae anghydwelediad mawr wedi tori allan ynglyn a'r ymweliad. Prif wrth- w«n«biad un dosbarth ydyw y draul sydd yn /w&hanol gyssylltiedig 4'r ymweliad.
Advertising
ARHOLIAD Darllenwyr y 'FANER.' -x-x- Gweler Manylion y Gwobrau a'r Ammodau yn y Faner hon. Mynwch fod yn gystadleuwyr, ac os bydd modd, yn ennillwyr Gwobrwyon.
News
TREFEDIGAETH WRTHNYSIG. YN ol ei mympwypen-arglwyddiaethol ei hun, y mae Llywodraeth Natal wedi attal cyflog y penaeth Zuluaidd Dinizulu o bum cant o bunnau yn y flwyddyn. Gwnaeth hyn er fod Mr. Chamberlain, pan yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau, wedi dyweyd nad ydoedd i gael ei ddwyn oddi arno heb ganiatad Swyddfa y Trefedigaethau yn Llundain; ae, hefyd, er fod Arglwydd Elgin, fel Ysgrifen- ydd y Trefedigaetbau, yn y modd mwyaf pendant wedi gwrthod cydsynio a chais Llywodraeth Natal i'w dynu yn ol. Dy- wedodd Arglwydd Elgin, y byddai gwneyd hyn yn anghyfiawnder a'r penaeth croenddu. Dyma rai o'i eiriau Yr wyf fi yn maen- tumio y dylid cymmeryd yn ganiataol fod Dinizulu yn ddi-euog o'r hyn a roddir yn ei erbyn hyd nes y profer ef.; ac mai rhesymol a doeth, yn gystal ag elfen bwysig mewn rhoddi treial teg iddo, ydyw ei adael mewn meddiant o foddion i dalu, mewn rhan o leiaf, y draul fawr y rhaid ei gwynebu i sicrhau iddo amddiffyniad digonol.' Er gwaethaf hyn, y mae Llywodraeth Natal yn attal ei flwydd-dal ef. Medda ddigon o haerllugrwydd i ddiystyru penderfyniad amlwg y Llywodraeth ymherodrol, ac attal arian cyfiawn y dyn y myn hi ei ddrygu, a'i roddi i farwolaeth, hefyd, yr ydym yn ofni. Pan y clywodd Iarll Crewe, Ysgrifenydd newydd y Trefedigaetbau, am y peth ac nid trwy Syr Matthew Nathan y clywodd, fel y dylasai, eithr trwy y newyddiaduron-yn y fan dadganodd ei syndod,' a gofynodd am ] gael gwybod y rhesymau drosto. Ac arbyn hyn yr ydys wedi cael y rhesymau hyny. Kheswm cyntaf LIywodraeth y Drefedigaeth ydyw ei bod wedi cymmeryd yn ganiataol fod yr awdurdod i symmud Dinizulu o Zululand i Natal yn cynnwys fod ei gyflog yn ogystal yn cael ei attal. Wrth gwrs, esgus gwagsaw ydyw hwn, canys da y gwyddai hi nas gallai wneyd dim o'r fath heb ganiatid Swyddfa y Trefedigaethau yn gyntaf. A y Llywodraeth haerllug yn mlaen hefyd i feirniadu yr hyn a fu yn Nby y Cyffredin pan oedd achos y penaeth yn destyn dadl. Y pryd hwnw bu amryw Doriaid yn annheymgarol ddigon i annos Llywodraeth Natal i fyned yn erbyn y Llywodraeth Ymberodrol; a gallwn fod yn sicr mai nid hollol ddieffaith a fu hyny ar ei meddwl chwaith. Yr oedd swcwr y Tori- aid yn elfen gref yn ei hystyfnigrwydd. Ond, nid yn hir, ni a gredwn, y bydd hi heb gael ei didwyllo. Llywodraeth wrth- nysig ydyw Llywodraeth Natal wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Nis gallai gyd-dynu a IIywodraethau y trefedigaethau eraill yn Ne yr Affrig. Erbyn hyn, y mae hi wedi dyfod yn ddigon gwynebgaled i herfeiddio y Llywodraeth fawr Ymherodrol ei hun. Modd bynag, ni cheir yn holl hanes trafod- aeth y Weinyddiaeth Natalaidd a'r penaeth croenddu yr awgrym lleiaf ei bod hi yn gweithredu fel Llywodraeth gyfrifol oedd yn barod i ac yn awyddus am roddi i un a ystyrid yn droseddwr i gael perffaith chwareu teg i glirio ei gymmeriad. Yn hytrach wedi ei gondemnioyij flaenorol y mae hi, ac yn benderfynol o daflu pob rhwystrau ar ei ffordd i brofi ei dd, Pwy bynag a ddywed ein bod yn rhy lawdrwm ar Lywodraeth Natal a wahoddwn i ddar- llen hanes yr oil sydd wedi ei wneyd ganddi yngljbn a'r achos hwn.
News
YR ARGLWYDDI, Y TIM, AR RHYDDFRYDWYR, YMGYFERFYDD Cynghor Cynghrair Cen. edlaethol y Rhyddfrydwyr ar y 18fed o'r mis presennol. Ac yn Mirmingham o bob man yr ymgyferfydd, hefyd. Nid ydys j yn deall fod y Cynghor wedi gofyn cenad Apostol Diffyndolliaeth i wneyd hyn; nac hyd yn oed Mr. Jesse Collings. Myned yno a wna, ysgatfydd, yn groes i'w hewyllys hwy. A chaiff ei groesawu yn wresog gan filoedd o'r dinaswyr, hefyd, yr ydym yn sicr. Mae hyd yn oed yno filoedd sydd yn teimlo yn gynnes tuag at Ryddfryd- iaeth, gan ddal y ganwyll yn oleu,' a dim- gwyl dyddiau gwell. A phwy a *yr nad all yr ymweliad fod cystal a chenhadaeth arbenig' i'r gweddill sydd yno. Nid hyd derfyn amser yr ydys yn disgwyl i ddinas Birmingham aros yn magddu y tywyllwch politicaidd y mae hi ynddo yn awr. Mor bell ag y deallwn y rhaglen sydd wedi ei thynu allan y pwngc a gaiff yr ystyriaeth benaf gan y gynnadledd hon fydd cwestiwn Blwydd-daliadau i Hen Bobl. Ar y pwngc hwn ni a ddisgwyliwn ddadganiad a fydd yn gyfnerthiad diammheuol i freichiau y Llywodraeth, Ond, dengys pob peth nad yw y Cynghrair am fod yn dawel yn unig ar yr hyn sydd wedi cael ei wneyd eisoes gan y Weinyddiaeth Ryddfrydig. Yn wir, amlwg ydyw mai codi bias am chwaneg ydyw effaith benaf yr hyn sydd wedi ei wneyd. Edrycha yn mlaen am 'ddadblygiadau mawr- ion pellach,' yn enwedig ynglyn a diwygio ein deddfau tirol. Mae yn dra bawdd genym gredu fod llygad craff Mr. Lloyd George yn barod wedi gweled o ba le y ceir yr arian angenrheidiol er mwyn cario allan ddiwygiadau cymdeithasol; a thrwy hyny, dynu y tir oddi tan draed y Diffyndollwyr. Y rhai hyn ydynt yn hael ddigon ar addew- idion diderfyn ar gyfer tlodion y deyrnas ar yr ammod fod y bobl dlodion eu hunain yn talu am danynt yn y tollau chwanegol ar eu hangenrheidiau beunyddiol. Heb law diwygio y deddfau tirol, rhaid cael diwygiad yn y cyfreithiau etholiadol. Nis gallwn lawer yn hwy oddef i'n hetholiadau ar ein seneddwyr ddibynu ar y bleidlais ddwbl, neu liosog. Ac at hyn rhaid newid y cyn- llun presennol sydd yn galluogi yr ymgeis- ydd a fyddo, mewn gwirionedd, wedi cael y lleiafnf o bleidleisiau i gael ei ddychwelyd fel y cynnrychiolydd. Ac wrth gwrs, yn dal y cyssylltiad agosaf yn bossibl, yn mron, a phob mesur arall o ddiwygiad rhaid gwneyd y cyfrif i fyny rhwng Ty yr Argl- wyddi a'r wladwriaeth. Cymmer Mr. Balfour arno gredu fod y Tv Uchaf yn fwy cymmeradwy yn marn a theimlad yr ethol- wyr nag y bu erioed o'r blaen. Diolchwn nad yw byth yn cael ei ystyried yn awdur- dod ar unrhyw bwngc o natur hwn. Yn Llundain diau fod yr arglwyddi yn wedd- ol boblogaidd. Ond, yn Ysgotland, Cymru, yr Iwerddon, ac hyd yn oed Lloegr, y mae eu gwaith yn dinystrio mesurau Ty y Cyffredin wedi eu tynu i lawr yn ddirfawr. Yn ofer y disgwylia yr arweinydd Toriaidd i'r wlad osod ei hun yn darian ac yn astalch i'r deddfwyr etifeddol hyn, nad ydynt yn gofalu am fuddiannau neb oddi gerth yr eiddynt eu hunain.
News
MESUR Y DYDD GORPHWY8 WYTHNOSOL. MESUR yw hwn i orfodi pawb i orphwyso oddi wrth lafur un dydd o bob wythnos. Dylasai ail ddarlleniad y mesur gael ei gyn- nyg dydd LIun, yn Nhy yr Arglwyddi. Ond, o herwydd rhyw resymau, ni ddygwyd mo'r cynnygiad yn mlaen. Yr hyn a ddar perir ynddo ydyw pedair awr ar hugain o orphwys oddi wrth bob llafur unwaith bob wythnos. Yn naturiol, y pedair awr ar hugain hyn fydd y Sabbath. Ond os dig- wydd y bydd gweithio ar y Sul yn angen- rheidiol, caitf y gweithiwr weithio un Sab- bath a chadw yr un dilynol. Yn He y Sabbath y bydd yn rhaid iddo weithio, caiff gymmeryd un arall o ddyddiau yr wythnos hono i orphwys. Hyny ydyw, rhaid iddo gael un Sabbath mewn pythefnos, a phedair awr ar hugain o orphwyso didor yn yr wythnos na bydd yn cael Sabbath. Ceir yn y meaur ddarpariaeth arall, hefyd, yn rhoddi hawl i'r llysoedd i drefnu yr oriau seibiant os digwydd i anhawsder gyfodi. Mewn adran ynddo y mae morwynion teuluaidd yn cael eu cadw o'r tu allan i gylch gweithrediadau y mesur, ac un arall, hefyd, yn cau allan unrhyw feistr gwaith neu weithiwr a fo yn gydwybodol ac yn ol ei arfer yn cadw y seithfed dydd o'r wyth- nos fel Sabbath (sef, dydd Sadwrn), ac yn ymgadw oddi wrth ei orchwylion ar y diwr- nod hwnw.' Yr ydys yn teimlo yn ddigon dibetrus i ddyweyd nad oes y gobaith lleiaf i'r mesur hwn (er mor fychan ydyw) i gael ei basio yn gyfraith yn oi ffurf bresenriol na'r flwyddyn hon na'r flwyddyn nesaf. Y dyddordeb penaf a berthyn iddo ydyw ei fod yn arddangos un diffyg diffyg nad ydyw yn un cyffredin, chwajth yn ein deddfwriaeth. Yr ydym yn cyfeirio at yr ysbryd ammhenderfynol a ddengys y rhai fu yn ei dynu hyny ydyw, methu gwneyd eu meddyliau i fyny rhwng dau amcan, ac etto yn ceisio cyrhaedd y ddau trwy yr un moddion. Mewn geiriau eraill, lladd dau dderyn a'r un ergyd.' Yr byn sydd anheb- gorol angenrheidiol wrth ffurfio mesur o fath hwn ydyw deall yn bendant pa amcan neu amcanion i geisio ymgyrhaedd atynt. Yn hwn, er enghraifft, ai yr amcan ydyw attal gweithio ar y Sabbath? Ai ynteu, yr amcan ydyw gwneyd pedair awr ar hugain o orphwyso unwaith yn yr wythnos yn orfodol trwy gyfraith ? Mae yn amlwg fod yr amcan blaenaf yn meddyliau hyrwydd- wyr y mesur, canys y mae y mesur yn dy- weyd yn bendant ei bod yn rhaid cadw o leiaf un Sabbath bob pythefnos ac a mor bell a darparu na chaniateir i'r rhai fydd yn gweithio ar y dydd sanctaidd i aflonyddu dim ar heddwch y rhai fydd yn cadw y Sabbath, neu (y dydd cyntaf e'r wythnos,' fel y geilw y mesur ef. Ond, rhoddir pwys- lais ar yr ail amcan, hefyd. Nid doeth, nac ymarferol, yw gosod dau amcan gefn-yn- nghefn yn y modd yma, gan ddisgwyl iddynt; gynnal y naill y Hall i fyny. Nid oes i fesur ar gadw y Sabbath, a dim arall, y gobaith lleiaf i gael ei basio. Yr unig egwyddor y byddai gobaith am hyny iddi ydyw yr un yn darparu pedair awr ar hugain ddidor o orphwysdra unwaith yn yr wythnos, ac ar unrhyw ddiwrnod a fernid y mwyaf cyfleus. Os oes gan bleidwyr y mesur eisieu sicrhau y seibiant hwn, y peth goreu a allant ei wneyd ydyw tynu yr adran- au sydd yn dal cyssylltiad a'r Sabbath allan o hono. Ysywaeth, nid ydyw y Senedd Brydeinig yn ddigon crefyddol ei hysbryd i basio mesur ar Gadwraeth y Sabbath.
News
GWYLWYR Y GLANAU. HWYRACH na chyfeiliornem pe dywedem nad oes ran o wasanaeth amddiflfynol ein teyrnas yn fwy dyddorol ar lawer cyfrif na'r adran y cyfeirir ati yn mhenawd ein ber- erthygl. Mae yn debyg mai y drychfeddwl gwreiddiol am eu gwaith ydoedd cadw llygad effro ar hyd ein glanau rhag arwydd- ion o elynion yn bwriadu goresgyn y wlad. Gwnant lawer mwy na hyn yn awr. Cyn northwyant Fwrdd y Tollau i ddarostwng I ysmyglo.' Rhoddant rybuddion i wvr y bywyd-fadau am longau mewn cyfyngder. Mewn llawer o fanau hwy eu hunain ydyw y bywyd-fadwyr. Cyflenwant Swyddfa y Tywydd a llawer o'i ffeithiau, hefvd. A dyddorol ydyw meddwl am yr help a rodd- ant i weinyddu Deddf Amddiffyniad Adar Gwylltion. Ond, ysywaeth, yr ydys yn ofni nad yw gwasanaeth Gwylwyr y Glanau yn cael ei werthfawrogi i'r graddau y dylai ) gan yr awdurdodau gorucbel eu hunain. Yt* ydys yn dyweyd hyn ar bwys adroddiad a gyhoeddwyd lai nag wythnos yn ol. Ym- ddengys oddi wrth hwn mai yr wrthddadl gryfaf a godir yn eu herbyn ydyw traul eu caiwraeth. Rhifa eu gorsafoedd yn agos i saith gant (689 i fod yn fanwl). Rhifa y gwylwyr eu hunain yn ag03 i bed air mil (i fod yn fanwl etto, 3,950). Traul y warch. odaeth hon, mewn cyflogau a gwobrau, hyd nes y gostyngwyd ynddynt y Ilynedd, ydyw 250,000p, yr hyn a olyga rhyw drigain punt yn y flwyddyn ar gyfer pob dyn, ar gyfartaledd. Am y pris hwn nid ydyw y Morlys yn ystyried ei fod ef yn cael digon o wasanaeth. Pan drosglwyddwyd gwasan- aeth Gwylio y Glanau o'r Tolldy i'r Morlys, yn y flwyddyn 1856, yr amcan ydoedd 'gwneyd gwell darpariaeth ar gyfer am- ddiffyn ein harfordiroedd, ac i'w gwneyd yn fwy bwyIus i gyflenwi y Llynges a dynion mewn achos o ryfel neu enbydrwydd disym- mwth.' Golygiad y Morlys yn awr ydyw mai ar y m6r ei hun, mewn llongau, y gellir cyflawni y gwasanaeth hwn yn fwyaf eff- eithiol. Yr oil y mynai eu cadw ar y glanau eu hunain ydyw dim ond chwe chant o ddynion, a gwaith y rhai hyny a fyddai gweithio yr arwyddion a'r pellebyr. Gwrthwyneba gadw y dynion ar y tir pan y byddai yn rhatach eu cadw mewn llongau ar y m6r, a hyny, hefyd, pan y ceid gwasan- aeth mwy effeithiol ganddynt. Yn yr adroddiad y cyfeiriasom ato, dywedir:- Mae nifer Gwylwyr y Glanau yn ormodol, ac nid ydyw cadwraeth cynnifer yn cael ei gyfiawnhau gan angenrheidiau y llynges; ac o herwydd hyny, oddi ar y safbwynt hwn, nid ydym yn gweled pa ham na ddylai y nifer gael ei leihau, fel yr aw- grymir.' A hyn, yr ydys yn deall sydd yn myned i gael ei wneyd. Gan y rhai cyfar- wydd dywedir fod y cyfnewidiadau arfaeth- edig yn rhai pwysig. 0 hyn allan bydd tair swyddfa-y Morlys, y Tolldy, a'r Bwrdd Masnach yn cael eu dal yn gyfrifol am y gwaith a wneid gynt gan un swyddfa. Gwir fod y gwaith a wneid gan hen wylwyr y glanau yn dra ararywiol, a chydnabyddai pawb eu bod, ar y cyfan, wedi eu cyflawni yn rhagorol. Os felly, pa ham yr aflonydd- ir ar y trefniant ? Nid yw yn ymddangos fod un rheswm dros y cyfnewidiadau ond yn unig anfoddogrwydd y Morlys i fyned dan yr oil o'r draul i'w cadw ei hun. Ond, gall hyn arwain i niwed. A dyweyd y lleiaf, ceir enghraifft nodedig yn yr holl achos o'r modd y gall y swyddfeydd lly w- odraethol a berthyn i'r wladwriaeth feddwl mwy am eu manteision unigol eu hunain nag am amgylchiadau cyffredinol y cyhoedd.
News
MR. JOHN BURNS YN OLDHAM. Prydnawn dydd Sadwrn traddododd Mr. John Burns, Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, araeth yn y Ohwareudy Brenhinol, Oldham, fel llywydd Undeb Rhyddfrydig Oldham. Aflonyddid arno weithiau gan waeddiadau o Pleidleisiau i Ferched,' ond ni lwyddwyd i lesteirio gweithrediadau y cyf. arfod trwy rhyw ebychiadau o'r fath. Dy- wedodd Mr. Burns mai ei amcan ef ydoedd siarad ar wleidyddiaeth y dydd, ac i gyfiawn- hau, nid amddiffyn, gwaith, polisi, a pher- fformiad Llywodraeth fwyaf gwerinol yr han- ner can mlynedd diwtddaf. Yr oedd wedi profi ei hun y Llywodraeth fwyaf effeithiol a chynnil. Ni bu erioed yn ei amser ef y fath senedd o eiddo y bobl-brwdfrydig, etto yn ymarferol, yn cael ei hysgogi gan deimlad angerddol dros gynnydd, selog dros gyfnew- idiad cymdeithasol, a diwygiad gwleidyddol, a'r hon mewn dwy flynedd o amser oedd wedi pasio cynnifer o fesurau gwerthfawr. Cyfeiriodd at fesurau arbenig a basiwyd tua.g at wella amgylchiadau y bobl, y rhai a osod- wyd ar y deddflyfr yn ystod y ddwy flynedd; a thra yn sefyll yn gadarn dros Fasnach Rydd, yr oedd efe yn gwasgu ar i'r Llywodr- aeth wthio Mesur y Trwyddedau yn mlaen- mesur, yn ol ei farn ef, yr oedd angen am dano, ac a fyddai o werth ammhrisiadwy i'r wlad. Siaradodd, hefyd, am flwydd-daliad- au i bobl oedranus fel un o werth ammhris- iadwy i'r tlawd oedranus.
News
SYR ALFRED THOMAS A'I ETHOLWYR. Nos Wener traddododd Syr Alfred Tho- mas, A.S. araeth i'w etholwyr yn y Brithdir. Llywyddid gan Dr. E. J. Martin. Syr Alfred Thomas, i'r hwn y rhoddwyd derbyniad gwresog, a ddywedodd ei fod wedi cynnrychioli dwyrain Morganwg am tua 23ain o flynyddoedd, ond o herwydd sefyllfa wasgaredig yr etholaeth, yr oedd yn ddrwg ganddo nas gallai ymweled a. phob rhanbarth mor ami ag y dymunai. Aeth Syr Alfred dros y gwaith rhagorol gyflawnwyd gan y Rhyddfrydwyr; ac yn y cyssylltiad yma, tal- odd deyrnged uchel i'r diweddar Syr Henry Campbell-Bannerman. Yr oedd mantell yr arweinydd mawr wedi disgyn ar olynydd rhagorol Mr. Asquith, yr hwn oedd wedi cv- chwyn yn dda gyda chynllun o flwydd-dal- ladau i hen bobl (clywch, clywch). Adeof- iodd Syr Alfred am un o'r areithiau cyS yn Caerphili, 23ain o flynyddoedd yn ol, pan y dadleuai y dylid darparu ar gyfer milwyr diwydiannau yn gystal a milwyr y fyddin. Dywedodd yr aelod anrhydeddus ei fod ef wedi cyliwyno cynllun o flwydd-daliadau i bobl oedranus, ac yr oedd holl egwyddorion y mesur hwnw ar ddyfod yn gyfraith (cym.). Nid oedd diwygio y trwyddedau, meddai Syr Alfred, I fod yn waith hawdd, ond yr oedd- ynt am wthio yn mlaen gyda'r mesur (clywch, clywch). Yr oedd yn fesur cym- deithasol, yn fesur Cristionogol, gwirionedd- ol- Yr oedd Mr. Lloyd George, fel Canghell- ydd y Drysorfa, yn ddyn craff; a dywedodd! yr aelod anrhydeddus wrth y siaradwr, ychydig ddyddiau yn ol, pan ofynodd am fwy o arian at Brifysgol Cymru, na chawsai Cymru ddim mwy na'r hyn oedd yn ei haeddu (clywch, clywch). Gofynodd Syr Alfred iddynt beidio meddwl am foment ei fod et am eu gadael tra y gallai eu cyn- nrychioli (cym.). Cynnygiodd Mr. Samuel Davies bleidlais o ddioJchgarwch i Syr Alfred Thomas, ac o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth. Cefnogwyd y bleidlais gan y Parch. H. West, ac attegwyd gan Mr. Robert Thomas, New Tredegar; Mr. Henry Brown, Brithdir, chario 0mr W. Hammond, a chafodd ei chario. Cydnabyddodd Syr Alfred Thomas y bleid- lais,
News
PRION, GER DINBYCH. MARWOLAETH Y PARCH. LEWIS WILLIAMS, gorchwyl pruddaidd yr wythnos hon ydyw cofnodi marwolaeth y Parch Lewis- Williams, ficer eglwys St. Iago, Prion, yr hyn a gymmerodd le ddydd Sul diwedd- rC5 ti n House, Dinbych (oartref Dr. AT yn 76ain rnlwydd oed. Yr oedd Mr. Williams wedi dyfod at Dr. Lloyd er cael ymgeledd feddygol er's tua phyth- efnos-fel ag yr oedd wedi dyfod ar achlys- ur blaenorol. Y tro hwn, ysywaeth, angau a derfynodd ei ymweliad, er pob peth allai gwybodaeth a gallu meddygol ei wneyd Yr oedd Mr. Williams yn ficer Pantpys- teg' I gelwif y ulle' ,er y flwyddyn 1868. Yn flaenorol I hyn bu yn gurad yn Llangadfan, yn sir Drefaldwy'n, am tua yn Llanrhaiadr o 1863 hyd 1866. Yna appwyntiwyd! ef i rywoliaeth LIanfrothen, sir Feirionyild, yn 1866; ac arosodd yno hyd 1868, pryd yr ap- pwyntiwyd ef, fel y dywedwyd eisoes, i fyw- oliaeth Prion. Priododd ferch Mr. Parry Tan-y-waen, ond bu farw ei briod yn lied fuan. Yr oedd Mr. Williams, yn ddiau, ym un or rhai mwyaf poblogaidd o glerigwyr Cymru. Nid oedd yn gul ei ysbryd na'i feddwl, a gallai gydweithredu yn hylaw gyda'r Ymneillduwyr, a gwnai hynv yn fyn- ych. Yr oedd yn aelod o, ac yn drysorydd i, Gynghor PIwyf Llanrhaiadr er ei sefydl- iad cyntaf, a bydd colled fawr ar ei ol yn y cyfeiriad hwn. Fel cymmydog, yr oedd yn garedig a chymmwynasgar; ac i'r tlawd yr oedd yn gyfaill yn amser rhaid. Ym- drechodd bob amser gadw allan o ddadleuon politicaidd, ac nis gellir dyweyd fod ei gredo crefyddol a gwleidyddol o ^wbl yn effeithio arno yn ei gyssylltiad a'i gymmydogion. Bydd chwithdod a hiraeth yn y plwyf yn gyffredinol ar ei ol. Cymmerodd y gladdedigaeth le yn mynwent eglwys Prion, dydd Iau.
News
Car i Lefarydd Ty y Cyffredin ydyw y Syr Gerald Lowther sydd wedi ei ben- nodi yn llysgenad Prydeinig yn Nghaer Cysienyn. Gobeithiwn y caiff efe ddig- on o i ras i beidio chwareu dim a'r Sul- tan Abdul Hamid.
News
Aeth y gang' ddiweddaf o fwnwyr i lawr i waith plwm y mwnglawdd, ger Gwreosam, ddydd Llun. Yr hen waith enwog hwn a gauir i fyny, am fod y draul o godi y dwfr o'i waelod yn aruthrol fawr. 0 herwydd hyn, nis gallai y cwmni feddwl am ei gario yn mlaen.
News
LLANGOLLEN. MEISTR YN GWYSIO GWAS. Yn llys yr ynadon, Llangollen, dydd Llun, ceisiai Mr. St. George Ashe, Plgs Rhysgog, Llangollen, gae ly 8wm o Ip. gan David Kelly, yr hwn oedd yn gerbydwr, &c yn ei wasan- aeth hyd yn ddiweddar, am iddo adael ei wasanaeth ef heb roddi rhybudd priodol, ac iddo ddychwelyd siwt o ddillad, pftr o lodrau, legging*, Ac., gwerth 5p. 10. Mr. E. Foulkes Jones, Llangollen, yr hwn a ymddangosai ar ran yr erlynydd, a ddy- wedodd fod y cynghaws yn cael ei ddwyn o dan Gyfraith Seneddol oedd yn darparu, mewn achos o anghydwelediadau rhwng meistr a gweithwyr i ynadon fyddai yn eis- tedd yn y llysoedd hyny i roddi eu dyfarniad mewn cynghaws gwlad ac yr oeddvnt fellv. yn ymarferol, yn dyfod yn llys m&n-ddyled- ion i'r amcan. Yn yr achos hwn yr oedd Mr. St. George Ashe wedi cyflogi y diffyn- ydd fel cerbydwr yn Medi diweddaf. Yr oedd, hefyd, i wneyd gwaith arall; a'i gyflog wythnosol ydoedd 181., ac yr oedd i gael gwasanaeth bwthyn, a siwt o ddillad, yr hon oedd i ddyfod yn eiddo hollol iddo ef ar ol iddo fod yn ngwasanaeth yr erlynydd am ddeuddeng mis. Ar yr 16eg o Faicafodd Mr. St. G. Ashe achos i siarad a'r diffynydd gyda golwg ar y modd yr oedd wedi cyflawni ei wasanaeth; a'r canlyniad o hyny ydoedd, iddo fyned i ffwrdd, heb roddi rhybudd, gan gymmeryd y dillad, y llodrau, &c., gydag ef. Cadarnhaodd yr erlynydd y mynegiad uchod yn ei dystiolaeth. Dywedodd iddo fod yn hynod o garedig wrth y diffynydd, ac iddo roddi llawer o anrhegion iddo. Mr. Billal Quilliam, Liverpool, dros yr am- ddiffyniad, a ddadleuai nad oedd gan yr yn- adon awdurdod i wrandaw yr achos, gan nad oedd y diffynydd yn weithiwr yn ol ys- tyr y gyfraith, ac mai gwas teuluaidd oedd cerbydwr. Wrth gael ei groesholi, cydnabyddodd Mr. Ashe fod y diffynydd, yn chwanegol at ed- rych ar ol y ceffylau, yn glanhau esgidiau, i ofalu am y mwngci pan yr oedd heb fod yn rhy ddychrynedig i fyned yn agos ato (chwerthin), i edrych ar ol cwn Schipperke gwobrwyedig Mrs. Ashe, i øleuo y tanau pan yr oedd y morwynion i ffwrdd, yn gys- tal a gofalu am gwpanaid 0 dê i Mrs, Ashe, a golchi y llestri a'r ffenestri. Pan ofynwyd iddo gan Mr. Quilliam a oedd efe o dan ddyl-inwad diod pan y cwyn- odd wrth y diffynydd, dywedodd yr erlynydd fod yn rhaid iddo ofyn i'r llys ei amddiffyn ef rhag sarhad y cyfreithiwr. Ar ol i'r ynadon ymneillduo, dywedodd y cadeirydd (Mr. R. Myddleton Biddulph, Castell y Waen), eu bod hwy yn ystyried mai achos i lys y m&n-ddyledion ydoedd, a'u bod yn ei datlu allan gyda chostau, fel un oedd o'r tu allan i gylch eu hawdurdod.
News
nesai, ac yn aros yn Nghastell Windsor am wyth niwrnod.