Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Y GOGLEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOGLEDD. Ymwelodd Mrs. Lloyd-George ag Ysgol y genethod yn Nghaernarfon y dydd o'r blaen. Annogai hwy i beidio byth a chywilyddio o'r iaith Gymraeg. Pennodwyd Mr. William Morris, Orme Road, Bangor, yn olynydd i Mr. Maldwyn Evans, fel ysgrifenydd Cymdeithas Phil- armonic' y dref. Dydd lau cynnaliwyd arddangosfa aim- aethyddol Mon ac Arfon, yn Llangefni. Cafwyd tywydd dymunol, cynnulliad da, ac arddangosiad rhagorol. Rhoddodd pwyllgor Coleg Normalaidd Bangor gyfarwyddiadau pendant fod yr adran newydd o'r sefydliad hwnw i gael ei doi a llechi o sir Gaernarfon. Mewn trengholiad prydnawn dydd Llun ar gorph Richard Williams, 64ain mlwydd oed, ceidwad helwriaeth yn ngwasanaeth Mr. Harry Clegg, Plas Llanfair, Mon, yr hwn a gyfarfyddodd a'i farwolaeth trwy archoll o wn, dychwelodd y riheitliAvyr reithfarn o Farwolaeth ddamweiniol.' Cyrhaeddodd newyddion i Gaergybi o Taganrog, ar y Mor Du, i forwr, o'r enw Ri- chard Williams, Gaergybi, foddi trwy ddym- chweliad bad. Taflwyd rhaff at Williams, ond ymddangosai fel pe wedi ei syfrdanu, ac ni wnaeth un ymgais i gymmeryd gafael yn-, ddi. Nid oedd ond 19 mlwydd oed. Trefnir i arholiad cymdeithasfaol y Meth- odistiaid Calfinaidd ar yimgeiswyr i'r wein- idogaeth i gymmeryd lie ddydd Mawrth a dydd Mercher, Hydref 20fed, a'r 21ain. Bydd i ymgeiswyr Gogledd Cymru eistedd yn Nghaernarfon, ac yangeisAvyr Deheudir Cymru yn nghapel Penuel, Pontypridd. Ymwelodd dirprwyaeth oddi wrth Eglwysi Rhyddion Criccieth-ac yr oedd Mr. Lloyd- George yn un o'r ddirprwyaeth hono-â Svnod Talaeth Wesleyaid Gogledd Cymru, ncs Lun, yr hon oedd yn cynnal ei chyfar- fodydd yn Criccieth yr wythnos hon. Cang- hellydd y Drysorfa oedd yn gweitlhredu fel siaradwr. Disgwylid y byddai yr elw clir oddi wrth y nodachfa gynnaliwyd am bedwar diwrnod yr wythnos ddiweddaf yn Nghaernarfon. gynnyrchu elw clir o rhwng 60Qp. a 700p. at gapel Siloh (MX?.), yn y dref hono. Agor- wyd y nodacma ddydd Sadwrn$an Mr. Owen Jones, Glan Renno a Liverpool. Llyw- ] yddid y diwrnod hwnw gan Mr. Bryan, Cairo. Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan y fan^en newydd ffurfiwyd 0 blaid Annibynol ilafur yn Mangor, nos Wener, yn mha un y siaredid gan Mr. Parker, yr A.S. dros Hali- fax, a Mr. Rose, yr ymgeisydd Llafur tebygol dros Crewe, awgrymwyd, cyn pen hir, y byddai i ymgeisydd LIafur gael ei ddwyn allan dros fwrdeisdrefi sir Gaernarfon- Bedd Mr. Lloyd-George. Y Sabbath, yn eglwys y Triniti, Llandud- no, dadorchuddiwyd tablet' (pres cerfiedig oedd wedi ei osod i fyny yno er cof am ddau o ganwyr y clychau--y rhai a gyfarfyddas- ant a'u marwolaeth tra yn gwasanaethu yn rhyfel Deheudir Affrica. Yr oedd yr egl- WYB yn orlawn. Enw y ddau berson y cqd- wyd y goflech iddynt ydynt, Charles Vaughan Jones, rhingyll yn y 3ydd bataliwn o wirfoddolwyr y Fusiliers Cymreig Bren- hinol, a Harry Devrell, preifat yn y 3ydd bataliwn o wirfoddolwyr y Fusiliers Cym- reig Brenhinol. Cyflawnwyd y seremoni o ddadorchuddio y tablet' gan Cadben W. A. Tusford, Conwy. Trefnwyd i ail ddechreu gweithio llawn amser yn Chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, yr wythnos hon, ond dilynir hyn gan ostyngiad o Is. 6c. yn wythnosol yn y cyflogau i chwarelwyr a chreigwyr, a Is. yn yr wythnos yn ng'hyflogau mwnwyr a llafur- wyr. Dywedir fod y cyfnewidiad wedi achosi gryn deimlad yn mysg y dynion, am ei fod yn cael ei ddwyn yn mlaen heb rybudd, ac adroddwyd y mater i Gynghor Undeb y Chwarelwyr. Diwedd yr wythnos ddiweddaf gosodwyd rhyoudd 1 fyny yn Chwarel Pen- yr-orsedd, Nantlle, i'r perwyl, yn ystod mis Hydref, na byddai i ddim ond pump diwrnod yn yr wythnos gael ei weithio.

Y DEHEU.

BANGOR.

-----FFRWYDRAD OFNADWY YN…

TWYLLO CYMRO YN SHEPHERD'S…

[No title]

j TELEGRAMS 1 O'R ) )CENTRAL…

Advertising

Telegram loan lorwerth.

LIVERPOOL.

PEN-Y-GELLI, GER TREFFYNNON.

[No title]

j TELEGRAMS 1 O'R ) )CENTRAL…