Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
28 erthygl ar y dudalen hon
FFALD Y BRENIN,
FFALD Y BRENIN, FONEDDIGION, Yr wyf yn gweled fod genych ohebwyr nynaWs a pharod i atteb cwestiynau. Minnau a ofynaf gwestiwn o berthynas i'r lie uchod. Yn sir Gaerfyrddin y mae. Dyma yr holionPa beth ydyw ei ystyr ? Pa ham y rhoed y fath enw ar yr ardal ? A oes enw Saesnig arno? Os oes, pa beth ydyw? Diolchgar iawn a fyddai i bwy bynag a deifl oleuni ar y cwestiynau byn. Ydwyf, &c., CIL Y PENTAN.
. Y BLWYDD-DAL.
Y BLWYDD-DAL. FONEDDIGION, 1. A oedd cofrestrau am enedigaethau yn cael en cadvv gan y Llywodraeth 70ain mlynedd yn ol ? 2. Yn niffyg hyny. ac yn niffyg cofrestrau bedydd- iadau yn y capelau Ymneillduol, trwy pa foddion y gellir profi yr oedran yn ystod y cyfnod hwnw er bold- loni gofynion y gyfraith ? Ydwyf, &c., SWYDCOG. Yn 1837 y decbreuodd y Llywodraeth gofrestru. Cymmerir acbos pob un a fetbo gael y dyddiad am ei enedigaeth, neu ei fedydd, i ystyriaeth gan y pwyllgor. Ceisiwch y 'cyfarwyddiadau' or Llythyrdy, a chewch yr attebion swyddogol i'ch holion.—GOL.].
. YR EISTEDDFODAU.
YR EISTEDDFODAU. FONEDDIGION, Mewn attebiad i ofyniad Eisteddfodwr' yn MANER dydd Sadwm, Medi 26ain, dymunaf ddyweyd y cynnal- iwyd yr <vyl genedlaethol yn y lleoedd canlynol 190 I-Merthyr Tydfil. Bardd y Gadair, Dyfed; testyn,' Y Diwygiwr.' Bardd y Goron, Gwili; testyn, Tywyeog Tangnefedd.' 1902-Bangor. Bardd y Gadair, Mr T Gwyn Jones; testyn, I Ymadawiad Arthur.' Bardd y Goron, y Parch R Silyn Roberts, M A; testyn, 'Trystan ac Essyllt.' 1903-Llanelli-Bardd y Gadair, y Parch J T Job; testyn, 1 Y Celt.' Bardd y Goron, y Parch J E Davies, M A (Rhuddwawr); testyn, Y Ficer Pntchaid 1904—Rhyl—Bardd y Gadair, Macbreth; testyn, 'Geraint ac Enid.' Bardd y Goron, Machno; testyn, 1 Tom Ellis.' 1905-Aberpenar. Bardd y Gadair, neb yn deilwng (cadair wag y tro hwn). Bardd y Goron, Mafonwy; testyn, Ann Griffiths.' Ydwyf, &c., Yn rhwymyn am cymrleithas, Blaencaron, Ceredigion. R. ISGARN DAVIES.
. LLANFAIR TALHAIARN.
LLANFAIR TALHAIARN. FONEDDIGION, A fyddwch chwi cystal a gadael i mi gael colofn fecban o'ch newyddiadur clodwiw ynglyn ag epistol a ynjddangosodd yn y FANER am ddydd Sadwrn, Medi 19;9,0 dan y penawd 'Llanfair Talhaiarn,' gan un a eilw ei hun yn 'Theomemphus.' Byddaf yn hoffi d%rllen epistolau yn y FANER ar wabanol faterion; ond nid wyf yn gweled pwngc uniongyrchol gan Thec- memphus,' ac y mae wedi gosod ei feddwl yn wasgarog Hwyracb, er byny, mai yagnfenu y mae at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar. Wedi sefyll uwch ben yr epistol, a cbanfod y person sydd ynddo, tvna bortread o hono ei hunan, a dyma fe :—Dyn heb ysbryd erlid na darostwng neb, yn hoffi gweled pawb yn myned i fyny ardir eynawnder un tirion un caru lidd a chymmwyn- asgar hefyd. Y mae yn debyg ei fod yn meddu ffywytbau y ddoethineb hono y sonia am dani g-yrla'r ibinweddau eraill. Ardderchog 1 Dyma ddyn; ac oni hftie et fod wedi dywedyd mai dyna oedd, buaswn wedi meddwl am un arall. Sonia pobl am fyned i weled y byd a'i betliau i drefydd mawrion. Buasai yn well genyf fl gael myned i weled y Theomemphus' hwn. Pyma rhywun gwerth ei weled. Pe buasai wedi gofyn y cwestiwn yn ei epistol, 'Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i,' nis gallwn feddwl am nebmornchel yn ei berffeithrwydd. Y mae yn debyg fod y 'Theo- memphns' hwn wedi gosod ei babell yn agos, nfu yn roysg cvmmydogion drygionus, fel Lot srynt yn Sodom. Gobeithio na wna yr awyrgylch afiach ddim creu darfodedigaeth ynddo. Holwn ofyn tri chwestiwn iddo. Y mae yn sier y gwna ef eu hatteb, gan fy mod yn un anllythyrenog iawn :— 1. Pwy ydyw y dosbarth sydd yn myned i fyny ya anghyfreitblawn yn y lie hwn ? 2. Pwy ydyw y gwrtholwyr a'r bobl saiug ag sydd yn gwrthod gwneyd dim ? 3. Pwy ydyw y dadlenwyr hyny sydd yn gwylltio wrth ymresymu pwngc ? Dywed Theomempbns' nad ydyw yn gywilydd ganddo arddel ei syniadau. Ysgrifena ei epistol fel dammeg am y dosbarthiadau hyn yn y llan yma. A gilf fi ofyn iddo egluro ei ddammeg ar dudalenau y newyddixdur, r.eu o'r neilldu. Hwyrach y gwna y cyngnorwr hwn hyny. Carwn yn fawr gael ei enw priodol, gan nad ydyw yn ddim gwahaniaeth ginddo. Er cymmaint o ddarluniau sydd ar barwydydd yr hen gaban yma buaswn yn rboddi enw hwn mewn liythyr- enau aur i ddangos i'r oes a ddel y cynghorwr a godwyd yn Llanfair Talhaiarn, y cynghor a r cynghorwr yn atteb i'w gilydd. Disgwyliaf yn hyderus am weled ei enw, neu gamatâd i'w gnel o'r swyddfa, ond nnfon am dano, i mi gael mvned i'w weled, a i adnabod, cyn i mi adael yr anial. Pwy a wyr na byddaf yn wr perffaith fel 'Theomemphus' ond cael treulio rhyw awr yn ei gwmni mewn awyr mor bur. Terfynaf ar hyn y tro hwn, gyda diagwyliad. hyderus am atteb i fy nymun- iadan. Ydwyf, &c., ANWYBODUS.
. Y FERCH.
Y FERCH. FONEDDIGION, Credaf yn ddiysgog mewn cydracdoldeb i'r ferch a'r wraig—cydraddoldeb breintiau, cydraddoldeb hawliau, cydraddoldeb i gael pleidlais ar yr un tir a'r mab a'r gwr; cydraddoldeb i gael eu hethol i'r senedd, os myna etbolwyr eu hanfon cydraddoldeb mewn pob gwaith a galwedigaeth cydraddoldeb mewn cyflog a thai, os gwnant yr un gwaith a'r dyn, a chystal gwaith a'r dyn —i gael cystal a chymmaint tal a'r dyn ac os gall y ddynes wneyd gwell gwaith na'r dyn. i gael gwell tal na'r dyn. Hyny ydyw, nad yw y ffaith ei bod yn ddynes, ac nid yn ddyn, yn ddim rhwystr iddi i gael pob chwareu teg yn ngwaith a galwedigaethau, a phroffeswriaethau, a safleoedd bywyd. Eithr dylai y ferch n'r ddynes gofio, os hawliant hwy yr un manteision a'r bacbgen a r djrn y daw iddynt, hefyd, yr un dyledswyddau a'r dyn, mor bell ag y maent yn alluog i wcyflawni. Yn awr, os bydd gwraig gan ddyn, mae yn rhaid i'r dyn ei chynnal, os bydd ganddo fodd yn y byd eithr yn awr, os bydd gan wraig wr, ac yntau yn dlawd, ac hob ailu ennill bywol- iaeth, a'i wratg yn perchcn digon o fodd i'w gynnal, nis gellir ei gorfodi hi i'w gynnal, fel y gellir gorfodi y g < r i gynnal ei wraig. Wel, ni chredaf mewn cydraddoideb unochrog o'r fath yna, eithr mewn eydrad;loldeb sydd yr un fath i'r ddau ry w—yn rhoddi yr un breintiau i'r ddau ryw, ac, hefyd, yn hawho yr un dyledswyddau oddi wrth y ddau ryw. Diammheu genyf y bydd y ddynes yn cael ei breint- iau teg yn y wlad hon, ac hefyd, yn ngwahanol wled- ydd y ddaear; a gobeithiaf, pan y eaitf y ddynes bawl I yn llywodraethiad y wlad a'r ymherodraeth hon, y bydd o blaid heddwch, a chwareu teg, a chydraddoldeb i'r holl genhedloedd sydd oddi tan ein llywodraethiad ni, ac yn bleidiol i roddi Ymreolaeth i'r India, a Ceylon, a'r Aipht; ïe, yn bleidiol i roddi iddynt yr un rbyddid a hunan-iywodraeth ag a ga Canada, ac Aws- tralia, a Zealand Newydd, a De Affrira. A gobeithiaf y bydd y ddynes yn hollol wrthwynebol i gadw i la^r, trwy annhegwch a gormes, unrhyw bobl, neu lwyth, neu genedl ar wyneb y ddaear, pa un IjMS? a fyddant du ai gwyn, pa un bynag ai eoClf. iCeu felyn, pa un ^•'uag a fjdd ganddynt ai gwallt hir-llaes ai gwallt f crych, pa un bynag ai trwynau fflat fydd ganddynt neu drwynau uchel. Nid lliw y croen, na dull y wyneb na'r gwallt yw y peth, eithr egwyddorion, ac arferiadau, ac ymddygiad dynion. Gwell o lawer cael dyn du o gym- meriad da, na chael dyn gwyn o gymmervid drwg. Gwell byw efo un, a delio efo un-os bydd Iliw ei groen yn felyn neu yn dywyll-ddu--os o egwyddor dda, na byw efo un, a delio efo un, yr hwn sydd a'i groen yn wyn ddigon, ond ei galon yn ddu fel y parddu. Ni ddylid gosod cymmaint o bwys ar yr allanolion yma. Gwell cael dyn da mewn 'ffustian,' na chael gwr i'r fall mewn gwisgoedd drudfawr, ac yn emau a modrwyau i gyd. Y cymmeriad yw'r dyn. Gobeithiaf y gwna y Llywodraeth hon, os bydd modd, roddi pleidlais i'r ddynes ar yr un tir ag y ca y dyn hi heddyw, os na fforddia amser iddynt i roddi pleidlais i bob dyn a dynes dros 25.tin oed. Pe caem bleidlais o'r fath hyny, byddai gobaith i mi gael pleid- lais. Wrth gwrs, yr wyf ychydig dros 26ain oed. Eithr yn awr, nid oes pleidlais o gwbl genyf o blegid nid oes genyf wraig a thy nid oes genyf feddiannau, er ei chael yn y ffordd hyny. Ac fel llettywr, nid wyf yn tala digon i gael pleidlais. Gwn y gallwn gael pleidlais ond dyweyd celwydd—dyweyd fy mod yn talu 53. yr wythnos, pan na wnaf ond talu 3s. 6c. yr wythcos eithr gwell genyf fod heb bleidlais byth na chael pleidlais wrth ddyweyd celwydd. Duw'r net dueddo ac a alluogo Lywodraeth bresen- nol ei Fawrhydi i roddi pleidlais i mi, a'r gwragedd, ac i bawb dros 25ain oed a diddvmu pob pleidlais ar jH, fel y byddai yn syml a hawdd ei deall i'r mwyaf anwybodus. Yr eiddoch, &c., D. FF. DAFIS,
. GWEINYDDIAD O'R DEDDFAU…
GWEINYDDIAD O'R DEDDFAU TRWY- DDEDOL YN NGHYMRU A MYNWY YN 1907. FONEDDIGION, Yr wyf wedi crynhoi y ffigyrau isod allan o'r gyfrol— Llyfr Gias—sydd newydd ei chyhoeddi gan y Swyddfa Gartrefol, o dan yr enw Statistica showing the Ad- ministration of the Liquor Laws in England and Wales for 1907.' Dyma y tro cyntaf i'r ystadegau, fel ag y mae a fynont a Chymru a Mynwy, gael eu gosod a'u cyflwyno yn y dull hwn. Gobeithiaf y bydd i'ch dar- llenwyr eu hystyried yn bwyllog. Y maent yn ddigon eglur i bawb eu deall, ac y mae eu gwers yn amlwg. Cynnrychiola y pedair colofn fel y canlyn :-A. Rhif I y personau a gyhuddwyd o feddwdod, neu am droseddau yn gyt sylltiedig a meddwdod- B A gospwyd o honynt. C. Y trwyddedwyr a gyhuddwyd o dori y deddfau trwyddedo!. D. A gospwyd o honynt. Cymmharer A. a 0, ac yna B. a D., ac fe welir ar unwaith yr anghyfar- taledd dybryd A. B. 0. D. I Sir Fon 176 1P6.. 8 3 Sir Frycheiniog 4! 5. 385 18. 9 Ceredigion 166. 143.. 14. 9 Sir Gaerfyrddin 792. 664 23. 14 Sir Gaernarfon 778. 630. 15.. 6 Sir Ddinbych 795 694 20. 17 SirFflint 324.. 284 9. 7 S r Forganwg 6,450. 5,532. 148 88 Caerdydd 390. 95 6. 4 Abertawe 1,155.. 767. 13. 7 Sir Feirionydd 186. 164. — — Sir Drefaldwyn 208.. 176,. — — SirBenfro 532. 452.. 26.. 16 Sir Faesyfed. 155. 117.. 6. 2 Sir Fynwy 1,042.. 945 41. 19 Oasnewydd 493, 370 5. — Cyfanrif dras Gymru ..14,057.11,544.. 352. 201 Cyfan. Loegr a Chymru 217,517 197,064.2,260.1,329 Y mae yn ddiaromheuol fod esgeulusdod cywilyddus yn y modd parhaus, o flwyddyn i flwyddyn, y gwein- yddir y gwabanol ddeddfau trwyddedol gan yr ynadon a'r heddgeidwaid yn Ngbymru, yn ogystal a Lloegr. Bydded iddynt hwy benderfynu ar bwy y gorphwys y baich am sefyllfa pethau, fel y dengys y tabl uchod. Gwyddom yn dda pa eglurhad sydd gan yr heddgeid- waid Y mae gan y naill a'r llall allu mawr yn eu meddiaut etto (heb yr un ddeddf newydd) i ddarostwng ac i leihau meddwdod yn y wlad pe byddai iddynt ond gweinyddu y deddfau sydd ei-oes genym yn fanwl, a chyda mwy o Iwyredd. Methu yn ddirfawr y maent wedi ei wneyd hyd yn hyn. Y mae yn bryd i wynebu y cwestiwn yn wrol a phenderfynol. Caiff Cymmanfa- oedd Dirwestol Ce a Gogledd Cymru y cyflensdra yn fuan yn eu cyfarfodydd blynyddol i drafod y mater, ac annogwn yr enwadau crefyddol i'w gymmeryd i ystyr- iaeth. Yr eiddoch yn gywir, HUGH EDWARDS. 24, Chapel Walks, Liverpool, Medi 26ain, 1908.
TRYSORFA GENEDLAETHOL I ARWYR.
TRYSORFA GENEDLAETHOL I ARWYR. RHODD 0 250,000p. GAN MR. CARNEGIE. Y mae Mr. Andrew Carnegie wedi chwan- egu un ctto at y rhestr hirfaith o roddion haelionus, trwy osod yn Haw ymdiriedolwyr y swm o 250,000p., i'r amcan o ffurfio trysor- fa genedlaethol i wroniaid. Darpara y cyn- llun ar gyfer gwaddoliad blynyddol o 12,500p., yr hwn a fwriedir ei ddefnyddio i roddi. blwydd-daliadau i'r dynion a'r merched hyny sydd wedi arddangos ymroddiad arwrol mewn gwaredit, neu wneyd ymgais i waredu bywyd- ftu y rhai oedd mewn perygl. Bydd i'r drysorfa gael ei defnyddio at wroniaid a an- alluogwyd trwy hunan-aberth, ac i weddwon ac amdciifaid y rhai allent fod wedi colli eu bywydau wrth geisio gwaredn eraill. Y mae y Brenin Edward wedi rhoddi ei gymmeradwyaeth i'r cynllun; ac y mae ei gweinyddiad wedi cael ei osod yn nwylaw ymddiriedolwyr Dumferline Carnegie; ac y maent hwythau wedi ei derbyn.
Y FASNACH MEWN DIODYDD MEDDWOL.
Y FASNACH MEWN DIODYDD MEDDWOL. Y GWRTHDYSTIAD YN ERBYN MESUR Y TRWYDDEDAXJ YN HYDE PARK. 170 o Drenau Arbenig. Edrychid yn mlaen er's tro ar y Sabbath diweddaf, fel yr un oedd y darllawyr, a chefnogwyr y t'asn&ch mewn diodydd meddw- ol trwy y wlad, wedi penderfynu manteisio arno, i ymuno a'u gilydd i wneyd arddangos- iad maw redd og o wrthdystiad yn erbyn Mesur Trwyddedau y Llywodraeth yn y Brifddinas. Dygwyd can' mil o bleser- deithwyr, y rhai a ddalient docynau a werth- wyd trwy gymdeithasau y fasnach, am bris bychan, i'r brifddinas, mewn 170 o drenau arbenig, a chymmerodd agos yr oil o honynt ran yn y naill neu y llell o'r pedair ar ddeg gorymdcithiau a gerddasant o wahanol ranau y brifddinas i Hyde Park. Yr oedd cant o seindyrf yn darparu cerddoriaeth i'r gorym- deithwyr, y rhai a garient fanerau yn ar- ddangos y rhan neillduol o'r wlad a gyn- nrychiiolid ganddynt. Nid oedd dim llai nag ugain o fanlloriau wedi cael elucodi, a chym- merodd cynnifer a deg a phedwar ugain o siaradwyr ran i anerch y tyrfaoedd. Ar y diwedd, pasiwyd penderfyniad yn gwrthSystio yn erbyn y mesur, o bob un o'r banlloriau, am y rheswm na fyddai iddo hy- rwyddo dirwest, y byddai yn drosedd ar hawl- iau eiddo, y gwnai dueddu i gynnyddu meddwdod, ac y gwnai ymyraeth a rhyddid rhesymol y bobl. Oaf odd y penderfyniad hwn ei gario gyda mwy afrifoedd o filoedd; ond yr oedd mil- oedd o bobl heb bleidleisio.
[No title]
Ordeiniwyd Mr. D. W. Owen, o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog eglwys Annibyn- oJ Gymreig Amwythig.
[No title]
HYSBYSIAD. 0 hyn allan anfoner p o cynnyrchion barddonol yn uniongyrch o i'r Swyddfa. 0 herwydd lIesgedd, nid ydyw y Parchedig G. Tecwyn Parry, Llanbaris, yn gofalu am y golofn hon.
[No title]
PARNASSUS. 'Meddwl gormod.Dyma waith hen law gyfarwydd a barddoni. Y llinellau yn delynegol ac ystwyth o ran hyny, pwy o'n darllenwyr nad ydynt wedi cael eu dyddori ganwaith a fErwyth awen Ednant. Oyduna y bechgyn i waeddi, I Croesaw croesaw 'Mae Duw.'—Llinellau rhagorol gan fardd adna- byddus arall, nas gwelsam ei wyneb ar y llethrau er's tro, bellach. Anfonwch er mwyn y beirdd ieiaaingc sydd yn gwylio y golofn. Y Ferch Amddifad.Ceir llawer o dynerwch yn y pennill:on hyn, a diau fod y bardd yn rhoddi myuegiant i deimlad calon Hawer geneth yn Nghymru. 'Idris.'—Ymgais Hed dda gan fachgen. Ymrowch ati i ddarllen beirdd goreu eich gwlad, a dowch i weled mai gwell ydyw peidio cyhoeddi eich gwaith ar hyn o bryd. 'Isgarn.'—Diolch am yr englyn. Daw y gweddill yn y man. Seren Gwalia.'—Hawdd canfod fod y testyn yn agos at galon yr awdwr: ond, yn anffodus, nid yw yr awen ac yntau ar delsran da y tro hwn. Ceir yma lawer gormod o ffigyrau-pentyrir hwy ar eu gilydd, ac mae'r iaith yn ami yn wallus.
. YR EHEDYDD.
YR EHEDYDD. (' Aberystwyth Observer,' 1907. ) [Buddugol ] BYW urddol fab y wawrddydd-eheda Hyd awyr heolydd; Dyry don ar doriad dydd I'w garedig Greawdydd. Blaen Caron, Ceredigion. R. ISGARN DAVIES.
. Y FERCH AMDDIFAD.
Y FERCH AMDDIFAD. Unig ydyw 'r ferch amddifad Yn y byd map 'n byw, Dyma wrthddrych haeclda deimlad Unfryd dynolryw; Pan yn ieuangc hon a gollodd Nodded mam a thad, Cwmwl dudew a orchuddiodd Ei hoff gartref mad. Hiraeth lwyda ei gwynebpryd 0 dan wyntoedd croes, Yn lie heulwen, garw dristyd Gafodd foreu ï hoes; Clywodd swn cerddediad angau 'N d'od i'r bwthyn clyd, Lie bu 'n faban o dan wenau Mam yn siglo'i chryd. Diamddiffyn yn ei galar Ydyw ar ei rhawd, Nid oes ganddi ar y ddaear Gwmni chwaer na brawd; Byd o ofid sy'n ymgroni Yn ei llvgaid llaith, Duw sydd yn arweinydd iddi, Bellach, ar ei thaith. Owmystwyth. UPELWYN.
. MEDDWL GORMOD.
MEDDWL GORMOD. PETH ffol yw n e ldwl gormod Am bethau j r hen fyd, Daw di, mod ar ol diwrnod I'w chwa, n i ffwrdd i gyd; A phethau newydd ddeuant Yn hudol iawn eu gwen, A chyda 'u lleni, mawrion, heirdd, Gorchuddiant hwy yr hen. Peth ffol yw meddwl germod Y nos am doriad dydd, Gall gobaith o gael diwrnod 0 londer droi yn brudd A chyn i'r haul fachludo I'r gorwel peli, mewn hedd, Gall ein calonau droi i gyd Yn ddagrau ar ein gwedd. Peth ffol yw meddwl gormod Am etifeddiaeth glyd, Gall angan distaw ddyfod, A'i throi yn fedd i gyd Mae gormod yn troi 'n fethiant Yn hanes pawb trwy'r wlad, Ac wrth ei feithrin gwna bob bron Yn gartref siom a brad. Peth ffol yw meddwl gormod, A disgwyl hedd di-lyth, A phethau gwych i ddyfod Na ddont i'n gafael byth; Er fod y pell ddyfodol Yn prysur ddringo 'r bryn, Erwy ei gymylau gwelwn drem O'n beddau yn y glyn. Dolgellau. EDNANT.
. 'MAE DUW.'
'MAE DUW.' MAE Duw dan y goron 0 ddrain o hyd, Mae erlid y Oyfion Yn mawl y byd Y ffwrn dan sy'n profi Agosed Unw, Yr Hwn sydd yn llosgi Yw'r adnod fyw. Y ffordd i ddyrchafiad Yw myn'd i lawr, Dros fryn y Croeshoeliad Y tjr y wa.wr. Mae Duw I ffau y llewod 0 hyd ge.r llaw, Pryd byddo dyhirod Yn peri braw; Mae Pilat i drengu Mewn gwarth di-hedd, A'r uniawn I ganu Ar Iwch ei fedd. Y ffordd i ddyrchafiad, &c. Mae Duw dan yr erlid Ar ben y tryn, Ar ol nos y gofid Daw 'r boreu gwyn; Y blaidd fydd yn fuan 0 fewn ei arch; Am droi 'r Bugail allan, Faint fydd ei barch ? Y ffordd i ddyrchafiad, &c. Mae Duw yn mhob dioddef 0 blaid y gwir, Gwerth Gwaed ydyw tangnef Y galon glir; Fe fyn yr erlidiwr Gae] IIadd ei hun Ar ffordd y Gwaredwr, Yn Mab y dyn. Y ffordd i ddyrchafiad Yw myn'd i lawr, Dros fryn y Croeshoeliad Y tyr y wawr. Twrgwyn, Ceredigion. CYNFELYN.
[No title]
Ffurfiwyd Cynghrair o Ryddfrydwyr ieu- aingc yn Aberhonddu, gyda'r Proffeswr Thomas Rees fel Ilywydd, a Mr. Austin Davies fel cadeiryddi y pwyllgor gweithiol. Yn llys ynadon sirol Abertawe, ddydci Mercher, cafodd Joseph Heldon Rees, prif- atliraw Ysgol Sirol GeudroSj ei ddirwyo i Ip. a'r costau am ymosod ar ysgolor, o'r j enw Frank Martin.
Advertising
5 I A GREAT FDR STORE, j m II I i WM CREAMER & CO., I f FUR MANUFACTURERS AND SKIN MERCHANTS, HAVE | II THE LARGEST AND MOST HIGHLY EQUIPPED DEPART- ■ IMENTS FOR SEALSKIN AND FUR ALTERATIONS AND § REPAIRS IN THE PROVINCES. THEY GIVE TRUST. WORTHY ADVICE UPON ALL FUR WORK. THEIR ■ h CHARGES FOR SKILLED WORKMANSHIP ARE MOST 1 S MODERATE. ESTIMATES ALWAYS FURNISHED. NEW- I 1 EST MODELS ON VIEW. a i 56, Bold Street, Liverpool, j S ■ ■ IFJIWIP" B s ia A B EAAGGB m A UIIHAMHRIJ S a BMBUBH H u ■ ■
SEDD SYR S. T. EVANS.
SEDD SYR S. T. EVANS. Yn ddiweddar darfu i blaid Llafur yn Nghanolbarth Morganwg ddewis Mr. Ver- non Hartshorn, goruchwyliwr y mwnwyr yn Maesteg, yn ymgeisydd yn yr etholiad nesaf yn erbyn Syr Samuel T. Evans, y Cyfreithiwr Cyffredmol, ac y mae yingyrch bywiog yn cael ei chario yn mlaen yn ei ffafr. Mewn cyfarfod lliosog a chynnryohioliadol o Rydd- frydwyr yn Maesteg, dydd Mercher, awgrym- odd Syr Samuel T. Evans, i'r liwn y rhodd- wyd derbyniad gwresog, mai ei fwriad yd- oedd sefyll yn ymgeisydd dros Ganolbarth Morganwg etto, er iddo gael cynnyg ar eth- olaeth arall. Gwnaed trefniadau ar gyfer amddiffyn yr etholaeth. Y tebygolrwydd ydyw y bydd i'r Ceidwadwyr ddewis yfiHgeis- ydd.
RHYFEDDOD WYDDONOL.
RHYFEDDOD WYDDONOL. DIRGELWCH BALM-IACHAOL ENWOG A CHROEN-WELLHAWR. Y mae ail ddarganfyddiad dirgelwch sydd wedi bod yn gorwedd yn y llwch am 20 o gan- rifoedd yn ddigwyddiad Ilawn o ddyddordeb deniadol, a bydd i'r ystori am Zam-Buk, cyn- northwy cyntaf byd-enwog y byd, a'r croen- wellhawr, dynu sylw bob amser. Zam-Buk ydyw disgynydd gwirioneddol y balmau rhy- feddol a hynod hyny, trwy ddefnyddio pa rai yr oedd llawer o gamipwyr Groeg hynafol, ac ymgleddyfrwyr cedyrn Rhufain, yn sicr- hau iechyd ac iachad rhwydd i'w crwyn. Llawer ydyw y ceisiadau a wnaed yn ddi- weddar i gynnyrchu balm perffaith i'r croen, ond, yn ddios, y llwydchant mwyaf yn y cyf- eiriad hwn ydyw un a gafwyd trwy ddargan- fod Zam-Buk. Yn nghwrs yr ymchwiliad, yr hwn oedd yn un hirfaith a chostus, bu raid dioddef llawer o siomedigaethau; ond pan, o'r diwedd, y cafodd y dirgelwch y buwyd yn hir yn gwneyd ymchwiliad am dano, wedi ei ddad- guddio, ac y sylweddolwyd y llwyddiant, croesawid Zam-Buk i'r palasdy a'r bwthyn, a darfu i bobl dwy arddrych (hemispheres), sylweddoli yn union eu bod wedi cael eu gosod mewn meddiant o feddyginiaeth ddi- ail ar gyfer anhwylderau y croen. Y mae y iJhesymau am y fuddugoliaeth hon o eiddo gwyddon yn syml ac ychydig. Gall gyromervd gwers oddi wrth yr Hynaf- iaid, penderfynodd perchenogion Zam-Buk, yn ddoeth, yn gyntaf oil, fod yn rhaid i'r balm gwirioneddol fod yn liollol lysieuol, ac heb gynnwys yr olion lleiaf o frasderau an- nymunol anifeiliaid, na mwnau gwenwynig. Tbimlid fod hyn yn angenrheidiol, mewn ffordd o effeithiolrwydd meddygol uchel, ar wahan i'r un o ansawdd gwell at ei chadw, o ddarpariaeth lysieuol hollol. Y mae Zam- Buk yn cael ei wneyd yn hollol o sylweddau cyfoethog a phur gafwyd oddi wrth lysiau meddygol neillduol a phrin. Y mae y sudd- ion hyn yn cael eu darparu a'u puro trwy gwrs wyddonol ddyfeisgar, a'u cymmysgu mor fedrus fel y mae darpariaeth di-ail ac effeithibl, ac etto perffaith naturiol, yn cael ei sicrhau i wneyd i ffwrdd ag afiechyd y croen. Medda Zam-Buk ar gydweddiad i'r croen dynol, y cyfryw ag yr oedd yn hollol ammhos- sibl i unrhyw enaint cyffredin, neu eli ei feddiannu. Yn chwanegol at esmwytho poen a lliniaru Hid, y mae yn meddu ar deithi gwrthbydrol hynod, y rhai, mewn gwirionedd, sydd yn olrhain milionos afiach o'u liymguddfanau yn meinweoedd y croen; ar yr un pryd, y mae yn pureiddio y tyllau, ac yn rhoddi bywyd yn swyddogaethau na- turiol y croen mewn ffordd nas gall un ddar- pariaeth arall wneyd. Y mae Zam-Buk yn dadrys, mewn modd perffaith, y b'roblem o gael bob amser yn hylaw yn y cartref, neu wrth waith, y cyn- northwy cyntaf, ac un y gellir ymddiried yn- ddi bob amser, ar gyfer toriadau, llosgiadau, ysgaldiadau, briwiau, rhwygiadau, ysgraffin- iadau, &c. Y mae Zam-Buk heb ei ail ar gyfer 'eczema,' llynorod, clwyf y Tnarchog- ion, coes ddrwg, gwreinyn, briwiau y pen- glog, briwiau cramenllyd, dirdroadau, anys- twythder, archollion gwenwynedig o bob math, toriadau, briwiau y wyneb, ymrwbiad, traed dolurus, fferau afiach, a phob math o ysfa, Hid, ac ennyniad. Y mae Zam-Buk yn angen ddyddiol yn mhob ty, ac yn cael ei werthu gan yr holl fferyllwyr, am Is. He., 2s. 9c., neu 4s. 6c. 2 y blwch, neu oddi wrth The Zam-Buk Co., Cow Cross Street, London, E.C. ->
[No title]
Y mae symmudiad ar droed i sicrhau pare cyhoeddus yn Briton Ferry.
[No title]
FONEDDIGION, Mae yma rai yn ein hardal wedi eu geni a'u magu yn Nghymru; ac, yn y flwyddyn 1883, aethant i'r Am- erica. Buont yno hyd y flwyddyn 1899. Ond rhwng y ddau gyfnod yna buont yn dychwelyd yn ol i Gymru till ddwy flynedd, a thrachefn yn ol i'r America. Chwi we'wch na buont ond 14eg o flynvddoedd o'r deyrnas yma. Mae y cyfryw wedi pasio deg a thrigain. Onid ydyw y cyfryw rai yn dyfod i hawl o fiwytld-dâl yn gyfreith!awn ? Ydwyf, &c., MONWR.
ATTEB.
ATTEB. Yn ol llythyren y gyfraith, nid yw y bobl hyn yn teilyngu blwydd-dal. Ond gall Pwyllgor y Blwydd- daliadau gymmeryd yr amgylchiadau eithriadol hyn i ystyriaeth.
[No title]
FONEDDIGION, Gofynir am 'tenders' bob blwyddyn gan Gynghor Plwyf P- am y gwaith o oleuo y pentref Der- bvniryrunigun a geir. Hen fi r sydd dros bedwar ug-ain oed. Pe digwyddai damwain i'r hen wr wrth iTvflawni ei waith— 1 A ydyw y c.. nghor yn gyfrifol o dan ddeddf ad-daliad ? 2. Pa un bynag, a ydy w yn ddoeth i'r hen gael y erwaith V Ydwyl,&c, LOAN. ATTEB. 1. Ydyw. 2. Nid cwestiwn cyfreithiol ydyw hwn.
[No title]
FONEDDIGION, Byddaf yn dra diolchgar i chwi os byddwch mor garedig a rhoddi attebiad i hyn o fater yn y FANER yr wythnos hon :— A oedd gan fasnachwr hawl i fyned & gwerth 14p o ddodrefn ar ol marwolaetb y braw.1 (sef, perchenog y dodrefn), am ei fod yn ei ddyled o Gp. ? Yr eiddoch, &c., YMOFYNYDD. ATTEB. N IC oes. Rhaid iddo ddychwelyd pa swm bynag a dderbyniodd yn fwy na,'i ddyled a'r costau.
[No title]
FONEDDIGION, A ydyw dynes, 73Mn mlwydd oed, yr hon sydd wedi bod yn cael ei chadw gan ei meibion, trwy eu cyfran" iadau i Fwrdd y Gwarcheidwaid, amser yn ol, ond sydd yn awr heb fod yn cael ei chadw felly, yn agored i hawlio blwydd-dal ? Ydwyf, «fec., DR. ATTEB. Yn ol llythyren y gyfraith, nac ydyw, ond gwell rhoddi ei bathos o flaen pwyllgor y blwydd-daliadau.
[No title]
FONEDDIGION, Carwn wybod, trwy y FANER, a oes hawl gan y trethgasglwr i gospi cyn y 25ain o Fedi, os byddweh wedi talu tair rhan o bedair o'r dreth ? Ydwyf, &c., RHYDDFRYDWR. ATTEB. Oes hawl, ond nid ydyw yn debyg y gwnai yr ynadon orchymyn talu o dan y fath amgylchiadau. ly
[No title]
FONEDDIGION, Byddaf yn ddiolchgar am attebiad i'r ddau gweitiwa canlynol yn y FANER — Yr wyi yn meddu trwydded i ladd helwriaeth am flwyddyn; sef, 3p. 1. A oes genyf hawl i gymmeryd person gyda mi i ladd ysgyfarrogod. a chwning od, &c, gyda threih deg swllt, ar fy fferm ? 2. Hefyd, yr wyf yn cymmeryd 1,500 o aceri o dir saethu gan berchenogion y ffermydd. A oes genyf bawl etto i gymmeryd yr un person gyda mi ar y tir hwn i ladd ysgyfarnogod a chwningod, &c, gyda'r un clrwydded; sef, deg swllt? Ydwyf, &c, LOAN. ATTEB. 2. 03 yw y tir-feistr, neu un ar ei ran, yn saethu dros eich fferm, gellwch awdurdodi mewn ysgrifen un person yn unig, a gall ef saethu ground game' gyda thrwydded deg swllt. 2. Gellwch, i saethu 1 ground game.'
[No title]
( Ymgynnullodd nifer liosog i gapel Gibeon, St. Clears, nos Fawrth, ar yr achlysur o anrhegu y gweinidog, y Parch. D. R. Da- vies, a,r ei neilkluad1, ar ol cwblhau 30 mlynedd o lafur yn y weinidogaeth. Gwneid yr anrheg i fyny o bwrs, yn cynnwys 74p. 2s. 6c., a llestri arian i wraig y gweinidog. Llywyddid gan y Proffeswr D. E. Jones, Caerfyrddin. Cymmerodd amryw weinidog- ion, ac eraill, ran yn y cyfarfod.