Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
62 erthygl ar y dudalen hon
,!!!!!!!!M.Mtt! YCYNNWYSIAD.…
M. Mtt! YCYNNWYSIAD. I Hysbysiadau 1, 2 I Y Gyfraith 2 í Arholiadau Gorsedd y Beirdd 2 jUigwyddiadau 8 Genedigaethau. 4 Prif Erthyglau .< 4 Newyddion Oymreig 5 6 'Llwyncelyn, Ceredigion 5 Pontypool. 5 Cjedpoeth 5 Mr Ellis Daviea, A P, yn Llandwrog 5 Bohebiaethau 6 Gynghor Dosharth Gwledig Llanelwy (Fflint) 6 Barddoniaeth 6 Rhoallanerchrugog a'r Oylchoedd 6 Pilcenin (i Cyfarfod Rhyddfrydrg yn Rhuddlan 7 Arddangogiad Rhyddirydig yn Rossett 7 Padsefydliad yr Eglwys yn Ngnymru 7 Telegrams 8 Dinbych. 8 Marchnadoedd 8 I
[No title]
Bu tan mawr yn Glasgow, nos Sadwrn, mewn buarth coed. Hwn yd- oedd y tan mwyaf a welwyd yno er's llawer o flynyddoedd. Cyfrifir y golled yn werth pymtheng mil o bunnau. at
[No title]
Gwaelth na hyny ydyw fod sail i gredu mai yn fwriadol y cynneuwyd yr oddaeth. Yn ddiweddar y mae amryw danau cyffelyb wedi bod yn Glasgow. Daw y troseddwr neu y troseddwyr yn fuan i'r ddalfa, ni a obeithiwn.
[No title]
Yr aelod Llafur, Mr. P. W. Wilson, mewn araeth yn Lancaster, wythnos i heno, a wna.eth sylwadau pwysfawr ar yr angenrheidrwydd am gymmod yn 'myd y cotwm,' yn sir fawr Caerhir1- fryn. Y mae yr holl wlad yn dioddef oddi wrth yr hyn sydd yn cymmeryd lie yno yn awr. Yr ydym yn un frawdol- iaeth trwy yr holl deyrnas,' meddai.
[No title]
Nid ydyw yn debygol y gwelir llinell- au yr agerlongau Prydeinig ac Almaen- aidd mown eyd-ddealltwriaeth ynghylch prisiau y cludiad, ac adegau y morio. Ceisir ymgynnhyrfu i'r perwyl hwn er's tua dau fis. Ond, un o swyddogion llin- ell y Cunarders a ddywed nad ydyw y cwmniau fymryn nes i gydolygu yn awr nag oeddynt pan ddechreuwyd y drafodaeth.
[No title]
Yn gynnar boreu ddydd Sadwrn, yn Ramsgate, daeth merch o hyd i'w mam wedi boddi ei hun yn y gist ddwfr tu ol i'r ty. Nidoeddond ei dillad nos am y druanes. Arferai yn fynych gym- meryd gormod o ddiod feddwol.
[No title]
Is-iarll Bury fydd ym'geisydd y Tori- aid yn rhanbarth Altrincliam, yn sir Gaerlleon. pan gymmer etholiad cyffred- inol le. Chwe blwydd ar hugain ydyw y pendefig ieuange. Mab hynaf Iarll Abfermarle ydyw.
[No title]
Y mae yn ddiau mai nid yn ddifeddwl y llefarai ly Parchedig Page Hopps, y gweinidog Undodaidd adnabyddus 0 Lundain, yn Preston, nos Sadwrn. Dywedodd fod dinas Llundain yn prysur droi yn ddinas baganaidd, yn ymroddi i blcser. Gyda chyflymder darostyngir y Sabbath yno i fod yn wyl mab sant. It
[No title]
Crea- y post ceiniog rhwng Prydain n t) ao Unol Dalaethau yr America chwyl- dr6ad yn rhif yr epistolau a anfonir dros y Werydd, ol a bla,en. Yr wythnos cyn y cyfnewidiad, saith sypyn a deugain, yn cynnwys 46,700 o lythyr- aUi, a gymmerwyd o'r wlad hon. Wedi y cyfnewidiad yr oedd y Lusitania yn cymmeryd pump a thrigain o sypyn- au, yn cynnwys 95,000 o lythyrau.
[No title]
Wythnos yn ol dywedodd Dr. Cooper, A.S. dros Bermondsey, fod Prydain Fawr yii gwario 166,000,000p. am ddiod- ydd meddwol mewn blwyddyn. Yn yr un cyfarfod dywedodd gwr parchedig fod Arglwydd Llangattwg (gynt Mr. Henry Matthews) wedi tynu ei g,efnog- aeth oddi wrth y chwaeroliaeth a wna, ei phencadlys yn y neuadd yn mha un y cedwid y cyfarfod hwn i bleidio Mesur y Trwyddedau. Ceir clywed chwan,eg,a,r hyn, y mae. yn ymddangos.
[No title]
Dan nawdd y blaid Lla,fur Oynnaliwyd cyfarfod mawr yn Sunderland, nos Sad- wrn. Oehr Sosialaidd y blaid a'i cyn- naliai. Y peth rhyfeddai a ddywedwyd ynddo, o'i iddechreu i'w ddiwedd, yd- ocdd, fod Mr. Lloyd George wedi troi yn Sosialydd.
[No title]
Yr wythnos ddiweddaf taenwyd y gair fod Mr. George Barnes, A.S., i gael ei bennodi yn swyddog o dan Ddeddf y Blwydd-daliadau i Hen Bobl. Mr. Barnes ei hun a ddywed na wvr efe fwy am y pennodiad nag a welodd yn y iiewyddiaduron. Ai nid efe a fu- asai y blaenaf i gael gwybod peth o'r lath ?
[No title]
Ami wig ydyw y oarai Mr. Thomas Burt, un o seneddwyr goreu gweithwyr y deyrnas, weled mwy o, awdurdod yn cael ei roddi i'r Bwrdd Masnach ynglyn a chwestiynau y gweithwyr. Y mae yr hyn a wnaed gan Mr. Lloyd George a Mr. Winston Churchill, yn ystod y deuddeng mis diwedda,f, yn ddigon o reswm dros hyny. Onid swyddfa a chwestiynau gweithfaol yn uniongyrch- ol o dan eu gofal a ddylid ei sefydlu.
[No title]
Gellir disgwyl (ffrwyth toreithiog lar yr ymdrechion a wneir yn y dyddiau presennol i gynnyrchu teimladau rhyw- io'g cyfeillgar rhwng y genedl Brydein- ig ac Almaenaidd. Diau na chyfeiliorn- em pe dywecle,m nad oes symmudiad pwysicach na hwn ar droed yn y ddwy wlad. Eisoes y miae g'waith da \vedi ei wneyd; ond, nid agos ddigon.
[No title]
Er pan dorodd y geriallan yn Ewssia nid oies llai na naw mil wedi eu lladd ganddo erbyn hyn. Ymosododd ar yn agos i ugain mil. A gwelir ei fod wedi troi yn farwol i yn mron un yn mhob dau. I
[No title]
Wedi tiair wythnos o, afiechyd bu farw Syr George', Livesey, yn Reigate. Ynglyn a chyflenwad nwy y brifddinas yr ennillodd efe ei enwogrwydd. Gweithiodd yn galed dros ddirwest hefyd.
[No title]
Y newydd mwyaf dyddorol, os nad hefyd y mwyaf cyffrous, o Unol Dal- aethau yr America, ddechreu yr wyth- nos hon, ydoedd y dadganiad a wnaed gan Mr. Nicholas Longworth, mab-yn- nghyfraith yr Arlywydd Rooseyelt. Dywedai y bydd i Mr. Taft yn sicr o gael ei .ethol yn arlywydd y tro nesaf. Ond, chwanegodd y bydd Mr. Roose- velt ei hun yn dyfod allan fel ymgeisydd pan y gorphena Mr. Taft ei dymmor.
[No title]
Nid oes, wrth gwrs, a all ddyfalu pa beth la, ddigwydd bedair blynedd a han- ner, dyweder, i heddyw. Gall hyd yn oed Mr. Roosevelt ei hun newid ei feddwl. Ond, ychydig ddyddiau yn ol, dyweyd yr oedd efe ei fod yn awr yn arlywydd am y tro diweddaf.
[No title]
Bygythir Chicago a goresgyniad gan Wyr Seion.' Blaenor y rhai hyn yn awr ydyw yr Arolygwr Yoliva. Efe n ydyw olynydd y prophwyd Dowie. -q,
[No title]
Dywed Voliva fod y ddinas fawr mor llygredig fel y dylid gwneyd rhywbeth i'w phuro iar unwaith. Cofus genym am oresgyniad Dowie a,r New York, ychydig flynyddoedd yn ol. Un tebyg i hwnw, clebygem, fydd goresgyniad Voliva ar Chicago hefyd. e
[No title]
Gellir disgwyl ei weled yn dechreu un o'r dyddiau nesaf. Bydd dwy fil o Wyr Seion, gyda banerau o'u blaen- au, a'u seindyrf pres, yn canu hymnau, yn cymmeryd eu gorymdaith yn llu o Ddinas Seion; yr hon, yn ffodus (mor belled ag y mae y cerdded yn myned), nid yw namyn deuddeng milldir o bell- der. Troedigaeth 'Nythle Llygredig- aeth (enw Voliva, ar Chicago) ydyw yr am can. 11
[No title]
Am wythnos neu. chwaneg (yn ol llwydd y gwaith) bvdd llu 0< genhadon yn pregethu ar gonglau yr heolydd. Y nosweithiau bydd cyfarfodydd mawrion yn cael eu cynnal mewn amryw neuadi- au mawrion y ddinas. Wrth gwrs, c'r mwyn ennyn sylw, a chasglu pobl, gor- ymdeithir yn ddyddiol trwy yr heolydd. 11
[No title]
Nid achub Chicago ydyw yr unig am can sydd i'r rhuthr, dealler. Nid ydyw coffrau Seion (yn llawnion. Yi amcan arall ydyw casglu arian.
[No title]
A chasglu dysgyblion i chwyddo rh;t edi dinasyddion Seion. Mawr hyd ;r Voliva; ydyw y chwyddir miloedd at nifer y dychweledigion. Y mae efe er's wythnosau yn "braddodi pregethau beil,lt- ion yn erbyn Chicago a'i phobl ddryg ionnus.'
[No title]
Yr ydym yn eidduno llwyddiant yr ym'gyrch. Yr hwn nid yw yn t'n herbyn, o'n tu y mae.' Os ceir y bobl oddi wrth eu pechodau rhywfodd a rhyw- sut, pob peth yn iawn, er na, bydd y dull yn mhob peth yn unol a'n dyhe- wyd.
[No title]
Ar y 25ain O1 Ebrill yr aeth y wiblong Gladiator ar y traeth yn Ynys Gwyth. Ami ymdrech a wnaed, a, miloedd o bun- nau a wariwyd, i geisio ei chodi. Dydd Sadwrn coronwyd y cyfan a llwyddiant, a nofiwyd hi yn ddiogel, wrth lusgfad, i Portsmouth. T
[No title]
Trwy y danchwa fawr yn nglofa Maypole, ger Wigan, ddau fis neu dri yn ol, collodd dros ddeg a thrigain o bersonau eu bywydau. Dilvnwyd y trychineb hwn gan un arall, trwy i'r glo yn y pwll danio, a llosgi y bu ar hyd yr wythnosau canlynol. Erbyn hyn da genym ddeall fod yr oddaeth anferth wedi ei ddiffodd.
[No title]
Odid y dioddefodd un dosbarth o grefftwyr ein gwlad oddi wrth y gwres mawr diweddar na'r teilwriaid. Ni fynai pobl orchymyn dilladau newydd- ion. Daw yn 'brysur arnynt ietto. Boed iddynt gymmeryd calon.
[No title]
Mr. J. Holland, o Northwich, a aeth ar ei fisycl, gyda'i fachgenyn, dydd Sadwrn, i Wigan a Runcorn. Yn Hal- ton efe a ddisgynodd oddi ar ei farch i oleuo ei lamp, ac a, syrthiodd i lawr yn farw. Credir mai y gwres a'i gorch- fygodd ef.
[No title]
Nid ydyw hanner y straeon a ledaen- ir am Mr. Joseph Chamberlain yn wir- ionedd. Er enghraifft, taenwyd y gair ei fod ef am roddi ei sedd yn Birming- ham i fyny. Nid. oes gwir yn hyn.
[No title]
Y mae melfis Mr. Winston Churchill wedi terfynu. Daeth ef a'i briod adref ganol yr wythnos hon. Bellach, hir a hapus fywyd priodasol iddynt. II
[No title]
Gwerth eiddopersonol y diweddar Brifweinidog ydoedd 60,000p. Yn. y swm hwn ni chymmerir gwerth ei dir- oedd yn Ysgotland. Ei nai ydyw yr etifedd.
[No title]
Yn ei araeth dydd Sadwrn i gynnull- eidfa yn rhifo pedair mil, yn sir Ber- wick, yn Ysgotland, cyfeiriodd y Prif- weinidog presennol at yr achosion o ddi- boblogiad y wlad. Dangosodd pa fodd yr oedd trefniant y Man Dyddynod yn feddyginiaeth rhag y drwg hwn. Da ydyw meddwl fod y trefniant hwn yn dechreu dwyn ffrwylh er daioni.
[No title]
Ar reilffyrud taxj.^aa-turol Llundain— bedair o, honynt-bu attalfa difrifol am rai oriau. Diffoddodd y goleuni tryd- anol. Bu raid i'r teithwyr ymbalfalu oreu y gallent i ddyfod allan o'r twnelau yn y tywyllwch. <
[No title]
Cynnaliwyd 'Dy' Sul Newyn' yn 'Sgwar Trafalgar, Llundain, y Sabbath diweddaf. Mr. Stewart Gray, a, phump o'r arweinwyr, a gymmerwyd i'r ddal- fa. Rhifai y dorf bedair mil o bobl, a bu raid galw cwnstabliaid ar feirch allan. a
[No title]
Mewn lie o'r enw Le Raincy, wyV.! milldir o Paris, ychydig cyn hanner i,o->, nos Wener, bu cvflafan ar ganol y brif- fiordd. Masnachwr wedi ymddiswydlo, o'r enw Ernest Michot, a gredai fod p¡ wraig yn lanffyddlawn iddo. Nid oedd a'i boddlonai ond dialedd.
[No title]
Cymmerodd arno fyned oddi cartref dros nos. Ymguddio yn nghysgod y gwrych, ar fin y ffordd, a wnaeth, moh bynag. Yn y man wele lei wraig a'i ehariadlangc yn dyfod heibio. I Hi yn 42a.in flwydd, ac yntau dan ei 20ain. Yn y fan taniodd y gwr eiddig- t, eddus arnynt. Cafodd y ddynes dair bwled, a lladdwyd hi yn uniongyrch-l. I
[No title]
Y cariadlangc a anafwyd yn dost, ac a. gymmerwyd i'r meddygdy; ond, gall wella. Michot a aeth ac a roddodd ei hun i fyny i'r heddgeidwaid. Cym- merwch fi i'r ddalfa,' meddai; yr wyf wedi lladd fy ngwiaig, ac anafu ei chariad.'
[No title]
Yn mhentref Dunstan, yn agos i Lin- coln, bu trychineb arswydus. Cafodd dyn a bachgenyn eu mygu mewn hen ffynnon y bwriedid ei chlirio er mwyn gwneyd defnydd o honi. Diangfa gyf- yng a gafodd dyn arall.
[No title]
Yn yrnyl y ficerdy y mae y ffynnon. Ni buwyd yn codi dwfr o honi er's pymtheng mlynedd. Penderfynodd y ficer presennol gael ei gwasanaeth.
[No title]
Rhoes ar adeiladydd, o'r enw Halkes, dyn ieuaagc 27ain mlwydd oed, i wneyd '7' archwiliad ami. Gollyngwyd ysgol i lawr iddi, i ddyfnder o ugain troed- fedd. Ar hyd yr ysgol lion aeth Halkes i lawr, er mwyn ceisio gwybod pa, beth oedd yn attal y dwfr ynddi.
[No title]
Gwnaeth hyny; ond, pan ddechreu- odd esgyn yn ol, yn sydyn gorchfygwyd ef gan y nwyon gwenwynig, a disgyn- odd i'r dwfr oedd yn y gwaelod. Yn ef weled yn syrthio yr oedd y bachgenyn, Meg mlwydd oed, a'i enw Lupton. Yn y fan prysurodd i lawr yr ysgol, ar fedr rhoddi cymmhorth iddo.
[No title]
Ond, druan Yntau a orchfygwyd, ac a gwympodd i'r dwfr. Rhedodd y ficer, yr hwn oedd ger llaw, gan wrveddi am help.
[No title]
Cafodd ddyn i'r lie, yr hwn a ddisgyn- odd i'r ffynnon. Fel y lleill, gorch- fygwyd ef; ac i'r dwfr y disgynodd yntau. Ar hyny wele lafurwr i'r fan. Hwn a wnaeth ddrag,' ac a lwyddodd i godi y tri chorph i fyny i'r wyneb. Fel y dywedwyd, yr oedd y ddau flaen- af yn hollol farw. Y trydydd ydoedd yn anymwybodol, ond, llwyddwyd i'w ad- fer. Yn naturiol parodd yr amgylchiad gyffro trwy yr holl ardal.
[No title]
Yr wythnos nesaf bydd y Senedd yp ail ymgyfarfod. Daw ynghyd i wneyd gvaith pennodol. Ond, gellir bod yn sicr y bydd yn rhaid iddi wneyd llawer o waith na thorwyd yn mlaen Haw iddi.
[No title]
0 un peth gallwn fod yn sicr, sef, y cawn glywed cryn lawer am y gweith- iwr heb waith. Y rhai callaf yn mysg yr arweinwyr llafur a gydnabyddant nas gellir pasio mesur cynnwysfawr ar y pv ngc. Yr oil «a ellir ei wneyd fydd darparu arian i fod yn help dros y gauaf.
[No title]
Bwriada y Brenin dalu ymweliad a Brighton. Ond, nid am y tymmor maith y lledaenwyd dro yn ol ei fod ef am aros yno. Am ddiwrnod neu ddau, gyda'i ferch a'r Due o Fife yr erys efe. QI
[No title]
Mae cyflog Arlywydd Unol Dalaethau yr America yn fwy nag y tybia rhai ei fod. Etto, pan ystyriwn urddas a phwysiigrwydd ei :safle, cyflog bychan iawn a gaiff. Ar y cyntaf tM,000 o ddol- eri yn y flwyddyn ydoedd; ond wedi hyny fe'i codwyd i 50,000 o ddoleri.
[No title]
Y flwyddyn ddiweddaf trefnwyd 25,000 o ddoleri yn chwanegol at ei gestau teithiol. Caiff pob Arlywydd yr un swm yn y dyfodol, y mae yn dra thebygol. Rhoddir iddo symiau hefyd at ei dy, ei erddi, a.'i ystablau.
[No title]
Mawr syndod a aehoswyd gan yr hys- bysiad fod yr ymrwymiad priodasol l'liwng yr Is-iarll Newry, mab hynaf Arglwydd Kilmorey, a Miss Assheton- Smith wedi ei dori. Milwr ydyw Argl- wydd Newry, ac yn ddiweddar dychwel- odd o'r India, China, a Japan. Y mae efe yn aer i lawer ar ochr ei fam; ond, y mae y foneddige& ieuangc yn aeres i lawer mwy ar ol ei thad, pe dim ond chwarelau Llanberis. Tro salw yn Bwlgaria ydyw tafhi rhwystrau ar lwybr Llywodraeth newydd ddiwygiadol Twrci yh y dyddiau hyn. Yn sicr, hi a allasai arcs am ennyd heb ;ieth gyhoeddi ei hannibyniaeth—aros hyd nes y byddai y Weintddiaeth Dvrcaidd wedi cael ei thraed dani. Neu dylasai fod wedi gwneyd hyn flwyddyn neii ddwy yn gynt.
[No title]
Nid ydyw Awstria- fymryn gwell na hi chwaith. Nid oedd dim yn neillduol yn galw am iddi hi gyssylltu Bosnia it Herzegovina a'i hymherodraeth ei hun. Dim ond fod hon yn ymddangoS yn foment fanteisiol.
[No title]
Y llong fawr City of Dundee,' ar ol bod mewn gwrthdarawiad a'r agerlong Matina,' yn Mail Aberteifi, foreu Sul, mewn niwl tew, .a suddodd fcyn pen y saith munyd. Yr oil o'r teithwy?, dcunaw mewn nifer, a'r rhari fwyaf o'r criw, a achubwyd trwy gael eu dwyEt drosodd i'r Matina.' Y cadben, yr ail- feistr, a'r chwarter-feistr a ioddwyd. Costiodd dewrder y eadben ei fywyd iddo.
[No title]
Aeth y Prifweinidog i Kirkaldy ddydd- I.lun. Rhoed iddo ryddfraint y ddinas hynafol hono yn sir Fife, yn Ysgotland- Tiaddododd yntau araet-h ddiplchgarwch ddoniol.
[No title]
Yr wythnos hon yr oedd y Gynghrea Eglwysig yn eistedd yn Manchester. Ijlywyddid gan yr Esgob Knox. Yr oedd pob chwareu teg i dd-efodaeth yn cael ei roddi ynddi o'i dechreu i'w diwedd.
[No title]
0 fewn yr wythnosau diweddaf y mae amryw o'r prif gwmniau ffyrdd haiarn wedi troi lliaws 0 u gweithwyr o'u gwa&- araeth. Ammheuir a ydyw yr amgylch- iadau yn cyfreithloni yr hyn a wneir. Modd bynag, y mae problem y diwa-ith' wedi ei gwneyd yn fwy dyrus.
[No title]
Yr arweinydd Llafur, Mr. SnOwden, yn ei araeth nos Lun i'w etholwyr yn Black- burn a ddywedai mai y diwygiad nesaf y dylid ei gael ydyw gostwng yr oed i gael blwydd-dal i hen bobl o ddeg i bump I a thrigain. Nid oes neb yn credu yr un peth yn gryfach na Mr. Lloyd George ei hun. Ond, dyna, ar hyn o bryd, o ba le y ceir yr arian at hvny.
[No title]
Da genym weled Mr. Snowden hior igryf 01 blaid y Mesur Trwyddedol. Ni wnaiff hi mo'r tro o gwbl i'r Lly wodraeth gymmeryd ei gorchfygu gan y dar- 11 a wyr, meddai. Ac meddai yn mhell- ach, ni bydd y ddeddf yn worth ei chael os gwneir 'yr amser terfynol' yn hwy ns. pLedair blynedd ar ddeg.
[No title]
Am yr wyth mis yn diweddu Awst Slain, rhydd adroddiad y Bwrdd Mas- nach, yr hwn sydd newydd gael ei gy- hoeddi,yr ystadegau canlynol :-Nifer y rhai aymfudasant o'r wlad hon yn ystod y tymmor hwn ydoedd 250,858. Yn ystod yr un cyfnod y llynedd ymadaw- odd 437,693. Nifer y rhai a ddaethant yn ol i'r wlad hon ydoedd 258,025, mewn cyferbyniad i 194,446 y flwyddyn ddi- weddaf.
[No title]
Dyn ieuange a'i enw Leonard Holmes a anfonwyd i garchar am flwyddyn Q lafur caled gan ynadon Wigan ddechreu yr wythnos hon. Ei drosedd ydoedd cym- meryd arno fod yn arolygwr o dan y lily wodraeth. Bu yn cyflawni yBtrangc- iau cyffelyb droion yn flaenorol, debygid.
[No title]
Plaid Llafur newydd sydd wedi ei fiur- fio. Yn Islington, Llundain, y mae ei phencadlys. Ei henw ydyw Plaid Gyn- nyddol Llafur.
[No title]
Cydnebydd y gymdeitlias newydd an- edig mat ynfydrwydd ydyw i weithwyr ddarnio rhengoedd y Blaid Ryddfrydig. Ei hamcan hi, gan hyny, ydyw uno nerthoedd Llafur a Radicaliaeth. A thrwy hyny rhoddi terfyn ar y gwall- gofrwydd politicaidd o fod Rhyddfryd- wyr a Phlaid Llafur yn ymladd yn erbyn eu gilydd.
[No title]
Bendith ar y Gymdeithas a'i hamcan daionus. Os llwyddir, rhydd derfyn ar lawer o ddrwgdeimladau. Ond, gan