Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Golyga y gynnadledd arbenig a gyn- nelir gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd ar v lOfed o'r mis nesaf symmudiad new- I ydd ynglyn a chwestiwn mawr Cydradd- oldeb Crefyddol. Cynnydda y gred nas gfllir penderiynu Cwestiwn Addysg a .ki y n rhai tebyg iddo hyd oni cheir Dadgys- sylltiad. Amcan y gynnadledd, yn ar- benig, fydd rhoddi bywyd cynnyddol yn v mudiad am evdraddoldeb.
[No title]
Cafodd Mr. Lulu Harcourt longyfarch- iadau aneirif ddechreu yr wythnos lion. Anrhegodd ei briod ef a mab ac etifedd. Metched oedd ganddo o'r blaen. Diau yr enwir y bychau ar enw ei daid, hen flsenor iiiawr y Rhyddfrydwyr.
[No title]
Sibrvdir fod Rwssia unwaith yn rbagor yn myned i godi hen gwestiwn y Dardan- elles. Rhyddid i anion ei llongau rhyfel o'r Mor Du i For y Canoldir trwy y. cul- for hwnw ydyw yr hyn yivymawcha hi 2.'n dano. Os ydyw y Galluoedd eraill yn ceisio dryllio Cyttundeb Berlin i w mantais eu hunam, pa ham na ciiaiff hithau.
[No title]
Yr ochr arall i'r cwestiwn liwn ydyw: —A fyddai Rwssia yn foddlawn i'r Gallu- oedd eraill anion eu llongau o'r Canol- for i'r Mor Du? Os caniateir y naill, ymddengys i ni y dylid caniatau y Hall, hefyd. Ond, a iyddai Rwssia yn iodd- lawn?
[No title]
Mygwyd chwech o bersonau mown ZD ffynnon yn mhentref Pasadela, yn Ys- paen, ddydd Llun. Dyn a'i enw Antonio Banal oedd y cyntaf i fyned i lawr. Ei dad, yr hwn oedd ar Ian y ffynnon, a'i clywodd yn gwaeddi am gymmhorth, ao a aeth i lawr- ato. II
[No title]
Yn fuan ar ol hyn, gan nad oedd yr un o'r ddau yn dyfod yn eu holau, dechreu- odd y teulu ofni drwg. Galwasanu ar y cymmydogion i ddyfod YllO. Aeth nu Domingo Inglesias i lawr. 1P
[No title]
Ar .ei ol ei aeth tri arall. A mygwyd y chwech gan yr awyr fall. Pa synwyr oedd anturio i'r fath geubwll gwenwyn- ° ia? °
[No title]
Ai tybed fod yr ymfflamychydd Tori- aidd yn ba-rod i fod yn un a'i air? Er mwyn addysg grefyddol v plant yn yr ysgolion dyddiol (Eglwysig, wrth gwrs, Gol). Yr wvf yn foddlawn aberthu pob peth a feddaf. Gwell genyf fyddai marw ar lawr Ty y Cyffredin na bod yr ysgolion hyn ag yr ydym ni wedi eu codi ac wedi talu am danynt yn cael eu hab- erthu, ac addysg grefyddol yn cael ei symmud o raglcn bywyd dyddiol y plant.'
[No title]
Dau laslangc oeddynt yn heddlys Maryleborne, Llundain, ddydd Llun, am ymladd yn yr lieol. Ymladd am ryw ferch ieuangc yr oeddynt. Gofyncdd yr ustus a oeddynt wedi cymmodi. Dywed- wyd eu bod wedi siglo dwylaw. Aw- grymodd yr ynad eu bod yn tossio am dani hi' yn hytrach nag ymladd dim chwaneg.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. JONES-Hydref 3ydd, prioj Mr. David Jones, 11, Beacon's Hiil, Dinbych, ar fereh cyntafanectig. Mae'r fechan yn vvyres i Mr. William Lloyd, Ellam Villa, Dinbych. MORRIS—Hydief 3ydd, priod Mr Charles Morris, 21, R-»on, ger Dinbych ('groom' yn Llanercb), ar ierclfl TaoMAs-Yedi 21ain, priod Mr William Thomas, Ffynnon Fair, Pont'rallt Goch Llanelwy, ar fab. PRIODASAU. AVRILL—JONES—Medi BOiin, yn Eglwys St Pcclr, Rhuthvn, gan y Parch Archddiacon Howell Griffith, Mr J Thomas Avrdl, Bangor (gynt o Rhuthyn), a Miss Nellie Jones, o'r Castle Hotel. CLOVER—WILI/IAMS—'Hydref ífed, yn Egh}'s f t Mark, Biikenhead, gan y Parch H Leigh ftiallorv (v for), yn c.iel ei ly noitliwyo gan y Parch T M Standring ('"tnr Bits ton), Mr Henry Edward Clover, t trydydd mab Mr C J Clover, Westrdd, Oxton, k Catherine C ff ,rd, a'i ferch Mr T, oraas Williams, u H, Foelas. Bidstoa Road, Oxton, a Llewesog Hall, ger Dinbych. MARWOLAETHAU. JONES—Hydref 4ydd, yn 89,vin mlwydd oed, %'n nV,y ei mab (Mr John Jones, 56, Henllan Street), Airs Jana Jones (gweddvy y diweddar Mr Thomas Jones, crydd, Copy Koad, Henllan Street, Dinbych).
[No title]
Y mae 40,000 o lynau yn Newfoundland. Y mae 32,000 o heal gardotwyr yn Vienna. Mercbed ydyw y cynnyrchwyr ffrwythau goreu yn California. Gellir dyfod o hyd i fwy o amrywiaeth o bysgod yn y Nile nag unrhyw afon arall. Y mae dros 25;000 o lestri mordwyol a dros hanner cant o dynelli yn awr ar y dyfnfor. Y mae cleddyf Japanaidd ddefnyddiwyd gan un o'r ymhera wdwyr tua 800 cyu Crist ar gael yn bres' nnol. Codir gwartheg Galloway yn Alaska, ac y mae eu crwyn yn cael eu bystyried yn gyfar- tal i grwyn eirth o ran prydferthwch a gwas. anaeth. Y mae yn rhaid i bob plentyn a rodda ei bresennoldeb mewn Kindergarten yn yr Ys- wisdir a'r Almaen gael ei ddarparu a cbadach poced glan. Adeile.dir y simne dalaf yn y byd yn Mon- tana, Unci Dalaetbau Ameiica. Pan y grrphenir, cyrbaeddu uchder o 506 o droed- feddi. Hyd yma, yr Almaen oedd yn ym- ffrostio yn y ssirnne uchaf, un o 460 o droed- feddi.
Y CROCHAN BERWEDIG.
Y CROCHAN BERWEDIG. MAL crochan berwedig yn gymmhwys ydyw y Dwyrain Agos yn y dyddiau hyn. Dydd Llun cyboeddodd Bwlgaria ei bannibyniaeth ar Twrci. Gwaeddai am dano er's talm. Ond pan oedd y Sultan yn afiaeth ei ormes ni feiddiai symmud cam i geisio ei gael. Mor gynted ag y torfynyglwyd gwinedd Abdul Hamid, a phan ddacth Twrci i fwyn- hau teyrnasiad Llywodraeth Ryddfrydig am y waith gyntaf erioed yn ei haLes, wele hi yn ymgyffroi, ac yn dangos ei gelyniaeth tuag at gwrs y diwygiad. Y peth cyntaf a wnaeth ydoedd ei sarhau, a tbaflu rhwystrau ar ei ffordd. Dewisodd fyned gydag Aws tria, yr bon nas gall oddef gweled pobl y Dwyrain Agos ynmwynhau en hiawnderau. Gall v Bvyjgariaid bledio mai cenedl ieuangc gyda gorphenol ystormus ydynt hwy, a dyweyd eu bod yn ddyledus am eu sefyllfa fFynianmis bresennol i'w gwaith yn dryllio cyttundebau. Ond, nis gall Awstria ddadl- eu dim o'r fath. Hen genedl yw yr Awstriaid. Cadw pethau fel y maeat ydyw ei harwyddair. Attal cerbyd cynnydd a wnaeth ar hyd ei banes, ac a wna yn awr. Pan oedd Twrci yn griddfan o dan ormes tawel oedd hi. Pan y dechreuwyd ceisio adfer iawndrefn yn Macedonia y dechreuodd hi ymysgwyd. Ac yn awr, pan y mae Twrci Ieuangc yn dechreu agor ei llygad, dynoetba hithau ei cbilddannedd. Hi, mewn gwirionedd, sydd ar y blaen yn y gwaith o ddryllio Cyttundeb Berlin yn ddarnau. Diystyra hawliau y Sultan fel penadur, mor gynted ag y daeth efe i'w hymarfer o fewn terfynau cyfansoddiad fFurfiol. Myn gyssylltu a hi v ddwy dal- aetb, Bosnia a Herzegovina, gan daeru na chant bertbyn mwy i Twrci. Hi, mewn gwirionedd, meddwn etto, sydd wedi arwain Bwlgaria i wneyd yr hyn a wnaeth. Rhag- rith o du Awstria ydyw tystio y gwrth- wyneb. Yn ffodus, nid oes unrhyw am- mbeuaeth ynghylch y safle a gymmer ein Llywodraeth ri yn wyneb ystrangciau haerllug y ddwy. Nis gall Prydain gydna- bod cyfnewidiadau sydd yn goJygu ymwrth- odiad ag ammodau y Cyttundeb hyd n2S y ceir cydsyniad yr boll Alluoedd a roddas- ant eu henwau wrtho. Nid ydym yn gwadu na fuasai y naill a'r llall o'r cyfnewidiadau hyn yn rhwym o gael eu dwyn oddi am- gylch yn fuan neu yn hwyr. Pe yn ddoebb, buasai Bwlgaria yn aros byd nes y cawsai bi gydsyniad ac ewyllys da Twrci ei bun. A'i gael y buasai, yr ydym yn sicr. Pe mynasai hi gynnyg myned i gynghrair a'r Llywodr- aeth newydd yn Twrci, gallasai y ddwy wlad sefyll ysgwydd wrth ysgwydd, yn an- nibynol, ond mewn cynghrair, a thrwy byny profi eu hunain yn withglawdd ansymmudad- wy yn erbyn traha yr ymherodraetbau cryfiou o'u bamgylch, y rbai ydynt wir elynion y bob! a'u hiawnderau. Yn lie bod yn un, y mae cenedlosdd Gororau y Balkan yn rhanedig, ac yn wein- iaid. Rhagolygon y dyfodol yn Macedonia ydynt unwaith yn rbagor o dan gwmwl. Plaid cynnydd yn Nhwrci sydd wedi ei cbilgwthio, ac i'r G-alluoedd nad ydynt erioed wedi parchu teimiadau gwerinaidd a chen- edlaethol y mae y drws wedi ei agoryd drachefn i ymyryd. A dYau mai at hyn oil yr oedd gwladweinyddion Awstria yn amcanu. Yn y cyfamser, tasg y diplomydd- ion fydd attal chwaneg o rwygo cyttundcb- au. Er enghraifft, nid dyma yr adeg fwyaf manteisiol i gOJi cwestiwn Ynys Creta i'r gwynt. Nid dyma yr adeg, chwaitb, i Rwssia ail agor y cwestiwn ynghylch rhyddfordwy- Z7) aeth y Mor Du i'w llongau rhyfel hi a gofyn am gael myned trwy y Dardannelles i For y Canoldir. I ni, yn Mhrydain, peth bychan ei ddawr ydyw pa un a gaiff hi, ai ni chaiff anfon ei llestri trwy y culfor hwnw ond, cs caiiT, cawn ninnau anfon ein llongau trwyddo o For y Canoldir i'r M6r Du. Ond, po leiaf o gwestiynau tramor y bydd yn rhaid i'r Weinyddiaeth Ddiwygiad- ol yn Nghaer Cystenyn eu wynebu ar hyn o bryd, yn nechreuad ei gyrfa, yn rhwyddaf oil y gall hi gyflawni ei gwaith gartref. Ei pherygl ydyw adweitbiad yn ei gwlad ei bun ac yn nigwyddiadau y dyddiau pros-, ennol nis gall lai na bod symbyliad cryf i'w gelynion.
;::. BETH DDAW 0 HYN1
BETH DDAW 0 HYN1 WRTH gwrs, amser yn unig a ddichon atteb y cwestiwn hwn. Ar yr un pryd, yn natnriol yr ydys yn ei ofyn o dan yr am- gylcbiadau. Edrych yn bwyllog yn ei wyneb a'n dwg i sylweddoli y sefyllfa bres- ennol yn well. Y Gallu ag y gwyddom leiaf am ei deimladau a'i fwriadau, yn y cyssyllt- iad neillduol sydd o dan ein sylw, ydyw Rwssia. Nis gwyddom faint o wirionedd sydd yn honiad Awstria fod Rwssia yn cyd- weled a ac yn cymmeradwyo yr oil a wneir ganddi hi. Rhydd ymweliad diweddar Gweinidog Tramor Rwssia a Vienna wedd olygus ar, a pheth sail, befyd, i'r sibrwd hwn. Un o hen draddodiadau Llywodraeth Rwssia ydyw mai yr adeg i daraw cenedl ar drengu ydyw paa fo hi yn arddangos ar- t3 y wyddion ail fywyd. Ni raid myned yn mhell yn ol i chwilio am enghraifft o'r hen draddodiad hwn ar ei5 lawn waith. On cheir ef hyd yn oed yn y dyddiau presennol yn Persia ? Tybier fod Rwssia yn y cyfwng hwn yn awgrymu i'r Galluoedd mai yr hyn y dylid ei wneyd fyddai cynnal cynnadledd Ewropaidd i gymmeryd amgylchiadau Twrci o dan ystyriaeth. Am ba beth y y meddyliem gyntaf yn wyneb awgrym o'r fath 1 Nid am ddim yn gynt nag am y Cadfridoglgnat'eff yn 1876 yn galw cynnadl- edd gyffelyb yngbyd. Yn 1903 buasai cynnadledd o'r fath yn debyg o fod yn fuddiol ac o wasanaeth. Y pryd hwnw, ymddangosai Twrci yn analluog i ddiwygio ei bun. Ond, heddyw, ni byddai yn werth dim Yn bollol naturiol y teimla Plaid y Di- wygiad yn Twrci, neu Y Tyrciaid Ieuaingc,' fel y gelwir hwy weitbiau, yn ddigofus, a briwedig eu hysbryd, o herwydd y modd yr ymddygir tuag atynt. Tra yr ydoedd Abdul Hamid yn cario rhwysg ei oimes yn mlaen, yr oedd Awstria, a'r Almaen befyd, yn gallu bod ar y telerau mwyaf cyfeillgar a Thwrci. Yn y fan, pan y dechreuodd y Tyrciaid sicrhan eu dyfodol, wele y maent yn dangos eu hunain yn eu Jliwiau gwirion- eddol. Ymddygai Bwlgaria. hefyd, yn hollol gywir, a cban ddangos ysbryd hedd- ychlawn, hyd nes yr ennillodd y Diwygwyr eu hiawnderau i'w cyd-ddeiliaid, ac y rhodd- asant iddynt eu cyfran yn deg mewn cyfan- soddiad rhyddfrydol ei ysbryd. Ond, tra yn dyweyd fod y teimlad digofus hwn mor naturiol ag y gall dim fod, dywedwn ar yr un pryd yr ystyriem y Weinyddiaeth newydd yn Nghaer Cystenyn yn ymddwyn yn annoetb, os nad yn rhyfygus, pe yn gadael i chwerwedd ei hysbryd ei hannos i ryfel a Bwlgaria. Mae ei byddin wedi ei phwdreiddio o dan deyrnasiad mall Abdul Hamid. Ond, hyd yn oed pe buasai pob peth yn iawn yn yr ystyr hwn, byddai rhyfel yn sicr o fod yn anhawdd, ac yn brin mewn ffrwyth daionus. Mae byddin Bwlgaria, meddir, mewn cywair ardderchog, a'i byddin hithau yn llafurio o dan anfanteision dybryd. Na nid rhyfel yw ei I cherdyn hi beddyw. Hyd yn oed pe Ilwyddai i ennill budd- ugoliaeth ac y mae y Twrc yn filwrdihafai -amlwg yw oddi wrth yr hyn a ddigwydd- odd ynglyn a Tbessalia ycbydig flynyddoedd yn o1, na chaniateid i Twrci feddiannu rhycliwant o diriogaeth newydd, neu, yn bytrach, adfeddiannu hen diriogaeth. Yr ydym yn ammheus a ganiat-aai y Galluoedd iddi hyd yn oed adfeddinnnu ei phenadur- iaeth ar Bwlgaria. Yn y cyfeiriad hwnw nid oedd ei hawliau un amser ond mewn enw yn unig. Nis gallai ennill dim yn wirioneddol, ïe, trwy y fuddngoliaeth rwydd- af. Ond, nid buddugoliaeth rwydd a ZD ennillai hi yn y rhyfel yr ydys yn gdn am dani yn awr. A chan nad beth a fyddai tynged y rhyfel, peryglid y gwaith ar- dderchog sydd wedi ei ddecbreu o fewn yr ymherodraeth Dyrcaidd. Ysgatfydd na ddiffoddid ysbryd y diwygiad yn Ihvyr. Unig reswm y rbyfet pe yr elid iddi fyddai cadw i fyny urddas Twrri. Ond, y mae gan Twrci fwy o angen arian nag amddiffyn ei hurddas. Dinystriai rhyfel ei cbredyd yn Ilwyr. Ac un canlyniad arall i ryfel a Bwlgaria fyddai ennyn gwrtliryfel yn Ma- cedonia. A pben ar y cwbl yw hyn heb law y perygl, nid yw cyhoeddiad ei hanni- byniaeth gan Bwlgaria yn ddigon o reswm dros fyned i ryfel o'i herwydd. Teimlwn yn sicr y gwna y Gweinidog Tramor Pryd- einig yr oil o fewn ei allu, mor bell ag y mae cyngbori yn myned, i attal yr aflwydd ofnadwy hwn. Ein hyder cryf ydyw na welir mo'r gwaetbaf yn cymmeryd lie.
. ARAETH Y PRIFWEINIDOG.
ARAETH Y PRIFWEINIDOG. YN ei araeth nos Sadwrn siaradodd Mr. Asquith yn gryf ac mown cydymdeimlad ar gwestiwn y tir yn Ysgotland. Ni pharodd marwolaeth y diweddar Syr Henry Camp- bell Bannerman ronyn o gyfnewidiad yn ngwladwemiaelii y Jjlywodraeth mewn perthynas a'r cwestiwn hwn. Cerdda y naill brifweinidog yn llwybrau y llall yn hollol. Fel yr arferai ei ragflaenor wneyd, cymmer Mr. Asquith, befyd, olwg wir ddifrifol ar y modd y mae y rbanau gwledig yn Ysgotland yn cael eu diboblogi, ac nid oes ganddo unrhyw betrusder i ddyweyd mai deddf y man-dyddynod ydyw un o'r moddion mwyaf effeithiol i attal a gwrth- weithio y drwg. Ein diwygwyr tirol ydynt yn raddol, ond yn sicr, yn myned yn bellach oddi wrth yr hen athrawiaeth mai gwneyd y tyddynwyr yn berchenogion eu tyddynod ydyw y feddyginiaeth. Am flynyddoedd, beth amser yn ol, ni chlywid am nemawr ddim arall ynglyn ag iawndrefniad y deddfau tirol. Ond, y mae hjai yn ym ddangos fel pe wedi ei droio'r neilklu erbyn ein dyddiau ni. Dyn yn dal tyddyn o dan denantiaeth sicr am ardreth resymol a ystyrir ar lawer o gyfrifon mewn sefyllfa fwy manteisiol hyd yn oed na phe yn Hawn berchenog ei dyddyn. Er mwyn sicrhau iddo rent deg, rhaid cael IAlys Tirol, cym- mhorth yr hwn y gellid gofyn am dano mewn pob achos o angbydwelediad. A'r oil o'r syniadau hyn dangosodd y Prifweinidog ei fod ef mewn cydymdeimlad llawn. Byw lawn ydyw y Prifweinidog i'r tueddiadau gwrthweithiol sydd yn ffynu ac ar lawn waith yn y dyddiau hyn. Yn ol deddf ei bodolaeth y mae Llywodraeth ddi- wygiadol wedi ei rhwymo wrth wabanol adraniadau sydd yn fynych yn hollol groes- ion i'w gilydd. A phan y byddo masnach mewn ystad o farweidd-dra collir y brwd- frydedd hwnw sydd ar adegau eraill yn I llethu hunanoldeb ac eiddigeddau yr adran- au. Nid dyma yr adeg ffafriol i ddiwygiad; ond, a heibio; ac heibio yn ebrwydd. Nid oes dim yn cael siglo ffydd Mr. Asquith. Nid oes dim chwaith yn lleithio ei ddowrder. Ei gred ddiysgog heddyw, fel bob amser, ydyw mai dyledswydd flaenaf Rhyddfryd- iaeth ydyw uniawnu pethau gwyr-geimion ein cymdeithas yn dymmhorol a moesol. Un agwedd ar yr ysbryd diwygiadol hwn ydyw cyfundrefn y blwydd-dabadau i hen bobl. Ac fel y chwanegodd efe, dylai y trefniant hwn gael attodiad ato, sef, trwy wneutbur darpariaeth ar gyfer y gweithiwr a fo wedi ei analluogi, trwy ddamwain, neu gan afiecbyd, yn ngbanol ei ddyddiau. Hefyd, anhebgorol angenrheidiol ydyw gwneyd ad-ddosbarthiad trwyadl ar y rhai a dderbyniant elusen blwyfol. Pan yn cyf eirio at gwestiwn y gweithwyr sydd all an o waith, dywedodd na ddisgwylia efe ein gweled hob y broblem yn hollol cyhyd ag y bo ein diwydiannau yn cael eu cario yn mlaen o dan yr ammodau presennol. Ar yr un pryd deil ei bod yn bossibl, trwy ddeddfwriaeth a gweinyddiad doefch, i leihau nifer y rhai allan o waith yn ddirfawr. Oddi wrth y eylwadau tarawiadol hyn, a'u cyffelyb, casglwn fod y cwestiwn mawr hwn o dan ystyriaeth ddifrifolaf y Wein- yddiaeth. Maentumia Mr. Asquith yn gyf- iawn fod gwladweiniaeth ddeddfwrol y Llywodraeth yn annelu dvrnod at y broblem ddiwaith, os goddefir yr ymadrodd; nen, o'r hyn lleiaf, yr acbosion o bono. Bydd ym- fudiaeth y llafurwr amaethyddol i'r trefydd, lie y chwanega ei bresennoldeb at orlawnder y farchnad mown Iabrwyr cvffredin, yn cael ei attal gan fesur y man dyddynod, a thrwy hyny gadw y llafurwr i ddiwyllio ei dir ei hun. Gan gario ei ddylanwad mewn cyfeiriad arall, wele, hefyd, y mesur mawr o ddiwygiad diwestol, trwy yr bwn y gellir disgwyl gweled dylanwad andwyol y dafarn yn cael ei ddarostwng i raddau helaeth. Cadwer y llafurwr ar y tir gartref, a bydd gweithwjT y trefydd mewn amgylchiadau 0 mwy mantebiol Cadwer y gweithiwr, mown tref a gwlad, allan o'r dafarn, a bydu gobaith am ei weled mewn sefylifa gysurus. Ond, er mor ganmoladwy ydyw y mesurau byn, etto y mae y gwrthwynebiad iddynt, gan y rhai y maent yn taraw ar eu budd- iannlJJ1, yn annlsgrifiadwy o gryf. Nid oes dim yn anhawddach na symmud ymaith hen sefydl iadau wedi gwreiddiomewn gwlad er's oesoedd lawer! Ond, bydded y rhwystrau a fyddont yn ei fiaen yr a cerbyd diwygiad er eu gwaetbaf oil!
inn.n.^—I,i„i————mmww—r\ TEULU…
in n .n.^— I, „ ————mmww—r\ TEULU MEWN BAD AGORED AM UN AWR AR BYMTHEG AR HUGAIN. Yn fuan ar ol canol dydd ddyVl Llun glaniwyd dyn o'r enw Henry Marshall, gydà'i wraig a'i bedwar plentyn, ar lanfa Caerdydd, ar ol bod am 36 o oriau yn Sianel Bryste, mewn bad agored, heb ymborth na lloches. Gweithiwr gwifr ydyw Marsliall, yr hwn sydd yn arfer symmud o gwmpis oborihladd i borthladd, gyda'i -wraig a'i deulu, mewn bad byeban, pedair trocdfedd ar ddeg. Brodor ion o Pt nzance ydyw y teulu. Boreu ddydd Sadwrn cychwynasant o Penzance, gyda'r bwriad o fyned i Bridgewater; ond wedi idd- ynt fyned i'r Sianel, collasant eu tfordd yn y niwl. Yr oedd pob ymgais i ganfod eu ffordd i'r ]an yn troi yn fetbiant; ac ar ol myned ogwmpas trwy y dydd ddydd Sadwrn a nos Sadwrn, yr oedd Marshall yn teiinloyn hollol luddedig. Nid oedd y mordeithwyr anffodus wedi cael dim i'w fwyta, ac yr oeddynt yn wlyb trwodd. Y mae iechyd Mrs. Marshall yn egwan, ac nid ydyw yr hynaf o'r plant ond chwe mlwydd oed. Yr oeddynt wedi rhoddi i fyny boh gobaith am gael eu gwaredu, pan y gwelwyd hwy o Flatholm gan Mr. Fred Harris, y ffermwr ar yr ynys hono. Yr oedd gan Marshall ddigon o nerth yn mron i dynu y biid at y Iàn, ac yr oedd ei deula mewn cyflwr egwan iawn, a bu raid i Mr. Harris eu cynnorthwyo i'r lan.
-. YMGYRCH MASNACH RYDD.
YMGYRCH MASNACH RYDD. MRS. LLOYD GEORGE YN NGHAERDYDD. Dydd Mawrth agorodd Mrs. Lloyd George nodachfa Fasnach Rydd Iwyddiannus yn Nghaerdydd; a chafodd dderbyniad brwdfryd- ig iawn yn Park Hall. Yn nghwrs ei hanerchiad dywedodd Mrs. Lloyd George ei fod yn rhoddi boddhad mawr i agor nodachfa. amcan yr hon ydoedd sicr hau trysorfa er cario allan waith Rhydftfryd- ig, ac yn neillduol felly Fasnach Rydd. Yr oedd yn rhaid iddynt weithio dros eu heg- wyddorion, o blegid yr oedd y Diffyndoll- wyr yn gweithio yn galed iawn, ac yn gwario arian i anfon siaradwyr dros yr holl wlad, hyd yn oed i'r pentrefi mwyaf distadl.. Yr oedd yn rhaid i Fasnach Rydd, hefyd, gadw i fyny ei hachos, a darparu siar- adwyr. Yr oedd Masnach Rydd wedi rhoddi i Brydain y fasnach dramor fwyafo un wlad yn y byd, ac yr oedd ineistriild yn cael eu galluogi i dalu cyflogau gwell, a rhoddi 11 ai o oriau i'w gweithwyr nag a delid ac a roddid mewn gwledydd Ewropaidd eraill (cym.). Yr oedd wedi rhoddi i Brydain y llynges fasnachol fwyaf yn y byd, ac yr oedd llongau Prydeinig yn gwneyd mwy o fasnach gydgenedlaethol na boll longau y byd gyda/u gilydd. Ac etto, yr oedd Dilfyn- dollwyr yn dyweyd wrthynt fod Masnach Rydd yn dinystrio y wlad. Yr oedd gwleid yddwr o'r Almaen oedd yn dyfod i Gaerdydd wedi bod yn dyweyd yr hyn oedd Diffyndoll- aeth wediei wneyd i'r Almaen. Yn y wlad hono yr oedd miloedd o ddynion allan o waith. Dywedai ef fod Diffyndollaeth yn amddiffyn y bobl gyfoethog, a bod mwy o bobl allan o waith ar ol iddo gael ei ddwyn i'r Almaen nag yn flaenorol. Yr oedd y gwleidyddwr Almaenaidd hwn wedi dy. weyd wrthynt fod Diffyndollaeth wedi gwneyd miliwnyddion, ond yr oedd wedi gwneyd crwydriaid a phobl diwaith. Yn ngwyneb y ffeithiau hyny yr oedd yn rhaid iddynt oll gredu mai y polisi bresennol oedd yr un oreu. Yr oedd gweithwyr yr Almaen yn gweithio dwy awr mwy na gweithwyr y wlad hon, ac nid oeddynt yn cael eu hanner diwrnod o wyt. Byddai i Ddiffyndollaeth wasgu y gweithwyr a'u teuluoedd, a gwneyd byw yn llawer mwy anhawdd. (cym.).
DAU GARCHAROR AR FFO.
DAU GARCHAROR AR FFO. Tuag un ar ddeg o'r gloch boreu ddydd Mawrth, yn ystod niwl trwehus, diangodd dau berson oedd wedi cael eu dedtrydu i ben. ydwasanieth o Princetown, Dartmoor, trwy ddringo trwy ffenestr ystabl. Pan gollwyd y dynion galwodd yr awdurdoclau yr oil o'r carcharorion a weithient allan i mewn, ac anfonasant y ceidwaid yn mhob cyfeiriad dros y morfa. Yn ystod yr oil o'r dydd yr oedd y morfa wedi cael ei amgau mewn niwl trwehus, ac yr oedd y ffoedigion heb gael eu .dal nos Fawrth. Yr oeddynt wedi bod yn gweithio ar fferm y carchar, gyda nifer o garcharorion eraill o dan ofal ceidwad, a'r tebygolrwyd(i ydyw iddynt gael cychwyn da cyn i neb wybod eu bod ar goll. Yr oedd Parish yn un o'r carcharorion a wnaeth ymgais i ddiangc yn Mehefin y fiwyddyn ddiweddaf gyda Thomas Ellis, ac ni chafodd ei ail gymmeryd hyd hwyr y di- wrnod canlynol, ar ol proliad dychrynllyd o ddeg awr ar hugain. Yr oedd eu cospecligaeth hwy yn destyn ewestiwn gan Mr. Hazleton ynNh £ y Cyffredin Gorphenaf y 17eg Nid oedd gan Parish ddim ond chwech wythnoa i'w wasanaethu i gwblhau ei ddedfryd o dair blynedd a banner am ladrad a thy-doriad.
Y PRIFWEINIDOG YN FIFE.
Y PRIFWEINIDOG YN FIFE. Talodd Mr. Asquith ymweliad a Ohlwb IUryddfrydig Kirkcaldy ddydd Mawrth, yn nghv/mm yr aelod Ueol, Mr. J. H. Dalziel. Cyflwynodd Mr. R. C. Lockhart cadeir- ydd y clwb, yr hwn oedd yn gweithredu ar ran yr aelodau, ancrchiad i'r Prifweinidog. Mr. Asquith, mewn attebiad, a ddywed- odd eu bod yn gwybod nad oedd ei ymweliad ef a Kirkcaldy o nodwedd wleidyddol; ac ar ol yr arddangosiad o ewyllys da y bobl a dderbyniais ddoe, yn yr hwn yr oedd dyn- ion o bob credo a ohlaid vn cvmmervd rhtn ni byddai yn iawn iddo fyned i mewn i wleid- yddiaeth ddadleuol. Ac nid oedd ond am wneyd un cyfeiriad am fywiogrwydd deddf- wrol y senedd. Yn ystod y flwyddyn bresen- nol yr oeddynt wedi llwyddo, fel yr oedd- ynt yn gwybod, i basio trwy y ddau Dy, ac i gael cydsyniad y senedd i fesur, yr hwn am y waith gyntaf oedd yn gwneyd darpariaeth, a darpariaeth o nodwedd anrhydeddus, ar gyfer angenrheidiau hen ddyddiau (cym.). Beirniadwyd y mesur hwnw ;,yda golwg ar ei fanylion, yn ystod yr amser \r oedd yn myned trwy y senedd; ond yn awr. gan ei fod wedi pa,siio yn gyfraith, yr wyf yn ciedu ei fod, yn ymarferol, yn ddymuniad c.^fi'icd- inol yn mysg pob adran yn v wlad ei rod yn dyfod yn llwyddiant gweithiol, i fed yn cyrhaedd yr amcan—yr unig amcan i ba un y dygwyd ef yn mlaen-ei fod yn ysgaf iliau, ac, os yn bossibl, yn gwneyd dyddiau h<n- aint arwyr byddin diwydiannau yn fwy siriol (cym.). Da ganddo ddeall eddi v;th ei gyfaill, yr aelod dros ranbarth K'rkei ldy, nad oedd dim llai na mil yn y id) riv i;w wedi anfon eu ceisiadau i mewn aim: Flwydd- daliadau o dan y gyfraith (cym.). Nid ydym yn disgwyl—a phe byddai i ni wneyd, oawsem ein siomi—dim o natur diolchgar- wch mewn gwleidyddiaeth (chwerthin). Y farn g.vffrpdin ydyw, pan bydd peth wedi pasio, wedi'r cwbl, ein bod yn weision an- fuddiol, a bod gwaith arall i'w gyflawni, oedd heb gael ei gario aHan, a'n bod i'n barnu, nid yn ol yr hyn ydym wedi wneyd. ond gan yr hyn a ddisgwylir i ni ei wneyd yn y blynyddoedd oedd wrth ymyl (clywch, clywch, a ohym.). Yr oedd yn mentro dy- weyd, modd bynag, fod cam pwysig wedi cael ei gyimimeryd ar ffordd cynnydd, ac ar ba un yr oedd deddfwriaeth a phobl y wlad hon yn meddu hawl i longyfarcn eu qunain, y bydd rhyw 500,000 o'n pobl dlodion ac oedranus, ar y laf o Ionawr, yn cael, am y waith gyntaf yn eu bywyd, fod darpariaeth wedi cael ei gwneyd ar eu eyfer (cym.). Nid oedd yn dyweyd darpariaeth fawr; ond, o'r hyn lleiaf, rhyw ddarpanaeth ar ran y Llyw- odraeth, yr hwn y gallant ei dderbyn heb archoll na thramgwydd i'w hunan-barch (cym.). Diweddodd Mr. Asquith ei sylwad- au trwy ddiolch am yr arddangosiad o deiml- adau da trigolion y lie hwnw tuag ato.
T* r* &......,,... 1 T\ Tn
T* r* & 1 T\ T n D C A U iVl A A 1 d i LLYS YR YNADON. Yn y llys hwn, dydd Sadwrn cyhuddai yr heddgeidwaid (dros y rhai yr ymddang- osai Mr. David Owen), Mr. Reginald Moseley, o Gringle Hall, Levenshulrae, a Victoria Terrace, Beaumaris, o yru cerbyd modur er perygl i'r cyhoedd Medi lOfed, am 11.15 yn y nos, yn Gallows Point, ger Beau- maris. Tystiai dri o dystion droi yr erlyniad n& welsant erioed fod ur yn myned mor gyflym yn eu bywyd, a'u bod yn teimlo mor ofnus fel yr aethant ar y troedlwybr. Mr. M'Elwee, meistr seindorf, Baron Hill Lodge, a ddywedodd fod y modur yn myned yn gyflymach nag oedd moduriaid yn arfer myned. Wrth giel ei groesholi dywedodd y tyst iddo yntau symmud i'r troed- lwvbr, nid am fod ganddo ofn i'r modur redegdrosto, ond i roddi chwareu teg iddo. Yr Heddgeidwad Falloon a ddywedodd fod y modur yn teithio yn ol rhwng pymtheg ar hugain a deugain milldir yn yr awr, yn ol ei farn ef. Dywedodd Mr. Moseley iddo yru y noson hono o Gaer, gan aros yn Nghonwy am wyth o'r gloch i giniawa. Cychwynodd o Gonwy tua deg o'r gloch y nos, a chyrhaeddodd i Fangor am 10.48; ac ar yr amser yr honid ei fod yn gyru yn ol pymtheg milldir ar hugain neu ddeugain yr awr, yr oedd yn 11.15, ac yr oedd yn amlwg ei bod wedi cymmeryd iddo 27i o funydau i wneyd y daith rhwng Bangor a Gallows Point (pellder o tua phum mill- dir). Ar ol i'r ynadon fod o'r neilldn am gryn amser, penderfynodd y mwyafrif o honynt daflu yr achos allan.
[No title]
Gellir gweled goleuadau coch o bellder mwy na'r gwyrdd.
[No title]
BL-id Llafur a'r Sosialiaid bydd y gwrth- wynebiad yn ddiymmod. I «.