Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
GWYTHERIN.
GWYTHERIN. FoxEmnGiosr, Darllenais gyda tnesnr o ddyddordeb y llithoedd sydd wedi ymddangos yn ngholofnau eich BAXER parthed y plwyf tawel hwn. Gallem feddwl oddi wrth ebyclradan yr ys.riblwyr bondigrybwyll hyn eu hod yn ystyried enVmnain fel Sanl, mab Ois, yn uwch o'u liysgwyddau i fvny na'r ihelyw o honom. Ond drnain o honynt Beth ydyw barn y hiaws am danynt, tybed ? Ceir nn o'r glym- blaid hon wedi ypgriferm math o folawd i 'D:c y Mynydd a 1 Murmur yr Awel,' o dan goohl y ffug-enw clasurol 'Llwvd y .Mynydd.' Rhyfedd na buasju g«r cyn graffed ei amgyffreiion, eanged ei feddyliau, ac mor goeth a chlasnrol ei irawdd- egau, yn deall nad ydyw Die y Mynvdd' a 'Murmur yr Awel' amgen na dau ffug-enw ar nn dynyn o r Liarl yma. Gyda Haw, Mri Gol., nid yn y mynydd a'r capel y mae yr annhrefn yn y plwyf. Nid ydyw blaenoriaid y capel a bugeiliaid y mynydd yn cyfreitnio ac yn pwdu, sliro a sori, wrth bawb a phobpeth. Na choeliai fawr. Teg a ni, fel phvyfolion, ydyw gwneyd yn bysbys nad Ofdd y rhai a fa yn cweryl i yn frodorion o'r lie hwn. Tro gwael iawn oedd i na o honom—un wedi derbyn 11awer o gareiigrwydd oddi ar ein llaw o dro i dro-ymostwng i godi yr h mea prudd hwn, a'i osod ar ddalenau newyddiadur a'r fath gylchrediad iddo a'r FANER Cwyna ef yn dost o herwydd y cam-dtlefnydd a wnaecl o'r Y Sabbothol i I bvnio ac i banu' 'Murmur yr Awel.' Y mae eisieu ail ddysgu y bregeth ar y myn- ydd vn Gwytherin. Y dwyf, kc. LLAFTUWR O'R LLAN. [Bu raid i ni d vnu rhai pethau allan o'r Ilythyr hwn. Dealler fod ensyniadau bryntion am bersonau yn athrodus.—GOL.]. Foneddigion, X mae y cyfaill Dewi Tudur wedi syrth- io i amryfusedd cadarn; sef, tybio fod galw enwau drwg ar ei wrthwynebwyr yr un peth ag atteb eu gosodiadau. Tydi enwau drwg a rhesymu ddim yn gyfystyr-cofia hyn yn y dyfodol, Dewi bach. Dyma i chi list o enwau clasurol Dewi am Dick a minnau: Oracl anfr'aeledig,' tanddaear- olion,' tvlwytli teg,' anwariaid,' rhyfyg- us o ddigywily-dd,' 'cenhadon daearol a chnawdol, 'Siamese twins,' 'foreigner,' efeilliaid a.nffaeledig/ deillion rhagfarn- llvd.' Ac yn yr un gwynt dywed Wele rai mwy Tia, hyd yn oed blaenoriaid Gwytherin!' Dyna i chwi 'insult!' Dyna i chwi ergyd Haw ehwith farwol! Dawn i yn lie y blaen- oriaid, mae arna i ofn y buaswn i yn rhoddi cvfraith arno am athrod fel hyn! Ond, 'rhesweh! Y funyd nesaf y mae yn eu cyd- nabod fel ei gvfeillion, ac yn rhoddi llythyr cYplmerüdwyaeth iddynt-yn eu codi o'r llwch, ac yn eu gosod gyda phendefigion y bob!. Fel cyfeillion Dewi, a pherchencgion Ilythyr cymmeradwvaeth oddi wrtho ef, cant fynediad helaeth i bob cymdeithas ac ystafell yn y nefoedd uchod, ac yn y d'daear isod! Ac ni synwn i ddim na fyddai rhai o'r blaenoriaid bylchog (nid 'cylchog,' Dewi bach) a clian newydd o foliant yn eu genau y Sul nesaf fel hyn :— 'Dai 'mofyn haeddiant byth na nerth Gan neb mewn gwlad na thre'! MM'r ffordd yn glir, trwy Dewi Fawr, Bob cam i ganol ne' Be fase yr hen flaenoriaid yn feddwl o gael eu patio ar eu penau fel hyn fel cwn bach heb agor eu llygaid? Mi rydw i yn credu y base yr hen wron o Dy'r Capel yn dy- weyd wrth Dewi yn debyg i hyn :—■ 'Oernadwr yr erch neelau-dos ymaith Tu hwnt i'n gororau, A dilyn dy bedolau Gyda cheg wedi ei chau.' Gwaith anhawdd ydyw deall llith Dewi, o blegid y mae yn llawn o wrth-ddywediad- au. Dyma i chi enghrailft neu ddwy. Dy- wed Dewi fod Die y Mynydd yn oracl an- ffaeledig; ac felly mae'n debyg, yn holl- wybodol. Hon a Dewi, er hyny, ei fod yn adnabod ardal Gwytherin a'i phobl yn llawer gwell na Die, yr oracl holhvybodol, anff'.ael- edig! Ac etto, fel y Pharisead gynt, diolcha nad ydyw efe fel dynion eraill, yn dueddol i addoli ei hunan! Pwy a ddeall ei gam- weddau ? Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.' Dewi bach, coelia fi, mae Die wedi anghofio ganwaith fwy am Gwytherin nag a ddysgaist ti erioed. TJnwaith etto. Chlywodd Dewi erioecl am liaws o'r pethau ag y darfu i Die a minnau gyi'eirio atvnt ac felly, wrth gwrs, 'dees dim yn bossibl eu bod hwy wedi bodoli erioed'. Y mae pob- peth tu allan i diriogaeth gwybodaeth a chlywedigtaeth Dewi tu allan i diriogaeth hodolaeth hefyd! Cofiwch, gydardalwyr, o hyn allan, mai dau sy'n gwybcd pobpeth; sef, yr Anfeidrol a—Dewi Tudur. Dyma vr efengyl newydd, yn ol yr Efengylwr St. Dem. Ilaera Dewi fod y cyfeiriad at yr hannos yn chwerthinllyd i'r eithaf,' end ar yr un pryd' dywed fod dwyn y pethau hyn ar g'oedd gwlad yn creu mwy o elyniaeth mewn hyc1 ac eglwys na dim ag y gallaf feddwl am dano.' Felly, yn wir! Y sylwedd yn chwerthinllyd, end dwyn y sylwedd ar g'oedd gwlad yn enbyd o niweidiol! Wei, dyma i chwi resymeg teilwng o dchn wedi ei groesi a. thwrch daear neu lvffant! Y sylwedd yn ddim: y swn yn ddinystriol. Dydw i ddim yn meddwl, gyfaill hoff, dy fod di yn credu atlirawiaeth fel hon—os wyt, lOOe iarna i ofn fod yna 'Sac Ring" yn dv ben a dy galon di; ac mi fyddai yn well gen i fod yn twin i'r Siamese nag yn twin i Dewi Tudur.' Gair yn garedig wrth derfynu. Nid ^eth 1 ch wer thin am ei ben, Dewi bach, yw yr hanes yma ar anfadwaith a'r drwg-deimlad sydd yn ei ddilyn. Agor cil y drws yn unig ddaru Dick n, minnau—mi fedrwn i dynu darlun fyddai Yn ddrych o drisiweh i edrych drosto.' Y mae amgylchiadau y mynydd yma wedi bod ar hyd y blynyddoedd yn wreiddvn chwerwedd a drwgdeimlad, nid yn unig yn mhlith y gwrandawyr a'r aelod'au, ond hefyd yn mlilith y blaenoriaid. Maes damnedig- aeth fyddai y diwedclar pell-weledvdd Edwin ddall yn ei alw. Rwyt ti, Dewi bach, yn methu deall beth sydd a wnelo'r eapel ag annos defaid. Gofyn v cwestiwn fel arall. ac fe weli yr attebiad ar unwaith. Bhaid cymmodi cyn offrymu y rhodd ar yr allor-ammhossibl cyd-addoli yn y capel tra y llecha yn v galon elyniaeth a drwg-deiml- ad a genhedlwyd ar y mynydd. Fel y dy- wed Dick, rbaid cael achau o'r gymdeit naB cyn ceir llwyddiant. Y mae rhyw bechodau nas gellir eu rhesymu allan o'r byd—fel dy lith dithau, Dewi. Nid ydynt yn ddaros- tvngedig i ddeddfau rhesymeg. Yr unig ffordd i roddi terfyn arnvnt ydyw eu dad- lenu a'u gwawdio. Pelydrau haul cyhoedd- usrwydd yn unig a'u difa- Mae fy Ilith yn llawer rhy faith eisoes, ond rhaid chwanegu un gair etto. Mi rydw i yn 'nabod Gwytherin lawer blwyddyn cyn to, dy eni di, Dewi bach; ac wedi dymuno. llwyddiant yr ardal yn mhell cyn i ti agor dy lvgaid ar y byd yma. Mi rvd'w i yn gwybod am lafurus gariad un, beth bynag, o'r swyddogion am o ddeutu hanner canrif, ac am y gwaith ardderchog a gyflawnodd efe a'i frawd athrylithgar, o i'endigedig goffad- wriaeth. Mawr iawn ydyw 'dyled yr ardal iddynt. Mi roeddwn i yn hen gyfaill i dad clau o'r blaenoriaid presennol, ac i daid y llall; ac mi rydw i yn sicr fy mod i yn teimlo cymmaint o barch i'w coffadwriaeth a 110b pwy bynag. Mao dynion ardderchog wedi codi vn yr ardal, ac y mae yma ddyn- ion ardderchog etto end y mae yn natunol i mi, fel lienafgwr, dybio fod yr hen yn wr-li iialr Dvdi gwyr y wasg ddim wedi d'weyd wrtha i pwy yeli Dick y Mynydd, ond mi rydw yn caiugynrmeryd yn ofnadwy os nad ydi o yn teimlo at Gwytherm yn union :yr un fath a fmna. Cas y p^wr nas caro'r wlad a'i macco. Faswn i byth yn ei ait'tegti oni bae fy mod i yn credu felly. Mi 'roeddwn i yn 'nabod taid a thad Dewi dynion campus oeddynt yn mhob modd, ac mi rydw i yn credu fod yna gyffelyb 'stwff vn Dewi hefyd. Gobeithio na wnaiif o yn y dyfodol ddim ysgrifenu truth mor annhed- vrng o, bono ei hunan. Ydwyf, &c., Murmur yr Awel. [Digon ar hyn, bellach.—Gol.]. FONEDDIGION, Ryddai yr ardaIwyr yma yn falch iawn 0 wybod a ydyw dyvediad haerllug I Llafurwr o r L an (pa Lan tybed ?) yn gywir, nad ydyw 1 Dick-y-Mynydd a Murmur "yr Awel' amgen na dau ffrg-enw ar yr un dynvn. Gair o attebiad, ac ni flinaf byth mo honoch ar ol hyn. Yr eiddoch, Ar Eben. [ran bergon gwabanol yw Dick-y-Mynydd' a Murmur yr Awel.'—Gol.]
CLYWEDION 0 LLANNEFYDD.
CLYWEDION 0 LLANNEFYDD. Foneddigion, CLYWED fod pwyllgor yr eisteddfod yn brysur. Clywed fod rhan o'r pwyllgor yn ddi-galon biaidd. Clywed mai y cantorion sydd fwyaf bywiog. Clywed mai cael buddugoliaeth ar g r Llanfair sydd wrth wrair'd y symmudiad. C lywed fod c8r Llansannan wedi ennill y gamp. Clywed mai yr enwog Mr Tom Price, Merthyr, fydd yn cioviamv, y wv well, ynte ? Clywed fod un cõr yn debyg o golli y tro hwn. Os gwir, 'look out, boys.' Clywed fod rhai wedi cael en gwair. Da iawn. Clywed mai tipyn o ffrwgwd oedd hi yn Yago] Sul .——— yn ddiweddar. Clywed mai tê a brechdan oedd testyn y ffrwgwd. Clywed fod rhai o 1 laid, a mwy yn erbyn. Clywed, er liyny, ei fod i gymnnryd He y mis nesaf. Clywed fod y syniad o gael te yn y gauaf wedi g vreiddio yn meddwl hen langc. Clywed mai bylchog ydyw presenno)deb rhai y disgwyliem bethau amgenach oddi wrthyi.t yn yr }Sgol hon. Clywed nad ydyw y ewjbrwycn a ranwyd yn yr ysg II ddyddiol wedi plefio pnvb. Clywed mai ychydig o dda y nm cyrddau dirwestol y marched yn ei wiei d. Clywed fod nerth y ddioden wedi meddiannu rhyw Ja;. Clywed fol yma rai &'n llygaid yn adored. Ydwyf, &c.. Clustfeiniwr. «!———————————
MALDWYN A'I THRUENUS GYFLWR.
MALDWYN A'I THRUENUS GYFLWR. FONEDDIGION, Wele sylw, yn gyntaf, ar gwestiwn y mAn dyddyn. od. A res lie i ni gredu y bydd i fater y mfln-ddaliadau hyn fod yn rhywbeth amgen na llythyren farw yn yr hen sir enwog hon ? Gwir fod y Cynghor Sirol wedi penno ii pwyllgor. Ond, ar hwn onid oes gormod o landiordiaid ac ystiwardiaid ? Ac ai dyma y dosbartli y dylid ei ddewis i weinyddu deddf o fath hon ? Pa obaith a all fod i ddyn tlawd o lafurwr amaethydddol gael rhwyddhau ei ffordd i sicrhau tyddyn bychan at ei wasanaeih gan bwyllgor ag y mae ei gydymdeimlad bron yn gyfangwbl a'r tirfeddiannwyr? Y Os na bydd i'r cynghor fod yn ofalus, llindag.r y ddeddf ddaionus hon yn yr esgoreddfa a bydd yn syrthio yn ebrwydd i ebargofiant, mor bell ag y mae sir Drefaldwyn yn myned. Pe bnasai y rhent a'r degwm yn cael ei gasglu ar gynnvrch S'd presennol plwylydd Maldwyn, buasai y tiroedd o dan well triniogaeih, ac feily yr offe r;adaeth Kglwysig yn fwy helaetkwych ei byii. Ond, o dan yr amgylchiadau presennol, rhaid pesgi y mochyn ar 'Indian meal' tram or A hyny o herwydd fod rhan fawr o'r sir o dan redyn ac eithin, mieri a danadl Gobeithiaf mai aros y mae hyd nes y daw Deddf y Man-dyddynod i weithrediad Itawn trwy yr holl sir. Yn yr ail He, y mae y gauaf yn prysur ddyfod ar ein gv\arthaf. Mae arnaf ofn, pan yn gweled cynnifer o feibion a merched teg eu pryd yn haerllu^ hajogi d,, d(I yr Arglwydd trwy rodianna ar hyd ein prif-ffyrdd, y modurion yn llawnion o ymblestrwyr, ac ugeiniau ar eu beiciau-y mae arnaf ofn fod lristionogaeth yn prysur golli ei gafael ar feddwl trigolion y wlad. i picuri.teth, feddyliwn i, fydd yn ennill yr oruchatineth Ni synwn pe y clywn brophwyd tanllyd ) n crochwaeddi Deugain mlynedd, a'r genhedlaeth lygredig hon a ddinysstrir!' 9 Edrych di, y darilenytld mwyn, gyda llygad am- mhleid.ol ar drefn a chyfcnsoddiad Enwadaeth ymru yr anfrawdgarweh, yr heresi, a'r genfigen, a'r dygasedd j r ymryson a'r cweryla -ydd yn Se;on ac ^yn Bethel, a'r naill flaenor uchelgeisiol yn ymladd ag un arall llawn mor uchelgeisiol am y llywodraeth ar ei Seion neu ei Fcthel—edrycher ar y pethau hyn, a pha obaith sydd genym am y dyfodol? Y naut enwad yn tra- chwantu porfa yr enwad arall Yr Hen Fani yn marw yn ngbanol ei seremmiau, lie yn cvmmeryd ami edrych i lawr yn svch-eancteiddiol ar bawb arali Pa ham na cheid m, gan ein bol yn proffesu m.i crefyddwyr ydym, yn cvd-gredu, ac yn union-gredu yn byw mewn brawdgarweh a 11 gilydd ac, hefyd, yn unol- gredu fel vr apostolion. Mae ein hymraniadau eiddigeddns yn waradwydd ofnadwy arnom Nid ydyw yn syndod o gwbl fod an- ffyddwyr yn heigio yn cin gwlad; le, yn Maldwyn deg. Gadew. h i mi ddyweyd ei bod yn rhaid 1 n gweinidog- ion newid t n eu gweinidogaeth, hefyd. Rhag codi gwrychyn ambfcll barsoti, terfynaf yn awr. Ydwyf, &c., L!anerfyl. Williams.
[No title]
Yn y Gynghres ar Addysg Moesol Gydgen- edlaethol, dj^dd Mawrth, darllenodd Miss E. P. Hughes, Barry, bapur ar Achos fethiant 9 1 ysgolion nos.' Sefvdlwyd y Parch. J. Llewelyn Davies, Pontrhydfendigaid, Aberteifi, yn weinidog eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Tre- vine, sir Benfro. Yn Ilys ynadon Tredegar, dydd Mawrth, cyhuddwyd William Jones, glowr, o Tre- degar, o archolli ei fam, Medi 28ain. Gohir- iwyd ei achos am wythnos. Agorwyd Neuadd Goffadwriaethol John Pugh, Porth. Gosodwyd y ceryg sylfaen gan yr Henadur T. H. Howell, U.H., Master Henry Wayne Davies, a Mr. F. W. Roder. ick. Bydd lie yn y neuadd i 850, a 400 yn yr ysgoldy.
[No title]
m;. Parnassus, Dydd L'lln. Yr Awen.'—Ehagorol yn wir. Hyderwn y bydd llawer o'n darllenwyr yn clustfeinio am farddoniaeth y gan dlos hon yn d'od yn ngherbydau natnr gyda hyn. Gresyn fod yn rhaid i brofiad pawb gael dyweyd gyda'r bardd-- Ond er y nef a'r Awen bur A gaf mewn llawer cwrdd, Daw pryder a'i agoriad du I agor drws y galon gn, Nes g)vru 'r nef i ffwrdd. Penderfyniad.'—Pedwar pennill gwerth eu dysgu yn arwyddair i bob un o'n darllenwyr ienaingc. Mae mis- oedd y gauaf wrth y drws, ac mae angen penderfyniad cyn y gallwn dreulio en hirnos i bwrpas. Diolch lawer, eraill i ddilyn. 'Blaen y Cwm.'—Disgrifiad digon gwreiddiol, mae'n wir; ond mae GJasynp1, ac eraill, weill cann bywyd (ymmmorodidog fel mai gwell aros ychydig nes y deuwch yn addfetach. Pennillion Cof R. E.'—Nid ydyw yr awclwr ar y telerau goreu a'r awen Gweddnewidiwyd peth arnynt, a chant ymddangos er cysur i'r tenlu galarus. 1 Llion o'r Glyn.Lled eii ydyw y Ilinellau; yr iaith yn wallus a bratiog. Ail daflwch, a gwnawu ein goreu er iddynt ymddangos; ond rhaid i chwi wneyd hyny i ddechreu.
Y R A Vi EN.
Y R A Vi EN. Mae gwrandaw rhu y daran draw, Yn mro'r cymylau mad, A'r gwyntoedd fel ysbrydion byw Yn chwareu yn nghanghenau 'r yw, I'r awen yn fwynhad. Mae gwrandaw 'r cenllysg man yn d'od I lawr o'r Wynfa wiw, Pan ddawnsio ar ffenestri 'm bwth, Yti well i mi na chan y cr a th, A bywyd awen yw. Mae gwrandaw 'r tonau 'n crwydro 'r traetb, Fel plant amddifaid, prudd, Dan ddywedyd hanes y wlad well, A newydd fyd ar draethau pe'l, With fodd yr awen rydd. Mae eiste'n unig uwch y nant, Yn ngolan'r lloer a'r ser, I anfon adgcf, genad cu, I ddwyn yn ol yr hyn a fu Yn nef i'r awen her. Ond er y nef a'r awen ber A g&f mewn llawer cwrdd, Daw pryder a'i agoriad du I agor dr.- s y galon gu, Nes g ru 'r nef i ffwrdd. Dolgellau. EDNANT.
ER COFFADWRIAETH
ER COFFADWRIAETH Am Anwyl B!entyn R. E '1'.1'n Llan, Llysfaen. TRWJI yw gofid, dwys yw trallod, Ar ol colli Willie bach, Aeth mor gynnar o'n cwmpemi Draw i r wlad mae pawb yn iach; Et na chafodd ef ond 'chydig 0 ofidiau bHn y daith, Mynn wnr.tth hen angau chwerw Yn ei fron roi marwol graith. 0 mor ddwys i'r fam oedd sefyll Dan ofidiadau trist fel hyn, Pan yn gwel'd ei hanwyl blentyn Ar ymylon oer y glvn Erbyn heddyw mae y rhosyn Blanwyd yma is y rhod Wedi gwywo yn y beddrod Pan ar fin ei seithmlwydd oed. Os y collwyd ei wynebpryd, A'i gwmpeini tyner eh, Planwyd ef yn mro Caersalem, Yn yr ardd sydd yn y nef; Byth i berarogli yno, A mwynhau y nefol fraint, Gyda'i Dduw a'r lesu anwyl, A'r gogoniant sydd i'r saint. Gan fod Willie bach yn dawel, Yn y wlad tu draw i'r lien, Yn moliannu ar aur delyn 'R hwn fu farw ar y pren, Peidiwoh wylo, riaint anwyl, Er mor dyner ydoedd ef, Chwi gewch weled Willie etto Ar orie!au aur y nef. T.W.
PENDERFYNIAD.
PENDERFYNIAD. Os wyt yn awyddns, fy machgen, am dd'od Ryw amjer i gyrbaedd enwogrwydd, Mae n rhaid i ti feddwl yn ddewr am y n6d, Gan gofio o hyd am ddiwydrwycd Paid aros am funyd, ond gweithia yn hy', A ffyddlawn, yn wir, fo 'r ymrwymiad, Ac yna ti ddeui i fawredd a bri Drwy rym yr hen a'r, Penderfyniad.' Fe ddichon daw rhwystrau fil mydd i dy ran, Otid etto na hi(i,a atil dinynt, I Hwy gânt eu gorchfygu i gyd yn y man, Ond gwneyd penderfyniad myn'd trwyddynt; Fe godwyd, do, filoedd i fawredd a bri Fu unwaith mewn dyffryn dinodedd, Gan iddynt ymroudi a gweithio yn hy I Maent heddyw i ni yn anrhydcdd. raid byth ymfoddloni ar fod yn ddi-nod Tra ynit all d' yrfa ddaearol, Gwna dorchi dy lewys, a d wed. 'Mynaf dd'od Yn rhywbeth fo '11 werth diammheuol Gresyn us yw edrych ar ambell'i ddyn, Ni f, n godi n nwch na'r creadur, Gwell ganddo foddloni ar fyw iddo 'i hun, Yn hollol ddi fiidd a di-lafur. Mae genym ni heddyw ser disglaer 'n y byd, Fu 'n eiddil a gwan mewn gwybodaeth, Ond drwy iddynt weithio 'n egn'iol o hyd Hwy synant y byd an dysgeidiactb Gan hyny, fy nghyfaill, paid b th llwfrhaa, Ond gweithia dy hun i ddyrchafiad, Bydd hyny yn goion i ti, yn ddiau, L rwy gofio yr hen air, 'Penderfyniad.' Ysgiwen. IOAN DULATS.
DADSEFYDLIAD.
DADSEFYDLIAD. CYNNADLEDD BWYSIG YN LLXJNDAIN. Bydd i gynnadledd arbenig ar Ddadsefydl- iad, wedi cael ei galw gan Gymdeithas Rhyddhad Crefydd gael ei chynnal yn y Westminster Palace Hotel, Llundain, ar y 12fed o Dachwedd nesaf. Bydd y gynnadledd yn ddadblygiad newydd o'r holl symmudiad tuag at gydraddoldeb crefyddol i'r holl deyrnas. Yn nghyfarfod y boreu ceir dadl ar gys- sylltiad Dadsefydliad ag undeb C'ristionogol a chynnydd cymdeithasol, ac ar y cyfleus- dra presennol, a chyfrifoldeb pawb sydd yn ceisio buddiannau uchaf crefydd, i gychwyn ymgyrch fywiog er ysgaru yr Eglwys oddi wrth y Llywodraeth.. Treulir cyfarfod y prydnawn i ystyried y cwestiwn Cymreig. Llywyddir gan Syr S. T. Evans, y Cvfreithiwr Cyll'redinol. Cym- me fir rhan yn y cyfarfod gan y Parch. Dr. Clifford, y Parch. Evan Jones, Caernarfon, llywydd etholedig Cynghor yt Eglwysi Rhyddion, ac amryw aelodau "seneddol dros Gymru.. "> Cynnelir cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, yn y City Temple. Cymmerir y gadair g'an Syr Robert Perks, A.S. Yn mysg y siar- ndwyr bydd amryw o brif ddynion Cym- deithas Rhyddhad Crefydd.
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD.
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD. MYNYDD SEION (A.), PONGCIAU, A'U GWEINIDOG. Y SABBATH diweddaf dechreuodd y Parch. J. "Howell, Llwyncelyn, ar ei weinidogaeth yn yr eglwys uc od. Pregethodd yn y boren a'r hwyr gyda grym ac enein- iad. f ododd yr eglwys fel nn gwr i'r gwasanaeth drwy y dydd. Yr oedd yna sain hyfryd yn y canu, eneiniad yn yr holl wasanaeth, a rhyw don o fywyd yn treiddio drwy bob rhan o waith y dydd; a thystiolaeth amryw o'r aelodau ydoedd, os yw y Sabbath cyntaf yn argoel o ddyfodol llafnr Mr. Howell yn y lie, bydd Mynydd Heion yn sicr o lamu yn fras i ben bryn llwjaldiant ac anrhydedd. Yr oedd yr eglwys wedi parotoi ar gyfer dyfodiad Mr. Howell a'i briod, a'i unig fab C'ryl. Yn wir, y maent yn ddiweddar wedi cymmeryd cam pwysig i:twn; suf, prynll ty cyflens a hardd, ac yn un or lie- cedd hnrddaf ac iachat yn y gymmydogaeth, i fod yn r1.fr gweinidog. Enw y ty yvv'Wilcot House,'ac y mae ei safle yn Hill Street, ar y brif-ffordd o Johnstown i'r Rhos, lieb fod yn mhell o llnlle-y capel, y tram- ffyrdd, na'r orsaf ac fe gydnabyddir nad yw y 425p. roddodd yr eglwys am dano yn grogbris, nac yn orn;od o gwbl. Nid yw y trefniadau gyda'r ty yn hollol barod, fel y medr Mr. Rowe'l a'i deulu fyned iddo I aros y rhai hyn, y mae Mr. Howell a'i deulu yn trigo yn glyd yn nby nn o aelodau ei eglwys. Jlydd Llun penderfynodd yr eglwys ei fod yn ddydd o groesaw calon i'r teulu i'w plith, ac ni arbedwyd ra thraul na thrafferth i'w gwneyd yn gartrefol ar un- waith. Yn wir, beth bynag yw diffygion ein hardal, y maent yn hynod am galonau cynnes, a phentyrwyd croesaw ar ben Mr. Howell a'i deulu drwy y dydd. Ond rhaid i bobl y Rhos gael dangos hyny yn en ffordd wreiddiol en hunain felly darparwyd te cyhoeddus prydnawn y dydd hwn yn ysgoldy y cape), ao eistedd- odd dros ddau cant wrth y byrddau Nis galles'd myred drwy y Pongciau foren LInn heb glywtd y waedd, 'Mae te croesaw i Mr. Howell, ein gweinidog ni, vma heddyw,' fel nad rhyfedd fod y frawdoliaeth wedi troi i fyay mor gryno. Darparwyd yr arlwy gan Mr. Edward Griffiths, eig- ydd, Pongciau, a mawr y canmawl oedd ar y d irpar- iadau a chafodd pawb eu digoni, er, yn ol y cyflesiad- au yn y nos, mai nid gorchwyl hawdd ydoedd hyny. Yn yr hwyr, am saith, cynnaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn y capel, o dan lywyddiaeth y Parch. William Williams, nn o ddiaconiaid hynaf yr eglwys, ac yr oedd y capel bron yn llawn. Darparwyd rhaglen faith, yn cael ei gwneyd i fyny yn hollol o adnoddau yr eglwys, beb fod neb od i allan yn cynnorthwyo; nid am nad oedd digon yn barod i wneyd ar yr achlysnr hwn, ond am na chaed cyfle. Aed yn mlaen yn y dull canlyn- ol:- Unawd ar yr organ, gan Mr. Lemnel Bowen, yr organydd. Anercbiad gan y llywydd, yr hwn a ddywedodd fod meithder y rhaglen yn ddigon o esgusawd dros air byr ganddo d. Dadganodd ei lawenydd o weled y fath gynnulleidfa wedi dyfoi jrnghyd i roddi croesaw i Mr. Howell a'i deulu i'w plith. Gofynodd i'r dorf ddadgan eu croesaw drwy yr arwydd arferol o godi deheulaw a chymmeradwyaeth, a gwnaed hyn n,s yr oedd y euro yn adseinio drwy y faelawr. Gobe t'hiai y byddai Mr. Howell yn hol'ol gysurus yn eu plith. Yna galwodd ar Mr. Cadwaladr Morgan i ddarllen Ilythyr; ond cyn gwneyd hyny mynegodd Mr. Morgan ei groesaw mewn araeth frwd, a rhestr o benniilion ar yr achlysur. Yna y Ilythyr oddi wrfck Mr J. T. Jones, Bala-Bangor, yn dadgan ei ofid o fethu bod yn bresen- nol, a'i ddymuniadau da am gysnr a llwyddiar.t Mr. Howell a'i deulu. Yna traddododd Mr. Lemuel Bowyer restr o englyn- ion croesaw i Mr. Howell. Yna galwyd ar y Parch. J. Howell i anerch y cyfar- fod, a chafodd dderbyniad brwdfrydig. Dywedodd fod y llywydd wedi cyf« irio eisoes mai nid cwrdd i siarad llawer j doedd hwn, ond mai cyfle ydoedd i gwblbau y rhaglen faith a barotowyd ar ei gyfer. Gallasai ddyweyd ea bod yn dcrbyn y croesaw calon gvda diolch, ac yr oeddynt, fel teulu, yn ei werthfawr, ogi yn fawr. Hhywbeth heb ei ddisgwyl ydoedd hwn- ac, fe alIai, ei fod yn felusach o herwydd hyny ac yr oedd y fath gynnulleidfa wedi ei synu yn fawr. Da ydoedd ganddo am yr hyn fu yn y fcstri yn y pryd- nawn; ac os gwnelai y cyfarfod gymmaint o les iddynt ag a wnai hwnw, pobpeth yn iawn. Gallasai ef ddy- weyd yn bersonol, pan yr ydoedd yn dcehren dyfod i drim i fwyta, fod yr ysgrifenydd wedi co«!i; a thyhiodd fod hyny yn awgrym y dylai yntau godi. Ond ni chwynai o gwbl os ydoedd ar y ffordd i ddyfod yn debyg i'r ysgrifenydd yn gorphorol, o leigf. Tybiai ef fod pawb ar ei oreu y prydnawr, a da iddynt io i un o'r glofeydd yn segur dranoeth. o blegid byddai yn an- hawdd iddynt weithio ar ol dau bryd mor dda y prydnawn a'r bwyr. Diau y diolchid etto i'r gwahanol bersonau fu yn parotoi y wledd a'r cwrdd; ond carai el ddiolch i bawb a fu yn gwneyd rhywbeth at Iwyddiant y raill a'r llall. ( yfnewidiad mawr iddo ef a'r teulu ydoedd dyfod yma. Ni feddyliodd erioed am dano; ond dirgcl yw lfyrdd Rhagluniaeth, onid e ? Bu ef yn y Gogledd ar ryw daith yn flaenorol, a dyna'r oil Y mae y cyfnewidiad yn fawr i'r teulu, hefyd. Bll Mrs. Howell yn y Gogledd or blaen, ond ni ba Ciryl yma n erioed. Bachgen ydoedd ef wedi ei faga yn y wlad— gyda'i thawelwch, ei phwyll, a'i harafweh. Oud dyma fe wedi dyfod i ganol prysurdeb tref a masnach ond hyderai y deuai i gynnefino â:r lie, ac i fod yn gysnrns, o blegid fe wyddoch fod plant yn medru myn d dros bethau yn gynt na'u rhiaint. Wei, nid oedd ganddo raglen ar ddechreu ei yrfa yn y lie hwn. Ofnai ragien yn amI. Bu llawer o son yn y byd gwleidyddol am Raglen Newcastle, ond lie y mae wedi myn'd erbyn hyn? Ni chwtdhawyd hi, o leiaf. Fully nid oedd ganddo yntau raglen, rhag ofn na chwblheid hi; on 1 penderfynai gymmeryd pob peth i fyny fel y delai i'w afaei. Addawai roddi ei oreu i'w eglwys yma, ac i'r ardal. Yr oedd yn barod i hyrwyddo pob symoaidiad er daioui— er dyrchafu moes a chrefydd yn yr ardal, a'i holl galon, RC a'i holl ben, hefyd. Oyinabyddai yn dd;olchgar, etto, y croesaw. Gadawer i ni ddyweyd llyn, cyn tewi, ynglyn a fy enw. Yr wyf eisieu i chwi iawn ddeall fy enw felly cofier mai 'Howell' wyf, ac nid 'Howells.' I. adawer yy o blegid Cymro wyf i'r earn. Anhawsder yr iaith etto:—Yr oeddym yn siarad yn wahanol i'n gilydd, ac, fe allai, nad oedd. ym yn deall ein gilydd bob amser, er fod hyny weith- iau yn fantais; oad hyderai ydeuem i ddeall ein gilydd yn well yn hyn o beth yn y man. Appeliai am bob cydymdeimlad, ac addawai clroi y cyfan yn ol gyda Hog, os gallai. Gwnaeth appel am i'r aelodau ymgyd- nabyddu a? ef peidio myned helbio iddo ar y ffordd yn unlle, o blegid yr oeddynt hwy yn ei adnabod ef, tra nad ydoedd ef yn adnabod pawb o honynt hwy etto Hyderdi y byddent oil yn g.irtrefol gydau gilydd (cv-mmeradwyaeth). Yna aed yn mlaen gyda'r rhaglen. Can, 'Nant y mynydd,' gan Mr. O. Bowen. Adroddiad, rYr Ysgol SuI,' Miss H. Griffiths. Beirniadaetn ar niferobennill o 1 llongyfarcbiadol i'r gweinidog. gan y Meistri Thomas a John Jones goreu, Mr. Lemuel Bowyer. Rbar-gan, 'Daw dydd ar ol nos,' Parti Meibion y capel, ■; n arweiniad Mr. Tom Lloyd, A.C. Cyst; dlciiaeth adrodd emyn 7G5 yn y 'Caniedydd Cynnuleidfaol chwech yn ymge SIO -cyfartal oreu, Fredcri/k Bowyer, Samuel Pritchird, a S irah B)wyer. Rhodtiwyd gwobr i'r tri avail, Mrs. Howell yncyflwyno y gwobrwyoa Can, Entreat me not to leave thee' (Ruth), Mrs. S. A. Griffiths. Rhoddwyd cnccr, a chanodd Y Deryn Pur.' Un uvd ar yr organ, gan Mr. Lemuel Bowen. Encor- iwyd, a chwareuodd Russian Patrol.' Cystadleuaeth yr araeth oreu ar hwn ymddygiad yn nhy Dduw;' amser, pllm munyd-goreu o dri, Mr. Fred Davies. Can, 'I fyny bo'r nod,' Mr. Tom Lloyd. Y goren ar don ar y pryd ydoedd Mr. Johnny Morgan, Johnstown; a Mr. Robert Thomas yn ail. Adroidiad, 'The 9.10 Down Express,' gin Mr. George Williams. Can, IB-iidith;,iist goed y meusydd,' Mr. William Phillips. Diweddwyd cyfarfod da gyda diolch i bawb am bob help i'w wneyd yn llwyddiannus. Y beirniaid oeddynt }—Canu, Mr. Tom Lloyd, A C. Yr adrodd a'r araeth, y Meistri U. Morgan a Lemuel Bowyer. Cyfeiliwyd g"n Mr. L. Bowen. Cofier mai cyfarfod croesaw ydoedd hwn. Deallwn y cynnelir cwrdd sefydlu Mr. Howell yr wythnos nesaf. Nawdd y Nef a fyddo ar yr undeb hwn etto. Sudd- ed Mr. Howell yn ddwfn i serch pobl ei ofal, a llwydd 1 w hynt gyda'u gilydd. lAGO DDU.
Advertising
II J MR. F. J. WARREN A DDYWED YR HANES. Y mae hanes dynion a fyoy- thir gan ddartodedigaeth, ae a achubwyd gan SCOTT'S Emulsion, bob amser yn rftyfeddol. Mr F. J. Warren, 31, Ashdown Road, Kings- ton-on-Thames, ysgrifena (1,5,*08) i ?? Yr oeddwn yn ngafael yr arwyddion cyn- taf or DARFODEDIGAETH, ac yn colli enawd yn gy- flym. Achubodd SCOTTS Emulsion Ii, a dechreuais welfMo dracheln yn mhen dau lis." Y mae achosion or lath yma, o ba rai y mae llawer, y prawf goreu posibl o'r gallu eithriadol sydd yn SCOTT'S. Pa allu na cheir ef mewn emul- sions" ereill o gwbl, a dyma y paham y mae gan SCOTT'S restr o rai well- hawyd nad oes gan neb ei thebyg. Anfonwch am botel sampl rhad-amg-auer 3c at y cludiad a chrybwyll y papyr hwn. Fe ddaw llyfryri prydferth j'ch plentyn ffydag ef. SCOTT & BOWNE, Ltd., 10-ir Stonecutter Street, London, E.C. i' YR ARWYDD TRWY BA UM V ft YDD* WCH YN DEWIS EICH GWELLHAD. II
COLWYN BAY.
COLWYN BAY. MARWOLAETH MR. JAMES WOOD. Dydd Sadwrn bu farw Mr. Jafnes Wood Colwyn Bay, yn 74ain mlwydd oed. Brodor o Scarborough ydoedd Mr. Wood; ac yr oedd yn fab i Mr. William Wood, ysgolfeistr. Derbyniodd ei addysg foreuol mewn ysgol yn sir (Jaernarfon perthynol i Gymdeithas y Cyfeillion. Agorodd ysgol breifat yn Lan- caster, a symmudodd oddi yno i Alderley Edge, lie yr arosodd am dros ugain mlynedd. Y n mysg ei ysgolheigion yr oedd George Gia- sing, y nofelydd, y diweddar Mr. W. Sum- mers, as dros Huddersfield, Mr. Rowland H. Barran, AS. dros Og'edd Leeds, a Syr Thomas Storey, Lancaster. Symmudodd Mr. Wood i Colwyn Bay rhyw bedair blyn- edd ar hugain yn ol. Bu yn aelod o Fwrdd Lleol Colwyn Bay am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn un o'r ynadon hynaf dros sir Ddinbych. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Ys- bytty Iwbili Colwyn Bay, ac efe oedd Y8- grifenydd cyntaf y sefydliad hwnw, a phar- haodd i ddal y swydd hono hyd y diwedd. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Neu- add Gyhoeddus Colwyn Bay. Yr osdd Mr. Wood yn aelod o Gymdeithas y Cyfeillion a Rhyddfrydwr, ac yr oedd yn dra chymmer- adwy yn mysg pob dosbarth o'rtrigolion.
HELYNT GER LLANRWST.
HELYNT GER LLANRWST. ACHOS RHWNGr DAU GYMMYDOG. Yn heddlys Llanrwst gwrandawyd achos yn mha un y cyliuddai Price Evans, Cefn Madoc, Maenan, Llewelyn a Willam Rob- erts, Cerniach, o ymosod arno rhwng un ar ddeg a hanner nos, Med'i 12fed, pan oedd ar ei ffordd adref o Llanrwst. Ymddangosai Mr. R. O. Davies (Llanrwst a Blaenau Ffestiniog) i arwain yr ac\js droa yr erlynydd, a Mr. J. E. Humphreys droa y diffynyddion. Yr erlynydd a ddywedai ei fod yn mynedl adref, ac i'r diffynyddion ddyfod i lawr o'r cerbyd. Daeth Llewelyn Roberts yn gyntaf, a dywedodd, Mae hi yn ddigon buan i ti'r d- ae yna ymosododd arno. Wedi hyny neidiodd William o'r cerbyd, a dechreuodd ei gicio o'r tu ol i Llewelyn. Tystiai Walter Jones iddo weled yr er- lynydd yn y dref tua hanner awr wedi deg, ac nid oedd dim arwydd diod arno, a thyst- iwvrl vn "llach (ran Thomas Jones, Bryn Belt^S' Williattl Thomas, gwas y diflfyn- yi 11 a uay weaai nad aeth Will- inm Roberts o'r cerbyd o gwbl; a John Pierce, Gwytlierin. Yr achos dros y diffynydd Llewelyn Rob- erts oedd, fod yr elynydd wedi curo ei ddwylaw, a dychryn ei ferlen, a gwaeddi rhywbeth ar ei ol rhyw bythefnos yn flaenor- ol, yr oedd: wedi dyweyd wrtli y gwas y golchai yr erlynydd pan gawsai afael arno. Yr erlynydd a roddodd hwth iddo ef yn gyntaf, ac ni wnaeth ond tagu tip.2n arno yn y gwrych. Gwadai William Roberts yn bendant iddo fyned o'r cerbyd' o gwbl. Taflwyd yr lachos yn erbyn William allan, a dirwywyd Llewelyn i ddeg swllt a'r cofit- au.
[No title]
Cofnodir miarwolaeth y Parch. John Tho- mas, Llandeilo, yr hwn a fu ar un adeg yn weinidog eglwys Annibynol Wern, ger Gwrecsam, a Hermon, Croesoswallt. Teimla y Barry yn falch o'r ffaith nad oedd un farwolaeth wedi cymmeryd lie yn Mau Whitmore, Ynys Barry, yn ystod y tymmor diweddaf, er fod dros 100,000 o ym- droclnvyr wedi ymdrochi yn y lie dytmunol hwnw.