Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BROS Y DWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BROS Y DWR. (O'r "Drych.") I MARW MONWYSIAD. Yn nhy ei feroh yn Nanticoke, Pa., yn 68 mlwydd oed, bu farw Mr Griffith Griffith, Chwefror 5ed, 1916. Yn Biw- maris y ganwyd ef yn y flwyddyn 1847. I Enwau ei rieni oeddynt Griffith a Jane Griffith. Sjymudodd Griffith y mab i Fethesda, He y cyfarfyddodd a Miss Catherine Pritchard, yr hon yn y flwyddyn 1874 a gymerodd ato yn wraig, a buont fyw yn ddedwydd gyda'u gilydd am 29 mlynedd. pryd y bu Mrs Griffith farw yn y flwyddyn 1903, Bu yn trigo ym Methesda am tua 40 mlynedd mewn He o'r enw Bryniau, a gweithiai yn Chwarel y Penrhyn, ac yr oedd yn ddiacon a thrysorydd i eglwys Amana. Yn eglwys Moriah yr oedd tra n Nanticoke, a bu yn hynod flaenllaw gyda'r achos. Mae Thomas Griffith, ei frawd, yn byw mewn lie o'r enw Sling, Sir Fon. Gedy bedair o ferched ar ei ol: Mrs Richard Williams a Mrs Anna Evans, Nanticoke; Mrs Grace Jones, Ply- m.outh, Pat.; a Mrs Edgar Greenwood, Manceinion, Lloegr. Claddwyd ef yn barchus Chwefror 9, 1916. I HUNIAD GWR 0 GWMYGLO. I Dydd Gwcnrr, Chwefror 25, ar ol rhai misoedd o gystudd blin, bu farw R. O. Hughes, 3524. W. Congress Street, Chicago, Ills.. C'afodd bob cymorth ag a allasa-i braich o gnawd ei estyn iddo; yr oedd ei annwyl briod yn ffyddlon yn ei wylio ac yn gweini arno ddydd a nos, ond ar y dyddiad uchod ehedodd ei ysbryd ymaith at yr Hwn a'i rhoes ef. C'ýn- haliwyd y gwasanaeth angladdol ynghapel I Hebron y Sul canlynol, pryd y gwasan- aethwyd gan Dr J. C. Jones ac aelodau Clyfrinfa Iforaidd Madoc. Daearwyd ei weddillion ym mynwent Forest Home. Ganwyd Mr Hughes yn Arvonia, Gallty- foci, Cwmyglo, Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1869. Mab ydoedd i Owen a Jane Hughes. Daeth i'r America yn 1892 ac ymsefydlodd yn Chicago, lie y bu yn dilyn ei alwedigacth fel gof. Ebrill 2, 1904, ymbriododd a, Miss Lizzie E. Jones. Unwyd hwy gan ein gweinidog presennol, Dr Jones. Heblaw ei briod, gedy ddau frawd, John O. Hughes, Pen- Ian, Va., a WiHiw^^Iughes. yn Nhalaith Pennsylvania: hefyd un chwaer, Mrs Jane Williams, yn yr hen gartvef yng ghymru. PRIDDO UN 0 FON. Chwefror 7, ynghartref ei fab Richard Jones, 8917, Buffalo Ave., Chicago, Ills., bu farw John Jones, drigai gynt ar 9628, Commercial Ave. Cafodd flynyddau o gystudd trwm, a dioddefodd yn amyn- eddgar. CIaddwydl ef ynghladdfa Oak- woods. Ganwyd Mr Jones yn Llanfi- hangel, Mon, yn 1847. Daeth i'r America 36 mlynedd yn ol. Wedi treulio y ddwy flynedd gyntaf yn Wiscon- sin, daeth i South Chicago, lie y treul- iodd y rhan fwyaf o'r gweddill o'i oes. Yn y flwyddyn 1899 ymbriododd a Miss Helen Brown, yr hon sydd wedi ei gadael mewn gaJar ac afiechyd. Hefyd gedy ei fab sydd a'i enw a'i gyfeiriad uchod. DAIARU UN O'R DWYRAN. Ar y diydd cyntaf o Fawrth talwyd y paroh olaf i weddillion un oedd adna- byddus iawn yn yr ardal hon, sef Griffith Ellis, Waukeha. Bu Mr Ellis dan afiechyd am dymor maith, ac er y gofal tyner o eiddo ei briod a'i blant bu farw ar y 27ain o Chwefror. Mab ydoedd yr ymadawedig i William Ellis, Talyponciau, Dwyran, Sir Fon, ac efe oedd y diweddaf o'r fceulu hwnnw i adael yr hen fyd yma. Daeth Mr Ellis i'r wlad hon yn ddyn ieu- anc, a sefydlodd efe, ynghyda llawer eraill o bob! Sir Fon, yn ardal Waukesha. Yr oedd wedi oael addysg dda yng Nghymru, a bu am dymor yn Carroll College ar ol dod drosodd yma. Bu yn athraw am amryw flynyddoedd ar wa- hanol ysgolion dlyddiol yn y sir hon, a threuliodd y pum mlynedd ar hugain di- weddaf o'iJjfywyd) yn Waukehsa. Yr ooodl yn aelod parchus gyda'r Presbyter- iaid Seisnig, a deallaf mai efe a David Moses, mab y diweddar Barch John Moses, oedd y ddau aelod hynaf yn yr eglwys. Mae gWeddw a phedair o ferched yn aros i alaru ar ei ol. UNIAD HAPUS. I Mawrth 15, ynghartref Mr John H. Roberts. 78, 'Morljey Avei., Winnipeg, Man., Canada, gan y Parch H. W. Grif. fith, 549, Langside Street, Mr John Robei-ts, gynt o Landwrog, Caernarfon, a Miss Mary V. Salisbury, merch hynaf Mr Moses a Jane Salisbury, Rhuddlan. Dor byniodd y par ieuanc luaws o anrhegion

EIN BEIRDD. I - I

.0 BARC KINMEL. I

I BYR-NEWYDDION. I -I

BROS Y DWR.