Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
0 SOUTHAMPTON t INDIA.
0 SOUTHAMPTON t INDIA. (Gan y Rhingyll WM. THOMAS, I Ebenezer) Yr wyf yn awr yn y Mor Cocli. Ni allaf ddirnad pam y gelwir ef yn For Ooch, gan fod ei liw fel pob mor arall. Gall mai am ei bod mor boeth yma y gel- wir ef felly, oherwydd y mae yn red hot beth bynnag am liw y dwfr. Gellir meddwl ei bod yn boeth iawn gan ein bod yn cysgu heb ddim ond un cynfas deneu drosom i gadw'r pryfaid oddiwrthym, y rhai ydynt yn ein poeni'n gynddeiriog. Cawsom fordaith ddifyr a diddorol o Port Said hyd yma drwy Gamlas y Suez. Ddoe aethom heibio Port Suez, y mae'n He hynod o bwysig. a galwasom yno am tua phedair awr. Yr wyf cyn iached a'r gneuen, ond ei bod yn boeth. Yr wyf yn myned ar y dec, gan ei bod yn rhy boeth i lawr, ni allaf ei oddef. Dyma hi'n awr yn ddydd Iau a minnau newydd gael fy inoculatio, ae yr ydym ynghanol y Mor Coch. Tua'r adeg yma y Sadwrn disgwyliwn fod yn Aden, y porthladd poethaf yn y byd. Er fy mod yn hollol iach, ni allaf gysgu yn dda yn y nos. ac ni ellir disgwyl hynny, gan fy mod yn cysgu bob prynhawn or bron am o ddwy i dair awr. Nid oes dim arall i'w wneud ond cysgu a darllen. Yr wyf yn cael cwpanaid o de yn fy ngwely bob bore am chwech o'r gloch; ac yna, yn codi ac ymolchi a shafio a glanhau fy motymau, &c. Cawn frecwast hanner awr wedi saith, a pharade am ddeg o'r gloch, a chinio am ddeuddeg. Ni wneir dim wedyn hyd amser te hanner awr wedi ped- was. Ceir cyngerdd, boxing match, ac ambell waith cymer y caplan rai ohonom a cheir trafodaeth ar bynciau crefyddol. Yna ceir swper am 8 o'r gloch; ac fel rheol af ar ol swper i'r dec am awr o awyr agored iach, oherwydd y mae'n cool yr. adeg honno. Yr wyf yn cymeryd shower bath bob nos cyn mynd i'r gwely. Rhyw- beth yn debyg y treulir bob dydd, ac y mae'n mynd yn bur undonnog. Ni bydd yn ddrwg gennyf gyrraedd Bombay, lie y disgwy]iwn gael wythnos neu ddwy ar y Ian cyn mynd ymlaen i'r Persian Gulf am Bozra. Ar ol y fordaith hon nid wyf yn meddwl y bydd arnaf eisiau un arall am rai blyn- yddau beth bynnag, er na fum yn sal o gwbl; ond y mae'n unffurfiol, nes gwneud i ddyn hiraethu air y tir. Y nosweithiau diweddaf hyn yr ydym yn cael dynion yn paradio y dec nos a dydd rhag ofn i rywun daflu en hunain dros y bwrdd, oblegid dywedir wrthyf fod poethder yr hiri yn effeithio ar rai fel ag i'w gwallgofi. Y mae'n awr yn ddyddi Gwener, ac yr wyf newydd ddod o'r 4 parade. Tra yr oeddwn ar y parade pasiodd oddeutu 20 o sharks ein Hong, oddeutu chwc llath oddi- wrthym. Maent yn bethau hyll, a gall- ant dorri coes dyn fel torri coes matsien. Yr ydym yn cael darlith bob dydd ar y pryfaid ydynt beryglus yn Mesopotamia. Y mae yna gryn lawer ohonynt, ond y mosquito yw y peryclaf yn y byd; ond dy- wedir os i ymerir digon o ofal y gallwn fod yn berffaith ddiogel. Dyma, ni wedi dod i'r Sadwrn, ac yng ngolwg y tir unwaith eto. Ar un ochr y mae Perim, a chredaf mai glan- au Affrig sydd ar yr ochr arall. Neith- iwr aethom heibio 12 o ynysoedd, a dy- I wedwyd mai Ynysoedd yr Apostolion oedd. ynt, pob un ohonynt yn dwyn enw yr apostolion. Yr oedd y cyntaf yn union fel yr Elidir. Gwyddoch lie maoe clawdd terfyn Parkia, wel, yr oedd yn union fel hwnnw, oddigerth fod y mor yn derfyn iddo vma; ac ar un ochr yr oedd pentwr, fel pentwr o rwbel o Chwarel Dinorwig, Twll-y-Mwg, &c. Aethom heibio neith- iwr Long Ysbytol, yr oedd yn olygfa ar- dderchog, a chroes goch fawr wedi ei goleuo gan drydan, a phrynais ruban gyda enw y Hong ami. Bu y Hong hon yn gartref i mi am dros bymthefnos, ac yr wyf yn oredu y bydd am bymthefnos eto. Mae wedi dod yn ddydd linn, Awst 7fed. Yr oeddwn wedi bwriadu postio Uythyr yn Aden, ond ni chefais gyfle o gwbl, a siom mawr i mi ydoedd. Yn y llythyrau cyntaf llongyfarchwn fy hun am na fum yn sal, ond yn awr dyma fi wedi cael prawf ohono, a gormod o brawf hefyd. Bore ddoe aethom i mewn i'r Indian i Ocean, a cbyn cinio yr oeddwn cyn saled a chi, a pharheais felly drwy'r dydd. Cysgais yn dda drwy'r nos, ond yn oil drwy'r dydd. Y mae'n ofnadwy yma. Dyma. fis gwaethaf y flwyddyn yn y lie hwn, ac yr ydym wedi cyfarfod a Monzoon, a byddwn ynddo ar hyd y ffordd i Bombay. Bydd y Hong ar flaen y don un munud, ac yn ei gwaelod y funud nesaf. Rhwymwyd pob dim ar y Hong, ac ni adawyd unpeth yn rhydd, neu buasent yn y mor, oher- wydd y mae'r tonau yn dod ar y dec ac ysgubo popeth gyda hwynt. Tra yr oedd y sergeants yn cael eu te ddoe trowyd y byrddau amynt a thaflwyd hwythau ar benau eu gilydd; ond, wrth lwc, yr oedd- wn i yn rby sal i feddwl am fynd i nol bwyd. Bore heddyw rhwymwyd y byrddau i gyd wi'th ochrau y cychod; ond tra'n bwyta brecwast rhoddodd y Hong ysgydwad sydyn a thaflwyd y llestri i un ochr i gyd; a bu raid gorffen y pryd ar lawr y llong. Yr wyf yn rhy sal i sgrif- ennu ychwaneg heddyw. Dydd Mawrth yr ydym o hyd yn y Monzoon. Mae y llong yn rowlio i fyny ac i lawr. Pan y mae i fyny ni allwn weld dim ond y lasnen, ac yna pan i lawr dim end tonau. Yr wyf yn well o lawer heddyw; ond nid wyf yn teimlo'n dda eto. Yr ydym i fod yn Bombay erbyn dydd Iau y prynhawn. Dydd Mercher, y mae'r mor yn dawel- ach, a'r Hong yn rowlio'n braf, a min- nau'n teimlo'n dda. Dydd Iau, yr ydym yn cael deall ein bod i lanio yn Bombay ddydd Gwener, a rhaid i mi orffen y llith yma erbyn hynny, er I mwyn ei bostio wedi cyrraedd. Yr wyf I yn cau gyda chofion cynnes at bawb. W. THOMAS. 1
MARW UN 0 LANBERIS. ;
MARW UN 0 LANBERIS. Nos Fercher diweddaf bu farw Mrs Jane Lloyd yn ei phreswylfod ar Church Street, Slatington, Pa., yn yr oedran o 75 mlwydd. Gadawodd i alaru ar ol dair o ferched, sef Mrs Roberts, New York; Mrs Hughes, Granville, N.Y., a Lizzie gartref gyda'i mam, a, dau o feibion, sef James a David yn New York hefyd wyres gartref, sef Helen. Merch ydoedd i'r diweddar John a, Jane Roberts o'r Myn- ydd Glas, ger Slatington, gynt, llawer o weinidogion y Bedyddwyr yn adnabyddus a hwy pan yn addoli yn Williamstown, gan eu bod yn hynod garedig i bawb yn ddiwahaniaoth. Ganwyd Mrs Lloyd yn ardal Llanberis. Yr oedd ei rhieni yn aelodau yn addoldy y Bedyddwyr, oof Sardis, Llanberis. Byddant yn tsiarad llawer am eu hen gyfeillion yn LIanbeiis, sef John Jones, "Yr hen Gloddiwr," a Roberts, Llwvnlendy. Yr oedd Mrs Lloyd yn aelod ffyddlon gyda'r Method- istiaid Calhnaidd ers llawer o flynyddau, bu yn byw am rai blynyddau yn New York, ac n aelod yn eglwys 13t.1h Street gynt, hefyd yr oedd yn chwaer i'r brodvr David a -lohii Roberts, Slatington. Mae John yn byw ger yr hen gartref yn Myn- ydd Glas.
ADGJFION AM GANTO RION._______1
ADGJFION AM GANTO RION. 1 Ceir adgofion diddorol gan Hugh Bryn- ) glas. Difynwn a ganlyn:— Llithrwyd i enwi cantorion flodeuent drydedd ran canrif yn ol, o fewn cylch sydd yn yme&tyn o'r "Dref" i'r Nant Ucha' ac o'r Waunfawr i Bethesda Tom Harris, Owen Morris, Eos Padarn, Huw Bryncooh, Eos Marchlyn, John Brynmelyn Dafydd Penbont, meibion Cae'r Mynydd, ¡ v ddau denorydd o Chwarel y Cae, a Harri o Wvneddj yr oil yn werth mynd draws n wertb invntl driws gwlad i'w gwrando. Beth ys gWll Kydd wedi digwydd iddynt oil ? Eawyd un o ;sei- llai, terfyn eu talent oedd "Hen ffOJl fy Nain." a'r "Bwthyn bach to gwellt. Mae saerniaeth y "Rwthyn" i'w ganmol wrth ystyried y raynycli ruthriadau wliaed a,mo; ac os yw y to yn aros heb syrthio i mewn, mae yn gasgliad eithaf teg fod lleisio heb ysbryd y gan yn cyfateb i'r "Daran a'r mellt"; heb y tiydan. Cofus gennym am ddigwyddiad digrif ynglyn a o Wynedd. Cafodd ei fagu yn Owmvglo, ar lan Llvn Bogelyn. Cyhoeddwyd ef un tro i ganu ynghapel mawr y Cwm; daeth i glyw hogia'r Ceu- nant (rhai gwladgar i'r cam) mai Saes- neg oedd ei gan; enynwyd eu dig i'w erbyn. a phenderfynwyd ar gynllun i rwystro "encore" os yn bosibl. Wrth aroa dechreuad y cyngerdd, rywfodd neu gil- ydd, cwymnodd arweinydd y "gang" i'r llyn dros ei ben, wedi palfalu ynivsg bnvyn a phenbyliaid daeth o'r diwedd i'r Ian, er mron rhynu, ei giw pi wedi chwalu, a'i goler bapur yn prysur ymddatod. Ganddo ef difater oedd hrn oil, i'r cyng- erdd yr aeth, ond oanodd Harri mor fen- digedig nes dyrysu y plan, ond myn ein hen "leader" hyd y dydd heddyw mai dwr oer Craigydon wnaeth y gwaith. Enw y gan oedd y "White Squall," a'r encor "Rwy'n caru hen fryniau fy hgwlad." Aeth hon dan wasgod yr hogia, fel dywedai Etyr Eryri. A wyt yn oofio'r °, Harri? ————
CYMER YD LLONG YSWEDAIDD.
CYMER YD LLONG YSWEDAIDD. Cymerodd Awdurdodau y Customs yn Abertawe long Yswedaidd o dros ddwy fil o dunelli, yr hon orweddai yno, a bydd iddi gael ei dod; yn y Llys Gwobrau. Yr oedd y llong yn rhwym am borth- amhleidiol, a glaniodd yn ddiweddar o borthladd yn Ne America gyda llwyth o wlan.
SENEDD YI PENTREF.
SENEDD Y I PENTREF. NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYIDD. HEN DDIHARAB. I Wil Ffowc: Tydw i ddim yn meddwl fod yr hen ddiharab yna yn trw tw netsiyr, nag ydw wir. Wmffra: Frun oedd hi, Wil? Wil Ffowc: "Deud y gwir su dda bob > amsar, deud y gwir su'n digio llawar." Mae'r rhan ula yn siwr o fod yn iawn; ond twn i ediiii ydi y rhan gynta yn iawn ai peidio. Wmffra: "\Y cl, wel mi rydw i yn synu atat ti, ydw wir. Aclios y mae, coman sens yn (letid wrtha ti fod deud y gwir yn siwr o fod yn dda bob amsar. Wil Ffowc: M ae'n rhaid fod fy sens i V11 uncommon ynte, achos fedra i ddim gwelad fod deud y gwir yn dda bob amsar Wmffra: Twn i ddim pa sort o sens bu gen ti ond mi wn i hyn nad oes yna ddim byd yn well i ddyn i neud na deud y gwir. Wil Ffowe: Wel. mi }vu i gimin a hyn, nad ydi deud y gwir ddim yn talu bob msar. Mi golli beth wmbrath wrth sticio ato fo; a dw i'n siwr o hyn nad ciff neb yn gweuthog ar ddeud y gwir, a chodith o fawr uwch bawd i droed os cadwith o yn strict at y gwir. Sian Ifans: Rwut ti yn llygad dy le rwan, Wil. Mi wn i'n go lev. be ydi gweini yn yr hen fyd yma, ac y mae'n rhaid i riwin wincio ar lawar iawn o betha neu fydd hi ddim yn dda iawn arno ni. Mi faswn i wedi colli fy lie lawar gwaith crstalwm taswn i wedi deud y gwir bob tro. Wmffra: Tydw i ddim yn meddwl, Sian. Mae'n well gan fistar a mistras y forwun su'n deud y gwir er i hynu fod yn ei her- bun, na'r un ddeudith anwiradd er mwyn achub i plien. Sian Ifans: Mi faswn i yn Jeicio dwad ar draws I-ohol fellu, baswn wh'. Mae'n rhaid i bod nhw yn fforinars, neu mae nhw yn bobol udiarth iawn i mi. Y Gwnidog: 0 na, Sian Ifans, y mae pobol dda yn parchu dynion a merched geirwir, a ohaifF neb ddioddef am ddeud y gwir. Sian Ifans: Ryda chi yn "Yneiid mistee mawr, maddeuwch i mi am ddeud. Mi fum i yn gweini hefo bleunor ryw dro,, yn un o ddwy, ac mi roedd o yn cloi pob cwpwrdd, yn enwedig lie roedd y bwyd. Toedda ni ill dwy ddim yn cael hanar digon i gynal ein cyrff. A rhiw ddiwmod roedda ni bron clemio isio rhwbath i'w fwuta., a jiina wedi gweithio yn galad era pedwar o'r gloch y bora. Roedd y mistar a'r fistras yn eu gwelu, a dim siawns cae.] y cwpwrdd bwud yn gorad. Be neutho ni blaw byrstio y cwpwrdd, a ehymeryd y dorth a thipyn o'r margarine, ac mi ddarun fedru cau y drws yn go lew. Ond pan ddaeth v mista,r i lawr dyma hi yn rympas. Mi ddeudis i na wuddwn i ddim am dano; ond dyma Mali druan yn deud mai hi ddaru, ac mai isio bwud oedd arni. Be ddylia chi, bu raid iddi bacio i hunan i ft'wrdd y diwrnod hwnw, no mi ges i aros. Y Gwnidog: Diar mi, rhyw fleunor go sal oedd hwnnw. Sian Ifans: la siwr; ond mi roedd o'n rhoi'n dda at, yr achos, ac mi gafodd bre- gath angladdot siort ora geno chi, a'i roi yn y nefoedd hefud. Y Gwnidog: Tybad, deudwoh! Sian Ifans: Toes dim tybad am dani, ond doeddwn i yno yn gwrando arnoch. Dafydd: Mae'r hen ddiarhab yn wir, weldi, Sian. Mi gafodd Mali y gora wrth gael i hel oddiwrth y cna. Sian Ifans: Hwurach wir, Dafydd. Wil Ffowc: Meddyliwch chi am mab Die fy mrawd, rwan. Mae o'n gweithio mewn siop ac ma'e i fistar o'n deud na wiw iddo fo adal i gwsmar fund allan heb werthu i-hwbath iddo. Mae genun nhw bris isa ar bob nwudd, ond dim pris ucha. Mi ddeudodd fod yno gwsmar wedi dwad i mown un diwrnod, un anodd i'w blesio; toedd dim byd yn iawn os na bydda y d naL bvdda, v pris yn fawr. Rwan mi roedd hwn isio rhyw declyn neilltuol, a toedd yna ddim yn y siop yn werth mwy na swllt; ond toedd rheini ddim yn plesie'r cwsmar. Roedd o fm fund allan, a. gwelodd yr hogun i fistar yn llygadu arno fo; a dyma fo yn meddwl sut i ddwad dros ben yr anhawstra. Rhoswch am funud, ebai wrth y cwsmar, mae gennym rai yn yr yst,ifell nesaf, ond i bod nhw yn ddrut. aell. Ga. i gwelad nhw, ebai y cwsmar. Aeth yr hogun yno, a chcisiodd gael hyd i un o wahanol liw i'r rhai ddangosodd, a chafodd un neu ddau fellu. Gafaelodd y cwsmar ynddynt. Faint ydi y rhai hyn, gofynai. Tri swllt, ebai'r hogun. Mi gynit-a i un, ebai y cwsmar, a, thalodd am dano. Welwch chi, swllt oedd i werth o; ond mi gafodd mab Die godi Qii gyfiog yr wsnos hono am ddeud anwu add a thwvllo c\Ysmar.. Y Gwnidag: Diar mi, y mae'r peth yn ofnadwy. Beth gawsai pc wedi cadw at y gwir a gadael i'r cwsmar fynd allan Wil Ffowc: Row fawr, ae. hwurach sac yn y fargen. Be yda chi yn ddeud ddylia j yr hogun ei neud? Y Gwnidog: Dwevd y gwir, deued a ddelo.. Sian ifans: Pam gebyst na ddeudwch chi y g'viy bob amsar o'r pwlpud yna ynta ? Dafydd: Thaia hi ddim, Sian bach, aches L(h di ddim fforddio digio pobol pan y mae isio pres pawb at gadw'r achos i fund yn tb{J», Tydi deud y gwir ddim yn I)ot) anisii-, weldi. Y Gwniaog !Uioswcli chwi am funud. Yda, chi > :i dweyd na fyddaf yn dweyd y gwir o'r ].wlpiid? Wil Ffowc: Nid dweyd anwiradd ydi pechod y pwlpud fwua, ond peidio deud y gwir. Hvuy ydi, cadw y gwirionadd draw l'hag digio rhyw bersona neilltuol. Os bydd yna dafarnwr, peidio condeitmio v ddiod cs bydd yna dipin o stiwart neu fistar, peidio ceryddu swyddwyr a chyfal- af. Ond gellir fforddio i roi cie a < hernod i lafur a. Sosialaeth yn ddibaid. Dafydd: T jdi rhai ohonynt ddim yn deud y gwir chwaith. Toes yna rai yn gethu petha nad ydynt yn oil credu oj1 inwun plesio'r bobol ac er mWlIn cadw at syniada yr emvad. Y Gwnidog: Tydw i ddim yn euog o r cyhuddiadau difrifol yna, rwy'n sicr o hyqy. Nid oes arnaf ofn yr un creadur, ac y mae fy nghydwybod a'm hargyhoedd- iad yn fy holl bregethau. Wil Ffowc: Or ydynt. da iawn. Mi rydw ) yn dcud ein bod ni i gid yn weitli. wyr, yn feistri. yn aeloda eglwysig, yn ewyddogion ac yn biegetliwyr. yn bell iawn o fedru cadw at y gwir bob amsar. Fel y mae petha rwan. feclra i ddim Rwelad i fed o'n holisi sy'n dda bob Rmsar. Wmffra: Rwut ti'n camgymeryd, Wil Ffowc, wvt yn wir. Fe all deud y gwir olygu diodda; ond y mae diodda deud y gwir yn dod a gwobr ynddo ei hun, ac y mae ciywed cydwybod yn deud da, yn well na dim arall gaiff dyn. Yn y pen draw dyna yw gwir ddaioni, Ydi, ydi y mae deud y gwir yn dda bob amsar. Meddylia di am dano, Wil, o ddifri. Rhaid terfynu rwan. Nos dawch.
Advertising
I 0 ELECm MH LAMPS. ALL 33ITISH MADE STOC ENFAWR AG AMRYWIOL UN FEL Y DARLUN GYDA S. BULII AM 2/- RHAI ERAILL Is 6c Is 9c 2s Oc 2s 3c ETO. ;I 2s 6c 2s 9c I 3s Oc l I FYNYt 5? I ?il ole YN PHAGOR GYDA'R POST. BRITISH EVER-READY BATTERY NEWYDD I'W AIL LENWI AM 8c. Postage, 3c. Dewis Ardderchog o Xam,pair a Xanternau, a ptioi) math o ironmongery, A PHOBPETH AT WASANAETH AMAETHWYR- GYNAU 0 BOB MATH. Breech-Loaders, Single and Double Barrels, Rifles, a Cartridges [ GWN SINGLE BARIL YN 32in. 0 llYD, YN LLADDWR ( DIGURO, AM 30s Can fod Tymor y BICYCLES yn dirwyn i ben y mae genym amryw i'w clirio allan YN RHAD !| E. JON ES & on, IRONMONGERS AND CYCLE AGENTS. I Y Maes a 26. Bangor Street, Carnarvon. ) -0
IMAB MR ARTHUR HENDERSON
MAB MR ARTHUR HENDERSON Wedi ei Ladd. Derbyniodd Mr Arthur Henderson, A.S., Aelod Llafur y Weinyddiaeth, hys- bvsrwydd fod ei fob liynaf, y Capten David Henderson, wedi ei ladd ar faea y gwaed. Nid oedd ond 27 mlwydd oed.
'FFRWYDRIAD FFATRI CAD-DDARPAR.
FFRWYDRIAD FFATRI CAD- DDARPAR. Mae collodion ffrwydriad yn y ffatri cad.ddaprar hysbyswyd yn ddiweddar yn fwy nag yr hysbyswyd gyntaf. Y colled- ion ydynt :-Pump wedi eu lladd, bu dau farw ar ol mynd i'r ysbyty; 72 wedi eu hanafu. o'r rhai liyn y mae 20 i 25 or achosion inwy neu lai yn ddifrifol, ond disgwylir eu hadfeiyd.
ETHOLIAD MANSFIELD.
ETHOLIAD MANSFIELD. Oherwydd marwolaeth Syr Arthur Markliam (R.) bu etholiad yn Mansfield. Yr ymgeiswyr oeddynt Syr Charles H. Seely a Dr Turnbull (ymgeisydd Anni- ynol). Cymerodd yr etholiad le ddydd Mercher, a gwnaed y canlvniad yn hyabya nos Fercher. Syr C. H. Seely 7,597 Dr T urnhull 4,456 -Ifw,vafi-if 3141
Advertising
SUDD IACHUSOL DAIL CARN YR EBOL gan GRIFFITH OWEN, CAERNARFON, ydyw ei fod yn rhyddhau y phlegm, ao yn cilia poen y frest. i'w gael mewn poteli Is 2c yn y Siopau Druggist; gyda'r port, Is Sc.
—————'*Oo———— I AWSTRUIA A…
————— '*Oo ———— AWSTRUIA A GORFODAETH. Yu Scnedd-dy Awstralia ddydd Merch- er gorchfygwyù gwelliant yn gwi-thwyn- ebu gorfodaeth gau 49 o bleidleisiau yn erbyn 12.