Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
I PWY S 'NI WN?
PWY S 'NI WN? Llythyrau Pwysig a Diddorol. MR D. THOMAS A MR G. ROBERTS, BETHESDA. Fel y mae'n hysbys i ddarllenwyr y "Dinesydd," oododd Mr Griffith Roberts, Bethesda, gwestiwn ynglyn ar Aelodau Llafur enwid yn y Cyngor Sir i sefyll ar Bwyllgor Pensiynau Rhyfel. Oddiar adroddiadau gwahanol newyddiaduron o'r cyfarfod y mae Mr David Thomas, Taly- aarn, ysgrifennydd Cyngor LlanU" Sir Gaernarfon, wedi bod mewn trafodaeth ohebiaethol gyda Mr Griffith Roberts, ac yr ydym yn rhoddi y cyfryw i mewn yn y "Dinesydd," er mwyn i'n darllenwyr gael deall y sefyllfa'n glir. Gadawn iddynt ddweyd y stori eu hunain. 4, Bryn Derwen, Tal y Sarn, 21 Medi, 1916. Annwyl Gymrawd,—Byddaf yn dra diolchgar os byddwch mor garedig a chy- hoeddi yn y "Dinesydd" yr ohebiaeth a gaiklyn, a, fu rhwng Mr Griffith Roberts, Bethesda, aelod o'r Cyngor Sir, a minnau. -Yr eiddoch yn frawdol, DAVID THOMAS, Ysgrifennydd Cyngor Llafur Sir I Gaernarfon.
LLYTHYR I. I
LLYTHYR I. I 4, Bryn Derwen, Tal y Sam, 6, Medi, 1916. (Deddf Prnsiynau Rhyfel Milwyr a Morwyr, 1915). I Annwyl Syr,—Oddiwrth adroddiadau yn y Wasg o .weit.hredia.dau'r Cyngor Sir yn ei gyfarfod diweddaf, gwelaf eich bod chwi wedi cymryd rhan yn y drafodaeth ynglyn ag ethol Aelodau Llafur ar "Bwyllgor Pensiynau Rhyfel" yn y sir hon. Yr ceddwn i wedi anfon saith o enwau i law Clare y Cyngor Sir yn enw Cyngor Llafur Sir Gaernarfon, a dywed- soch chwithau wrth y Cyngor nad oedd Pwyllgor y Cyngor Llafur yn gwybod dim am yr enwau hya. Yr oedd hynny'n rhwym o roddi'r argraff ar aelodau'r Cyngor Sir ac ar y w lad fy mod i wedi anfon yr enwau i Glare y Cyngor Sir ar fy nghyfrifoldeb fy hun, ac heb awdurdod y Pwyllgor. Gan fod hyn yn hollol ang- hywir, y mae'n sicr gennyf y teimlwch mai teg a bon.?ddigaidd ynnoch fvddai fy nghlirio i'n lan oddiwrth y eyhuddiad. Yr eiddoch yn gvwir, DAVID THOMAS. I Mr Griffith Roberts, I Lome House, Bethesda. I
LLYTHYR II. I
LLYTHYR II. I Lome House, Bethesda, 9fed Medi, 1916. (Deddf Pensiynau Rhyfel Milwyr a 1, Morwyr, 1915). Annwyl Syr,—Yr eiddoch i law ynglyn a'r uchod. Bydd yn bleser gennyf fan- teisio ar y cyfleustra cyntaf a gaf yn y Cyngor Sir i ddatgan y ffaith ddarfod i mi dderbyn llythyr oddiwrthych, ac y bydd: i mi fynegi ei gynnwvs. Bydd i mi lief yd, yr un pryd, ail ddywedyd yr hyn a ddywedais, a hynny ar sail tystiol- aeth fy nghyfaill Mr R. R. Jones, sef ei fod ef yn Lresennol yng nghyfarfod Pwyll- gor y Cyngor Llafur, ac na ddygwyd enw Mr R. W. Jones, Glanadda, gerbron i fod yn Gynrychiolydd. Rhagor na hyn nid ydwyf yn gyfrifol am danynt. Yr eiddoch yn gywir, G. ROBERTS. I
LLYTHYR Ill. I
LLYTHYR Ill. I 4, Bryn Derwen, Talysarn, 12 Medi, 1916. Annwyl Syr,-Derhyniaig eich llythyr am y 9fed o Fedi, a synnais gryn lawer at ei gynnwys. Dvmunaf gyflwyno i'cli sylw yr adroddiadau a ganlyn o wahanol bapurau newyddion o'r hyn a ddywedwyd gennyoh vng nghyfarfod y Cyngor Sir ar y 25ain o Awst:— "He desired to know who had sent in the names of the representatives of the Labour Council for the county. Some of the officers of the Council knew no- thing about it." "Mr Roberts said that he could only repeat what a member of the Com- mittee of the Council had told him,— viz., that the names now submitted were never before the organisation." "Manchester Guardian," August 26th, 1916. "Nid ydyw'r enwau wedi eu cadarn- hau gan y Cyngor. Hysbyswyd fi o hyn gan aelod o'r Cyngor Llafur." "Dvwxlordd Mr R. R. Jones wrthyf neithiwr na ddygwyd yr enwau o flaen y Cyngor." "Dinesydd Cymreig," Awøt 80, 1916. "He ti. de-i-stood that the selection of these representatives was to be brought up at- the next meeting of the Labour Council. "Mr h'Sard Davies stated that Mr Griffith Roberts had charged Mr David Thomas with sending in the names of representatives without laying the matter before his Council. "Mr Griffith Roberts: Mr R. R. Jones told me that he is a member of the Council, and that the names were sent in without his knowledge."— "North IN altfi Chronicle," September 1st. 1916. Bydd yn dda gennyf gael gwybod gon- nych a .vdyw'r adroddiadau uchod o syl- wadau a bnodolir i chwi yn adroddiadau cywir ai peidio. Yr ciddoeli yn gywir, DAVID THOMAS. Mr Griffith Roberts.
LLYTHYR IV.
LLYTHYR IV. Lome House, Bethesda, Medi 14, 1916. Mr David Thomas,— Annwyl Syr,—Yr eiddoch am y 12fed cyf. i law, "a synnais gryri lawer at ei gynnwys," a hynny oherwydd tybio ohon- wyf ddarfod i mi gyfarfod a'ch cais drwy ddatgan fy mharodrwydd i ddweyd am eich llythyr a'i gynnwys y cyfle cyntaf a gawn yn y Cyngor Sir. Ymddengys nad ydych yn foddlon i mi gyflawni fy addewid. Gyda golwg ar y dyfyniadau o'r new- yddiaduron anfonasoch i mi, dymunaf ddweyd fod geiriau y paragraph olaf ddy fynwyd gennych o'r "Dinesydd Cymreig" yn gywir oddigerth un gair, f y gair "enwau,rhodde.r y gair yma yn y rhif I unigol-"enw,a bydd yn gywir. Gell- wch esbonio y gweddiH o'r dyfyniadau yngoleuni yr eglurhad uchod. Dywedwch yn eich llythyr blaenorol ddarfod i chwi anfon saith o enwau i Glare y Cyngor Sir. Byddai yn wybod- aeth fuddiol i mi pe yr eglurweh, os y gellwch, pwy ddetholodd y ddau allan o'r saith P Hefyd, a oedd ymhlith y pump adawyd allan enwau person neu bersonau o Fethesda? Eto, a fu enwau y ddau a, ddewiswyd i gynrychioli y Cyngor Llafur gerbron y cyfarfod ac y dywed fy nghyf- aill MR. R. Jones ei fod yn bresennol ynddo ac ria ddygwyd yr enwau o flaen y Cyngor ? Hwyrach y byddwch chwi fwyned ag ateb yr uchod. Yr eiddoch yn gywir, G. ROBERTS.
LLYTHYR V.
LLYTHYR V. 4, liryn Derwen, Tal v Sarn, 16 Medi, 1916. Annwyl Syr,—Mewn ateb i'ch llythyr am y 14eg o'r mis hwn, yr hyn a'm syn- nodd yn eich llythyr cyntaf, wrth gwrs, ydoedd fod eich adroddiad chwi o'r hyn a ddywedasoch yng nghyfarfod y Cyngor Sir mor wahanol i adroddiadau'r Wasg. Nid ydych wedi dweyd wthyf eto a ydyw'r adroddiadau hynny'n gywir ai peidio. Yr ydych wedi cywiro un gair o ad- roddiad y "Dinesydd," a dyna'r cwbl; ond beth am yr adroddiadau eraill ? A ydyw'r frawddeg arall yn y "Dinesydd" yn gywir, a'r adroddiadau yn y "Guard- ian" a'r "Chronicle"? Un ai yr ydych wedi llefaru'r geiriau a briodolir i chwi gan y papurau newyddion, neu nid ydych. Carwn wybod pa un. Credaf y dylem, ar bob cyfrif. gael dealltwriaeth glir at- beth a ddywedwyd gennych yng nghyfarfod y Cyngor Sir cyn mynd at unrhyw gwestiwn arall. Yr t'ddooh yn gywir, DAVID THOMAS. I Mr Griffith Roberts.
.I LLYTHYR VI. I
LLYTHYR VI. I Lome House, Bethesda. Mr David Thomas,— Annwyl Syr,—\n atebiad i'r eiddoch am yr 16eg cyfisol, nid oes gennyf ond eich cyfeirio at yr hyn a ddywedais yn barod yn fy natt lythyr blaenorol atoch. Credaf fod yr hyn a dd-ywedais ynddynt yn atebiad clir a diamwys i'ch gofynion. Cofier, unwaitlr eto, nad oes a fynnwyf a chwi ond can belled ag y mae a fynno y ddau enw sydd ar Raglen y Cyngor Sir, fel rhai i gynrychiolji Cyngor Llafxir Sir J Gaeraarfon. Yr eiddoch yn gywir, G. ROBERTS.
j LLYTHYR VII. Ii
LLYTHYR VII. 4, Bryn Derwen, Tal y Sarn, 20 Medi, 1916. Annwyl -Syr,Derbyniais eich llythyr am y 18fed o'r mis, a gvvelaf mai ofer ydyw ceisio cael ateb boddhaol gen- nych i'm c" estiynau. Anfonais i chwi ddyfyniadau o dri papur newydd gwa- hanol, gwaith gohebwyr hollol wahanol, mi gredaf, --a gofynnais i chwi a oeddych wedi llefaru'r geiriau a briodolid i chwi yn yr adroddiadau hynny. Xid ydych wedi ateb y cwestiwn eto, ond y mae'n amlwg na fuasech yn fyr o ddweyd pe- tasai'r adroddiadau yn gwneud cam â I chwi. Fe gywirwyd un gair o'r "Dines- 1 ydd" gennych, a dyna'r cwbl, ond gan fod y papurau eraill yn cadarnhau adrodd- iad y "Dinesydd," nid ydyw'r cywiriad hwnnw fawr o werth. 0 dan yr amgylch- iadau, yr wyf yn rhwym o dynnu'r casgl. iad fod adroddiadau'r Wasg yn hollol gjT- wir, a dyna'r casgliad y deuai unhyw ddyn arall iddo ar ol darllen eich llyth- yrau. Ac ar bwys yr adroddiadau hyn y seiliaf fy rghwyn yn eich erbyn. Ym mis Gorffennaf diweddaf, anfonais i Glare y Cyngor Sir enwau Cynrvchiolwyr Llafur ar Bwyllgor Pensiynau Rhyfel v Sir, ar v/durdod Pwyllgor y Cyngor Llafur, ac yn unol i'r Ilythyren a'r cyfar- I wyddiadau a dderbyniais ganddo pan oedd yn dewis enwau. Pan ddaeth yr enwau gerbron y Cyngor Sir, dywedaaoch chwi na fuont erioed gerbron y Cyngor Llafur. na wyddai rhai o swyddogion y Cyngor ddim am danynt, ac fod y mat-er i ddod gerbron y Cyngor yn ei gyfarfod nesaf. Unig ystyr v geiriau hyn, i hawb a'u clyw- odd ac a'u darllenodd, ydoedd fy mod i wedi a,nfon yr enwau i mewn ar fy nghyf- rifoldeb fy hun, ac heb ymgynghori a'r Cyngor Llafur, ac ar bwys eich cyhuddiad chwi gwrthododd y Cyngor Sir gadarnhau enwau'r Cynrychiolwyr Llafur heb eu hail- ystyried. Mi anfonais atoch i ddweyd wrthych fod eich cyhuddiad yn anghywir, I a buoch chwithau mor garedig ag addo hysbysu'r Cyngor Sir fy mod yn ei wadu. Diolch yn fawr i chwi, ond gallaswn wneud oymaint a hynny fy hun. Y peth lleiaf allaswn ei ddisgwyl oddi- wrthych chwi fel boneddwr fuasai tynnu'r I eyhuddiad yn ol. I Gan fod eich llythyrau mor liynod c anfoddhaol, yr wyf yn anfon copi o'r oheb- iaeth a fu rhyngom i'r Wasg, ynghyda'r penderfyniad a jjanlyn, a basiwyd gan Bwyllgor y Cyngor Llafur ar yr 2il o Fedi:— "Fod y Pwyllgor hwn yn gwrthwyn- ebu'n gryf y cyhuddiadau a wnaeth Mi- Griffith Roberts, Bethesda, yng nghyf- arfod y Cyngor Sir ar y 2.5ain o Awst, pan gyhllddodd efe ein Hysgrifennydd o anfon enwau Cynrychiolwyr Liafur ar Bwyllgor Pensiynau Rhyfel ar ei gyf- rifoldeb ei hun. Y mae'r cyhuddiadau hyn yu hollol anghywir a di-sail." Yr eiddoch yn gywir, DAVID THOMAS. I I Mr Griffith Roberts.
I CENADWRI ESGOB LLUNDAIN.
I CENADWRI ESGOB LLUNDAIN. I Eisiau Lie Glan i'r Bechgyn. I Oddiar bwlpud sydd yn yr awyr-agoreci perthynol i St. James, Picadilly, Liun- dain, tra-ddododd Esgob Llundain anerch- iad rymus yr wythnos ddiweddaf Dyma rai o'i eiriau:— "Ein busnesf ni, ddynion canoloed un I chaniateir i ni ymladd, a, merched Llun- dain, ydyw carthu calon yr YmerodraetJi cyn i'r bechgyn ddod yn ol. Os yw Llun- dain i fod yr un eto ag ydoedd, y mae' bechgyn fu farw wedi marw yn ofer. "Er mwyn y bechgyn sy'n ymladd dros- om, er mwyn y bechgyn sydd wedi marw drosom, er mwyn plant y dyfodol, gadaw- er j ni ryddhau Llundain oddiwrth fellditi, y traohwant a'r pechod, a gadawer i ni ei gwneud yn ystafell o'r ddinas sydd ag I svlfeini, adeiladydd yr hon yw Duw. "Condemniaf y rhai sy'n gwneud arian drwy staenio gwroniaeth ein bechgyn; gwenwyno eu meddyliau, ac yn mynd dan eu cymeriadau. Siaradwn am yspiwyr Germanaidd, a saethwn hwv. Mae rhai o'r dynion hyn yn fwy o fradwyr na'r ys- piWYr Germanaidd, a dylent gael yr un driniaeth yn hollol." Y mae'r Esgob yn siarad calon y gwir, a gellir rymhwyso ei eiriau at drefi i., dinasoedd eraill Lloegi- a Chymru. Dylai yr Eglwysi garthu pob arferiad drwg ac anfoesol allan o galon yr ymerodraeth, a chael amgylchedd iach a phur i'r bechgyn a'r genethod fyw ynddo.
Advertising
J. ELIAS AND SONS. HAIRDRESSERS, HAVANA HOUSE, PWLLHELI, Has the Largest and Best Selection of Ladies' Real Hair Tails in Stock. Inspection Invited. Also Agents for Metropol Razors.
Y FFARMWR PRYSUR—J. T. W.,…
Y FFARMWR PRYSUR—J. T. W., I PISTYLL. Cnydiodd tir un gwr tylawd Yn dda. y flwyddyn hon, A di-na'r pain y g-welir of Ar hyd y dydd yn Hon; Mae'n codi'n gynnar gyda'r wawr, Er mwyn cael diwrnod hir, I gasglu'r gwenith gwyn i mewn A dyfodd yn ei dir. Ae wi-thi iiiae o faes i faes, Ar fin diffygio'n llwyr, A swn t i droliau'n mjTid a dod 0 fore hyd yr hwyr A disgwyl mae am leuad Hawn I Ar naw nos oleu clir Rhy brin vw'r dydd, er hired yw, I'r gwr, a dweud y gwir. A piti gweld ei griw mor brin A'r gwaith o'i blaen mor fawr, A'r gwynt yn tynu tua'r de, A'r glass yn mynd i lawr; A golwg ddrwg sydd ar y mor 0 gwmpas Portinllaen, Ai gwell fa'i dweud wrth wr y Wern Am ddod a'i drol rhag blaen. Rhy brysur yw i gyfri'r wyn, Na naddu can, na phren, A phe disgynnai aeroplane Ni chodai ef ei ben Rhwng styciau'r gwenith mae e hyd, Er nad yw yn ddyn tal, A gwell fa'i peidio dweud mor blaen Rhag iddo ef fy nal. A'i warr yn noeth heb ddim ond crys Mae'n treulio oriau'r dydd, A'i 'sgubor lawer yn rhy fach I ateb maint ei ffydd; A'r secret am ei Iwyddiant ef Yn ddiau ydyw hyn— Roedd ar y da-lar gyda'i wydd Pan oedd yn farrug gwyn. Rhy brysur i borthma vw. Nac sgi*ifennu dim, Ond ar ol hyn yn nrws ei gell Mae wedi addo i'm Bydd ganddo air i Amoe graff, A J. H. Jones a'i griw; Nes llenn'i y "Dinesydd" gwych A gwirioneddau byw. BRAN POD BRO.
CLWTYBONT. t
CLWTYBONT. t Awen o'r Sanatorium.—Gwaith Miss Mary Evans, merch Mr Griffith Evans, 9, Grlandwr Terrace, yw yr isod, yr hon sydd yn wael ers peth amser yn Sanatorium Llangefni. Llawenydd gennym ddeall ei bod yn gwella, a hvderwn y caiff adferiad buan, ac v cawn ei gweled yn ein plith eto.—0. R. J. i I Yr Ken Gaiser Melltigedig. 0, ymerawdwr creulon, Pa le yr "ivyt yn awr? Ti yw y gelyn penaf Ar wyneb daear lawr; Os cawn ni afael ynnot, I Gwae iti, deym diras, Gan bawb sy'n cam heddwch Yr wyt yn gena cas. 0, ymerawdwr creulon, A v/yt ti'n cofio'r loes A gafodd Belgium f'echan Edmygir ymhob oes? Am iti boeni Serbia Fe'th boenir ditha'n hir, Nid ti, ond Duw y nefoedd, Yw Brenin Mawr y tir. Y Milwyr. Rwy n meddwl a myfyrio, Fy hunan lawer awr, Am fechgyn dewr sy'n brwydro A djoddef cystudd mawr; A da w cofio'n vvastad Drwy'r lladd a'r elwyfoli gyd Fod Itfiu, Brenin heddweh, Yn foddyg i'r holl fyd. Does neb all estyn cymorth A Jloni calon drist, A rhoddi gwin ac olew I'r gwan fel Iesu Grist; Wrth fiwydro ac wrth farw, Mae'n gymorth hawdd ei gael, A'i gariad a'i drugaredd A ddyry ef yn hael.
Advertising
BYDD RICHARD EVANS, I MEDDYG ESGYRN (Bone Setter), ADFER LE, GAOL STREET, PWLLHELI, yn Ymweled a'r lleoedd canlynol yn wythnosol:— Dydd lau.-Market Vaults, Llan- gefni. Dydd Gwener.—Sportsman Hotel, Portmadoc. Dydd Sadwrn.—Emu Temperance, 2, Palace Street, Caernarfon (gerllaw y Farchnad) Oil at y Gewynau i Ddynion ac Anifeiliaid am Is He a 2s 6c y Botel, < 3c yn ychwanegol drwy'r Post- <
; GWEISION Y RHEILFFYRDD.
GWEISION Y RHEILFFYRDD. DYBLU'R WAR BONUS. Y CYTUNDEB. Dacth helynt gweision y rheilffyrdd i ben, ac y mae cytundeb wedi ei wneud cydrhwng cynrychiolwyr y rheilifvrdd a ehynryehiohvyr y gweithwyr. Fel y gwyddis, hawliai y dynion fod yr amgylchiadau yn galw am ddeg aw lit yn ychwaneg o godiad ynghyflog pob dyn at y pum swllt war bonus oeddynt eisys yn ei gael. Ond nid oedd cynrychiolwyr y rheilffyrdd yn gweled y gallesid rhoddi dim mwy na 38 at y 5s war bonus, a beth bynnag yn ychwaneg ellid ei gael drwy gyflafareddiad. Nid oedd y dynion yn foddlon ar y dyfarniad, ac yr oeddynt yn benderfynol o fynd ar srteic ganolnos y Sul, Medi 17. Modd bynnag, cafodd Mr J. H. Thomas, A.S., hwy j beidio cymeryd y camrau hynny, am y gwelai fod yna bosiblrwydd telerau gwell, gan fod y drafodaeth yn agored Wedi ystvried yr holl amgylchiadau, datganodd cwmniau y rheilffyrdd eu par- odrwydd i ailystyried y sefyllfa, ac ar ol trafodaeth daethpwyd i'r cytundeb a ganlyn:— 1.—Fod y War Bonus delid gan y cwmniau rheilffyrdd dan gytundeb Hyd- ref, 1915, i ychwanegu ato fel y dengys isod Gweithwyr 18 mlwydd oed ac uchod: War bonus presennol 59 yr wythnos; war bonus newydd, Ids yr wythnos. Gweithwyr o dan 18 mlwydd oed, oddigerth bechgyn gymerwvd i mewn er Ionawr 1, 1915, yn ol graddfa tal fo dros ben o 5s neu ragor y raddfa dalu i fechgyn fo'n gweithio yn y sefyllfa- oedd y mae'r bechgyn newydd yn gweithio ynddynt: Y war bonus presen- nol, Is Cc yr wythnos; war bonus new- ydd, 5s yr wythnos. 2.-Y taliad cyntaf o'r war bonus new. ydd i gael ei wncud ar gyfer yr wythnos yn diweddu Medi 16, 1916. 3.-Fod y cadoediad aethpwyd iddo cydrhwng v pleidiau ar Hydref 1, 1914, i barhau mewn grym. Dros y cwmniau rheilffyrdd: W. Guy Granet ( cadeirydd). Dros lTndeb Cenedlaethol Gweision Rheilffyrdd: A. Bellamy (llywydd). J. H. Thomas (ysgrifennydd). Dros Gymdeithas y Locomotive En- gineers a'r Iliremen- John Hunter (Hyw- ydd). J. Bromley (ysgrifennydd). Gwelir felly y bydd War Bonus Gweis- ion y Rheilffydd yn awr yn 10s yn He 5s yr wythnos.
ABWYD Y DIAFOL.
ABWYD Y DIAFOL. (Gan J. T. W., Pistyll). Mae pob pysgotwr yn y byd A'i fryd ar sut eL a^vyd, Ni ddelli- fawr o'r ddyfrllyd haid Heb damaid o flasusfwyd; Pan ddaeth y diafol i ddal dyn, Hyn ydoedd ef me,wn dichell, Gwybodaeth roes yn abwyd del I ddirgel guddio'i fachell. 'E ffitia'r abwyd hwn i'r dim I ieddwl chwim dynoliaeth, A llyncodd Efa heini iach Y bach er mwyn GWYboctaeth t Nid oedd gwybodaeth vnddi'i hurt) I ddyn ond etifeddiaeth, Fe'i cawsid ynghwra aiaser Duw Wrth drefn Pen llyw lthaglilni-aetli, Ond, y mae dyn a hyd mewn brys Nid crys wrth ei Grewr; Trwy hyn y diafolyfie gaiff. Y brys wnaiff ddyn yn beehwr., Gwybodeth-dyna, sydd o hyd Yn hudo dyn a'i deulu- Mor debyg ydyw hi i Dduw. Pwy nad yw'n falch ohoni P. A thyma berygl mawr y dyn Gwneud ef ei hun-trwy wybod Yn dduw, ac amcan ei holl fyw A gwerthu'r llyw-y Drindod; Yr unig wybod diogel sydd Tra'n byw ar bridd y ddaear Yw "gwybod ofn" y Dwyfol Dad* A bar fawrhad o'i ddarpax Pob gwybotl sydd heb gynnwys hyn A dynn y dyn oddiwrtho, Galeda galon-ddiffydd ras, Wna Dduw yn gas gan Gymro Medi 14, 1916.
——————————*............I MEDDYGINIAETH…
—————————— MEDDYGINIAETH NATUR. 1., 1 /nf teddyginiaeth ar gyf?. bob. math o afiechyd yn y deyrnas lymeooI, M rud oes un amheuaeth nad dail earn yr bo] yw y llysieuyn ar gyfer peswch ao wihwylderau y frest. Mae Sudd Dailfl rrn yr Ebol mewn poteli la 3c,