Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Imr GOSTEG. I

Advertising

..! DYDDIADUR.I

-;-"--Gyboeddwyr y CymodI…

Wrth Grybinio.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Wrth Grybinio. Ebe Edgar Phillips am Satan y Suddo :—" Hen Satanes y toniiaii--ddaw ynghudd Yng ngliol y dyfnderau Gyr o hyd, heb drugarhau, Ryw longwr i law angau. Ac ebe Teyrion am y bomb Dvfais o eiddo'r diafol-a'i helyth Yw'r belen dan ysol; Angau ynghudd ddwg ing yng ngliol Y ffyrnig fomb uffernol. Y mae perchenogion y Christiana iiewvdd dalu £ 2,100 i Gyngor Dinesig Bangor, sef iawn a tbreuliau'r cyngaws a ddygesid am y niwed a barodd yr agerlong honno i'r piar, Ilhagfyr 14, 1914, wrth gael ei chwythu arno ar noson ystormus. Ar Morus y Gwynt yr oedd y bai ond nid oedd ddiben yn y byd codi cyfraith ar hwnnw, gan mai yn llaw ei Feistr yr old o, na Hwnnw wedi dweyd Gosteg wrtho. Ar ol wythnos o segura, dychwelodd chwe- chant o byllwyr Cwmbran, Sir Fynwy, at eu gwaith. gan. adael asgwrn y gynnen i'w ben- derfynu dnvy ayflat'areddiad. Nid oes dim danfon llythyrau gyda'r nos i fod o hyn allan yn Nhreffynnon, Connah's Quay, Shotton, ac eraill o drefi Sir Fflint, oherwydd prinder postmyn yn y llythyrdy. -&• Daeth gair i Dreffynnon fod Capt. Elford H. Roberts, 15th R.W.F., yn gorwedd dan glefyd yn ysbyty East Mudros, ynys Memnos. Nid oedd yr un carcharor i ddod o flaen ei well yn llys chwarter Sir Ddinbych yn Rhuth in, ddydd Gwener diweddaf ac felly, cafodd y rheithwyr lonydd a chadwyd y fainc faneg wen, Yn Llys Mynach, Dolgellau, ddydd Mercher diweddaf, bu farw Mrs. Anne Jones, gweddw Dr. Edward Jones, a mam Dr. John Jones, eyn-Uchel Siryf y Sir Dr. Hugh Jones, swyddog iechyd Dolgellau a Mr. R. Guthrie Jones, is-drengholydd Meirion. Yr oedd hi'n ddwy a phedwar ugain oed. ■ Y mae'r Capt. Tom Parry, A.S., dros Fwrdeisdrefi Fflint, ar y ffrodd adref i'r Wyddgrug o'r Dardanelles, lle'i clwyfwyd yn ddifrifol braidd yng nglaniad Bau Suvla. Mewn llythvr o'r Dardanelles at ei dad-y Parch. J. A. Rees, rheithor Rhoscolyn, Mon— dywed Lieut. Archibald Rees hanes dioddef enbyd ein milwyr yn y culfor cethin hwnnw— yr hin yn newid o'r eithaf p6eth a sych i'r eithaf oer a gwlyb. Dyma ni'n wlyb diferol un funud ac yn rhynnu wrth rew'r funud arall," ebe'r llythyr dwys. Wrth fynd a'i geffyl am dro a charlam fach hyd y ffordd o'r Drenewydd i gyfeiriad Ceri, rhusodd yr anifail wrth bont ffordd haearn y Cambrian a thaflwyd ei farchog—Trooper Starkey, y Welsh Horse—ddeugain troedfedd i lawr i'r rheiliau islaw, ac yno'i caed wedi mwydo YJl ci waed. Aed ag ef j'r ysbyty, yn dost iawn ei gyflwr, druan. Y mae merched y Drenewydd, ar awgrym priod y Cyrnol Pryce-Jones, am gadw dydd cerdyn (postcard day) er budd y Fyddin Gymreig.  CynhaHodd Eglwysi Ymneiutuol Llanrwst a'r ardal gymanfa ganu undebol ddydd lau diweddaf. Y Parch. O. Evans (W.) yn llyw- ydd y prynhawn a Mr. W. G. Owen (A.) y nos a Mr. T. R. Williams yn arwain drwy'r dydd. -eo- Yn Rhyl, ddydd lau. bu farw Mr. 0. R. Williams (Cymro Cybi), yn ddwy ar hymtheg a thrigain oed. Yr oedd yn bur hysbys ym myd y commercial travellers, ac wedi cynrych- ioli (firm o Ddublin. yn ddifwleh am un mly; edd nor bymtheg a deugain. Methodd y motor-bus sy'n cludo j'tiwng Llandudno a Llanfairfeehan a mynd yn ei blaen ar y fiordd yn agos i Dywyn ddydd Gwener diweddaf, oherwydd fod y dwr mor uehe1--y Hanw o'r rnor a'r llifogydd o'r tir, a'r gwynt, yn cliwjl)io-r (I(Iau. Er pob yxDgajs a wnai 'r gyrrwr, inetbu chael or ig P. wikai,r ?Lr rhych a wnai, a'r teithwyr—rheithor Llan- dudno yn eu mysg—mewn braw a phenbleth. Yn gweld eu helynt, dvma nifer o filwyr o' Ddeganwy yno, a chan roddi rliafT wrthi, a gwaeddi Ho-hoi, ho-hoi dyua dynnu'r cerbyd i dir sych, Iter arhoswyd am awr i aros i'r llanw dreio. Mon sydd fwyaf ar ol gyda'r byddino, fe ymddengys, o holl siroedd Cymru braidd,— mil neu fwy o fechgyn yr Ynys yn snechydd ion-slackers, chwedl yr awdurdodau milwrol —a'r rheinv'n feibion ffermydd talgryf sy'n lloifa pob esgus dros beidio ag wynebu eu dy- letswydd i'w gwlad yn Nydd ei Barn. Bti.i, Cadfridog Owen Thomas yno ddydd lau, i gyfarwyddo a sbardynnu petliau i'w lie. Yiig Nghyngor Geirionydd. ddydd Gwener diweddaf, darllenid llythyr oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leo], Llundain, yn cymell cyn- hilo drwy ddweyd nad oedd angen cyhoeddi rhybuddion a chyfrifon ac yn y blaen yn v wasg. Ond ebe Mr. R. H. Williams Sut y mae'r Bwrdd yn meddwl i'r papurau fedru byw ? Y wasg ydyw'r eyfrwng rhwng y bobl a gweithrediadau eu cynrychiolwyr anfon- ant eu gohebwyr yno onibae hwy, ymhle y byddem ? A thro gwael yw troi arnynt a'u llindagu fel hyn. Un o elltydd sythaf Cymru yw gallt Llan. elian, uwehben Colwyn Bay, ac ami drofa chwern. Nid oes fawr er pan laddwyd dynes arni drwy i'r gyrrwr fethu cadw'i fotor rhag llithro'n ol, adymchwelyd bendramwnwgl a pheri ei hangau hi, er dianc ei hun. Y mae post y Drive Slowly newydd gael ei ddodi yno gan yr Automobile Club ond yug nghyfarfod Cyngor Gwledig Conwy, cil-awgrymai Mr. Edward Williams eu bod yn ychwanegu to death at y ddau air arall. Y mae'r Parch. J. J. Latimer Jones, ficer Llanfair Caereinion, wedi derbyn bywoliaeth y Drenewydd, yn ddilynydd y diweddar Canon T. L. Williams. Y ficer newydd yn fab y diweddar Canon T. Jones, rheithor Penboyr, Sir Gaerfyrddin, Y mae gan ddinas Bangor gynifer a 1,538 o'i thrigolion yn gwasanaethu yn y rhyfel, rhwng y Fyddin a'r Llynges. Uaddwyd 22. .ddin a'r Llyiiges. Lladdwyd 22. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Aber- gele nos Wener ddiweddaf, Syr J. Herbert. Roberts, A.S., yn y gadair, i hyrwyddo tysteb i Mr. Rogers, sy newydd ymneilltuo fel gorsaf feistr y dref ers yn agos i 35 mlynedd. Rhoddodd y cadeirydd air uchel i'w diriondeb gwastadol at bawb. Cafodd Mrs. M. J. Roberts, Cwrt, Aber- gynolwyn, air fod ei mab, Lce-Corp; T. G. Roberts, 7th R. W.F., wedi ei ladd yn y Dar- danelles, Rhagfyr 8fed. Ac y mae ei frawd, y Preifat David Roberts, yntau ar goll. Llosgwyd teisi gwair fferm Bron Haul- Rhyl, nos Wener. Bu'r diffoddwyr wrthi am oriau eyn darostwng y fflamau ac achub yr adeiladau. -<  Y mae Plas Pentre Ffynnon, ar ystad Arglwydd Mostyn yn agos i Dreffynnon, wedi ei droi'n adferdy i glwyfedigion y rhyfel. Y mae yno chwech ar hyn o bryd a Lady Mostyn a'r Anrhyd. Gwynedd Mostyn ymysg y rhai sy'n gweini arnynt. Blin yw sangu pigau dux, A blin yw Cur y galon Blinach ydyw colli bun, A hi ei hun yn fod Ion. < El (MEL }iN FA.jRW.Caed o hyd i Mr. T. J. Lloyd, fferm lyddyn Ucha, Rhiw- abon, yn farw ddydd Ma wrth yr wythnos hon mewn cae gerllaw'r ty a gwn yn ei ochr. Aethai allan i saethu'n gynarach ar y dydd ae yn ei weld yn hir yn dychwelyd, aed i chwilio, a chafwyd ef mewn Kos. fern yr heddgeidwaid ydyw iddo saetbu ei hun yn ddamweiniol wrth fynd dros y gwrych. Yr oetld yn dair ar ddeg ar hugain oed, a gedy weddw a thri o Want.

Advertising