Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Ni chyhoeddir rhagor ar y Dyfrhawr na'r ysgrif sydd yn rhedeg yr wythnos hon. 0 ddiftyg gofod bu raid gadael allan rai ysgrifau, gaiff ymddangos yr wythnos nesaf. Diolch am danynt.
Y Cynllun goreu i ddathlu…
Y Cynllun goreu i ddathlu Haner can' mlwyddiant y Wladfa. [PARHAD. ] ADRAN ANIFEILIAID.—I'r adran hon dylid dethol o'r rhai fyddo yn dallgosyr hen ryw- ogaethau yn y gwahanol fathau, hyd at y goreuon ellir gael yn bresenol. Nid oes angen ei gyfyngu i'r dyffryn hwn yn unig gwahodd- er yr holl Diriogaeth4 oblegid gellir dweyd mai Dyffryn y Camwy yw mam y Diriogaeth. Arddaughoser gweddoedd o geffylau mewn meni, gweddoedd aredig, ceffylau cerbydau a marchogaeth, petisos, asynod, mulod, gwedd- oedd o ychain gwartheg o bob math, defaid, geifr, da pluog, moch, &c., h.y. o'r holl an- ifeiliaid dofion ac hyd y gellir anifeiliaid gwylltion, yn fyw, neu wedi eu gwneyd yn gelfyddydol yn nghyd a chrwyn, megis puma, guanaco, condor, estrys, carw, &c. ADRAN MASNACH.-YN yi, adran hon dylid dangos holl gynyrchion y wlad, acarddang- hoser y nwyddau wneir yn y Diriogaeth, megis cyfrwyau, ffrwyni, lasos, ger ceffylau, carpedi, &c., yn nghyd a'r prif nwyddau ddadforir. I'r adran hon gwahodder holl fasnachwyr y Diriogaeth i anfon pethau fyddont o ddyddordeb. Yn ychwanegol at hyn gwahodder peuaethiaid yr Indiaid i ddy- fod a chynrychiolaeth o honynt eu hunain, eu hanifeiliaid, a'u hoffer arfau, &c., gan roddi pob cefnogaeth iddynt i wneyd rhyw Can neillduol mor debyg i'w cartref ag y bo modd, fel y gallo pawb a'u gwelo ymgydna- byddu a'u dull o fyw a'u harferion. LLYFR o HANES Y WLADFA.—Credaf y buasai o fantais fawr cyhoeddi llyfr o hanes y Wladfa o'i dechreuad hyd yr haner can' mlwyddiant, ac iddogael ei ysgrifenu gan y dynion mwyaf cymwysar gyfer pob rhan o'r hanes. Cyhoedder yn yr Hispanaeg a'r Gymraeg, ac os gwelid yn oreu yn y Saesneg -a'i werthu am bris isel gan wneyd ymdrech i roddi cylchrediad eang iddo, fel y caffo llawer ymgydnabyddu a'n hanes. Dylai gael ei addurno a darluniau o'r arwyr hen a di- weddar, gweinidogion, masnachwyr, athraw- on, amaethwyr, beirdd, llenorion, cerddor- ion, &c.; rhanau o'r Diriogaeth, adeiladau, &c., fel y byddo y desgrifiad manylaf a chy- wiraf o honom a'n hanes, yn fasnachol, am- aethyddol, addysgol a chrefyddol. Byddai hwn ar gael pan fyddo y rhan fwyaf o'r pethau eraill wedi myned i golli. Yn ychwanegol at y llyfr hwn gellid gwneyd math o lyfryn- fyddo yn arweinydd a dehonglydd y gwahanol adrauau yn yr ar- ddanghosfa, hwn eto i fod yn yr Hispanaeg a'r Gymraeg. Wedi ei addurno a darluniau o'r hen wladfawyr a sefydlwyr y Wladfa; hefyd diagrams fyddo yn dangoS cynydd (neu leihad) mewn gwahanol ganghenau er sefyd- liad y Wladfa, megis poblogaeth, amaethydd- iaeth, masnach, addysg, &c. Byddai hwn eto ar gael ar ddathliad can' mlwyddiant y Wladfa. EISTEDDFOD.—Gan y bydd yn ofynol cael mwy nag un diwrnod i wneyd y dathliad yn deilwng, credaf y byddai Eisteddfod un diwrnod yn beth wrth fodd calon pob Cymro, a chydag ymdrech gellid ei gwneyd y fwyaf aruchel fu erioed yn y Wladfa. Yma gellid dangos hen wisgoedd ac arferion y Cymry ganrifoedd yn ol. N ac anghofier yr Orsedd, ei gwisgoedd a'i thraddodiadau. BAND.—Ai tybed y byddai yn ormod gor- chest i fturfio Brass Band i chwareu hen alawon Cymreig, yn nghyd ac alawori Argen- taidd ? Byddai yn beth newydd yn hanes y Wladfa ac yn gaffaeliad mawr ar yr achlysur. DRAMA.—A fyddai yn ormod tasg i gael Drama Gymreig noson neu ddwy o'r wyth- nos. Y mae yn ein Gwladfa ddigon o rai cymwys i'r gwaith ond iddynt wneyd ym- drech i'r cyfeiriad. ADEILAD CYHOEDDU.- Y mae Trelewwedi gwneyd cychwyn da mewn adeiladau cy- hoeddus, sef y Neuadd Goffa, Byddai lie cyffelyb yn y Gaiman yn gaffaeliad mawr i'r Wladfa. A fyddai yn amhosibl cael neuadd eto yn y Gaiman i gael ei hagor ar haner can' mlwyddiant y Wladfa ? Yn sicr y mae arian yn cael eu defnyddio i bwrpas llawer llai defnyddiol nag i wneyd adeilad o'r fath. Teimlaf y dylid cychwyn ar unwaith er ei gael yn barod erbyn Gorphenaf 191 5. Bydd yti, goffawdwriaeth i haner can' mlwyddiant y Wladfa yn addurn i'n dyffryn, a mwy na hyny bydd yn fan cyfleus i'r bobl ieuanc ym- gynull yn He eu bod yn cael eu gorfodi i fyned i leoedd sydd yn eu tynu i lawr yn foesol a chorphorol, a hyny oherwydd y diffyg hwn. Heblaw y pethau nodwyd gellir cael amryw bethau eraill fyddo o ddyddordeb mawr i'r ieuanc, megis taii gwylit, balwns, &c., wrth gwrs nid yw y pethau hyn ond megis cerig llanw. Erbyn yr adeg hon dylid gwahodd rhai o brif arweinwyr Argentina i'r wyl, ac hefyd rhai o brif Gymry yr hen gartref. A wnai yr Anrhydeddus D. Lloyd George roddi i ni yr anrhydedd o'i bresenoldeb ? Ni ddylid anghofio Cymry eraill sydd ar wasgar. Bydd- ai presenoldeb dynion a merched o fri yn rhoddi mwy o urddas, ar ein gwyl. Y mae yr amser yn agoshau a dylid dech- reu ar unwaith drwy ddewis pwyllgorau er hyrwyddo y gwaith yn mlaen. Hefyd dylid anfon i'r gwahanol sefydliadau gan erfyn arnynt wneyd a allont er ein cynorthwyo. Cas gwr na charo'r wlad ai maco." ARGENTINO. ——————— ———————
Colonia Sarmiento. I
Colonia Sarmiento. Br. Gol.—Gwelais ddarn wedi ei gyhoeddi yn y DRAFOD Rhif 491, gan rhywun dan yr enw Hen Lane" o'r lie uchod am wyl a gynhaliwyd yn nhy y Br. Evan Coombes, y 12fed o Mehefin diweddaf, ac yr wyf wedi bod yn disgwyl hyd yn awr iddo gyhoeddi hanes gwledd pen-blwydd a gynhaliwyd yn nhy y Br. Owen M. Jones, a gan nad oes dim wedi ymddangos yn y DRAFOD hyd yn hyn, meddyliais mai nid anyddorol gan ei darllen- wyr yn Sarmiento gael gweld yr hanes mewn print. Teimlaf fod yr "Hen Lane" yn ym- ddwyn braidd yn anheg, sef gwneyd sylw o'r wledd a gynhaliwyd yn nhy y Br. Coombes, ac yn diystyru yr un a gynhaliwyd gan y Br. O. M. Jones, felly ceisiaf ei chofnodi. Erbyn y Heg o Gorphenaf diweddaf, yr oedd Cymry ieuainc sydd yma, bron i gyd, wedi cael gwahoddiad i dy y Br. Owen M. Jones i ddathlu gwledd pen-blwydd y ferch hynaf sydd gartref, sef Clara Elvina, yn I8 oed ac erbyn haner awr wedi pedwar, yr oeddynt wedi ymgasglu yn brydlon, a thra yr oeddynt yn dadflino ychydig ar ol teithio, gan fod rhai wedi teithio pellter mawr, mwyn- haent eu hunain trwy wrando ar y Phono- graph y Br. Philip C. Lambert, ac yfed Te Paraguay, neu mate fel ei gelwir yn gyffred- in, a thystiai pawb ei fod yn dda iawn ar ol teithio, a'i fod yn ardderchog i godi archwaetb. A phan oedd pawb megis wedi ytngolli mewn mwyniant yn mher-seiniau'r Phonograph, daeth archeb iddynt ddod at y bwrdd mawr oedd eu syndod pan welsant y bwrdd wedi ei drefnu mor stylish, ond mwy o lawer oedd eu llawenydd panganfyddasant fod yno saith o wahanol fathau o deisenau, a'r rhai hyny mor flasus ag y gallasent fod. Wedi gorffen bwyta, ymgomiai pawb yn blith draphlith am wahanol faterion y He. Ond yn sydyn cyhoeddwyd gan rhywun fod yn bryd i ddechreu'r ddawns; ac ar amrantiad neid- iodd yr offerynydd ar ei draed ac i'w le, a dechreuodd ei waith yn ddiymdroi. Siom- edig iawn y teimlodd rhai, pan ddarfu i ddau bar o'r gwyddfodolion hysbysu fod yn ddrwg iawn ganddynt nas gallasent gymeryd rhan yn y ddawns, oherwydd eu bod wedi bwyta yn rhy helaeth, a'u bod yn ofni y buasai yn berygl iddynt wneyd cam a'u cyfansoddiad ond er hyny aeth pwyd ymlaen gyda'r ddawns Tua deg o'r gloch, pan oedd rhai yn dechreu teimlo'n ftinedig wrth ysgwyd cymaint ar eu traed dadganodd rhywun fod yn bryd terfynu ac fod y Chocolate yn barod, pryd yr eistedd- asant i ddisychedu eu hunain gyda'r medd blasus ac yna canasant "nos da," gan gy- flwynoeu diolchgarwch i'r penteulu, a dy- muno llawer pen-blwydd eto i Clara Elvina. Yr eiddoch,—HEN FERCH. lAi
LLONGAU.J
LLONGAU. J Mitre i'w disgwyl yn Madryn ar y i8fed cyf. am Buenos Aires. Avelleneda wedi gadael Buenos Aires ar y 15 gan alw yn San Antonio. Mendoza i adael Buenos Aires Hydref 22ain.
ATGOFION
ATGOFION Mae'n nghalon yng Nghymru Mewn ardal-fach glyd* Wrth odreu hen fynydd 0 swn y byd. Mi wela 'r hen fwthyn LIawn henaint a nam, Sydd eto n' cysgodi Fy nhad a'm Mam. 'Rwyn cofio am adeg Ym moreu fy oes Chwareuwn yn blentyn Heb deimlo croes. Yng nghwmni y defaid Ar lethrau y bryn A'r wyn wrth fy ngweled Yn 'sbio'n syn. Awn weithiau ar grwydr 1 fynny y rhiw I chwilio yn ddyfal Am nyth y dryw. Dro arall i'r goedwig Dan ganu yn lion A dringo i frigau 'r Hen goeden Onn. A rhwygo fy nillad A 'tn hwyneb yn llosg Mor dda yr wy 'n cofio:- Am faint y gosb 'Rwyn cofio peth arall Ddigwyddodd i'm rhan Pan ddwedais heb feddwl Na," wrth fy mam. A'r dagrau'n byrlymu Dros eigwelw rudd A minnau heb wybod Am ddolur cudd. 'Roedd popeth pryd hynny Yn nefoedd i gyd Heb ofid, na thristwch Na thrawster byd. 'Rwyn rhodio yn araf a distaw Yng nghwmni unigrwydd y rhos Heb neb ond y twmpath ar gracain Yng ngwyll y nos. Rwyn ceisio, ac eto yn methu Rhoi geiriau fy nghalon ar gan Doed awen i lunio 'r meddyliau A'u gwneyd ,yn dan. Nis gallaf derfynnu heb ofyn A'm calon (chwyrn guro mae hi)- Dduw Ion i ti wrando fy ngweddi A hon yw hi Hen fwthyn bach annwyl Llawn henaint a nam Par eto i gysgodi Fy nhad a'm mam. D. O. W.
Advertising
En venta solamente por C. M. C. las renombradas Maquinas de ESCRIBIR "REMINGTON." La mejor Maquina de Escribir. Pidan precios y Catalog-os: Unicos Agfentes :«C.M.C. Olew John Hopkins. Diguro at wella pob math o Friw- iau ar anifeiliaid. Ar werth yn Ystordai yr C. M. C. yn Tre- lew, Rawson a'r Gaiman.