Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
HOREB, MAESTEG. -I
HOREB, MAESTEG. I Dymunwn ddiolch yn galonnog i'r rhai ymdrechant gymaint gyda'r Sale of Work" er lleihau dyled y capel. Cynhelir yr uchod ddiwedd y flwyddyn ac ymddengys y llwydda. Y mae'r ddau ddyri ieuanc—Emlyn Llywelyn, a Trefor Jones, yn casglu'r 16 geiniog wythnosol ers misoedd lawer er lleihau'r un ddyled. Da eu gwaith a diolch iddynt. EDMYGYDD. I
YSTRAD RHONDDA.I
YSTRAD RHONDDA. I Cyfarfod Pregethu.—Cynhaliwyd ein cyfarfod pregethu haner- blynyddol, Medi 2, 3, a 4. Pregethwyd gan y Parch E. D. Thomas, Treorchy; a'r Parch D. C. Jones, Penygraig. Cawsom gynulliadau da. Yr oedd y gweision a'r gynulleidfa yn eu hwyliau goreu, a mesur helaeth o'r eneiniad ar bob cyf arfod, ac er ffarwelio am dymor ar y gweinidogion annwyl sydd wedi ymadael, cawsom brawf y bydd yr Arglwydd gyda'r gweinidogion newydd, a chyda ninnau os yn disgwyl wrtho. TRUENFRYN. I
BANGOR.I
BANGOR. I Gweinidogaecfhol.—M&e'r Parch C. North, B.A., gweinidog eglwys y Wesle- aid Seisnig wedi symud oddiyma i Gylchdaith Burnley, ac olynnir ef gan y Parch Fred Hawkinson.
CAERNARFON.I
CAERNARFON. I Gweiiiidogaothol -Mae'f Parch W. J. Baker, gweinidog y Wesleaid Seisnig, Castle Street, wedi symud i Gylchdaith Southend-on-Sea, ac olynnir ef gan y Parch S. R. Wilkin, o Ferndale.
NEW BROUGHTON. I
NEW BROUGHTON. I Yn y Seiat nos Fercber diweddaf darfu i Miss Amy Williams, ar ran bobl ieuainc yr eglwyst-gyfiwyno i'r Parch a Mrs Meirion Jones, Cake Dish hardd a chostfawr yn anrheg briodasol. Siarad- wyd gan Mri T. G. Whitley, Luther Williams, Thomas Hopwood, Edward Williams, Wm. Edwards, Thomas Moss, a Wm. Jones, yr oil yn dymuno popeth goreu y byd yma a'r nesaf i'n hannwyl weinidog a'i briod. Diolchodd Mr Jones yn wresog a theimladwy drosto ef a'i briod. T. G. W. I
O BEN Y FOEL. I
O BEN Y FOEL. I Cafodd Ysgol Sul y Tabernacl, Pen- rhyn, ddiwrnod dymunol i'w gwledd flynyddol Sadwrn, Medi 2il. Trwy garedigrwydd Mr Griffith Williams, gwahoddwyd hwy i'r Hir-ynys. Yr oedd chwiorydd yr eglwys wedi gweithio yn rbttgorol er cysur y plant, a mwynhaodd pawb eu hunain yn, rhagorol. Da yw gwneud rhywbeth i'r plant fel hyn yn awr ac eilwaith. x 1* Da gennym hysbysu fod Mr Wm. Morris wedi gwella o'i waeledd, a'i fod yn ei le y Sul diweddaf, wedi bod yn absennol yn hir. Hefyd Mr Edward Roberta, Plas, Llandeowyn, yntau wedi ei adfer wedi y ddamwain a'i cyfarfuyn ddiweddar. Cyflwynwn ei. n cydymdeimlad dwysaf a theuluoedd yn eglwys Ebenezer gyf arfu a phrofedigaethau yn ddiweddar, Mrs Captain Evans, Terrace Road, wedi colli ei chwaer, a Miss Alice Parry, Bodlondeb, wedi colli ei brawd ar faes y frwydr yn Ffrainc. Nid oes ond ych- ydig wythnosau er pan fu farw tad Miss Parry. — Gwelsom Lieut. Ben Evans yma y dyddiau diweddatfiwedi dod i aros ych- ydig at ei chwaer- Mra Owen Jones, New Street. Mae Lieut. Evans wedi ei glwyfo ar faes y frwydr, ond y mae yn graddol wella. Da oedd gennym ei weled. Hefyd, mae Sergt. Df Jones yma am dro. Un o blant ein heglwys yw ef. Mae un o blant Brontecwyn hefyd am dro yn ei hen gartref, sef Mr Morris Roberts, mab Mr W. Roberts, o Groes- newydd, a brawd i'r Parch W. A. Rob- erts, a Mr John Roberts. Nos Sul di- weddaf cafwyd ganddo ychydig eiriau pwrpasol yn y Seiat. Nos Sul, Medi 2il, pregethai Morfin yng nghapel y Bedyddwyr Ynysgalch. Clywsom iddo gael amser da.
HANLEY. I
HANLEY. I O'r Shy fel.—Drwg gennym glywed i'r brawd Joseph Griffiths gael ei glwyfo yn Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. Bu am rai dyddiau yn ysbyty Lansdowne Road, Caerdydd, ond deallwn ei fod wedi ei symud i Abertawe er mwyrr mynd dan driniaeth lawfeddygol. Hyderwn y caiff adferiad llwyr. Dyna y drydedd tfaith iddo gael ei glwyfo wedi bod yn Ffrainc er's deunaw mis, ac mewn llawer brwydrau poethaf. Diolch iddo gael ei gadw cystal. Nawdd Duw fyddo drosto eto. Mae Mr Griffiths a'i briod a'i deulu ymblith y rhai mwyaf ffyddlon a gweithgar o'n pobl.
QUEEN STREET, CAER. 1,
QUEEN STREET, CAER. 1, Sabboth, yr 2il o Fedi, cawsom y fraint o gael gwasanaeth y Parch Hugh Hughes. Yma y cychwynodd Mr Hughes ei yrfa weinidogaethol banner can' mlynedd yn ol, a naturiol pedd i bawb o honom ddisgwyl am rhywbeth arbennig yn nathliad el J ubili: ac ni chafodd neb ei siomi: pregethodd mor rymus y bore a'r hwyr ac erioed-yn fawreddog, eto yn syml a dealladwy. It takes us all learning," medd un, to preach simple." Y mae Mr Hughes wedi llwyddo yn hyn. Yn y prydnawn cawsom anerchiad ar ei deithiau. Yn absenoldeb Mrs Harding, fe gymerodd MrsH. L. Jones y gadair: dywedodd fod ganddo atgofion melus am ami i odfa rymus. Nid oedd yn. gallu mynd mor bell yn ol a Mrs Harding, Mrs Lloyd, a brawd Mr John Evans, yr unig dri sydd yd aros heddyw oedd yn aelod- au hanner canrif yn ol. -Cawsom air hefyd gan Mr John Evans am ami i ddigwyddiad dyddorus ynghorff yr amser. Yna cawsom air cynnes, dydd- orol a byw iawn gan Mr Hughes. Can- odd Miss Maggie Jones y solo bwrpasol o Oratorio St. Paul's- The Lord is mindful of his people." J.J.
LL ANDILO. f i
LL ANDILO. f i Y mae Pte Willie Hopkins, sydd yn y fyddin yn, Ffrainc, wedi cyflawni gwrhydri yn ddiweddar. Yr oedd un 0 i gyd-filwyr wedi ei saethu yn y Trenches. Aeth ef ac eraill, drwy y peryglon i gyd i'w gyrehu, a llwyddwyd. Derbyniodd Military Medal am ei wrol- deb. Y mae Willie, a'i rieni yn aelody- au gyda ni yn St. Paul. Ymwelodd Col. Spencer Watkins, un o'r Capleniaid pennaf y Fyddin, ac aelod o'r Cant Cyfreithiol" a'r lie hwn. Galwodd i weled teulu y gweinidog. Rhoddai ganmoliaeth uchel i'r Caplan Peter Jones Roberts. Da gennym ei weled ef a'i briod, a chael ymgom gyda hwy. Caffaeliad yw cael dyn o ysbryd Mr Watkins, a'i ddelfrydau mor uchel i weithio ymhlith y milwyr Wesleaidd, ac eraill.
(PENMACHNO.I
(PENMACHNO. Llwyddiant.—Da gennyf enwi nifer o blant Bethania enillasant ysgbloriaeth eleni yn yr Ysgol Sirol, sef Eiric Jones, Ty'nyfron; Gwennie Jones, Dolydd; Evan Owen Roberts, Machno Stores, ac Enid Davies, Frondeg. Yr ysgolfeistr fu yn eu parotoi at hyn ydyw Mr W. E. Jones, Post Office, dyn ieuanc abl i waith omd llawer rhy enciliedig., Un arall Iwyddodd i fyned drwy Arholiad y Senior Welsh Board ydyw John Ellis Williams, Commerce House. Pan y meddylir nad yw ond 15 oed mae ei lafur a'i lwyddiant yn ymdrech gan- moladwy. i I
Advertising
Yr Epistol at y Philipiaid. ESBONIAD DIGURO. E SBONIAD diguro ar yr Epistol — at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du- j dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i'r Parch. EDWIN JONES, Barmouth. r INDIVIDUAL COMMUNION CUPS. FOR LISTS OF Patent "Ideal" Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the Makers- Townshends, Ltd., Birmingham. Popular Central London Hotels Opposite the BRITISH MUSEUM. THACKERAY HOTEL Great Russell Street, London. I Near the BRITISH MUSEUM r KINQSLEY HOTEL Hart St., Bloomsbury Sq., London THESE Large and Well-appointed TEMPER- ANCE HOTELS have Passenger Lifts. Bath- rooms on every Floor, Lounges and spac- ious Dining, Drawing, Writing, Reading, Billiard and Smoking Rooms. Fireproof Floors. Perfect Sanitation, Telephones, Night Porters. Bedroom, Breakfast, Bath, and Attendance 6/6 per night per person. Full Tariff and Testimonials on application. TELEGRAl HIC ADDRESSES Kingbley Hotel: Bookcraft, London." Thackeray Hotel: Thackeray, London." Tel., K. Museum 1232. T. Museum 1230 COFIANT A PREGETHAU Y PARCH. EDWARD HUMPHREYS Gany Parch. EDWARD DAVIES. Mewn Llian hardd, yn cynnwys darluniau rhagorol o Mr. a Mrs. Humphreys. Pris 3/ Post Free. "The work is well done. In my opinion the best Chapter is No. XII.—" Y Dyn a'r Cristion," and that is a triumph for an estimate of a personality is always more difficult than a narrative of events."—Rev. H. MALDWYN HUGHES, D.D. "Amhosibl ei ddarllen yn ystyriol heb deimlo ysbrydiaeth i ddaioni, ac awyrgylch ysbrydol a nefol yn cau amdanom.PEDROG. Mae arddull y llyfr yn ddengar a gorffenedig. Adlewyrcha glod ar y Gwrth- ddrych a'r Cofiannydd.Rev. T. J. PRITCHARD. Ysgrifenna'r Awdur mewn modd rhugl ac effeithiol, ac y mae rhai rhannau o'i waith yn gain a bywiol odiaeth."—Rev. TECWYN EVANS, B.A. Telerau Arferol i'r Dosbarthwyr. » Archebion i'w hanfon i'r Awdur- 53, BERKLEY STREET, LIVERPOOL. Arweinydd Cymanfaoedd, Beirniad ac Arholydd. Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. Mr. TOM CARRINGTON I (PENCERDD OWVNFRVN), I (Cymrodor o Goleg y T.S.C., Llundain). COEDPOETH, I WREXHAM. J. Cyhoeddwr "Seren Bethlehem" (Cynogfab Concwe.st Calfari," S.F. ic. H.N. 3c. Anthemau'r Dydd Gymanfaoedd. PESC. Hugh Davies's COUGH MIXTURE. Y Feddyginiaeth Fawr Gymreig. AT BESWCH—Cymerwch Davies's Cough Mixture.' AT ANWYD-Cymerwch Davies's Cough Mixture." AT DDIFFYG ANADL-Cymerwcl, Davies's Cough Mixture AT GRYGNI—Cymerwch "Davies's Cough Mixture" r Rhyddha y Phlegm, llacia'r Frest, clirio y llais. Anmhrisiadwy at y Pas ar Blant, Bronchitis, &c. [ I Mewn potelau I/lil 2/9 4/6—gan bob Druggist. Perchenog-HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SYLWCH.—1. Y mae ei flas yn ddymunol. 2. Y mae plant yn hoff ohonno. 3 Y mae yn cynhesu y frest. 4. Gellir ei gael ymhob ardal. S. Y mae y prif bregeth- wyr a chantorion yn ei ddefnyddio. 6. Gall fynd allan fel arfer tra yn ei gymeryd "SARZINE" BLQOD MIXTURE. GROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines; ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurfy doluriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynwch botelaido i" Sarzine Blood Mixture," gan y Druggist nesaf atoch, lflt a 2/6 y botel, neu gyda 3c' at y cludrad yn ychwanegol, oddiwrth.y Perchenog, HUGH DATIES, Chemist, Machynlleth. "MOLRAT" AT LADD TYRCHOD. Yggrifenna John Pryse, Maesymeirch Blinid ni acw gan Dyrchod; cynyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y t:r a golwg difnfol arno, ac yr oodd arllaf gywilydd o hono, ond clywais fod Mr Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth £ sv lladd yn ddidrafferth iawn.—Ei enw ydyw Molrat," mewn packets 1/6 yr un. Pryjja^s backet, a rhoddais ef yn ol y cyfarwyddyd am ben pryfaid genwair, a rhoddais y rhai hynny yn llwybr y Twrch. Ni chododd y twrch mwy."
HOREB, MANCHESTER.
(Parhad o tudalen 2). J. Ellis Williams. Cyfarfodydd da ar hyd y dydd. Bu Mr a Mrs William Jones yn garedig, yn ol eu harfer, yn rboddi te yn rhad i'r cantorion ac eraill ar derfyn gwasanaeth y prydnawn. Nos Lun dilynol caed Social Tea, a gwerthu y ffrwythau, &c., a throdd popeth allan yn llwyddiant. Yr oedd y casgliadau yn foddhaol, a'r cynulliadau yn dda. J.E. LISTER. I