Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFODYDD YMMIOL.
CYFARFODYDD YMMIOL. HOREB, YSTRAD RHONDDA. Cyfarfod Ymadawol.-Cynhaliwyd hwn nos Fercher, Awst 30ain, i ddym- uno yn dda ac i anrhegu y Parch A. C. Pearce a'r teulu ar eu hymadawiad o'n plith. Llywyddwyd gan Mr D. J. Davies, Horeb- Dechreuwyd trwy fawl a gweddi. Cafwyd crynhodeb o waith a ffyddlondeb y Parch A. C. a Mrs Pearce, a Miss Evans, ynghyd a'i teim- ladau da a'i cyfeillgarwch yn ystod y tair blynedd. Ategwyd bynny yn fanwl a chynnes gan Mri W. Davies, a J. Oliver, dau o flaenoriaid Eglwys Horeb. Yna cafwyd anerchiad gan Mr Thomas Lewis i gynrychioli eglwys Caersalem, Ton Pentre, ac anerchiad gan y Parch T. D. Jones (A.), i gynrychioli gweinid- ogion gwahanol enwadau y lie, a gair cynnes gan y Cynghorwr Thomas i gynrychioli y gymdogaeth. Cafwyd gair gan y Parch John J. Thomas, Ton (M.C.), Llywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Rhoddodd Mr Thomas gymerad wyaeth uchel i Mr Pearce fel swyddog o'r Cyngor, ac ategwyd ef gan Mr Millward, cyfreithiwr y Cyngor, a chan y Parch M. H. Jones, Jerusalem, Ton, a'r Parch O. Davies, Bethesda, Ton Pentre. Cyflwynwyd Dinner Set gan Mr John Oliver, dros yr eglwys yn Horeb, yn rhodd i Mr a Mrs Pearce. Deallwn eu bod hefyd wedi derbyn amryw roddion personol eraill, a'r oil yn gydnabydd- iaeth o'n llafur cariad, a'r serch a'r cyf- eillgarwch a deimlir tuagatynt gan y frawdoliaeth yn Horeb Diolchodd Mrs Pearce a Mr Pearce yn gynnes i bawb. .I TUENFRYN. I
.PEN-Y-BRYN, MWNGLAWDD. I
PEN-Y-BRYN, MWNGLAWDD. I Nos Fercher, Awst 30ain, cynhal iwyd cyfarfod ymadawol y Parch J. R. Roberts, dan lywyddiaeth Mr W. Carrington Jones, un o oructu wylwyr y gylchdaith. Darllen= nodd Mr S. C. Hughes, Brymbo, lythyrau oddiwrth y Parch Phillip Price, Arolygwr; Mr W. Caenog Jones, Mr O. C. Evans, a'r Parch H; Meirion Davies, yn difltgan eu hanallu i fod yn bresennol. Caed gair gan- Mr James Williams, Wrexham, ar ran y pregethwyr cynorthwyol. Yna siaradwyd gan Mr Simon Hughes, Brymbo Elias Roberts, Penybryn, John earring ton, Gwynfryn; S. C. Hughes, Brymbo; Joseph Edwards, Bwlch gwyn; Thomas Ffoulkes, New Brighton; Parch Chas. Jones,-ar ran y gweinidogion, a Tom Carr ington, Coedpoeth, yr oil yn dwyn tystiolaeth uchel i Mr a Mrs Roberts, ac yn gofidio oherwydd eu symudiad mor fuan, ac yn dymuno pob llwyddiant a bendith iddynt yn eu cylchdaith newydd. Datganodd Mr Roberts ei ddiolch- garwch i ba w b am y caredigrwydd a dderbyniodd ef a'i deulu, gan ddymuno iddynt ddangos ycyfryw garedigrwydd i'w olynydd. Miss Carrington, Gwynfryn, oedd yn gwasanaethu gyda'r ofieryn. J. E. E.
IBATHAFARN, RUTHYN. I
I BATHAFARN, RUTHYN. I Nos SuI; Awst 27ain, pregethodd y Paich W. S. Williams ei bregeth N ymadawol i gynhulleidfa gryno, a chawsom bregeth effeithiol ac eglur. Diolchodd i'r eglwys am y gefnogaeth yn ystod ei dymor i gario'r gwaith da ymlaen. Nos Fercher dilynol i anrhegu Mr a Mrs Williams, ar ran y gylch- daith, ar eu hymadawiad, daeth nifer luosog ynghyd. Llywydd- wyd yn ddeheuig gan Mr Jones, Ship Stores. Galwodd ar Mrs Williams, Bee Hive, ymlaen i gyf Iwyno yr anrhegion. Gwnaeth Mrs Williams y gwaith yn ddeheu- ig. Yr anrhegion i Mr Wil- liams oedd Silver Match Box; i Mrs Williams, Silver Egg Stand. Diolchodd y ddau i'r cyfeillion—yr oeddynt yn gwir edmygu y cared- igrwydd. Siaradodd amryw, a phawb yn dymuno yn dda i'r teulu gyda hyder gref y cawn eu gweled eto yn ein plith. Drwg gennym glywed fod Mrs Williams yn wael, ar ol cyrraedd ei chartref newydd. Yr ydym a'n holl galon yn dymuno adferiad buan iddi. Ni fu neb yn fwy defnyddiol na Mrs Williams pan yn ein plitli, bob amser yn barod i wneud yr hyn oedd yn ei gallu. J. D. I
TREHERBERT. I
TREHERBERT. Nos Fawrth, Awst 29, cynhal iwyd cyfarfod ffarwelio ac anrhegu y Parch Evan Isaac ar ei ymadaw- iad o'r Gylchdaith. Llywyddwyd gan Mr Evan Davies, Brynawel; a siaradwyd gan Mri R. Jones, John Pugh, W. Hughes, T. D. Edwards, Treorci; Hugh Hughes, L.R.A.M. Yr oedd yr oil yn talu teyrnged uchel iawn i Mr Isaac fel dyn, cyf- aill, Cristion, pregethwr, a gweini- dog. Cyfeiriasant at ei ymroad gyda glanhau ac adgyweirio y capel, a'i ffyddlondeb arbennig ynglyn a ,Chymdeithas y Bobl Ieuanc. Cafwyd gair gan y Parch S Jones, Bethany, gweinidog y Bedyddwyr Seisneg. Cafwyd gan- ddo anerchiad byw, ag yn llawn tan, ag yn teimlo yn neilltuol wrth feddwl ei fod yn colli cyfaill fel Mr Isaac o'r cylch, a therfynodd Mr Jones ei anerchiad gan ddymuno iddo fendithion goreu nef a daear yn ei gylchdaith newydd. Cyflwynwyd Awrlais gan Mrs E. Davies, Brynawel, ar ran yr eglwys gydag anerchiad byr ag i'r pwrpas, gan ddymuno Duw yn rhwydd iddo yn ei faes newydd. Canwyd yn swynol gan Mrs J. Lewis ac Emily Parry. Diolch- odd Mr Isaac i'r eglwys am y rhodd werthfawr hon, ag 'roedd yn amlwg ei fod yn teimlo yn anodd ymadael o le yr oedd wedi cael mor ychydig o drafferth gyda phobl ei ofal. Fel y canlyn y canodd Mis J. T. Edwards ar yr achlysur Yr ydym wedi cwrdd Ynghyd i roi anrhegiad, I un ar fynd i ffwrdd, Fu yma'n llawn ymroddiad A Splendid Marble Clock A roddir iddo heno, Yn arwydd o'r gwir barch Sydd gennym tuagat ato. Mae iddo wyneb hardd, Yn debyg i'r pregethwr, Mae hwnnw fel pob bardd Yn ychydig iawn o garwr Feallai daw cyn hir Ryw eneth i'w gyfarfod, A chylJ ei ben yn glir, A phriodi fydd yn gorfod. Yr awrlais fydd o hyd, Yn amlwg yn ei 'stafell, Yn cadw cwmni'r gwr, Tra bydd yn ei fyfyrgell; A phan y tery'r awr, Bydd hynny lloni'i galon, A dwyn o hyd i'w gof, Serchogrwydd pobl Saron. Boed iddo lwyddiant mawr, Yn dilyn trwy'r blynyddau, A thy, a than, a gwraig, I Fo eto'n rhan o'i deithiau Daioni fo'n ystor, Cyn iddo fynd i'w dynged, When time will be no more, And Clocks will not be needed. BRWYNOGYDD. I
COLWYN. I
COLWYN. I Erbyn hyn y mae ein hen wein- idog, y Parch W. Ph. Roberts a'i briod wedi ein gadael. Bu yn weinidog da i Iesu Grist mewn gair a gweithred tra yn eiif plith, a bydd atgofion melus am ei ddifrif- oldeb a'i eiddigedd mawr dros yr Efengyl, ie, a'i ofal dros y plant a'r bobl ieuanc a'i ffyddlondeb i bob rhan o'r gwaith. Bu Mrs Roberts yn hynod ddefnyddiol a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol a gyda'r Band of Hope," ag yn help mawr gyda'r canu ymhob gwasanaeth. Y mae ein gweipidog newydd, y Parch R. Morton Roberts a'r teulu wedi cyrraedd, da gennym weled Mr Roberts yn -edrych cystal, a deall ei fod yn gwella. Gobeith- iwn y bydd y newid yn adgyfneAh- iad iechyd iddo yn fuan.
TIRYDAIL. I
TIRYDAIL. Ymadawodd y Parch J. Hopkin Morgan, a'i deulu o Tirydail, am Caersws. Chwith fydd y lie hebddo. Bu yn weithgar gyda phob rhan o'r achos yn ystod dwy flynedd ei aro§iad yn y lie. Yr oedd yn frawd cymeradwy gan bob enwad yn ogystal a chan ei enwad ef ei hun. Bu yn gyfrwng sefydliad Cyfarfod Gweinidogion yn y cylch —cyfarfod all brofi o fendith i'r Gweinidogion a'r Eglwysi yn y dyfodol. Mae y Parch a Mrs H. R, Owen, wedi cyrraedd, a rhoddwyd croesaw unol a chalonog iddynt drwy gynnal Social a Chyfarfod. Diameu y ceir hanes y cyfryw yn y Gwyl- iedydd Newydd."
PENYGRAIG.II
PENYGRAIG. Yn ol y drefn ymadawodd ein hannwyl weinidog a'i deulu am Bwlchgwyn, Cylchdaith Coed- poeth, a hynny ar ol treulio tair blynedd dedwydd a llwyddiannus jyn ein plith. Yr oedd y teulu wedi myned yn ddwfn iawn i serch yr eglwys, a chwith oedd gennym eu colli. Fel pregethwr yr oedd Mr Turner bob amser yn sylweddol, ac yn drefnus gyda ei faterion, ac yn hynod gymeradwy yn holl eglwysi y Gylchdaith. Cawsom oreu Mr a Mrs Turner hefyd gydag amgvtch- iadau yr eglwys. Trefnwyd Baz aar, nid oedd yr eglwys wedi cael profiad o Bazaar, bu eu cyfarwydd- yd a'u gyngor, a'u gwelediad craff yn fantais neilltuol. Bu Mrs Turner yn neilltuol o ffyddlon a gweithgar yn casglu arian o dy i dy, ac o Gylchdaith i Gylchdaith, mewn amser ac allan o amser, ac ar rai adegau pan y dylasai beidio; nis gallwn anghofio ei gwaith a'i llafurus gariad. Llwyddasom drwy undeb a cydweithrediad i godi yn ymyl C250, swm sylweddol iawn, ac y mae -gennym bob lie i gredu onibai am y rhyfel ofnadwy, y gallasem gyfrif yn rhwydd. Cyn iddynt ein gadael cafwyd te a chyfarfod ymadawol yn yr hwyr, Llywydd, Mr Richard Owen. Siaradwyd gan Mr Robert Lloyd, Mr John Hughes, Mrs Evan Davies, Treherbert, a'r Ysgrifennydd Hefyd cyflwynwyd yr anrheg Set of Silver Tea Service i Mrs Turner, gan Mr Richard Hughes mewn modd doeth a phwrpasol, a cheque i Mr Turner. Derbyniwyd y rhodd- ion gyda diolchgarwch gan Mr Turner, mewn anerchiad doeth a chryno iawn. Hefyd cyflwynwyd yn y cyfarfod medal hardd i Corris- wen Lloyd, merch fechan Mr a Mrs Turner am gasglu swm sylwedd o arian at y Genhadaeth Gartrefol. Y mae olynydd Mr Turner—Mr Creigfryn Jones a'i denlu wedi cyrraedd, a chawsom gyfeillach ragorol nos Iau. Edrychwn ymlaen yn obeithiol. I D. H.I. I
[No title]
Er fod pris esgidiau dynion, merched, a phlant wedi codi o 50 i 90 neu 100 y cant yn ystod y rhyfel, nid ydym eto wedi cyrraedd y ffigiwr terfynol," meddai mas- nachwr esgidiau wrth ohebydd, y dydd o'r blaen. Y mae popeth yn arwyddo y parha'r prisiau i godi. Yn y rhanbarthau tlotaf gwneir mwy o ddefnydd o'r glocsen swnfawr, ac amlwg y bydd wedi cymeryd lie yr esgid yn fuan iawn. Y mae gwneuthurwyr y clocsiau yn disgwyl y gwneir defnydd llawer mwy o'r clocsiau yn her- wydd fod y Llywodraeth wedi penderfynu meddiannu rhagor o'r lledr. Dywedant fod hyn yn golygu y bydd yr esgidiau yn llawer drutach. Gan eu bod 3ip rhag-dybied y bydd rhuthro ac y clocsiau yn y man, y mae ffatrioedd lledr, ac esgidiau yn cael eu troi yn ffatrioedd clocsiau.
Advertising
ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: T. F. ROBERTS, M.A., Ll.D. DECHREUA'R Tymor nesaf ar ddydd* DMawrth, Hydref 4ydd, 1916. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (am- ryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 19eg o fis Medi, 1916. Am fanylion pellach, ymofyner å- J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. BRIGHTEN YOUR HOME BY GETTING YOUR Electroplated Articles Silver plated as new at small cost. Write for Free Price List to- TOWNSHENDS LIMITED, Ernest Street, Birmingham. > RHIWMATIC ANHWYLDEB Y KIDNEY. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o been yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd He'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt-meddygin- iaeth onest am brisgonest—1/3 y blwch o 40 dabledi, neu chwe blychiad am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhobman, neu'n rhad trwy'r post, am y prisiau hyn oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. MERCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff eu bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrth- wyneb y mae i'w briodoli i'r elwod (kid- neys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu llwyr adferu! 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddwch a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn dibyn- nu yn hollol ar ei hiechyd. Fflint Agent, Walter Topping, Pharma- cist. ARGRAFFU! ARGRAFFU!! ARGRAPPYDD y GWYLIEDYDD NEWYDD," Y mae y Swyddfa yn cynwys y Peirianau a'r Llythyrenau diwedd- araf-a i oil yn new/dd. Dymuna ddiolch am yr Archeb- ion y mae wedi ei gael drwy y Post, pa rai a roddodd lwyr fodd- onrwydd yn ol y tystiolaethau a dderbyniodd. Argreffir Adroddiadau Eglwysig, Liyfrau Solfa, Balance Sheets, Posters-unrhyw faintioh, Tocynau Darlithoedd, „ Cyngherddau, &a Ymofyner api Estimates a LEWIS DAVIES, "Gwyliedydd Newydd" Office, Blaenau Ffestiniog,