Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y Gwersylloedd yn Symud.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Gwersylloedd yn Symud. CYNIIADLEDI) Y CVMRY YN ABER TAWE. Y r oeddwn yehydig ar ol yr amser yn cyrraedd t'r Guild Hall prynhawn Sadwrn, Ionawr 31am, lie yr oedd cynrychiohvyr o Gymdeithasau C'ym- reig Gorllewin Morgannwg wedi cwrdd. Wedi myned i'r euadd deall- ais mai vn Llys y Troseddwyr yr oedd v Cvmn:, a daeth rhyw ias oer drosof. Cofiais am "Y Sesiwn yng Nghymru" a ehvmvsgla'r ieithocdd a ddesgrifid yn yr hen gan, am y cannwri wnaed a'r Gymraeg yn y llvsoedd hyn ac a'r Cvmry o'i phlegid. Pan wthiais y drws yn gil-agor ac edrych i fewn, llonnwyd fv vsbryd yn ddirfawr. Nid ar eu prawf fel trosedd- wyr yr ocdd y Cymry na'r Gymraeg yma. Hwy yn hytrach oedd yn barnu, neu o lciaf yn dweyd eu barn groew am leiddiaid eu hiaith a brad- wyr eu eenedl. Teimlem yn sicr hefyd fod llawer wedi eu eodemnio a'u "gyrru i lawr o'r llys hWI1 am lai pechod na lladd iaith a bradychu buddiannau goreu gwlad. Ar y fainc dydd Sadwrn yr oedd y Cymro pybyr a'r cyfaill hoffus, Mr John Meredydd, o Dreforis; Maer Aber Tawc, sef yr Henadur T. T. Corker, ar y dde iddo, a Mr Morlais Samuel ar ei aswy. Ceisiasid gall Mr John Meredydd i lywyddu y gweith- rediadau arweiniol. Cafwvd annerch- iad ealonogol iawn gan y Maer. Dech- reuodd yn Gymraeg, iaith a wyr yn dda, ond nad vw n gvnhefin a siarad yn gyhoeddus ynddi, a bu raid iddol droi i'r Saesneg. Gwerthfawr i'r mudiad hwn mewn tref fel Aber Tawe yw cael bendith gwr fel efe wrth gychwyn. Yna awd ymlaen yn 01 y rhaglen. Etholwyd y rhai a ganlyn yn swydd- ogion i'r Undeb :—Llywydd, Abra- ham H. Thomas, Ysw., Llansamlet; ysgrifennydd, Mr Morlais Samuel, Aber Tawe; trysorydd, Mr John Meredydd, Treforis. Cymcrodd Llywydd yr Undeb yn awr at y gwaith. Mewn annerehiad byw rhoddodd engreifftiau doniol o'r modd y masnachai ef yn Gymraeg pan oedd mewn cvsylltiad a gwaith glo. Gwnai ef ac eraill gryn fasnach a'u gilydd, trwy rigymau. Addawodd anion y rhai hyn i'r swvddfa. Trefnwyd fod y gwahanol gym- deithasau i anfon eu tanysgriliad at yr Undeb i ysgrifennydd yr adran, sef Mr Morlais Samuel, ac yntau i'w gyrru i'r Undeb. Dcwiswyd y rhai canlynol i gynyrchioli'r adran ar bwyilgor gweithiol yr Undeb Mr Lewis Davies, Cymer; Mr R. R. Griffiths, Gowerton; Mr John Mere- dydd, Treforis; Mr Phillip Thomas, l ffaste.11 Nedd, ac Castell Nedd, ynghyda Llywydd ac Ysgrifenydd yr Adran. 0 hvn i'r diwedd cafwyd rhydd- ymddiddan diddorol a brwd ar waith ac amcanion yr Undeb. Dr Morgan, o Bontardulais, a resynai cm bod wedi bod mor wasaidd i'r Sais. Eistedd- asai efe wrth draed yr enwog Michael D. Jones, gwr a wnai bopeth yn Gym- raeg, a hyd yn oed yn ei wisg o ddef- nydd a gwneuthuriad Cymreig. Taflai y gwr mawr hwnnw wefr Gymreig i bawb o'i gwmpas. Edrychai ar y symudiad presennol fel deffroad ys- bryd y tadau. Diddorol i rai gwynant fod yn anodd dysgu Cymraeg i blant yw yr hanesyn canlynol a adroddodd Dr Morgan Pan yn yr America yn Nhalaeth Utica galwodd gydag amaethw r, Cymro a anesid vn v wlad honno. Priodasai hwn wraig nas medrai yngan sill o Gymraeg, eto dygodd i fyny ddeg o blant yn medru'r Gymraeg bob un, a dengys hyn," meddai, "beth all ffyddlondeb wneud." Y Parch. D. M. Davies, Y\ aunar- lwydd, a bwysleisiai y pwvsigrwydd 0 arfer y Gymraeg ar yr aelwvd, am mai iaith yr aelwyd a benderfyna iaith V genedl. Mr Lovatt Owen, un o Wdon N ewvdd Aber Tawe a anogai Wncud arferiad O' ddarllen Cymracg gartre. Ar yr actwvd v caw- si yntau ei ysbrydiaeth "Gy"mreig. (-'re(fai clN"Iesi d g°falu ,? lenv«: ueth rCi\M. nreig fyw ?l ,??,? i hbnt pethau } byddai'r plant yn siwr o' darllen. Dcwi Samlet oedd vn frwd- Irydig dros buro'r Gymraeg arfer- edig, yn arbennig yn v pwlpud. Yr oedd y gwcimdogion yn bechaduriaid mwy na r cyffredin. Carai weled dysgub pob bratiaith o'r tir. Gvda hyn dyma'r Parch. R. Davies Pontardulais, ar ei draed, ac er mwyn profocio tipyn ar Gymro mor seloo- yn dweyd nad oedd dysgub yn air o gwhI. Ond nid oedd raid i Dewi ymostwng rFeI y gwnaeth a rhoi sgubo yn lIe dysgub. Y mae dysgub yn arferedig yn y De ac yn Gymraeg da, goeliaf fi a bydded R.W. yn siwrach o'i fater y tro nesaf. Galwodd Mr Thomas Hughes, I-lansarnlet, y cyfarfod i dipyn o drefn drwy cin hadgofio mae'r ffordd i "?' adran hon yn ?i ? fy?'? (d au sylw. Awgrymai ef gael y J j y- cymdeit&sau, a rWii f*' y cymdeithasau, nS'rPlanVVCithiaU °laS" ?ol vnf!n a mvfyrear ac yna rvdrl a'sfd ar h> n a ddarllen- C Cafdd y ewestiwn 0 adfer enwau Cvmr idfer cii,,N-au C3'mreig ar leoedd svlw amrvw o'r i, ? .??ymid ceisio dvlanwadu ar gwmniau ?rdd haearn -vnglyn ar m Y 1,vwydd a gyn- g 10ral welthlo Shorai weithio yn Y r:adhwn ?tau ys'trocrl y????? ?,? y ?Conodd yn- stori eto am ri^ ? tau °r'ym-vnasai garreg ar fcdd ), orc?) mynasal .??'-eg ar fedd 0: w??r.?'? a'r argraff arni'n Saesncg. Pan aeth i'r lynwent methodd a chad hyd i'r bedd am nas gallai ddarllen Saesneg ei hun. Symudwyd oddiwrth hyn eto at y Gymraeg yn yr ysgolion, a dywedai'r Parch. J. E. Rees (Ap Nathan), Port Talbot, iddo glywed gencth yn ameu gwerth y Gymraeg am iddi glywed ei hathrawes pan yn gorfod troi at y wers Gymraeg yn dweyd yng nghlyw'r plant, "Bother the Welsh lesson." Effaith ddifrifol oedd gan hyn ar y plant ac ni ddylesid ei oddef. Dygodd Ap Nathan dystiolaeth uchel i lafur gwerthfawr Mr Lewis Davies, Cymer, ynglyn a dysgu Cymraeg yn yr ysgolion. Y mae mewn dosbarth gydag ef ferched o Loegr wedi dysgu'r Gymraeg ac yn astudio'r cynghanedd- ion. (Gyda llaw a wna'r rhai sy'n darllen ysgrifau Mr Lewis Davies yn y "Darian cu cymeradwvo i eraill.) Gwyddai hefyd am Gymraes fechan aeth i ysbyty lie nad oedd neb fedrai siarad gair o Gymraeg a hi Yr oedd gormod o duedd i addoli'r 110 aur ynglyn a'n Heisteddfodau trwy roi'r vswain dimai yn llywydd er mwvn ei arian, a hwnnw'n ddigon digwilydd i gyhoeddi ar lwyfan-" Ia fi dim gwpod llawar am Cwmbrag, ond ma fi rhoi gini Dylesid adfer y delyn, y ddrama, a phethau eraill i feithrin brwdfrydedd. Mr Isaac Lewis Davies, o Ysgol v Bechgyn, Pontardulais, a gyfeiriai at y cyfnewidiad gymerasai le yn yr ysgolion ynglyn a'r Gymraeg. Yn bresennol yr oedd y Gymraeg yn cael chwareu teg mcwn cannoedd o ys- golion. Gwyddai hefyd fod cannoedd o ysgolion lie nad oedd yn cael chwar- eu teg. Yr oedd gydag yntau Saeson bychain yn yr ysgol, a synnai fel yr oeddynt yn mwynhau'r wers Gym- raeg; yr oedd yr athro, y disgyblion, a phawb yn ei hoiTi. Mr Seth P. Jones, Penyclawdd, a gwynai fod yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dorri gwaith allan i'r disgybl-athrawon yn afresymol. Pa reswm oedd dechreu gyda'r Mabinog- ion, y Bardd Cwsg, a llyfrau felly. Dylesid dechreu gyda iaith heddyw a mynd yn ol, yn hytrach na thorri calon rhai gaient fn-fyrio'r Civnirte, ar y dechreu. Hvderai yr arferai Vn- deb y Cymdeithasau ei ddylanwad i gael diwygiad yn hyn. Mr John Meredydd a geisiai ffordd i gyrraedd y bobl yr achwynid ar- nynt. Un ffordd oedd cael cvsondeb mwy yng ngwyr y llwyfannau. Yr oedd gennym ormod o ddynion yn camol Cymraeg ar v llwvl'an, ac vn ei bradychu ymhob lie arall. DN-lasai pob un o honom ei wneud yn fater o gydwybod i geisio diwygio } rhai hyn neu eu dinoethi. Awgrymai hefyd wneud ymdrech arbennig i rwvstro Seisnigeiddio dosbarthiadau yn yr Ysgol Sul a gyrru cais at swyddogion y r eg l %?y,-4 i a?r vs yr eglwysi- a-r vsgoikm- yngfyiv a'r mater. Dylasai rhieni hefyd ofalu prynu cyfnodolion a newyddiaduron Cymraeg i'w rhoddi yn nwylaw'r plant. Awgrymai hefyd gyflwyno i ystyriaeth Gynhadlcdd Pontypridd v priodoldeb o gychwyn cvliKxlolvn at wasanaeth yr Undeb. Nid oedd pawb "•n unfarn ag ef ar y mater olaf. Ofnai rhai y milwriai cyfnodolyn newydd yn erbyn llwyddiant rhai a wasanaethent eu cenhedlaeth yn dda eisioes. Cynhygiodd y Parch. D. M. Davies, Waunarlwydd, y penderfyniad a gan- lyn, a derbyniwyd ef Ein bod yn gofyn i ysgrifennydd yr Adran anfon at ysgrifennyddion yr eglwysi Cym- raeg sydd yn yr Adran i geisio gan- ddynt adgofio pcnnau teulllocdd o'r pwysigrwvdd o arfer y Gymraeg yn eu hymddiddanion ar yr aelwyd ac ar yr heol, ac at athrawon ysgolion el- fennol a chanolradd i geisio ganddynt roddi ei lie iddi yn ymddiddanion yr ysgol. Mynegodd y Parch. R. Davies freuddwyd a thipyn o ncwydd-deb ynddo. Awgrymai gael efelvchiad o Santa Clos y Nadolig ynglyn a Gwyl Z, n a G,,N- Y I Dewi, er mwyn gwneud prif wyl y Cymru yn boblogaidd ymhlith v plant. Yn sicr y mae rhywbeth yn v breudd- wyd, a hyderwn y gwneir sylw pell- ach o hono, ac y gwciir anrhegion Gwyl Dewi i'r plant yn boblogaidd. Cynghorai Mr Davies bobl Aber Tawe i ofalu am gartref yn arbennig. Yr oedd ganddynt waith mawr i wneud eu tref yn deilwng o'i safie fel prif dref y Cymry. Anghotiasai ef ei gerdyn, a 13ai raid iddo holi lie cynhelid cyfarfod y Cvmrodorion. Atebwyd ef gan un o .swyddogion y llythyrdy "Mv dear sir, we have ne\ er heard of such a name in Swansea." Mater arall gafodd sylw oedd y priodoldeb o gael Sabath Cymreig, a theimlem fod rhai vn rhv ofnus gy-da'r mater hwn, ac yn am- lygu gormod n duedd i gyfyngu'r Sabath i'r Iddewon. Galwodd Mr J. Hanbury, Cwm- afon, sylw at y mater o gychwyn cymdeithasau ncwyddion, a dilynwyd ef gan Mr J. T. Morgon, Pontycymer, a Mr D. Spurrell Davies. Penderfyn- wyd fod pob cymdeithas i ofalu am sefydlu cymdeithasau newyddion yn ei chyIch 'ei hun. Penderfvnwyd hefyd gynnal cynhadledd vii Aber Tawe bob tri mis. Cafwvd cvnhadledd frwd- frydig, a wnai i ni dcimlo fod gwerin em gwlad yn deffro ac yn symud. Nid teg fyddai i ni derfynu heb dalu teyrnged i'r TJyfrgellydd enwog o Aber Tawe, Mr D. Rhys Phillips. Gwnaeth ef fwy na neb yn y gynhad- ledd, a siaradodd lai. Yr oedd yn llygad ac yn glustiau i gyd, ac yn barod i gyfarwyddo pawb. Y mae Cymry'r cylch yn meddwl yn uchel o hono. Yr oedd yn y gynhadledd gynrychiolwyr o cynbelled a Phonytcymer ar un tu a Phontardulais ar y llall. \ecll L)ic Sioii Dafyddion i'r gwaradwydd a haeddant a'u gyrru i lawr i dudalennau hanes fel bradwyr a lleiddiaid cenedl, acth y Cymry allan o lys y troseddwyr i fwyn- hau te a ddarparasai Maer y DreI iddynt mewn y>tafell arall. Yr oedd yn ddrwg gennym nas gallem o her- wydd amgylchiadau fynd i gyfarfod yr I hwyr yn y Llyfrgell Rydd.—J.T.J. I —rrr

I.I IGohebiaeth. ;

[No title]

Sefydlu Gweinidog Bethel,…

IPant y Coblyn. I

Ymddiheuriad.t

Advertising